Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Nôs o Hâf

Oddi ar Wicidestun
Dramodydd a Nofelydd Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Yr Haf-I

XXXI. NOS O HAF
['Summer Night': Cyfieithiad.]

A LWYR anghofiaist, gariad gu,
Y nos, yr hafnos fwyn a fu,
Pan gyda'r lli a'r esmwyth awel
Mordwyem dan y lloer mor dawel?
Fy nghalon oedd yn drom a phrudd,
Gan ryw bêr hiraeth hanner cudd,
Pan fel mewn ateb mud i'm pryder,
Dy law'n fy. llaw a rôdd im hyder.
O fun! Ai llwyr anghofio wnaed
Y gusan gaed?

Nos ein serch, nos Mehefin braf,
Hen nos ein llw dan leuad haf,
Nos pob rhyw nos, pan aeth dymuniad
Dwy galon mwy'n dragywydd uniad.
Bryd hyn gwybûm dy galon, fun,
Yn un â'm calon i fy hun.
Dwedais bryd hyn,—" Y dydd y trengom
Ni fentra Angau 'i hun fynd rhyngom."


Nodiadau

[golygu]