Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Pantycelyn

Oddi ar Wicidestun
Y Cantîn Gwlyb Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Y Bedd

X. PANTYCELYN.

BERERIN pererinion llwyd eu gwedd
Sy a'th wyneb pryd ynghrog ar fur fy nghell,
Cenaist ar ddyrys daith tu yma i'r bedd
Ganiadau crythor clir y Jiwbil bell.
Dy drachwant sanctaidd, uwch tabyrddau'r glêr,
Seiniodd yr Enw nad adnabu dyn;
Fel lloer ddi-gartref rhwng lluosowgrwydd sêr
Clafychaist am d' Anwylyd hardd dy hun.
Rhwng muriau'r demel neithiwr gwrando wnes
Dy nwyd yng nghryndod dwfn yr organ reiol;
Dy odidowgrwydd ar y pibau pres,
A'th bruddglwyf ar y delyn fwyn a'r feiol,
Nes dyfod esmwyth su'r deheuwynt ir
Oddiar ganghennau pomgranadau'r Tir.


Nodiadau

[golygu]