Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Robert Einion

Oddi ar Wicidestun
John Alfred Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Ysgolhaig

XLV. ROBERT EINION.

Wrth glwyfus ddinerth gleifion, wrth y dewr
Aeth i daith y dewrion,
Wrth ysig, friwiedig fron,
Tyner fu Robert Einion.

Ei ddwylo leddfai ddolur y gwr llesg
Ar y llawr didostur:
Llariaidd y'i ceid lle'r oedd cur,
Agosaf gyda'i gysur.

Yntau'r blin, 'rol tair blynedd o roddi
I'r eiddil ymgeledd,
O'r rhuthr hir aeth ar orwedd
Yn Ffrainc mewn di-gyffro hedd.

Ar bwys mur eglwys y'i rhoed i orwedd
Yn arwr ieuengoed;
Yn fab o fro ei faboed,
Ac yn rhwym mewn cynnar oed.

Boed ei hwyrol baderau yn felys
O foliant i'w angau;
Uwch ei lwch boed ei chlychau
Yn llafar oll i'w fawrhau.


Nodiadau

[golygu]