Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Sylwadau

Oddi ar Wicidestun
Ar Gofadail Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

SYLWADAU.

Rhif.

IV. Yng Nghefnddwysarn y mae Coed y Mynydd Du. Ni welais fro lle mae'r gylfinhir a'r glomen wyllt mor aml.

V.—(1) Gwelwyd yn ymyl copa Mynydd Cwm Dulyn uwch Dyffryn Nantlle. (2) Pan ofynnais i gyfaill a gerddodd bob twll a chongl yn Eryri pa sawl llwynog a welsai ar ei bererindodau, atebodd er fy syndod mai'r unig un a gyfarfu ef oedd un a welodd yn neidio dros glawdd gardd gefn ym mhentref poblog Rachub, ger Bethesda!

VII.-tir y lord: tir Arglwydd Penrhyn.

VIII.-Gelwid "Yr Hen Grown" am mai tir y goron a fuasai'r cwbl o'i dir ar y cyntaf.

XIV. Bydd melys gan Gristnogion. Gan yr awdur hefyd, pan ganiatâ 'i foddion. Ond erys y syndod a'r gresyndod.

XV.—Cyflwynedig i David Thomas, awdur "Y Werin a'i Theyrnas." Druan o feibion Llafur!

XVI.—Druan o'r hen weithwyr hyn eto—Rhyddfrydwyr bob un!

XXIV.—R. Alun Roberts, B.Sc., gynt o Lan y Gors, wedyn o Lanllyfni. Maddeued pobl radlon pentref hynafol imi am y 'mân sôn.' 'Roedd yn rhaid ateb cytseiniaid mynwes hedd,'a phrin y gwnaethai monsoon' y tro!

XXVII.—Gŵyr pob Cymro llengar am gyfraniadau diweddar dad Miss Annie Ffoulkes i lenyddiaeth Cymru.

XXVIII.—(1) Mrs. Dr. Roberts, Gwyddfor, Penygroes. (2) Mrs. John Evan Thomas (Mary Ivey), Penygroes. Nid cyffyrddiad ystrydebol mo'r cyfeiriad a geir yn yr englyn cyntaf. Ym marwolaeth Mrs. Thomas collodd y diweddar fyddar fardd dall Tryfanwy un o'i gyfeillion cywiraf. (3) Mrs. Dr. Owen, Penygroes. (4) Fy modryb, Mrs. D. J. Evans, Newtown. Rhoed hi i orffwys mewn ystorm o eira.

XXIX.—Kate Ellen Rowlands, Tynyfawnog, Talysarn.

XXX.—Frederick Davies, Talysarn.

XXXI.—Cyfieithwyd i Madame Annie Davies Wynne.

XXXIV.—Cyflwynedig i'w gyfaill, W. Garmon Jones. Cyn ei farw, adenillodd Llywelyn Williams y poblogrwydd a gollasai yn ystod y rhyfel. Ond nid ef a newidiodd.

XXXV.—Y mae'r soned hon yn gronicl manwl a chywir o blygain neilltuol yn Essex, ag eithrio seithwaith' y ceiliog. Wythwaith y canodd, heb wybod fod y rhif saith yn fwy ysgrythurol a barddonol, Fel llawer telynegwr arall, canodd bennill yn ormod.

XXXVI.—Amgylchynid carchar yr Ellmyn â mur anhydraidd o drydan, a rhaid oedd i'r gwyliedyddion alw bob hyn a hyn i ddangos eu bod yn effro.

XLI.—Cyfieithwyd erbyn diwrnod agor Neuadd Goffa Gwyr y Gogledd.

XLII.—Meddyg: Dr. Raymond Jones, Llanrhaeadr ym Mochnant. Milwr: Richard Jones, Blaenau Ffestiniog. Morwr: Tom Elwyn, mab y diweddar Barch. S. T. Jones, Rhyl.

XLIII.—Y tro olaf i mi weled Hedd Wyn oedd pan aeth John Morris a minnau o Flaenau Ffestiniog i edrych am dano yn Yr Ysgwrn, ddydd olaf 1913.

XLIV.—John Alfred Griffith, Belle Villa, Talysarn. Cwympodd yn 19eg oed.

XLV. Robert Einion Williams, Warehouse, Penygroes.

XLVI.—Robert Pritehard Evans, M.A., Melin Llecheiddior, Eifionnydd, a'i frawd. Mae beddfaen er cof am danynt ym mynwent Llanfihangel y Pennant.

XLVII.—Thomas Roberts, M.A., Borthygêst, Arfon; Timothy Davies Williams, B.A., Y Barri; Joseph Richard Joseph B.A., Garn Dolbenmaen, Arfon.

XLVIII.—Llywelyn ap Tomos Shankland.

XLIX.—Tom Jones, Cefnddwysarn.

L.—Ym Mhenygroes a Bethesda. Cyflwynedig i'r Uch-gapten Hamlet Roberts, D.S.O., Ceidwadwr a gwladgarwr, o barch i'r ddynoliaeth a ddangosodd tuagat "yr hogiau."



Robt. Evans a'i Fab,
Gwasg y Bala,
1924.



Nodiadau

[golygu]