Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Tair Delw'r Bala

Oddi ar Wicidestun
Brynsiencyn Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Gwanwyn (Cân y Cigydd)

XIII. TAIR DELW'R BALA.
(Pan fu'r sôn am symud y Coleg i Aberystwyth).

Lewis Edwards.
ARGLWYDD y neuadd angof a'i phen saer,
Nac edrych ar ei gwrthodedig dŵr;
Ond uwch anghyfanedd-dra'r ardd ddi-stwr
Eistedd fel duw myfyrdod rhag dy gaer.

Thomas Charles.
Geidwad y deml, sy a'th drigfan wrth ei dôr,
Y ffyrdd a wnaethpwyd gan dy atgo'n bêr
A farchnatasom am rodfeydd y glêr,
À chrechwen anterliwtiau glan y môr.

Thomas Ediward Ellis.
Tithau yr hwn ddyrchefi fythol fraich
A llygaid cyson i fynyddau'th fro,
Bwriasom lethrau'th dangnef hir dros go :
Gorweddodd heddwch arnom megis braich.


Nodiadau

[golygu]