Yr Haf a Cherddi Eraill/Y Bedd
Gwedd
| ← Pantycelyn | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Brynsiencyn → |
XI. Y BEDD.
ER maint y soniant am dy hedd
A'th felys orffwys yn dy bryd,
'Rwyt heddyw'n ddychryn imi, fedd,
Yn ddychryn ac yn ddagrau i gyd.
Can's ni bydd ynot ganu cân,
Na hiraeth pur, na llawen nwyf;
Na chalon serchog megis tân,
Na dim ohonof fel yr wyf.
Ond gorfod gorwedd wrthyf f' hun
Ymysg digwmni feirw'r plwy,
Mewn gwely o glai yn wael fy llun,
Heb fynd na dyfod i mi mwy.