Yr Haf a Cherddi Eraill/Y Gylfinhir
Gwedd
| ← Cysur Henaint | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Y Sguthan → |
III. Y GYLFINHIR.
DY alwad glywir hanner dydd
Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos;
Fel chwiban bugail a fo gudd
Dy alwad glywir hanner nos;
Nes clywir, pan ddwyshâ dy swn,
Cyfarth dy anweledig gŵn.
Dy braidd yw'r moel gymylau maith,
A'th barod gŵn yw'r pedwar gwynt
Gorlanna'th ddeadelloedd llaith,
I'w gwasgar eilwaith ar eu hynt
Yn yrr ddiorffwys, laes, ddi-fref,
Hyd lyfnion hafodlasau'r nef.