Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Y Llwynog

Oddi ar Wicidestun
Y Sguthan Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Adref

V. Y LLWYNOG. 1.

GANLLATH o gopa'r mynydd, pan oedd clych
Eglwysi'r llethrau'n gwahodd tua'r llan,
Ac annhreuliedig haul Gorffennaf gwych
Yn gwahodd tua'r mynydd,—yn y fan,
Ar ddiarwybod droed a distaw duth,
Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'n blaen;
Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth
Barlyswyd ennyd; megis trindod faen
Y safem, pan ar ganol diofal gam
Syfrdan y safodd yntau, ac uwchlaw
Ei untroed oediog dwy sefydlog fflam
Ei lygaid arnom. Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd, darfu, megis seren wib.


V. Y LLWYNOG. 2.

PAN ddringai'r ciper gyda'r cŵn
I'th ddaear ar y Glyder Fawr,
Ni ddaeth i'w glustiau ddim o'th swn,
I'w ffroenau hwythau ddim o'th sawr;
Ond nwyf dy naid dros glawdd ei ardd
Dorrodd ar freuddwyd pêr y bardd.

Pan guddiai'r ffarmwr yn y gwyll
Chwe bore oer chwe diwrnod llaith,
Fe dynnai ergyd lawn o'r dryll
Cyn ffrwyno'r gaseg at ei gwaith;
Ond cloch yr eglwys ganodd gnul
Dy laddedigion fore'r Sul.


Nodiadau

[golygu]