Yr Haf a Cherddi Eraill/Y Mynydd
Gwedd
| ← Diddanwch | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Mae Hiraeth yn y Môr → |
XX. Y MYNYDD.
LLEDDF, lleddf yr awron yw'r llyn,
Adeg ei osteg estyn
Drosto rhyw hwyrol dristwch
Lle rhwyfai dau, gynnau, gwch.
Sugana hesg yn y waun
Alar hwyrol yr hirwaun,
A'i chŵyn, i gwm a cheunant,
Sieryd Nos o ryd y nant.
Mud yw'r dôn ymado'r dydd
Uwch main tawelwch mynydd.
Tannau'r nant' yn hwyr y nos
A'r rhaeadr yw ei ëos,
Cwynfan adar gâr y gwyll,
A su dieithr nos dywyll.