Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Y Sguthan

Oddi ar Wicidestun
Y Gylfinhir Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Y Llwynog

IV. V SGUTHAN.

DY ofn a'ni dychryn, glomen wyllt,
Pan safwyf dan dy ddeiliog bren;
Arhosi 'n fud o'i fewn nes hyllt
Dy daran agos uwch fy mhen:
Ganwaith yn swn dy ffwdan ffol
Y trodd fy nghalon yn fy nghol.

Nid rhaid it ddianc fel y gwynt,
Ni'th leddir ond o frad y dryll;
Ac megis Lleu Llaw Gyffes gynt
Ni fedd a'th laddo ond un dull:
Dy fwrw o'th wrthol, glomên gu,
A'th gael dan blygion dwfn dy blu.

Ni fynni lety fel dy chwaer
Sy'n hel ei thamaid ar y stryd;
I'r glasgoed nas mesurodd saer
Esgynni oddiar ysgubau'r ŷd:
I'r anwel tawel sy ar bob tu
Ym mynwes Coed y Mynydd Du.


Mi adwaen rywun dyner-lais
A huda'r adar ar ei hôl;
Ac oen ni sugna, os hon a'i cais,
Na âd ei ddala hyd y ddôl;
Ni thycia 'i thyner arfer hi,
Ei theg lais dwys ni'th oglais di.

Ond pan fo'r chwa yn lleddfu'th ofn
Heb unswn estron ar ei min,
A phan na bo'n y goedwig ddofn
Ond gosteg hyd ei phellaf ffin,
Tithau, bryd hyn, agori big
Dy ddiniweidrwydd yn y wig.


Nodiadau

[golygu]