Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Yr Aflonyddwr

Oddi ar Wicidestun
Gadael Tir Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Y Ddrafft

XXXVIII. YR AFLONYDDWR.

Wrth rodio neithiwr clywais lef
Yn mynd a dod hyd wifrau 'r dref,
A wnaeth fy nghalon estron bron
Mor drwm a'r plwm o dan fy mron.

Mi ês o'r neilltu tua'r ddôl
I ddianc rhag fy hiraeth ffôl,
Ond clywais lais rhyw druan llesg
Yn mynd a dod ym mysg yr hesg.

Mi drois yn ol i'm llety gwael,
Ond nid oedd gysur im i'w gael,
Can's yno 'n wylo wrth fy nôr
'Roedd swn mwy trist na swn y môr.

Bydd lonydd, wynt, a phaid a gwneud
Fy nghyni 'n fwy nas gallaf ddweud:
Neu dyro 'n ol y dyddiau pell
Pan genit imi ganiad gwell.


Nodiadau

[golygu]