Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Yr Haf-I

Oddi ar Wicidestun
Nôs o Hâf Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Yr Haf-II

XXXII. YR HAF.
I.—Gofid.

Llannerch yr Oed.

Ag oerwynt hydre'n gyrru
Y gawod ddail yn gâd ddu,
A gwig o'i chwrr yn gwegian
Megis dewr mewn ymgais dan
Angerdd trin yng nghyhẁrdd y tariannau,
A thwrf dwygad yn y rhuthr fidogau,
Ym mhoen y bu i minnau gymryd hynt
Ym mawrdrwst y gwynt, mor drist ag yntau.

A'i gwisg ddeilios dlos hyd lawr
Mi a ganfum wig enfawr,
Mi ddeuthum iddi hithau
A'i dieithr fyd. Ei throfâu
Rhwng derw neuaddau'r ehangder nyddynt;
Drwy hud annirnad y rhodiwn arnynt;
Ger llwyn, a'r gorllewinwynt yn dal gwg,
Daeth imi olwg wrth deithio'm helynt.


Haul eisoes a giliasai,
Brysiai'r lloer heibio'r sêr llai,
A chlir, drwy'r goedwig achlân,
Hŵtiai llawer tylluau.
A llyna'r olwg,—llain hir a welais,
A chlywed goslef nychlyd, ac islais;
Dihunai f'ofn o dan f'ais, yna fel
Rhyw ofnus awel araf neshëais.

Ac ar y llain 'roedd gwr llwyd;
Ai marw oedd, ai ym mreuddwyd,
O'i wedd yn hawdd ni wyddwn,
Oni thorres iaith o'r sŵn.
A'i lygaid yn wylo gwae dynoliaeth,
Y dwylo anwylai'r delyn alaeth,
Nes dihuno'r beroriaeth chwerw-felys
Y sy'n soniarus yn neusain hiraeth:—

"Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg deufyd rhom.
I'r gerddi mêl a'r grudd mau
Mae'r rhôs yn marw o'i heisiau.
Pan welais gyntaf yr hoywaf riain.
'Roedd goch fy neurydd, a gwych fy nwyrain
Syllwn dros y llwyni drain parth â'r coed;
A mynd i'r oed a'm henaid ar adain.


"A llyma lun y fun fau;
Yr oedd fel rhudd afalau
Aeron pêr ei hwyneb hi;
Ba brydferth o werth wrthi?
Cerdded cwrr ydfaes, cwrddyd cariadferch,
Ac is lloer ifanc syllu ar hoywferch;
Dod i gyfarfod f' eurferch, fy mun gûn
A destlus ei llun hyd ystlys llannerch.

"Dymor hud a miri haf
Tyrd eto i'r oed ataf,
A'th wyddfid, a'th hwyr gwridog,
A'th awel chwyth haul a chôg.
A thyrd a'r eneth a'r adar yno,
A sawr paradwys hwyr pêr i hudo
Hyd ganllaw'r bompren heno bob mwynder;
A bwrlwm aber i lamu heibio.

"I deml yr oed mal yr hydd
Mae'n dod ym min diwedydd,
A phlyged hoff lygaid dydd
Wedi 'i gweled, o g'wilydd.
Mae'n dod i'r oed mewn hud a direidi,
Y deilios, chwarddwch yn dlysach erddi;
Chwi awelon llon y lli, dowch mwyach
I chwythu'n llonnach o eithin llwyni.


"Mae'n dod, a'm henaid edwyn
Yn barod ddyfod y ddyn,
Rhag mor gu ym mrigau hwyr
Yw'r seiniau feddwa'r synnwyr
A'u mawl. A chaniad y mwyaleh hoenus
O goed a fytho'n rhyw gawod foethus,
A'r suon hwyr soniarus a glywer,
A'r gwin heno'n bêr gan wenyn barus.

"Ac yng nghoed dan gangau haf
Dy deced, odidocaf!
Dy lygad yn dad y dydd,
A'th lais fel cathl eosydd.
Llyma dy sut, â llam y dois atad,
'Roedd haf yng ngheirios dy rudd, fy nghariad;
Ac uwchlaw eu cochliwiad ogoniant
Tresi is gerlant o rôs ysgarlad.

"Dymor hud a miri haf,
Tyrd eto i'r oed ataf
Yn ddyn ieuanc ddeunawoed
A'i threm yn llewych i'w throed."—
Ciliais o brudd-der. Ymysg niferoedd
Meirwon y goedwig mor unig ydoedd!
Ac yntau'r gwynt oriog oedd yn fynych
Yn chwythu llewych i'w thywyll-leoedd.


Rhiain yr Haf.


Mi neithiwyr yn hwyr y nos
Hiroedwn uwch marwydos
Fy'aelwyd, a breuddwydiais,
Mewn hun, am ei llun a'i llais;
Ac eilwaith gwelwn y gwlithog aeliau,
A gwineu esmwyth y llwyth llywethau;
Ac yr oedd gwaed i'w gruddiau yn codi
Dau gwmwl gwrid gydag aml guriadau.

Rhoiswn wedd rhosyn iddi,
A chariad merch roed i mi,
Dwfn gariad y fun gerais
Yn llif yng nghryndod ei llais.
Ac yfed o riniau'r gafod rawnwin
Byddem, a llannerch heb ddim allwynin;
Myfi mewn perth yn chwerthin yn nydd serch
A chân; a'm hoywferch yn ei Mehefin.

Ac wele, drych ac ail drem :
Ar fore o haf rhwyfem,
A llawen oedd llonyddwch
O dan y coed yn y cwch.
A rhwyfo yn nwfr yr afon hyfryd,
Ac fel yr afon ein cyflwr hefyd,
Cyd y bai deced bywyd rhwng glannau
Difyr y duwiau i fro dyhewyd.


Ac megis ym mis y mêl
Y tywallt, pan fo tawel
Dduwch y bedd uwch y byd,
Ambell i gawod embyd,
Mi welais ein serch yng ngwin chwerthiniad,
A'c eilehwyl, hagen, yn golehi'i lygad.
Mwynach cur mynych cariad na phedfai
Heb lanw a thrai, ac heb li na throad.

Wele wedd y drydedd drem;
Can hwyr y cyniweiriem
Parth â'n hoed. Rhwng perthi nef
Y crwydrem, ac i'r hydref.
A phan yng nghymod yr haf a'r blodau
Yr aethom i'w ffrwyth mwy hoff yr âi hithau,
Cyd nad oedd cadwyn dyddiau namyn llawn
O nef, yn mhrynhawn fy morwyn winau.

Bwy wyr hŷd ei baradwys?
Yn llariaidd wawl y lloer ddwys
Mi a ddeuthum, ddiwethaf,
Parth â'r oed. 'Roedd perthi'r haf
Heb ddeilen ar frig. Y goedwig ydoedd,
Gefn nos Rhagfyr, yn fyr o'i niferoedd;
Ac yntau'r gwynt oriog oedd yn fynych
Yn chwythu llewych i'w thywyll-leoedd.


Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg adfyd rhom.
Ac o fewn y goedwig faith
Minnau wybum anobaith.
Fe'i gwelwyd yng ngwlad y pomgranadau
A pheraidd aeron anghyffwrdd erwau;
Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau.

A phrudd fu'r deffro heddyw,
A gweld y wag aelwyd wyw
Heb farwor, ac agoryd
Dôr y bwth ar wacter byd.
A'r bore yn nhawch yr wybreri ucho'n
Llwydaidd a gwelw, y lleuad ddigalon
Drengai draw yng ngodrëon niwl dihêdd—
A mynd ar orwedd i'm hundy'r awron.

Macwy'r Haf.


A gwyrdd fôr yn gorwedd fel
Gwridog aur hyd y gorwel,
'Roedd dydd ar ei ddedwyddaf,
A blwyddyn yn nherfyn haf.
A gwrid yr hwyr ar gread yr awron
Yn rhoi gemliw grug ym mhlyg yr eigion,
Ni roddai'r pelydr rhuddion ddim o'u delw
Ar wyneb gwelw y rhiain heb galon.


Fel pan gocho'r ortho nig
Lechweddau haul a chaddug,
Ac yn Nhachwedd gwanychu'r
Gwaedliw dwfn, gyda'i law dur,
Hithau yng nghyfoeth eang ei hafau
Oedd a'i deurydd hefelydd afalau,
Hyd onid aeth gofidiau llawer blwydd
A godidowgrwydd ei gwaed i'w dagrau.

Yr hirnos oer ar neshau
O'i blaen oedd, a blynyddau
Hydref oes, darfuasai
Am win ieuenctid y Mai.
Gwelais yn gwgu las waneg eigion,
A thywyllwch aeth ei llewych weithion;
A gwelais wyll y galon yn dwyshau
Dihalog dlysau dau lygad leision.

Cofiais fel y gwelais gynt
Ei dyddiau, deced oeddynt
Dan fedwen haf hyd y nos,
Ond fyrred fu eu haros!
A hithau'n rhiain yn nwyrain euraidd
Oedd glir ei hwybren, a'i bore'n beraidd;
Ei dydd hefyd oedd hafaidd, a chalon
Yn ei chwarddiad llon a'i cherdded lluniaidd.


A harddaf haul rhuddfelyn
Yn bwrw o'i wawl ar y bryn,
Dyrîau gludai'r awel
A sawr y maes ar ei mêl.
Ac nid oedd gerllaw un bronfraith tawel,
Na diwedd i hoen ehedydd anwel,
Ond swn dwys enald isel, yna llais
Dieithr a glywais gyda threigl awel:—

"Macwy'r haf a'm carai i,
Daeth rhom beth dieithr imi;
A dwyn i fod yn fy ais
Dân bywyd na wybuais.
Ac wedi myned ein serch o'r hedyn
Bu liw ac arogl ar y blaguryn,
A suai, megis ewyn môr dihêdd,
Dwrf adanedd dirifedi wenyn.

"Cred a hud cariad ydoedd
I facwy'r haf, ac yr oedd
Heulog dês i'w lygad o,
A thân gobaith yn gwibio
I d'w'llwch ing gyda llewych angel,
Nes goleuo nos y galon isel;
Minnau a'm Mai yn y mêl a'i hoffais;
Yn feinwen cerais ei finion cwrel.


"I mewn i fore'm heinioes
Dôi mal duw ym mlodau'i oes,
Ei gnwd gwallt ar ei gnawd gwyn
Fel haidd melyna'r flwyddyn.
A Duw wyddai geined oedd eigionau
Llygaid fîoled. Lliw gwaed afalau
Hyd ddwyfoch wridodd hafau gusenais,
A sugnai f'ais y gwin o'i wefusau.

"Rhag mor wèn y nen ini
Nid oedd nos i'n dyddiau ni,
Oddieithr, un nawnddydd athrist,
I daran drom dorri'n drist
Trwy gôl y duwch, fel treigliad ewyn
Fo'n uchel ei dwrf yn chwalu'i derfyn;
Ac megis a wêl elyn, mewn anfodd
Y cymylodd gwedd y macwy melyn.

"Na chwyn trech ei natur o,
Dôi heulwen wedi wylo;
Gwedi poen dau lygad pur
Tlysach eu tawel asur.
Hyd wyneb y wlad a hi'n y blodyn
Cenais, Duw a ŵyr, canys aderyn
A fum yn pyncio f'emyn, ac erioed
Ni chânt yn y coed, na chynt nac wedyn,


"'Run dryw bach mor iach a rhydd,
A thlawd f'ai cathl ehedydd
Wrth ddyfnder y mwynder mau,
Ddedwydded oedd y dyddiau.
Ac fel mae'r hwyr yn cyflymu'r awron,
Mor ebrwydd hedai tymor breuddwydion;
A'r blodau hwythau weithion yn neshau

Yn rhawd yr oriau i wrid yr aeron.
"Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg adfyd rhom.
Pan ddaeth blewyn gwyn i'm gwallt
Ni'm carai'r macwy eurwallt.
Ac yntau yn hardd gynt yn ei wawrddydd
Oedd hytrach yn harddach yn ei hwyrddydd,
Fel mae harddaf, decaf dydd, pan ar fron
Danllyd y donn y lledo'i adenydd.

"Daethai brâd yn adwyth bron,
A dur i lygaid oerion;
Ni'm carai'r macwy mwyach,
Ac yn y nos canu'n iach.
Fe'i gwelwyd yng ngwlad y pomgranadau
A pheraidd aeron anghyffwrdd erwau;
Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau."


A dydd o haf ydoedd hi,
Gwëai hwyrddydd ei gerddi,
Cerdd adar a gâr y gwydd,
A bref oen a bawr fynydd.
Minnau adnabum enyd anobaith
O wel'd a hoffwn yn welw a diffaith,
Heb ddisgwyl haf a'i afiaith mwy i'w chôl,
Na chael yn ei hôl ei chalon eilwaith.


Nodiadau

[golygu]