Yr Haf a Cherddi Eraill/Yr Haf-II
| ← Yr Haf-I | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Yr Haf-III → |
II.—Gorfoledd.
Ar Gyniwair.
Fath yw'r haf pan fytho rhin
Dwyfol yn neithdar deufin?
Pan yn swyn llwyn a llannerch
I deyraas hud arwain serch?
Yn y tymor sanct mae rhos ieuenctyd
Yn iraidd eu twf, a rhyddid hefyd
Fel serch yn felys o hyd, yn gwawrio
Ar y sawl y bo rhosliw eu bywyd.
A chaf degwch haf digoll
Tra bo dau trwy y byd oll;
Tra bo dau haf yw'r gaeaf,
Fore a hwyr nef yw'r haf.
I minnau nefoedd yw minion hufen,
Ac o'r perthi oed egyr pyrth Eden;
Fy ngwynfyd i gyd yw gwên fy nghariad,
A'i dau fyw lygad fy heuliau, hagen.
A disiarad a siriol
Y rhodiwn hyd wndwn dôl;
Ni sieryd oes a ŵyr dau,
Rhy fawr yw ef i eiriau;
Dyfod yn hwyr hyd y fedwen arian
Welir yng nghanol y rhengau'i hunan
Yn llwyd fel ysbryd y llan. A throsti
Ei brigau gwisgi heb rwyg a gysgan'.
A daw deunod o dwyni
O chwyd côg o'i choedwig hi;
Ei haml oslef, mal islais,
Ddihuna fedd yn fy ais.
Adgyfyd i gof y nef a gefais
Ym mlwyddi maboed. Mal hydd mi wibiais
I weled yr edn llednais, hyd fraenar
Ar dwyn a thalar hyd oni'th welais,
F'anwylaf, yn awelon
Min nos haf. I'm mynwes hon
Fe ddaeth y noson honno
Gysur gwell o geisio'r gôg.
Canys ni chânt côg erioed o glogwyn
Mor faith, mi haeraf, a hithau'm morwyn;
Er pan glywai fy Mai mwyn gynta' 'th lais
Ti byth a genaist obaith y Gwanwyn.
Dring yr haf pan drengo'r ôd,
A chlychau a eilw uchod
Ddefaid fyrdd i hafod fwyn
A thrum aruthr. Â'm morwyn
Esgyn wnaf innau'n ysgawn i fynydd,
Yntau yn wridog tan yr ehedydd;
Ymwelwa grug y moelydd pan ger bron
Yr addfed aeron rodd haf i'w deurydd.
Ac ŵyn ieuainc o newydd
Ar feini'r haf yno rydd
O soniarus waun hwyrol
Y gerdd deg a roddai dôl.
A hoff i'm morwyn yw brwyn y bronnydd
O dan ei throed, a nyth yr ehedydd;
Ac aros ar y ceyrydd pan fo'r llus
Yn rhudd a melys ar hedd y moelydd.
A hudoled ei hwyliau
Yng nghrib y llong ar bellhau;
Deri'r llwyn hyd erwau'r lli,
A'i dalgoed hyd y weilgi;
A thros yr hwyliau llathr, asur heulog
Ehangder dyli. Yng ngwydr dihalog
Ei drem mae porffor gemog yn chwarae
A gwau mal y bae dan gymyl bywiog.
Ac edrych uwch llewych lli
Rhwng haul a'r eang heli
Ar chwa'r hwyr chwery o aidd
Ym mhluf y cwmwl hafaidd.
Rhagom ail-esyd rhyw gymyl isel
Ar ansawdd caerau. Ynysoedd cwrel
Ar hyn a chwyth o'r anwel. Ac yn awr
Mal hud eurog wawr ymleda'r gorwel.
A phwyntl cyfnos yn gosod
Gemliw haul ar gymyl ôd,
Tariwn, ac edrychwn dro,
Hyd lechwedd dawel ucho;
 thra'r edrychom rhôm y mae rhwymau
Y gadwyn hud a gydia eneidiau
Trwy y byd oll tra bo dau yn nirgel
Hyd lechwedd dawel a chudd y duwiau.
Y Brawd Llwyd.
'Roedd brudd y bore heddyw;
Gwelais ŵr dan y glas yw;
Ei wyneb ar wedd breuddwyd,
O bryd a lliw y Brawd Llwyd.
Meddw ni bu'r gwr ar win gwefus gwrel;
Ac mal a garo gymylog orwel
Arhosodd y gwr isel ar ei rawd,
Gwedyn dywawd, a'i lygad yn dawel:—
"Mae llwybr i'r llan o'r llannerch;
Daw'r meini mud, er min merch;
Ac atolwg, ti weli
Hagrwydd oed i'w gruddiau hi.
Ac â brigau moel, ac wybr gymylau,
Ba liw a sawr a fydd i'th bleserau?
Megis y mâl afalau y bell fro,
Lledrith yw yr oll, a diwerth ddrylliau.
"Trwy ddeufyd bywyd y bum
Y mab, a dyma wybum,—
Wedi'r chwarae daw'r gaeaf,
Gwynfyd yr ynfyd yw'r haf.
Wedi gwrid y rhôs mae deigr a drysi;
Ac wedi'r êl haul gwyw ydyw'r lili;
Pob rhyw fwynder a geri a dderfydd,
Atgof a fydd y tecaf a feddi.
"A phennaf gwae y gaeaf
Yw cofio'r rhwysg fu, yr haf.
Tafl y cwpan o danad,
Nid yfi'n hir dy fwynhad."—
Minnau atebais,—" Er myned heibio
O fore a nawn fy rhiain honno,
Mae'r haf heb ateb eto beth a fydd.
Mae gennyf hirddydd. Mi ganaf erddo.
"Ni chydfydd llan â llannerch,
Na meini mud â min merch.
Boed brudd y bywyd, a brau,
Cwynfaner, canaf innau
Hyd waun a dôl, can's hyd onid elo
Yn dywyll fy haul nid allaf wylo.
Y Cymrawd Llwyd, breuddẃyd bro ydyw'r fun
Ti ganet dy hun petae gennyt honno.
"Beth i haf yw gaeaf gwyw?
Cyn a fydd canaf heddyw.
Ba enaid ŵyr ben y daith?—
Boed anwybod yn obaith!
'Ac yn eu digwydd os dêl y blwyddi
A rhan o ddrain yr hen ddaear ini
Gyda'i rhôs, ni bydd nosi yn fuan;
Boed marw'n y llan. Boed miri'n y llwyni.
"A swyn yr oes yn yr haf,
Ai am a ddêl meddyliaf?
Myfi ym Mai fy mywyd
Ganaf y Mai, gwyn fy myd.
Ac i f'anwylyd gweaf fy nhalaith
Fioled a rhôs yn fil dyryswaith.
Anwesaf hud; mae'r nos faith yn dyfod,
A digon yw gwybod,—gwyn yw Gobaith.
"Yn llygad merch serch a syll
Hyd nes daw y nos dywyll.
Minnau heb fraw yn dawel,
Yr haf ni ddoraf a ddêl.
A chennyf wawrddydd ni chwynaf erddi,
Ba wedd y cwynaf oni bydd cyni?
Os ffy'r haf mwyn o lwyni Hydref pell,
I mi boed gwell am wybod ei golli."
Siaredais eiriau hyder.
Cyd y bu 'roedd cawod bêr
Yn tirion syrthio'n y sain
Ddyry 'hedydd ar adain.
Ciliasai'r gwr megis rhith a lithiwyd;
Ac ef yn dianc, fy hun adawyd.
Sibrydai llais y Brawd Llwyd yng ngwawrddydd
Dlos y boreddydd fel adlais breuddwyd.
Y Brawd Gwyn.
A mi'n gwrandaw mwyn gryndod
Hyd y dail yn mynd a dod,
A'r prennau îr, y prynhawn,
Ym min cwsg mwyn ac ysgawn,
A'r awel sorth, ar ol suo wrthyn',
Yn mynd a'u gadael am ennyd gwedyn,
Rhyw ddieithr ŵr ddaeth ar hyn drwy'r llwybr troed
I deml yr oed, gyda'i ymyl rhedyn.
Gwelwn o'r allt ei wallt du
Arglwyddaidd, gyda'r gloywddu
Gudynnau, ac o danyn'
O bryd a gwedd y Brawd Gwyn.
Llwydliw eigion oedd i'w danllyd lygad,
Ac ar ais y gwr 'roedd Croes ei gariad.
D'wedodd â gwên ei gennad, a phob dôl
A gânt yn siriol, ag yntau'n siarad:—
"Am olud gwell y bell bau
Y cyrch y doeth. Cyrch dithau
Ei nen ddihalog, ddilwybr,
Mor glir a miragl o ŵybr.
Can's yno bydd Haf, ac ni bydd hafau,
Ac yno bydd Dydd, ac ni bydd dyddiau.
Diwerth yw byd wrth y bau ddwyfol-dlos
Pa les hir-aros uwch pleser oriau?
"Difarw yw hud y frodir,
Telyn a thant leinw ei thir
O buredig fiwsig fel
Pe bai eos pob awel.
A'i fflur a'i hawel a phali'r huan
Erys yn newydd, a'i rhos ni wywan';
Yn ei hedd ni heneiddia neb tra bydd
Byw a dihenydd bywyd ei hunan.
"Nid oes a ddwed hardded hon:
Ba raid iddi brydyddion?
Eto'r beirdd a gânt i'r bau,
A didlawd yw eu hodlau.
Brwd yw eu sain i'r Baradwys honno,
Ac i Wlad yr Hud, ac E1 Dorado.
Pob rhyw delyn cyn bod co' fu'n datgan
Geined y Ganaan. Gwna duag yno."
A minnau,—"Diau, deuwell
Rhiain fo byw na'r nef bell.
Hyfryd oedd a fu o'r daith,
Nis gwybum eisieu gobaith.
Mae'n deg yr haf, a mwyn yw digrifwch,
Ba raid a fai wrth amgen brydferthwch?
Digon i'r dydd ei degwch. Chwi'r adar
A'r gwenyn cynnar gan hynny cenwch!
"Dall yw Serch. Di elli son
Am ar a wêl marwolion
Yng ngwlad engyl, a dangos
Difarw hud ei haf a'i rhôs.
A Serch llygatlas mewn gwin tan asur
Wybrennydd heulog, heb ran o ddolur
Byd, ac heb wybod cur, megis na bâi
Derfyn i ysbaid yr haf annisbur.
"Dwg im haul digymylau:
Gâd im hefyd fy myd mau,
Lle mae'r cymyl yn wylo
Ym mhelydr haul aml i dro:
Rhoddwch im heulwen hardd, a chymylau
Blyco'n ei gwawl yn bali cain, golau,
Ac yna wynt gwan, i wau aml i ddrych
Lle chwery llewych y wawr â'u lliwiau.
"Melys i mi lais y môr
Yn Natur faith, tra fytho
Rhin yr hwyr yn yr oriau,
A'r nos ei hun ar neshau.
Rhoddi'm llaw yn neheulaw f'anwylyd,
A synio'n dawel swynion dyhewyd.
Ba wae nas troai bywyd yn heddwch?
Ni bu ddigrifwch heb ddagrau hefyd.
"Diau, a'r wybr yn dywell,
Gwyn fyd a gân fywyd gwell;
Am hafan o'r storm hefyd
Caned beirdd, ac uned byd.
Dygwch i minnau degwch y munud;
O gyfoeth o werth, gwae ef a'th wrthyd!
Mae'n haul lle bo'm hanwylyd. Llawenhaf.
Beth yw fy haf os gobeithiaf hefyd?
"Heddyw mae nef. Eiddom ni
Yw llannerch rhwng y llwyni;
Ac o nefoedd gwin nwyfiant
Ni chenfydd serch nefoedd sant."—
Ar hyn diflannai'r enaid aflonydd,
Nid oedd i hoen a wnai a diddanydd;
Minnau a awn o'r mynydd parth â'r coed
Dawnsiwn i'r oed yn sain yr ehedydd.