Yr Haf a Cherddi Eraill/Yr Hwyaden
| ← Yr Haf-III | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Llywelyn Williams → |
XXXIII. YR HWYADEN.
(Digrifawdl ar ddull ac yn arddull awdlau diweddar yr awdl flaenorol yn eu mysg).
CYNNWYS:
I.—Rhiain yr Hesg.
II.—Macwy'r Mawn.
III.—Yr Ymchwil.
IV.—Yr Oed.
I.—Rhiain yr Hesg.
A mi'n rhusio mewn rhoswellt
Fel un ymhoen o flaen mellt,
A tharan ar daran, dioer,
Yn rhoi hunllef ar wenlloer,
Nachaf, ar lan llyn uchod,
(Ni wyddwn beth oedd yn bod),
Yn torri'n oer trwy y nen
Glwyfedig lef hwyaden.
Ei hirgwyn ddrylliai argae
Anghyffwrdd ing ei phrudd wae.
Is hud y nos dynesu
I ofyn gair.—"Y fun gu,
Wylofus yw dy lefau,
Dwed y trallod hynod tau."
' Erglyw," ebr hi, " fy hirglwy:
Macwy'r Mawn ni'm câr i mwy.
Dyweddi ei fryd oeddwn,
Heb dwymyn byd imi'n bwn.
Harddaf yng nghôr oedd fy ngwedd,
Fireiniaf o rianedd.
Fy llais a yfai llysoedd
Megis gwin neu drwmgwsg oedd
Yn swyno pob ryw synnwyr
Mewn llyffethair llesniair llwyr.
Ond Ow! Ryw hwyrddydd, dewin,
Oedd ar grwydr hyd ddaear grin,
A drawodd f'oes yn druan,
A dwyn i fod yn y fan
O lwch fy harddwch a'i fedd—
Fel y dawel Flodeuwedd—
Aderyn crwydr, unig gri,
A di-solas, di sylwi.
Arglwydd, pand dwfn fy hirglwy?
:Macwy'r Mawn ni'm câr i mwy."
II.—Macwy'r Mawn.
A mi'n rhodio mewn rhedyn,
Yn greadur llwyd ger dẁr llyn,
A'i ddwfr yn hardd a hyfryd
A heddwch bedd uwch y byd;
Llyma ryw enaid â llam o'r anwel,
Yna mae'n nesu gan hymio'n isel;
Fy mod dan gysgod yn gêl ni wyddiad:
A chodais besychiad hysbys, uchel.
Neidiodd, llygadrythodd dro,—
'Roedd gwedd fawreddog iddo,
Y deca'n fyw, ond canfûm
Rhyw ddwyster prudd i'w ystum.
Ac yn y fan minnau cyn ei fyned,—
Y cymrawd ieuanc, ai marw, dywed,
Yw hi a geri? O gwêd a ddaroedd
O ddrycin ingoedd i ŵr cyn ie'nged.
A dywawd yntau, " Dewin
Oedd ar grwydr hyd ddaear grin;
Ac ef o'n plith a lithiodd
Riain yr Hesg. Arni rhodd
Ei Hudlath oer hyd lywethau euraid,
Nes curiodd einioes caruaidd enaid
Rhiain yr Hesg. Llesg yw'm llaid heb harddwch
Y fun o degwch y Fair Fendigaid.
"Hyd ddear faith y teithiais,
Hyd fôr cur, ond ofer cais.
Ni welaf mwy ael fy mun,
Na thâl fy mhrydferth eilun.
Ond er hyn oll, dewr iawn wyf,
A thad consuriaeth ydwyf,
Yn rhodio'r bau ar dro byr,
Weithiau'n arth, weithiau'n eryr,
Weithiau yn gawr o fawr faint,
Yna milgi ym mhylgaint;
Weithiau yn llaith yn y llyn,
A than ddŵr; weithiau'n dderyn;
Amlaf mewn llwyn yn llwynog
Yn dwyn ei gledd dan ei glôg.
I'w cheisio'n ol chwysu wnaf
Oni ddêl fy nydd olaf."
III.—Yr Ymchwil.
A'r haul yn troi i'w wely,
A'i dresi teg dros y ty,
A llewych lloer uwch llwch llan,
I'w thwym wyll euthum allan.
Dylifai'r lleuad o leufer llawen
Ei chyfoeth tegwch i fythod, hagen.
Suon y nos yn y nen, ac ar li
E roed o bali yr euraid belen.
A mi'n oedi munudyn
Yn gwmwn llesg ym min llyn,
Fel yng nghanol marwolaeth
Yn ddistaw, ddistaw ydd aeth
Pob glyn a cheunant a chwm rhamantus
Is eirian fawredd y sêr niferus;
Yr awel oer alarus ar ei thaith
Gwynfanai'n hirfaith gan ofnau nerfus.
Ond dolef lesg a esgyn
O gwrr y llaid ger y llyn,
Fel uchenaid enaid oer,
Gwanllais dan dywyn gwenlloer.
A thybiais glywed wedyn
Hirgur oer y geiriau hyn:—
"Di oed ac irad ydwy',
Macwy'r Mawn ni'm câr i mwy."
Fel o bur dostur distaw
Ysgwyd yr oedd yr hesg draw;
Ac yn y fan mi ganfûm
Ddistaw, lechwraidd ystum
Llusgwr y nos. Llosgwm hir
Feddai, fel pan ganfyddir
Seren wîb yn asur nos.
Llwynogaidd i'r llyn agos
Neshâi, a thrwy'r nos-awel
Ei eiriau mwys ar ei mêl:—
"A welaf mwy ael fy mun,
A thâl fy mhrydferth eilun?"
IV.—Yr Oed.
A llyn oer yn lliniaru
Dan oer sêr ei dyner su,
Y macwy prudd, meudwyaidd,
Hyd ei ro yn araf draidd,
A'i losgwm hael a ysgwyd
O'i wrthol, yn ol ei nwyd.
Ei sang ofalus yngo
O gam i gam a'i dug o
Nes cyrraedd ym mysg corhesg
I'r oed a Rhiain yr Hesg.
Minnau'n ddiystum yno
Wrandewais, edrychais dro,
A chlywed ysgrech lawen
Aderyn hwyr drwy y nen.
Sgrech lawen hwyaden oedd
Yn nofio gwynt y nefoedd.
A'u gweled gyda'u gilydd
Yn dyfod dan gysgod gwŷdd;
Is tresi nos tros y nant
Y ddau fel un ddiflannant.