Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Yr Haf a Cherddi Eraill (testun cyfansawdd)

gan Robert Williams Parry

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Yr Haf a Cherddi Eraill
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert Williams Parry
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Yr Haf a Cherddi Eraill
ar Wicipedia


YR HAF
A CHERDDI ERAILL

YR HAF

A CHERDDI ERAILL



R. WILLIAMS PARRY




Robt. Evans a'i Fab,
Gwasg y Bala,
1924.



CYFLWYNEDIG
I
DDWY GYMRAES,
JANE a MYFANWY PARRY.



Dymunaf ddiolch i olygyddion neu berchenogion y cyhoeddiadau a ganlyn—Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1910, Y Beirniad, Y Geninen, Y drysorfa, The Welsh Outlook, Y Genedl, Y Seren, Y Goleuad, yn arbennig i bennaeth gwlatgar y Western Mail—am ganiatâd i adargraffu rhai o'r cerddi; ac i'r Cyhoeddwyr am bob hwylustod a hynawsedd posibl.

Y mae fy nyled yn fawr hefyd i hyfforddiant cynnar Hywel Cefni a'r diweddar Anant; i ysbrydiaeth darlithiau Syr John Morris-Jones; i ysbrydiaeth cyfeillach agos gwŷr fel W. J. Gruffydd, W. Hughes Jones, Silyn, Ifor Williams, Llew. G. Williams, a J. J. Williams; yn olaf, ond yn bennaf, i esiampl fy meistr llenyddol, Thomas Gwynn Jones.

Am anghysonderau Cymraeg y llyfr, i'm mympwy fy hun yr wyf i ddioleh. Dymunaf rybuddio'r ymofynnydd pryderus nad ydyw fy orgraff ddim uwchlaw amheuaeth. Mewn anwybodaeth yr ysgrifenaswn cànfum, adnàbum, gwỳbum, etc., yn lle canfûm, adnabûm, gwybûm, etc. Ond o fwriad yr ysgrifennais meinlais, Y Glyder, Y Werydd, plygain, etc. Ar yr wyneb ymddengys hyn fel dibristod o ysgolheictod ddiweddar. Dim o'r fath beth. Fy nghred gadarn yw na ddylid byth gymell sylw'r darllenydd oddiwrth y mater at y modd. Am enghraifft o'r un gred, darllener rhyddiaith Syr John Morris-Jones. Heddyw medrai 'r prentis amrytaf ddysgu Syr Owen Edwards sut i spelio. Wele ddagrau pethau. Nid oes yn y cerddi rhydd ungair nad yw hefyd yn y Beibl neu Bantycelyn. Am yr awdlau, caniataer imi gyfeirio'r darllenydd cyffredin at Bodfan ac Iago i. 4.

Rhy'r Syl'wadau ar y diwedd yr hysbysrwydd sy raid am wrthrychau 'r cerddi

R. W. P.

Y CYNNWYS


I. DWY GYMRAES.

ANWYLYD, nid oes hafal
Yr afal ar dy rudd
Ond hwnnw'n wir a dyfodd,
Addfedodd yn ei ddydd,
Dan lawen heulwen llygad mad
Gynt yn nhangnefedd tŷ fy nhad.

Mae'r pren yn friglwyd heddyw,
A lledfyw yw ei ddail;
Didostur ydyw'r gaea'
A'i sigla hyd ei sail;
Ond i'r awenydd ar ei hynt
Mae 'i degwch fel ei degwch gynt.


II. CYSUR HENAINT.

MAE mewn ieuenctid dristwch, ac mewn oed
Ddiddanwch, fel ar haul yr haf y trig
Y bore-ddydd yn dywyll yn y coed,
A'r nawnddydd fel y nos o dan y brig;
Nes dyfod mis o'r misoedd pan fo'r gwynt
Yn cychwyn crinddail ar eu hediad oer,
A thrwy'r di-nefoedd dywyll-leoedd gynt
Yn chwythu llewych haul a llewych lloer.
Ninnau, pan syrth ein grawnwin, a phan dynn
Dydd ein diddychwel haf hyd eitha 'i rawd,
Ni wyddom beth a fyddwn, onid hyn:—
Mor druan nid yw Henaint nac mor dlawd
Nad erys yn ei gostrel beth o'r gwin
I hybu'r galon rhwng yr esgyrn crin.


III. Y GYLFINHIR.

DY alwad glywir hanner dydd
Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos;
Fel chwiban bugail a fo gudd
Dy alwad glywir hanner nos;
Nes clywir, pan ddwyshâ dy swn,
Cyfarth dy anweledig gŵn.

Dy braidd yw'r moel gymylau maith,
A'th barod gŵn yw'r pedwar gwynt
Gorlanna'th ddeadelloedd llaith,
I'w gwasgar eilwaith ar eu hynt
Yn yrr ddiorffwys, laes, ddi-fref,
Hyd lyfnion hafodlasau'r nef.


IV. V SGUTHAN.

DY ofn a'ni dychryn, glomen wyllt,
Pan safwyf dan dy ddeiliog bren;
Arhosi 'n fud o'i fewn nes hyllt
Dy daran agos uwch fy mhen:
Ganwaith yn swn dy ffwdan ffol
Y trodd fy nghalon yn fy nghol.

Nid rhaid it ddianc fel y gwynt,
Ni'th leddir ond o frad y dryll;
Ac megis Lleu Llaw Gyffes gynt
Ni fedd a'th laddo ond un dull:
Dy fwrw o'th wrthol, glomên gu,
A'th gael dan blygion dwfn dy blu.

Ni fynni lety fel dy chwaer
Sy'n hel ei thamaid ar y stryd;
I'r glasgoed nas mesurodd saer
Esgynni oddiar ysgubau'r ŷd:
I'r anwel tawel sy ar bob tu
Ym mynwes Coed y Mynydd Du.


Mi adwaen rywun dyner-lais
A huda'r adar ar ei hôl;
Ac oen ni sugna, os hon a'i cais,
Na âd ei ddala hyd y ddôl;
Ni thycia 'i thyner arfer hi,
Ei theg lais dwys ni'th oglais di.

Ond pan fo'r chwa yn lleddfu'th ofn
Heb unswn estron ar ei min,
A phan na bo'n y goedwig ddofn
Ond gosteg hyd ei phellaf ffin,
Tithau, bryd hyn, agori big
Dy ddiniweidrwydd yn y wig.


V. Y LLWYNOG. 1.

GANLLATH o gopa'r mynydd, pan oedd clych
Eglwysi'r llethrau'n gwahodd tua'r llan,
Ac annhreuliedig haul Gorffennaf gwych
Yn gwahodd tua'r mynydd,—yn y fan,
Ar ddiarwybod droed a distaw duth,
Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'n blaen;
Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth
Barlyswyd ennyd; megis trindod faen
Y safem, pan ar ganol diofal gam
Syfrdan y safodd yntau, ac uwchlaw
Ei untroed oediog dwy sefydlog fflam
Ei lygaid arnom. Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd, darfu, megis seren wib.


V. Y LLWYNOG. 2.

PAN ddringai'r ciper gyda'r cŵn
I'th ddaear ar y Glyder Fawr,
Ni ddaeth i'w glustiau ddim o'th swn,
I'w ffroenau hwythau ddim o'th sawr;
Ond nwyf dy naid dros glawdd ei ardd
Dorrodd ar freuddwyd pêr y bardd.

Pan guddiai'r ffarmwr yn y gwyll
Chwe bore oer chwe diwrnod llaith,
Fe dynnai ergyd lawn o'r dryll
Cyn ffrwyno'r gaseg at ei gwaith;
Ond cloch yr eglwys ganodd gnul
Dy laddedigion fore'r Sul.


VI. ADREF.

BU amser pan ddewisais rodio ar led,—
Gan roddi heibio 'm genedigaeth fraint,—
Trwy ddiflanedig ddydd marchogion Cred,
A thrwy'r distawrwydd lle bu'r twrnamaint.
Cefnais yn ynfyd ar fy oes fy hun,
Ac megis dewin hen yn bwrw ei hud
Mi atgyfodais lawer eurwallt fun
O'i thrwmgwsg tawel ger ei marchog mud.
Ond hiraeth doeth y galon adre a'm dug
Oddiar ddisperod bererindod serch,
I brofi o'r gwirionedd sy'n y grug,
Ac erwau crintach yr ychydig gerch.
Digymar yw fy mro trwy'r cread crwn,
Ac ni bu dwthwn fel y dwthwn hwn.


VII. V CEILIOG FFESANT.

OHERWYDD fod d'amryliw blu
Fel hydref ar dy fynwes lefn,
A phob goludog liw a fu
Yn mynd a dyfod hyd dy gefn,
Cadwed y gyfraith di rhag cam;
Ni fynnwn innau iti nam.

Oherwydd clochdar balch dy big,
A'th drem drahaus ar dir y lord,
Mi fynnwn heno gael dy gig
Yn rhôst amheuthun ar fy mord;
A byw yn fras am hynny o dro
Ar un a besgodd braster bro.


VIII. YR HEN GROWN.

CHWYRNU'R hir Sul yn set y Llan
Ni ddaeth i'w ran erioed;
Ond aeth ryw Sadwrn at y llu
Sy'n cysgu'n swn y coed.

Pan rodiai'r brodyr yn ddi-fêth
I wrando'r bregeth brudd,
Fel canu trwmp y torrai'i lef
Ar dangnef bore'r Dydd.

A chyda'i ddefaid fel o'i fodd
Ymrôdd am dymor hir,
Nes talodd llawer hesbwrn llwm
Y degwm ar ei dir.

Arweiniai 'i lydnod i'w rhodfeydd,
Ac i'w porfeydd ei fyllt,
Heb awydd ac heb ôg i drin
Ei ddarn o gomin gwyllt.


Fe roddai 'i gyfrif yn ei bryd,
A chrafai'r byd heb och,
A'r llwdwn du a'i famog wen
Yn crafu'r gefnen goch.

A phan ni chlywid mwy ei drwst
Na'i ffrwst ar war y ffridd,
Fe ddeuthai gŵr i ben ei raff,
A phagan praff i'r pridd.

Chwyrnu'r hir hwyr yn set y llan
Ni ddaeth i'w ran erioed,
Ond aeth brynhawngwaith at y llu
Sy'n cysgu'n swn y coed.


IX. Y CANTIN GWLYB.

TRWY'R mwrllwch cynnes gweli fyrddau hir
A phoblog feinciau'n gwegian ar bob llaw;
A chlywi orfoledd yfwyr uwch eu bir
Fel llanw môr tymhestlog. Oddidraw,
Uwch storom pleser, trebl y biano fwyn
Fel meinlais eos seinia'n lleddf neu lon
Alawon pob rhyw werin hen, nes dwyn
Hyfrydwch dagrau i rywrai. Ger dy fron
Cei weled mingam wŷr y fynych winc
Yn sobor-sisial wrth lygadrwth rai
Gyfrinach duwiau. Olaf ti glywi dinc
Y llestri gweigion sy'n cyhoeddi'r trai
Ar ol y llanw, lle mae'r gwerthwyr brag
Yn godro'r gwaelod o'r barilau gwag.


X. PANTYCELYN.

BERERIN pererinion llwyd eu gwedd
Sy a'th wyneb pryd ynghrog ar fur fy nghell,
Cenaist ar ddyrys daith tu yma i'r bedd
Ganiadau crythor clir y Jiwbil bell.
Dy drachwant sanctaidd, uwch tabyrddau'r glêr,
Seiniodd yr Enw nad adnabu dyn;
Fel lloer ddi-gartref rhwng lluosowgrwydd sêr
Clafychaist am d' Anwylyd hardd dy hun.
Rhwng muriau'r demel neithiwr gwrando wnes
Dy nwyd yng nghryndod dwfn yr organ reiol;
Dy odidowgrwydd ar y pibau pres,
A'th bruddglwyf ar y delyn fwyn a'r feiol,
Nes dyfod esmwyth su'r deheuwynt ir
Oddiar ganghennau pomgranadau'r Tir.


XI. Y BEDD.

ER maint y soniant am dy hedd
A'th felys orffwys yn dy bryd,
'Rwyt heddyw'n ddychryn imi, fedd,
Yn ddychryn ac yn ddagrau i gyd.

Can's ni bydd ynot ganu cân,
Na hiraeth pur, na llawen nwyf;
Na chalon serchog megis tân,
Na dim ohonof fel yr wyf.

Ond gorfod gorwedd wrthyf f' hun
Ymysg digwmni feirw'r plwy,
Mewn gwely o glai yn wael fy llun,
Heb fynd na dyfod i mi mwy.


XII. "BRYNSIENCYN"
(neu Y Glomen a'r Gigfran).

TYNER fu'r saint ohono,—
O ddistaw Fedd! Est â fo.'
Carent waedd ei utgorn teg,—
O bridd heb fedru brawddeg!
Meddai nerth a rhyferthwy,—
O ddistaw hedd! Est â hwy.
T'wysog diysgog osgedd,—
O lonyddach, waelach wedd!
Llwyr y mawl lle'r ymwelai,—
Mudandod yw'th glod, O glai!
A llwyr yw cwyn llawer câr,—
O fedd tragywydd fyddar!
Camai draw ac yma o'i drig,—
O gysgadur gwasgedig!
O'i dirion Fôn i Fynwy,—
Gerddwr mawr! Gorwedder mwy.


XIII. TAIR DELW'R BALA.
(Pan fu'r sôn am symud y Coleg i Aberystwyth).

Lewis Edwards.
ARGLWYDD y neuadd angof a'i phen saer,
Nac edrych ar ei gwrthodedig dŵr;
Ond uwch anghyfanedd-dra'r ardd ddi-stwr
Eistedd fel duw myfyrdod rhag dy gaer.

Thomas Charles.
Geidwad y deml, sy a'th drigfan wrth ei dôr,
Y ffyrdd a wnaethpwyd gan dy atgo'n bêr
A farchnatasom am rodfeydd y glêr,
À chrechwen anterliwtiau glan y môr.

Thomas Ediward Ellis.
Tithau yr hwn ddyrchefi fythol fraich
A llygaid cyson i fynyddau'th fro,
Bwriasom lethrau'th dangnef hir dros go :
Gorweddodd heddwch arnom megis braich.


XIV. GWANWYN.
(Cân y Cigydd).

AR ol y tywydd garw,
Yr eira llaith a'r lluwch,
'Rol cyffro rhaffu'r tarw
A throi rhyferthwy'r fuwch,
Daeth gwanwyn a'i ysgafnwaith
A'i dywydd meddal mwyn,
A cheir difyrrach llafnwaith—
Dirwgnach ydyw'r ŵyn.

Pan welwyf dan fy nwylo
Gnu cyrliog yn y llaid,
Paham y dylwn wylo
Uwchben yr hyn sy raid?
'R ol byw fel anghenogion
Am eithaf wythnos gul,
Bydd melys gan Gristnogion
Fy seigiau ar y Sul.


XV HÂF.
(Y Glöwr).

MAE'R glân arglwyddi'n gyrru
Mewn dwfn gerbydau hardd,
A'u harglwyddseau'n tyrru
O'r dref i goed yr ardd;
Paham na cheni dithau'n iach,
Ar hindda fwyn, i'r Rhondda Fach?

Mae ynys yn y Barri,
Ac awel ym Mhorthcawl,
A siwrnai yn y siarri
I rai a fedd yr hawl;
Paham y treuli ddyddiau îr
A nosau hâf yn Ynyshir?


XVI. GAEAF.
(Yr Hen Weinidog).

TI wyddost fel mae'r llanciau
Mewn hiraeth am un iau;
Ti wyddost am ystranciau
Hynafgwyr, un neu ddau;
A gwyddost ti mor drist, mor drist,
Yw diwedd oes dan groes dy Grist.

Rhag dirmyg amlwg llanciau
Mewn hiraeth am un iau,
Rhag blin dristâd ystranciau
Hynafgwyr, un neu ddau,
Rhodded ei Feistr, o'i fawr râs,
Ei dirion nodded i'r hen wâs.


XVII. CANTRE'R GWAELOD. 1

OBRY blodeuai Ebrill,
Ymwelai Mai a'i lu mill;
A dawns y don sidanaidd
A'r hallt fôr, lle tyfai haidd.
Lle bu trydar a chware,
Dwr a nawf rhwng dae'r a ne'.
Tegwch Natur, fflur a phlant,
Morynion,—yma'r hunant—
Blodau haf heb oleu dydd
O dan oer don y Werydd.
Pob ieuanc ar ddifancoll,
A hithau'r gân aeth ar goll.

Pau segur is pwys eigion,
Distaw dud is tô y don.
Uwch ei phen mae llen y lli,
A'i ddwr gwyrdd ar ei gerddi.
Ei hamdo mwy ydyw môr,
A'i ddylif fydd ei helor.


XVII. CANTRE'R GWAELOD. 2.

CAER sy deg gorîs y don
I frwyn a môr-forynion;
Yma rhwng ei muriau hi
Nofiant yn eu cynefin.

Main hudol a phob golud
Sy o fewn y ddinas fud;
Tlysau a pherlau a physg,
Gwymon a gemau'n gymysg;
Dinas dawel môr heli,
Hafan y dwfn ydyw hi.
Sain ei mynych glych a glyw
Sobreiddiol osber heddyw
O'r ddinas gain,—sain y sydd
Soniarus yn y Werydd.


XVIII. ARAITH SEITHENYN.

RHUED eigion aflonydd heb lescàu,
Ac ar y dorau cured y Werydd;
Ca forfur a'i cyferfydd heb wyro;
Na syfl er curo : nid sofl yw'r ceyrydd.

Y gadwyn dal gydia'n dỳn
A diarbed i'w erbyn.
A'i main teg yma o'n tu,
Ba raid awr o bryderu?
Nid ofnaf er gwaethaf gwynt,
Er llanw a gorllewin-wynt,
Ond uwch hyrddwynt y chwarddaf,
Uwch y llanw erch llawnhâf.

Parod y muriau, poered y moroedd
Eu trochion ofer i entrych nefoedd;
Digryn a difraw, uwch utgorn dyfroedd,
Y trawstiau disigl trwy ystod oesoedd;
Ac er anterth corwyntoedd hwy fyddan'
Arhosol darian yr isel-diroedd.


XIX. DIDDANWCH.

NID oes i mi ddiddanwch yn y môr
Fel yn y mynydd. Yn y mynydd chwaith
Fel yn y fron eithinog wrth fy nôr.
Can's ni thramwyais foelni'r mynydd maith
Na byddai'n gil-agored ar fy ol
Lidiart y mynydd; na'r di-breswyl draeth
Na'm gyrrid gan ei ofid hir i gol
Y goetre glyd lle trig fy mrodyr maeth.
Benrhynion môr ac awyr! Nid i mi,
A gâr gymdogol goed y mwyaleh pêr,
Y rhodded nwyd gwylanod llwyd y lli,
A'r pinwŷdd llonydd dan y perffaith sêr,
Ond calon wrendy beunydd, clust a glyw
Eu hen hyfrydwch yn y ddynol ryw.


XX. Y MYNYDD.

LLEDDF, lleddf yr awron yw'r llyn,
Adeg ei osteg estyn
Drosto rhyw hwyrol dristwch
Lle rhwyfai dau, gynnau, gwch.
Sugana hesg yn y waun
Alar hwyrol yr hirwaun,
A'i chŵyn, i gwm a cheunant,
Sieryd Nos o ryd y nant.
Mud yw'r dôn ymado'r dydd
Uwch main tawelwch mynydd.
Tannau'r nant' yn hwyr y nos
A'r rhaeadr yw ei ëos,
Cwynfan adar gâr y gwyll,
A su dieithr nos dywyll.


XXI. MAE HIRAETH YN Y MOR.

Mae hiraeth yn y môr a'r mynydd maith,
Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn cân
Mewn murmur dyfroedd ar dragywydd daith,
Yn oriau'r machlud, ac yn fflamau'r tân;
Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gŵyn,
A thristaf yn yr hesg y cwyna'r gwynt,
Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,
Ac yn y galon atgof atgof gynt.
Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir
Ar gân y ceiliog yn y glwyd gerllaw
Yn deffro caniad ar ol caniad clir
O'r gerddi agos, nes o'r llechwedd draw
Y cwyd un olaf ei leferydd ef,
A mwynder trist y pellter yn ei lef.


XXII. Y GWYNT. 1

MAE'th chwiban leddf drwy dwll y clo
Fel pibau pagan er cyn co';
Mae'th oernad yn y simdde fawr
Fel utgym yng ngorymdaith cawr.

Mae'th feinlais pêr drwy holltau'm bwth
Fel gorchest Hiraeth ar ei grwth;
Mae'th gryndod allan wrth fy nôr
Yn awr fel dirfawr derfysg môr.

Ond pan agorwyf ddrws i'r traeth
I weld y llanw'n wyn fel llaeth,
Ni welaf undim ond y waun
Yn wyneb lonydd fel o'r blaen.

A chyffro lleuad lawn a ffy
Yn ofer yn y nefoedd fry,
Fel un a rêd o lam i lam
Hyd feysydd cwsg heb ennill cam.


XXII. Y GWYNT. 2.

Tydi yw'r hynafiaethydd chwim
A ddysg hynafiaeth hiraeth im;
Mwy cynnar yw dy lafar lên
Na llyfrau coll Talhaearn hen.

Pan gasgl dy fiwglau, fel i frwydr,
Fyddinoedd fy meddyliau crwydr,
Cofiaf fy llwyd anghysbell wawr
Cyn bod rhyfeddod Arthur Fawr.

Cofiaf fy nharddle bore gynt,
A nofiaf hen ffynhonau f'hynt,
Pan ddarganfûm dy fod yn bêr
Cyn enwi'r haul na chyfri'r sêr.

Cyn dyfod dydd y ganed ofn
Yn ogofeydd y galon ddofn,
Pan nad oedd bywyd namyn byw,
Pan ydoedd dynion cyn bod duw.


XXIII. YR IBERIAD.

Ha wŷr fy mrodyr! Fel 'roedd hedd
Y ddaear hawddgar ar fy ngwedd
Pan glywn y durtur gylch fy nghell
Yng nghysgod coed y Berwyn pell.

'Roedd yno lonydd, Duw a ŵyr,
'A goleu'r dydd fel goleu'r hwyr;
A chodai'r mynydd wrth fy nôr
Ymhell o'r byd, ymhell o'r môr.

'Roedd yno gordial at bob clwy
Mewn unigeddau fwy na mwy,
Lle rhoddai'r nef i fachgen lleddf
Ddifyrru 'i ddydd yn ol ei reddf,

Ac nid oedd yno ddim rhyw boen,
Ond tristwch mwyn fel hanner hoen,
Pan wylai f' ienctyd moethus, clyd,
Y dagrau difyr cyn eu pryd.


O ddyddiau fy niddanwch pur
Pan oeddwn arglwydd ar fy nghur!
Ar fron a chlogwyn, ac ar ffridd
Yn profi'r heddwch sydd o'r pridd.

Mi gefais goleg gan fy nhad,
A rhodio'r byd i wella'm stad;
Ond cefais gan yr hon a'm dug
Fy ngeni'n frawd i flodau'r grug.

Ha wŷr fy mrodyr! Fel bae hedd
Y ddaear hawddgar ar fy ngwedd
Pe clywn yng nghoed y Berwyn pell
Y durtur eto gylch fy nghell.


XXIV. GLAN Y GORS.
(I gyfaill ar fudo o'r mynydd i'r pentref).

Dyfod mae Calan Gaeaf,
A gado'r wyt, gyda'r haf,
Ddiddanwch ffriddoedd unig
Sy'n aros dros yr hen drig.
Gado'r nant a'r gornant gu,
A dyfod i aeafu
O fynwes hedd i fân sôn
Pentrefwyr pant yr afon.

Ffarwel, ddigyffro aelwyd!
Ffarwel fynydd llonydd llwyd,
Lle trig tragwyddol olud
Harddwch môr, a heddwch mud
Y ddistaw lethr, ddi-ystyr
O ganrif i ganrif gwŷr,
Heb na chae na chynhaeaf,
Heb addfwyn wanwyn na haf,
Ond mawredd di-dymhorau
A'i wyneb pryd yn parhau.


XXV.
HAF GWLYB 1922.

DDI-OLYGFEYDD lawog fyd,
Di-aeaf, di-haf hefyd,
Ond gwyw anwydog aeaf
Hanner yn hanner â haf.
Yr Ionawr oer yn yr yd,
Chwefror hyd llennyrch hyfryd,
A sturmant Mawrth ystormus
Yn lleddf hyd lechweddau'r llus.
O ddydd heb drugaredd ar
Na chnwd na chywion adar!
Ac O niwl oer ganol haf!
O gur a phoen Gorffennaf!
Nid aelwyd aelwyd heb dân
A Thachwedd hyllwedd allan,
Ac nid gaeaf hynafol
A'r dyddiau hir hyd y ddôl,
Ond gwyw anwydog aeaf
Hanner yn hanner â haf.


XXVI. DINAS NODDFA.

PAN yrr y Ser eu cryndod drwy dy waed
Gan siglo dy gredöau megis dail;
Pan brofo'r Nos y pridd o'r hwn y'th wnaed,
A'i hofn yn chwilio'th sylwedd hyd i'th sail;
Neu pan wrandewi rigwm trist y Môr
Sy'n dweud yn dywyll ei lesmeiriol gŵyn,
A'r Gwynt sy'n mynd a dyfod heibio'th ddôr
Yn gryg drwy'r coedydd, ac yn floesg drwy'r brwyn;
Dilyn y doeth, a chyfod iti gaer
Lle ceffi noddfa rhag eu gormes gref,
Yn arglwydd dy ddiddymdra, ac yn saer
Dy nef dy hun. Neu ynte dilyn ef
Pan adeilado deml, nid o waith llaw,
Goruwch dirgelwch Natur a thu draw.


XXVII. EDWARD FFOULKES.

FE garodd bob rhyw geinder is y rhôd
Mewn natur, mewn celfyddyd, ac mewn dysg;
'Roedd hefyd ar ei bryd a'i osgedd nôd
Y dynion nid adweinir yn ein mysg;
Y rhai, mewn cnawd fel ninnau, ar wahân
Freuddwydiant eu breuddwydion, ac fel ni,
O'n defnydd, fflachiant eu llusemau tân
Drwy'r cysgod sydd yn fwy na'th sylwedd di.
Yntau mewn llawer myfyr wrtho ei hun,—
A'r deall sydd o'r galon yn ei wedd,—
Gerddodd anghysbell ffyrdd, can's i'r fath un
'Roedd rhodio'n orffwys, a myfyrio'n hedd;
Nes myned i'w ddieithraf, olaf daith,
Heb nerth nac ysbryd i ddychwelyd chwaith.


XXVIII. GWRAGEDD. 1.

BU'N llednais hyd benllwydni, bu'n weddus,
Bu'n addurn cwrteisi :
Bu'n annwyl hyd benwynni,
Bu'n dlos tra bu'i hanadl hi.

Ac eurwallt ei hawddgarwch ymrannai
Mewn morwynol degwch;
Henaint roes yr haenau trwch
Dan arian ei dynerwch.

Ac o dan y cudynnau dau lygad
Fel dilwgwr emau :
Glas y nefoedd oedd i'r ddau,
A hawddgar oedd ei gruddiau.

Oriau ei dyddiau diddig a dreuliodd
Hyd yr olaf orig
Yn feunyddiol fonheddig
A mwyn ei threm yn ei thrig.

Dithau'r dieithr, o deui i gyrraedd
Y garreg sydd ami,
Os wyt ŵr didosturi
Bydd fwyn wrth ei beddfaen hi.


{

XXVIII. GWRAGEDD. 2.

HI feddai reddf i leddfu poen a chur;
Pwy na cheid i'w charu?
I'r dall hi wnaeth ei gallu,
I'r byddar byddar ni bu.

I lwm a gwael, ymgeledd fu drwy 'i hoes,
Fedrusaf o wragedd!
I'w awr ddi-hwyl rhoddai hedd
Cymwynas ac amynedd.

3


I dlawd rhoes barch dyladwy, i'r isel
Hi roes ei chynhorthwy :
Prydferth ei cham yn tramwy;
Prydferth ddiymadferth mwy.

Mewn serch pur, mewn tosturi, ac mewn cof
Cwmni cu am dani;
Mewn hiraeth nas myn oeri,
Didranc ac ieuanc yw hi.

4


I'r. addfwyn rhowch orweddfa mewn oer Fawrth
Mewn rhyferthwy gaea';
Rhowch wedd wen dan orchudd iâ;
Rhowch dynerwch dan eira.


XXIX. GENETH FACH.

MAE eithaf bymtheng mlynedd
Er pan y'i rhoed mewn bedd;
Ond clir fel petae'r llynedd
Yw'r atgof am ei gwedd
Pan ddifyr ganai fel y gôg
Tan feini Tynyfawnog.

Ac erys co'r ysgariad
Drwy'r maith flynyddau'r un;
Eu rhif ni chyfrif cariad
Di-nam ei mam ei hun;
Ond cael ei chofio'n dair-ar-ddeg
Ni chwennych ddim ychwaneg.


XXX. DRAMODYDD A NOFELYDD.

HEN awdur mud dramodau
A thirion chwedlau'th iaith;
Nid tros y rhain, dy flodau
A dyfaist ar dy daith,
Ar hyn o gyfle, yr hen gâr,
Yr wylwn o fawr alar.

Ond am roi'th wyneb llawen
Yn druan ac yn drist;
D'ysmaldod dan y grawen,
Dy chwerthin yn ei chist;
Dy holl ffraethineb o dan rô—
Ffraethineb diffrwyth yno.


XXXI. NOS O HAF
['Summer Night': Cyfieithiad.]

A LWYR anghofiaist, gariad gu,
Y nos, yr hafnos fwyn a fu,
Pan gyda'r lli a'r esmwyth awel
Mordwyem dan y lloer mor dawel?
Fy nghalon oedd yn drom a phrudd,
Gan ryw bêr hiraeth hanner cudd,
Pan fel mewn ateb mud i'm pryder,
Dy law'n fy. llaw a rôdd im hyder.
O fun! Ai llwyr anghofio wnaed
Y gusan gaed?

Nos ein serch, nos Mehefin braf,
Hen nos ein llw dan leuad haf,
Nos pob rhyw nos, pan aeth dymuniad
Dwy galon mwy'n dragywydd uniad.
Bryd hyn gwybûm dy galon, fun,
Yn un â'm calon i fy hun.
Dwedais bryd hyn,—" Y dydd y trengom
Ni fentra Angau 'i hun fynd rhyngom."


XXXII. YR HAF.
I.—Gofid.

Llannerch yr Oed.

Ag oerwynt hydre'n gyrru
Y gawod ddail yn gâd ddu,
A gwig o'i chwrr yn gwegian
Megis dewr mewn ymgais dan
Angerdd trin yng nghyhẁrdd y tariannau,
A thwrf dwygad yn y rhuthr fidogau,
Ym mhoen y bu i minnau gymryd hynt
Ym mawrdrwst y gwynt, mor drist ag yntau.

A'i gwisg ddeilios dlos hyd lawr
Mi a ganfum wig enfawr,
Mi ddeuthum iddi hithau
A'i dieithr fyd. Ei throfâu
Rhwng derw neuaddau'r ehangder nyddynt;
Drwy hud annirnad y rhodiwn arnynt;
Ger llwyn, a'r gorllewinwynt yn dal gwg,
Daeth imi olwg wrth deithio'm helynt.


Haul eisoes a giliasai,
Brysiai'r lloer heibio'r sêr llai,
A chlir, drwy'r goedwig achlân,
Hŵtiai llawer tylluau.
A llyna'r olwg,—llain hir a welais,
A chlywed goslef nychlyd, ac islais;
Dihunai f'ofn o dan f'ais, yna fel
Rhyw ofnus awel araf neshëais.

Ac ar y llain 'roedd gwr llwyd;
Ai marw oedd, ai ym mreuddwyd,
O'i wedd yn hawdd ni wyddwn,
Oni thorres iaith o'r sŵn.
A'i lygaid yn wylo gwae dynoliaeth,
Y dwylo anwylai'r delyn alaeth,
Nes dihuno'r beroriaeth chwerw-felys
Y sy'n soniarus yn neusain hiraeth:—

"Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg deufyd rhom.
I'r gerddi mêl a'r grudd mau
Mae'r rhôs yn marw o'i heisiau.
Pan welais gyntaf yr hoywaf riain.
'Roedd goch fy neurydd, a gwych fy nwyrain
Syllwn dros y llwyni drain parth â'r coed;
A mynd i'r oed a'm henaid ar adain.


"A llyma lun y fun fau;
Yr oedd fel rhudd afalau
Aeron pêr ei hwyneb hi;
Ba brydferth o werth wrthi?
Cerdded cwrr ydfaes, cwrddyd cariadferch,
Ac is lloer ifanc syllu ar hoywferch;
Dod i gyfarfod f' eurferch, fy mun gûn
A destlus ei llun hyd ystlys llannerch.

"Dymor hud a miri haf
Tyrd eto i'r oed ataf,
A'th wyddfid, a'th hwyr gwridog,
A'th awel chwyth haul a chôg.
A thyrd a'r eneth a'r adar yno,
A sawr paradwys hwyr pêr i hudo
Hyd ganllaw'r bompren heno bob mwynder;
A bwrlwm aber i lamu heibio.

"I deml yr oed mal yr hydd
Mae'n dod ym min diwedydd,
A phlyged hoff lygaid dydd
Wedi 'i gweled, o g'wilydd.
Mae'n dod i'r oed mewn hud a direidi,
Y deilios, chwarddwch yn dlysach erddi;
Chwi awelon llon y lli, dowch mwyach
I chwythu'n llonnach o eithin llwyni.


"Mae'n dod, a'm henaid edwyn
Yn barod ddyfod y ddyn,
Rhag mor gu ym mrigau hwyr
Yw'r seiniau feddwa'r synnwyr
A'u mawl. A chaniad y mwyaleh hoenus
O goed a fytho'n rhyw gawod foethus,
A'r suon hwyr soniarus a glywer,
A'r gwin heno'n bêr gan wenyn barus.

"Ac yng nghoed dan gangau haf
Dy deced, odidocaf!
Dy lygad yn dad y dydd,
A'th lais fel cathl eosydd.
Llyma dy sut, â llam y dois atad,
'Roedd haf yng ngheirios dy rudd, fy nghariad;
Ac uwchlaw eu cochliwiad ogoniant
Tresi is gerlant o rôs ysgarlad.

"Dymor hud a miri haf,
Tyrd eto i'r oed ataf
Yn ddyn ieuanc ddeunawoed
A'i threm yn llewych i'w throed."—
Ciliais o brudd-der. Ymysg niferoedd
Meirwon y goedwig mor unig ydoedd!
Ac yntau'r gwynt oriog oedd yn fynych
Yn chwythu llewych i'w thywyll-leoedd.


Rhiain yr Haf.


Mi neithiwyr yn hwyr y nos
Hiroedwn uwch marwydos
Fy'aelwyd, a breuddwydiais,
Mewn hun, am ei llun a'i llais;
Ac eilwaith gwelwn y gwlithog aeliau,
A gwineu esmwyth y llwyth llywethau;
Ac yr oedd gwaed i'w gruddiau yn codi
Dau gwmwl gwrid gydag aml guriadau.

Rhoiswn wedd rhosyn iddi,
A chariad merch roed i mi,
Dwfn gariad y fun gerais
Yn llif yng nghryndod ei llais.
Ac yfed o riniau'r gafod rawnwin
Byddem, a llannerch heb ddim allwynin;
Myfi mewn perth yn chwerthin yn nydd serch
A chân; a'm hoywferch yn ei Mehefin.

Ac wele, drych ac ail drem :
Ar fore o haf rhwyfem,
A llawen oedd llonyddwch
O dan y coed yn y cwch.
A rhwyfo yn nwfr yr afon hyfryd,
Ac fel yr afon ein cyflwr hefyd,
Cyd y bai deced bywyd rhwng glannau
Difyr y duwiau i fro dyhewyd.


Ac megis ym mis y mêl
Y tywallt, pan fo tawel
Dduwch y bedd uwch y byd,
Ambell i gawod embyd,
Mi welais ein serch yng ngwin chwerthiniad,
A'c eilehwyl, hagen, yn golehi'i lygad.
Mwynach cur mynych cariad na phedfai
Heb lanw a thrai, ac heb li na throad.

Wele wedd y drydedd drem;
Can hwyr y cyniweiriem
Parth â'n hoed. Rhwng perthi nef
Y crwydrem, ac i'r hydref.
A phan yng nghymod yr haf a'r blodau
Yr aethom i'w ffrwyth mwy hoff yr âi hithau,
Cyd nad oedd cadwyn dyddiau namyn llawn
O nef, yn mhrynhawn fy morwyn winau.

Bwy wyr hŷd ei baradwys?
Yn llariaidd wawl y lloer ddwys
Mi a ddeuthum, ddiwethaf,
Parth â'r oed. 'Roedd perthi'r haf
Heb ddeilen ar frig. Y goedwig ydoedd,
Gefn nos Rhagfyr, yn fyr o'i niferoedd;
Ac yntau'r gwynt oriog oedd yn fynych
Yn chwythu llewych i'w thywyll-leoedd.


Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg adfyd rhom.
Ac o fewn y goedwig faith
Minnau wybum anobaith.
Fe'i gwelwyd yng ngwlad y pomgranadau
A pheraidd aeron anghyffwrdd erwau;
Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau.

A phrudd fu'r deffro heddyw,
A gweld y wag aelwyd wyw
Heb farwor, ac agoryd
Dôr y bwth ar wacter byd.
A'r bore yn nhawch yr wybreri ucho'n
Llwydaidd a gwelw, y lleuad ddigalon
Drengai draw yng ngodrëon niwl dihêdd—
A mynd ar orwedd i'm hundy'r awron.

Macwy'r Haf.


A gwyrdd fôr yn gorwedd fel
Gwridog aur hyd y gorwel,
'Roedd dydd ar ei ddedwyddaf,
A blwyddyn yn nherfyn haf.
A gwrid yr hwyr ar gread yr awron
Yn rhoi gemliw grug ym mhlyg yr eigion,
Ni roddai'r pelydr rhuddion ddim o'u delw
Ar wyneb gwelw y rhiain heb galon.


Fel pan gocho'r ortho nig
Lechweddau haul a chaddug,
Ac yn Nhachwedd gwanychu'r
Gwaedliw dwfn, gyda'i law dur,
Hithau yng nghyfoeth eang ei hafau
Oedd a'i deurydd hefelydd afalau,
Hyd onid aeth gofidiau llawer blwydd
A godidowgrwydd ei gwaed i'w dagrau.

Yr hirnos oer ar neshau
O'i blaen oedd, a blynyddau
Hydref oes, darfuasai
Am win ieuenctid y Mai.
Gwelais yn gwgu las waneg eigion,
A thywyllwch aeth ei llewych weithion;
A gwelais wyll y galon yn dwyshau
Dihalog dlysau dau lygad leision.

Cofiais fel y gwelais gynt
Ei dyddiau, deced oeddynt
Dan fedwen haf hyd y nos,
Ond fyrred fu eu haros!
A hithau'n rhiain yn nwyrain euraidd
Oedd glir ei hwybren, a'i bore'n beraidd;
Ei dydd hefyd oedd hafaidd, a chalon
Yn ei chwarddiad llon a'i cherdded lluniaidd.


A harddaf haul rhuddfelyn
Yn bwrw o'i wawl ar y bryn,
Dyrîau gludai'r awel
A sawr y maes ar ei mêl.
Ac nid oedd gerllaw un bronfraith tawel,
Na diwedd i hoen ehedydd anwel,
Ond swn dwys enald isel, yna llais
Dieithr a glywais gyda threigl awel:—

"Macwy'r haf a'm carai i,
Daeth rhom beth dieithr imi;
A dwyn i fod yn fy ais
Dân bywyd na wybuais.
Ac wedi myned ein serch o'r hedyn
Bu liw ac arogl ar y blaguryn,
A suai, megis ewyn môr dihêdd,
Dwrf adanedd dirifedi wenyn.

"Cred a hud cariad ydoedd
I facwy'r haf, ac yr oedd
Heulog dês i'w lygad o,
A thân gobaith yn gwibio
I d'w'llwch ing gyda llewych angel,
Nes goleuo nos y galon isel;
Minnau a'm Mai yn y mêl a'i hoffais;
Yn feinwen cerais ei finion cwrel.


"I mewn i fore'm heinioes
Dôi mal duw ym mlodau'i oes,
Ei gnwd gwallt ar ei gnawd gwyn
Fel haidd melyna'r flwyddyn.
A Duw wyddai geined oedd eigionau
Llygaid fîoled. Lliw gwaed afalau
Hyd ddwyfoch wridodd hafau gusenais,
A sugnai f'ais y gwin o'i wefusau.

"Rhag mor wèn y nen ini
Nid oedd nos i'n dyddiau ni,
Oddieithr, un nawnddydd athrist,
I daran drom dorri'n drist
Trwy gôl y duwch, fel treigliad ewyn
Fo'n uchel ei dwrf yn chwalu'i derfyn;
Ac megis a wêl elyn, mewn anfodd
Y cymylodd gwedd y macwy melyn.

"Na chwyn trech ei natur o,
Dôi heulwen wedi wylo;
Gwedi poen dau lygad pur
Tlysach eu tawel asur.
Hyd wyneb y wlad a hi'n y blodyn
Cenais, Duw a ŵyr, canys aderyn
A fum yn pyncio f'emyn, ac erioed
Ni chânt yn y coed, na chynt nac wedyn,


"'Run dryw bach mor iach a rhydd,
A thlawd f'ai cathl ehedydd
Wrth ddyfnder y mwynder mau,
Ddedwydded oedd y dyddiau.
Ac fel mae'r hwyr yn cyflymu'r awron,
Mor ebrwydd hedai tymor breuddwydion;
A'r blodau hwythau weithion yn neshau

Yn rhawd yr oriau i wrid yr aeron.
"Yng ngwynfyd bywyd buom,
A dyfod rhwyg adfyd rhom.
Pan ddaeth blewyn gwyn i'm gwallt
Ni'm carai'r macwy eurwallt.
Ac yntau yn hardd gynt yn ei wawrddydd
Oedd hytrach yn harddach yn ei hwyrddydd,
Fel mae harddaf, decaf dydd, pan ar fron
Danllyd y donn y lledo'i adenydd.

"Daethai brâd yn adwyth bron,
A dur i lygaid oerion;
Ni'm carai'r macwy mwyach,
Ac yn y nos canu'n iach.
Fe'i gwelwyd yng ngwlad y pomgranadau
A pheraidd aeron anghyffwrdd erwau;
Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau."


A dydd o haf ydoedd hi,
Gwëai hwyrddydd ei gerddi,
Cerdd adar a gâr y gwydd,
A bref oen a bawr fynydd.
Minnau adnabum enyd anobaith
O wel'd a hoffwn yn welw a diffaith,
Heb ddisgwyl haf a'i afiaith mwy i'w chôl,
Na chael yn ei hôl ei chalon eilwaith.


II.—Gorfoledd.

Ar Gyniwair.


Fath yw'r haf pan fytho rhin
Dwyfol yn neithdar deufin?
Pan yn swyn llwyn a llannerch
I deyraas hud arwain serch?
Yn y tymor sanct mae rhos ieuenctyd
Yn iraidd eu twf, a rhyddid hefyd
Fel serch yn felys o hyd, yn gwawrio
Ar y sawl y bo rhosliw eu bywyd.

A chaf degwch haf digoll
Tra bo dau trwy y byd oll;
Tra bo dau haf yw'r gaeaf,
Fore a hwyr nef yw'r haf.
I minnau nefoedd yw minion hufen,
Ac o'r perthi oed egyr pyrth Eden;
Fy ngwynfyd i gyd yw gwên fy nghariad,
A'i dau fyw lygad fy heuliau, hagen.


A disiarad a siriol
Y rhodiwn hyd wndwn dôl;
Ni sieryd oes a ŵyr dau,
Rhy fawr yw ef i eiriau;
Dyfod yn hwyr hyd y fedwen arian
Welir yng nghanol y rhengau'i hunan
Yn llwyd fel ysbryd y llan. A throsti
Ei brigau gwisgi heb rwyg a gysgan'.

A daw deunod o dwyni
O chwyd côg o'i choedwig hi;
Ei haml oslef, mal islais,
Ddihuna fedd yn fy ais.
Adgyfyd i gof y nef a gefais
Ym mlwyddi maboed. Mal hydd mi wibiais
I weled yr edn llednais, hyd fraenar
Ar dwyn a thalar hyd oni'th welais,

F'anwylaf, yn awelon
Min nos haf. I'm mynwes hon
Fe ddaeth y noson honno
Gysur gwell o geisio'r gôg.
Canys ni chânt côg erioed o glogwyn
Mor faith, mi haeraf, a hithau'm morwyn;
Er pan glywai fy Mai mwyn gynta' 'th lais
Ti byth a genaist obaith y Gwanwyn.


Dring yr haf pan drengo'r ôd,
A chlychau a eilw uchod
Ddefaid fyrdd i hafod fwyn
A thrum aruthr. Â'm morwyn
Esgyn wnaf innau'n ysgawn i fynydd,
Yntau yn wridog tan yr ehedydd;
Ymwelwa grug y moelydd pan ger bron
Yr addfed aeron rodd haf i'w deurydd.

Ac ŵyn ieuainc o newydd
Ar feini'r haf yno rydd
O soniarus waun hwyrol
Y gerdd deg a roddai dôl.
A hoff i'm morwyn yw brwyn y bronnydd
O dan ei throed, a nyth yr ehedydd;
Ac aros ar y ceyrydd pan fo'r llus
Yn rhudd a melys ar hedd y moelydd.

A hudoled ei hwyliau
Yng nghrib y llong ar bellhau;
Deri'r llwyn hyd erwau'r lli,
A'i dalgoed hyd y weilgi;
A thros yr hwyliau llathr, asur heulog
Ehangder dyli. Yng ngwydr dihalog
Ei drem mae porffor gemog yn chwarae
A gwau mal y bae dan gymyl bywiog.


Ac edrych uwch llewych lli
Rhwng haul a'r eang heli
Ar chwa'r hwyr chwery o aidd
Ym mhluf y cwmwl hafaidd.
Rhagom ail-esyd rhyw gymyl isel
Ar ansawdd caerau. Ynysoedd cwrel
Ar hyn a chwyth o'r anwel. Ac yn awr
Mal hud eurog wawr ymleda'r gorwel.

A phwyntl cyfnos yn gosod
Gemliw haul ar gymyl ôd,
Tariwn, ac edrychwn dro,
Hyd lechwedd dawel ucho;
 thra'r edrychom rhôm y mae rhwymau
Y gadwyn hud a gydia eneidiau
Trwy y byd oll tra bo dau yn nirgel
Hyd lechwedd dawel a chudd y duwiau.

Y Brawd Llwyd.


'Roedd brudd y bore heddyw;
Gwelais ŵr dan y glas yw;
Ei wyneb ar wedd breuddwyd,
O bryd a lliw y Brawd Llwyd.
Meddw ni bu'r gwr ar win gwefus gwrel;
Ac mal a garo gymylog orwel
Arhosodd y gwr isel ar ei rawd,
Gwedyn dywawd, a'i lygad yn dawel:—


"Mae llwybr i'r llan o'r llannerch;
Daw'r meini mud, er min merch;
Ac atolwg, ti weli
Hagrwydd oed i'w gruddiau hi.
Ac â brigau moel, ac wybr gymylau,
Ba liw a sawr a fydd i'th bleserau?
Megis y mâl afalau y bell fro,
Lledrith yw yr oll, a diwerth ddrylliau.

"Trwy ddeufyd bywyd y bum
Y mab, a dyma wybum,—
Wedi'r chwarae daw'r gaeaf,
Gwynfyd yr ynfyd yw'r haf.
Wedi gwrid y rhôs mae deigr a drysi;
Ac wedi'r êl haul gwyw ydyw'r lili;
Pob rhyw fwynder a geri a dderfydd,
Atgof a fydd y tecaf a feddi.

"A phennaf gwae y gaeaf
Yw cofio'r rhwysg fu, yr haf.
Tafl y cwpan o danad,
Nid yfi'n hir dy fwynhad."—
Minnau atebais,—" Er myned heibio
O fore a nawn fy rhiain honno,
Mae'r haf heb ateb eto beth a fydd.
Mae gennyf hirddydd. Mi ganaf erddo.


"Ni chydfydd llan â llannerch,
Na meini mud â min merch.
Boed brudd y bywyd, a brau,
Cwynfaner, canaf innau
Hyd waun a dôl, can's hyd onid elo
Yn dywyll fy haul nid allaf wylo.
Y Cymrawd Llwyd, breuddẃyd bro ydyw'r fun
Ti ganet dy hun petae gennyt honno.

"Beth i haf yw gaeaf gwyw?
Cyn a fydd canaf heddyw.
Ba enaid ŵyr ben y daith?—
Boed anwybod yn obaith!
'Ac yn eu digwydd os dêl y blwyddi
A rhan o ddrain yr hen ddaear ini
Gyda'i rhôs, ni bydd nosi yn fuan;
Boed marw'n y llan. Boed miri'n y llwyni.

"A swyn yr oes yn yr haf,
Ai am a ddêl meddyliaf?
Myfi ym Mai fy mywyd
Ganaf y Mai, gwyn fy myd.
Ac i f'anwylyd gweaf fy nhalaith
Fioled a rhôs yn fil dyryswaith.
Anwesaf hud; mae'r nos faith yn dyfod,
A digon yw gwybod,—gwyn yw Gobaith.


"Yn llygad merch serch a syll
Hyd nes daw y nos dywyll.
Minnau heb fraw yn dawel,
Yr haf ni ddoraf a ddêl.
A chennyf wawrddydd ni chwynaf erddi,
Ba wedd y cwynaf oni bydd cyni?
Os ffy'r haf mwyn o lwyni Hydref pell,
I mi boed gwell am wybod ei golli."

Siaredais eiriau hyder.
Cyd y bu 'roedd cawod bêr
Yn tirion syrthio'n y sain
Ddyry 'hedydd ar adain.
Ciliasai'r gwr megis rhith a lithiwyd;
Ac ef yn dianc, fy hun adawyd.
Sibrydai llais y Brawd Llwyd yng ngwawrddydd
Dlos y boreddydd fel adlais breuddwyd.

Y Brawd Gwyn.


A mi'n gwrandaw mwyn gryndod
Hyd y dail yn mynd a dod,
A'r prennau îr, y prynhawn,
Ym min cwsg mwyn ac ysgawn,
A'r awel sorth, ar ol suo wrthyn',
Yn mynd a'u gadael am ennyd gwedyn,
Rhyw ddieithr ŵr ddaeth ar hyn drwy'r llwybr troed
I deml yr oed, gyda'i ymyl rhedyn.


Gwelwn o'r allt ei wallt du
Arglwyddaidd, gyda'r gloywddu
Gudynnau, ac o danyn'
O bryd a gwedd y Brawd Gwyn.
Llwydliw eigion oedd i'w danllyd lygad,
Ac ar ais y gwr 'roedd Croes ei gariad.
D'wedodd â gwên ei gennad, a phob dôl
A gânt yn siriol, ag yntau'n siarad:—

"Am olud gwell y bell bau
Y cyrch y doeth. Cyrch dithau
Ei nen ddihalog, ddilwybr,
Mor glir a miragl o ŵybr.
Can's yno bydd Haf, ac ni bydd hafau,
Ac yno bydd Dydd, ac ni bydd dyddiau.
Diwerth yw byd wrth y bau ddwyfol-dlos
Pa les hir-aros uwch pleser oriau?

"Difarw yw hud y frodir,
Telyn a thant leinw ei thir
O buredig fiwsig fel
Pe bai eos pob awel.
A'i fflur a'i hawel a phali'r huan
Erys yn newydd, a'i rhos ni wywan';
Yn ei hedd ni heneiddia neb tra bydd
Byw a dihenydd bywyd ei hunan.


"Nid oes a ddwed hardded hon:
Ba raid iddi brydyddion?
Eto'r beirdd a gânt i'r bau,
A didlawd yw eu hodlau.
Brwd yw eu sain i'r Baradwys honno,
Ac i Wlad yr Hud, ac E1 Dorado.
Pob rhyw delyn cyn bod co' fu'n datgan
Geined y Ganaan. Gwna duag yno."

A minnau,—"Diau, deuwell
Rhiain fo byw na'r nef bell.
Hyfryd oedd a fu o'r daith,
Nis gwybum eisieu gobaith.
Mae'n deg yr haf, a mwyn yw digrifwch,
Ba raid a fai wrth amgen brydferthwch?
Digon i'r dydd ei degwch. Chwi'r adar
A'r gwenyn cynnar gan hynny cenwch!

"Dall yw Serch. Di elli son
Am ar a wêl marwolion
Yng ngwlad engyl, a dangos
Difarw hud ei haf a'i rhôs.
A Serch llygatlas mewn gwin tan asur
Wybrennydd heulog, heb ran o ddolur
Byd, ac heb wybod cur, megis na bâi
Derfyn i ysbaid yr haf annisbur.


"Dwg im haul digymylau:
Gâd im hefyd fy myd mau,
Lle mae'r cymyl yn wylo
Ym mhelydr haul aml i dro:
Rhoddwch im heulwen hardd, a chymylau
Blyco'n ei gwawl yn bali cain, golau,
Ac yna wynt gwan, i wau aml i ddrych
Lle chwery llewych y wawr â'u lliwiau.

"Melys i mi lais y môr
Yn Natur faith, tra fytho
Rhin yr hwyr yn yr oriau,
A'r nos ei hun ar neshau.
Rhoddi'm llaw yn neheulaw f'anwylyd,
A synio'n dawel swynion dyhewyd.
Ba wae nas troai bywyd yn heddwch?
Ni bu ddigrifwch heb ddagrau hefyd.

"Diau, a'r wybr yn dywell,
Gwyn fyd a gân fywyd gwell;
Am hafan o'r storm hefyd
Caned beirdd, ac uned byd.
Dygwch i minnau degwch y munud;
O gyfoeth o werth, gwae ef a'th wrthyd!
Mae'n haul lle bo'm hanwylyd. Llawenhaf.
Beth yw fy haf os gobeithiaf hefyd?


"Heddyw mae nef. Eiddom ni
Yw llannerch rhwng y llwyni;
Ac o nefoedd gwin nwyfiant
Ni chenfydd serch nefoedd sant."—
Ar hyn diflannai'r enaid aflonydd,
Nid oedd i hoen a wnai a diddanydd;
Minnau a awn o'r mynydd parth â'r coed
Dawnsiwn i'r oed yn sain yr ehedydd.


III.—Gobaith.

Atgof Mai.


Ag oerwynt hydre'n gyrru
Y gawod ddail yn gâd ddu,
Ym mhoen y bu i minnau
Ganfod mynd y gwynfyd mau.
Mi welais heulwen i'r nef wybrennog,
A gwelais niwl ar ei glesni heulog;
Y llwybrau gynt lle bu'r gôg a'r forwyn
Sy'n fyr o swyn eu hafau rhosynnog.

Myfi'n drist am fynd o'r haf
A'i ddiwrnod oddiarnaf
Uwch ei fedd wybum heddyw
Nad ofer oedd. Difarw yw.
Ac o hir ddisgwyl un gwir a ddysgais,—
Ni fwriaf o gof yr haf a gefais;
Nid angof y serch dyngais a hi'n haf,
Y fun a garaf yw honno gerais.


Od aeth fy Medi eithaf
Gyda'i rug a'i adar haf,
A dyfod cri y dufedd
Am ei ysbail dail dihêdd
A meirwon, ba waeth? Mae'r hen obeithion
Yn rhedeg eilwaith drwy waed y galon.
Os collwyd hen freuddwydion, nid marw chwaith
O theimlais unwaith eu melys swynion.

Didranc, er dod o hydref
A'r haf i gyd rhôf ag ef,
Wedi cauad llygad llaith
Mi welaf y Mai eilwaith.
Mai y rhianedd a'i serch morwynol,
A Mai yn yr oed ym min hwyr hudol;
Mai yn dduw ym min y ddôl, a Mai'n dwyn
Y nyth ar y llwyn, a throell y wennol.

Y Mai a'i arogl mirain
Pan fo'r deilios dros y drain
O gannaid hug ewyn tonn,
Sindal cynhyrfus wendon;
A'i flodau mwynion fel ôd y mynydd,
Ac wynned ag oen ar gnwd y gweunydd;
Gyda'i dawch llygad y dydd, a'i ridens
Melyn yr orens ym mlaenau'r irwydd.


Ac adar haf o afiaith
Godant, ehedant i'w taith
O drum i drum, ddau neu dri
Yn gyforiog o firi.
O chryn y sêr yn nechreunos arian,
A'u diwyg loywed a goleu huan,
Y troellwr fentry allan gyda'r hwyr
I rwygo'r awyr â gorohïan.

Ban fo'r haul uwch ben y fro
Y mae'r nawn ymron huno,
A chilia ych i loches
Rhyw frigau tirf rhag y tês.
A'r awel glaear a eilw y glöyn
Ac aml ogoniant y cymyl gwenyn
I ddod i'w hoed â blodyn yr ardd fraith
A'i thlws ymylwaith o las a melyn.

Cyn y dêl ef, Fehefin,
A'i regen hwyr, a'i gain hin,
A phali'r dlos fflwr-de-lis
Mewn llyn ym min y llwyni,
Mae hwyr a morwyn yn nhymor miri,
A maes a glwysnef ym mis eu glesni;
Daw rhedyn a direidi hyd y ffyrdd,
Ac ar ol y gwyrdd gwrel y gerddi.


Ieuanc yw Mai, ac ymwêl
A mwyn yngan min angel,
Dyry olud yr heulwen
A'r hoen coll i'r unig hen:
Dyry hwyr-gerddi drwy yr yw gwyrddion,
A chnwd fioled uwch hen adfeilion;
Cerdd goruwch ceyrydd geirwon trumau maith,
A thramwy eilwaith eu herwau moelion.

Mynych, mynych i minnau
A swyn yr oes yn hwyrhau,
Ymrithia ienctid gwridog
Y llwybrau gynt lle bu'r gôg.
A'm llygad ynghau ar foelni'r gaeaf
Dwys, ym mharadwys y Mai y rhodiaf;
A theg eilwaith y'i gwelaf, nes huno
A myned iddo o'm hûn diweddaf.

Y Brawd Eto

.

I goed yr oed gyda'r hwyr
Minnau euthum y neithiwyr,
A synio wnes yno'n hir,
Ym mhoen o hiraeth meinir.
Minnau dan swyn y munud ni synnais
Ddyfod, fel breuddwyd, un gwynllwyd, gwanllais
O bryd ail i'r Brawd welais, a thristed
A'r blin ei gerdded o'r blaen a gwrddais.


Yr un oedd ei lun, a'i lais
Oedd hefelydd ei falais
I'r llais gynt fu'n arllwys gwawd
Diddiwedd. Yntau ddywawd:—
"Mi'th welais gyntaf yn haf dy nwyfiant
A bun deg wyneb. Yn dy ogoniant
Y'th welwn di, a'th lon dant ni wybu
Seinio dim melys onid i'w moliant.

"Dau welais ar y dolydd
A hithau'n haf, a than wŷdd;
Aeth un i'r llan o'r llannerch,
Ac erys un dan gur serch.
Ag wybr gymylog, a brigau moelion
Ar brennau, rhy hwyr y berni'r awron
Mai'r afal yw dy galon farw ac oer,
A'i drylliau, diòer yw y lludw aeron.

"Marw yw byw. Na siomer byd.
Pand gaeaf yw haf hefyd?
Nid A'r un gacaf i dranc
Na fu yn haf ifanc."—
Minnau atebais,—" Ym mhoen y tybiwn
Fyned yr olaf fwynder a welwn;
Ac ofer haf gyfrifwn innau'n ail
I goedwig farwddail gwywedig fyrddiwn.


"Ond ni dderfydd ffydd os ffoes
Grawnwin a goreu einioes;
Cronnodd yr ieuainc rawnwin,
A'u swyn a gês yn y gwin.
A thlysni digoll yr haf a gollwyd
Yn gyfoeth mawreddog fyth ym mreuddwyd,
Mi gofiaf am a gafwyd, can's erys
Ei swyn yn felys yn nhân fy aelwyd.

"Ac i gof y dwg y gwin
Fy haf ar ei Fehéfin;
Dwg i gof y deg ei gwedd,
Fireiniaf o rianedd,
Ban fyddai wyneb y nef ddianaf,
Hithau'm rhiain yn ei thymor hoywaf;
Pan oedd dedwydd hirddydd haf rhôf a bedd,
A'm horiau yn hedd, a marw anhawddaf.

"A mi'n hen, mae hoen o hyd
Yn sanctaidd deyrnas Ienctyd.
Pau'r llwyni a'r perllanwŷdd,
Goror gain y gwair a'r gwŷdd.
Yma, fro dirion, mae hyfryd erwau
O lawnder melyn hyd yr ymylau.
Duwiau'r tês a'u duwiesau ynddi drig,
A'u geiriau'n fiwsig ar win wefusau.


"O oes i oes hoyw yw hi,
A'r nawnddydd arian ynddi,
Heb hwyr, ond dyddliw puraf,
Lle mae'r gwyll ym mrigau haf.
Ieuainc a nwyfus yn eu cynhefin,
Gwridog rianedd, gwair, yd, a grawnwin,
A thwym afiaith Mehefin leinw y fro;
Dlysed haul uchod o'i las dilychwin!

"Mae bywiog hoen ym mhob cerdd
Yngo, a'r blodyn angerdd
Trwy gaeau lle trig eos
Ym mis gwrid y damasg rôs
Lotus dihafal y tês i dyfiad
Yniegyr yno, a'r pren pomgranad:
Ym mro digymar wëad cerdd a fflur,
Nid arhöa cur ond a ŵyr cariad.

"A châr serch aros o hyd
Yn sanctaidd deyrnas lenctyd.
Dyry drem, o dro i dro,
I'r man na welir 'mono."
Dringai y lloer hyd yr eang lliw arian
A bro dan ei hedd, a'r brawd anniddan
Ddiflannodd fel ei hunan dros y trum.
A minnau ddeuthum i annedd weithian.


Y Llatai.


A thonnau Mawrth yn y môr,
A'r eira'n gwynnu'r oror,
Mi neithiwyr yn hwyr y nos
Hiroedwn uwch marwydos
Yr aelwyd oleu, ac ar ol dilyn
Ei swyn, breuddwydiais yn ebrwydd wedyn
Am haul Gorffennaf melyn, yng nghanol
Ei flodau dethol. Fel hud y daethyn'.

A mi'n oedi munudyn
Ucho ar fraich o ryw fryn,
Yn swn llif suon llafar
Gallt a gwig i wyllt a gwâr,
Clywwn fedelwyr, gwŷr o gyhyrau,
'Ar waith y gweunydd â nerth gewynnau,
A chwerthinus wefusau rhai llawen
Yn cywain hufen y cynhaeafau.

Rhyngof a'r eang fröydd
Chwareuai tawch euraid dydd,
A throsof aethai'r asur
Yn lledrith pell o darth pur.
Mal gwawn y gwelwn, ym mhlygion golau
Y tarth, ogoniant y torreth gwinau;
'Roedd cwrel hardd ac erwau blodau'r grug
O tan y caddug, a'r tonnog heiddiau.


O'r bryn, rhwng rhedyn yr haf
Deuwn isod yn nesaf,
A bwrw cyrch rhwng ambr y coed,
A gwylltineb gallt henoed.
Ac nid mwy ei hud cân dwym ehedydd
Na'i haml chwibanogl, a'i harogl irwŷdd.
Ac wedyn gado'r coedydd, gyda'u clog
O gymyl deiliog, am haul y dolydd.

Rhwng muriau anghymarol,
A gorchudd haf gwrych y ddôl
Yn geinros gwyllt ac annhrefn,
Y chwythai'r chwa, a thrachefn.
Rhyw loywder hir a welid yr awran
Trwy hufen y wlad, rhyw afon lydan
Rhwng gerddi gorohîan adar bro;
Ac wele, gwthio i'w golwg weithian.

'Roedd haf oddeutu'r afon,
A chywoeth haul uwch ei thonn
A rôi belydr ei bali
Euraid, llathr, ar hyd ei lli;
A phersawr awel, a phrysur hwian,
A gwybod ollwng y gwybed allan.
Gwydd deiliog oedd i'w dwylan. Dan eu clyd
Ymylon hefyd mi welwn hafan.


A gweled fyned i'r fan
Ddau a rwyfodd i'r hafan;
A gwrando'r prydferth chwerthin
A chwarddo merch rudd ei min
Yn beraidd. A bu, a'r ddau heb ohir
Yn rhwyfo'n frwd, a'r haf yn y frodir,
Im dybied im glywed yn glir, o'r làn,
Fy enw fy hunan ar fin y feinir.

A phrudd fu'r deffro heddyw,
A gweld y wâg aelwyd wyw
Heb farwor, ac agoryd
Dôr y bwth ar wacter byd.
Eithr haul oedd yno yn deffro dyffryn
A thwyn, heb ledrith yn ei belydryn.
Nid oedd chwa nac eira gwyn yn aros,
Y ddau, fel y nos, a ddiflannesyn'.

Ac ar y llawnt ger y llwyn
Darogenais dw'r Gwanwyn;
Ac wele, canfod blodyn
O bryd a gwedd y Brawd Gwyn.
Ac o'r prynhawn ger y prennau yno
Deuai mewn siffrwd i'm mynwes effro—
"Pob rhyw delyn cyn bod co' fu'n datgan
Geined y Ganaan. Gwna duag yno."


Marw i fyw mae'r haf o hyd;
Gwell wyf o'i golli hefyd:
Dysgaf, a'm haul yn disgyn,
Odid y daw wedi hyn.
Mwy ni adnabum ennyd anobaith
Y daw'm hanwylyd i minnau eilwaith;
Ba enaid ŵyr ben y daith sy'n dyfod?
Boed ei anwybod i'r byd yn obaith!


XXXIII. YR HWYADEN.
(Digrifawdl ar ddull ac yn arddull awdlau diweddar yr awdl flaenorol yn eu mysg).

CYNNWYS:
I.—Rhiain yr Hesg.
II.—Macwy'r Mawn.
III.—Yr Ymchwil.
IV.—Yr Oed.


I.—Rhiain yr Hesg.


A mi'n rhusio mewn rhoswellt
Fel un ymhoen o flaen mellt,
A tharan ar daran, dioer,
Yn rhoi hunllef ar wenlloer,
Nachaf, ar lan llyn uchod,
(Ni wyddwn beth oedd yn bod),
Yn torri'n oer trwy y nen
Glwyfedig lef hwyaden.
Ei hirgwyn ddrylliai argae
Anghyffwrdd ing ei phrudd wae.

Is hud y nos dynesu
I ofyn gair.—"Y fun gu,
Wylofus yw dy lefau,
Dwed y trallod hynod tau."

' Erglyw," ebr hi, " fy hirglwy:
Macwy'r Mawn ni'm câr i mwy.
Dyweddi ei fryd oeddwn,
Heb dwymyn byd imi'n bwn.
Harddaf yng nghôr oedd fy ngwedd,
Fireiniaf o rianedd.
Fy llais a yfai llysoedd
Megis gwin neu drwmgwsg oedd
Yn swyno pob ryw synnwyr
Mewn llyffethair llesniair llwyr.
Ond Ow! Ryw hwyrddydd, dewin,
Oedd ar grwydr hyd ddaear grin,
A drawodd f'oes yn druan,
A dwyn i fod yn y fan
O lwch fy harddwch a'i fedd—
Fel y dawel Flodeuwedd—
Aderyn crwydr, unig gri,
A di-solas, di sylwi.

Arglwydd, pand dwfn fy hirglwy?
:Macwy'r Mawn ni'm câr i mwy."

II.—Macwy'r Mawn.


A mi'n rhodio mewn rhedyn,
Yn greadur llwyd ger dẁr llyn,
A'i ddwfr yn hardd a hyfryd
A heddwch bedd uwch y byd;
Llyma ryw enaid â llam o'r anwel,
Yna mae'n nesu gan hymio'n isel;
Fy mod dan gysgod yn gêl ni wyddiad:
A chodais besychiad hysbys, uchel.

Neidiodd, llygadrythodd dro,—
'Roedd gwedd fawreddog iddo,
Y deca'n fyw, ond canfûm
Rhyw ddwyster prudd i'w ystum.
Ac yn y fan minnau cyn ei fyned,—
Y cymrawd ieuanc, ai marw, dywed,
Yw hi a geri? O gwêd a ddaroedd
O ddrycin ingoedd i ŵr cyn ie'nged.


A dywawd yntau, " Dewin
Oedd ar grwydr hyd ddaear grin;
Ac ef o'n plith a lithiodd
Riain yr Hesg. Arni rhodd
Ei Hudlath oer hyd lywethau euraid,
Nes curiodd einioes caruaidd enaid
Rhiain yr Hesg. Llesg yw'm llaid heb harddwch
Y fun o degwch y Fair Fendigaid.

"Hyd ddear faith y teithiais,
Hyd fôr cur, ond ofer cais.
Ni welaf mwy ael fy mun,
Na thâl fy mhrydferth eilun.
Ond er hyn oll, dewr iawn wyf,
A thad consuriaeth ydwyf,
Yn rhodio'r bau ar dro byr,
Weithiau'n arth, weithiau'n eryr,
Weithiau yn gawr o fawr faint,
Yna milgi ym mhylgaint;
Weithiau yn llaith yn y llyn,
A than ddŵr; weithiau'n dderyn;
Amlaf mewn llwyn yn llwynog
Yn dwyn ei gledd dan ei glôg.

I'w cheisio'n ol chwysu wnaf
Oni ddêl fy nydd olaf."

III.—Yr Ymchwil.


A'r haul yn troi i'w wely,
A'i dresi teg dros y ty,
A llewych lloer uwch llwch llan,
I'w thwym wyll euthum allan.
Dylifai'r lleuad o leufer llawen
Ei chyfoeth tegwch i fythod, hagen.
Suon y nos yn y nen, ac ar li
E roed o bali yr euraid belen.

A mi'n oedi munudyn
Yn gwmwn llesg ym min llyn,
Fel yng nghanol marwolaeth
Yn ddistaw, ddistaw ydd aeth
Pob glyn a cheunant a chwm rhamantus
Is eirian fawredd y sêr niferus;
Yr awel oer alarus ar ei thaith
Gwynfanai'n hirfaith gan ofnau nerfus.


Ond dolef lesg a esgyn
O gwrr y llaid ger y llyn,
Fel uchenaid enaid oer,
Gwanllais dan dywyn gwenlloer.
A thybiais glywed wedyn
Hirgur oer y geiriau hyn:—
"Di oed ac irad ydwy',
Macwy'r Mawn ni'm câr i mwy."
Fel o bur dostur distaw

Ysgwyd yr oedd yr hesg draw;
Ac yn y fan mi ganfûm
Ddistaw, lechwraidd ystum
Llusgwr y nos. Llosgwm hir
Feddai, fel pan ganfyddir
Seren wîb yn asur nos.
Llwynogaidd i'r llyn agos
Neshâi, a thrwy'r nos-awel
Ei eiriau mwys ar ei mêl:—
"A welaf mwy ael fy mun,
A thâl fy mhrydferth eilun?"

IV.—Yr Oed.


A llyn oer yn lliniaru
Dan oer sêr ei dyner su,
Y macwy prudd, meudwyaidd,
Hyd ei ro yn araf draidd,
A'i losgwm hael a ysgwyd
O'i wrthol, yn ol ei nwyd.
Ei sang ofalus yngo
O gam i gam a'i dug o
Nes cyrraedd ym mysg corhesg
I'r oed a Rhiain yr Hesg.
Minnau'n ddiystum yno
Wrandewais, edrychais dro,
A chlywed ysgrech lawen
Aderyn hwyr drwy y nen.
Sgrech lawen hwyaden oedd
Yn nofio gwynt y nefoedd.
A'u gweled gyda'u gilydd
Yn dyfod dan gysgod gwŷdd;
Is tresi nos tros y nant
Y ddau fel un ddiflannant.


XXXIV. LLYWELYN WILLIAMS.

O'i godiad siriol hyd ei anterth hardd
Llosgodd ar danbaid hynt, a than ei wên
Tarddai o sobrwydd asbri, fel y tardd
Gorfoledd dyfroedd ar fynyddoedd hen.
Yn arglwydd pob rhadlonrwydd treuliodd glir
Brynhawn brenhinol, hyd nes dyfod awr
Anniddig osteg adar drwy y tir,
A'i roddi yntau i'r cymylau mawr.
Felly, a'i wedd heb lesgedd fel o'r blaen,
Ciliodd heb gilio, ac heb ffoi fe ffodd;
Nes bwrw o'i fachlud, ym mhob tanllyd haen,
Hyawdledd rhyfedd tros y tarth a'i todd:
Cymylog gyntedd ei ddiflaniad llwyr
Ddatganodd ei ogoniant yn yr hwyr.


XXXV. PLYGAIN.

Duon yw brigau'r pren sydd ger fy mron
Ar lwydni'r awyr, llonydd fel mewn llun;
A phell a distaw fel y nef ei hun
Yw'r anweledig agos. Yr awr hon
Gosteg ar osteg orwedd, haen ar haen,
Pan gyffry'r hedydd cynnar yn y brwyn
Fel un wrth geisio canu 'n canu ei gŵyn
Yn llesg, ddigalon. Yna fel o'r blaen
Gosteg dros amser, nes o glwyd gerllaw
Y cyfyd ceiliog ei betrusgar lais;
Seithwaith y cân heb ateb, ac ni chais
Ychwaneg. Ennyd, ac o'r dwyrain draw,
Fel trwst dodrefnwyr drwy gauedig ddôr,
Taranau cyntaf Flandrys tros y môr.


XXXVI. GWYLIADWRIAETH Y NOS.

Distawodd lleisiau'r gwersyll. Drwy'r nos oer
Y biwglwr olaf ar y bryn gerllaw
Chwythodd bob goleu i maes ond goleu'r lloer
A thrydan tanbaid cwrt y carchar draw,
(Lle cwsg rhai estron yn eu celloedd clyd
Ar ol anhunedd hir nosweithiau'r ffos).
Ac o'r disgleirdeb, yn eu hunion bryd,
Lleisiau y gwyliedyddion ar y nos
Alwant adegau'r oriau, un ac un,
O chwarter blin i chwarter. Yr awr hon
Mae'r lluoedd llonydd fel y meirw eu hun,
Oddieithr lle clywir, fel diorffwys dôn,
Anesmwyth drwst cadwyni, lle mae'r meirch
Yn disgwyl am y dydd a'r bore geirch.


XXXVII. GADAEL TIR. 1

Fel un a wrendy dristwch yn yr hesg
Rhwng chwerthin ei gariadferch dan y lloer,
Myfyriaf fyfyrdodau henaint llesg
Cyn dyfod dyddiau blin ei hydref oer.
Heb bylni llygad, ac heb gryndod llaw
Na difi'rwyth barlys, na chaethiwed gwynt,
Ni welaf mwyach yn y pellter draw
Fynyddoedd fy mlynyddoedd megis gynt
Y'u gwelais yn eu harddwch ar yr wybr.
Clafychu mae fy nydd am ddydd a fu,
Can's lle bu llais y durtur uwch fy llwybr
Cyffrous yw llef y cigfrain ar bob tu.
Ai terfysg hafddydd yw, ai storm yr hwyr,
Tragywydd ai tros amser, Duw a ŵyr.


XXXVII. GADAEL TIR. 2.

Pan ddelo'r dydd im roddi cyfrif fry
O'm goruchwyliaeth ar y ddaear lawr,
A dyfod hyd y fan lle clywir rhu
Y môr ar benrhyn tragwyddoldeb mawr;
A llwyr gyffesu llawer llwybyr cam
Mewn mynych grwydro ffol a wybu'm traed,
A phledio'r dydd y'm gwnaed o lwch a fflam,
O gnawd a natur, ac o gig a gwaed;
Odid na ddyry'r Gŵr a garai'r ffridd
Ac erwau'r unigeddau wedi nos,
I un na wybu gariad ond at bridd,
Ryw uffem lonydd, leddf, ar ryw bell rôs,
Lle chwyth atgofus dangnefeddus wynt
Hen gerddi gwesty'r ddaear garodd gynt.


XXXVIII. YR AFLONYDDWR.

Wrth rodio neithiwr clywais lef
Yn mynd a dod hyd wifrau 'r dref,
A wnaeth fy nghalon estron bron
Mor drwm a'r plwm o dan fy mron.

Mi ês o'r neilltu tua'r ddôl
I ddianc rhag fy hiraeth ffôl,
Ond clywais lais rhyw druan llesg
Yn mynd a dod ym mysg yr hesg.

Mi drois yn ol i'm llety gwael,
Ond nid oedd gysur im i'w gael,
Can's yno 'n wylo wrth fy nôr
'Roedd swn mwy trist na swn y môr.

Bydd lonydd, wynt, a phaid a gwneud
Fy nghyni 'n fwy nas gallaf ddweud:
Neu dyro 'n ol y dyddiau pell
Pan genit imi ganiad gwell.


XXXIX. Y DDRAFFT.

Clywi dabyrddau 'n dadwrdd, a thrwy'r rhain
Y drwm sy'n agor drysau seinia'n nês:
Cei wrando'r adar yn y ffliwtiau main
A'r gwenyn yn y fagbib. Utgyrn pres
Utganant, tincia'r symbal, yna'r lleng,
Colofn saethyddion mewn diwyro drefn
Yn camu wrth fesur heibio o reng i reng;
Pob serchog bwn yn clymu am bob cefn,
A thros bob ysgwydd galed y gwn mud
Yn ffroeni'r helfa o bell. O gam i gam,
Y gwych a'r gwachul o bob lliw a phryd,
Rhagddynt y cerddant. Heb na phle na pham
I'w hapwyntiedig hynt y try pob gwedd,—
I Ffrainc, i'r Aifft, i Ganaan, i hir hedd.


XL. MATER MEA.

Pe'm rhoddid innau i orwedd dan y lloer
Yn ddwfn, ddienw, mewn anhysbys rô,
Cofiai fy nghyfaill am ei gyfaill oer
Ar lawer hwyr myfyriol. Yn eu tro
Y telynorion am delynor mud
Diwnient yn dyner ar alarus dant
Wrth gofio 'i nwyd ddiffoddwyd cyn ei phryd,
A'i alaw a ddistawodd ar ei fant.
Ond un yn llewygfeydd gwylfeydd y nos
Ni chaffai ddim hyfrydwch yn ei fri,
Wrth wylo am ddwylo llonydd yn y ffos,
Ar ddwyfron lonydd dros dymhestlog li,
Gan alw drwy'r nos arw ar ei Christ,
Ac ar ei bachgen drwy'r dywarchen drist.


XLI. GORFFWYS.
(O Saesneg J. S. Arkwright).

Arglwydd, O gwêl ein meirw drud,
A derbyn hwy i gôl dy dadol hedd;
I orffwys aethant ennyd fer o'r byd
I'r bedd.

Lanciau ein serch! Tros lyw a gwlad,
Hyd wastadeddau'r dwfn, yn ffeuau'r ffos,
Syrthiasant i ddisymwth gwsg y gâd
Fin nos.

Ychydig orffwys cyn y wawr,
Ychydig lwydwyll dros y llygaid cudd,
Ac yna geilw'r utgorn, mingorn mawr,—
"Mae'n ddydd!


XLII. IN MEMORIAM.

Meddyg.


Gwendid mewn gofid gafodd ei ofal
A'i lafur tra gallodd:
Yntau ei hun a hunodd
Yn yr un man a'r un modd.

Milwr.


Rhoes ei nerth a'i brydferthwch tros ei wlad
Tros aelwydydd heddwch:
Gyfoedion oll, gofidiwch!
Lluniaidd lanc sy'n llonydd lwch.

Morwr.


Y Tom gwylaidd, twymgalon, sy'n aros
Yn hir yn yr eigion:
Mor oer yw'r marw yr awron
Dan li 'r dwr, dan heli 'r dôn.

O ryfedd dorf ddi-derfysg y meirwon
A gwmon yn gymysg!
Parlyrau'r perl, erwau'r pysg
Yw bedd disgleirdeb addysg.


XLIII. HEDD WYN.

1.
Y bardd trwm dan bridd tramor, y dwylaw
Na ddidolir rhagor:
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor!

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, dy rawd
Wedi ei rhedeg hefyd:
Daeth awr i fynd i'th weryd,
A daeth i ben deithio byd.

Tyner yw'r lleuad heno tros fawnog
Trawsfynydd yn dringo:
Tithau'n drist a than dy rô
Ger y Ffos ddu'n gorffwyso.

Trawsfynydd! Tros ei feini trafaeliaist
Ar foelydd Eryri:
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.


2
Ha frodyr! dan hyfrydwch llawer lloer,
Y llanc nac anghofiwch;
Canys mwy trist na thristwch
Fu rhoddi'r llesg fardd i'r llwch.

Garw a gwael fu gyrru o'i gell un addfwyn,
Ac o noddfa'i lyfrgell;
Garw fu rhoi'i bridd i'r briddell,
Mwyaf garw oedd marw ymhell.

Gadael gwaith a gadael gwŷdd, gadael ffridd,
Gadael ffrwd y mynydd;
Gadael dôl a gadael dydd,
A gadael gwyrddion goedydd.

Cadair unig ei drig draw! Ei dwyfraich,
Fel pe'n difrif wrandaw,
Heddiw estyn yn ddistaw
Mewn hedd hir am un ni ddaw.


XLIV. JOHN ALFRED.

Mae'r llong yn hwylio i adael tir,
Mae'r rhaffau hir i ffwrdd;
Mae'r capten prydlon ar y tŵr,
A'r biwglwr ar y bwrdd,

Mordwya'r cwch o dòn i dòn
I dir Iwerddon draw,
Gan gyrraedd harbwr mewn tro byr
Heb frwydyr ac heb fraw.

A churo drwm a chario dryll
Mewn gwersyll yno geir;
A chyda'r gwersi bob yn fis
O ris i ris yr eir.

Pan ddaeth ei dymor byr i ben
Y bachgen wyneb iach
A gaed i gerdded ger eu bron
Yn burion filwr bach.


Mordwya'r cwch o dôn i dòn
Hyd lannau ffrwythlon Ffrainc,
A chlywir nodau lleisiau cryg
Yn cynnyg llawer cainc.

Mae'r maes yn awr yn fawr ei ffrwst
Gan drwst y gynnau draw,
Mae'r bachgen pur na wybu gur
Mewn brwydyr ac mewn braw.

Ond wele'r llong yn ol cyn hir,
A'r rhaffau hir i ffwrdd,
'Roedd capten llawen ar y tŵr,
A biwglwr ar y bwrdd.—

Pa le mae'r bachgen ysgafn droed,
Heb och erioed na chraith
Fu'n mynd a dyfod fel yr hydd
Hyd ochrau'r mynydd maith?

Mae'r bachgen heini, serchog wedd,
Yn gorwedd o dan gŵys,
A'i ddwy droed lonydd a'i ddwy law
Yn ddistaw ac yn ddwys.


XLV. ROBERT EINION.

Wrth glwyfus ddinerth gleifion, wrth y dewr
Aeth i daith y dewrion,
Wrth ysig, friwiedig fron,
Tyner fu Robert Einion.

Ei ddwylo leddfai ddolur y gwr llesg
Ar y llawr didostur:
Llariaidd y'i ceid lle'r oedd cur,
Agosaf gyda'i gysur.

Yntau'r blin, 'rol tair blynedd o roddi
I'r eiddil ymgeledd,
O'r rhuthr hir aeth ar orwedd
Yn Ffrainc mewn di-gyffro hedd.

Ar bwys mur eglwys y'i rhoed i orwedd
Yn arwr ieuengoed;
Yn fab o fro ei faboed,
Ac yn rhwym mewn cynnar oed.

Boed ei hwyrol baderau yn felys
O foliant i'w angau;
Uwch ei lwch boed ei chlychau
Yn llafar oll i'w fawrhau.


XLVI. YSGOLHAIG.

Llednais oedd fel llwydnos haf, llariaidd iawn
Fel lloer ddwys Gorffennaf:
O'r addfwyn yr addfwynaf,
Ac o'r gwŷr y goreu gaf.

Ei wlad ni chadd ei ludw, ond yn Ffrainc,
Dan ei phridd, mae 'nghadw:
Ei gerddi teg roddo 'u tŵ
Ar fyfyriwr fu farw.

Eifionydd a fu inni'n baradwys
O baradwydydd trefi;
O na bae modd im roddi
Dy lwch yn ei heddwch hi!

Fe ddaw'r claf o'i ystafell hyd y maes,
Ond mae un diddichell
Na ry gam, er ei gymell,
Dros y môr o dir sy 'mhell.


Ef a'i Frawd.

Nid fan hon y dwfn hunant, dros y môr
Dyrys maith gorffwysant:
Ond eu cofio 'n gyson gânt
Ar y mynor ym Mhennant.


XLVII. DYSGEDIGION.

1.


O'u meddiant ac o'u moddion, ac o'u dysg
Y'u diosgwyd weithion:
Y ddaear brudd ar eu bron
Gloes eiriau 'r hen Glasuron.

O'u di-allu dywyllwch, ni welant
Na haul na hawddgarwch;
Na'r ser yn eu tynerwch,
Na llewyrch lloer uwch eu llwch.

Na rhywle y môr helaeth, na'i glywed
Ar greigleoedd diffaeth;
Na rhodio tro hyd y traeth,
Na'u llanw o hedd llenyddiaeth.

2.


I Borth y Gest a'i brith gôr o wylain
Ni ddychwela 'i brodor;
Ond aros mae dros y môr
Tragywydd-lonydd lenor.


Obry o ganol bro gynnes y Barri
Fe'i bwriwyd i fynwes
Graean y pridd. Utgyrn pres
Ni thyr hûn athro Hanes.

Druaned ei rieni ar y Garn
Oer ei gwedd o'i golli!
Cydymaith mewn coed imi,
Mwyn ei lais ger Menai li.

3


'Chwithau, nac wylwch weithion eu rhoddi
I golli mewn gwyllon:
Eu gorchest trwy wlad estron
Rwygodd Ddraig y ddaear hon.

Yn oriau 'r hwyr a'u hir hedd, Hiraeth dwys
Wrth ei dân a eistedd;
Oddifewn i'w leddf annedd
Byddant fyw heb iddynt fedd.


XLVIII MAB EI DAD.

Y llynedd gyda'r llanw y tynnodd
Dros y tonnau garw;
Dros ei wlad y rhoes ei lw,
Dros fôr fe droes i farw.

'Leni haedda lonyddwch ei fwyn hûn;
Fan honno mewn heddwch
Ar wely'r llawr treulia'r llwch
Nadolig ei dawelwch.

Dydd Nadolig, 1917.

XLIX. MILWR O FEIRION.

GER ei fron yr afon rêd, dan siarad
Yn siriol wrth fyned:
Ni wrendy ddim, ddim a ddwed,―
Dan y clai nid yw'n clywed.

Ond pridd Cefnddwysarn arno, a daenwyd
Yn dyner iawn trosto;
A daw'r adar i droedio
Oddeutu 'i fedd ato fo.


L. AR GOFADAIL.

O GOFADAIL gofidiau tad a mam!
Tydi mwy drwy'r oesau
Ddysgi ffordd i ddwys goffau
Y rhwyg o golli 'r hogiau.


SYLWADAU.

Rhif.

IV. Yng Nghefnddwysarn y mae Coed y Mynydd Du. Ni welais fro lle mae'r gylfinhir a'r glomen wyllt mor aml.

V.—(1) Gwelwyd yn ymyl copa Mynydd Cwm Dulyn uwch Dyffryn Nantlle. (2) Pan ofynnais i gyfaill a gerddodd bob twll a chongl yn Eryri pa sawl llwynog a welsai ar ei bererindodau, atebodd er fy syndod mai'r unig un a gyfarfu ef oedd un a welodd yn neidio dros glawdd gardd gefn ym mhentref poblog Rachub, ger Bethesda!

VII.-tir y lord: tir Arglwydd Penrhyn.

VIII.-Gelwid "Yr Hen Grown" am mai tir y goron a fuasai'r cwbl o'i dir ar y cyntaf.

XIV. Bydd melys gan Gristnogion. Gan yr awdur hefyd, pan ganiatâ 'i foddion. Ond erys y syndod a'r gresyndod.

XV.—Cyflwynedig i David Thomas, awdur "Y Werin a'i Theyrnas." Druan o feibion Llafur!

XVI.—Druan o'r hen weithwyr hyn eto—Rhyddfrydwyr bob un!

XXIV.—R. Alun Roberts, B.Sc., gynt o Lan y Gors, wedyn o Lanllyfni. Maddeued pobl radlon pentref hynafol imi am y 'mân sôn.' 'Roedd yn rhaid ateb cytseiniaid mynwes hedd,'a phrin y gwnaethai monsoon' y tro!

XXVII.—Gŵyr pob Cymro llengar am gyfraniadau diweddar dad Miss Annie Ffoulkes i lenyddiaeth Cymru.

XXVIII.—(1) Mrs. Dr. Roberts, Gwyddfor, Penygroes. (2) Mrs. John Evan Thomas (Mary Ivey), Penygroes. Nid cyffyrddiad ystrydebol mo'r cyfeiriad a geir yn yr englyn cyntaf. Ym marwolaeth Mrs. Thomas collodd y diweddar fyddar fardd dall Tryfanwy un o'i gyfeillion cywiraf. (3) Mrs. Dr. Owen, Penygroes. (4) Fy modryb, Mrs. D. J. Evans, Newtown. Rhoed hi i orffwys mewn ystorm o eira.

XXIX.—Kate Ellen Rowlands, Tynyfawnog, Talysarn.

XXX.—Frederick Davies, Talysarn.

XXXI.—Cyfieithwyd i Madame Annie Davies Wynne.

XXXIV.—Cyflwynedig i'w gyfaill, W. Garmon Jones. Cyn ei farw, adenillodd Llywelyn Williams y poblogrwydd a gollasai yn ystod y rhyfel. Ond nid ef a newidiodd.

XXXV.—Y mae'r soned hon yn gronicl manwl a chywir o blygain neilltuol yn Essex, ag eithrio seithwaith' y ceiliog. Wythwaith y canodd, heb wybod fod y rhif saith yn fwy ysgrythurol a barddonol, Fel llawer telynegwr arall, canodd bennill yn ormod.

XXXVI.—Amgylchynid carchar yr Ellmyn â mur anhydraidd o drydan, a rhaid oedd i'r gwyliedyddion alw bob hyn a hyn i ddangos eu bod yn effro.

XLI.—Cyfieithwyd erbyn diwrnod agor Neuadd Goffa Gwyr y Gogledd.

XLII.—Meddyg: Dr. Raymond Jones, Llanrhaeadr ym Mochnant. Milwr: Richard Jones, Blaenau Ffestiniog. Morwr: Tom Elwyn, mab y diweddar Barch. S. T. Jones, Rhyl.

XLIII.—Y tro olaf i mi weled Hedd Wyn oedd pan aeth John Morris a minnau o Flaenau Ffestiniog i edrych am dano yn Yr Ysgwrn, ddydd olaf 1913.

XLIV.—John Alfred Griffith, Belle Villa, Talysarn. Cwympodd yn 19eg oed.

XLV. Robert Einion Williams, Warehouse, Penygroes.

XLVI.—Robert Pritehard Evans, M.A., Melin Llecheiddior, Eifionnydd, a'i frawd. Mae beddfaen er cof am danynt ym mynwent Llanfihangel y Pennant.

XLVII.—Thomas Roberts, M.A., Borthygêst, Arfon; Timothy Davies Williams, B.A., Y Barri; Joseph Richard Joseph B.A., Garn Dolbenmaen, Arfon.

XLVIII.—Llywelyn ap Tomos Shankland.

XLIX.—Tom Jones, Cefnddwysarn.

L.—Ym Mhenygroes a Bethesda. Cyflwynedig i'r Uch-gapten Hamlet Roberts, D.S.O., Ceidwadwr a gwladgarwr, o barch i'r ddynoliaeth a ddangosodd tuagat "yr hogiau."



Robt. Evans a'i Fab,
Gwasg y Bala,
1924.



Nodiadau

[golygu]