Neidio i'r cynnwys

Yr Hen Gyrnol/Bugail Lluest Hir

Oddi ar Wicidestun
Richard Evans y crydd Yr Hen Gyrnol

gan Evan Isaac

Twm Peg


VI
BUGAIL LLUEST HIR

"A OES tipyn o hwyl ar y pysgod heddi, Syr?" gofynnai Wmffre Dafydd, Lluest Hir.

"Dim, Wmffre, dim; nid oes codi ynddynt o gwbl ".

"A ga i olwg ar eich plu? O, wel, y ma'r plu'n burion. Y ma llawer ffordd i bysgota, wyddoch, ond 'd oes dim ond un ffordd iawn, a 'chydig sy 'n gwybod honno. Bydd SyrWatcyn a'i ddynion yn dwad i fyny yma weithie, ac yn aros tros y nos, ac os digwydd iddyn nhw ddal nifer go lew o bysgod gwnânt lyn bach yn ymyl y llyn mawr i'w cadw'n fyw hyd y bore, fel y byddan' nhw'n ffres pan fônt yn cychwyn odd 'ma. Fe fydd gan Syr Watcyn y tacle pysgota glana' a weles i yn fy myw, a channoedd ar gannoedd o'r plu gore y gellir eu cael am arian, a 'weles i neb lawer gwell am hudo pysgodyn; y mae'n deall y nac i'r dim. Ma'ch plu chi'n eitha, syr, ond 'dw i'n synnu dim nad ych chi'n dal. 'Wn i ddim a ych chi wedi sylwi bod gwahaniaeth mawr rhwng gŵr bonheddig a phregethwr. Dyletswydd gŵr bonheddig ydi bod yn glyfar ym mhob chware a phob hela i fwynhau 'i hun; 'd oes ganddo ddim byd arall i'w 'neud; ond y ma gan bregethwr ei waith, a'i ddyletswydd ef ydi bod yn glyfar yn hwnnw. Fydda i byth yn hoffi gweld pregethwr yn fwy clyfar gyda chware pêl droed a thrin gwn a gwialen bysgota a phethe felly, na chyda 'i bregethu. Wrth gwrs, y ma'n eitha' i bregethwr chware pêl droed a physgota weithe i gael awyr iach ac i ymarfer ei gorff; ma hynny yn lles i bawb, ac yn ôl y 'sgrythur. Yr w' i'n lico tipyn o flas y mynydd a'r afon ar bregeth. Ond ma 'n dda genny, a dweud y gwir gonest, nad ych chi 'n llawer o law gyda'r wialen, achos ma'r Meistr Mawr wedi dweud mai pysgotwyr dynion ydi pregethwyr i fod. Ond mi licwn i'n arw hefyd i chi gael pysgodyn o'r llyn; ma 'na ddigon ohonynt, a rhai cymaint â samons. 'Rhoswch chi i'r haul fynd i lawr ac iddi fynd yn llwyd dywyll, ac mi fynnwn ni'r brithyll glana' a welsoch chi 'rioed."

Gŵr Lluest Hir yw Wmffre Dafydd. Yno, ar y mynydd, y ganed ac y magwyd ef. Delw y mynydd ar ei gorff, ei feddwl a'i iaith. Tua thrigain oed, ychydig yn hŷn efallai. Nid cwbl debyg i neb a adwaen. Corff mawr, rhyw bump a deg o daldra, mynwes lawn, lydan, ysgwyddau trwm, crwm. Talcen uchel a llyfn, a ffurf pen yn tebygu i eiddo Mynyddog. Gwegil llawn a thrwchus megis eiddo Herber Evans. Wyneb tyner fel gwanwyn; llygaid fel pe'n bygwth chwerthin fynychaf, rhywbeth lleddf, dwys, pell, ynddynt ar brydiau. Wyneb digon tebyg i wyneb İslwyn, ond cryfach gên, lletach genau, a barf grasgoch. Cynefin yr wyneb yw tawelwch y mynydd ar hindda, eithr gwelais ynddo unwaith neu ddwy gynddaredd arswydus ystorm fawr.

Nid adwaenir Wmffre Dafydd fel na bardd na cherddor, na dim arall ond Bugail Lluest Hir. Eithr ni phraw hynny nad oes yn ei enaid ddeunydd cân a phroffwydoliaeth. Yr unig beth a bair imi feddwl na wnâi fardd pes mynnai ydyw, ei synnwyr cyffredin cryf. Bodau anghyffredin o ran synnwyr a doethineb yw'r beirdd mawr; dynion athrylithgar ydynt, ar y llinell derfyn rhwng call ac angall. Sieryd Wmffre'n hwylus â llais dwfn, a'i Gymraeg yn lled loyw a llwythog o arabedd byw a chymen. Yn lluestau diarffordd godre Pumlumon y lleferir y Gymraeg orau heddiw. Anaml y ceir nebo na thref na phentref yn "talu ymweliad " â chartref bugail i holi hanes y mynedol"; ac yn y wlad hon, rhandir bellter o bymtheg milltir o hyd ac ugain ar draws, i'r de o'r hen fynydd, y lleferir tafodiaith orau Cymru, oblegid hi ydyw'r unig dafodiaith a ddeellir gan drigolion pob rhan o'r wlad.

Treuliodd Wmffre'i ddyddiau bore dipyn yn rhydd a gwyllt. Dau blentyn oedd yn Lluest Hir, mab a merch, Bu'r ferch farw pan oedd yn bedair oed, a daethai'r mab yn eilun ei rieni; ac fel y digwydd fynychaf pan addolir plentyn, ef yn fuan ydoedd arglwydd y cartref, a chawsai'i ffordd ei hun ym mhopeth. Tyfu'n wyllt a hanner segur a wnaeth. Ni thybiaf wrth hyn yr arferai feddwi a godinebu a lladrata. Nid oedd cyfleusterau i'r ddau gyntaf ar ben mynydd; anodd myned yn feddwyn heb dafarn, oblegid anfynych y bydd awydd am y drwg a chyfle i'r drwg yn bresennol yr un pryd; ac nid oedd tuedd at yr olaf, am na fu anonestrwydd erioed yn demtasiwn i'r teulu; llafurwyr oeddynt o'r cychwyn, ac anaml y tyf blew ar ddwylo caled. Gwamalrwydd ac iaith fras a herwhela ydoedd pechodau mawr Wmffre. Ar nosweithiau lloer olau a'r eira'n drwch ar y mynyddoedd, âi ef i ddilyn trywydd ysgyfarnog, neu i ddifyrru â'i chwedlau ferched lluest filltiroedd o'i gartref, yn hytrach nag achub y defaid a fai tan y lluwch. Diofal a direidus ydoedd, yn fwy nag anfoesol a llygredig. Eithr pan fu farw 'i dad trodd yntau ddalen, a chymerodd arno ofal y cartref a'r lluest. Bu'n dyner wrth ei fam, ac ofnai i'r gwynt chwythu arni, eithr heneiddio a gwanychu a wnâi'r hen wraig, ac un min nos, meddai hi, "Wmffre, 'ngwas i, well i ti feddwl am rywun, fydda i ddim yma 'n hir". Ar fore o Fai daeth Gwen, Hafod y Mynydd, yn wraig i Wmffre, Lluest Hir.

Parhau'n ddigrefydd ac ysgafn ei fryd a wnâi Wmffre. Nid oedd llawer o ddrwg ynddo, ond llefarai iaith cyn frased ag erioed, a meddylid amdano fel dyn anystyriol. Un diwrnod daeth galw ar y bugeiliaid i ddwyn y defaid crwydr i'r Siêd[1]. Yn y flwyddyn 1905 y bu hyn, a'r Diwygiad yn y wlad. Ni chynhelid y Siêd, fel cynt, ar gyfyl tafarndy, ac nid arferid fel cynt regi a chellwair a chwerthin gwag.

"Synnai Wmffre at y newid, a gofynnodd, "Be sy'n bod, fechgyn?" Yn ateb, trawodd un ganu emyn, torrodd rhywun i weddio, arall i foliannu, ac ymunodd pawb i ganu eilwaith, a bu gorfoledd mawr. Daliwyd Wmffre yntau gan nerthoedd y Diwygiad. Ni bu'n gwbl yr un fath byth wedyn.

Hen dŷ penisel a'i furiau 'n drwchus ydyw Lluest Hir. Saif ar fryncyn llwm ac arno ergyd pob gwynt. Carreg lwyd y rhych sydd yn ei furiau, a llenwir uniad llechi 'i do â chen cryf a llwydwyn. Rhaid ei fod yn gadarn anarferol i ddal mor dda ystormydd canrifoedd. Tŷ dwbl ydyw, â chysur ar ei aelwyd, a rhywbeth arall anodd i'w esbonio a'ch teifl i'r gorffennol at naws ac awyrgylch cartrefi syml ein teidiau; simdde fawr agored, tân mawn ar lawr, bwrdd crwn derw du a chadeiriau derw, pob celficyn yn hen dderw. Mewn cilfan yn y mur sy rhwng y pentan a'r ffenestr, ceir cwpwrdd bach tair—astell yn llawn o lyfrau; yn y gongl dywyll wrth ddrws y cefn y mae hen droell fregus; bachgen bach heb fod yn sicr o'i draed eto, yn chwarae â dau gi defaid tan y bwrdd hir wrth y ffenestr, a hen wraig grych ei chroen â llygaid serch yn ei wylio.

"P'le 'r ych chi, ŵr diarth?" gofynnai Wmffre o'r buarth. Mae'n nosi'n gynnar heno, ac ma rhyw drymder rhyfedd yn yr awyr. 'Rwy 'n ofni bod trane ynddi, neu law; ma 'n well inni sythu am y llyn heb ymdroi; 'dych chi 'n barod: O'r gore. 'N awr am samon o frithyll. Gobeithio'r tad nad oes dim trane ynddi."

"Pam, Wmffre?"

"O, ma'r pysgod yn rhy ddiog i fyta ar drane." Cerddem yn gyflym i gyfeiriad y llyn, cyflym i mi, eithr camai Wmffre'n hamddenol gam mawr bugail, gan daflu 'i goes o'i forddwyd. Ar lan y llyn â'i law ar ei ael, a chan edrych i'r pellterau amgylch ogylch, tynnodd o'i chuddfan tan ei gôb astell â phlwm ar ei gwaelod; cysylltodd â hi linyn pysgota â phlu amryw yn hongian arno, a'i gollwng i'r dŵr.

"Beth yw hwnyna, Wmffre?

"Dyfrgi, syr, dyfrgi, ac ni fu gwell dyfrgi erioed mewn llyn, fel y cewch weld yn y man."

Nofiodd yr astell yn araf, fel bad Arthur Fawr, i'r llyn hyd y llinyn, ac yna, tan bwys awel isel a llesg, troi 'i thrwyn i'r gogledd a nofio eilwaith. Plygodd Wmffre oni ddaliai'r llinyn ar wyneb y dŵr, a chyd-symud â'r astell lwrw 'i ochr fel cranc.

"Cedwch eich golwg i gyfeiriad y Darren Ddu," meddai. "Nid yw'n debyg y daw neb y ffordd hon yr adeg yma o'r dydd, ond gwell bod yn siŵr. Os gwelwch chi rywun, rhowch arwydd."

Cododd yr awel beth, a magodd Wmffre yntau obaith, oblegid aeth wyneb y llyn yn ferw gan fân donnau fyrdd. Symudai'r pysgotwyr, yr astell ac Wmffre, yn araf a thawel, ac aeth heibio bum neu chwe munud, ac yna—ysbonc yn y dŵr.

"Da, 'machgen i, dal d' afel," ebe Wmffre.

Cododd yr ysbonc lawer ar galon Wmffre, a dechreuodd lefaru yn hwylus:

"Y ma 'r Apostol Paul wedi dweud mwy o bethe mawr a da na neb yn y Testament, yn ôl 'y meddwl i, ond y ma ganddo ambell adnod anodd iawn gneud dim byd ohoni—(ysbonc)—da 'ngwas i, paid a gollwng d' afel—a 'dyw 'Drisyn yn rhoi fawr o help i ddyn. 'Dych chi ddim yn synnu mor 'chydig sy gan 'sbonwyr i'w ddweud ar bethe anodd Beibl: 'Wyddwn i fawr am Paul cyn y Diwygiad, ond mi wn ddigon amdano erbyn hyn i ddeall 'i fod e wedi sgrifennu toreth o bethe tywyll. A ych chi 'n meddwl 'i fod e 'n iawn ym mhopeth a 'wedodd e? Dyna i chi adnod ryfedd iawn i 'n hoes ni,—' Ymddarostynged pob enaid i'r awdurdode—(ysbonc)— da, fachgen, tri yw hwnna, ynte?— goruchel'. Pwy 'dych 'n feddwl yw rheina,—y brenin a Syr Watcyn a Lloyd George — canys nid oes awdurdod ond— (ysbonc), da 'ngwas i, dal ati; dyna 'r samon, mi 'na lw, ond gan Dduw, a'r awdurdode y sydd gan—(ysbonc)—dyna bump myn gafr i. Efalle bod yn well inni dynnu i mewn yn awr; y mae 'n dechrau twllu."

Tynnwyd y llinyn i dir yn araf a gofalus.

Un, dau—pedwar—ie, dyma 'r samon, ac os nad yw hwn yn troi tri phwys mi golla i f' enw fel pwyswr defaid. Go lew ni, ynte?

Ie, Wmffre; ond pa enw a roddir ar eich gwaith heno, onid potsio?

"Fe awn am damed o swper 'n awr, syr—'dych chi 'n hoff o bysgod:—a thrin diwinyddieth wedyn. Pump! Go dda ni."

Eisteddem o boptu 'r tân mawn, Wmffre a minnau. Aethai Mari Hughes, yr hen wraig a ofalai am y tŷ a'r llanc bach, i orffwys tros y nos ers peth amser. Dechreuwyd mygu ac ymgomio. Soniwyd am ddiadelloedd y lluest, am ymweliadau Syr Watcyn, ac am y cymdogion agosaf, er nad oedd llawer o'r rhain i sôn amdanynt, oblegid nid oes dyddyn nes na dwy filltir i'r Lluest Hir. Llefarai Wmffre'n hamddenol, eithr teimlwn nad oedd ar ei orau, a thybiwn y byddai'n fwy rhydd a gwresog pe ceid ymddiddan ar ei grefydd newydd, ac yr oeddwn yn gywir. Trodd yn fuan i sôn am y Diwygiad.

Be ydi 'ch barn chi, syr, am y Diwygiad: Y ma rhai dweud nad oedd e' ddim byd mwy na gallu yn dyn, dim ond bod teimlade naturiol dynion wedi 'u cynhyrfu. Mi ddarllenes i mewn rhyw bapur newydd mai peth yn perthyn i dymer y Cymry oedd e, a dim byd arall, a bod pethe 'r un fath yn union yn digwydd yn ddigon amal ym mhlith llwythe anwaredd, fod rheini yn canu a dawnsio am orie a chynhyrfu 'u teimlade, fel y galle rhywun feddwl 'u bod nhw 'n reit feddw. 'Dych chi 'n meddwl bod rhywbeth yn y 'sboniad yna, syr?

"Y mae 'n anodd gwybod, Wmffre, fe ddylai dyn fod yn ofalus iawn gyda pheth mor fawr a dieithr, ac yn hwyrfrydig i fwrw barn arno, yn arbennig oni fydd wedi 'i ddal gan y nerthoedd a deimlwyd gan eraill."

Dyna marn inne; ma 'n rhaid teimlo'r peth. 'R ydw i wedi sylwi droeon mai'r sawl na theimlodd ddim ohono, ac na theimlodd ddim gwerth sôn amdano oddi wrth wir grefydd erioed, sydd yn 'i farnu e dryma' a'i gondemnio fwya'. Mi fydda' i'n arfer meddwl ma' 'r ddau ddosbarth a dderbyniodd y lles mwya' trwy'r Diwygiad oedd y dynion sala' yn yr eglwys a'r dynion gore yn y byd. 'Wn i ddim 'dych chi'n 'nilyn i ai peidio, syr. Y peth 'dw i'n feddwl ydi hyn,—yr oedd yna wmbredd o ddynion yn yr eglwysi nad oedden' nhw fawr o werth i neb, rhyw aelode ofnus, yn meddwl amdanyn' nhw'u hunen o hyd; dynion wedi'u hachub, cofiwch; 'dw i ddim yn meddwl dweud nad oedd ganddyn nhw beth ffydd yn Nuw, ond 'd oedd ganddyn' nhw ddim ffydd ynddyn'u hunen, a ma 'n rhaid i ddyn gael tipyn o ffydd ynddo 'i hun cyn gneud dim byd gwerth ei 'neud. Yr oedd yn yr eglwysi lawer iawn o rai rhy nerfus ac ofnus i 'neud dim yn y cyrdde, a fe 'nath y Diwygiad les anferth i'r rheini, mi taflodd nhw i'r dŵr, a mi deimlon' nhwthe y medrent nofio, a ma' nhw'n nofio byth wedyn; peth mawr yw hyder. Dyna i chi ddosbarth arall—dynion diddrwg a didda yn y byd. 'Fedrwch chi ddim dweud 'u bod nhw wedi'u hachub, a fedrwch chi ddim dweud bod llawer o ddrwg ynddyn nhw chwaith; dynion gonest, byth yn meddwi, ac yn ddigon caredig, ond bod nhw'n ddidaro ac yn ddifeddwl am bethe 'u heneidie. Mi fydda' i'n meddwl bod pob Diwygiad rial yn cyrredd cyrre bywyd. Dyna hanes ein teulu ni erioed rhai ar y cyrre—a Diwygiade a'u daliodd bron i gyd. Mi glywes fod 'nhadcu mewn tipyn o oed pan gadd e grefydd. Yn ffordd y byd o edrych ar bethe, ni fu e 'rioed yn ddyn drwg, a 'doedd fawr o eisie crefydd arno. 'Welodd neb e 'n feddw, 'roedd e 'n un o'r bugeilied gore ar stad Syr Watcyn, a mi fedre gario dime ar 'i law trwy bob ffair a marchnad yng Nghymru. Yn Niwygiad Beddgelert y cadd e e 'i achub. Un o blant Diwygiad Wmffre Jones a Dafydd Morgan yn '59 oedd nhad, ac mi ddath mor debyg i nhadcu a phetai wedi 'i boeri. A dyma finne, y llai na 'r lleia', wedi 'nal yn Niwygiad 1904. Mi fase 'n dywyll fel y fagddu ar ein teulu ni, a phawb sy 'n byw ar y cyrre, onibai am Ddiwygiade. 'Wn i fawr am eich enwad chi, syr. 'Gadd e lawer o'r Diwygiad?

Do, dipyn, Wmffre, eithr nid cymaint â'r Methodistiaid Calfinaidd."

"Ma' nhw'n dweud bod gennych chi bregethwyr campus. Ma John Evans, Eglwysbach, wedi marw, ond yw e? Dyna bregethwr! Champion! Piti garw iddo farw mor gynnar. Mi clywes i e unwaith, a chlywes i ddim byd tebyg cynt na chwedyn. Mi gredes yn 'y nghalon fod Diwygiad yn dwad fel cawod o law trane y noson honno. Ond 'dydi pob pregethwr sy gennych chithe ddim i fyny â'r Eglwys— bach. 'Rwy'n cofio 'mod i yn nhre Llaniwan unwaith, a diwrnod ffair oedd hi. 'Doedd dim llawer o fynd ar y defed, a methes inne â gwerthu y rhai oedd genny hyd ymhell yn y prynhawn, ac aeth yn rhy hwyr imi fynd adre. Gorfu i Huw'r Foel a finne letya mewn tŷ tafarn o'r enw Bliw Bel—'doedd yr un tŷ dirwest yn y dre yn rhoi lle i bobol gysgu. Wel, i chi, min nos dyna wraig y tŷ yn dweud bod cwrdd mawr y Wesles yn dechre 'r noson honno, a mi ath Huw a finne i'r capel. Dyn rhwydd ifanc ath ati gynta', a 'fedrwn i yn fy myw 'neud fawr ohono. 'Roedd 'i bregeth e 'n gymysg o Gymraeg a Saesneg; mi gymera fy llw iddo ddyfynnu pymtheg neu ugen o bethe a ddywedodd beirdd a 'sgleigion Saesneg, a 'r oedd e 'n cadw 'i gadach poced yn llawes 'i gôt, a dyna lle 'roedd e yn brathu 'i law ar ôl y cadach bob rhyw ddau neu dri munud, ac yn 'i godi e i gyfeiriad 'i ffroene, ond cyn 'u cyrredd nhw, brathai e 'n ôl wedyn. Dyna fel y bu e trwy 'r bregeth. 'Wn i ddim be oedd yn galw am yr holl gamocs, achos 'roedd ganddo ddwy boced y tu allan i'w gôt, ac un neu ddwy arall y tu mewn, mi wn. Rhwng y Saesneg a'r tricie gyda'r cadach poced 'ches i ddim moddion gras yn y bregeth. Wedi casglu, dyna ganu emyn, a'r ail ar 'i drad; ac, ebe fi, yn ddistaw bach wrth fy hun, bendith ar ben y dyn a ddyfeisiodd ddwy bregeth mewn un oedfa, tybed na cha'i rywbeth i'm henaid gan hwn. Ond mi weles yn fuan nad oedd fawr obeth. 'Doedd y Saesneg na'r cadach poced yn blino dim ar hwn, ond 'roedd rhywbeth od aflawen ar 'i Gymraeg ynte. 'Roedd e 'n pydru arni 'n filen anarferol, ac yn gwthio rhyw bethe a alwai yn 'awdur' a' math ar' i bob brawddeg bron, a 'roedd e 'n maglu 'n amal gyda'r math ar hwnnw. Wel, i chi, ar ôl bod wrthi am ryw ugen munud fe boethodd 'i wad e ac aeth i hwyl danllyd, ac yn yr hwyl fe ddihangodd yr awdur' a'r math ar' am 'u bywyd.

"Ar ôl swper, meddai Huw 'r Foel—ma Huw yn ifanc ac yn dipyn o 'sglaig— Be 'dych chi'n feddwl o'r pregethu, Wmffre? Meddwl 'rydw i' ebe fi, ma nid pethe fel 'na sy 'n mynd i achub y byd. Be oedd arnyn' nhw, dywed?' 'O, wel,' meddai Huw, yr oedd y cynta' am inni feddwl 'i fod e 'n 'sglaig ac yn ddarllenwr mawr, ac yn reit gyfarwydd â gweithe 'r dynion mawr i gyd; ond fe 'i misiodd hi. 'Wn i ddim a sylwoch chi; wedi dysgu ar 'i dafod ryw bytie o Saesneg 'r oedd e, ac yn 'u hadrodd fel parot. Pam gebyst na fase 'r ffolyn yn dyfynnu beirdd a 'sgleigion 'i wlad a'i iaith ei hun? Mi fase pawb yn deall rheini, a mi fase yntau yn medru 'u dweud nhw 'n well. Am yr ail bregethwr, dysgu Cymraeg y ma hwnnw. Mi glywes fod 'sglaig da yn yr enwad wedi cyhoeddi ysgrife a llyfre ar yr iaith Gymraeg i wella iaith pregethwyr a phobol erill hefyd, a bendith ar 'i ben e 'weda i, ma digon o eisie, os ydi pawb mor ddrwg eu hiaith a'n pregethwyr ni. Practeisio mewn Cymraeg yr oedd yr ail bregethwr; ond yn ôl 'y meddwl i ni ddyle neb bracteisio mewn iaith na dim arall yn y pulpud. Petase pregethwyr yn meddwl y gallase fod yn yr oedfa rywun a fydde yn nhragwyddoldeb bore trannoeth ni fasent yn cyboli gyda phethe fel 'math ar' ac' awdur'. 'Dyna 'sponiad Huw; ac y mae 'n siŵr o fod yn llygad 'i le. Y ma' llawer o bethe tebyg iawn i bechode yn cael'u gneud a'u dweud ym mhulpude'r wlad 'ma."

Dych chi ddim yn 'i theimlo hi'n drymedd iawn heno, Syr: 'Fath olwg sydd allan, tybed? 'Wyddoch chi beth, ma 'r awyr cyn ddued â'r fagddu; mi gawn storom, gewch weld, a synnwn i ddim nad yw hi ar dorri hefyd."

Cynefin mynyddoedd Lluest Hir yw heddwch; eithr y nos honno ymddangosent yn wyllt a bygythiol. Bu ystorm yn casglu ei nerthoedd ynghyd er yn gynnar y prynhawn, a disgynnodd pryder ac ofn ar bopeth. Llechodd y defaid ym môn cloddiau, a chiliodd y cŵn i gonglau 'r ysgubor. Fflachiad a tharan, ac yna, glaw mawr. Rhuai'r ystorm mewn balchder a chynddaredd a chrynai'r llyn islaw. Parhaodd ddwy awr. Peidiodd y mellt, a chiliodd y taranau i'r pellter a distewi. Brefodd y defaid ar ei gilydd, a chododd y cŵn o'r ysgubor.

Dyna i chi storom, Syr!" ebe Wmffre.

Ar noson fel heno y daeth Edwin yma. 'Roedd hi beth yn gynt ar y flwyddyn na hyn, ac y ma tros ddeng mlynedd er hynny; rhyfedd fel y rhed amser! 'Roedd Gwen, coffa da amdani, yn fyw y pryd hwnnw. Rhuai 'r storm a disgynnai glaw mawr'r un fath â heno 'n union, a ninne 'n eiste'n ofnus a distaw wrth y tân. Ar ôl i'r storom ddistewi dyna 'r cŵn yn cyfarth fel pethe cynddeiriog. 'Be sy 'na, tybed?' gofynnai Gwen. Mi es allan i weld, a dyna'r ddau gi yn rhuthro o 'mlaen i gyfeiriad clwyd y Cae Bach, ac yno, yn sypyn anniben ar lawr, 'roedd rhyw greadur o ddyn. Gwaeddais ar Gwen am ddŵad â gole. Gwelem mai hogyn tua deunaw oed oedd yno, yn edrych fel corff, wedi 'i guro gan y storom yn fwy na hanner marw. Cariwyd ef i'r tŷ, ac aeth Gwen ati i ferwi llaeth enwyn a rosmari ynddo. Gwnaed tân mawr a rhoddi 'r hogyn mewn gwrthban i orwedd ar wely milgi[2], a bûm inne yn 'i wylio trwy 'r nos. Pan ddaeth e ato 'i hun, cawsom beth o 'i hanes. Bachgen o'r wlad isa' oedd e, wedi 'i ddal yn potsio a chymryd 'i drad. Pan ddealles hynny, mi gymes ato mewn wincad. 'Roedd gen i ar y pryd ddigon o waith i ddau ar y lluest 'ma, a mi cadwes e dipyn, ac yma y bu e byth. 'Doedd ar fynydd na dôl well hogyn nag Edwin. 'Roedd e 'n dipyn o fardd, ac yn darllen toreth—'i lyfre ef yw rhein a welwch chi yn y cwpwrdd bach. 'Roedd pawb yn 'i nabod e, ac yn 'i barchu e hefyd, achos 'welodd neb e erioed tra bu e yma yn poeri ar 'i bilyn. Yn 1913, mi gymrodd Luned, y Foel, yn wraig, a daeth â hi yma. Yr oedden ni 'n tri mor hapus â'r gog, a llond tŷ o ganu, a 'chlywodd yr hen fynyddoedd yma erioed gymaint o ganu, a chanu mor felys, ag a glywsent hirnos gaea' gan Edwin a Luned yn Lluest Hir. Ond, ond, disgynnodd arnom felltith y byd—daeth y Rhyfel Mawr, a galw ar Edwin, druan. Dyna ben ar bopeth yma, syr: caeodd y nos am y Lluest, a pheidiodd y canu; ni ddaeth gwawr mwyach, ac ofnaf na ddaw byth mwy. Rhyw fore, ymhen tua blwyddyn, daeth imi lythyr o Swyddfa 'r Rhyfel, yn dweud bod Edwin ar goll. Yn fuan wedyn cefais air oddi wrth filwr caredig yn dweud ei fod gydag ef hyd y diwedd, a gweled ei gladdu yn naear Canaan.

"Torrodd Luned 'i chalon, gwywodd fel rhosyn, ac aeth at Edwin i wlad nad oes ymladd ynddi. Eu plentyn hwy ydi'r hogyn bach sydd yma. "Trwy ddirgel ffyrdd", Syr. Rhoes Duw Ddiwygiad i'm gwneud yn gymwys i fagu'r un bach."

Nodiadau

[golygu]
  1. Siêd, o Escheat, di-arddel, fforfed. Defaid siêd.
  2. Hearthrug.