Neidio i'r cynnwys

Yr Hen Gyrnol/Huw Llywarch

Oddi ar Wicidestun
Twm Peg Yr Hen Gyrnol

gan Evan Isaac


VIII
HUW LLYWARCH

ADNABUM Huw Llywarch am ugain mlynedd cyn i'r ffaith fy nharo na welais erioed ei debyg—ugain mlynedd heb feddwl unwaith nad oedd yn debyg i neb. Dichon na thybiwn ef yn ddigon pwysig i'w gymharu ag eraill, neu efallai nad oedd yn annhebyg i eraill ar hyd yr ugain mlynedd, ac mai datblygu'n araf i'r annhebygrwydd a wnaeth. Tueddir fi i gredu mai'r syniad olaf o'r ddau yw'r esboniad. Y mae'n bosibl ei eni yn debyg i eraill, a'i fod yn debyg i amryw ar ddechrau fy adnabyddiaeth ohono, eithr datblygu ohono tan fy nwylo yn annhebyg i bawb. Y mae'r peth yn ddiddorol ac yn werth ei ddyfalu allan, ond yn ormod gorchwyl i'w olrhain wrth fynd heibio fel hyn; rhaid aros uwch ei ben. Ond y ffaith ydyw, mai'n sydyn y trawodd y peth fi; a phrynhawn Sul oedd hi.

O ran y dyn oddi allan', yn gorff a gwisg, safai ar ei ben ei hun. Dyn tal a syth heb wns o gnawd diddefnydd arno, ac ni theimlodd erioed fod ganddo nerfau. Yr oedd ei wallt yn drwchus a chryf a chyn ddued â muchudd, talcen llydan a chul, ei aeliau crych yn cyfarfod â'i gilydd, llygaid o faint cymedrol ac yn edrych yn syth. Ni welais ef erioed yn troi'i lygaid lwrw'i ochr; os byddai gofyn troi, troai ei holl gorff, ac edrych yn syth. Nid oedd dim creulon yn y llygaid, ond ceid ynddynt haen denau o ddur bob amser, hyd yn oed pan wnâi yr hyn oedd agosaf iddo ef at chwerthin. Nid wyf yn bwrw na fedrai Huw chwerthin pe ceid digon o achos i hynny, eithr credaf na châi ef mewn dim reswm tros dorri ar ei arfer. Y pwynt uchaf a gyrhaeddai ydoedd math ar wên ddiflas a thrahaus yn awgrymu tosturi wrth y sawl a chwarddai.

Byddai'i wisg o ddefnydd caled a thrwchus, ac o liw rhwng tywyll a golau, ac ni chyfnewidiai gyda'r hin; haf a gaeaf, poeth ac oer, yr un defnydd ydoedd, defnydd da a chaled, ac oherwydd hynny yn araf yr heneiddiai.

Ond yr oedd ei brif neilltuolrwydd, y peth a'i gwahaniaethai oddi wrth bawb a'i osod ar ei ben ei hun, yn ei ysbryd, neu'r peth a breswyliai yn ei gorff, ac nid yn ei ymddangosiad. Dywedaf y peth a bres—wyliai yn ei gorff, oherwydd teimlo ohonof ar brydiau na pherthynai greddfau cyffredin enaid iddo. Pa bethau bynnag a oedd yn eiddo cynhenid iddo, gweithiwyd y cwbl yn raddol gan ddylanwadau oddi allan, ac ynni meddwl, i un nwyd neu reddf fawr a lywodraethai ar ei holl bersonoliaeth—nwyd neu reddf casglu, a chasglu aur yn arbennig. Nid cybydd mohono, eithr un ag ynni holl reddfau'i natur wedi llifo i un nwyd.

Byddai'n anodd taro ar fro brydferthach na'r un y ceir Bryn Bedw, cartref Huw Llywarch, ynddi. Y mae Cwm-y-Nant-Lefn gerllaw, ac nid oes ddim o'i faint yng Nghymru cyn llawned o ramant. Eithr ni theimlai ac ni welai Huw ogoniant Natur. Un llygad oedd i'w enaid, a hwnnw wedi ei ddysgu i fod yn ddall at bopeth ond golud; nid oedd iddo ond un nwyd fawr a chref a didrugaredd a dorrai ar draws a thrwy bopeth at ei nod.

"A wyddoch chwi beth, Huw Llywarch," meddwn wrtho ryw dro, "chwi ddylech fyw yn ddedwydd iawn mewn lle fel hwn; ni welais yn fy myw olygfa harddach. Y mae'r cerddin tan eu blodau, a daw'r criafol melyn a choch yn y man, a thlysed drain gwynion y perthi yma. Sylwch ar y bedw draw yn ymyl plas Bro'r Drain; mor fonheddig ydynt a'r haul yn chwarae yn eu manddail—clywch ganu'r adar!" "Twt, twt," meddai Huw, " y mae'r lle yn burion i ddyn ar 'i ore, ond 'chewch chi ddim o'r tir yma ond a roddwch ynddo."

Saif y tyddyn ar benelin i'r ffordd sydd yn arwain i'r Cwm, ac yno tan y coed rhed y nant yn llyfn a thawel. O droi i'r aswy culhâ'r cwm a thywys am ddwy filltir hyd at raeadr mawr ac ysblennydd. O boptu ymgyfyd mynyddoedd mwy unionsyth na dim a welais yn unman, a gwisgir hwy o'u godre i'w brig â phrysglwyni a choed. Dywaid rhai nad oes yng Nghymru ddim mor debyg i olygfeydd Switzerland â'r ddwy filltir hyn.

Onid yw'r hen gwm yma'n rhamantus, Huw? 'Rhamantus, yn wir!" meddai ef. " Gair go fawr am beth mor sâl. Ni weles i fwy o wastraff yn fy mywyd. Dyma i chi'r hen afon ddiog yma, yn ymlusgo fel hyn o ddechre'r flwyddyn i'w diwedd i ddim yn y byd. Be 'di 'r holl ddŵr 'ma da? 'D oes 'ma'r un felin na phandy na pheth o'i chychwyn i Ddyfi. A dyma'r hen fynydde 'ma. Be oedd ym meddwl y Crewr pan 'nath e rhain, tybed? Ddyn bach, 'dydi nhw dda i ddim mor bell ag y gwela i; ma nhw'n rhy syth i ddefed 'u dringo nhw pe bai arnynt borfa; ac am y coed, 'thalen' nhw ddim am 'u torri, coed bedw a chriafol, ac ambell bren derw byr yn geincie o'i fôn. Gwastraff i gyd yn ôl 'y meddwl i." Nid oedd yn Huw Llywarch fymryn o na dychymyg nac afiaith. Cymerai bopeth a welai ac a glywai fel y byddai ar yr wyneb. Pe darllenid iddo un o lyfrau Daniel Owen—ni fedrai Huw ddarllen gair nac ysgrifennu dim ond ei enw, a thrwy drafferth fawr y dysgwyd ef i ysgrifennu "Huw Llywarch", fel y gallai' signio cheques a phapure ynglŷn â'r plwy'—ie, pe darllenid iddo un o lyfrau Daniel Owen fe'i hystyriai yn llawn o gelwyddau. Pan oedd yn blentyn ni orfodwyd ef i fynychu nac ysgol bob dydd nag ysgol Sul oherwydd man diarffordd a phell ei gartref. Llindagwyd yn eu mabandod ddychymyg ac arabedd Huw, a phob nodwedd ddynol arall, gan ei nwyd fawr. Y mae'n amhosibl cymdeithasu â pherson nad oes iddo na dychymyg na donioldeb, a threth drom a diflas ydoedd bod yng nghwmni Huw Llywarch oni fyddai eraill yno i gytuno i'w boeni oherwydd ei hynodrwydd. Gwneid hynny'n fynych trwy adrodd pethau chwithig ac anhygoel wrtho.

Pan gollai ddefaid o'i fferm âi i'r Siêd ar arch y Sietwr i geisio'r colledig. Dwg y bugeiliaid, am gylch eang, y defaid crwydr i'r Siêd fel y caffo'r sawl a'u collodd gyfle i hawlio'u heiddo. Bydd y dydd yn fath ar wyl i bob bugail; ceir tipyn o gwrw i'w yfed, daw holl hanes y mynyddoedd gerbron, a bydd miri mawr, a phan geir yno un fel Huw heb fawr o ddawn i weled y digrif a'r eithafol, try rhywun neu'i gilydd i ddychmygu stori i'w boeni a'i gynhyrfu. Un tro, a Huw yno, adroddodd Rhysyn, Lluest Oer, ran o'i brofiad yn Llundain pan ymwelodd â Ned ei fab sy'n cadw Wac Laeth'.

"Y fantes fwya i ddyn, ac i ddyn o fugel yn arbennig," meddai Rhysyn, "ydi mynd i un o'r trefydd mawr i weld y byd".

"Gweld y byd mewn tre!" meddai Owen Parri. "Ma hynny'r un fath â phe bait yn sôn am roi'r hen sir 'ma yn Lluest Oer. Y byd mewn tre! Rhaid i ti siarad sens, Rhys."

"Y mae'n eitha clir, Owen, na fuost ti erioed mewn tre fawr, neu os buost ti, 'nest ti fawr o ddefnydd o dy lyged yno. Y ma'r peth a ddywedes i yn 'i le; mewn tre fawr, digon mawr i fod yn ddinas, mi gei'r byd i gyd, gydag ychydig o eithriade. Meddylia di am unrhyw beth a ddaw i dy ben di, ac mi cei e mewn dinas. 'Wyddost ti am rywbeth mewn siop neu ar fferm, mewn pentre neu dre neu wlad, na chei di mono mewn dinas? Y ma 'na eithriade, un neu ddau; er enghraifft, 'chei di ddim mynydd yno, ond mi gei bopeth sydd ar fynydd. Mi 'weda i eto; mi gei'r byd i gyd, gydag eithriade, mewn dinas; ac mi 'weda ragor, mi gei fwy o fyd arall mewn dinas nag yn unman.

"Gyda'th gennad, Rhys," meddai Ifan Ifans, "'dw i ddim am dorri ar dy sgwrs di, ond ffor' wyt ti'n gneud allan bod mwy o'r byd a ddaw mewn dinas nag yn unman arall?"

"Fel hyn yn union, Ifan. 'R wyt ti'n byw yn ymyl capel Methodus, onid wyt ti? O'r gore; mi fyddin mynd iddo weithe, mi wn, a ma'n debyg i ti glywed rhyw bregethwr neu'i gilydd yn sôn mai pethe i'w datguddio ac nid i'w chwilio allan yw pethe byd arall, hynny yw, nid pethe i'w cyrredd trwy allu dyn ydyn' nhw, ond pethe i'w derbyn oddi uchod. 'R wyt yn credu hynny O'r gore. Yn awr, dyma 'weda i, mi gei fod pob gwybodaeth newydd o fyd arall—mi wyddost, wrth gwrs, na stopiodd datguddio ddim am byth pan sgrifennwyd gair ola'r Testament: O'r gore. Ie, dyma 'weda i—mi gei fod pob gwybodaeth newydd o fyd arall yn dwad yn gynta', fel rheol, trwy ddinasoedd. Y ma pethe wedi newid o'r hyn oedden' nhw yn yr hen amseroedd pan oedd y byd arall yn dŵad i'r byd yma trwy fugeiliaid a phentrefi; 'ddaw e ddim mwyach ond trwy 'sgleigion a dinasoedd.

"Un min nos pan own i yn Llundain, medde Ned fy mab, Nhad, a glywsoch chi erioed am ysbrydegieth?' 'Ysbrydegieth!' meddwn i, 'be 'di hwnnw, dywed?' A dyna fe'n egluro'r peth ar 'i union, ac yn dweud,' Mi af â chi heno i le y gellwch gael sgwrs â rhai sy wedi marw ers blynydde, fficsiwch ar rywun y basech yn leico cael gair ganddo '. Wedi cysidro tipyn mi fficses yn 'y meddwl ar Wil, Lluest Lom, coffa da amdano. Mi wyddoch i gyd am Spot, Lluest Lom; 'doedd dim gwell ci defed bod na Spot, ond 'i fod e 'n cymryd arno weithe pan elwid arno nad oedd e ddim yn clywed, a mi wyddoch yn burion mor greulon y trinie Wil e ar adege felly. Wel, dyna Ned a finne yn y lle, a rhywun yn gofyn yn Saesneg pwy own i am gael, bod y Cyfrwng yn barod. Cymro,' ebe Ned. Cymro o'r enw Wil, Lluest Lom'. 'Reit iw âr,' ebe 'r dyn. A dyna'r Cyfrwng yn dechre ymysgwyd, ac wedyn, sythu a stiffio, a—wel, marw; neu a siarad yn fanwl, aeth fel petai hi'n dianc allan o'i chorff, ac yn y fan dyna Wil yn llefaru drwyddi Gymraeg glân gloyw gymaint fyth, ond bod 'i lais e wedi altro'n arw. Wrth gwrs, 'doedd dim dowt nad Wil oedd wrthi, mi wyddwn hynny oddi wrth y pethe a ddywede. Holes dipyn o'i hanes yn ei fyd newydd, ac atebe yntau; ond 'doedd e ddim mor dafodrydd ag y bydde fe yma, rhyw blycio siarad yr oedd. Gofynnes pa fath le oedd ganddo. Gwell na'r disgwyl,' ebe fe, ond nid lle sydd 'ma, Rhys, lleoedd, 'y machgen i, a llawer ohonyn' nhw. Y ma dyn yn cychwyn mewn lle digon tebyg i'r ddaear, ond bod y tywydd a phethe eraill yn well, ac yna mynd ymlaen ac yn uwch, ac ymlaen wedyn, ac ymlaen o hyd, a'r lleoedd yn gwella bob cynnig, wrth gwrs. Hynny yw, y ma dyn yn gweld 'u bod nhw wrth gwrs ar ôl dŵad yma. Y ma llawer o rwystre i symud ymlaen, ac y ma 'r rhwystre i gyd o fywyd dyn ar y ddaear, wedi cyrredd yma o'i flaen. Y rhwystr mwya' a ges i i symud o'r stad gynta' oedd Spot, yr hen gi. Mi synnes 'i weld e, yr oedd e lond 'i groen a'i flewyn fel sidan, a golwg annibynnol a thipyn yn filen arno, ac mi rodd ar ddeall imi ar unwaith nad oedd dim symud ymlaen i fod heb imi roi ymddiheuriad clir ac ar goedd iddo ef am y modd y trinies i e ar y ddaear, a mi . . .

Neidiodd Huw Llywarch ar ei draed â mellt yn ei lygaid a tharanau yn ei lais. "Ddyn ofnadwy," meddai Huw, meddylia be wyt ti'n ddweud. Y byd a ddaw yn debyg i'r ddaear, a chŵn defed yn byw yn y nefoedd! 'Chlywais i 'rioed shwn beth fy mywyd. Oes arnat ti ddim ofan i farn dy daro di?"

"Paid â gwylltio, Huw," meddai Owen Parri, y ma Rhysyn yn llygad 'i le, achos y ma dynion mawr a dysgedig fel Syr Olfer Lodge yn dysgu'r pethe yna i gyd."

Ddynion y felltith," meddai Huw, 'd yw hi ddim yn saff i fod yn ych plith. Sôn am farn; 'd yw e ryfedd yn y byd bod clafr ar y defed, a'r ŵyn yn trigo a phopeth yn mynd o chwith. Arswyd y byd; cŵn defed yn y nefoedd! 'D yw hi ddim yn saff— 'r wy'n mynd.'

Ymaith ag ef â'i ben yn y gwynt fel carw o flaen cŵn, ac yna, chwerthin mawr yn y Siêd, a Rhysyn Lluest Oer, tan wenu'n foddhaus trwy fwg ei dybaco, yn dywedyd, "Wel, wel, ma llawer math ohonom yn y byd 'ma".

Na, nid oedd Huw Llywarch yr un fath â dynion eraill. Ni pherthynai iddo na bai na rhinwedd; dim ond y bai o ddatblygu i'r hyn ydoedd. Yr oedd nwydau corff a amlygir trwy arferion anfoesol mewn eraill, ac egnion ysbryd a ddatguddir yn gyffredin mewn atgasedd a dial, ac mewn tynerwch a charedigrwydd, wedi eu toddi'n un a llifo'n ffrwd gref a sefydlog i'r un nwyd fawr a lywodraethai ar ei holl fywyd. Gwnâi bethau a ystyrir yn gymwynasgar a phethau eraill a ystyrir yn angharedig; eithr ni theimlai ef eu bod felly, ac nid oes na rhinwedd na bai yn y pethau hyn oni fydd bwriad ynddynt.

Ie, yn sydyn y trawodd y ffaith fi na welais erioed ei debyg, a phrynhawn Sul ydoedd. Eisteddwn ar aelwyd Bryn Bedw a gweled ar fwrdd y ffenestr ddwy gyfrol newydd o Weithiau Ceiriog mewn rhwymiad lledr ysblennydd. A minnau'n gwybod na wyddai Huw air ar lyfr, synnais eu gweled, a gofynnais ym mha le y prynodd hwy. "Eu prynu!" ebe fe, 'Phrynais i monynt; rhyw hen ddyn bach a'u hanfonodd yma." Adroddodd yr hanes.

'Rhyw nos Sul yn y gaea' diwetha, gan nad oedd genny ddim byd i'w 'neud, mi es i'r gwely dipyn yn gynnar rhag llosgi glo a gole, ac mi gysges yn fuan ac yn drwm fel y bydda'i 'n arfer; 'd oes genny ddim amynedd gyda dynion sydd yn dweud 'u bod nhw'n methu â chysgu; 'drychwch ar y 'nifeilied fel ma' nhw'n cysgu; pe base cydwybode dynion mor dawel a chydwybode 'nifeilied mi gysgen' nhwythe hefyd. Wel, i chi, yn sydyn, dyna guro mawr ar y drws, ddigon i dynnu'r tŷ ar eich pen; mi 'leues gannwyll a gweld 'i bod hi wedi troi deuddeg, ac ar ôl imi daro pilyn amdana' mi es i lawr, a gofyn—cyn agor y drws—" Pwy sy 'na:" "Y fi," medde rhywun â llais pwfflyd, "y fi, wedi colli'r ffordd ". Mi agores y drws a gweld yng ngole'r gannwyll ddyn byr a thew, y tewa' o'i daldra a welais erioed, ac yr oedd golwg disut a digalon arno. Ar ôl ei gael i'r tŷ mi ddechreues 'i holi e, a gofyn pwy ydoedd.'

"Pregethwr Senters wedi colli'r ffordd," medde fe. Colli'r ffordd, yn wir; pwy reswm sydd i bregethwr, na'r un creadur arall o ddyn fod ar ffordd o gwbl berfedd nos fel hyn: I b'le 'dych chi am fynd?

Mi gollais y ffordd rai oriau yn ôl, a bydd yn dda gennyf i chwi fy nghyfarwyddo i bentref D...L..."

Mi es ati i wneud ffagal o dân a berwi'r tegell, a dweud y câi gwpaned o de a rhywbeth tan 'i ddant mewn wincad.

"Na," ebe fe, "peidiwch â thrafferthu; y mae'n ddrwg iawn gennyf imi orfod torri ar eich cwsg mor hwyr ar y nos. Os byddwch chwi cystal â'm gosod ar ben y ffordd i'r pentref, mi gychwynnaf ar unwaith". "Ddyn bach," meddwn wrtho, "peidiwch â sôn; 'daeth neb o Fryn Bedw erioed ar 'i gythlwng, a ma dwy filltir heleth o ffordd i'r pentref; mi a' i gyda chi yno bob cam." "Yr oedd 'i ddillad e 'n mygu yng ngwres y tân, ac yr oedd e'n edrych mor wan â swclyn newydd eni, a bron yn rhy flinedig i gadw'i hun ar y gader, ond mi fytodd ac mi fytodd, ac mi ddath gryn dipyn yn sioncach. Cychwynnwyd am y pentre, ac ar y ffordd adroddodd 'i helynt, ac yr oedd 'i Gymraeg e 'r un fath â Chymraeg llyfr, mor gorect a phe base fe'n pregethu, a 'wedodd e 'r un gair Saesneg yr holl ffordd; 'falle na wydde 'r dyn ddim Saesneg o ran hynny."

Pregethais yn y bore yn y pentre," medde fe, ac yn y prynhawn yn y Cwm, ac am bump o'r gloch cychwynnais am Soar ar gyfer oedfa'r hwyr; ond pan oeddwn ar ben y mynydd caeodd y niwl amdanaf a chollais y ffordd, ac yna daeth glaw mân ac oer, a bûm yn crwydro o'r adeg honno oni ddaethum at eich tŷ chwi. Dyna fy hanes."

"Ddyn byw," ebe fi, "ma 'n syndod na fasech chi wedi trengi yn yr oerfel a'r glybaniaeth. Pam 'dych chi'n peryglu 'ch hun gyda'r pregethu 'ma a chithe 'n gorff mor drwm: Treiwch rywbeth arall lle gellwch chi fod yn 'ch unman, a than do, i ennill eich bywolieth. Wel, dyma'r tŷ, a mi fynna'i 'ch gweld chi'n saff cyn troi'n fy ôl. Ymhen rhyw wythnos dyna'r ddau hen lyfr bach 'na 'n dŵad yma trwy'r post, a 'rwy 'n deall mai ef a'u hanfonodd."

"A gaf fi edrych ar y llyfrau, Huw Llywarch?" Cewch, yn eno'r tad; 'drychwch faint a fynnoch arnyn' nhw.'

Darllennais ar yr wyneb—ddalen:—

"I Mr. Huw Llywarch, er cof am ei gymwynasgarwch ar noson ddrycinog, y Sabboth, Rhagfyr 6, 1896, oddiwrth

E. Anwyl,
Aberystwyth."[1]

Huw Llywarch, a wyddoch chi pwy oedd y dyn?

Na wn i, yn tad, 'weles i mono cynt na chwedyn." "Wel, yr Athro Edward Anwyl, o goleg y Brifysgol, yn Aberystwyth; gŵr bonheddig, ac un o ddynion mwyaf Cymru. Y mae ei rodd yn urddasol fel ef ei hun."

"O, mae e'n Athraw, ydi e, yn dysgu'r cywion pennoeth a ddaw i'r Cwm yma ar y Sulie? A mae e 'n ŵr bynheddig! Falle 'n wir. 'Doedd fawr o'r bynheddig yn 'i olwg e pan ddath e at y tŷ 'ma'r nos Sul honno yn lyb sopen at 'i groen. Wel, 'doedd dim raid iddo boeni yn 'y nghylch i, achos 'chostiodd yr hyn a 'nes i iddo ddim o mhoced i; ond os oedd e am 'neud rhywbeth, ac ynte'n ŵr bynheddig, pam felltith na fase fe'n anfon yr arian yn lle anfon yr hen lyfre bach di-werth 'ma? Gwastraff i gyd yn 'y meddwl i."

Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae'r hanes hwn yn ffaith.