Neidio i'r cynnwys

Yr Hen Gyrnol/Mari Amos

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Glochydd Yr Hen Gyrnol

gan Evan Isaac

Richard Evans y crydd


IV
MARI AMOS

MOR fawr ydoedd gwres a dylanwad Diwygiad 1859 ar ei gychwyn fel yr enillwyd at grefydd bawb yn y plwyf ond dau, a Mari Amos ydoedd un o'r ddau. Aeth hi drwy'r gwres i gyd heb doddi dim, a hwyrach y bu i hynny brofi nad oedd y dylanwad yn anorchfygol.

Ni thywyllai hi ddrws lle o addoliad byth, eithr yn y rhagolwg ar ei chladdu dywedai pan ofynnid iddi mai Eglwyswraig ydoedd, oherwydd tybio bod proffes felly yn angenrheidiol i'r diben o sicrhau offeiriad i wasanaethu yn ei hangladd. Cyffesai'n aml fod ei byd yn un caled a'i hanghenion yn fawr, ond na theimlodd erioed angen arbennig am grefydd, ac na welai reswm o gwbl tros ymboeni ynglŷn â phethau byd arall a phethau'r byd hwn yn gofyn cymaint o amser ac ymdrech. Nid oedd moesau Mari yn ddrwg, ag eithrio'i hiaith; yr oedd yn onest a geirwir, ac nid oedd ei hiaith yn rheglyd, eithr defnyddiai eiriau bras a garw a swniai yn ddigon tebyg i regfeydd, a llefarai'n syth a hy. Ond gan na phroffesai grefydd o fath yn y byd, ac na fynychai addoldy, ystyrid hi 'n fath ar bagan.

Ni pherchid neb yn y plwyf, pa rinweddau bynnag a feddai, oni phroffesai grefydd; eithr diogelai proffesu barch i bawb pa mor ysgafala bynnag fyddai'u buchedd. Yn ychwanegol at anystyriaeth neu ddiffyg ymdeimlad o rwymedigaeth i ddim uwch a gwell na gofynion y byd presennol, tybiaf fod annibyniaeth meddwl Mari yn rhan fawr o'r rheswm tros iddi fod yn wahanol i'w chymdogion o ran crefydd.

Er nas parchai neb, ofnai pawb hi, oherwydd yr ystyrid hi yn rheibes gadarn a pheryglus. Credai pawb yn y plwyf y pryd hwnnw mewn rheibio a chonsurio, a chred pawb felly eto, ag eithrio ambell Sais di-ffydd a aeth yno'n ddiweddar o Loegr. Nid yw'n hawdd egluro paham y mae pobl grefyddol iawn yn ofergoelus iawn hefyd. Beth bynnag yw'r rheswm, nid diffyg gwybodaeth a diwylliant mohono, oblegid credai 'r gwŷr enwog y Doctor Johnson a John Wesley cyn gryfed yn ymddangosiad ysbrydion ag y credent yn eu Beibl, ac â Syr Oliver Lodge ar ei lw y daw iddo o fyd arall gyfrinachau drwy'r peth a eilw ysbrydegwyr yn Gyfrwng. Y mae ofergoeledd yn grefydd i lawer yn yr oes hon fel yn yr hen oesoedd.

O gredu mewn rheibio, y peth hawsaf yn y byd ydoedd credu hefyd bod Mari Amos yn rheibes. Hen ferch ddibriod ydoedd, hen a thal a thenau a phraff ei hesgyrn, â gwallt du a disglair yn dechrau britho, a phob amser mor ddidrefn a gwyllt â brigau'r bedw mewn gwynt. Gwisgai'n gyffredin ddillad duon a'u hoed yn bygwth newid eu lliw yn goch dof. Yr oedd ei hesgidiau yn fawr a chryf fel eiddo gwrryw, i godi ei thraed o'r llaid, a'i cherdded yn araf a chadarn, a'i cham fel cam dyn mawr. Ar ei hael yr oedd cysgod gwg, a'i threm yn annibynnol a syth. Pe teithid yn ôl i'r genhedlaeth o'r blaen ceid mai Gwyddeles oedd Mari, ac mai enw'r teulu cyn ei ddyfod i'r plwyf ydoedd Patrick. Ni fedrai hi air o ddim iaith ond Cymraeg, ac ni feddylid amdani ond fel Cymraes, eithr pe trawai dieithryn arni ymhlith mil adnabydd—ai hi heb betruso fel Gwyddeles. Er ei geni yn y pentref, teimlai'r trigolion, heb wybod paham, nad oedd yn un ohonynt hwy, ac er y dibynnai am ei bywoliaeth ar hanner coron o elusen blwyf ac ychydig enillion am waith ar ffermydd y gymdogaeth, teimlid nad oedd neb mor annibynnol ei ysbryd a'i ymddygiad â hi yn yr holl ardal.

Priodolid pob anghaffael ar ddyn ac anifail, oni ellid ei esbonio, i waith Mari fel rheibes, a bu'r gred yn ei gallu i ddrygu o gryn fantais i'w hamgylchiadau ar hyd ei hoes. Prin eu cymwynasau ydoedd yr amacthwyr i "bobol y tai bach", eithr nid oedd amaethwr yn y plwyf a wrthodai 'r gymwynas a fynnai Mari. Cynigient iddi bob blwyddyn, ac am ddim, le i hau pecaid neu ddau o bytatws, a dygai'r awgrym lleiaf faich o wellt newydd i'w gwely. Ofnent hi 'n fwy nag yr ofnent ddiafol, oherwydd credu y gallai â'i melltith ddifa'u hanifeiliaid mewn noson. Ni wn a oedd amaethwyr yr ardal yn fwy chwannog i ofergoel na'r mwynwyr, ond gwn fod mwy o ofn Mari arnynt nag oedd ar neb arall; yr oedd hynny efallai am fod ganddynt fwy i'w golli.

Eithr ni chredaf iddi ddrygu neb na dim erioed, a phraw lled sicr i mi nad ydoedd reibes o gwbl ydyw'r ffaith y cynghorai'n aml y sawl a flinid gan afiechyd anodd i'w symud, neu a gollai arian neu anifail, i ymgynghori â'r dyn hysbys' a oedd yn Llangurig.

Pery gogledd Ceredigion yn ofergoelus. Cred trigolion yn ymddangosiad ysbrydion a'r Gannwyll Gorff ac arwyddion o farwolaeth, eithr nid i'r un mesur ag y credid ddeugain mlynedd yn ôl. Ond y mae'r gred mewn rheibio a chonsurio mor gyffredinol a chyn gryfed ag y bu erioed. Os collir arian, neu ryw eiddo arall, a methu â'u cael wedi pob ymchwil, ymgynghorir â'r consurwr, ac nid yn aml y gwneir hynny yn ofer. Yn y flwyddyn 1919, collodd gwraig o bentref ychydig filltiroedd o Aberystwyth lythyr â phum punt mewn nodau ynddo. Aed ati i chwilio, a bu awdurdodau'r llythyrdy a'r heddgeidwaid wrthi'n ddyfal am rai wythnosau, ond nid i ddim pwrpas.

Wedi methu o bawb, aeth y wraig i Langurig i ymgynghori â'r consurwr, ac ni fethodd ef. Dywedodd mai rhyw gythgam o ddyn o bentref cyfagos a ladrataodd y llythyr, ac y gallai ef ei enwi, ond na feiddiai oherwydd y gyfraith, eithr nad oedd raid iddi hi bryderu mwy, y deuai'r cwbl yn ôl ymhen ychydig ddyddiau. Rhyw fore, dri mis wedi'r colli, a'r wraig yn tynnu'r llwch oddi ar y fantell simdde, y tu ôl i un o'r addurniadau cafodd y llythyr, a'r nodau bob un ynddo. Glanhasai y fantell ddegau o weithiau yn ystod y tri mis, ac yr oedd yn gwbl sicr nad oedd yno 'r un llythyr cyn y bore hwn. Petai rhaid, credaf y gallaswn esbonio'r cwbl heb briodoli medr uwchddynol na dieflig i'r consurwr.

Peth cyffredin ydyw i amaethwyr ac eraill redeg at y consurwr pan fethir â chorddi llaeth a'i droi yn ymenyn, neu pan ddisgyn aflwydd i ran un neu ragor o'u hanifeiliaid. Credir mai melltith y rheibes—anaml y sonnir am ddyn yn rheibio—fydd ar y llaeth neu'r anifail, ac nad oes ond consurwr a fedr wrthweithio'r felltith. Yn 1924 yr oedd gwraig yn Llanbadarn Fawr a chanddi fuwch ragorol, ac nid oedd yn y wlad ei gwell am laetha, ond yn sydyn a heb unrhyw reswm gwybyddus, ataliwyd y llaeth; ni cheid un diferyn. Ymhen ysbaid o amser cynghorwyd y wraig i ymweled â Llangurig, ac yno yr aeth ar doriad y wawr. Holodd y consurwr hi a oedd yn yr ardal amaethwr arbennig wedi ceisio prynu'r fuwch. Atebodd hithau fod yno un a oedd yn awyddus iawn amdani, ac iddo geisio 'i phrynu amryw droeon. "Wel," ebe fe, gwaith y gŵr hwnnw sydd ar y fuwch, ewch adref a chewch y fuwch fel arfer." Bore trannoeth cafwyd toreth o laeth fel cynt.

Y mae'r ffydd hon yn y consurwr yn peri anfantais fawr i gleifion weithiau, ac yn gwneuthur edfryd iechyd yn anodd onid yn amhosibl. Pan ddelir un gan afiechyd nad yw'n hawdd ei ddeall na 'i symud, megis anhwylder y gïau neu'r pruddglwyf neu ddolur mewnol anodd i'w adnabod, rhaid cyrchu at y consurwr. Gwna pobl o safle a dysg hyn yn ogystal â'r diddysg a'r dinod. Yn y flwyddyn 1925 hysbysodd meddyg yn Aberystwyth fi am ddyn claf a gafodd well manteision addysg na'r cyffredin, a oedd ar y pryd tan driniaeth y consurwr. Oherwydd nad oedd y meddygon yn llwyddo yn ôl ei ddisgwyliad, mynnodd ei roddi ei hun yn llaw y consurwr. Beth yw'r afiechyd?" gofynnais. "Canser," oedd yr ateb. "Beth a ddaw ohono? "Fe fydd farw'n fuan." "Oni ellwch chwi, feddygon, ddwyn cosb ar y consurwr a'i atal?" "Na allwn, oblegid ni dderbyn dâl am ei waith—dim ond yr hyn a wêl dyn yn dda ei roddi iddo fel rhodd."

I bobl yn credu fel hyn y mae rheibes yn anghenraid, ac yr oedd Mari Amos o ran ymddangosiad ac arferion yn cyfateb i'r syniad cyffredin am reibes yn well na neb yn y plwyf. Gwyddai Mari'n burion farn y wlad amdani, eithr ni cheisiodd erioed gywiro'r farn, oherwydd gwyddai hefyd y byddai newid barn yn peri colled iddi mewn llawer ystyr.

Er nad oedd Mari yn rheibes, fel y tybid ei bod, credai hi am eraill fel y credai pawb amdani hi, ac yr oedd ei ffydd yn y consurwr yn sefydlog a diderfyn. Hyhi a fu yn Llangurig tros deulu Llety'r Frân pan fethwyd â gweithio ymenyn am bythefnos gyfan wedi i'r forwyn newydd fyned yno. Ni wyddid ar y pryd y golchai'r forwyn y fuddai â dŵr a sebon, ac ni fynegodd y consurwr hynny. Pan aeth gwendid rhyfedd i gymalau Betsen, Llain Fanadl, a pheth pylni i'w llygaid, Mari Amos oedd y gyntaf i'w chymell i ymgynghori â'r dyn hysbys'. Nid ymboenai hi o gwbl ynglŷn â chrefydd na dim a berthynai i'r byd a ddaw, eithr credai â'i holl nerth yr ymyrrai rhyw fodau anweledig a gelynol â bywyd y ddaear i'w ddrygu. Ganddi hi y cefais i gyntaf hanes Yr Hen Wrach."

Pan oeddwn yn fachgen bu ein teulu ni yn byw am flynyddoedd y drws nesaf i Mari, ac er iddi felltithio llawer arnaf am fy nireidi bachgennaidd, ni ddaeth niwed o'r melltithion, a phan dyfais yn ddyn rhoddai imi fwy o ffafr nag i neb o'm cyfoedion. Bob tro yr ymwelwn â'r ardal ar fy ngwyliau, galwn i weled Mari, nid yn unig er mwyn yr hen amser gynt, ond hefyd i'r diben o glywed pob hanes hygoel a chwithig a gerddai drwy'r plwyf. Derbyniai fi bob amser a geiriau geirwon a chaled, a gallai dyn dieithr dybio ei bod yn casáu fy ymweled, eithr gwyddwn mai trosedd anfaddeuol fyddai i mi fyned o'r gymdogaeth heb ymweled â hi. Credai'n gadarn bob coel ofer fu yn yr ardal am genedlaethau, a llefarai amdanynt mor agored a phendant ac â chymaint hwyl â sant yn adrodd ei brofiad mewn seiet. Yr oedd y coelion i gyd yn ddiddorol ac yn taflu goleuni ar fywyd y plwyf; yr oedd hefyd lawer mwy ynddynt nag a dybid yn gyffredin, ac un felly oedd y goel am yr HenWrach.

Blinid trigolion y pentref er cyn cof—pob teulu yn ddieithriad—gan afiechyd blin a elwid yn "Hen Wrach". Math ar gryd ydoedd, a'i nodweddion yn rhai hynod. Gwn trwy brofiad am y clefyd hwnnw. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, ac yna deuai cryndod mawr trwy'r holl gorff a pharhâi am oddeutu awr. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhâi felly am chwe neu wyth niwrnod, a phan ddechreuai'r claf wella ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna, ddau ddiwrnod, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu o ran rhif oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Achosid yr afiechyd gan ellylles a breswyliai yng Nghors Fochno, a rhoddwyd ei henw i'r clefyd—Yr Hen Wrach. Cefais ei hanes yn llawn gan Mari Amos.

Un nos oer ym mis Rhagfyr, a heb fod ymhell o'r Nadolig, yr oeddwn yn nhŷ Mari, hen dŷ llawr pridd â dau ben iddo—pen isaf a phen uchaf ac yn agored hyd at lechi'r to. Eisteddem boptu'r tân-ar-lawr, tân mawn, tan y simdde fawr, heb ddim ond golau'r tân. I osod Mari mewn hwyl, ebe fi, "Y mae'n debyg eich bod yn cymryd ambell fygyn o hyd, Mari". "Wrth gwrs, be ti'n gofyn peth mor ddwl:" meddai hi.

"A phan bydda' i yn smocio mi fyddaf yn smocio baco, baco Ringer, ac nid gwellt fel ti a dy fath". Ar ôl tanio'r pibelli aethpwyd i sôn am bobl y pentref a chael bod Lewys y clochydd a Marged ei briod yn "Yr Hen Wrach".

"A wyddoch chi rywfaint o hanes yr Hen Wrach, Mari Amos?"

Gwybod ei hanes! Och yn 'i chalon hi; gwn yn burion, ac mi fyddet tithau'n gwybod oni bai dy fod yn ddylach na phobol eraill. Hi, yr hen feiden felltigedig, ydi melltith y pentre yma ers oesoedd, ac erioed am 'wn i."

'Peth od na fuasai Consurwr Llangurig wedi rhoddi terfyn arni hi a'i drygau."

"Consurwr! Cwnjer 'wyt ti'n feddwl, mae'n debyg. Y mae cwnjer yn medru gwneud pethe rhyfedd ac ofnadwy, ond y mae hon allan o'i gyrredd. Petai'r Hen Wrach fel rheibese eraill mi barai'r cwnjer i ddrain dyfu ar 'i phen yn lle gwallt, ac mi droise'i chroen hi y tu chwith allan, a rhoddi iddi gryndod a sigle Gors Fochno am filltiroedd. Ond fel ma gwaetha'r modd, 'di hon ddim fel rheibese cyffredin, y mae'n fwy, ac yn fwy cythreulig, a 'd oes gan y cwnjer, er cymaint ei allu, ddim awdurdod trosti— y mae hi allan o'i gyrraedd."

Fel hyn y mae'r traddodiad a gefais gan Mari Amos. Yng Nghors Fochno, sydd o chwech i saith milltir o hyd a thair ar ei thraws, preswyliai gwrach hen a hyll a dieflig ei nwyd a'i gweithred. Yr oedd yn gwbl annibynnol ar ddynion am fod iddi ei chynhaliaeth, ac ymborthai ar ffa 'r gors a bwyd llyffant, ac weithiau liw nos gwelid o'r pellter olau gwan a gwelwlas ei channwyll pan fyddai'n casglu'r ymborth. O fewn terfynau'r Gors yr oedd yn hollwybodol ac yn hollalluog, a'i melltith yn ddifeth pan gyrhaeddai fod dynol, eithr nid oedd a'i drygai hi. Oherwydd ei hacrwch annaturiol, ymguddiai'n ddwfn yn y Gors rhag ei gweled gan ddynion, ond ar brydiau creai niwl tew a wisgai'r Gors fel hugan ac a ymestynnai dros y pentref i odre'r Graig Fawr. Ar adegai felly, berfedd nos, âi o'i chuddfa i'r pentref tawel, i dŷ drwy'r agorfa leiaf, ac i ystafell wely a chwythu yn ddistaw ac esmwyth ei melltith ar y sawl a gysgai, a deffroent hwythau yn y bore yn crynu fel dail y coed yn yr Hydref. Byddent yng nghrafangau mileinig yr Hen Wrach.

Bymtheng mlynedd ar hugain yn ôl diflannodd y cryd, ac ni flinwyd neb o'r trigolion byth er hynny, a chredir yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf flwyddyn y peidiodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer cyfnewid ym mywyd y pentref, ac yn eu plith, aethpwyd i losgi glo yn lle mawn. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysgu y mae, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau a theifl ei melltith fel cynt ar ddynion, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto.

Un diwrnod yn y gwanwyn, ni welid mwg o simdde tŷ Mari Amos. Torrwyd i mewn a'i chael wedi marw yn ei dillad, ac yn lled—orwedd ar yr hen setl fregus a oedd tan y simdde fawr. Bu farw o'r Hen Wrach. Ar ôl ymgynghori â'r offeiriad a'r ysgolfeistr a Mr. Parri 'r plisman ai priodol ei chladdu mewn tir cysegredig, cludwyd hi fel eraill i fynwent y plwyf y sydd ar ynys yng Nghors Fochno.


Nodiadau

[golygu]