Yr Hen Gyrnol/Richard Evans y crydd
| ← Mari Amos | Yr Hen Gyrnol gan Evan Isaac |
Bugail Lluest Hir → |
RICHARD EVANS Y CRYDD
YR oedd Richard Evans, neu fel y gelwid ef yn ei gefn, Richard Bach, yn ddyn mewn oed y cof cyntaf sydd gennyf amdano, ond cofiai ef fi pan oeddwn faban. Dyn o daldra cyffredin ydoedd, rhyw bump a saith, ac o gorff ysgafn. Cadwai ychydig farf ar ei fochgernau a'i ên, eithr eilliai ei wefusau a cheid wyneb agored a oleuid â gwên dyner a chynnes. Gwisgai bob amser yn weddol barchus, ond ni welais ef erioed mewn dillad newydd; yr oedd pob pilyn bob amser fel petai ar ei hanner traul.
A bod yn hollol gywir, nid oedd Richard Evans y Crydd yn grydd o gwbl, oblegid ni wnaeth esgid gyfan yn ei oes, a phrin yr enillodd ei halen erioed trwy drwsio esgidiau. Magwyd ef mewn teulu mawr o ddeg o blant, ac yr oedd tri ohonynt, ynghyda'r tad, yn gryddion. Llogai'r tad weithwyr hefyd. Hwy ydoedd prif gryddion yr ardal am gylch eang, a chymaint oedd eu masnach fel y cedwid Richard i gludo'r esgidiau i'r cwsmeriaid ac i gasglu'r tâl, ac oherwydd hyn prin fu ei gyfleusterau i ddysgu'r grefft. Bob yn dipyn diflannodd y teulu mawr, un yma a'r llall draw, ac ambell un i'w fedd. Diflannodd yr olaf o'r gweithwyr hwythau a gadael Richard a'i chwaer Marged i ymladd â'r byd orau y gallent. Merch dal a hardd a thalentog oedd Marged Evans y Crydd, ac edmygid hi gan bawb. Gofalodd am ei brawd am rai blynyddoedd, ac yna priododd John Dafys, Pencae, a gwneuthur cartref iddi ei hun. Gadawyd Richard yn unig fel pren di-ddail ar lechwedd noeth mynydd.
Glynodd Richard yn yr hen dŷ y ganed ef ynddo. Yr oedd popeth yno fel cynt, yr hen ddodrefn derw, y llestri piwter, a'r ystafell waith yn cynnwys arfau crydd, ffedogau'r rhai a giliodd, a darnau o hen ledr, ond ni fedrai ef fawr ar ddefnyddio'r pethau, a gwag oedd y tŷ iddo mwy. Cyn hir llogodd weithiwr, dyn bach cloff a oedd yn grefftwr medrus. Ganed ef ag un goes yn fyrrach na'r llall, a chanlyniad ei eni felly oedd bod yn grydd. Pes ganesid fel dynion eraill a'i goesau'n ogyhyd, gallasai Dei Bach Richard Evans y Crydd esgyn yn uchel, oblegid o ran anian a dychymyg a thafod gwnaethai aelod purion o Senedd ei wlad. Honnai wybod popeth, a llefarai fel oracl. Eisteddais ddegau o oriau o dro i'w gilydd yn y gweithdy i wrando arno'n nyddu gwir a chelwydd ar bynciau'r dydd. Bu Dei Bach yn ennill bywoliaeth iddo'i hun a'i feistr am rai blynyddoedd, eithr ciliodd yntau—yn ôl i fro ei eni—a chlywais ei farw beth amser yn ôl. Dyna Richard Evans ar ei ben ei hun eto, ac felly y bu mwy hyd ei fedd.
Yr unig bethau a rydd fri ar blwyf Llancynfelyn ydyw Cors Fochno, a geidw'r môr draw rhag boddi'r ddau bentref; y Graig Fawr, a ymgyfyd bron yn unionsyth yn gefn i'r pentrefi, ac a'u gwylia rhag cam ar hyd yr oesoedd; a bedd Taliesin Ben Beirdd. Erys y tri hyn yn ddigyfnewid o genhedlaeth i genhedlaeth, ac nid oes dri mwy mewn unrhyw ardal yng Nghymru. Y mae'n dda i'r plwyf fod ganddo'r tri hyn i ymffrostio ynddynt, oblegid ni fagwyd ynddo erioed na llenor na bardd o ddim bri. Bu'r bardd Deio ab Ieuan Du, awdur y llinell " Y Ddraig Goch ddyry cychwyn ", yn byw yno yn y bymthegfed ganrif, eithr myned yno o Lanfihangel y Creuddyn a wnaethai ef. Ni chododd neb o athrylith yno erioed; pobl ar yr un gwaelod oedd y plwyfolion, ond yr oedd hwnnw yn waelod lled uchel. Gwelais yno gymeriadau moesol mwy nag a welais yn unman arall er imi fyw o bryd i'w gilydd mewn degau o blwyfydd. Un o'r cymeriadau mawr hyn oedd Richard Evans, ac nid oedd yno neb mwy nag ef ond Thomas Jones, y Post. A phan fu farw Thomas, Richard bach oedd y mwyaf yn yr holl fro, ac ymestynnai ei ddylanwad ymhell bell tuhwnt i derfynau bywyd y pentref.
Bûm yn dyfalu llawer, a dyfalaf o hyd, paham y'i gelwid yn Richard bach, oblegid nid oedd dim yn fach ynddo. O ran corff, er nad oedd yn fawr, yr oedd yn fwy na rhai o'i gymdogion. Nid bach yn arwyddo anwyldeb mohono chwaith, er bod pawb yn ddigon hoff ohono. Tybiaf fod y rheswm tros ei alw felly yn ei ddull o lefaru ac ymddwyn. Arferai'r gair yna' ar derfyn pob dywediad neu ofyniad, megis, "Mi wela dy fod ar gychwyn, yna. I b'le mae 'r daith heddi, yna? Pan ymdrinid â phwnc, parai i un dybio drwy'r ymddiddan ei fod yn cydweled â phopeth a ddywedid wrtho, eithr yn yr ymadrodd neu'r gair olaf datguddiai na chydwelai â dim o'r dechrau. A mi yn nhŷ'r gweinidog un prynhawn, daeth Richard i mewn. O, wel," meddai, "dyma ddau ohonoch, yna, un yn y coleg a'r llall wedi bod, yna, a dyma dro rhagluniaethol. Mi 'weda i chi 'neges mewn byr eirie, yna. 'R ydw i mewn tipyn o anhawster ynglŷn â'r North a'r South, a mi 'r ydw i am i chi 'ngoleuo i ar y peth, yna."
"Mewn anhawster ynglŷn â'r North a'r South!" meddai'r gweinidog, "Pa anhawster sydd ynglŷn â hwy, Richard Evans? "
"Wel, fel hyn, yna. Pan â dyn o Fangor i Dywyn, Meirionnydd, fe ddywed, 'Yr ydw i 'n mynd i'r South, yna'; ond pan â dyn o Dywyn i Dregaron, fe ddywed hwnnw yntau, Yr ydw i'n mynd i'r South, yna'; a phan â un o Dregaron i Gaerdydd, fe ddywed yntau hefyd, 'Yr ydw i'n mynd i'r South, yna'. 'Rŵan, mi garwn i wybod ymhle mae'r North a lle mae'r South. Yn ôl dyn Bangor y mae Tywyn yn y South, ond yn ôl dyn Tywyn yn y North y mae a Thregaron yn y South, ac wedyn fe gred dyn Tregaron fod Caerdydd yn y South a Thregaron yn y North. 'Newch chi daflu tipyn o ole ar y mater, yna?
Bu'r gweinidog wrthi'n bwyllus a gofalus a hir yn egluro, a hawdd oedd barnu oddi wrth ysgogiadau pen Richard ac ambell sŵn a daflai i mewn fod yr eglurhad a roddid yn ymlid pob tywyllwch, a'r anawsterau i gyd yn diflannu. Ar derfyn yr ymddiddan, dywedodd, "Wel, diolch yn fawr i chi am y 'sponiad. 'Wyddoch chi beth, peth mawr iawn a gwerthfawr—wel, ie, yna, daw'r geirie hynny i meddwl heb 'u gofyn,— addewidion mawr iawn a gwerthfawr'. Oes yna rwbeth o le ar y geirie, tybed? "Addewidion mawr", ac "addewidion gwerth—fawr". Be ydy'r gwahanieth rhwng mawr' a gwerthfawr yn yr adnod? Hwyrach y cawn ni bregeth gan un ohonoch ryw dro, yna. Ie, dyna own i'n mynd i ddweud, ond bod yr adnod wedi picio i fewn,—peth mawr a gwerthfawr ydi addysg. 'Doedd fawr o lun ar ysgol pan own i'n blentyn, a chydig iawn ohoni a ges i erioed, yna. Mi synnech cyn lleied o ddysgu oedd yn yr holl wlad y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd wedyn, a 'dyw e' ryfedd yn y byd bod llawer o'r un to â fi mewn twllwch ynglŷn â phethe fel y North a'r South, yna. Mae 'ch braint chi, bechgyn y colege, yn fawr iawn, ac y mae yn amlwg oddi wrth eich 'sponiad manwl a medrus eich bod wedi manteisio llawer ar y coleg. Diolch yn fawr i chi, yna. Mi fuoch yn garedig iawn yn mynd i gymaint trafferth i 'sponio a rhoi gole i hen greadur anwybodus fel y fi. Diolch yn fawr, a bendith arnoch; ond 'dwy i 'r un gronyn callach, yna. Prynhawn da rŵan; mi welwn ein gilydd yn y cwrdd gweddi heno, mae 'n debyg, yna.'
Wrth ei wrando 'n gweddio yn y cwrdd gweddi'r noson honno fe beidiodd helynt y North a'r South â bod, ac ni ddaeth yr enw Richard Bach i'm meddwl unwaith. Yr oedd ei iaith yn seml a heb ddim sathredig ynddi, a'i feddyliau'n llifo'n lân ac urddasol fel afon loyw. Molai a diolchai mewn ysbryd gwylaidd a diofn. Teimlwn na chyfarfûm â neb mor fawr ei wybodaeth, mor ddwfn ei barch, ac mor urddasol ei feddyliau. Yr oedd y dyn a deimlai anhawster ynglŷn â'r North a'r South yn gynefin â phethau mawr y byd ysbrydol ac yn tynnu dylanwadau dwyfol i'n plith. "Dirgelwch y Goruchaf sydd gyda'r rhai a'i hofnant Ef.'
Nid oedd Richard Evans yn ddarllenwr mawr, oherwydd, yn bennaf, na feddai foddion i brynu llyfrau; eithr myfyriai lawer. Gwyddai'r Beibl cystal â neb yn y plwyf, ac yr oedd esboniadau Adam Clarke ac Idrisyn ganddo; ond ei esboniad gorau oedd ei brofiad ef ei hun, a gwelid rhagoriaeth yr esboniad hwnnw pan holid yr Ysgol ar brynhawn Sul. Dibynnai Thomas Jones fwy ar Clarke nag ar ei farn ei hun, a thaerai Evan Daniel syniadau a briodolid ganddo i ryw Ddoctor dychmygol neu 'i gilydd chlywsai neb erioed amdano; ei bwynt mawr ef ydoedd ennill y ddadl trwy deg neu annheg. Eithr dibynnai Richard Evans ar ei brofiad a'i farn ei hun yn fwy nag ar ddim arall, a thaflai oleuni newydd weithiau ar anawsterau na chyffyrddau'r esbonwyr cyffredin â hwy. Yr oedd "y pum pwnc
y pum pwnc" mewn bri y dyddiau hynny, a brwydro mawr rhwng Calfiniaid ac Arminiaid, a chymerai Richard ran amlwg yn y dadlau. Y wedd Arminaidd a ddysgid yn yr ysgol, a gwae'r sawl a dueddai at y wedd Galfinaidd. Dilynid y gwersi rheolaidd hyd dri o'r gloch, ac yna ceid chwarter awr i holi'r bennod yn gyhoeddus; gwelais y dadlau cyn boethed fel yr âi'r chwarter yn awr gron a thros hynny weithiau. Byddai'r ddadl yn aml rhwng Richard Evans a John Cati Williams. Dyn byr, crwca braidd, ag wyneb cuchiog oedd Jac Cati Williams, a llefarai â llais cras a phob amser fel dyn o'i go', ac oherwydd ei ysbryd cnafaidd, ac y cnoai ei gil fel eidion, er nad oedd dim yn ei enau, parai imi feddwl bob amser am Quilp, un o gymeriadau hynod Charles Dickens. Un cryf mewn dadl oedd Jac, eithr mewn hanes yn unig yr oedd ei nerth, ac yn hanes yr Hen Destament yn arbennig, ac oherwydd hynny trechai Richard ef bob cynnig ar bwnc o athrawiaeth. Ni rwymai Richard ef ei hun yn dynn wrth na llyfr na phregeth, ac yr oedd ganddo rai syniadau a berthyn yn nes i'r oes bresennol nag i'w ddyddiau ef, a mynegai hwy weithiau mewn dull cwmpasog ac amleiriog. Pwnc yr holi un prynhawn Sul oedd, cosb yn y byd a ddaw.
"Beth yw eich barn am gosb yr annuwiol ar ôl iddo farw?" gofynnai'r holwr.
"Cosb gyfartal i'r trosedd," meddai John Dafys, Pencae.
"Ie, ond beth yw ei pharhad?
"Tragwyddol," ebe John Morris, Llanerch,—"A'r rhai hyn a â i gosbedigaeth dragwyddol ".
Beth yw meddwl y gair tragwyddol yn y geirie yna?
"Diddiwedd, wrth gwrs," ebe Jac Cati Williams. 'Pwy eisie gofyn cwestiwn mor ffôl: Diddiwedd—di-ben-draw—tragwyddol."
"Wel ie, yna," meddai Richard Evans. "A ydym ni i ddeall oddi wrth eich ateb chi, John, nad oes obeth am derfyn i'r gosb, yna: Hynny yw, nad oes eithriade yn bosib yn y byd a ddaw, heb sôn dim am obeth adfer pawb, yna?
Adfer pawb! 'Chlywes i 'rioed shwd beth yn fy myw," meddai Jac. "Adfer pawb, yn wir! Be 'chi'n siarad ddyn, a ych chi'n ame 'r Beibl? Ewch at y Gair a'r Dystiolaeth, a pheidiwch â rhyfygu."
O'r gore, yna. 'Dw i 'n ame dim, mewn ystyr, o'r pethe a ddywedwch chi i gyd. Y ma'ch atebion chi 'ch tri at i gilydd yn dda ac i'r pwynt, ond teimlo 'rydw i 'u bod nhw'n mynd yn rhy bell a braidd yn rhy bendant, a ninne'n gwybod cyn lleied am y byd a ddaw; ac wedyn, ma'n werth cofio pwy yw Duw.
Pan. . .
"'Rw i'n cynnig ein bod yn mynd ymlaen," meddai Jac, "ma peth fel hyn yn beryglus, ac yn siŵr o ddinistrio'r bobol ifanc—'rw i'n cynnig ein bod yn mynd ymlaen ".
"Wel ie, yna, y ma llawer, mewn ystyr, yn yr hyn 'dych chi, John, yn ddweud, yna; ond gyda'ch cennad, 'dw i ddim wedi gorffen yn hollol. Fel y dywedes i'n barod, y mae'n werth cofio pwy yw Duw a beth yw e. Pan bregethodd y stiwdent hwnnw yn Saesneg yn y capel yma, am fod 'i Gymraeg e wedi rhydu yn ystod y tair blynedd y bu yn y coleg yn Lloegr, 'r oeddwn i'n teimlo nad oedd neb ohonom ni yn gyfrifol yn wyneb y bregeth honno; ond mi ddywedodd un peth a ddyalles i ac a lynodd yn fy meddwl, sef, God is wonderfully kind". Y mae'n fwy na thebyg eich bod chi'n lled agos i'ch lle yn eich atebion, yna, ond, "God is wonderfully kind," a 'faswn i'n synnu dim pe base fe'n rhoi cyfle i bawb—dim gorfodi neb wrth gwrs—i ail gychwyn yn y byd a ddaw. 'Chymerswn i ddim a weles i am ame'r Gair a'r Dystioleth, ond 'dw i ddim yn meddwl bod neb yn 'u deall nhw'n llwyr hyd yn oed yn yr oes ole hon. 'R ych chi wedi ateb yn dda'ch tri, a ma'r 'Sgrythur, mewn ystyr, wrth eich cefen; ond wedyn, "God is wonderfully kind", yna.
"Ddyn ofnadwy," meddai Jac Cati Williams, wyddoch chi eich bod yn rhyfygu? Darllenwch eich Beibl a Geiriadur y Doctor Dafys".
Bu Richard Evans y Crydd yn pregethu pan oedd yn ieuanc, a bwriadai fyned yn weinidog. Cychwynnodd tri o'r un eglwys ar y gwaith tua'r un adeg, sef, Humphrey Jones y Diwygiwr, Evan Jones, y Goetre, a Richard Evans. Ymgeisiodd y ddau gyntaf am y weinidogaeth, ond gwrthodwyd hwy am ryw reswm neu'i gilydd. Methais, er chwilio, â tharo ar brawf i Richard Evans ymgeisio o gwbl, ac y mae argraff ar fy meddwl na wnaeth. Aeth Humphrey Jones i America at ei deulu, ac Evan Jones i'r Eglwys Esgobol, a bu'n ficer eglwys Gymraeg yn Llundain am lawer o flynyddoedd. Dywedir bod doniau pregethu Richard Evans yn anarferol ddisglair, ac y swynai gynulleidfaoedd gogledd Ceredigion, ond nid aeth byth yn weinidog. Dywedai ei gyfoedion na chafodd degwch na chyfiawnder gan y gweinidog a oedd yn arolygu'r Gylchdaith ar y pryd. Tybid yn gyffredin mai eiddigedd oherwydd poblogrwydd y dyn ieuanc oedd wrth wraidd esgeulustra'r gweinidog. Y mae hyn yn bosibl, oblegid ceir llawn cymaint, onid mwy, o eiddigedd ymhlith pregethwyr ag a geir mewn dosbarthiadau eraill. Ni soniodd Richard wrthyf erioed am y cam hwn yn ei ddyddiau bore. Un tro pan ofynnais iddo paham y peidiodd â phregethu pan oedd yn fachgen, atebodd, Mi fydda'i 'n meddwl weithie mai Rhaglunieth oedd wrth wraidd y cwbl, yna, ac nid yw Duw byth yn gwneud mistêc. Petai Humphrey Jones wedi 'i dderbyn i'r weinidogaeth 'âi e byth yn Humphrey Jones y Diwygiwr, oblegid 'âi e byth i 'Merica oni bai iddo golli 'i le, ac nid yw Duw yn gwneud diwygwyr o rai wedi colli 'u lle; a phetai Evan Jones wedi 'i wneud yn weinidog Wesle 'âi e byth yn gyfoethog fel yr aeth e, a phetawn inne wedi mynd ymlaen 'faswn i ddim—wel, 'faswn i ddim yn Richard Evans y Crydd, yna." Eithr dywedodd wrthyf ym mlynyddoedd olaf ei oes y credai 'n sicr mai yn weinidog y bwriadodd Duw iddo fod.
Ni wyddai neb yn sicr pa fodd y câi Richard Evans ddeupen y llinyn ynghyd; ond fe'i câi, oblegid ni chlybuwyd erioed ei fod yn nyled neb o ddim ond garedigrwydd. Ni wnâi ddim gwaith, eithr ymddangosai bob amser yn brysur; cerddai'n gyflym â'i ben i lawr a mwmian wrtho'i hun, a phan safai i siarad â rhywun teimlid o hyd ei fod ar gychwyn eilwaith bob eiliad. Pan fyddai yn ei dŷ, ceid ef yn gyffredin yn y gweithdy yn eistedd ar y fainc grydd å hen ffedog ledr o'i flaen fel petai'n disgwyl gwaith na ddeuai byth. Ofnaf mai prin oedd ei damaid yn aml, ond ni roddai ef byth un arwydd o hynny. Ni cheid un amser siom yn ei wedd na gwg ar ei ael na chŵyn yn ei lais; gwên a chanmol a diolch oedd ei gynefin. Gweithwyr heb fwy nag wythnos rhyngddynt a'r tloty oedd trigolion y pentref i gyd, ac oherwydd hynny yr oeddynt yn hael o'u prinder a rhoddent swcwr i'r di-gefn—"Haelaf y galon po lymaf y fro". Gofalai pawb am Richard Evans y Crydd, a phe deuai dieithryn ar ddamwain a'i feio am na weithiai, dywedai rhywun neu'i gilydd o'r pentrefwyr yn chwyrn a dreng, "Beth yw hynny i chi: 'D yw e'n pwyso dim arnoch chi". Am ryw reswm anniffiniol, ni ddisgwyliai neb iddo fod yn wahanol i'r hyn ydoedd, ac ni feddyliai neb yn llai ohono am nad oedd fel pawb arall.
Gellid tybio y parai bywyd o'r math hwn i'w ddylanwad moesol fethu, eithr ni wnaeth hynny. Er nad ofnid ef fel yr ofnid Thomas Jones y Post, eto, ciliai'r meddwon rhagddo, a pheidiai'r plant â'u chwarae pan ddynesai ef. Arweiniai'r eglwys, a dilynai pawb ef; cynghorai'r bobl ieuainc, a gwrandewid arno; ac yn y seiet ceryddai'r barus a'r ysgafala, ac ufuddheid iddo. Ymgynghorai'r gweinidog cryf ag ef, a llechai'r gweinidog gwan yn ei gysgod. Yr oedd Richard bach yn ddyn mawr ac yn ddyn gwerth-fawr.
Yn ei hen ddyddiau, pan oedd tua thrigain oed, dechreuodd bregethu eilwaith. Nid oedd llawer o gamp arno fel pregethwr yr eildro; yr oedd yn rhy hen a helbulus i baratoi, ac aethai'n amleiriog a chwmpasog ei ymadroddion; eithr deuai rhyw ddylanwad rhyfedd o'i weddïo. Ar ôl iddo dreulio Sul yng Nghorris unwaith, gofynnais i Owen Roberts pa raen oedd ar bregethu Richard Evans. "Reit dda," ebe fe, "ond gweddi Richard Evans sy 'n fawr; y mae'n werth ei gael o unrhyw bellter er mwyn ei weddi 'n unig". Yr oedd ei gartref hanner y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth—pellter o ddeunaw milltir—a phan âi i un o'r trefydd hyn i bregethu, cerddai fore Sul, pregethai dair gwaith, a cherddai adref ar ddiwedd y dydd. Ni chloai ddrws ei dŷ ar adegau felly, a phan ddychwelai tua hanner nos câi'r tân yn cynnau, y tegell yn berwi a'r llestri bwyd ar y bwrdd crwn. Yn fore trannoeth agorai un o'r cymdogion y drws a gweiddi, "Richard Evans, 'dych chi yna?
"Ydw, ydw" atebai Richard, a dyna derfyn; ni holai byth pwy oedd ei gymwynaswyr, ac ni ddisgwylid iddo wneuthur hynny.
Ni chynhwysai cylch ei fywyd fwy na'r pentref a'r capel, ond yn y cylch hwnnw byddai'n sylwgar a gwybodus iawn; efallai bod ei sylwadaeth a'i wybodaeth yn fwy oherwydd eu cyfyngu i gylch mor fach. Y perygl mewn cylch eang ydyw bodloni ar argraffiadau yn unig. Amlygai weithiau yn ei ddull ysmala graffter meddwl anarferol. Pan soniai wrthyf unwaith am fy mhregethu, dywedai, " 'Rydw i'n cofio llawer math o bregethwyr yn y pentre yma, rhai da iawn, a rhai . . . wel, rhai cry' a rhai gwan, yna; a mi 'rydw i wedi sylwi bod hyd yn oed y rhai cry' yn gwahaniaethu llawer oddi wrth 'i gilydd. Dyna i ti (enwodd dri). Yr oedd y tri yna yn gry' yn ôl barn y bobol, ac yr oedd gan ddau ohonynt hobi—y cynta' a'r ola’— ond 'doedd gan y llall ddim un. Mi fydda'i'n meddwl y dylai fod gan bob gweinidog ei hobi; mi wnâi les mawr iddo ond gofalu bod rhywbeth ynddi a wnâi les i bobol eraill hefyd, yna. Ma 'na un perygl mawr mewn hobi, sef byw iddi. Meddylia di rŵan fod gweinidog yn gwneud prydyddu a mynd i 'steddfod yn hobi; os na fydd e'n ofalus mi â i fyw i'w hobi, a ma'r hobi yn siŵr o ladd y pregethwr a'r gweinidog. Hobi 'r cynta' o'r rhai a enwes i oedd casglu hen lyfre Cymraeg.[1] Pan fydde fe 'n pregethu yn y Bont Goch y Sul 'welid mono yma hyd ganol yr wythnos, a mi ddôi adre ar ôl crwydro o dŷ i dŷ yng Nghwm Symlog, a Salem Coed Gruffydd, a Phenrhyn Coch a phobman, â'i bocedi yn llawn o hen lyfre na chodet ti monyn nhw o'r domen â phicfforch. A'r hyn sy'n rhyfedd ydi, 'doedd e byth yn 'u darllen nhw, dim ond sgrifennu enwe 'r llyfre a'r awduron, a'r lleoedd a'r blynydde y cyhoeddwyd hwy. Yr oedd e 'n byw i'w hobi, ac oherwydd hynny, yr oedd yr achos yn diodde—neb i ofalu am y seiet Achos yr a'r bobol ifanc, ac yr oedd tipyn o lwydni'r hen lyfre ar 'i bregethe hefyd, yna.
Oni wyddoch chwi, Richard," ebe fi, "fod gwaith y dyn hwnnw wedi'i gyhoeddi yn llyfr mawr, ac yr ystyria gwŷr dysgedig ef y llyfr gorau sy 'n bod ar hanes llyfrau Cymraeg o 1546 hyd 1800:
"Ma 'n dda genny glywed bod yr hobi wedi bod o fantes i rywrai, yna, oblegid fu hi o ddim mantes i'r Achos yma. Am y llall y sonies i amdano, 'doedd gan hwnnw ddim hobi o gwbl. Dyn trwchus a digyffro ydoedd hwn, heb broffesu gwneud dim ond dyledswydde 'r swydd weinidogaethol, ond 'doedd e ddim yn gwneud y dyletswydde hynny yn well na 'r sawl oedd a hobis ganddynt, nac yn agos cystal â rhai ohonynt. Credid yn gyffredin ei fod yn ddarllenwr mawr, a chredid hynny yn fwyaf neilltuol am ei fod yn ei bregethe yn sôn beunydd am ryw awduron na wydde neb amdanynt, ac yn dyfynnu eu gweithie yn Saesneg. Yr oedd hwn yn ddyn pwysig o ran ei ddull, a dywedai 'i bethau yn ddihidio fel pe na chredai hwy ei hun, ac na faliai pa un a gredai eraill hwy ai peidio, yna. Y syniad cyffredin ydoedd bod llawer ynddo, ond 'weles i fawr yn dyfod ohono, dim cymaint ag ysgrif i gylchgrawn. 'Waeth i ti ddyn gwag yn fwy na dyn â llawer ynddo os na ddaw rhywbeth ohono. Hobi y gweinidog arall, y trydydd, oedd gwneud llyfre, ac mi wnaeth amryw, yna; efallai dy fod wedi gweld rhai ohonynt. Yr oedd yn ddyn galluog iawn, ac mi sgrifennodd lyfr ar "Hen Bregethwyr Cymru ", a llyfr arall yn dweud pob peth am bopeth wrth bawb; ond y peth digrifa' a wybûm i erioed ydoedd iddo sgrifennu llyfr ar Areithyddiaeth" ac yntau 'i hun yn un o'r areithwyr sala'. Yr oedd ganddo bregeth gre' yn llawn meddylie mawr a champus, ond 'doedd e fawr o draddodwr; champion o feddyliwr, yna, ond fedre fe ddim llefaru 'i bethe yn rhugl a gwresog. Pan oedd yr hen gawr, y Doctor Cynddylan Jones, yn dechre pregethu, mi gerddodd yr holl ffordd o Riw Siôn Saer i Dre'r Ddôl ar fore Sul i glywed awdur y llyfr ar Areithyddiaeth yn pregethu. Ym mhen blynyddoedd mi gwrddes â'r Doctor a soniodd yntau am y peth. 'Wel,' ebe fi, 'beth oedd eich barn amdano fel llefarwr?' Atebodd yn ei ddull trawgar trwy ddyfynnu geirie rhyw Sais,— Up in theory and down in practice. Dyna hobi y pregethwr hwnnw—gwneud llyfre, yna; ond 'doedd e ddim yn byw i'w hobi, ac ni fu gwell gweinidog yn y pentref hwn erioed; fe ofalai am holl waith gweinidog, ac ni wnaeth neb fwy o les, ac fe wnaeth gymaint oherwydd ei hobi, oblegid yr oedd graen lenyddol ar ei holl waith yn y seiet a'r pulpud a phobman, yna. 'Dyw 'r Efengyl, wyddost, ddim gwaeth o gael tipyn o raen llenyddiaeth arni. Mi fydde'n burion peth i tithau ar dechre feddwl am hobi a fydd o help i ti dy hun ac i'r bobol hefyd; ond gofala beidio â byw iddi, yna.'
Gwelodd Richard Evans lawer tro ar fyd, eithr cadwodd galon gynnes a diolchgar a gwên ar ei wyneb drwy'r cwbl i'r terfyn. Gelwais i'w weled ychydig ddyddiau cyn ei farw; daethpwyd â'i wely o'r llofft i'r gegin a'i osod â'i ben at y ffenestr. Yn ymyl y gwely yr oedd bwrdd crwn ac arno win a grawnwin a moddion meddyg, a Richard yn ei wendid mawr yn edrych yn gwbl ddibryder a bodlon.
Trodd ataf ei wyneb siriol a llefaru 'n sionc fel arfer. Ebe fe, "Wel ie, yna, ffor' wyt ti, pryd dest ti adre? 'rwyt ti 'n gweld 'mod inne bron a chyrredd—'rwyt ti'n edrych yn go lew, ond dy fod dipyn yn dene—ffor' wyt ti'n leico dy waith, yna? Ffordd 'dych chi, Richard Evans? ebe fi. "Wel, 'rydw i'n iawn, yna, yn hapus dros ben, a chysidro. Y ma popeth yma, fel y gweli di. Y ma'r wraig ddiarth 'ma yn fy nhendio fel petawn yn blentyn, ac ma'r Doctor yn garedig iawn yn dwad yma bod dydd, er nad oes arna i lawer o daro amdano. Peth nobl, 'y machgen i, ydi mynd adre fel hyn."
Gwelais y gofalai'r pentrefwyr y câi Richard Evans y Crydd groesi i'w gartref newydd mewn modd teilwng. Dyna 'r olwg olaf a gefais ar y gweddïwr mawr.