Neidio i'r cynnwys

Yr Hen Gyrnol/Twm Peg

Oddi ar Wicidestun
Bugail Lluest Hir Yr Hen Gyrnol

gan Evan Isaac

Huw Llywarch


VII
TWM PEG

DIGWYDDODD imi orfod am rai blynyddoedd deithio o Dreharris i Fedlinog ar noson waith unwaith yn yr wythnos, haf a gaeaf, ac i'r diben o fyrhau'r daith, yn garedig iawn caniatâi goruchwyliwr y pwll imi groesi'r 'gwaith' ymlaen ac yn ôl. Wrth y drws sydd ym mur y gwaith' y mae lodge y watchman, ac nid euthum adref erioed yn y nos heb alw yn y lodge honno, a threuliais ddegau o oriau ynddi yn ymgomio â Thwm Peg a oedd yn wyliwr y nos. Yr oedd Twm a minnau yn gwbl wahanol i'n gilydd, ac o ran hynny, yr oedd Twm yn wahanol i bawb, a'r gwahaniaeth hwnnw a barodd inni ddyfod yn gymaint cyfeillion.

Ni wn ddim am dras Twm, ond credaf ei eni, rywbryd ymhell yn ôl, naill ai ym Merthyr neu Ddowlais, oblegid soniai lawer am ei ddyddiau bore yn ardaloedd y trefi hynny. Ni wn chwaith ei enw bedydd; y mae'n debyg iddo gael un, oblegid yr oedd tros ganol oed pan roddwyd yr enw Twm Peg iddo. Nid yw gwybod yr achau a'r amgylchiadau yn angenrheidiol i'r cofiant hwn; y dyn ei hun—darn cryf o hen oes baganaidd ym Morgannwg heb newid dim arno gan ddatblygiadau'r blynyddoedd—a barodd i mi ei hoffi.

Dyn cymharol fyr—rhyw bump a phump—oedd fy hen gyfaill; pen crwn fel pelen ag ychydig wallt yn fargodion iddo; llygaid mawr ar dor y croen, yn llawn dur, heb lawer o ddim arall ynddynt, ac yn eich herio bob amser; wyneb cryf â'i groen yn arw ac o liw hen femrwn a fuasai yn un o feddau'r Aifft am ganrifoedd; ffroenau agored yn cyfateb i linellau eraill yr wyneb; ceg fawr â dau ddant llygad melyn-ddu ynddi; dwy wefus drwchus fel petynt wedi chwyddo wrth fwyta ac yfed i ormodiaeth ym mlynyddoedd cyntaf ei oes, a gên lydan â'i nerth yn gymaint fel na ellid ond ei ddychmygu. Yr oedd corff yn un trwchus a thrwm a chadarn, a'r goes dde yn bren—peg—o'r pen-glin i lawr, a chylch haearn ar ei blaen.

Ni welais Twm erioed yn unman ond yn y lodge, a'r argraff sydd ar fy meddwl yn awr yw, ei fod un wisg ar hyd y blynyddoedd; gwisg heb iddi liw yn y byd ond lliw henaint, ac nid oedd amdano ddau bilyn o'r un defnydd. Ar ei ben, yn tynnu at y gwegil, yr oedd hen gap o frethyn; mwffler gwlân llychlyd yn llac am ei wddf, haf a gaeaf; dwy wasgod o stwff trwm, a'r uchaf â llewys iddi, a phob amser yn agored ac yn dangos crys trwchus a garw o wlanen cartref; ffustion oedd defnydd ei lodrau, a'i esgid o ledr cryf a chaled, tebyg i'r esgidiau a werthid yn rhad fel gweddillion y Rhyfel Mawr.

Yr oedd ymddangosiad Twm yn ddiddorol anarferol, eithr ei ddyn oddi mewn' a'i gwnâi yn gymeriad ar ei ben ei hun. Nid ymffrostiai onid mewn tri pheth, sef, gwrhydri ei ddyddiau bore pan oedd yn grwt ac yn ddyn ifanc, ei ddawn fel halier, a'i fedr i ddarllen y Beibl. Pan oedd grwt yr oedd yn rhedegwr diguro, a thelid iddo gyflog cyson gan ddau ŵr bonheddig o Ferthyr am redeg yn yr ymrysonfeydd a gynhelid, fynychaf ar y Sul, mewn man diarffordd ar y mynydd uwchlaw Dowlais. Cyrchai cannoedd i faes y rhedegfa i yfed a meddwi ac ymladd, a byddai yno olygfeydd arswydus cyn diwedd y dydd. Anaml y trechid Twm mewn rhedegfa, a soniai â blas am y dyddiau euraid hynny. Wrth gwrs, âi pob arian a enillai i'r ddau ŵr bonheddig a'i cyflogai, oblegid câi ef ei gyflog, ennill neu beidio.

Pan beidiodd Twm â bod yn grwt aeth rhinwedd ei goesau i'w ddyrnau, a gwnaeth rai pethau fel dyrnwr a oedd yn tebygu i wyrthiau; bu mewn llawer ysgarmes boeth a gwaedlyd, eithr yn ôl yr hanes a roddai i mi, er iddo ddyfod allan rai troeon yn lled garpiog ei gnawd a choch ei groen, ni thorrwyd iddo erioed na chymal nac aelod. Y peth agosaf i prize fight a welais erioed oedd disgrifiad Twm o gosfa a roddodd i ryw blisman. Caeai ei enau a gwasgu ei wefusau i ffurf ceg joci, âi dur ei lygaid yn fflam dân, a rhuthrai nwyd ieuenctid i'w ddyrnau mawr, a defnyddiai yntau hwy fel meistr y gelfyddyd. Tybiwn glywed ochain y bobi druan tan bwysau'r dyrnodiau, a theimlwn i'r byw drosto.

Gwaith Twm hyd oni roddwyd iddo goes newydd ydoedd halio yn y pwll, a gwrthrych pennaf ei ymffrost ydoedd ei ddawn fel halier. Clywais amryw yn sôn am ei fedr i drin ceffylau, eithr honnai ef ragoriaeth ar bawb. Ni allai oddef canmol halier, a phan wneid hynny gwnâi yntau'r peth agosaf a fedrai at wên faleisus, sef agor ei enau a dangos y ddau ddant melynddu, a dywedyd â dirmyg yn ei lygaid, "Ca' dy ben, bachan, ôs dim halier yn y pwll 'ma; mae'n rhaid geni halier ishta bardd, a weles i neb weti'i eni felni ers shew byd."

Un noson âi gweithiwr heibio'r lodge ar ei ffordd i'r pwll, a dweud, "Nos da, Tomos; sut yr ydach chi heno? "Y mae nhw'n dweud," Tomos, meddwn i, "fod hwnna'n halier campus". "Pwy 'wetws?

Rhai o'r gweithwyr." "Pidwch 'u cretu nhw, celwydd i gyd; ôs dim Northman yn y byd yn gallu halio. Achos pam? Achos dou beth. Yn ginta', ma ceffyl yn nifel call iawn, yn 'nabod dyn ar unweth, a dos gynto gynnig i Northman; peth arath, 'dyw ceffyl ddim yn diall iaith y North; rhaid i chi whilia Cwmrag sha ceffyl. Sôn am haliers, diawch a myto i, mi haliwn i penne nhw off 'tawn i heb yr hen beg 'ma.

Shwt y collasoch eich clun, Tomos—wrth halio? gofynnais. "Ne," meddai, "cal ticyn o anap nitho i. Wrth halio, wir!" Dangosodd y ddau ddant llygad, ac awgrymai ei lais a'i ystumiau fod damwain iddo ef fel halier yn beth amhosibl,—" Cal ticyn o anap nitho i."

Yr oedd Twm yn greadur anwybodus iawn y tu allan i fyd ei gampau arbennig ef—rhedeg ac ymladd a halio; ond mynnai i bawb gredu ei fod yn gymaint campwr ar ddarllen, ac yn enwedig ar ddarllen y Beibl, ag ydoedd yn y tri gorchwyl arall. Yr oedd yn drigain oed pan ddysgodd ddarllen, a hyd y gwelais i, ychydig a ddysgodd, ond yr oedd fel y mwyafrif o'r sawl sy'n hynod anwybodus yn gwbl hunan—hyderus, ac yn bendant ei farn a'i ymadrodd.

Pa fodd y treuliwch holl oriau'r nos yn y lodge yma, Tomos?" gofynnais iddo unwaith. "Darllan,' meddai, gan gydio yn y llyfr a oedd yn ei ymyl. "Darllan, darllan y Beibl. Grendwch." Agorai'r llyfr, bron ohono'i hun, ar Efengyl Ioan, a darllenai Twm y bennod gyntaf; âi ymlaen yn rhwydd a rhugl hyd y bymthegfed adnod, ac yna, arafu, cloffi, hercian, ac nid oedd ddewin a wyddai pa beth a ddarllenai oddi yno i'r diwedd. Darllenodd y bennod hon ddegau o weithiau, o dro i'w gilydd, i brofi ei ddawn fel darllenwr.

Ni wn pa un ai i afiaith ei feddwl—y peth a eilw'r Sais yn humour—neu ynteu i hunan—hyder a phendantrwydd a godai o'i anwybodaeth a'i unplygrwydd y dylid priodoli llawer o'i ddywediadau. Llefarai'n oraclaidd bethau cyfeiliornus ac anhygoel. Gofynnais iddo unwaith pwy oedd yr Ioan a ysgrifennodd yr Efengyl, ac atebodd yn ddibryder, Y bachan y torrws Pharo 'i ben a am iddo 'wêd rhwpath yn erbyn i wejan a; sgrifennws y llythyr o'r jail at i wraig.'

"Tybed eich bod yn gywir, Tomos," meddwn innau, yr oeddwn i'n meddwl taw Herod a dorrodd ben Ioan."

"I ni'n dou yn reit," meddai, "yr un un odd y ddou, ond fod dynon acha prydie yn i alw a'n Herod, a phryd arath yn Pharo, ac wetyn i yn Herod Pharo, ishta clywch chi'r gwithwrs yn sôn am y Manager 'ma; pan ma fa'n 'u digio nhw, Jacob yw a, wetyn i Ray, ac yn i gefan, Jacob Ray."

Un noson rhoddai ei fryd ar wybod tipyn o'm hanes i, a holai ym mha Sir y ganed fi, beth oedd gwaith fy nhad, a pha beth a barodd imi fynd yn bregethwr, a rhoddais y manylion iddo. " O," meddai, nid un o'r North ich chi 'ta; ma sŵn ticyn o North yn ych llaish chi ed. Beth yw 'ch pwysa chi'n awr? 'Rych chi'n six footer, 'spo, ne racor? Trueni ed. Bachan, bachan, ma'n bechod ych bod chi'n bregethwr, mi nithech fobi nêt. Ia, trueni mowr. Spwylo bobi first class i nithur pregethwr second class."

Anaml yr âi neb heibio i'r lodge heb gyfarch Twm er garwed ydoedd. Good night, Tom; how be you tonight?" meddai un o'r gweithwyr. "Good night to you," ebe Tom yn sarrug, ac yna troai ataf a dywedyd, Mae'n drueni amdanyn nhw." "Pwy?

Am pwy—y Saeson 'na, wrth gwrs; ôs gita nhw ddim iaith o gwbl, chi'n gweld." "O, 'r oeddwn i'n meddwl bod Saesneg yn iaith." "Ne, wedi micso pethach ma nhw. 'Dos 'na ddim ond tair iaith ar gal, iaith y Jews, a iaith y Groeg, a'r Gwmrag, wrth gwrs. Trueni ed, achos ma gan Sais ened fel rhywun arath; mi fydd yn dywyll drychynllyd arno yn y byd nesa, 'fydd 'no neb yn i ddiall a; fydd y Judge yn gwêd wrtho, Ca dy ben, bachan, a gad dy gabarlátch, 'wi ddim yn dy ddiall di.' Trueni, ed."

Taith ddiflas, ar bob tywydd—oer a gwlyb, eira a rhew—oedd y daith i Fedlinog ac yn ôl, a delid fi'n aml gan annwyd trwm, ac weithiau, ar ôl bod tan 'hen annwyd yn hir, awn i deimlo'n rhyfedd. A mi yn teimlo felly un noson pan elwais yn y lodge, meddai Tomos, " Ishtwch lawr." "Na, ddim heno, diolch," meddwn. Achos pam w?" "Nid wyf yn teimlo'n dda iawn heno." "Be si mater?

'Wn i ddim, mae gennyf wendid yn fy nghoesau a phenysgafnder."

Mwmiai Twm wrtho'i hun, "Coese gwan a phen ysgawn," ac yna, "'Rw i'n gwpod am y peth; fe deimlas i'r un shwt gannoedd o withe cyn i fi ddechra darllan Beibl. Bachan, bachan, 'r otych yn cwnnu hiraeth arno i am yr hen amser." Dynesodd ataf, a dyfod yn nes ac yn agos, ac meddai, "'Dos dim gwynt ar ych anal chi ed. Gisoch chi rwpath cyn starto?

Naddo, ar y ffordd, yr ochr hyn i Tai Clwb y teimlais y gwendid a'r ysgafnder gyntaf." "Diain i, ma pethach yn wath nag o'n i 'n meddwl. Ia, mynd sha thre ar unwath fysa ora i chi rhag i rwpath ddicwdd i chi yma." A phan oeddwn yn cau'r drws, galwai ar fy ôl, "Galwch 'to nos Iou nesa os byddwch chi'n fyw. So long 'n awr."

Yr oedd Twm Peg mor unplyg a chydwybodol ag unrhyw hanner—pagan a adnabûm i, ac er ei anwybodaeth a'i ddieithrwch i bob lle o addoliad, gobeithiaf, a dirgel gredaf, nad ydyw yn "ddrychynllyd o dywyll" arno yr ochr draw. Daeth ei ddiwedd trwy i gerbyd modur, ar yr heol o'r lodge i'w gartref, roi ticyn o anap" iddo.

Nodiadau

[golygu]