Neidio i'r cynnwys

Yr Hen Gyrnol/Yr Hen Glochydd

Oddi ar Wicidestun
Caligan Yr Hen Gyrnol

gan Evan Isaac

Mari Amos


III
YR HEN GLOCHYDD

NID oedd mynwent gyffredin neu gyhoeddus' yn yr ardal. Cleddid pawb er cyn cof ym mynwent Eglwys y plwyf, ac yn fy nyddiau bore i aethai'r hen fynwent cyn llawned oni fu'n rhaid chwanegu ati ddarn mwy na hi ei hun. Bellach teimlai'r hen glochydd yn dawel ei feddwl o gael tan ei ofal le cyfaddas i gyfarfod â gofyn y plwyf am o leiaf genhedlaeth arall. Claddwyd llawer yn y tir newydd cyn claddu'r clochydd ei hun ynddo, ac ni fu na chweryl na bygwth gwerth sôn amdanynt rhwng awdurdodau'r Eglwys a'r plwyfolion tra bu ef byw; eithr wedi ei farw daeth blinfyd ar bawb, nid o'r Eglwys, ond o rywle nas gwyddai neb. Blinid y trigolion gan ymyriadau dirgel a dieithr ynglŷn â'r fynwent; daliwyd yr holl blwyf â phryder ac ofn. Pan ddewisid man bedd newydd a'i farcio gan berthynasau un y bwriedid ei gladdu, âi rhywun neu rywbeth i'r fynwent berfedd nos a symud y pegiau, a chladdwyd amryw mewn mannau na ddewisasid gan y perthynasau. Bu holi ac olrhain mawr, a cheisio esbonio'r dirgelwch, ond nid i ddim pwrpas. Pwnc mawr siarad y plwyf ydoedd 'symud y pegiau': eithr siaradai pawb mewn ofn a than eu hanadl. *** Dyn hynod oedd yr hen glochydd, a diddorol hefyd, oherwydd, yn bennaf, y gwisgid ef â rhyw ddirgelwch na lwyddai neb i'w dreiddio. Cyn belled ag y gwyddai'r plwyfolion, rhyw Felchisedec yr ail ydoedd, heb nac achau na dechrau dyddiau iddo, ac ni wybu neb erioed hanes ei orffennol. Tybiai rhai mai Gogleddwr ydoedd, a hynny oherwydd ei ddyfod i'r pentref trwy ei ben gogleddol, ac nid oherwydd ei dafodiaith. Ni lefarai dafodiaith unrhyw ran arbennig o Gymru. Pan ddaeth i'r ardal gyntaf rhyw gymysgfa ydoedd ei iaith, ac ar brydiau siaradai dafodieithoedd gwahanol rannau o'r wlad yn gwbl rwydd. Yr oedd cryn dipyn o ôl darllen ar ei iaith, ac ym mhresenoldeb gweinidog neu offeiriad llefarai fel llyfr.

Baledwr oedd Lewys y Clochydd wrth natur, a daethai ef a Marged, ei briod, i'r plwyf yng nghwmni Owain Meirion. Canai Lewys ac Owain, a gwerthai Marged y baledi. Yr oedd gan y ddau ŵr leisiau rhagorol, a dywedir na chlywyd gwell baledwyr na chynt na chwedyn. Lletyent yn y Belle Vue, llety'r fforddolion, a gedwid gan Isaac Jones. Deuai i'r Belle View o dro i'w gilydd holl amrywiaeth godreon dynoliaeth, o'r German Band i'r crwydryn mwyaf troednoeth a charpiog, a threthwyd natur Isaac Jones, oni fyrhawyd ei ddyddiau, trwy ddychmygu gwyrthiau i gadw'r llety yn symol lân ac iach. Ar ôl swyno i'w trysorfa y geiniog olaf y gallai'r ardalwyr ei hepgor ar chwilfrydedd ac adloniant, aeth Owain Meirion i'w deithiau yng nghanolbarth a de'r sir, eithr arhosodd Lewys a Marged yn y pentref a gwneuthur dinas barhaus ohono, a chyn hir cawsant dŷ iddynt eu hunain ym Mhencae, ar flaen de'r pentref.

Oherwydd gwneuthur iddynt eu hunain gartref bu'n rhaid iddynt newid galwedigaeth, a llithrasant yn naturiol o fod yn faledwyr i fod yn bedleriaid; gwerthwyr mân nwyddau fel llestri bwyd, botymau a chareiau, edafedd ac incil, edau a nodwyddau, a manion eraill at wasanaeth teuluoedd yr ardal, ac yn arbennig y sawl a drigai mewn tyddynnau diarffordd. Cludent y nwyddau mewn dwy fasged, a derbynient yn dâl garpiau a chrwyn cwningod a phres. O dipyn i beth cynyddodd eu masnach gymaint oni lwyddasant i gael mules a throl. Cofiaf y fules lawn cystal ag y cofiaf ei pherchen; ei henw oedd Bell, ac yr oedd yn boblogaidd anarferol gyda'r plant. Diau mai yn y cymeriad o glochydd y dewisodd Lewys enw'r fules —Bell.

Dyn tal, hirgoes, â'i war yn bygwth crymu, ydoedd Lewys. Symudai'n hamddenol tan lusgo traed hirion a dueddai i gilio rhagddo lwrw'i ochr. Yr oedd yn haws ei gymryd yn bregethwr cynorthwyol nag yn ddim arall, oblegid gwisgai bob amser gôb ddu dipyn yn llaes, a het jim cro yn tynnu at ei wegil ac yn dangos talcen mawr yn awgrymu derwydd neu hen broffwyd. Ni welais ef erioed heb sbectol, naill ai ar ei dalcen neu ar ei lygaid, ac ar ei dalcen fynychaf.

Y farn gyffredin ydoedd na ddysgodd chwerthin, ac ni welodd neb wên ar ei wyneb o'r dydd y daethai i'r ardal yng nghwmni Owain Meirion.

Dichon bod ymddangosiad Lewys ynghyda phrinder elw'i alwedigaeth yn esboniad ar ei benodiad yn glochydd Eglwys y plwyf; ond pa beth bynnag oedd y rheswm, profodd ef ddoethineb y penodiad trwy lwyredd ei ffyddlondeb a'i awdurdod yn y swydd. Nid oedd na rhagorach na phwysicach clochydd yn y deuddeg sir. Fe'i hystyriai 'i hun y nesaf at yr offeiriad o ran pwysigrwydd ymhell o flaen y gweinidog ymneilltuol—a rhywfodd neu 'i gilydd enillodd fwyafrif o'r plwyfolion i deimlo a chredu fel yntau. Croesawai Lewys bob angladd â chroeso mawr, nid oherwydd yr ymhoffai ym marwolaeth neb, eithr oherwydd bod angladd yn gyfle iddo ef amlygu ei awdurdod a'i bwysigrwydd fel clochydd. Hawliai iddo'i hun y fraint o ddewis man pob bedd, a dywedai bethau llym iawn os amheuid ei hawl. Un tro aeth cyfaill a minnau i'r fynwent i ddewis man bedd i berthynas a fuasai farw oddi cartref, ac ebe fi, "Lewys, yr ydym am i'r bedd fod yn y fan hon." Ni chymerodd arno fy nghlywed, ond cerddai'n ôl a blaen, amgylch ogylch, a'i lygaid at y ddaear. "'Waeth i chi heb ymdroi, Lewys," meddwn, " y mae'r bedd i fod yn y fan hon ". Yn araf, araf, trodd ataf ei wyneb gwelw, ac edrych â llygaid yn llawn diystyrwch, a dywedyd yn bwyllus â llais isel: "Yr wyt ti wedi bod i ffwrdd am rai blynydde, onid wyt ti, 'ngwas i, ac y mae dy gôf di dipyn yn ddrwg; pan ei di'n ôl adre hola dy fam, a mi gei wybod pwy sydd i ddewis man bedd. Y fi, clochydd yr Eglwys, sydd i ddweud ymhle y mae pobol i'w claddu. Pegia'r bedd fan hyn.'

Na wnaf, Lewys; dyma fan y bedd."

"A wyddost ti â phwy 'wyt ti'n siarad, ngwas i? 'Dwn i pa felltith sydd ar ymneilltuwrs y dyddiau hyn. Y mae y J.R. yna a'i epil wedi drysu'r holl wlad. Gad i mi ddweud wrtho ti unwaith am byth mai Mr. Jones, y ffeirad, bia'r fynwent yma bob modfedd ohoni, a bod gen i hawl, yn enw Mr. Jones, i dy rwystro i gladdu dy berthynas yn y fynwent yma am iddo farw y tu allan i'r plwy. Pegia'r bedd fan hyn, neu dos i gladdu yn rhywle arall."

Lewys ydoedd torrwr beddau'r plwyf, ac yr oedd felly, mi dybiaf, yn rhinwedd ei swydd fel clochydd. Y swm a delid am dorri bedd ydoedd chwech a chwech, ac wedi tynnu ymlaen mewn dyddiau talai'r clochydd dri swllt i weithiwr am ei dorri yn ei le, a chadwai yntau dri a chwech fel elw cyflogydd. Gofalai am ganu'r gloch ddydd y claddu, a bod wrth y bedd i daflu iddo ddyrnaid o bridd, a llafar-ganu â llais yr hen faledwr, ei atebion i'r offeiriad. Yna, wedi'r claddu, âi adref yn hamddenol ar hyd y ffordd hwyaf, am ei bod, meddai ef, yn fwy gwastad na'r ffordd ferraf, a chan na ddiystyrai bethau da'r byd hwn, yn wlyb na sych, troai i'r Commercial i dorri'r chwech oedd gynffon i'r tâl. Yr oedd ganddo daith o hanner milltir o'r Commercial i'w gartref, ac ar ôl dringo rhiw y Graig Fach, sy'n rhyw ddau can llath o hyd, bron ar derfyn y daith, teimlai fod yr ynni a wariai yn yr ymdrech yn hawlio iddo adgyfnerthiad, a galwai yn y Royal Oak i orffen y chwech a gwneuthur y swm yn arian cyfan. Yna âi adref i Bencae i ddethol carpiau a phacio crwyn a darllen hen hanes Cymru.

Yr oedd yr hen glochydd yn ddyn o alluoedd anarferol. Medrai ddarllen a sgrifennu'r ddwy iaith. Teimlai ddiddordeb mawr mewn hynafiaethau, ac o ran gwybodaeth gyffredinol rhagorai ar bawb yn yr ardal. Ychwanegai'r ffaith fod gwyddoniadur y plwyf yn was iddo ef lawer at falchder ac urddas yr offeiriad.

Eithr nid ei ddawn na'i wybodaeth a'i gwahaniaethai fwyaf oddi wrth eraill, ond rhyw ddirgelwch dieithr a'i gwisgai trosto. Yr oedd yn hen, hen, ac yn ei lygaid mawr gwelid breuddwydion hen oesoedd yn cronni; ond nid oedd iddo na llesgedd na ffoledd henaint. Ni chofiai neb ef yn ieuanc; yr oedd yn hen pan welwyd ef gyntaf hanner can mlynedd yn ôl, ac nid oedd fymryn hyn yn awr. Pan edrychid ar Lewys y clochydd gwelid henaint heb ei wendidau. Yr oedd yn broblem fawr, a phrif neilltuolrwydd y broblem ydoedd henaint. Safai weithiau ar heol y pentref â'i ddwylo ar ei gefn, a'i het ar ei wegil a'r sbectol ar ei dalcen, yn wynebu'r Graig Fawr. Ac wedi syllu'n hir arni fel petai'n edrych trwyddi, symudai 'n araf ei wyneb prudd a'i lygaid hen ar draws llechwedd y mynydd i gyfeiriad Bedd Taliesin a Chae'r Arglwyddes, heibio Llety'r Frân a Thrwyn y Buarth, ac edrych draw ymhell bell tros fynyddoedd Meirionnydd. Ar adegau felly credid bod yr hen glochydd mewn rhyw orffennol pell a dieithr.

Gofynnais iddo unwaith paham y penderfynodd aros a chartrefu yn y pentref.

"Wel," meddai, "teimlo wnes i 'mod i'n 'nabod y lle."

A fuoch chi yma o'r blaen, Lewys?

Cwestiwn anodd yw hwnna, 'ngwas i; ni fedr neb fod yn bendant ar 'i orffennol. Pan gyrhaeddodd Owain Meirion a minnau i'r pentref acw tuhwnt i Ddyfi, ac i mi edrych tuag yma, mi gymerwn fy llw 'mod i 'n 'nabod y lle. 'Owain,' ebe fi, rhaid i ni groesi i'r ochr draw'. 'Croesi!' meddai fe, be andros sydd arnat ti, Lewys? ond tydan ni wedi setlo i fynd yn syth bin trwy Faldwyn yn ôl i'r Gogledd, ac y mae'r ochr draw yn dechra'r De.' Wedi cyrraedd yma, mi deimles ar unwaith fel petawn i gartre o'r diwedd, a'm bod yn gyfarwydd â'r holl fro, dim yn y byd yn ddiarth yn na'r Graig Fawr na Chors Fochno na dim arall, a mi deimles hen anian crwydro yn marw ynof. Bore trannoeth, meddwn i wrth Owain, 'Y mae rhyw chwant mawr a rhyfedd arna' i am aros yn y lle hwn, ac y mae Marged a minnau am wneud ein cartre yma.' 'O'r gora', ebe fe,' mi af inna ymlaen i Lambad ar gyfer Ffair Dalis

A ych chi'n credu mewn trawsfudiad eneidie, Lewys; mae'ch siarad yn awgrymu hynny?

"Credu ym mheth? Trawsfudiad eneidie! P'le ar wyneb y ddaear yr ych chi, pobol y capeli, yn cael gafel ar y geirie mawr a thywyll yma? Trawsfudiad eneidie, yn wir! Rhai garw am eirie mawr ych chi. Gair pregethwr yw hwnna, mi wn. 'R wyt ti'n rhy ifanc i gofio T.A. Yr oedd hwnnw yn gawr o bregethwr tua'r Gogledd, a sôn mawr amdano, a mi ddaeth ryw dro i'ch capel chi—yr hen gapel—i bregethu, ac wedi clywed cymint o ganu cyrn iddo mi es inne i'w wrando, ond ches i fawr ddim ganddo ond hwyl a geirie mawr. Dyma i ti un frawddeg a lynodd yn 'y meddwl i: "Anamgyffredadwyoldebolrwydd tragwyddoldebau anfesuradwy yng ngogoniannau goruchelion paradwys ". 'D oedd pregeth Wil Brydydd y Coed ar "O, Olwyn" ddim ffolach na'r peth a ges i gan y pregethwr mawr. Trawsfudiad eneidie! 'D yw hi ddim yn saff i ddyn ddweud llawer sy'n bendant ar ei gychwyn neu ei gychwyniade. Pan ddoi di'n hŷn mi gei fod yna ryw bethe'n aros yn dy fywyd er gwaetha' pob dysgeidieth a phob credu; mae 'na ryw deimlade ac argraffiade nad oes dim symud arnyn' nhw. Beth bynnag a greda i, 'ngwas i, mi ddyweda eto,—pan ddes i yma yr oeddwn i'n teimlo fel petawn i wedi bod yma o'r blaen, a theimlwn yn reit gyfarwydd â'r lle, y mynydde a'r afon a'r hen Gors fawr, a phopeth arall ond y bobol a'r tai."

Hen ddyn hen oedd yr Hen Glochydd, fel darn o'r hen oesoedd wedi ei daflu i'n plith. Bu yntau farw ddeugain mlynedd yn ôl, a chladdwyd ef yn yr ardal y teimlai ei fod yn ei nabod' cyn dyfod iddi. *** Ugain mlynedd wedi claddu'r Hen Glochydd bu farw'r clochydd newydd yntau, a phegiwyd man ei fedd. Yn hwyr noson y pegio digwyddai i'r Doctor Dafys fyned adref heibio i'r fynwent, ac er ei fraw tybiodd weled, yng ngolau gwan y lloer, hen ŵr tal â pheth crymu yn ei war, a jim cro yn tynnu at ei wegil, yn llusgo symud o gwmpas man y bedd newydd. Pan dorrodd y wawr yr oedd y pegiau wedi'u symud.

Nodiadau

[golygu]