Neidio i'r cynnwys

Yr Hen Gyrnol (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Gyrnol (testun cyfansawdd)

gan Evan Isaac

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yr Hen Gyrnol
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Isaac
ar Wicipedia



YR HEN GYRNOL
A BRASLUNIAU ERAILL


YR HEN GYRNOL

A BRASLUNIAU ERAILL



GAN

Y Parch. EVAN ISAAC



GWASG ABERYSTWYTH

1935



ARGRAFFIAD CYNTAF-MAWRTH 1935




Argraffwyd gan J. D. Lewis a'i Feibion,
Gwasg Gomer, Llandysul



Brasluniau o bersonau a adnabûm yn dda yw'r llyfr hwn. Y mae'r cwbl a ddywedir am rai ohonynt yn llythrennol wir, ac ni ddaeth o'm dychymyg ddim a briodolir i'r gweddill nad yw'n addas i'w nodweddion.

Nid oes reswm gwell tros gyhoeddi'r llyfr na'r ffaith mai gresyn fyddai colli hanes hen gymeriadau gwreiddiol nad yw'n hawdd taro ar eu cyffelyb yn awr. Dyledus iawn wyf i'r Parch. D. Llewelyn Jones, B.A., Llanidloes, am ei gynorthwy gyda'r proflenni.

EVAN ISAAC.

TALIESIN,
Rhagfyr, 1934.

Y CYNNWYS


YR HEN GYRNOL

GWYDDWN am yr Hen Gyrnol ers rhai blynyddoedd, ond ni fuaswn yn ddigon agos ato i dorri geiriau ag ef, dim ond yn ddigon agos i'w weled, a'i glywed yn siarad ar uchaf ei lais. Methwn yn fy myw â gwybod paham y gelwid ef yn hen, ac yntau heb fod ond prin wedi cefnu ar ei hanner cant. Nid oedd ychwaith yn ei wedd na'i osgo ddim yn awgrymu henaint. Edrycher arno. Dyn byr ydyw—byr i fod yn filwr—ar ei orau y medr hawlio mwy na phum troedfedd a saith modfedd, ac nid oes ddewin a ŵyr trwy ba ddyfais y tyfodd yn gyrnol; rhoddir pris mawr ar hyd corff ym myddin Prydain. Dyn byr, ysgafn, ag wyneb gwritgoch ydyw, a'i lygaid gwinau 'n aflonydd ac yn pefrio fel sêr ar nos o rew. Y mae ganddo ar ei wefus uchaf drwch da o flew wedi'u rhannu'n ofalus ac yn saethu allan yn ddau bigyn syth, fel dau ysbardun ceiliog gêm, o boptu'i ffroenau. Ni saif yn llonydd am eiliad, ac y mae ei gerdded bob amser fel petai ar gychwyn rhedeg. Paham y gelwir un mor sionc, ac ieuanc o ran ei bopeth, yn hen? Yn y flwyddyn 1914 yr aeth yn filwr ac y gwnaed ef yn gyrnol, a chan nad oes fwy nag un mlynedd ar bymtheg er hynny prin mai nifer blynyddoedd ei filwriaeth yw'r rheswm am yr ansoddair hen.

Amaethwr yw'r Hen Gyrnol, yn berchen ar ei fferm ac yn ei thrin bob llathen fel petai'n ardd. Y mae ganddo ddigon o foddion i brynu dwsin o ffermydd a'u ffurfio'n ystad, eithr cred y dylai pob dyn fod yn berchen ar ei fferm ei hun ac na ddylai fanteisio ar fwy nag un. Gweithia deg o ddynion a bechgyn ar y fferm, a gweithreda'r Cyrnol fel beili. Yn ei gefn geilw pob un o'r gweithwyr ef, " Yr Hen Gyrnol ". Ceidw haid o fytheiaid ar ei draul ei hun; nid i'w fwynhau ei hun, meddai ef, ond i amddiffyn amaethwyr y darn gwlad y trig ynddi rhag eu tlodi gan lwynogod. Nid i'w fwyniant ei hun! Ac eto sieryd o fore gwyn hyd nos am ragoriaethau'r cŵn a'u gwyrthiau yng nghymoedd a chreigiau'r gymdogaeth. Ef yw'r unig un y gwn i amdano sy'n llenwi'r syniad a geir yn yr ymadrodd gentleman farmer

Ond paham y gelwir ef "Yr Hen Gyrnol"? Dyn chwimwth bob gewyn a synnwyr ydyw, a'i eiriau'n chwyrn a phoeth. Ar fore helfa, naid ar ei farch fel llanc, ac yna, gwibio'n ôl a blaen, ac ym mhobman ar unwaith, a gweiddi ar hwn ac arall mewn geiriau bras yn torri fel clec chwip. Clywais ganddo amryw droeon ar gychwyn helfa iaith cyn boethed ag i beri ofn y deifiai nwyd hela ei gŵn. Dyna gychwyn ar fore glas, a mynd yn syth drwy'r meysydd a thros y perthi, tynnu am y llechwedd, i lawr i'r goedwig, a dyna'r cŵn yn "galw", ac yn sŵn y "galw" cyll pawb eu gofid. Dychwelant fin nos yn araf a digalon, a phawb yn flinedig—pawb ond yr Hen Gyrnol. Y mae henaint a blinder yn cilio oddi wrtho ef; eithr er hynny "Yr Hen Gyrnol" y gelwir ef.

Unwaith y clywais ef yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus, ac er na ragorai o ran nac iaith na meddwl na thraddodiad, cafodd ddylanwad rhyfedd ar y gynulleidfa. Eglurodd imi ar ôl hynny nad oedd ei iaith bob dydd ef yn gymwys i gyfarfod cyhoeddus, ac na feddai ef iaith ond honno, ond pe cawsai ryddid i ddefnyddio'i ansoddeiriau cryfion arferol na fuasai fawr o dro'n rhoddi'r lle ar dân". Cyfarfod ynglŷn â'r ex-service men ydoedd, yn neuadd y dref. Maer y dref oedd yn llywyddu, siopwr cefnog ac iddo ddau fab a oedd yn rhy brysur yn y siop i ymladd yn y Rhyfel Mawr—gresyn na fyddai pawb yn rhy brysur, fel na byddai rhyfel. Yr oedd y cadeirydd yn ddyn crefyddol a mawr ei barch, ac ni chlywid byth air yn ei erbyn namyn iddo "dorri" ddwywaith, eithr nid oedd hynny'n bwysig wedi iddo gefnu ar y ddrycin—fe gudd cyfoeth lawer o bechodau. Ar ôl araith y Maer galwyd ar Mr. J. Smart Davies—casglwr trethi—i annerch y dorf, a dywedodd yntau fod yn rhaid iddo ef fel swyddog y llywodraeth fod yn ofalus ar ei eiriau. Cyd-ymdeimlai'n fawr â'r "bechgyn" a chynghorai'r rhai tal a chryf i ymuno â'r Force, nad oedd dim yn debyg i fod yn swyddogion y llywodraeth, ac nad oedd yn rhaid wrth na dysg na dawn i fod yn blisman, y caent gyflog campus a dillad da a heirdd, a phan fyddent tua chanol oed, ar ôl gwasanaeth am ryw bum mlynedd ar hugain yn y Force, caent fyned i'w dillad eu hunain a'u hiawn bwyll a bod fel dynion eraill; ac yna, byw am byth ar bensiwn mwy na chyflog naw o bob deg o weinidogion yr Efengyl. Yn nesaf caed cân gan Jones, y teiliwr, "Bendithiaist Goed y Meysydd ". Yn dilyn caed araith danllyd gan y Cynghorwr Fred T. Gibbins, yn condemnio'r Llywodraeth a'r Cynghorau Sir, y cyfoethogion a Lloyd George, am na fuasent yn cyflawni'u haddewidion i'r "bechgyn" Canwyd y dôn boblogaidd "Cwm Rhondda" gan yr holl gynulleidfa; wedyn, araith Saesneg gan ferch Ap Myrddin, llywydd y Cymrodorion; ond ar ganol yr araith bu gweiddi mawr am "Yr Hen Gyrnol ". Ar ôl ei wthio i flaen y llwyfan dywedodd y Cyrnol

Mr. Cadeirydd ac annwyl gyfeillion.—Areithydd anghyfarwydd wyf fi, fel y gŵyr pawb, a byddai'n well genny'r boen o wrando ar eraill na'r pleser o siarad fy hun. Ffarmwr ydw i ac ex-service man—dyn wedi arfer trin tir a magu anifeiliaid a siarad â'm gweision a'm cŵn. Yr wyf yn dipyn o filwr hefyd, a gwyddoch na fûm erioed yn fyddar pan fyddai galw, a gŵyr y Germans hynny hefyd. Mi freuddwydiais neithiwr fy mod yn y ffosydd, fel y bûm ganwaith, a mi welais wynebau rhai ohonoch yno gyda mi. (Cymeradwyaeth). Yn awr, yr wyf am wybod faint o'm bechgyn i sydd yn y gynulleidfa yma. 'Newch chi sefyll ar eich traed: Cyfrifwch hwy, Mr. Cadeirydd. Faint—pymtheg ar hugain: Feri wel; pymtheg ar hugain, a phob un dan ei greithiau fel mi fy hun. Mi glywais yn ddiweddar fod rhai o'r "bechgyn" mewn amgylchiadau drwg a'u plant yn diodde. Nid wyf fi am feio'r Llywodraeth na Lloyd George na neb; y mae helyntion y byd fel tywyllwch yr Aifft i mi; ma'r amgylchiade uwchlaw deall pawb ohonom; ond myn gafr, cyn y caiff neb o'm "bechgyn" i ddiodde, mi werthaf Gelli Ifor a'r ci ola' o'r pac, ac af yn dlawd fel chithe, a chaiff y llwynogod dragwyddol heol. (Cymeradwyaeth fawr). 'Nawr bois; y mae genny air neu ddau i'w ddweud wrthych chi. Yn gynta', peidiwch â byw ar y dôl, os yw'n bosibl; y mae byw ar y dôl yn lladd blas ar waith ac yn difa annibyniaeth dynion. Os oes rhai yn diodde, dewch i lawr i'r Gelli cyn mynd ar y dôl, a mi gaf weld beth a allaf wneud. Peth arall, peidied yr un ohonoch ag ymostwng i drampio'r wlad o ddrws i ddrws i werthu papur sgrifennu i adferteisio'ch hunain fel ex-service men; gwaith i'r diog a'r llwfr ydyw hwnnw. Peidiwch â gwneud capital o'ch aberth neu mi dynnwch y llewyrch oddi arno. Un gair eto cyn terfynu, Mr. Cadeirydd. Fechgyn, gadewch inni sefyll a symud ysgwydd yn ysgwydd fel yn y Rhyfel Mawr—symud i ymladd brwydrau heddwch—a mi af ar fy llw y byddwn yn fwy na gorchfygwyr." (Gweiddi mawr).

Dyna'r Hen Gyrnol i'r dim," ebe rhywun yn f'ymyl.

Amgylchynir Gelli Ifor, cartref y Cyrnol, gan dyddynnau a thai gweithwyr am bellterau gymaint ag a wêl dyn yn eglur â llygaid noeth. Nid yw'r tir yn fras, a chan nad oes fynydd i fagu defaid, yr hyn a dâl yn well na dim i amaethwr yng Nghymru, disgyn aflwydd yn aml ar y trigolion oherwydd anghaffael ar anifeiliaid neu haf gwlyb, neu'r ddau ynghyd. Eithr cyn gynted ag yr â'r adfyd i glyw'r Cyrnol, gwelir ef yn gadaw Gelli Ifor tan chwibanu "Llwyn Onn", neu "Y Deryn Pur", ei het o frethyn llwyd yn tynnu at ei wegil, ei fwstash mor stiff ag erioed, a dau gi wrth ei sodlau. Wedi cyrraedd tŷ'r gofid, â i mewn ar ei union heb arafu dim ar ei gerdded, a dywedyd, "Wel Tomos, pa gythgam o helynt sy arnoch chi: Mi glywais neithiwr eich bod yn cwyno'n aflawen ar eich byd."

"Wel, Cyrnol, tipyn yn dywyll yw hi arna' i; y mae'r rhent i'w dalu yr wythnos nesa', a 'd oes genny fawr fwy na'i hanner."

"Fawr fwy na'i hanner! Be felltith ych chi'n wneud â'ch arian?"

"Mi drigodd y ddau fustych oedd genny ar gyfer y ffair ddiwethaf, a gwyddoch mor ddrwg fu'r cynhaeaf; 'r wy'n ofni'n wir y caf rybudd i 'madael gan y gŵr bonheddig pan wêl fy mod yn methu.'

Rhybudd i 'madael! Na; 'd oes yr un corgi o ŵr bonheddig a rydd rybudd i neb o'm cymdogion i oherwydd eu tlodi; mi ofala i am hynny. Cheer up, Tomos. Dewch i fyny i'r Gelli heno a chwi gewch rywbeth dan eich dannedd a pheth cryfach nag enwyn i'ch helpu i'w lyncu, a mi wna i'r rhent i fyny. Cewch dalu'n ôl fel y gellwch, ac os na ellwch dalu—wel, dewch i fyny Tomos."

I ffwrdd ag ef dan chwibanu "O! na byddai'n Haf o hyd". Meddai Tomos wrth ei briod, "Mari, y mae'n llinynne ni wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd. Gobeithio'r nefoedd y caiff yr Hen Gyrnol fyw hyd nes byddwn ni wedi magu'r plant."

Ar fryncyn noeth filltir o'r Gelli, y mae hen gapel a welodd ddyddiau gwell ddwy genhedlaeth yn ôl, cyn chwalu llawer o'r tyddynnau ac i beiriannau amaethu yrru gweithwyr tir i'r trefydd a'r "gweithe". Un adeg ceid yn y capel gynulleidfa gref ac addoli hwyliog, eithr erbyn hyn y mae bron yn wag. Ni cheir mewn oedfa fwy na deg o hen bobl, gŵr a gwraig ganol oed, a thair hen ferch wedi colli'u hiechyd. Gelwir arnaf, yn ôl y drefn, i wasanaethu yn y capel gwag ac oer hwn un Sul o bob mis drwy'r flwyddyn, ac af yno'n gyson; eithr nid euthum yno erioed heb deimlo fy mod yn pechu trwy fyned, oblegid y mae Eglwys y plwyf daith deng munud oddi wrtho, a chapel y Methodistiaid daith chwarter awr, a gellid rhoddi'r tair cynulleidfa mewn un o'r tair adeilad, ac ni byddai honno'n llawn. Un Sul yn yr Hydref digwyddai tro Harri a Mary Puw i gadw'r mis, ac euthum adref gyda Mary—hwy oedd y gŵr a'r wraig ganol oed. Gwas pennaf y Gelli oedd Harri, ond cwynai ers rhai misoedd a methai weithio. Nid oedd dim o'i le arno, meddai ef, dim ond hen annwyd yn peri gwendid yn ei goesau a pheswch caled ben bore ar ôl chwysu'n drwm drwy'r nos; teimlai'n well bob dydd, a disgwyliai y byddai'n ddigon cryf i weithio eilwaith petai'r tywydd yn gwella. Wrth weled coch cryf ei ruddiau curiedig a gwrando'i besychiad trwm, daeth i'm meddwl linellau Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd coffa i'w unig ferch:—

Y peswch marwol pwysig
Fu'n erlyn i'w derfyn dig;

Poethi ac oeri i gyd
A'i blinodd, bob ail ennyd;
Chwys afiach, a chas ofid,
A'i grudd fach dan gryfach gwrid;
Pob arwyddion, coelion caeth,
A welid o'i marwolaeth.
Llawer dengwaith, drymfaith dro,
Tra sylwn—trois i wylo.
Byr oedd hyd ei bywyd bach,
Oes fer,—Ow! beth sy fyrrach?

Dyna guro trwm ar y drws. Yr Hen Gyrnol," ebe Mrs. Puw, a llithrodd yn gyflym at y drws.

"Wel, Mary," ebe'r Cyrnol, pa hwyl sy yma heddiw?

"Go lew, Syr."

"B'le mae Harri—ydi e wedi codi? Helo, Harri, old chap, sut mae hi'n dŵad?"

"Go lew, Syr."

"'Wyddost ti beth, Harri, mae'n rhaid i ti wella ar unwaith neu fe â pethau'n bendramwnwgl yng Nghelli Ifor. Mae'r plant acw'n holi bob dydd pa bryd y daw Harri'n ôl, a'r anifeiliaid fel petai nhw wedi'u rheibio; 'does ddim llaeth oddi wrth Penddu ers dyddie, ac fe ddywaid Gwen, y forwyn, mai hiraeth amdanat ti sy arni; gweryra Bess, y gaseg, fel petai wedi colli dwsin o ebolion, ac mi allet dyngu bod y colic bron a lladd yr hen gi, Spot, gan gymaint ei gwyno."

Mi ddo i'n ôl mor fuan ag y gella i, Syr."

"Reit! Mary, a oes gennych chi ddigon o bopeth yma?

Oes, Syr."

"Peidiwch chi â bod yn fyr o ddim, y mae digon o bopeth yn y Gelli; os bydd eisiau cyw iâr, neu gyw arall, anfonwch air. Mi anfonaf ddillad gwlanog i gadw Harri'n gynnes tros y Gaea' yma. 'Wyt ti'n smocio llawer yn dy segurdod, Harri?"

"Ydi, mae e'n smocio o hyd, Syr."

"Pwy faco wyt ti'n smocio?

"Ringer, Syr."

"Wel, 'weda i ddim yn erbyn Ringer; y mae'n ystwff iawn i ddynion cryf yn yr awyr agored, ond mae genny yn y tŷ acw faco a fydd yn dy daro di'n well, a thithe dipyn yn wan; y mae e'n lled ddrud—swllt yr owns, ond nid yw'n rhy dda i ti; mi anfonaf dipyn i lawr fin nos. Gwell fydd imi anfon botel neu ddwy o win; fe rydd hwnnw dipyn o nerth ynot. Gan dy fod yn hoff o ddarllen, beth sydd gennyt i'w ddarllen yn awr? O, ma'r wraig acw'n anfon papure a'r cylchgrone i lawr bob dydd, ydi hi? Ond y mae gen i nofel gampus, un o'r pethe digrifa'n bod, a mi bair iti chwerthin nes byddi ar hollti; fe fydd ei darllen yn help iti anghofio dy salwch; anfonaf honno hefyd i lawr. Bore da i chi'ch dau. Cod dy galon, Harri; cei di haul—cawod yw hon."

Ymaith ag ef yn sydyn a chyflym fel hogyn, a chwibanu "Mentra Gwen". A'r Sabath oedd y diwrnod hwnnw.

Beth amser wedi'r ymddiddan uchod gelwais yn Gelli Ifor, ac atgofio'r Cyrnol o'i ymweliad â Bryn Llwyd a'i garedigrwydd i Harri a'i briod.

Arswyd y byd!" ebe ef, a oeddych chi yn y tŷ?

"Oeddwn, ac fel y gwyddoch, mewn tŷ bach fel Bryn Llwyd yr oedd bron yn amhosibl imi ochel clywed popeth a ddywedasoch."

"Wel, 'tawn i byth o'r fan yma! A ddywedais i rywbeth na ddylwn? Iaith fras a phoeth sy genny ar y gorau; petawn i'n gwybod fod pregethwr o fewn milltir i mi—wel, 'd oes mo'r help yn awr."

"Yr oedd eich meddylgarwch, a'ch gofal tyner am eich hen was, Cyrnol, yn cuddio pob diffyg, a bu eich ymddygiad y bore hwnnw yn foddion gras i mi, ac nid oes fesur ar fy edmygedd ohonoch ar gyfrif eich caredigrwydd."

Damwain oedd hi na ddywedais i ddim o'i le, ac y mae'n dda iawn genny am y digwydd. Wel, Syr, dyna 'nghrefydd i, a 'rwy'n diolch bob amser am gyfle i'w harfer hi. Mi gewch rai pobol yn lladd ar Raglinieth am ei bod hi yn peri colledion a phrofedigaethe eraill i ddynion. Ond beth a ddôi o greadur fel fi oni bai fod profedigaethe? Pe na bai neb yn dlawd neu'n sâl neu mewn gofid byth, mi fydde'n rhaid i mi fyw yn annuwiol. Y mae dynion yn crefydda mewn gwahanol foddau, rhai trwy deimlo'n ofidus neu'n llawen, a dim ond hynny; eraill trwy weddïo a siarad tros grefydd; a'r lleill trwy gyfrannu arian at genadaethe a chartrefi plant amddifaid ac ysbytai—pawb yn ei ffordd ei hun; ond fy ffordd i ydi gofalu cymaint byth ag a fedraf am y tlawd a'r afiach a'r profedigaethus yn y wlad sy o fewn cyrraedd imi. Fel y gwelwch, y mae'n wlad lled eang, ac ynddi ugeiniau o bobol rhwng plant a phopeth, ond 'd oes yma neb—bach na mawr—na wn i amdano. Fy meddwl i yw bod Rhaglinieth yn ddoeth iawn yn rhoddi cyfle i bob un grefydda yn ei ffordd ei hun. Anaml y byddaf fi'n meddwl am fyd arall, ond pan wnaf hynny af i'r niwl ar unwaith. Fe'n dysgir yn awr na fydd dim profedigaethe yn y byd a ddaw. Os ydi hynny'n wir, sut y gall un fel y fi grefydda yno? Y mae'n debyg y trefna'r Meistr Mawr ffordd newydd imi."

"Y mae'n debyg y byddwch yn mynychu'r Eglwys, Cyrnol?

Mor regilar â'r cloc—ddwy waith yn y flwyddyn; 'chollais i mo'r Plygain a'r Cwrdd Diolchgarwch ers tros ugen mlynedd. A fuasech chi'n hoffi bwrw golwg ar y cŵn—y pac gorau yn y sir, Syr."

II
CALIGAN

PRYNHAWN Y Sul cyntaf o Fedi yn y flwyddyn 1896, ar gyfer oedfa ddau, yr ymwelais i gyntaf â Solfach, a chan na wyddwn ddim am y lle, pryderais beth ar y daith ynglŷn â tharo ar y capel. Ond ar flaen uchaf y pentref hirgul cyfarfûm â hen ŵr tal â rhimyn o farf wen tan ei ên o glust i glust. Yr oedd mewn gwisg drom a llac, ac o "liw rhyfedd", fel y dywaid Daniel Owen am glogyn Nansi'r Nant. Gofynnais a fyddai cystal â dangos imi gapel y Wesleaid.

"O, ho, fachgen bach," meddai ef, "y fi sy'n mynd â chi i gapel Wesle". Trodd yn sydyn a symud yn gyflym, a'i ben yn ymestyn ryw droedfedd o flaen ei draed. Wedi cyrraedd y capel, gofynnais, "Pwy ydych chwi, 'mod i mor hy â gofyn?"

"Y fi, O, ho, fachgen bach, y fi ydi Caligan; 'rw i'n nabod pob pregethwr—y Doctor Thomas Jones a Mr. Delta Davies a phawb."

Bu Caligan ym mhob oedfa yn y capel bach ar hyd y flwyddyn y bûm i yn yr ardal, ac am rai blynyddoedd wedyn, a phan gaewyd y drws am byth, ef oedd yr olaf i fyned trwyddo.

A phwy oedd Caligan: O ba le y cafodd ei enw—nid Cymraeg mohono? Cyn hir caed yr hanes. Ychydig dros gan mlynedd yn ôl bellach, chwaraeai nifer o blant ar lan yr afon fach a red trwy waelod y pentref, ac a elwir Afon Solfach. Oherwydd glaw trwm y nos gynt yr oedd lli 'r afon yn fwy nag arfer y diwrnod hwnnw, ac yn hwyl y chwarae syrthiodd un o'r plant, hogyn deallus, byw a direidus, pum mlwydd oed,—i'r afon, a chludwyd ef beth ffordd gan y lli. Yn y munudau hynny digwyddodd i feddwl yr hogyn rywbeth anesboniadwy.

Yr hen ŵr Caligan oedd y plentyn bach hwnnw. Yr oedd yn awr yn tynnu at ddeg a thrigain oed, a’i feddwl o hyd yn aros yn bum mlwydd. Fel dyn nid oedd yn "llawn llathen", eithr fel plentyn yr oedd yn gyflawn. Nid oedd ei ddiffyg namyn diffyg planhigyn heb orffen tyfu. Plentyn—plentyn pum mlwydd —a fu Caligan am y pedwar ugain mlynedd y bu ar y ddaear.

Gwyddel a gefnodd ar ei gartref ydoedd ei dad, ac ni ddychwelodd byth. Cymraes oedd ei fam a fu farw'n ieuanc. Bu yn hir, hir, yn marw; methai ag ymollwng gan bryder ynghylch ei hunig fab bach. Gwyddai mai plentyn pum mlwydd a fyddai hyd ei fedd. Gwlychodd ei gobennydd â'i dagrau, a phan gaeodd ei llygaid yn y glyn, yr oedd gwlith ar ei hamrannau. Gwelodd Duw y dagrau, a chymerodd y mab bach i'w ofal, a gwnaeth ardal gyfan yn dad ac yn fam iddo. Wedi marw Sian Fach, ei fodryb, nid oedd berthynas i Caligan yn yr holl fyd, ond agorodd y pentref ei freichiau i'w dderbyn, a mynwesodd ef yn dyner a gofalus. Teimlai pawb fod Caligan yn perthyn iddynt; plentyn y pentref ydoedd, a pharhaodd felly hyd ei farw. Chwarddai Solfach tros y wlad o weled ei droeon plentynnaidd a diniwed. Peth hynod a digrif ydoedd gweled plentyn pum mlwydd mewn dyn mawr, ac wedyn mewn hen ŵr; chwarddai pawb, eithr gwae y sawl a amcanai gam iddo. Derbyniai cenhedlaeth newydd o blant ef i'w plith fel un ohonynt hwy, a phan dyfent a'i adael, teimlent rwymedigaeth y pentref iddo, a deuai fel byw eu llygaid. Nid oedd yn y sir i gyd neb diogelach na Chaligan.

"Pwy bynnag a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw y mwyaf yn nheyrnas nefoedd," medd yr Athro dwyfol. Ni pheidiodd Caligan â bod y bachgennyn hwnnw. Ataliwyd datblygiad ei feddwl cyn tyfu ohono i fyd drygau fel anwiredd ac anonestrwydd a diogi. Ni wn pa enw i'w roddi ar y pethau hyn ynddo. Nid rhinweddau moesol mohonynt, oblegid ni ddibynnent ar ei ewyllys ef. Nid adnabu gelwydd nac anonestrwydd na diogi, ac ni pheidiodd â bod "y bachgennyn hwn". Methodd gyrraedd y dibyn o'r lle y mae cwymp yn bosibl.

Ni ddywedai gelwydd pes telid. Profwyd ef amryw droeon. Dywaid Mr. Henry W. Evans, Y.H., F.R.A.S.,—un a'i hadnabu cystal â neb, a'i barch iddo'n parhau'n fawr—i nifer o fechgyn y pentref geisio'i demtio i gelwydd unwaith. A hwy yn gwybod am hoffter yr hen ŵr o felysion a phethau eraill plant, "Caligan", ebe hwy, "os ewch chi at A.B. a dweud wrtho fod C.D. yn taenu ar led fel ar fel (stori gelwydd) amdano, chi gewch chwe cheiniog"

"O, ho, fechgyn bach," atebai Caligan, "'d oes dim eisie dweud peth fel 'na am bobol"

"Dyma i chi swllt, Caligan, digon i brynu melysion am fis cyfan."

"Na, na, 'ddweda i ddim pethe drwg am bobol." Er mor hoff ydoedd yr hen ŵr o felysion, methwyd â'i hudo. Yr oedd ei wefus yn bur, ac ymddiriedai pawb yn ei air. Yr oedd ei onestrwydd hefyd yn ddifeth. Rhoddai pobl yn ei law, fel negesydd, aur ac arian lawer, ac ni chaed erioed wall ynddo. Plentyn pum mlwydd ydoedd, nad adnabu o gwbl gelwydd ac anonestrwydd.

Nid byw fel ynfytyn dibwrpas a segur a wnaeth, eithr gweithiodd yn galed a diseibiant ar hyd ei oes. Ei brif waith am lawer o flynyddoedd ydoedd cludo glo mân i'r pentrefwyr. Tuag wyth milltir o Solfach, gerllaw Castell y Garn, y mae gwaith glo carreg, a elwir ar lafar gwlad, Gwaith Glo Cwlwm, ac o hwn y ceid glo mân i weithio cynnud neu "belau" Cyrchid clai o weunydd cyfagos a chymysgid ef â'r glo mân. Gwnâi'r pelau dân glân a gloyw a di-fwg, a llosgai tanllwyth am oriau onid aflonyddid arno, eithr os ymyrrid ag ef fel y gwneir â glo digymysg, a digiai a maluriai a diffoddai. Cadwai amryw deuluoedd asynnod i gludo'r glo, a gosodid hwy tan ofal Caligan. Gyrrai yntau o ddeuddeg i ugain o'r asynnod i'r lofa, a gosodai bwn o'r glo ar gefn pob un, a dychwelyd. Bu'r hen frawd mewn helynt mawr gyda'r asynnod barus ddegau o weithiau ar y daith i'r lofa, ac ar y daith adref fe'i cedwid yn brysur yn codi'r pynnau a syrthiai oddi ar gefnau'r asynnod. Diau mai'r llafur caled hwn a barodd iddo wargrymu cymaint yn ei hen ddyddiau. Ei dâl am y llafur a'r gofal ydoedd ceiniog yr asyn. Ataliesid gwaith yn y lofa fach, a daethai galwedigaeth Caligan fel gofalwr a gyrrwr i ben ychydig o flynyddoedd cyn i mi ei adnabod, ond parhaodd ef i feddwl yn uchel o'i swydd, a rhoddes orchymyn i'r saer pan ddeuai galw arno i wneuthur ei arch am ofalu rhoddi ar y caead y geiriau,

"Edward Callaghan,
Coal Merchant Bach (retired),
Aged, 67."

O derfyn ei waith fel "Coal Merchant Bach" hyd derfyn ei oes, bu yn negesydd y pentref. Ymddiriedai pawb ynddo, a gwnâi yntau'r negesau â difrifwch ac ynni meddwl plentyn pum mlwydd. Hen gorff, tros ddeg a thrigain, ac asbri hogyn bach yn ei ysgogi'n ddiarbed. Ni wybu beth oedd diogi; mynd, a mynd, fel plentyn, o fore gwyn hyd nos, ac ar derfyn dydd, fel plentyn eilwaith, syrthio i gwsg dwfn a difreuddwyd.

Gwyddai Caligan ddau emyn, neu'n hytrach, emyn a chân; emyn mawr Robert ap Gwilym Ddu:—

"Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio,"


a chân gasglu calennig; pethau a ddysgodd ei fam iddo cyn damwain yr afon. Canodd lawer ar y rhain ar hyd ei oes. Parhaodd i gasglu calennig hyd y diwedd, a chasglu fel y cesglid pan oedd ef yn blentyn.

Y mae pentref Solfach yn anghysbell ac anhysathr, heb glywed sŵn trên erioed, ac yn ymestyn fel petai'n awyddu ffoi i'r môr mawr rhag i ferw a sŵn y byd o'i ôl yn y pellter ei oddiweddyd. Sieryd y plant heddiw Gymraeg llyfn a swynol Penfro oesoedd yn ôl, ac ymdry hen arferion yno'n hir wedi eu marw ym mharthau eraill Cymru. Yn nyddiau bore Caligan, arferid hela'r Dryw a'i gludo mewn tŷ bach o risgl y derw o ddrws i ddrws wrth gasglu calennig ddyddiau'r Nadolig a'r Calan. Parhaodd Caligan yr hen arfer hyd ddiwedd ei oes; bu byw arferion ei bum mlwydd cyntaf am bedwar ugain mlynedd.

Tŷ bach, rhyw ddeunaw modfedd o hyd ac wyth modfedd o uchder â dwy ffenestr fach a drws rhyngddynt, wedi ei wneuthur o risgl y derw a'i wisgo â rhubanau o bob lliw ydyw Tŷ'r Dryw. Ceir un ohonynt yn Amgueddfa Caerdydd. Y mae traddodiad ym Mhenfro, ac yn arbennig yn ardaloedd Solfach a Thŷ Ddewi, bod y dryw bach yn aderyn nodedig a phwysig iawn ym mywyd yr hen dderwyddon. Chwanegid at ddyletswyddau eraill derwydd y gwaith o benderfynu materion cyfreithiol. Ef a eisteddai ar y fainc i farnu pob cweryl a throsedd, ac os amheuid cyfiawnder ei ddedfryd dywedai i'r dryw ddatguddio'r gwirionedd iddo; ac yr oedd tystiolaeth y dryw yn safadwy a therfynol. O dipyn i beth chwerwodd y werin at y dryw oherwydd ei ystyried yn fradwr, ac erlidid ef yn greulon. Bu "hela'r dryw" mewn bri ym Manaw ac Iwerddon yn ogystal â Chymru ar amserau arbennig. Helid ef yng Nghymru ar wyliau'r Nadolig a'r Calan, a phan ddelid ef, fe'i dygid yn y tŷ bach o ddrws i ddrws, gan geisio calennig, a chanu y gân hon:—

CÂN Y DRYW.[1]

DOH G. (Nos Gŵyl Ystwyll...)

Dryw bach ydy'r gŵr,
Amdano mae stŵr;
Mae cŵest arno fe
Nos heno 'mhob lle.

Fe ddaliwyd y gwalch
Oedd neithiwr yn falch
Mewn stafell wen deg,
A'i un brawd ar ddeg.

Fe dorrwyd i'r tŵr,
A daliwyd y gŵr;
Fe 'i rhoddwyd dan len,
Ar elor fraith wen.


Rhubanau o bob lliw,
Sydd o gwmpas y dryw;
Rhubanau'n dri thro,
Sydd arno'n lle to.

Mae'r drywod yn scant,
Hedasant i bant;
Ond deuant yn ôl
Drwy lwybrau 'r hen ddôl.

O meistres fach fwyn
Gwrandewch ar ein cwyn;
Plant ieuainc ŷm ni,
Gollyngwch ni i'r tŷ;
Agorwch yn gloi
'Nte dyma ni 'n ffoi.


Nid yn aml y llwyddai Caligan i ddal y dryw, eithr gofalai rhywun bob blwyddyn am ryw fath ar aderyn iddo, bach neu fawr, dof neu wyllt; a bu rai troeon yn cludo ceiliog iâr mawr a dof wedi ei wisgo â rhubanau o bob lliw. A chan na wyddai gân y dryw, canai'r gân a ddysgodd ei fam iddo cyn ei fod yn bum mlwydd:—

"God rest you merry gentlemen,
Whom nothing can dismay;
Remember Christ our Saviour
Was born on Christmas day;
And his tidings are comfort and joy.


Yn gyffredin, ychwanegai at yr uchod:—

1 "Where is now the father Abram,
Where is now the father Abram,
Where is now the father Abram,
Where is now the father Abram,
Safe in the promised land.

2. "Where is now the father Isaac,
etc, etc.

3. "Where is now the father Jacob,
etc., etc."

Yr oedd yng nghrefydd Caligan amryw o brif nodweddion Cristion da, megis cywirdeb a gweithgarwch ac aberth. Aberthai fwy nag odid neb a adnabûm i. Cyfrannai ei ychydig at grefydd o brinder mawr. Rhoddai o'r neilltu ar gyfer casgliad y Sul y geiniog gyntaf a enillai bob wythnos, ac er i ddŵr redeg o'i ddannedd am felysion plentyn, ni wariai'r geiniog honno. Gwyddai pawb am ei sêl fel Weslead. Nid oedd ddigon o nerth yn y pethau a hoffai fwyaf i'w dynnu o'r capel bach. Ni cheid oedfa'r nos yng nghapel Wesle ond yn unig pan bregethai Sais o'r enw Mr. Brierly, a oedd yn dollydd y gymdogaeth ac yn bregethwr cynorthwyol. Un prynhawn Sadwrn, ac yntau'n gwybod y byddai oedfa yn y capel bach nos trannoeth, rhoes y Parch. Pethian Davies, gweinidog yr Annibynwyr, brawf ar sêl yr hen ŵr:—

"Caligan," meddai Mr. Davies, "a ddowch chi i'n tŷ ni i de yfory?"

"Thanci mawr, Mr. Davies; mi ddo i"

"Erbyn pedwar, Caligan.'

"O'r gore, Mr. Davies; 'rw i 'n siŵr o ddwad."

"Fe fydd acw de iawn, Caligan—digon o fara menyn a theisien a jam a phopeth."

"Mi ddo i, Mr. Davies, cyn pedwar hefyd."

"Mi fydda i yn eich disgwyl, ac wedyn, ar ôl te, bydd raid i chi ddyfod i'n capel ni i'r oedfa."

Bu Caligan yn fud ac yn edrych ar ei draed yn hir, ac yna, codi 'i ben ac edrych â'i lygaid plentyn ym myw llygaid y gweinidog, a dywedyd,

"Mr. Davies, fydd arna' i ddim eise te yfory."

"O, wel, yr ych chi wedi addo, a dim iws i chi dorri 'ch addewid."

"Ie, ie, Mr. Davies, ond ar ôl addo y teimles i na fydd arna' i ddim eise te yfory."

"O'r gore, Caligan, dewch chi acw i de, a chi gewch fynd i gapel Wesle wedyn."

"Thanci mawr, Mr. Davies, 'rw i 'n siŵr o ddŵad—cyn pedwar."

Pan fu farw 'r Achos Wesleaidd yn Solfach yn y flwyddyn 1899, nid ymaelododd Caligan mewn unrhyw eglwys arall, eithr âi ar gylch i gapelau 'r pentref. Hysbysai ddechrau'r wythnos ym mha gapel y bwriadai addoli 'r Sul, ac at bwy yr i âi ginio a the. Ar derfyn oedfa 'r bore âi ar ei union i'w ginio, heb ei ofyn, ac ni chaewyd erioed ddrws arno. Yn nosbarth yr ysgol Sul, darllenai ei adnod yn ei dro, a phob amser yn Saesneg; safodd ei feddwl cyn dysgu ohono ddarllen Cymraeg. Yn Nhŷ Ddewi a Solfach y mae'r Bedyddwyr yn gaeth gymunwyr. Câi'r Doctor Thomas Jones bregethu iddynt ar nos Cymundeb, eithr ni chai gymuno, ond câi Caligan groeso at y bwrdd, ac ef yn unig o bawb na pherthynai i'r enwad a gâi 'r fraint honno. Eisteddai ym mhob capel yn ymyl y sedd fawr, a phan elwid ar y plant ymlaen ar derfyn yr oedfa nos Sul i adrodd eu hadnodau, codai yntau yn eu plith ac adrodd ei adnod. Y plentyn pum mlwydd hyd y diwedd.

Bu farw Caligan yn hen ŵr pedwar ugain oed. Claddwyd ef ym mynwent Tregroes, ddydd Sadwrn, Chwefror 16, 1907. Nid oedd neb mewn galarwisg newydd yn dilyn yr arch, ac ni chollodd neb ddeigryn wrth adael y tŷ, ond yr oedd y pentref i gyd yn yr angladd, wedi ei wisgo â pharch a defosiwn. Safai pob gwaith yn llonydd a syn, ac ni chlywid dim sŵn namyn sŵn dŵr llyfn ar raean, fel griddfan isel plant—sŵn afon fach Solfach. Aethpwyd i gapel y Methodistiaid Calfinaidd, a bu pedwar gweinidog yn gweddïo a sôn am hiraeth a cholled y pentref. Canodd y gynulleidfa ei unig emyn:—

Mae'r gwaed a redodd ar y Groes
O oes i oes i'w gofio.

***

Dyna Wesle olaf Solfach; ac nid oes faen ar ei fedd.

III
YR HEN GLOCHYDD

NID oedd mynwent gyffredin neu gyhoeddus' yn yr ardal. Cleddid pawb er cyn cof ym mynwent Eglwys y plwyf, ac yn fy nyddiau bore i aethai'r hen fynwent cyn llawned oni fu'n rhaid chwanegu ati ddarn mwy na hi ei hun. Bellach teimlai'r hen glochydd yn dawel ei feddwl o gael tan ei ofal le cyfaddas i gyfarfod â gofyn y plwyf am o leiaf genhedlaeth arall. Claddwyd llawer yn y tir newydd cyn claddu'r clochydd ei hun ynddo, ac ni fu na chweryl na bygwth gwerth sôn amdanynt rhwng awdurdodau'r Eglwys a'r plwyfolion tra bu ef byw; eithr wedi ei farw daeth blinfyd ar bawb, nid o'r Eglwys, ond o rywle nas gwyddai neb. Blinid y trigolion gan ymyriadau dirgel a dieithr ynglŷn â'r fynwent; daliwyd yr holl blwyf â phryder ac ofn. Pan ddewisid man bedd newydd a'i farcio gan berthynasau un y bwriedid ei gladdu, âi rhywun neu rywbeth i'r fynwent berfedd nos a symud y pegiau, a chladdwyd amryw mewn mannau na ddewisasid gan y perthynasau. Bu holi ac olrhain mawr, a cheisio esbonio'r dirgelwch, ond nid i ddim pwrpas. Pwnc mawr siarad y plwyf ydoedd 'symud y pegiau': eithr siaradai pawb mewn ofn a than eu hanadl. *** Dyn hynod oedd yr hen glochydd, a diddorol hefyd, oherwydd, yn bennaf, y gwisgid ef â rhyw ddirgelwch na lwyddai neb i'w dreiddio. Cyn belled ag y gwyddai'r plwyfolion, rhyw Felchisedec yr ail ydoedd, heb nac achau na dechrau dyddiau iddo, ac ni wybu neb erioed hanes ei orffennol. Tybiai rhai mai Gogleddwr ydoedd, a hynny oherwydd ei ddyfod i'r pentref trwy ei ben gogleddol, ac nid oherwydd ei dafodiaith. Ni lefarai dafodiaith unrhyw ran arbennig o Gymru. Pan ddaeth i'r ardal gyntaf rhyw gymysgfa ydoedd ei iaith, ac ar brydiau siaradai dafodieithoedd gwahanol rannau o'r wlad yn gwbl rwydd. Yr oedd cryn dipyn o ôl darllen ar ei iaith, ac ym mhresenoldeb gweinidog neu offeiriad llefarai fel llyfr.

Baledwr oedd Lewys y Clochydd wrth natur, a daethai ef a Marged, ei briod, i'r plwyf yng nghwmni Owain Meirion. Canai Lewys ac Owain, a gwerthai Marged y baledi. Yr oedd gan y ddau ŵr leisiau rhagorol, a dywedir na chlywyd gwell baledwyr na chynt na chwedyn. Lletyent yn y Belle Vue, llety'r fforddolion, a gedwid gan Isaac Jones. Deuai i'r Belle View o dro i'w gilydd holl amrywiaeth godreon dynoliaeth, o'r German Band i'r crwydryn mwyaf troednoeth a charpiog, a threthwyd natur Isaac Jones, oni fyrhawyd ei ddyddiau, trwy ddychmygu gwyrthiau i gadw'r llety yn symol lân ac iach. Ar ôl swyno i'w trysorfa y geiniog olaf y gallai'r ardalwyr ei hepgor ar chwilfrydedd ac adloniant, aeth Owain Meirion i'w deithiau yng nghanolbarth a de'r sir, eithr arhosodd Lewys a Marged yn y pentref a gwneuthur dinas barhaus ohono, a chyn hir cawsant dŷ iddynt eu hunain ym Mhencae, ar flaen de'r pentref.

Oherwydd gwneuthur iddynt eu hunain gartref bu'n rhaid iddynt newid galwedigaeth, a llithrasant yn naturiol o fod yn faledwyr i fod yn bedleriaid; gwerthwyr mân nwyddau fel llestri bwyd, botymau a chareiau, edafedd ac incil, edau a nodwyddau, a manion eraill at wasanaeth teuluoedd yr ardal, ac yn arbennig y sawl a drigai mewn tyddynnau diarffordd. Cludent y nwyddau mewn dwy fasged, a derbynient yn dâl garpiau a chrwyn cwningod a phres. O dipyn i beth cynyddodd eu masnach gymaint oni lwyddasant i gael mules a throl. Cofiaf y fules lawn cystal ag y cofiaf ei pherchen; ei henw oedd Bell, ac yr oedd yn boblogaidd anarferol gyda'r plant. Diau mai yn y cymeriad o glochydd y dewisodd Lewys enw'r fules —Bell.

Dyn tal, hirgoes, â'i war yn bygwth crymu, ydoedd Lewys. Symudai'n hamddenol tan lusgo traed hirion a dueddai i gilio rhagddo lwrw'i ochr. Yr oedd yn haws ei gymryd yn bregethwr cynorthwyol nag yn ddim arall, oblegid gwisgai bob amser gôb ddu dipyn yn llaes, a het jim cro yn tynnu at ei wegil ac yn dangos talcen mawr yn awgrymu derwydd neu hen broffwyd. Ni welais ef erioed heb sbectol, naill ai ar ei dalcen neu ar ei lygaid, ac ar ei dalcen fynychaf.

Y farn gyffredin ydoedd na ddysgodd chwerthin, ac ni welodd neb wên ar ei wyneb o'r dydd y daethai i'r ardal yng nghwmni Owain Meirion.

Dichon bod ymddangosiad Lewys ynghyda phrinder elw'i alwedigaeth yn esboniad ar ei benodiad yn glochydd Eglwys y plwyf; ond pa beth bynnag oedd y rheswm, profodd ef ddoethineb y penodiad trwy lwyredd ei ffyddlondeb a'i awdurdod yn y swydd. Nid oedd na rhagorach na phwysicach clochydd yn y deuddeg sir. Fe'i hystyriai 'i hun y nesaf at yr offeiriad o ran pwysigrwydd ymhell o flaen y gweinidog ymneilltuol—a rhywfodd neu 'i gilydd enillodd fwyafrif o'r plwyfolion i deimlo a chredu fel yntau. Croesawai Lewys bob angladd â chroeso mawr, nid oherwydd yr ymhoffai ym marwolaeth neb, eithr oherwydd bod angladd yn gyfle iddo ef amlygu ei awdurdod a'i bwysigrwydd fel clochydd. Hawliai iddo'i hun y fraint o ddewis man pob bedd, a dywedai bethau llym iawn os amheuid ei hawl. Un tro aeth cyfaill a minnau i'r fynwent i ddewis man bedd i berthynas a fuasai farw oddi cartref, ac ebe fi, "Lewys, yr ydym am i'r bedd fod yn y fan hon." Ni chymerodd arno fy nghlywed, ond cerddai'n ôl a blaen, amgylch ogylch, a'i lygaid at y ddaear. "'Waeth i chi heb ymdroi, Lewys," meddwn, " y mae'r bedd i fod yn y fan hon ". Yn araf, araf, trodd ataf ei wyneb gwelw, ac edrych â llygaid yn llawn diystyrwch, a dywedyd yn bwyllus â llais isel: "Yr wyt ti wedi bod i ffwrdd am rai blynydde, onid wyt ti, 'ngwas i, ac y mae dy gôf di dipyn yn ddrwg; pan ei di'n ôl adre hola dy fam, a mi gei wybod pwy sydd i ddewis man bedd. Y fi, clochydd yr Eglwys, sydd i ddweud ymhle y mae pobol i'w claddu. Pegia'r bedd fan hyn.'

Na wnaf, Lewys; dyma fan y bedd."

"A wyddost ti â phwy 'wyt ti'n siarad, ngwas i? 'Dwn i pa felltith sydd ar ymneilltuwrs y dyddiau hyn. Y mae y J.R. yna a'i epil wedi drysu'r holl wlad. Gad i mi ddweud wrtho ti unwaith am byth mai Mr. Jones, y ffeirad, bia'r fynwent yma bob modfedd ohoni, a bod gen i hawl, yn enw Mr. Jones, i dy rwystro i gladdu dy berthynas yn y fynwent yma am iddo farw y tu allan i'r plwy. Pegia'r bedd fan hyn, neu dos i gladdu yn rhywle arall."

Lewys ydoedd torrwr beddau'r plwyf, ac yr oedd felly, mi dybiaf, yn rhinwedd ei swydd fel clochydd. Y swm a delid am dorri bedd ydoedd chwech a chwech, ac wedi tynnu ymlaen mewn dyddiau talai'r clochydd dri swllt i weithiwr am ei dorri yn ei le, a chadwai yntau dri a chwech fel elw cyflogydd. Gofalai am ganu'r gloch ddydd y claddu, a bod wrth y bedd i daflu iddo ddyrnaid o bridd, a llafar-ganu â llais yr hen faledwr, ei atebion i'r offeiriad. Yna, wedi'r claddu, âi adref yn hamddenol ar hyd y ffordd hwyaf, am ei bod, meddai ef, yn fwy gwastad na'r ffordd ferraf, a chan na ddiystyrai bethau da'r byd hwn, yn wlyb na sych, troai i'r Commercial i dorri'r chwech oedd gynffon i'r tâl. Yr oedd ganddo daith o hanner milltir o'r Commercial i'w gartref, ac ar ôl dringo rhiw y Graig Fach, sy'n rhyw ddau can llath o hyd, bron ar derfyn y daith, teimlai fod yr ynni a wariai yn yr ymdrech yn hawlio iddo adgyfnerthiad, a galwai yn y Royal Oak i orffen y chwech a gwneuthur y swm yn arian cyfan. Yna âi adref i Bencae i ddethol carpiau a phacio crwyn a darllen hen hanes Cymru.

Yr oedd yr hen glochydd yn ddyn o alluoedd anarferol. Medrai ddarllen a sgrifennu'r ddwy iaith. Teimlai ddiddordeb mawr mewn hynafiaethau, ac o ran gwybodaeth gyffredinol rhagorai ar bawb yn yr ardal. Ychwanegai'r ffaith fod gwyddoniadur y plwyf yn was iddo ef lawer at falchder ac urddas yr offeiriad.

Eithr nid ei ddawn na'i wybodaeth a'i gwahaniaethai fwyaf oddi wrth eraill, ond rhyw ddirgelwch dieithr a'i gwisgai trosto. Yr oedd yn hen, hen, ac yn ei lygaid mawr gwelid breuddwydion hen oesoedd yn cronni; ond nid oedd iddo na llesgedd na ffoledd henaint. Ni chofiai neb ef yn ieuanc; yr oedd yn hen pan welwyd ef gyntaf hanner can mlynedd yn ôl, ac nid oedd fymryn hyn yn awr. Pan edrychid ar Lewys y clochydd gwelid henaint heb ei wendidau. Yr oedd yn broblem fawr, a phrif neilltuolrwydd y broblem ydoedd henaint. Safai weithiau ar heol y pentref â'i ddwylo ar ei gefn, a'i het ar ei wegil a'r sbectol ar ei dalcen, yn wynebu'r Graig Fawr. Ac wedi syllu'n hir arni fel petai'n edrych trwyddi, symudai 'n araf ei wyneb prudd a'i lygaid hen ar draws llechwedd y mynydd i gyfeiriad Bedd Taliesin a Chae'r Arglwyddes, heibio Llety'r Frân a Thrwyn y Buarth, ac edrych draw ymhell bell tros fynyddoedd Meirionnydd. Ar adegau felly credid bod yr hen glochydd mewn rhyw orffennol pell a dieithr.

Gofynnais iddo unwaith paham y penderfynodd aros a chartrefu yn y pentref.

"Wel," meddai, "teimlo wnes i 'mod i'n 'nabod y lle."

A fuoch chi yma o'r blaen, Lewys?

Cwestiwn anodd yw hwnna, 'ngwas i; ni fedr neb fod yn bendant ar 'i orffennol. Pan gyrhaeddodd Owain Meirion a minnau i'r pentref acw tuhwnt i Ddyfi, ac i mi edrych tuag yma, mi gymerwn fy llw 'mod i 'n 'nabod y lle. 'Owain,' ebe fi, rhaid i ni groesi i'r ochr draw'. 'Croesi!' meddai fe, be andros sydd arnat ti, Lewys? ond tydan ni wedi setlo i fynd yn syth bin trwy Faldwyn yn ôl i'r Gogledd, ac y mae'r ochr draw yn dechra'r De.' Wedi cyrraedd yma, mi deimles ar unwaith fel petawn i gartre o'r diwedd, a'm bod yn gyfarwydd â'r holl fro, dim yn y byd yn ddiarth yn na'r Graig Fawr na Chors Fochno na dim arall, a mi deimles hen anian crwydro yn marw ynof. Bore trannoeth, meddwn i wrth Owain, 'Y mae rhyw chwant mawr a rhyfedd arna' i am aros yn y lle hwn, ac y mae Marged a minnau am wneud ein cartre yma.' 'O'r gora', ebe fe,' mi af inna ymlaen i Lambad ar gyfer Ffair Dalis

A ych chi'n credu mewn trawsfudiad eneidie, Lewys; mae'ch siarad yn awgrymu hynny?

"Credu ym mheth? Trawsfudiad eneidie! P'le ar wyneb y ddaear yr ych chi, pobol y capeli, yn cael gafel ar y geirie mawr a thywyll yma? Trawsfudiad eneidie, yn wir! Rhai garw am eirie mawr ych chi. Gair pregethwr yw hwnna, mi wn. 'R wyt ti'n rhy ifanc i gofio T.A. Yr oedd hwnnw yn gawr o bregethwr tua'r Gogledd, a sôn mawr amdano, a mi ddaeth ryw dro i'ch capel chi—yr hen gapel—i bregethu, ac wedi clywed cymint o ganu cyrn iddo mi es inne i'w wrando, ond ches i fawr ddim ganddo ond hwyl a geirie mawr. Dyma i ti un frawddeg a lynodd yn 'y meddwl i: "Anamgyffredadwyoldebolrwydd tragwyddoldebau anfesuradwy yng ngogoniannau goruchelion paradwys ". 'D oedd pregeth Wil Brydydd y Coed ar "O, Olwyn" ddim ffolach na'r peth a ges i gan y pregethwr mawr. Trawsfudiad eneidie! 'D yw hi ddim yn saff i ddyn ddweud llawer sy'n bendant ar ei gychwyn neu ei gychwyniade. Pan ddoi di'n hŷn mi gei fod yna ryw bethe'n aros yn dy fywyd er gwaetha' pob dysgeidieth a phob credu; mae 'na ryw deimlade ac argraffiade nad oes dim symud arnyn' nhw. Beth bynnag a greda i, 'ngwas i, mi ddyweda eto,—pan ddes i yma yr oeddwn i'n teimlo fel petawn i wedi bod yma o'r blaen, a theimlwn yn reit gyfarwydd â'r lle, y mynydde a'r afon a'r hen Gors fawr, a phopeth arall ond y bobol a'r tai."

Hen ddyn hen oedd yr Hen Glochydd, fel darn o'r hen oesoedd wedi ei daflu i'n plith. Bu yntau farw ddeugain mlynedd yn ôl, a chladdwyd ef yn yr ardal y teimlai ei fod yn ei nabod' cyn dyfod iddi. *** Ugain mlynedd wedi claddu'r Hen Glochydd bu farw'r clochydd newydd yntau, a phegiwyd man ei fedd. Yn hwyr noson y pegio digwyddai i'r Doctor Dafys fyned adref heibio i'r fynwent, ac er ei fraw tybiodd weled, yng ngolau gwan y lloer, hen ŵr tal â pheth crymu yn ei war, a jim cro yn tynnu at ei wegil, yn llusgo symud o gwmpas man y bedd newydd. Pan dorrodd y wawr yr oedd y pegiau wedi'u symud.

IV
MARI AMOS

MOR fawr ydoedd gwres a dylanwad Diwygiad 1859 ar ei gychwyn fel yr enillwyd at grefydd bawb yn y plwyf ond dau, a Mari Amos ydoedd un o'r ddau. Aeth hi drwy'r gwres i gyd heb doddi dim, a hwyrach y bu i hynny brofi nad oedd y dylanwad yn anorchfygol.

Ni thywyllai hi ddrws lle o addoliad byth, eithr yn y rhagolwg ar ei chladdu dywedai pan ofynnid iddi mai Eglwyswraig ydoedd, oherwydd tybio bod proffes felly yn angenrheidiol i'r diben o sicrhau offeiriad i wasanaethu yn ei hangladd. Cyffesai'n aml fod ei byd yn un caled a'i hanghenion yn fawr, ond na theimlodd erioed angen arbennig am grefydd, ac na welai reswm o gwbl tros ymboeni ynglŷn â phethau byd arall a phethau'r byd hwn yn gofyn cymaint o amser ac ymdrech. Nid oedd moesau Mari yn ddrwg, ag eithrio'i hiaith; yr oedd yn onest a geirwir, ac nid oedd ei hiaith yn rheglyd, eithr defnyddiai eiriau bras a garw a swniai yn ddigon tebyg i regfeydd, a llefarai'n syth a hy. Ond gan na phroffesai grefydd o fath yn y byd, ac na fynychai addoldy, ystyrid hi 'n fath ar bagan.

Ni pherchid neb yn y plwyf, pa rinweddau bynnag a feddai, oni phroffesai grefydd; eithr diogelai proffesu barch i bawb pa mor ysgafala bynnag fyddai'u buchedd. Yn ychwanegol at anystyriaeth neu ddiffyg ymdeimlad o rwymedigaeth i ddim uwch a gwell na gofynion y byd presennol, tybiaf fod annibyniaeth meddwl Mari yn rhan fawr o'r rheswm tros iddi fod yn wahanol i'w chymdogion o ran crefydd.

Er nas parchai neb, ofnai pawb hi, oherwydd yr ystyrid hi yn rheibes gadarn a pheryglus. Credai pawb yn y plwyf y pryd hwnnw mewn rheibio a chonsurio, a chred pawb felly eto, ag eithrio ambell Sais di-ffydd a aeth yno'n ddiweddar o Loegr. Nid yw'n hawdd egluro paham y mae pobl grefyddol iawn yn ofergoelus iawn hefyd. Beth bynnag yw'r rheswm, nid diffyg gwybodaeth a diwylliant mohono, oblegid credai 'r gwŷr enwog y Doctor Johnson a John Wesley cyn gryfed yn ymddangosiad ysbrydion ag y credent yn eu Beibl, ac â Syr Oliver Lodge ar ei lw y daw iddo o fyd arall gyfrinachau drwy'r peth a eilw ysbrydegwyr yn Gyfrwng. Y mae ofergoeledd yn grefydd i lawer yn yr oes hon fel yn yr hen oesoedd.

O gredu mewn rheibio, y peth hawsaf yn y byd ydoedd credu hefyd bod Mari Amos yn rheibes. Hen ferch ddibriod ydoedd, hen a thal a thenau a phraff ei hesgyrn, â gwallt du a disglair yn dechrau britho, a phob amser mor ddidrefn a gwyllt â brigau'r bedw mewn gwynt. Gwisgai'n gyffredin ddillad duon a'u hoed yn bygwth newid eu lliw yn goch dof. Yr oedd ei hesgidiau yn fawr a chryf fel eiddo gwrryw, i godi ei thraed o'r llaid, a'i cherdded yn araf a chadarn, a'i cham fel cam dyn mawr. Ar ei hael yr oedd cysgod gwg, a'i threm yn annibynnol a syth. Pe teithid yn ôl i'r genhedlaeth o'r blaen ceid mai Gwyddeles oedd Mari, ac mai enw'r teulu cyn ei ddyfod i'r plwyf ydoedd Patrick. Ni fedrai hi air o ddim iaith ond Cymraeg, ac ni feddylid amdani ond fel Cymraes, eithr pe trawai dieithryn arni ymhlith mil adnabydd—ai hi heb betruso fel Gwyddeles. Er ei geni yn y pentref, teimlai'r trigolion, heb wybod paham, nad oedd yn un ohonynt hwy, ac er y dibynnai am ei bywoliaeth ar hanner coron o elusen blwyf ac ychydig enillion am waith ar ffermydd y gymdogaeth, teimlid nad oedd neb mor annibynnol ei ysbryd a'i ymddygiad â hi yn yr holl ardal.

Priodolid pob anghaffael ar ddyn ac anifail, oni ellid ei esbonio, i waith Mari fel rheibes, a bu'r gred yn ei gallu i ddrygu o gryn fantais i'w hamgylchiadau ar hyd ei hoes. Prin eu cymwynasau ydoedd yr amacthwyr i "bobol y tai bach", eithr nid oedd amaethwr yn y plwyf a wrthodai 'r gymwynas a fynnai Mari. Cynigient iddi bob blwyddyn, ac am ddim, le i hau pecaid neu ddau o bytatws, a dygai'r awgrym lleiaf faich o wellt newydd i'w gwely. Ofnent hi 'n fwy nag yr ofnent ddiafol, oherwydd credu y gallai â'i melltith ddifa'u hanifeiliaid mewn noson. Ni wn a oedd amaethwyr yr ardal yn fwy chwannog i ofergoel na'r mwynwyr, ond gwn fod mwy o ofn Mari arnynt nag oedd ar neb arall; yr oedd hynny efallai am fod ganddynt fwy i'w golli.

Eithr ni chredaf iddi ddrygu neb na dim erioed, a phraw lled sicr i mi nad ydoedd reibes o gwbl ydyw'r ffaith y cynghorai'n aml y sawl a flinid gan afiechyd anodd i'w symud, neu a gollai arian neu anifail, i ymgynghori â'r dyn hysbys' a oedd yn Llangurig.

Pery gogledd Ceredigion yn ofergoelus. Cred trigolion yn ymddangosiad ysbrydion a'r Gannwyll Gorff ac arwyddion o farwolaeth, eithr nid i'r un mesur ag y credid ddeugain mlynedd yn ôl. Ond y mae'r gred mewn rheibio a chonsurio mor gyffredinol a chyn gryfed ag y bu erioed. Os collir arian, neu ryw eiddo arall, a methu â'u cael wedi pob ymchwil, ymgynghorir â'r consurwr, ac nid yn aml y gwneir hynny yn ofer. Yn y flwyddyn 1919, collodd gwraig o bentref ychydig filltiroedd o Aberystwyth lythyr â phum punt mewn nodau ynddo. Aed ati i chwilio, a bu awdurdodau'r llythyrdy a'r heddgeidwaid wrthi'n ddyfal am rai wythnosau, ond nid i ddim pwrpas.

Wedi methu o bawb, aeth y wraig i Langurig i ymgynghori â'r consurwr, ac ni fethodd ef. Dywedodd mai rhyw gythgam o ddyn o bentref cyfagos a ladrataodd y llythyr, ac y gallai ef ei enwi, ond na feiddiai oherwydd y gyfraith, eithr nad oedd raid iddi hi bryderu mwy, y deuai'r cwbl yn ôl ymhen ychydig ddyddiau. Rhyw fore, dri mis wedi'r colli, a'r wraig yn tynnu'r llwch oddi ar y fantell simdde, y tu ôl i un o'r addurniadau cafodd y llythyr, a'r nodau bob un ynddo. Glanhasai y fantell ddegau o weithiau yn ystod y tri mis, ac yr oedd yn gwbl sicr nad oedd yno 'r un llythyr cyn y bore hwn. Petai rhaid, credaf y gallaswn esbonio'r cwbl heb briodoli medr uwchddynol na dieflig i'r consurwr.

Peth cyffredin ydyw i amaethwyr ac eraill redeg at y consurwr pan fethir â chorddi llaeth a'i droi yn ymenyn, neu pan ddisgyn aflwydd i ran un neu ragor o'u hanifeiliaid. Credir mai melltith y rheibes—anaml y sonnir am ddyn yn rheibio—fydd ar y llaeth neu'r anifail, ac nad oes ond consurwr a fedr wrthweithio'r felltith. Yn 1924 yr oedd gwraig yn Llanbadarn Fawr a chanddi fuwch ragorol, ac nid oedd yn y wlad ei gwell am laetha, ond yn sydyn a heb unrhyw reswm gwybyddus, ataliwyd y llaeth; ni cheid un diferyn. Ymhen ysbaid o amser cynghorwyd y wraig i ymweled â Llangurig, ac yno yr aeth ar doriad y wawr. Holodd y consurwr hi a oedd yn yr ardal amaethwr arbennig wedi ceisio prynu'r fuwch. Atebodd hithau fod yno un a oedd yn awyddus iawn amdani, ac iddo geisio 'i phrynu amryw droeon. "Wel," ebe fe, gwaith y gŵr hwnnw sydd ar y fuwch, ewch adref a chewch y fuwch fel arfer." Bore trannoeth cafwyd toreth o laeth fel cynt.

Y mae'r ffydd hon yn y consurwr yn peri anfantais fawr i gleifion weithiau, ac yn gwneuthur edfryd iechyd yn anodd onid yn amhosibl. Pan ddelir un gan afiechyd nad yw'n hawdd ei ddeall na 'i symud, megis anhwylder y gïau neu'r pruddglwyf neu ddolur mewnol anodd i'w adnabod, rhaid cyrchu at y consurwr. Gwna pobl o safle a dysg hyn yn ogystal â'r diddysg a'r dinod. Yn y flwyddyn 1925 hysbysodd meddyg yn Aberystwyth fi am ddyn claf a gafodd well manteision addysg na'r cyffredin, a oedd ar y pryd tan driniaeth y consurwr. Oherwydd nad oedd y meddygon yn llwyddo yn ôl ei ddisgwyliad, mynnodd ei roddi ei hun yn llaw y consurwr. Beth yw'r afiechyd?" gofynnais. "Canser," oedd yr ateb. "Beth a ddaw ohono? "Fe fydd farw'n fuan." "Oni ellwch chwi, feddygon, ddwyn cosb ar y consurwr a'i atal?" "Na allwn, oblegid ni dderbyn dâl am ei waith—dim ond yr hyn a wêl dyn yn dda ei roddi iddo fel rhodd."

I bobl yn credu fel hyn y mae rheibes yn anghenraid, ac yr oedd Mari Amos o ran ymddangosiad ac arferion yn cyfateb i'r syniad cyffredin am reibes yn well na neb yn y plwyf. Gwyddai Mari'n burion farn y wlad amdani, eithr ni cheisiodd erioed gywiro'r farn, oherwydd gwyddai hefyd y byddai newid barn yn peri colled iddi mewn llawer ystyr.

Er nad oedd Mari yn rheibes, fel y tybid ei bod, credai hi am eraill fel y credai pawb amdani hi, ac yr oedd ei ffydd yn y consurwr yn sefydlog a diderfyn. Hyhi a fu yn Llangurig tros deulu Llety'r Frân pan fethwyd â gweithio ymenyn am bythefnos gyfan wedi i'r forwyn newydd fyned yno. Ni wyddid ar y pryd y golchai'r forwyn y fuddai â dŵr a sebon, ac ni fynegodd y consurwr hynny. Pan aeth gwendid rhyfedd i gymalau Betsen, Llain Fanadl, a pheth pylni i'w llygaid, Mari Amos oedd y gyntaf i'w chymell i ymgynghori â'r dyn hysbys'. Nid ymboenai hi o gwbl ynglŷn â chrefydd na dim a berthynai i'r byd a ddaw, eithr credai â'i holl nerth yr ymyrrai rhyw fodau anweledig a gelynol â bywyd y ddaear i'w ddrygu. Ganddi hi y cefais i gyntaf hanes Yr Hen Wrach."

Pan oeddwn yn fachgen bu ein teulu ni yn byw am flynyddoedd y drws nesaf i Mari, ac er iddi felltithio llawer arnaf am fy nireidi bachgennaidd, ni ddaeth niwed o'r melltithion, a phan dyfais yn ddyn rhoddai imi fwy o ffafr nag i neb o'm cyfoedion. Bob tro yr ymwelwn â'r ardal ar fy ngwyliau, galwn i weled Mari, nid yn unig er mwyn yr hen amser gynt, ond hefyd i'r diben o glywed pob hanes hygoel a chwithig a gerddai drwy'r plwyf. Derbyniai fi bob amser a geiriau geirwon a chaled, a gallai dyn dieithr dybio ei bod yn casáu fy ymweled, eithr gwyddwn mai trosedd anfaddeuol fyddai i mi fyned o'r gymdogaeth heb ymweled â hi. Credai'n gadarn bob coel ofer fu yn yr ardal am genedlaethau, a llefarai amdanynt mor agored a phendant ac â chymaint hwyl â sant yn adrodd ei brofiad mewn seiet. Yr oedd y coelion i gyd yn ddiddorol ac yn taflu goleuni ar fywyd y plwyf; yr oedd hefyd lawer mwy ynddynt nag a dybid yn gyffredin, ac un felly oedd y goel am yr HenWrach.

Blinid trigolion y pentref er cyn cof—pob teulu yn ddieithriad—gan afiechyd blin a elwid yn "Hen Wrach". Math ar gryd ydoedd, a'i nodweddion yn rhai hynod. Gwn trwy brofiad am y clefyd hwnnw. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, ac yna deuai cryndod mawr trwy'r holl gorff a pharhâi am oddeutu awr. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhâi felly am chwe neu wyth niwrnod, a phan ddechreuai'r claf wella ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna, ddau ddiwrnod, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu o ran rhif oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Achosid yr afiechyd gan ellylles a breswyliai yng Nghors Fochno, a rhoddwyd ei henw i'r clefyd—Yr Hen Wrach. Cefais ei hanes yn llawn gan Mari Amos.

Un nos oer ym mis Rhagfyr, a heb fod ymhell o'r Nadolig, yr oeddwn yn nhŷ Mari, hen dŷ llawr pridd â dau ben iddo—pen isaf a phen uchaf ac yn agored hyd at lechi'r to. Eisteddem boptu'r tân-ar-lawr, tân mawn, tan y simdde fawr, heb ddim ond golau'r tân. I osod Mari mewn hwyl, ebe fi, "Y mae'n debyg eich bod yn cymryd ambell fygyn o hyd, Mari". "Wrth gwrs, be ti'n gofyn peth mor ddwl:" meddai hi.

"A phan bydda' i yn smocio mi fyddaf yn smocio baco, baco Ringer, ac nid gwellt fel ti a dy fath". Ar ôl tanio'r pibelli aethpwyd i sôn am bobl y pentref a chael bod Lewys y clochydd a Marged ei briod yn "Yr Hen Wrach".

"A wyddoch chi rywfaint o hanes yr Hen Wrach, Mari Amos?"

Gwybod ei hanes! Och yn 'i chalon hi; gwn yn burion, ac mi fyddet tithau'n gwybod oni bai dy fod yn ddylach na phobol eraill. Hi, yr hen feiden felltigedig, ydi melltith y pentre yma ers oesoedd, ac erioed am 'wn i."

'Peth od na fuasai Consurwr Llangurig wedi rhoddi terfyn arni hi a'i drygau."

"Consurwr! Cwnjer 'wyt ti'n feddwl, mae'n debyg. Y mae cwnjer yn medru gwneud pethe rhyfedd ac ofnadwy, ond y mae hon allan o'i gyrredd. Petai'r Hen Wrach fel rheibese eraill mi barai'r cwnjer i ddrain dyfu ar 'i phen yn lle gwallt, ac mi droise'i chroen hi y tu chwith allan, a rhoddi iddi gryndod a sigle Gors Fochno am filltiroedd. Ond fel ma gwaetha'r modd, 'di hon ddim fel rheibese cyffredin, y mae'n fwy, ac yn fwy cythreulig, a 'd oes gan y cwnjer, er cymaint ei allu, ddim awdurdod trosti— y mae hi allan o'i gyrraedd."

Fel hyn y mae'r traddodiad a gefais gan Mari Amos. Yng Nghors Fochno, sydd o chwech i saith milltir o hyd a thair ar ei thraws, preswyliai gwrach hen a hyll a dieflig ei nwyd a'i gweithred. Yr oedd yn gwbl annibynnol ar ddynion am fod iddi ei chynhaliaeth, ac ymborthai ar ffa 'r gors a bwyd llyffant, ac weithiau liw nos gwelid o'r pellter olau gwan a gwelwlas ei channwyll pan fyddai'n casglu'r ymborth. O fewn terfynau'r Gors yr oedd yn hollwybodol ac yn hollalluog, a'i melltith yn ddifeth pan gyrhaeddai fod dynol, eithr nid oedd a'i drygai hi. Oherwydd ei hacrwch annaturiol, ymguddiai'n ddwfn yn y Gors rhag ei gweled gan ddynion, ond ar brydiau creai niwl tew a wisgai'r Gors fel hugan ac a ymestynnai dros y pentref i odre'r Graig Fawr. Ar adegai felly, berfedd nos, âi o'i chuddfa i'r pentref tawel, i dŷ drwy'r agorfa leiaf, ac i ystafell wely a chwythu yn ddistaw ac esmwyth ei melltith ar y sawl a gysgai, a deffroent hwythau yn y bore yn crynu fel dail y coed yn yr Hydref. Byddent yng nghrafangau mileinig yr Hen Wrach.

Bymtheng mlynedd ar hugain yn ôl diflannodd y cryd, ac ni flinwyd neb o'r trigolion byth er hynny, a chredir yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf flwyddyn y peidiodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer cyfnewid ym mywyd y pentref, ac yn eu plith, aethpwyd i losgi glo yn lle mawn. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysgu y mae, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau a theifl ei melltith fel cynt ar ddynion, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto.

Un diwrnod yn y gwanwyn, ni welid mwg o simdde tŷ Mari Amos. Torrwyd i mewn a'i chael wedi marw yn ei dillad, ac yn lled—orwedd ar yr hen setl fregus a oedd tan y simdde fawr. Bu farw o'r Hen Wrach. Ar ôl ymgynghori â'r offeiriad a'r ysgolfeistr a Mr. Parri 'r plisman ai priodol ei chladdu mewn tir cysegredig, cludwyd hi fel eraill i fynwent y plwyf y sydd ar ynys yng Nghors Fochno.



RICHARD EVANS Y CRYDD

YR oedd Richard Evans, neu fel y gelwid ef yn ei gefn, Richard Bach, yn ddyn mewn oed y cof cyntaf sydd gennyf amdano, ond cofiai ef fi pan oeddwn faban. Dyn o daldra cyffredin ydoedd, rhyw bump a saith, ac o gorff ysgafn. Cadwai ychydig farf ar ei fochgernau a'i ên, eithr eilliai ei wefusau a cheid wyneb agored a oleuid â gwên dyner a chynnes. Gwisgai bob amser yn weddol barchus, ond ni welais ef erioed mewn dillad newydd; yr oedd pob pilyn bob amser fel petai ar ei hanner traul.

A bod yn hollol gywir, nid oedd Richard Evans y Crydd yn grydd o gwbl, oblegid ni wnaeth esgid gyfan yn ei oes, a phrin yr enillodd ei halen erioed trwy drwsio esgidiau. Magwyd ef mewn teulu mawr o ddeg o blant, ac yr oedd tri ohonynt, ynghyda'r tad, yn gryddion. Llogai'r tad weithwyr hefyd. Hwy ydoedd prif gryddion yr ardal am gylch eang, a chymaint oedd eu masnach fel y cedwid Richard i gludo'r esgidiau i'r cwsmeriaid ac i gasglu'r tâl, ac oherwydd hyn prin fu ei gyfleusterau i ddysgu'r grefft. Bob yn dipyn diflannodd y teulu mawr, un yma a'r llall draw, ac ambell un i'w fedd. Diflannodd yr olaf o'r gweithwyr hwythau a gadael Richard a'i chwaer Marged i ymladd â'r byd orau y gallent. Merch dal a hardd a thalentog oedd Marged Evans y Crydd, ac edmygid hi gan bawb. Gofalodd am ei brawd am rai blynyddoedd, ac yna priododd John Dafys, Pencae, a gwneuthur cartref iddi ei hun. Gadawyd Richard yn unig fel pren di-ddail ar lechwedd noeth mynydd.

Glynodd Richard yn yr hen dŷ y ganed ef ynddo. Yr oedd popeth yno fel cynt, yr hen ddodrefn derw, y llestri piwter, a'r ystafell waith yn cynnwys arfau crydd, ffedogau'r rhai a giliodd, a darnau o hen ledr, ond ni fedrai ef fawr ar ddefnyddio'r pethau, a gwag oedd y tŷ iddo mwy. Cyn hir llogodd weithiwr, dyn bach cloff a oedd yn grefftwr medrus. Ganed ef ag un goes yn fyrrach na'r llall, a chanlyniad ei eni felly oedd bod yn grydd. Pes ganesid fel dynion eraill a'i goesau'n ogyhyd, gallasai Dei Bach Richard Evans y Crydd esgyn yn uchel, oblegid o ran anian a dychymyg a thafod gwnaethai aelod purion o Senedd ei wlad. Honnai wybod popeth, a llefarai fel oracl. Eisteddais ddegau o oriau o dro i'w gilydd yn y gweithdy i wrando arno'n nyddu gwir a chelwydd ar bynciau'r dydd. Bu Dei Bach yn ennill bywoliaeth iddo'i hun a'i feistr am rai blynyddoedd, eithr ciliodd yntau—yn ôl i fro ei eni—a chlywais ei farw beth amser yn ôl. Dyna Richard Evans ar ei ben ei hun eto, ac felly y bu mwy hyd ei fedd.

Yr unig bethau a rydd fri ar blwyf Llancynfelyn ydyw Cors Fochno, a geidw'r môr draw rhag boddi'r ddau bentref; y Graig Fawr, a ymgyfyd bron yn unionsyth yn gefn i'r pentrefi, ac a'u gwylia rhag cam ar hyd yr oesoedd; a bedd Taliesin Ben Beirdd. Erys y tri hyn yn ddigyfnewid o genhedlaeth i genhedlaeth, ac nid oes dri mwy mewn unrhyw ardal yng Nghymru. Y mae'n dda i'r plwyf fod ganddo'r tri hyn i ymffrostio ynddynt, oblegid ni fagwyd ynddo erioed na llenor na bardd o ddim bri. Bu'r bardd Deio ab Ieuan Du, awdur y llinell " Y Ddraig Goch ddyry cychwyn ", yn byw yno yn y bymthegfed ganrif, eithr myned yno o Lanfihangel y Creuddyn a wnaethai ef. Ni chododd neb o athrylith yno erioed; pobl ar yr un gwaelod oedd y plwyfolion, ond yr oedd hwnnw yn waelod lled uchel. Gwelais yno gymeriadau moesol mwy nag a welais yn unman arall er imi fyw o bryd i'w gilydd mewn degau o blwyfydd. Un o'r cymeriadau mawr hyn oedd Richard Evans, ac nid oedd yno neb mwy nag ef ond Thomas Jones, y Post. A phan fu farw Thomas, Richard bach oedd y mwyaf yn yr holl fro, ac ymestynnai ei ddylanwad ymhell bell tuhwnt i derfynau bywyd y pentref.

Bûm yn dyfalu llawer, a dyfalaf o hyd, paham y'i gelwid yn Richard bach, oblegid nid oedd dim yn fach ynddo. O ran corff, er nad oedd yn fawr, yr oedd yn fwy na rhai o'i gymdogion. Nid bach yn arwyddo anwyldeb mohono chwaith, er bod pawb yn ddigon hoff ohono. Tybiaf fod y rheswm tros ei alw felly yn ei ddull o lefaru ac ymddwyn. Arferai'r gair yna' ar derfyn pob dywediad neu ofyniad, megis, "Mi wela dy fod ar gychwyn, yna. I b'le mae 'r daith heddi, yna? Pan ymdrinid â phwnc, parai i un dybio drwy'r ymddiddan ei fod yn cydweled â phopeth a ddywedid wrtho, eithr yn yr ymadrodd neu'r gair olaf datguddiai na chydwelai â dim o'r dechrau. A mi yn nhŷ'r gweinidog un prynhawn, daeth Richard i mewn. O, wel," meddai, "dyma ddau ohonoch, yna, un yn y coleg a'r llall wedi bod, yna, a dyma dro rhagluniaethol. Mi 'weda i chi 'neges mewn byr eirie, yna. 'R ydw i mewn tipyn o anhawster ynglŷn â'r North a'r South, a mi 'r ydw i am i chi 'ngoleuo i ar y peth, yna."

"Mewn anhawster ynglŷn â'r North a'r South!" meddai'r gweinidog, "Pa anhawster sydd ynglŷn â hwy, Richard Evans? "

"Wel, fel hyn, yna. Pan â dyn o Fangor i Dywyn, Meirionnydd, fe ddywed, 'Yr ydw i 'n mynd i'r South, yna'; ond pan â dyn o Dywyn i Dregaron, fe ddywed hwnnw yntau, Yr ydw i'n mynd i'r South, yna'; a phan â un o Dregaron i Gaerdydd, fe ddywed yntau hefyd, 'Yr ydw i'n mynd i'r South, yna'. 'Rŵan, mi garwn i wybod ymhle mae'r North a lle mae'r South. Yn ôl dyn Bangor y mae Tywyn yn y South, ond yn ôl dyn Tywyn yn y North y mae a Thregaron yn y South, ac wedyn fe gred dyn Tregaron fod Caerdydd yn y South a Thregaron yn y North. 'Newch chi daflu tipyn o ole ar y mater, yna?

Bu'r gweinidog wrthi'n bwyllus a gofalus a hir yn egluro, a hawdd oedd barnu oddi wrth ysgogiadau pen Richard ac ambell sŵn a daflai i mewn fod yr eglurhad a roddid yn ymlid pob tywyllwch, a'r anawsterau i gyd yn diflannu. Ar derfyn yr ymddiddan, dywedodd, "Wel, diolch yn fawr i chi am y 'sponiad. 'Wyddoch chi beth, peth mawr iawn a gwerthfawr—wel, ie, yna, daw'r geirie hynny i meddwl heb 'u gofyn,— addewidion mawr iawn a gwerthfawr'. Oes yna rwbeth o le ar y geirie, tybed? "Addewidion mawr", ac "addewidion gwerth—fawr". Be ydy'r gwahanieth rhwng mawr' a gwerthfawr yn yr adnod? Hwyrach y cawn ni bregeth gan un ohonoch ryw dro, yna. Ie, dyna own i'n mynd i ddweud, ond bod yr adnod wedi picio i fewn,—peth mawr a gwerthfawr ydi addysg. 'Doedd fawr o lun ar ysgol pan own i'n blentyn, a chydig iawn ohoni a ges i erioed, yna. Mi synnech cyn lleied o ddysgu oedd yn yr holl wlad y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd wedyn, a 'dyw e' ryfedd yn y byd bod llawer o'r un to â fi mewn twllwch ynglŷn â phethe fel y North a'r South, yna. Mae 'ch braint chi, bechgyn y colege, yn fawr iawn, ac y mae yn amlwg oddi wrth eich 'sponiad manwl a medrus eich bod wedi manteisio llawer ar y coleg. Diolch yn fawr i chi, yna. Mi fuoch yn garedig iawn yn mynd i gymaint trafferth i 'sponio a rhoi gole i hen greadur anwybodus fel y fi. Diolch yn fawr, a bendith arnoch; ond 'dwy i 'r un gronyn callach, yna. Prynhawn da rŵan; mi welwn ein gilydd yn y cwrdd gweddi heno, mae 'n debyg, yna.'

Wrth ei wrando 'n gweddio yn y cwrdd gweddi'r noson honno fe beidiodd helynt y North a'r South â bod, ac ni ddaeth yr enw Richard Bach i'm meddwl unwaith. Yr oedd ei iaith yn seml a heb ddim sathredig ynddi, a'i feddyliau'n llifo'n lân ac urddasol fel afon loyw. Molai a diolchai mewn ysbryd gwylaidd a diofn. Teimlwn na chyfarfûm â neb mor fawr ei wybodaeth, mor ddwfn ei barch, ac mor urddasol ei feddyliau. Yr oedd y dyn a deimlai anhawster ynglŷn â'r North a'r South yn gynefin â phethau mawr y byd ysbrydol ac yn tynnu dylanwadau dwyfol i'n plith. "Dirgelwch y Goruchaf sydd gyda'r rhai a'i hofnant Ef.'

Nid oedd Richard Evans yn ddarllenwr mawr, oherwydd, yn bennaf, na feddai foddion i brynu llyfrau; eithr myfyriai lawer. Gwyddai'r Beibl cystal â neb yn y plwyf, ac yr oedd esboniadau Adam Clarke ac Idrisyn ganddo; ond ei esboniad gorau oedd ei brofiad ef ei hun, a gwelid rhagoriaeth yr esboniad hwnnw pan holid yr Ysgol ar brynhawn Sul. Dibynnai Thomas Jones fwy ar Clarke nag ar ei farn ei hun, a thaerai Evan Daniel syniadau a briodolid ganddo i ryw Ddoctor dychmygol neu 'i gilydd chlywsai neb erioed amdano; ei bwynt mawr ef ydoedd ennill y ddadl trwy deg neu annheg. Eithr dibynnai Richard Evans ar ei brofiad a'i farn ei hun yn fwy nag ar ddim arall, a thaflai oleuni newydd weithiau ar anawsterau na chyffyrddau'r esbonwyr cyffredin â hwy. Yr oedd "y pum pwnc

y pum pwnc" mewn bri y dyddiau hynny, a brwydro mawr rhwng Calfiniaid ac Arminiaid, a chymerai Richard ran amlwg yn y dadlau. Y wedd Arminaidd a ddysgid yn yr ysgol, a gwae'r sawl a dueddai at y wedd Galfinaidd. Dilynid y gwersi rheolaidd hyd dri o'r gloch, ac yna ceid chwarter awr i holi'r bennod yn gyhoeddus; gwelais y dadlau cyn boethed fel yr âi'r chwarter yn awr gron a thros hynny weithiau. Byddai'r ddadl yn aml rhwng Richard Evans a John Cati Williams. Dyn byr, crwca braidd, ag wyneb cuchiog oedd Jac Cati Williams, a llefarai â llais cras a phob amser fel dyn o'i go', ac oherwydd ei ysbryd cnafaidd, ac y cnoai ei gil fel eidion, er nad oedd dim yn ei enau, parai imi feddwl bob amser am Quilp, un o gymeriadau hynod Charles Dickens. Un cryf mewn dadl oedd Jac, eithr mewn hanes yn unig yr oedd ei nerth, ac yn hanes yr Hen Destament yn arbennig, ac oherwydd hynny trechai Richard ef bob cynnig ar bwnc o athrawiaeth. Ni rwymai Richard ef ei hun yn dynn wrth na llyfr na phregeth, ac yr oedd ganddo rai syniadau a berthyn yn nes i'r oes bresennol nag i'w ddyddiau ef, a mynegai hwy weithiau mewn dull cwmpasog ac amleiriog. Pwnc yr holi un prynhawn Sul oedd, cosb yn y byd a ddaw.

"Beth yw eich barn am gosb yr annuwiol ar ôl iddo farw?" gofynnai'r holwr.

"Cosb gyfartal i'r trosedd," meddai John Dafys, Pencae.

"Ie, ond beth yw ei pharhad?

"Tragwyddol," ebe John Morris, Llanerch,—"A'r rhai hyn a â i gosbedigaeth dragwyddol ".

Beth yw meddwl y gair tragwyddol yn y geirie yna?

"Diddiwedd, wrth gwrs," ebe Jac Cati Williams. 'Pwy eisie gofyn cwestiwn mor ffôl: Diddiwedd—di-ben-draw—tragwyddol."

"Wel ie, yna," meddai Richard Evans. "A ydym ni i ddeall oddi wrth eich ateb chi, John, nad oes obeth am derfyn i'r gosb, yna: Hynny yw, nad oes eithriade yn bosib yn y byd a ddaw, heb sôn dim am obeth adfer pawb, yna?

Adfer pawb! 'Chlywes i 'rioed shwd beth yn fy myw," meddai Jac. "Adfer pawb, yn wir! Be 'chi'n siarad ddyn, a ych chi'n ame 'r Beibl? Ewch at y Gair a'r Dystiolaeth, a pheidiwch â rhyfygu."

O'r gore, yna. 'Dw i 'n ame dim, mewn ystyr, o'r pethe a ddywedwch chi i gyd. Y ma'ch atebion chi 'ch tri at i gilydd yn dda ac i'r pwynt, ond teimlo 'rydw i 'u bod nhw'n mynd yn rhy bell a braidd yn rhy bendant, a ninne'n gwybod cyn lleied am y byd a ddaw; ac wedyn, ma'n werth cofio pwy yw Duw.

Pan. . .

"'Rw i'n cynnig ein bod yn mynd ymlaen," meddai Jac, "ma peth fel hyn yn beryglus, ac yn siŵr o ddinistrio'r bobol ifanc—'rw i'n cynnig ein bod yn mynd ymlaen ".

"Wel ie, yna, y ma llawer, mewn ystyr, yn yr hyn 'dych chi, John, yn ddweud, yna; ond gyda'ch cennad, 'dw i ddim wedi gorffen yn hollol. Fel y dywedes i'n barod, y mae'n werth cofio pwy yw Duw a beth yw e. Pan bregethodd y stiwdent hwnnw yn Saesneg yn y capel yma, am fod 'i Gymraeg e wedi rhydu yn ystod y tair blynedd y bu yn y coleg yn Lloegr, 'r oeddwn i'n teimlo nad oedd neb ohonom ni yn gyfrifol yn wyneb y bregeth honno; ond mi ddywedodd un peth a ddyalles i ac a lynodd yn fy meddwl, sef, God is wonderfully kind". Y mae'n fwy na thebyg eich bod chi'n lled agos i'ch lle yn eich atebion, yna, ond, "God is wonderfully kind," a 'faswn i'n synnu dim pe base fe'n rhoi cyfle i bawb—dim gorfodi neb wrth gwrs—i ail gychwyn yn y byd a ddaw. 'Chymerswn i ddim a weles i am ame'r Gair a'r Dystioleth, ond 'dw i ddim yn meddwl bod neb yn 'u deall nhw'n llwyr hyd yn oed yn yr oes ole hon. 'R ych chi wedi ateb yn dda'ch tri, a ma'r 'Sgrythur, mewn ystyr, wrth eich cefen; ond wedyn, "God is wonderfully kind", yna.

"Ddyn ofnadwy," meddai Jac Cati Williams, wyddoch chi eich bod yn rhyfygu? Darllenwch eich Beibl a Geiriadur y Doctor Dafys".

Bu Richard Evans y Crydd yn pregethu pan oedd yn ieuanc, a bwriadai fyned yn weinidog. Cychwynnodd tri o'r un eglwys ar y gwaith tua'r un adeg, sef, Humphrey Jones y Diwygiwr, Evan Jones, y Goetre, a Richard Evans. Ymgeisiodd y ddau gyntaf am y weinidogaeth, ond gwrthodwyd hwy am ryw reswm neu'i gilydd. Methais, er chwilio, â tharo ar brawf i Richard Evans ymgeisio o gwbl, ac y mae argraff ar fy meddwl na wnaeth. Aeth Humphrey Jones i America at ei deulu, ac Evan Jones i'r Eglwys Esgobol, a bu'n ficer eglwys Gymraeg yn Llundain am lawer o flynyddoedd. Dywedir bod doniau pregethu Richard Evans yn anarferol ddisglair, ac y swynai gynulleidfaoedd gogledd Ceredigion, ond nid aeth byth yn weinidog. Dywedai ei gyfoedion na chafodd degwch na chyfiawnder gan y gweinidog a oedd yn arolygu'r Gylchdaith ar y pryd. Tybid yn gyffredin mai eiddigedd oherwydd poblogrwydd y dyn ieuanc oedd wrth wraidd esgeulustra'r gweinidog. Y mae hyn yn bosibl, oblegid ceir llawn cymaint, onid mwy, o eiddigedd ymhlith pregethwyr ag a geir mewn dosbarthiadau eraill. Ni soniodd Richard wrthyf erioed am y cam hwn yn ei ddyddiau bore. Un tro pan ofynnais iddo paham y peidiodd â phregethu pan oedd yn fachgen, atebodd, Mi fydda'i 'n meddwl weithie mai Rhaglunieth oedd wrth wraidd y cwbl, yna, ac nid yw Duw byth yn gwneud mistêc. Petai Humphrey Jones wedi 'i dderbyn i'r weinidogaeth 'âi e byth yn Humphrey Jones y Diwygiwr, oblegid 'âi e byth i 'Merica oni bai iddo golli 'i le, ac nid yw Duw yn gwneud diwygwyr o rai wedi colli 'u lle; a phetai Evan Jones wedi 'i wneud yn weinidog Wesle 'âi e byth yn gyfoethog fel yr aeth e, a phetawn inne wedi mynd ymlaen 'faswn i ddim—wel, 'faswn i ddim yn Richard Evans y Crydd, yna." Eithr dywedodd wrthyf ym mlynyddoedd olaf ei oes y credai 'n sicr mai yn weinidog y bwriadodd Duw iddo fod.

Ni wyddai neb yn sicr pa fodd y câi Richard Evans ddeupen y llinyn ynghyd; ond fe'i câi, oblegid ni chlybuwyd erioed ei fod yn nyled neb o ddim ond garedigrwydd. Ni wnâi ddim gwaith, eithr ymddangosai bob amser yn brysur; cerddai'n gyflym â'i ben i lawr a mwmian wrtho'i hun, a phan safai i siarad â rhywun teimlid o hyd ei fod ar gychwyn eilwaith bob eiliad. Pan fyddai yn ei dŷ, ceid ef yn gyffredin yn y gweithdy yn eistedd ar y fainc grydd å hen ffedog ledr o'i flaen fel petai'n disgwyl gwaith na ddeuai byth. Ofnaf mai prin oedd ei damaid yn aml, ond ni roddai ef byth un arwydd o hynny. Ni cheid un amser siom yn ei wedd na gwg ar ei ael na chŵyn yn ei lais; gwên a chanmol a diolch oedd ei gynefin. Gweithwyr heb fwy nag wythnos rhyngddynt a'r tloty oedd trigolion y pentref i gyd, ac oherwydd hynny yr oeddynt yn hael o'u prinder a rhoddent swcwr i'r di-gefn—"Haelaf y galon po lymaf y fro". Gofalai pawb am Richard Evans y Crydd, a phe deuai dieithryn ar ddamwain a'i feio am na weithiai, dywedai rhywun neu'i gilydd o'r pentrefwyr yn chwyrn a dreng, "Beth yw hynny i chi: 'D yw e'n pwyso dim arnoch chi". Am ryw reswm anniffiniol, ni ddisgwyliai neb iddo fod yn wahanol i'r hyn ydoedd, ac ni feddyliai neb yn llai ohono am nad oedd fel pawb arall.

Gellid tybio y parai bywyd o'r math hwn i'w ddylanwad moesol fethu, eithr ni wnaeth hynny. Er nad ofnid ef fel yr ofnid Thomas Jones y Post, eto, ciliai'r meddwon rhagddo, a pheidiai'r plant â'u chwarae pan ddynesai ef. Arweiniai'r eglwys, a dilynai pawb ef; cynghorai'r bobl ieuainc, a gwrandewid arno; ac yn y seiet ceryddai'r barus a'r ysgafala, ac ufuddheid iddo. Ymgynghorai'r gweinidog cryf ag ef, a llechai'r gweinidog gwan yn ei gysgod. Yr oedd Richard bach yn ddyn mawr ac yn ddyn gwerth-fawr.

Yn ei hen ddyddiau, pan oedd tua thrigain oed, dechreuodd bregethu eilwaith. Nid oedd llawer o gamp arno fel pregethwr yr eildro; yr oedd yn rhy hen a helbulus i baratoi, ac aethai'n amleiriog a chwmpasog ei ymadroddion; eithr deuai rhyw ddylanwad rhyfedd o'i weddïo. Ar ôl iddo dreulio Sul yng Nghorris unwaith, gofynnais i Owen Roberts pa raen oedd ar bregethu Richard Evans. "Reit dda," ebe fe, "ond gweddi Richard Evans sy 'n fawr; y mae'n werth ei gael o unrhyw bellter er mwyn ei weddi 'n unig". Yr oedd ei gartref hanner y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth—pellter o ddeunaw milltir—a phan âi i un o'r trefydd hyn i bregethu, cerddai fore Sul, pregethai dair gwaith, a cherddai adref ar ddiwedd y dydd. Ni chloai ddrws ei dŷ ar adegau felly, a phan ddychwelai tua hanner nos câi'r tân yn cynnau, y tegell yn berwi a'r llestri bwyd ar y bwrdd crwn. Yn fore trannoeth agorai un o'r cymdogion y drws a gweiddi, "Richard Evans, 'dych chi yna?

"Ydw, ydw" atebai Richard, a dyna derfyn; ni holai byth pwy oedd ei gymwynaswyr, ac ni ddisgwylid iddo wneuthur hynny.

Ni chynhwysai cylch ei fywyd fwy na'r pentref a'r capel, ond yn y cylch hwnnw byddai'n sylwgar a gwybodus iawn; efallai bod ei sylwadaeth a'i wybodaeth yn fwy oherwydd eu cyfyngu i gylch mor fach. Y perygl mewn cylch eang ydyw bodloni ar argraffiadau yn unig. Amlygai weithiau yn ei ddull ysmala graffter meddwl anarferol. Pan soniai wrthyf unwaith am fy mhregethu, dywedai, " 'Rydw i'n cofio llawer math o bregethwyr yn y pentre yma, rhai da iawn, a rhai . . . wel, rhai cry' a rhai gwan, yna; a mi 'rydw i wedi sylwi bod hyd yn oed y rhai cry' yn gwahaniaethu llawer oddi wrth 'i gilydd. Dyna i ti (enwodd dri). Yr oedd y tri yna yn gry' yn ôl barn y bobol, ac yr oedd gan ddau ohonynt hobi—y cynta' a'r ola’— ond 'doedd gan y llall ddim un. Mi fydda'i'n meddwl y dylai fod gan bob gweinidog ei hobi; mi wnâi les mawr iddo ond gofalu bod rhywbeth ynddi a wnâi les i bobol eraill hefyd, yna. Ma 'na un perygl mawr mewn hobi, sef byw iddi. Meddylia di rŵan fod gweinidog yn gwneud prydyddu a mynd i 'steddfod yn hobi; os na fydd e'n ofalus mi â i fyw i'w hobi, a ma'r hobi yn siŵr o ladd y pregethwr a'r gweinidog. Hobi 'r cynta' o'r rhai a enwes i oedd casglu hen lyfre Cymraeg.[2] Pan fydde fe 'n pregethu yn y Bont Goch y Sul 'welid mono yma hyd ganol yr wythnos, a mi ddôi adre ar ôl crwydro o dŷ i dŷ yng Nghwm Symlog, a Salem Coed Gruffydd, a Phenrhyn Coch a phobman, â'i bocedi yn llawn o hen lyfre na chodet ti monyn nhw o'r domen â phicfforch. A'r hyn sy'n rhyfedd ydi, 'doedd e byth yn 'u darllen nhw, dim ond sgrifennu enwe 'r llyfre a'r awduron, a'r lleoedd a'r blynydde y cyhoeddwyd hwy. Yr oedd e 'n byw i'w hobi, ac oherwydd hynny, yr oedd yr achos yn diodde—neb i ofalu am y seiet Achos yr a'r bobol ifanc, ac yr oedd tipyn o lwydni'r hen lyfre ar 'i bregethe hefyd, yna.

Oni wyddoch chwi, Richard," ebe fi, "fod gwaith y dyn hwnnw wedi'i gyhoeddi yn llyfr mawr, ac yr ystyria gwŷr dysgedig ef y llyfr gorau sy 'n bod ar hanes llyfrau Cymraeg o 1546 hyd 1800:

"Ma 'n dda genny glywed bod yr hobi wedi bod o fantes i rywrai, yna, oblegid fu hi o ddim mantes i'r Achos yma. Am y llall y sonies i amdano, 'doedd gan hwnnw ddim hobi o gwbl. Dyn trwchus a digyffro ydoedd hwn, heb broffesu gwneud dim ond dyledswydde 'r swydd weinidogaethol, ond 'doedd e ddim yn gwneud y dyletswydde hynny yn well na 'r sawl oedd a hobis ganddynt, nac yn agos cystal â rhai ohonynt. Credid yn gyffredin ei fod yn ddarllenwr mawr, a chredid hynny yn fwyaf neilltuol am ei fod yn ei bregethe yn sôn beunydd am ryw awduron na wydde neb amdanynt, ac yn dyfynnu eu gweithie yn Saesneg. Yr oedd hwn yn ddyn pwysig o ran ei ddull, a dywedai 'i bethau yn ddihidio fel pe na chredai hwy ei hun, ac na faliai pa un a gredai eraill hwy ai peidio, yna. Y syniad cyffredin ydoedd bod llawer ynddo, ond 'weles i fawr yn dyfod ohono, dim cymaint ag ysgrif i gylchgrawn. 'Waeth i ti ddyn gwag yn fwy na dyn â llawer ynddo os na ddaw rhywbeth ohono. Hobi y gweinidog arall, y trydydd, oedd gwneud llyfre, ac mi wnaeth amryw, yna; efallai dy fod wedi gweld rhai ohonynt. Yr oedd yn ddyn galluog iawn, ac mi sgrifennodd lyfr ar "Hen Bregethwyr Cymru ", a llyfr arall yn dweud pob peth am bopeth wrth bawb; ond y peth digrifa' a wybûm i erioed ydoedd iddo sgrifennu llyfr ar Areithyddiaeth" ac yntau 'i hun yn un o'r areithwyr sala'. Yr oedd ganddo bregeth gre' yn llawn meddylie mawr a champus, ond 'doedd e fawr o draddodwr; champion o feddyliwr, yna, ond fedre fe ddim llefaru 'i bethe yn rhugl a gwresog. Pan oedd yr hen gawr, y Doctor Cynddylan Jones, yn dechre pregethu, mi gerddodd yr holl ffordd o Riw Siôn Saer i Dre'r Ddôl ar fore Sul i glywed awdur y llyfr ar Areithyddiaeth yn pregethu. Ym mhen blynyddoedd mi gwrddes â'r Doctor a soniodd yntau am y peth. 'Wel,' ebe fi, 'beth oedd eich barn amdano fel llefarwr?' Atebodd yn ei ddull trawgar trwy ddyfynnu geirie rhyw Sais,— Up in theory and down in practice. Dyna hobi y pregethwr hwnnw—gwneud llyfre, yna; ond 'doedd e ddim yn byw i'w hobi, ac ni fu gwell gweinidog yn y pentref hwn erioed; fe ofalai am holl waith gweinidog, ac ni wnaeth neb fwy o les, ac fe wnaeth gymaint oherwydd ei hobi, oblegid yr oedd graen lenyddol ar ei holl waith yn y seiet a'r pulpud a phobman, yna. 'Dyw 'r Efengyl, wyddost, ddim gwaeth o gael tipyn o raen llenyddiaeth arni. Mi fydde'n burion peth i tithau ar dechre feddwl am hobi a fydd o help i ti dy hun ac i'r bobol hefyd; ond gofala beidio â byw iddi, yna.'

Gwelodd Richard Evans lawer tro ar fyd, eithr cadwodd galon gynnes a diolchgar a gwên ar ei wyneb drwy'r cwbl i'r terfyn. Gelwais i'w weled ychydig ddyddiau cyn ei farw; daethpwyd â'i wely o'r llofft i'r gegin a'i osod â'i ben at y ffenestr. Yn ymyl y gwely yr oedd bwrdd crwn ac arno win a grawnwin a moddion meddyg, a Richard yn ei wendid mawr yn edrych yn gwbl ddibryder a bodlon.

Trodd ataf ei wyneb siriol a llefaru 'n sionc fel arfer. Ebe fe, "Wel ie, yna, ffor' wyt ti, pryd dest ti adre? 'rwyt ti 'n gweld 'mod inne bron a chyrredd—'rwyt ti'n edrych yn go lew, ond dy fod dipyn yn dene—ffor' wyt ti'n leico dy waith, yna? Ffordd 'dych chi, Richard Evans? ebe fi. "Wel, 'rydw i'n iawn, yna, yn hapus dros ben, a chysidro. Y ma popeth yma, fel y gweli di. Y ma'r wraig ddiarth 'ma yn fy nhendio fel petawn yn blentyn, ac ma'r Doctor yn garedig iawn yn dwad yma bod dydd, er nad oes arna i lawer o daro amdano. Peth nobl, 'y machgen i, ydi mynd adre fel hyn."

Gwelais y gofalai'r pentrefwyr y câi Richard Evans y Crydd groesi i'w gartref newydd mewn modd teilwng. Dyna 'r olwg olaf a gefais ar y gweddïwr mawr.

VI
BUGAIL LLUEST HIR

"A OES tipyn o hwyl ar y pysgod heddi, Syr?" gofynnai Wmffre Dafydd, Lluest Hir.

"Dim, Wmffre, dim; nid oes codi ynddynt o gwbl ".

"A ga i olwg ar eich plu? O, wel, y ma'r plu'n burion. Y ma llawer ffordd i bysgota, wyddoch, ond 'd oes dim ond un ffordd iawn, a 'chydig sy 'n gwybod honno. Bydd SyrWatcyn a'i ddynion yn dwad i fyny yma weithie, ac yn aros tros y nos, ac os digwydd iddyn nhw ddal nifer go lew o bysgod gwnânt lyn bach yn ymyl y llyn mawr i'w cadw'n fyw hyd y bore, fel y byddan' nhw'n ffres pan fônt yn cychwyn odd 'ma. Fe fydd gan Syr Watcyn y tacle pysgota glana' a weles i yn fy myw, a channoedd ar gannoedd o'r plu gore y gellir eu cael am arian, a 'weles i neb lawer gwell am hudo pysgodyn; y mae'n deall y nac i'r dim. Ma'ch plu chi'n eitha, syr, ond 'dw i'n synnu dim nad ych chi'n dal. 'Wn i ddim a ych chi wedi sylwi bod gwahaniaeth mawr rhwng gŵr bonheddig a phregethwr. Dyletswydd gŵr bonheddig ydi bod yn glyfar ym mhob chware a phob hela i fwynhau 'i hun; 'd oes ganddo ddim byd arall i'w 'neud; ond y ma gan bregethwr ei waith, a'i ddyletswydd ef ydi bod yn glyfar yn hwnnw. Fydda i byth yn hoffi gweld pregethwr yn fwy clyfar gyda chware pêl droed a thrin gwn a gwialen bysgota a phethe felly, na chyda 'i bregethu. Wrth gwrs, y ma'n eitha' i bregethwr chware pêl droed a physgota weithe i gael awyr iach ac i ymarfer ei gorff; ma hynny yn lles i bawb, ac yn ôl y 'sgrythur. Yr w' i'n lico tipyn o flas y mynydd a'r afon ar bregeth. Ond ma 'n dda genny, a dweud y gwir gonest, nad ych chi 'n llawer o law gyda'r wialen, achos ma'r Meistr Mawr wedi dweud mai pysgotwyr dynion ydi pregethwyr i fod. Ond mi licwn i'n arw hefyd i chi gael pysgodyn o'r llyn; ma 'na ddigon ohonynt, a rhai cymaint â samons. 'Rhoswch chi i'r haul fynd i lawr ac iddi fynd yn llwyd dywyll, ac mi fynnwn ni'r brithyll glana' a welsoch chi 'rioed."

Gŵr Lluest Hir yw Wmffre Dafydd. Yno, ar y mynydd, y ganed ac y magwyd ef. Delw y mynydd ar ei gorff, ei feddwl a'i iaith. Tua thrigain oed, ychydig yn hŷn efallai. Nid cwbl debyg i neb a adwaen. Corff mawr, rhyw bump a deg o daldra, mynwes lawn, lydan, ysgwyddau trwm, crwm. Talcen uchel a llyfn, a ffurf pen yn tebygu i eiddo Mynyddog. Gwegil llawn a thrwchus megis eiddo Herber Evans. Wyneb tyner fel gwanwyn; llygaid fel pe'n bygwth chwerthin fynychaf, rhywbeth lleddf, dwys, pell, ynddynt ar brydiau. Wyneb digon tebyg i wyneb İslwyn, ond cryfach gên, lletach genau, a barf grasgoch. Cynefin yr wyneb yw tawelwch y mynydd ar hindda, eithr gwelais ynddo unwaith neu ddwy gynddaredd arswydus ystorm fawr.

Nid adwaenir Wmffre Dafydd fel na bardd na cherddor, na dim arall ond Bugail Lluest Hir. Eithr ni phraw hynny nad oes yn ei enaid ddeunydd cân a phroffwydoliaeth. Yr unig beth a bair imi feddwl na wnâi fardd pes mynnai ydyw, ei synnwyr cyffredin cryf. Bodau anghyffredin o ran synnwyr a doethineb yw'r beirdd mawr; dynion athrylithgar ydynt, ar y llinell derfyn rhwng call ac angall. Sieryd Wmffre'n hwylus â llais dwfn, a'i Gymraeg yn lled loyw a llwythog o arabedd byw a chymen. Yn lluestau diarffordd godre Pumlumon y lleferir y Gymraeg orau heddiw. Anaml y ceir nebo na thref na phentref yn "talu ymweliad " â chartref bugail i holi hanes y mynedol"; ac yn y wlad hon, rhandir bellter o bymtheg milltir o hyd ac ugain ar draws, i'r de o'r hen fynydd, y lleferir tafodiaith orau Cymru, oblegid hi ydyw'r unig dafodiaith a ddeellir gan drigolion pob rhan o'r wlad.

Treuliodd Wmffre'i ddyddiau bore dipyn yn rhydd a gwyllt. Dau blentyn oedd yn Lluest Hir, mab a merch, Bu'r ferch farw pan oedd yn bedair oed, a daethai'r mab yn eilun ei rieni; ac fel y digwydd fynychaf pan addolir plentyn, ef yn fuan ydoedd arglwydd y cartref, a chawsai'i ffordd ei hun ym mhopeth. Tyfu'n wyllt a hanner segur a wnaeth. Ni thybiaf wrth hyn yr arferai feddwi a godinebu a lladrata. Nid oedd cyfleusterau i'r ddau gyntaf ar ben mynydd; anodd myned yn feddwyn heb dafarn, oblegid anfynych y bydd awydd am y drwg a chyfle i'r drwg yn bresennol yr un pryd; ac nid oedd tuedd at yr olaf, am na fu anonestrwydd erioed yn demtasiwn i'r teulu; llafurwyr oeddynt o'r cychwyn, ac anaml y tyf blew ar ddwylo caled. Gwamalrwydd ac iaith fras a herwhela ydoedd pechodau mawr Wmffre. Ar nosweithiau lloer olau a'r eira'n drwch ar y mynyddoedd, âi ef i ddilyn trywydd ysgyfarnog, neu i ddifyrru â'i chwedlau ferched lluest filltiroedd o'i gartref, yn hytrach nag achub y defaid a fai tan y lluwch. Diofal a direidus ydoedd, yn fwy nag anfoesol a llygredig. Eithr pan fu farw 'i dad trodd yntau ddalen, a chymerodd arno ofal y cartref a'r lluest. Bu'n dyner wrth ei fam, ac ofnai i'r gwynt chwythu arni, eithr heneiddio a gwanychu a wnâi'r hen wraig, ac un min nos, meddai hi, "Wmffre, 'ngwas i, well i ti feddwl am rywun, fydda i ddim yma 'n hir". Ar fore o Fai daeth Gwen, Hafod y Mynydd, yn wraig i Wmffre, Lluest Hir.

Parhau'n ddigrefydd ac ysgafn ei fryd a wnâi Wmffre. Nid oedd llawer o ddrwg ynddo, ond llefarai iaith cyn frased ag erioed, a meddylid amdano fel dyn anystyriol. Un diwrnod daeth galw ar y bugeiliaid i ddwyn y defaid crwydr i'r Siêd[3]. Yn y flwyddyn 1905 y bu hyn, a'r Diwygiad yn y wlad. Ni chynhelid y Siêd, fel cynt, ar gyfyl tafarndy, ac nid arferid fel cynt regi a chellwair a chwerthin gwag.

"Synnai Wmffre at y newid, a gofynnodd, "Be sy'n bod, fechgyn?" Yn ateb, trawodd un ganu emyn, torrodd rhywun i weddio, arall i foliannu, ac ymunodd pawb i ganu eilwaith, a bu gorfoledd mawr. Daliwyd Wmffre yntau gan nerthoedd y Diwygiad. Ni bu'n gwbl yr un fath byth wedyn.

Hen dŷ penisel a'i furiau 'n drwchus ydyw Lluest Hir. Saif ar fryncyn llwm ac arno ergyd pob gwynt. Carreg lwyd y rhych sydd yn ei furiau, a llenwir uniad llechi 'i do â chen cryf a llwydwyn. Rhaid ei fod yn gadarn anarferol i ddal mor dda ystormydd canrifoedd. Tŷ dwbl ydyw, â chysur ar ei aelwyd, a rhywbeth arall anodd i'w esbonio a'ch teifl i'r gorffennol at naws ac awyrgylch cartrefi syml ein teidiau; simdde fawr agored, tân mawn ar lawr, bwrdd crwn derw du a chadeiriau derw, pob celficyn yn hen dderw. Mewn cilfan yn y mur sy rhwng y pentan a'r ffenestr, ceir cwpwrdd bach tair—astell yn llawn o lyfrau; yn y gongl dywyll wrth ddrws y cefn y mae hen droell fregus; bachgen bach heb fod yn sicr o'i draed eto, yn chwarae â dau gi defaid tan y bwrdd hir wrth y ffenestr, a hen wraig grych ei chroen â llygaid serch yn ei wylio.

"P'le 'r ych chi, ŵr diarth?" gofynnai Wmffre o'r buarth. Mae'n nosi'n gynnar heno, ac ma rhyw drymder rhyfedd yn yr awyr. 'Rwy 'n ofni bod trane ynddi, neu law; ma 'n well inni sythu am y llyn heb ymdroi; 'dych chi 'n barod: O'r gore. 'N awr am samon o frithyll. Gobeithio'r tad nad oes dim trane ynddi."

"Pam, Wmffre?"

"O, ma'r pysgod yn rhy ddiog i fyta ar drane." Cerddem yn gyflym i gyfeiriad y llyn, cyflym i mi, eithr camai Wmffre'n hamddenol gam mawr bugail, gan daflu 'i goes o'i forddwyd. Ar lan y llyn â'i law ar ei ael, a chan edrych i'r pellterau amgylch ogylch, tynnodd o'i chuddfan tan ei gôb astell â phlwm ar ei gwaelod; cysylltodd â hi linyn pysgota â phlu amryw yn hongian arno, a'i gollwng i'r dŵr.

"Beth yw hwnyna, Wmffre?

"Dyfrgi, syr, dyfrgi, ac ni fu gwell dyfrgi erioed mewn llyn, fel y cewch weld yn y man."

Nofiodd yr astell yn araf, fel bad Arthur Fawr, i'r llyn hyd y llinyn, ac yna, tan bwys awel isel a llesg, troi 'i thrwyn i'r gogledd a nofio eilwaith. Plygodd Wmffre oni ddaliai'r llinyn ar wyneb y dŵr, a chyd-symud â'r astell lwrw 'i ochr fel cranc.

"Cedwch eich golwg i gyfeiriad y Darren Ddu," meddai. "Nid yw'n debyg y daw neb y ffordd hon yr adeg yma o'r dydd, ond gwell bod yn siŵr. Os gwelwch chi rywun, rhowch arwydd."

Cododd yr awel beth, a magodd Wmffre yntau obaith, oblegid aeth wyneb y llyn yn ferw gan fân donnau fyrdd. Symudai'r pysgotwyr, yr astell ac Wmffre, yn araf a thawel, ac aeth heibio bum neu chwe munud, ac yna—ysbonc yn y dŵr.

"Da, 'machgen i, dal d' afel," ebe Wmffre.

Cododd yr ysbonc lawer ar galon Wmffre, a dechreuodd lefaru yn hwylus:

"Y ma 'r Apostol Paul wedi dweud mwy o bethe mawr a da na neb yn y Testament, yn ôl 'y meddwl i, ond y ma ganddo ambell adnod anodd iawn gneud dim byd ohoni—(ysbonc)—da 'ngwas i, paid a gollwng d' afel—a 'dyw 'Drisyn yn rhoi fawr o help i ddyn. 'Dych chi ddim yn synnu mor 'chydig sy gan 'sbonwyr i'w ddweud ar bethe anodd Beibl: 'Wyddwn i fawr am Paul cyn y Diwygiad, ond mi wn ddigon amdano erbyn hyn i ddeall 'i fod e wedi sgrifennu toreth o bethe tywyll. A ych chi 'n meddwl 'i fod e 'n iawn ym mhopeth a 'wedodd e? Dyna i chi adnod ryfedd iawn i 'n hoes ni,—' Ymddarostynged pob enaid i'r awdurdode—(ysbonc)— da, fachgen, tri yw hwnna, ynte?— goruchel'. Pwy 'dych 'n feddwl yw rheina,—y brenin a Syr Watcyn a Lloyd George — canys nid oes awdurdod ond— (ysbonc), da 'ngwas i, dal ati; dyna 'r samon, mi 'na lw, ond gan Dduw, a'r awdurdode y sydd gan—(ysbonc)—dyna bump myn gafr i. Efalle bod yn well inni dynnu i mewn yn awr; y mae 'n dechrau twllu."

Tynnwyd y llinyn i dir yn araf a gofalus.

Un, dau—pedwar—ie, dyma 'r samon, ac os nad yw hwn yn troi tri phwys mi golla i f' enw fel pwyswr defaid. Go lew ni, ynte?

Ie, Wmffre; ond pa enw a roddir ar eich gwaith heno, onid potsio?

"Fe awn am damed o swper 'n awr, syr—'dych chi 'n hoff o bysgod:—a thrin diwinyddieth wedyn. Pump! Go dda ni."

Eisteddem o boptu 'r tân mawn, Wmffre a minnau. Aethai Mari Hughes, yr hen wraig a ofalai am y tŷ a'r llanc bach, i orffwys tros y nos ers peth amser. Dechreuwyd mygu ac ymgomio. Soniwyd am ddiadelloedd y lluest, am ymweliadau Syr Watcyn, ac am y cymdogion agosaf, er nad oedd llawer o'r rhain i sôn amdanynt, oblegid nid oes dyddyn nes na dwy filltir i'r Lluest Hir. Llefarai Wmffre'n hamddenol, eithr teimlwn nad oedd ar ei orau, a thybiwn y byddai'n fwy rhydd a gwresog pe ceid ymddiddan ar ei grefydd newydd, ac yr oeddwn yn gywir. Trodd yn fuan i sôn am y Diwygiad.

Be ydi 'ch barn chi, syr, am y Diwygiad: Y ma rhai dweud nad oedd e' ddim byd mwy na gallu yn dyn, dim ond bod teimlade naturiol dynion wedi 'u cynhyrfu. Mi ddarllenes i mewn rhyw bapur newydd mai peth yn perthyn i dymer y Cymry oedd e, a dim byd arall, a bod pethe 'r un fath yn union yn digwydd yn ddigon amal ym mhlith llwythe anwaredd, fod rheini yn canu a dawnsio am orie a chynhyrfu 'u teimlade, fel y galle rhywun feddwl 'u bod nhw 'n reit feddw. 'Dych chi 'n meddwl bod rhywbeth yn y 'sboniad yna, syr?

"Y mae 'n anodd gwybod, Wmffre, fe ddylai dyn fod yn ofalus iawn gyda pheth mor fawr a dieithr, ac yn hwyrfrydig i fwrw barn arno, yn arbennig oni fydd wedi 'i ddal gan y nerthoedd a deimlwyd gan eraill."

Dyna marn inne; ma 'n rhaid teimlo'r peth. 'R ydw i wedi sylwi droeon mai'r sawl na theimlodd ddim ohono, ac na theimlodd ddim gwerth sôn amdano oddi wrth wir grefydd erioed, sydd yn 'i farnu e dryma' a'i gondemnio fwya'. Mi fydda' i'n arfer meddwl ma' 'r ddau ddosbarth a dderbyniodd y lles mwya' trwy'r Diwygiad oedd y dynion sala' yn yr eglwys a'r dynion gore yn y byd. 'Wn i ddim 'dych chi'n 'nilyn i ai peidio, syr. Y peth 'dw i'n feddwl ydi hyn,—yr oedd yna wmbredd o ddynion yn yr eglwysi nad oedden' nhw fawr o werth i neb, rhyw aelode ofnus, yn meddwl amdanyn' nhw'u hunen o hyd; dynion wedi'u hachub, cofiwch; 'dw i ddim yn meddwl dweud nad oedd ganddyn nhw beth ffydd yn Nuw, ond 'd oedd ganddyn' nhw ddim ffydd ynddyn'u hunen, a ma 'n rhaid i ddyn gael tipyn o ffydd ynddo 'i hun cyn gneud dim byd gwerth ei 'neud. Yr oedd yn yr eglwysi lawer iawn o rai rhy nerfus ac ofnus i 'neud dim yn y cyrdde, a fe 'nath y Diwygiad les anferth i'r rheini, mi taflodd nhw i'r dŵr, a mi deimlon' nhwthe y medrent nofio, a ma' nhw'n nofio byth wedyn; peth mawr yw hyder. Dyna i chi ddosbarth arall—dynion diddrwg a didda yn y byd. 'Fedrwch chi ddim dweud 'u bod nhw wedi'u hachub, a fedrwch chi ddim dweud bod llawer o ddrwg ynddyn nhw chwaith; dynion gonest, byth yn meddwi, ac yn ddigon caredig, ond bod nhw'n ddidaro ac yn ddifeddwl am bethe 'u heneidie. Mi fydda' i'n meddwl bod pob Diwygiad rial yn cyrredd cyrre bywyd. Dyna hanes ein teulu ni erioed rhai ar y cyrre—a Diwygiade a'u daliodd bron i gyd. Mi glywes fod 'nhadcu mewn tipyn o oed pan gadd e grefydd. Yn ffordd y byd o edrych ar bethe, ni fu e 'rioed yn ddyn drwg, a 'doedd fawr o eisie crefydd arno. 'Welodd neb e 'n feddw, 'roedd e 'n un o'r bugeilied gore ar stad Syr Watcyn, a mi fedre gario dime ar 'i law trwy bob ffair a marchnad yng Nghymru. Yn Niwygiad Beddgelert y cadd e e 'i achub. Un o blant Diwygiad Wmffre Jones a Dafydd Morgan yn '59 oedd nhad, ac mi ddath mor debyg i nhadcu a phetai wedi 'i boeri. A dyma finne, y llai na 'r lleia', wedi 'nal yn Niwygiad 1904. Mi fase 'n dywyll fel y fagddu ar ein teulu ni, a phawb sy 'n byw ar y cyrre, onibai am Ddiwygiade. 'Wn i fawr am eich enwad chi, syr. 'Gadd e lawer o'r Diwygiad?

Do, dipyn, Wmffre, eithr nid cymaint â'r Methodistiaid Calfinaidd."

"Ma' nhw'n dweud bod gennych chi bregethwyr campus. Ma John Evans, Eglwysbach, wedi marw, ond yw e? Dyna bregethwr! Champion! Piti garw iddo farw mor gynnar. Mi clywes i e unwaith, a chlywes i ddim byd tebyg cynt na chwedyn. Mi gredes yn 'y nghalon fod Diwygiad yn dwad fel cawod o law trane y noson honno. Ond 'dydi pob pregethwr sy gennych chithe ddim i fyny â'r Eglwys— bach. 'Rwy'n cofio 'mod i yn nhre Llaniwan unwaith, a diwrnod ffair oedd hi. 'Doedd dim llawer o fynd ar y defed, a methes inne â gwerthu y rhai oedd genny hyd ymhell yn y prynhawn, ac aeth yn rhy hwyr imi fynd adre. Gorfu i Huw'r Foel a finne letya mewn tŷ tafarn o'r enw Bliw Bel—'doedd yr un tŷ dirwest yn y dre yn rhoi lle i bobol gysgu. Wel, i chi, min nos dyna wraig y tŷ yn dweud bod cwrdd mawr y Wesles yn dechre 'r noson honno, a mi ath Huw a finne i'r capel. Dyn rhwydd ifanc ath ati gynta', a 'fedrwn i yn fy myw 'neud fawr ohono. 'Roedd 'i bregeth e 'n gymysg o Gymraeg a Saesneg; mi gymera fy llw iddo ddyfynnu pymtheg neu ugen o bethe a ddywedodd beirdd a 'sgleigion Saesneg, a 'r oedd e 'n cadw 'i gadach poced yn llawes 'i gôt, a dyna lle 'roedd e yn brathu 'i law ar ôl y cadach bob rhyw ddau neu dri munud, ac yn 'i godi e i gyfeiriad 'i ffroene, ond cyn 'u cyrredd nhw, brathai e 'n ôl wedyn. Dyna fel y bu e trwy 'r bregeth. 'Wn i ddim be oedd yn galw am yr holl gamocs, achos 'roedd ganddo ddwy boced y tu allan i'w gôt, ac un neu ddwy arall y tu mewn, mi wn. Rhwng y Saesneg a'r tricie gyda'r cadach poced 'ches i ddim moddion gras yn y bregeth. Wedi casglu, dyna ganu emyn, a'r ail ar 'i drad; ac, ebe fi, yn ddistaw bach wrth fy hun, bendith ar ben y dyn a ddyfeisiodd ddwy bregeth mewn un oedfa, tybed na cha'i rywbeth i'm henaid gan hwn. Ond mi weles yn fuan nad oedd fawr obeth. 'Doedd y Saesneg na'r cadach poced yn blino dim ar hwn, ond 'roedd rhywbeth od aflawen ar 'i Gymraeg ynte. 'Roedd e 'n pydru arni 'n filen anarferol, ac yn gwthio rhyw bethe a alwai yn 'awdur' a' math ar' i bob brawddeg bron, a 'roedd e 'n maglu 'n amal gyda'r math ar hwnnw. Wel, i chi, ar ôl bod wrthi am ryw ugen munud fe boethodd 'i wad e ac aeth i hwyl danllyd, ac yn yr hwyl fe ddihangodd yr awdur' a'r math ar' am 'u bywyd.

"Ar ôl swper, meddai Huw 'r Foel—ma Huw yn ifanc ac yn dipyn o 'sglaig— Be 'dych chi'n feddwl o'r pregethu, Wmffre? Meddwl 'rydw i' ebe fi, ma nid pethe fel 'na sy 'n mynd i achub y byd. Be oedd arnyn' nhw, dywed?' 'O, wel,' meddai Huw, yr oedd y cynta' am inni feddwl 'i fod e 'n 'sglaig ac yn ddarllenwr mawr, ac yn reit gyfarwydd â gweithe 'r dynion mawr i gyd; ond fe 'i misiodd hi. 'Wn i ddim a sylwoch chi; wedi dysgu ar 'i dafod ryw bytie o Saesneg 'r oedd e, ac yn 'u hadrodd fel parot. Pam gebyst na fase 'r ffolyn yn dyfynnu beirdd a 'sgleigion 'i wlad a'i iaith ei hun? Mi fase pawb yn deall rheini, a mi fase yntau yn medru 'u dweud nhw 'n well. Am yr ail bregethwr, dysgu Cymraeg y ma hwnnw. Mi glywes fod 'sglaig da yn yr enwad wedi cyhoeddi ysgrife a llyfre ar yr iaith Gymraeg i wella iaith pregethwyr a phobol erill hefyd, a bendith ar 'i ben e 'weda i, ma digon o eisie, os ydi pawb mor ddrwg eu hiaith a'n pregethwyr ni. Practeisio mewn Cymraeg yr oedd yr ail bregethwr; ond yn ôl 'y meddwl i ni ddyle neb bracteisio mewn iaith na dim arall yn y pulpud. Petase pregethwyr yn meddwl y gallase fod yn yr oedfa rywun a fydde yn nhragwyddoldeb bore trannoeth ni fasent yn cyboli gyda phethe fel 'math ar' ac' awdur'. 'Dyna 'sponiad Huw; ac y mae 'n siŵr o fod yn llygad 'i le. Y ma' llawer o bethe tebyg iawn i bechode yn cael'u gneud a'u dweud ym mhulpude'r wlad 'ma."

Dych chi ddim yn 'i theimlo hi'n drymedd iawn heno, Syr: 'Fath olwg sydd allan, tybed? 'Wyddoch chi beth, ma 'r awyr cyn ddued â'r fagddu; mi gawn storom, gewch weld, a synnwn i ddim nad yw hi ar dorri hefyd."

Cynefin mynyddoedd Lluest Hir yw heddwch; eithr y nos honno ymddangosent yn wyllt a bygythiol. Bu ystorm yn casglu ei nerthoedd ynghyd er yn gynnar y prynhawn, a disgynnodd pryder ac ofn ar bopeth. Llechodd y defaid ym môn cloddiau, a chiliodd y cŵn i gonglau 'r ysgubor. Fflachiad a tharan, ac yna, glaw mawr. Rhuai'r ystorm mewn balchder a chynddaredd a chrynai'r llyn islaw. Parhaodd ddwy awr. Peidiodd y mellt, a chiliodd y taranau i'r pellter a distewi. Brefodd y defaid ar ei gilydd, a chododd y cŵn o'r ysgubor.

Dyna i chi storom, Syr!" ebe Wmffre.

Ar noson fel heno y daeth Edwin yma. 'Roedd hi beth yn gynt ar y flwyddyn na hyn, ac y ma tros ddeng mlynedd er hynny; rhyfedd fel y rhed amser! 'Roedd Gwen, coffa da amdani, yn fyw y pryd hwnnw. Rhuai 'r storm a disgynnai glaw mawr'r un fath â heno 'n union, a ninne 'n eiste'n ofnus a distaw wrth y tân. Ar ôl i'r storom ddistewi dyna 'r cŵn yn cyfarth fel pethe cynddeiriog. 'Be sy 'na, tybed?' gofynnai Gwen. Mi es allan i weld, a dyna'r ddau gi yn rhuthro o 'mlaen i gyfeiriad clwyd y Cae Bach, ac yno, yn sypyn anniben ar lawr, 'roedd rhyw greadur o ddyn. Gwaeddais ar Gwen am ddŵad â gole. Gwelem mai hogyn tua deunaw oed oedd yno, yn edrych fel corff, wedi 'i guro gan y storom yn fwy na hanner marw. Cariwyd ef i'r tŷ, ac aeth Gwen ati i ferwi llaeth enwyn a rosmari ynddo. Gwnaed tân mawr a rhoddi 'r hogyn mewn gwrthban i orwedd ar wely milgi[4], a bûm inne yn 'i wylio trwy 'r nos. Pan ddaeth e ato 'i hun, cawsom beth o 'i hanes. Bachgen o'r wlad isa' oedd e, wedi 'i ddal yn potsio a chymryd 'i drad. Pan ddealles hynny, mi gymes ato mewn wincad. 'Roedd gen i ar y pryd ddigon o waith i ddau ar y lluest 'ma, a mi cadwes e dipyn, ac yma y bu e byth. 'Doedd ar fynydd na dôl well hogyn nag Edwin. 'Roedd e 'n dipyn o fardd, ac yn darllen toreth—'i lyfre ef yw rhein a welwch chi yn y cwpwrdd bach. 'Roedd pawb yn 'i nabod e, ac yn 'i barchu e hefyd, achos 'welodd neb e erioed tra bu e yma yn poeri ar 'i bilyn. Yn 1913, mi gymrodd Luned, y Foel, yn wraig, a daeth â hi yma. Yr oedden ni 'n tri mor hapus â'r gog, a llond tŷ o ganu, a 'chlywodd yr hen fynyddoedd yma erioed gymaint o ganu, a chanu mor felys, ag a glywsent hirnos gaea' gan Edwin a Luned yn Lluest Hir. Ond, ond, disgynnodd arnom felltith y byd—daeth y Rhyfel Mawr, a galw ar Edwin, druan. Dyna ben ar bopeth yma, syr: caeodd y nos am y Lluest, a pheidiodd y canu; ni ddaeth gwawr mwyach, ac ofnaf na ddaw byth mwy. Rhyw fore, ymhen tua blwyddyn, daeth imi lythyr o Swyddfa 'r Rhyfel, yn dweud bod Edwin ar goll. Yn fuan wedyn cefais air oddi wrth filwr caredig yn dweud ei fod gydag ef hyd y diwedd, a gweled ei gladdu yn naear Canaan.

"Torrodd Luned 'i chalon, gwywodd fel rhosyn, ac aeth at Edwin i wlad nad oes ymladd ynddi. Eu plentyn hwy ydi'r hogyn bach sydd yma. "Trwy ddirgel ffyrdd", Syr. Rhoes Duw Ddiwygiad i'm gwneud yn gymwys i fagu'r un bach."

VII
TWM PEG

DIGWYDDODD imi orfod am rai blynyddoedd deithio o Dreharris i Fedlinog ar noson waith unwaith yn yr wythnos, haf a gaeaf, ac i'r diben o fyrhau'r daith, yn garedig iawn caniatâi goruchwyliwr y pwll imi groesi'r 'gwaith' ymlaen ac yn ôl. Wrth y drws sydd ym mur y gwaith' y mae lodge y watchman, ac nid euthum adref erioed yn y nos heb alw yn y lodge honno, a threuliais ddegau o oriau ynddi yn ymgomio â Thwm Peg a oedd yn wyliwr y nos. Yr oedd Twm a minnau yn gwbl wahanol i'n gilydd, ac o ran hynny, yr oedd Twm yn wahanol i bawb, a'r gwahaniaeth hwnnw a barodd inni ddyfod yn gymaint cyfeillion.

Ni wn ddim am dras Twm, ond credaf ei eni, rywbryd ymhell yn ôl, naill ai ym Merthyr neu Ddowlais, oblegid soniai lawer am ei ddyddiau bore yn ardaloedd y trefi hynny. Ni wn chwaith ei enw bedydd; y mae'n debyg iddo gael un, oblegid yr oedd tros ganol oed pan roddwyd yr enw Twm Peg iddo. Nid yw gwybod yr achau a'r amgylchiadau yn angenrheidiol i'r cofiant hwn; y dyn ei hun—darn cryf o hen oes baganaidd ym Morgannwg heb newid dim arno gan ddatblygiadau'r blynyddoedd—a barodd i mi ei hoffi.

Dyn cymharol fyr—rhyw bump a phump—oedd fy hen gyfaill; pen crwn fel pelen ag ychydig wallt yn fargodion iddo; llygaid mawr ar dor y croen, yn llawn dur, heb lawer o ddim arall ynddynt, ac yn eich herio bob amser; wyneb cryf â'i groen yn arw ac o liw hen femrwn a fuasai yn un o feddau'r Aifft am ganrifoedd; ffroenau agored yn cyfateb i linellau eraill yr wyneb; ceg fawr â dau ddant llygad melyn-ddu ynddi; dwy wefus drwchus fel petynt wedi chwyddo wrth fwyta ac yfed i ormodiaeth ym mlynyddoedd cyntaf ei oes, a gên lydan â'i nerth yn gymaint fel na ellid ond ei ddychmygu. Yr oedd corff yn un trwchus a thrwm a chadarn, a'r goes dde yn bren—peg—o'r pen-glin i lawr, a chylch haearn ar ei blaen.

Ni welais Twm erioed yn unman ond yn y lodge, a'r argraff sydd ar fy meddwl yn awr yw, ei fod un wisg ar hyd y blynyddoedd; gwisg heb iddi liw yn y byd ond lliw henaint, ac nid oedd amdano ddau bilyn o'r un defnydd. Ar ei ben, yn tynnu at y gwegil, yr oedd hen gap o frethyn; mwffler gwlân llychlyd yn llac am ei wddf, haf a gaeaf; dwy wasgod o stwff trwm, a'r uchaf â llewys iddi, a phob amser yn agored ac yn dangos crys trwchus a garw o wlanen cartref; ffustion oedd defnydd ei lodrau, a'i esgid o ledr cryf a chaled, tebyg i'r esgidiau a werthid yn rhad fel gweddillion y Rhyfel Mawr.

Yr oedd ymddangosiad Twm yn ddiddorol anarferol, eithr ei ddyn oddi mewn' a'i gwnâi yn gymeriad ar ei ben ei hun. Nid ymffrostiai onid mewn tri pheth, sef, gwrhydri ei ddyddiau bore pan oedd yn grwt ac yn ddyn ifanc, ei ddawn fel halier, a'i fedr i ddarllen y Beibl. Pan oedd grwt yr oedd yn rhedegwr diguro, a thelid iddo gyflog cyson gan ddau ŵr bonheddig o Ferthyr am redeg yn yr ymrysonfeydd a gynhelid, fynychaf ar y Sul, mewn man diarffordd ar y mynydd uwchlaw Dowlais. Cyrchai cannoedd i faes y rhedegfa i yfed a meddwi ac ymladd, a byddai yno olygfeydd arswydus cyn diwedd y dydd. Anaml y trechid Twm mewn rhedegfa, a soniai â blas am y dyddiau euraid hynny. Wrth gwrs, âi pob arian a enillai i'r ddau ŵr bonheddig a'i cyflogai, oblegid câi ef ei gyflog, ennill neu beidio.

Pan beidiodd Twm â bod yn grwt aeth rhinwedd ei goesau i'w ddyrnau, a gwnaeth rai pethau fel dyrnwr a oedd yn tebygu i wyrthiau; bu mewn llawer ysgarmes boeth a gwaedlyd, eithr yn ôl yr hanes a roddai i mi, er iddo ddyfod allan rai troeon yn lled garpiog ei gnawd a choch ei groen, ni thorrwyd iddo erioed na chymal nac aelod. Y peth agosaf i prize fight a welais erioed oedd disgrifiad Twm o gosfa a roddodd i ryw blisman. Caeai ei enau a gwasgu ei wefusau i ffurf ceg joci, âi dur ei lygaid yn fflam dân, a rhuthrai nwyd ieuenctid i'w ddyrnau mawr, a defnyddiai yntau hwy fel meistr y gelfyddyd. Tybiwn glywed ochain y bobi druan tan bwysau'r dyrnodiau, a theimlwn i'r byw drosto.

Gwaith Twm hyd oni roddwyd iddo goes newydd ydoedd halio yn y pwll, a gwrthrych pennaf ei ymffrost ydoedd ei ddawn fel halier. Clywais amryw yn sôn am ei fedr i drin ceffylau, eithr honnai ef ragoriaeth ar bawb. Ni allai oddef canmol halier, a phan wneid hynny gwnâi yntau'r peth agosaf a fedrai at wên faleisus, sef agor ei enau a dangos y ddau ddant melynddu, a dywedyd â dirmyg yn ei lygaid, "Ca' dy ben, bachan, ôs dim halier yn y pwll 'ma; mae'n rhaid geni halier ishta bardd, a weles i neb weti'i eni felni ers shew byd."

Un noson âi gweithiwr heibio'r lodge ar ei ffordd i'r pwll, a dweud, "Nos da, Tomos; sut yr ydach chi heno? "Y mae nhw'n dweud," Tomos, meddwn i, "fod hwnna'n halier campus". "Pwy 'wetws?

Rhai o'r gweithwyr." "Pidwch 'u cretu nhw, celwydd i gyd; ôs dim Northman yn y byd yn gallu halio. Achos pam? Achos dou beth. Yn ginta', ma ceffyl yn nifel call iawn, yn 'nabod dyn ar unweth, a dos gynto gynnig i Northman; peth arath, 'dyw ceffyl ddim yn diall iaith y North; rhaid i chi whilia Cwmrag sha ceffyl. Sôn am haliers, diawch a myto i, mi haliwn i penne nhw off 'tawn i heb yr hen beg 'ma.

Shwt y collasoch eich clun, Tomos—wrth halio? gofynnais. "Ne," meddai, "cal ticyn o anap nitho i. Wrth halio, wir!" Dangosodd y ddau ddant llygad, ac awgrymai ei lais a'i ystumiau fod damwain iddo ef fel halier yn beth amhosibl,—" Cal ticyn o anap nitho i."

Yr oedd Twm yn greadur anwybodus iawn y tu allan i fyd ei gampau arbennig ef—rhedeg ac ymladd a halio; ond mynnai i bawb gredu ei fod yn gymaint campwr ar ddarllen, ac yn enwedig ar ddarllen y Beibl, ag ydoedd yn y tri gorchwyl arall. Yr oedd yn drigain oed pan ddysgodd ddarllen, a hyd y gwelais i, ychydig a ddysgodd, ond yr oedd fel y mwyafrif o'r sawl sy'n hynod anwybodus yn gwbl hunan—hyderus, ac yn bendant ei farn a'i ymadrodd.

Pa fodd y treuliwch holl oriau'r nos yn y lodge yma, Tomos?" gofynnais iddo unwaith. "Darllan,' meddai, gan gydio yn y llyfr a oedd yn ei ymyl. "Darllan, darllan y Beibl. Grendwch." Agorai'r llyfr, bron ohono'i hun, ar Efengyl Ioan, a darllenai Twm y bennod gyntaf; âi ymlaen yn rhwydd a rhugl hyd y bymthegfed adnod, ac yna, arafu, cloffi, hercian, ac nid oedd ddewin a wyddai pa beth a ddarllenai oddi yno i'r diwedd. Darllenodd y bennod hon ddegau o weithiau, o dro i'w gilydd, i brofi ei ddawn fel darllenwr.

Ni wn pa un ai i afiaith ei feddwl—y peth a eilw'r Sais yn humour—neu ynteu i hunan—hyder a phendantrwydd a godai o'i anwybodaeth a'i unplygrwydd y dylid priodoli llawer o'i ddywediadau. Llefarai'n oraclaidd bethau cyfeiliornus ac anhygoel. Gofynnais iddo unwaith pwy oedd yr Ioan a ysgrifennodd yr Efengyl, ac atebodd yn ddibryder, Y bachan y torrws Pharo 'i ben a am iddo 'wêd rhwpath yn erbyn i wejan a; sgrifennws y llythyr o'r jail at i wraig.'

"Tybed eich bod yn gywir, Tomos," meddwn innau, yr oeddwn i'n meddwl taw Herod a dorrodd ben Ioan."

"I ni'n dou yn reit," meddai, "yr un un odd y ddou, ond fod dynon acha prydie yn i alw a'n Herod, a phryd arath yn Pharo, ac wetyn i yn Herod Pharo, ishta clywch chi'r gwithwrs yn sôn am y Manager 'ma; pan ma fa'n 'u digio nhw, Jacob yw a, wetyn i Ray, ac yn i gefan, Jacob Ray."

Un noson rhoddai ei fryd ar wybod tipyn o'm hanes i, a holai ym mha Sir y ganed fi, beth oedd gwaith fy nhad, a pha beth a barodd imi fynd yn bregethwr, a rhoddais y manylion iddo. " O," meddai, nid un o'r North ich chi 'ta; ma sŵn ticyn o North yn ych llaish chi ed. Beth yw 'ch pwysa chi'n awr? 'Rych chi'n six footer, 'spo, ne racor? Trueni ed. Bachan, bachan, ma'n bechod ych bod chi'n bregethwr, mi nithech fobi nêt. Ia, trueni mowr. Spwylo bobi first class i nithur pregethwr second class."

Anaml yr âi neb heibio i'r lodge heb gyfarch Twm er garwed ydoedd. Good night, Tom; how be you tonight?" meddai un o'r gweithwyr. "Good night to you," ebe Tom yn sarrug, ac yna troai ataf a dywedyd, Mae'n drueni amdanyn nhw." "Pwy?

Am pwy—y Saeson 'na, wrth gwrs; ôs gita nhw ddim iaith o gwbl, chi'n gweld." "O, 'r oeddwn i'n meddwl bod Saesneg yn iaith." "Ne, wedi micso pethach ma nhw. 'Dos 'na ddim ond tair iaith ar gal, iaith y Jews, a iaith y Groeg, a'r Gwmrag, wrth gwrs. Trueni ed, achos ma gan Sais ened fel rhywun arath; mi fydd yn dywyll drychynllyd arno yn y byd nesa, 'fydd 'no neb yn i ddiall a; fydd y Judge yn gwêd wrtho, Ca dy ben, bachan, a gad dy gabarlátch, 'wi ddim yn dy ddiall di.' Trueni, ed."

Taith ddiflas, ar bob tywydd—oer a gwlyb, eira a rhew—oedd y daith i Fedlinog ac yn ôl, a delid fi'n aml gan annwyd trwm, ac weithiau, ar ôl bod tan 'hen annwyd yn hir, awn i deimlo'n rhyfedd. A mi yn teimlo felly un noson pan elwais yn y lodge, meddai Tomos, " Ishtwch lawr." "Na, ddim heno, diolch," meddwn. Achos pam w?" "Nid wyf yn teimlo'n dda iawn heno." "Be si mater?

'Wn i ddim, mae gennyf wendid yn fy nghoesau a phenysgafnder."

Mwmiai Twm wrtho'i hun, "Coese gwan a phen ysgawn," ac yna, "'Rw i'n gwpod am y peth; fe deimlas i'r un shwt gannoedd o withe cyn i fi ddechra darllan Beibl. Bachan, bachan, 'r otych yn cwnnu hiraeth arno i am yr hen amser." Dynesodd ataf, a dyfod yn nes ac yn agos, ac meddai, "'Dos dim gwynt ar ych anal chi ed. Gisoch chi rwpath cyn starto?

Naddo, ar y ffordd, yr ochr hyn i Tai Clwb y teimlais y gwendid a'r ysgafnder gyntaf." "Diain i, ma pethach yn wath nag o'n i 'n meddwl. Ia, mynd sha thre ar unwath fysa ora i chi rhag i rwpath ddicwdd i chi yma." A phan oeddwn yn cau'r drws, galwai ar fy ôl, "Galwch 'to nos Iou nesa os byddwch chi'n fyw. So long 'n awr."

Yr oedd Twm Peg mor unplyg a chydwybodol ag unrhyw hanner—pagan a adnabûm i, ac er ei anwybodaeth a'i ddieithrwch i bob lle o addoliad, gobeithiaf, a dirgel gredaf, nad ydyw yn "ddrychynllyd o dywyll" arno yr ochr draw. Daeth ei ddiwedd trwy i gerbyd modur, ar yr heol o'r lodge i'w gartref, roi ticyn o anap" iddo.

VIII
HUW LLYWARCH

ADNABUM Huw Llywarch am ugain mlynedd cyn i'r ffaith fy nharo na welais erioed ei debyg—ugain mlynedd heb feddwl unwaith nad oedd yn debyg i neb. Dichon na thybiwn ef yn ddigon pwysig i'w gymharu ag eraill, neu efallai nad oedd yn annhebyg i eraill ar hyd yr ugain mlynedd, ac mai datblygu'n araf i'r annhebygrwydd a wnaeth. Tueddir fi i gredu mai'r syniad olaf o'r ddau yw'r esboniad. Y mae'n bosibl ei eni yn debyg i eraill, a'i fod yn debyg i amryw ar ddechrau fy adnabyddiaeth ohono, eithr datblygu ohono tan fy nwylo yn annhebyg i bawb. Y mae'r peth yn ddiddorol ac yn werth ei ddyfalu allan, ond yn ormod gorchwyl i'w olrhain wrth fynd heibio fel hyn; rhaid aros uwch ei ben. Ond y ffaith ydyw, mai'n sydyn y trawodd y peth fi; a phrynhawn Sul oedd hi.

O ran y dyn oddi allan', yn gorff a gwisg, safai ar ei ben ei hun. Dyn tal a syth heb wns o gnawd diddefnydd arno, ac ni theimlodd erioed fod ganddo nerfau. Yr oedd ei wallt yn drwchus a chryf a chyn ddued â muchudd, talcen llydan a chul, ei aeliau crych yn cyfarfod â'i gilydd, llygaid o faint cymedrol ac yn edrych yn syth. Ni welais ef erioed yn troi'i lygaid lwrw'i ochr; os byddai gofyn troi, troai ei holl gorff, ac edrych yn syth. Nid oedd dim creulon yn y llygaid, ond ceid ynddynt haen denau o ddur bob amser, hyd yn oed pan wnâi yr hyn oedd agosaf iddo ef at chwerthin. Nid wyf yn bwrw na fedrai Huw chwerthin pe ceid digon o achos i hynny, eithr credaf na châi ef mewn dim reswm tros dorri ar ei arfer. Y pwynt uchaf a gyrhaeddai ydoedd math ar wên ddiflas a thrahaus yn awgrymu tosturi wrth y sawl a chwarddai.

Byddai'i wisg o ddefnydd caled a thrwchus, ac o liw rhwng tywyll a golau, ac ni chyfnewidiai gyda'r hin; haf a gaeaf, poeth ac oer, yr un defnydd ydoedd, defnydd da a chaled, ac oherwydd hynny yn araf yr heneiddiai.

Ond yr oedd ei brif neilltuolrwydd, y peth a'i gwahaniaethai oddi wrth bawb a'i osod ar ei ben ei hun, yn ei ysbryd, neu'r peth a breswyliai yn ei gorff, ac nid yn ei ymddangosiad. Dywedaf y peth a bres—wyliai yn ei gorff, oherwydd teimlo ohonof ar brydiau na pherthynai greddfau cyffredin enaid iddo. Pa bethau bynnag a oedd yn eiddo cynhenid iddo, gweithiwyd y cwbl yn raddol gan ddylanwadau oddi allan, ac ynni meddwl, i un nwyd neu reddf fawr a lywodraethai ar ei holl bersonoliaeth—nwyd neu reddf casglu, a chasglu aur yn arbennig. Nid cybydd mohono, eithr un ag ynni holl reddfau'i natur wedi llifo i un nwyd.

Byddai'n anodd taro ar fro brydferthach na'r un y ceir Bryn Bedw, cartref Huw Llywarch, ynddi. Y mae Cwm-y-Nant-Lefn gerllaw, ac nid oes ddim o'i faint yng Nghymru cyn llawned o ramant. Eithr ni theimlai ac ni welai Huw ogoniant Natur. Un llygad oedd i'w enaid, a hwnnw wedi ei ddysgu i fod yn ddall at bopeth ond golud; nid oedd iddo ond un nwyd fawr a chref a didrugaredd a dorrai ar draws a thrwy bopeth at ei nod.

"A wyddoch chwi beth, Huw Llywarch," meddwn wrtho ryw dro, "chwi ddylech fyw yn ddedwydd iawn mewn lle fel hwn; ni welais yn fy myw olygfa harddach. Y mae'r cerddin tan eu blodau, a daw'r criafol melyn a choch yn y man, a thlysed drain gwynion y perthi yma. Sylwch ar y bedw draw yn ymyl plas Bro'r Drain; mor fonheddig ydynt a'r haul yn chwarae yn eu manddail—clywch ganu'r adar!" "Twt, twt," meddai Huw, " y mae'r lle yn burion i ddyn ar 'i ore, ond 'chewch chi ddim o'r tir yma ond a roddwch ynddo."

Saif y tyddyn ar benelin i'r ffordd sydd yn arwain i'r Cwm, ac yno tan y coed rhed y nant yn llyfn a thawel. O droi i'r aswy culhâ'r cwm a thywys am ddwy filltir hyd at raeadr mawr ac ysblennydd. O boptu ymgyfyd mynyddoedd mwy unionsyth na dim a welais yn unman, a gwisgir hwy o'u godre i'w brig â phrysglwyni a choed. Dywaid rhai nad oes yng Nghymru ddim mor debyg i olygfeydd Switzerland â'r ddwy filltir hyn.

Onid yw'r hen gwm yma'n rhamantus, Huw? 'Rhamantus, yn wir!" meddai ef. " Gair go fawr am beth mor sâl. Ni weles i fwy o wastraff yn fy mywyd. Dyma i chi'r hen afon ddiog yma, yn ymlusgo fel hyn o ddechre'r flwyddyn i'w diwedd i ddim yn y byd. Be 'di 'r holl ddŵr 'ma da? 'D oes 'ma'r un felin na phandy na pheth o'i chychwyn i Ddyfi. A dyma'r hen fynydde 'ma. Be oedd ym meddwl y Crewr pan 'nath e rhain, tybed? Ddyn bach, 'dydi nhw dda i ddim mor bell ag y gwela i; ma nhw'n rhy syth i ddefed 'u dringo nhw pe bai arnynt borfa; ac am y coed, 'thalen' nhw ddim am 'u torri, coed bedw a chriafol, ac ambell bren derw byr yn geincie o'i fôn. Gwastraff i gyd yn ôl 'y meddwl i." Nid oedd yn Huw Llywarch fymryn o na dychymyg nac afiaith. Cymerai bopeth a welai ac a glywai fel y byddai ar yr wyneb. Pe darllenid iddo un o lyfrau Daniel Owen—ni fedrai Huw ddarllen gair nac ysgrifennu dim ond ei enw, a thrwy drafferth fawr y dysgwyd ef i ysgrifennu "Huw Llywarch", fel y gallai' signio cheques a phapure ynglŷn â'r plwy'—ie, pe darllenid iddo un o lyfrau Daniel Owen fe'i hystyriai yn llawn o gelwyddau. Pan oedd yn blentyn ni orfodwyd ef i fynychu nac ysgol bob dydd nag ysgol Sul oherwydd man diarffordd a phell ei gartref. Llindagwyd yn eu mabandod ddychymyg ac arabedd Huw, a phob nodwedd ddynol arall, gan ei nwyd fawr. Y mae'n amhosibl cymdeithasu â pherson nad oes iddo na dychymyg na donioldeb, a threth drom a diflas ydoedd bod yng nghwmni Huw Llywarch oni fyddai eraill yno i gytuno i'w boeni oherwydd ei hynodrwydd. Gwneid hynny'n fynych trwy adrodd pethau chwithig ac anhygoel wrtho.

Pan gollai ddefaid o'i fferm âi i'r Siêd ar arch y Sietwr i geisio'r colledig. Dwg y bugeiliaid, am gylch eang, y defaid crwydr i'r Siêd fel y caffo'r sawl a'u collodd gyfle i hawlio'u heiddo. Bydd y dydd yn fath ar wyl i bob bugail; ceir tipyn o gwrw i'w yfed, daw holl hanes y mynyddoedd gerbron, a bydd miri mawr, a phan geir yno un fel Huw heb fawr o ddawn i weled y digrif a'r eithafol, try rhywun neu'i gilydd i ddychmygu stori i'w boeni a'i gynhyrfu. Un tro, a Huw yno, adroddodd Rhysyn, Lluest Oer, ran o'i brofiad yn Llundain pan ymwelodd â Ned ei fab sy'n cadw Wac Laeth'.

"Y fantes fwya i ddyn, ac i ddyn o fugel yn arbennig," meddai Rhysyn, "ydi mynd i un o'r trefydd mawr i weld y byd".

"Gweld y byd mewn tre!" meddai Owen Parri. "Ma hynny'r un fath â phe bait yn sôn am roi'r hen sir 'ma yn Lluest Oer. Y byd mewn tre! Rhaid i ti siarad sens, Rhys."

"Y mae'n eitha clir, Owen, na fuost ti erioed mewn tre fawr, neu os buost ti, 'nest ti fawr o ddefnydd o dy lyged yno. Y ma'r peth a ddywedes i yn 'i le; mewn tre fawr, digon mawr i fod yn ddinas, mi gei'r byd i gyd, gydag ychydig o eithriade. Meddylia di am unrhyw beth a ddaw i dy ben di, ac mi cei e mewn dinas. 'Wyddost ti am rywbeth mewn siop neu ar fferm, mewn pentre neu dre neu wlad, na chei di mono mewn dinas? Y ma 'na eithriade, un neu ddau; er enghraifft, 'chei di ddim mynydd yno, ond mi gei bopeth sydd ar fynydd. Mi 'weda i eto; mi gei'r byd i gyd, gydag eithriade, mewn dinas; ac mi 'weda ragor, mi gei fwy o fyd arall mewn dinas nag yn unman.

"Gyda'th gennad, Rhys," meddai Ifan Ifans, "'dw i ddim am dorri ar dy sgwrs di, ond ffor' wyt ti'n gneud allan bod mwy o'r byd a ddaw mewn dinas nag yn unman arall?"

"Fel hyn yn union, Ifan. 'R wyt ti'n byw yn ymyl capel Methodus, onid wyt ti? O'r gore; mi fyddin mynd iddo weithe, mi wn, a ma'n debyg i ti glywed rhyw bregethwr neu'i gilydd yn sôn mai pethe i'w datguddio ac nid i'w chwilio allan yw pethe byd arall, hynny yw, nid pethe i'w cyrredd trwy allu dyn ydyn' nhw, ond pethe i'w derbyn oddi uchod. 'R wyt yn credu hynny O'r gore. Yn awr, dyma 'weda i, mi gei fod pob gwybodaeth newydd o fyd arall—mi wyddost, wrth gwrs, na stopiodd datguddio ddim am byth pan sgrifennwyd gair ola'r Testament: O'r gore. Ie, dyma 'weda i—mi gei fod pob gwybodaeth newydd o fyd arall yn dwad yn gynta', fel rheol, trwy ddinasoedd. Y ma pethe wedi newid o'r hyn oedden' nhw yn yr hen amseroedd pan oedd y byd arall yn dŵad i'r byd yma trwy fugeiliaid a phentrefi; 'ddaw e ddim mwyach ond trwy 'sgleigion a dinasoedd.

"Un min nos pan own i yn Llundain, medde Ned fy mab, Nhad, a glywsoch chi erioed am ysbrydegieth?' 'Ysbrydegieth!' meddwn i, 'be 'di hwnnw, dywed?' A dyna fe'n egluro'r peth ar 'i union, ac yn dweud,' Mi af â chi heno i le y gellwch gael sgwrs â rhai sy wedi marw ers blynydde, fficsiwch ar rywun y basech yn leico cael gair ganddo '. Wedi cysidro tipyn mi fficses yn 'y meddwl ar Wil, Lluest Lom, coffa da amdano. Mi wyddoch i gyd am Spot, Lluest Lom; 'doedd dim gwell ci defed bod na Spot, ond 'i fod e 'n cymryd arno weithe pan elwid arno nad oedd e ddim yn clywed, a mi wyddoch yn burion mor greulon y trinie Wil e ar adege felly. Wel, dyna Ned a finne yn y lle, a rhywun yn gofyn yn Saesneg pwy own i am gael, bod y Cyfrwng yn barod. Cymro,' ebe Ned. Cymro o'r enw Wil, Lluest Lom'. 'Reit iw âr,' ebe 'r dyn. A dyna'r Cyfrwng yn dechre ymysgwyd, ac wedyn, sythu a stiffio, a—wel, marw; neu a siarad yn fanwl, aeth fel petai hi'n dianc allan o'i chorff, ac yn y fan dyna Wil yn llefaru drwyddi Gymraeg glân gloyw gymaint fyth, ond bod 'i lais e wedi altro'n arw. Wrth gwrs, 'doedd dim dowt nad Wil oedd wrthi, mi wyddwn hynny oddi wrth y pethe a ddywede. Holes dipyn o'i hanes yn ei fyd newydd, ac atebe yntau; ond 'doedd e ddim mor dafodrydd ag y bydde fe yma, rhyw blycio siarad yr oedd. Gofynnes pa fath le oedd ganddo. Gwell na'r disgwyl,' ebe fe, ond nid lle sydd 'ma, Rhys, lleoedd, 'y machgen i, a llawer ohonyn' nhw. Y ma dyn yn cychwyn mewn lle digon tebyg i'r ddaear, ond bod y tywydd a phethe eraill yn well, ac yna mynd ymlaen ac yn uwch, ac ymlaen wedyn, ac ymlaen o hyd, a'r lleoedd yn gwella bob cynnig, wrth gwrs. Hynny yw, y ma dyn yn gweld 'u bod nhw wrth gwrs ar ôl dŵad yma. Y ma llawer o rwystre i symud ymlaen, ac y ma 'r rhwystre i gyd o fywyd dyn ar y ddaear, wedi cyrredd yma o'i flaen. Y rhwystr mwya' a ges i i symud o'r stad gynta' oedd Spot, yr hen gi. Mi synnes 'i weld e, yr oedd e lond 'i groen a'i flewyn fel sidan, a golwg annibynnol a thipyn yn filen arno, ac mi rodd ar ddeall imi ar unwaith nad oedd dim symud ymlaen i fod heb imi roi ymddiheuriad clir ac ar goedd iddo ef am y modd y trinies i e ar y ddaear, a mi . . .

Neidiodd Huw Llywarch ar ei draed â mellt yn ei lygaid a tharanau yn ei lais. "Ddyn ofnadwy," meddai Huw, meddylia be wyt ti'n ddweud. Y byd a ddaw yn debyg i'r ddaear, a chŵn defed yn byw yn y nefoedd! 'Chlywais i 'rioed shwn beth fy mywyd. Oes arnat ti ddim ofan i farn dy daro di?"

"Paid â gwylltio, Huw," meddai Owen Parri, y ma Rhysyn yn llygad 'i le, achos y ma dynion mawr a dysgedig fel Syr Olfer Lodge yn dysgu'r pethe yna i gyd."

Ddynion y felltith," meddai Huw, 'd yw hi ddim yn saff i fod yn ych plith. Sôn am farn; 'd yw e ryfedd yn y byd bod clafr ar y defed, a'r ŵyn yn trigo a phopeth yn mynd o chwith. Arswyd y byd; cŵn defed yn y nefoedd! 'D yw hi ddim yn saff— 'r wy'n mynd.'

Ymaith ag ef â'i ben yn y gwynt fel carw o flaen cŵn, ac yna, chwerthin mawr yn y Siêd, a Rhysyn Lluest Oer, tan wenu'n foddhaus trwy fwg ei dybaco, yn dywedyd, "Wel, wel, ma llawer math ohonom yn y byd 'ma".

Na, nid oedd Huw Llywarch yr un fath â dynion eraill. Ni pherthynai iddo na bai na rhinwedd; dim ond y bai o ddatblygu i'r hyn ydoedd. Yr oedd nwydau corff a amlygir trwy arferion anfoesol mewn eraill, ac egnion ysbryd a ddatguddir yn gyffredin mewn atgasedd a dial, ac mewn tynerwch a charedigrwydd, wedi eu toddi'n un a llifo'n ffrwd gref a sefydlog i'r un nwyd fawr a lywodraethai ar ei holl fywyd. Gwnâi bethau a ystyrir yn gymwynasgar a phethau eraill a ystyrir yn angharedig; eithr ni theimlai ef eu bod felly, ac nid oes na rhinwedd na bai yn y pethau hyn oni fydd bwriad ynddynt.

Ie, yn sydyn y trawodd y ffaith fi na welais erioed ei debyg, a phrynhawn Sul ydoedd. Eisteddwn ar aelwyd Bryn Bedw a gweled ar fwrdd y ffenestr ddwy gyfrol newydd o Weithiau Ceiriog mewn rhwymiad lledr ysblennydd. A minnau'n gwybod na wyddai Huw air ar lyfr, synnais eu gweled, a gofynnais ym mha le y prynodd hwy. "Eu prynu!" ebe fe, 'Phrynais i monynt; rhyw hen ddyn bach a'u hanfonodd yma." Adroddodd yr hanes.

'Rhyw nos Sul yn y gaea' diwetha, gan nad oedd genny ddim byd i'w 'neud, mi es i'r gwely dipyn yn gynnar rhag llosgi glo a gole, ac mi gysges yn fuan ac yn drwm fel y bydda'i 'n arfer; 'd oes genny ddim amynedd gyda dynion sydd yn dweud 'u bod nhw'n methu â chysgu; 'drychwch ar y 'nifeilied fel ma' nhw'n cysgu; pe base cydwybode dynion mor dawel a chydwybode 'nifeilied mi gysgen' nhwythe hefyd. Wel, i chi, yn sydyn, dyna guro mawr ar y drws, ddigon i dynnu'r tŷ ar eich pen; mi 'leues gannwyll a gweld 'i bod hi wedi troi deuddeg, ac ar ôl imi daro pilyn amdana' mi es i lawr, a gofyn—cyn agor y drws—" Pwy sy 'na:" "Y fi," medde rhywun â llais pwfflyd, "y fi, wedi colli'r ffordd ". Mi agores y drws a gweld yng ngole'r gannwyll ddyn byr a thew, y tewa' o'i daldra a welais erioed, ac yr oedd golwg disut a digalon arno. Ar ôl ei gael i'r tŷ mi ddechreues 'i holi e, a gofyn pwy ydoedd.'

"Pregethwr Senters wedi colli'r ffordd," medde fe. Colli'r ffordd, yn wir; pwy reswm sydd i bregethwr, na'r un creadur arall o ddyn fod ar ffordd o gwbl berfedd nos fel hyn: I b'le 'dych chi am fynd?

Mi gollais y ffordd rai oriau yn ôl, a bydd yn dda gennyf i chwi fy nghyfarwyddo i bentref D...L..."

Mi es ati i wneud ffagal o dân a berwi'r tegell, a dweud y câi gwpaned o de a rhywbeth tan 'i ddant mewn wincad.

"Na," ebe fe, "peidiwch â thrafferthu; y mae'n ddrwg iawn gennyf imi orfod torri ar eich cwsg mor hwyr ar y nos. Os byddwch chwi cystal â'm gosod ar ben y ffordd i'r pentref, mi gychwynnaf ar unwaith". "Ddyn bach," meddwn wrtho, "peidiwch â sôn; 'daeth neb o Fryn Bedw erioed ar 'i gythlwng, a ma dwy filltir heleth o ffordd i'r pentref; mi a' i gyda chi yno bob cam." "Yr oedd 'i ddillad e 'n mygu yng ngwres y tân, ac yr oedd e'n edrych mor wan â swclyn newydd eni, a bron yn rhy flinedig i gadw'i hun ar y gader, ond mi fytodd ac mi fytodd, ac mi ddath gryn dipyn yn sioncach. Cychwynnwyd am y pentre, ac ar y ffordd adroddodd 'i helynt, ac yr oedd 'i Gymraeg e 'r un fath â Chymraeg llyfr, mor gorect a phe base fe'n pregethu, a 'wedodd e 'r un gair Saesneg yr holl ffordd; 'falle na wydde 'r dyn ddim Saesneg o ran hynny."

Pregethais yn y bore yn y pentre," medde fe, ac yn y prynhawn yn y Cwm, ac am bump o'r gloch cychwynnais am Soar ar gyfer oedfa'r hwyr; ond pan oeddwn ar ben y mynydd caeodd y niwl amdanaf a chollais y ffordd, ac yna daeth glaw mân ac oer, a bûm yn crwydro o'r adeg honno oni ddaethum at eich tŷ chwi. Dyna fy hanes."

"Ddyn byw," ebe fi, "ma 'n syndod na fasech chi wedi trengi yn yr oerfel a'r glybaniaeth. Pam 'dych chi'n peryglu 'ch hun gyda'r pregethu 'ma a chithe 'n gorff mor drwm: Treiwch rywbeth arall lle gellwch chi fod yn 'ch unman, a than do, i ennill eich bywolieth. Wel, dyma'r tŷ, a mi fynna'i 'ch gweld chi'n saff cyn troi'n fy ôl. Ymhen rhyw wythnos dyna'r ddau hen lyfr bach 'na 'n dŵad yma trwy'r post, a 'rwy 'n deall mai ef a'u hanfonodd."

"A gaf fi edrych ar y llyfrau, Huw Llywarch?" Cewch, yn eno'r tad; 'drychwch faint a fynnoch arnyn' nhw.'

Darllennais ar yr wyneb—ddalen:—

"I Mr. Huw Llywarch, er cof am ei gymwynasgarwch ar noson ddrycinog, y Sabboth, Rhagfyr 6, 1896, oddiwrth

E. Anwyl,
Aberystwyth."[5]

Huw Llywarch, a wyddoch chi pwy oedd y dyn?

Na wn i, yn tad, 'weles i mono cynt na chwedyn." "Wel, yr Athro Edward Anwyl, o goleg y Brifysgol, yn Aberystwyth; gŵr bonheddig, ac un o ddynion mwyaf Cymru. Y mae ei rodd yn urddasol fel ef ei hun."

"O, mae e'n Athraw, ydi e, yn dysgu'r cywion pennoeth a ddaw i'r Cwm yma ar y Sulie? A mae e 'n ŵr bynheddig! Falle 'n wir. 'Doedd fawr o'r bynheddig yn 'i olwg e pan ddath e at y tŷ 'ma'r nos Sul honno yn lyb sopen at 'i groen. Wel, 'doedd dim raid iddo boeni yn 'y nghylch i, achos 'chostiodd yr hyn a 'nes i iddo ddim o mhoced i; ond os oedd e am 'neud rhywbeth, ac ynte'n ŵr bynheddig, pam felltith na fase fe'n anfon yr arian yn lle anfon yr hen lyfre bach di-werth 'ma? Gwastraff i gyd yn 'y meddwl i."

Nodiadau

[golygu]
  1. Cefais y gân gan Mr. H. W. Evans, Y.H., F.R.A.S., Solfach.
  2. William Rowlands (Gwilym Lleyn)
  3. Siêd, o Escheat, di-arddel, fforfed. Defaid siêd.
  4. Hearthrug.
  5. Y mae'r hanes hwn yn ffaith.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.