Yr Ysgol Gymraeg/Awyr
| ← Diarhebion | Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen |
I aderyn → |
AWYR.
TRAETHIR llawer ar Wyddoniaeth yn Gymraeg yn yr ysgol. Heddyw, y testun yw AWYR.
I.
MR. GWILYM.—William, pwyswch y fflasc, ac yna, tynnwch awyr o honi â'r air-pump. (William yn pwyso y fflasc ar y clorian; yna, yn tynnu peth o'r awyr o honi, ac yn dodi "clip" arni). Ail bwyswch y fflasc. (William yn pwyso eilwaith). Beth ydych yn ganfod?
WILLIAM.—Y mae'n ysgafnach, syr.
MR. G.—Paham y mae'n ysgafnach nag o'r blaen?
WILLIAM.—Y mae'n rhaid fod yr awyr dynnwyd o honi yn pwyso rhyw gymaint.
MR. G.—Ie, dyna'r wers. Oes, y mae pwysau mewn awyr. Ac er nad yw yn pwyso llawer ynddo ei hun,— hynny yw, er nad yw llond fflasc fel honna yn pwyso rhyw lawer ar wahan, y mae pwysau mawr iawn yn yr awyr sydd yn ein hamgylchu ni. A wyddoch paham?
MEGAN.—Clywais rywun yn dweyd fod yr awyr sydd o'n hamgylch yn cyrraedd yn uchel, uchel, am rai cannoedd o filltiroedd uwch ein pennau.
MR. G.—Gwir yw hynny. Y mae'r awyr yn haen ar haen am uchder mawr. A dyna paham y mae'n gwasgu cymaint ar yr haen isaf, yr haen sydd o'n hamgylch ni, am fod pwysau yr haenau ereill i gyd ar y rhan isaf o hono. Y mae'r gwasgiad yn 15 pwys ar bob modfedd ysgwar.
II.
Gwnawn gynnyg arall i geisio dysgu ychwaneg am awyr. Ifor, estynnwch y llestr tin o'r fan draw. Diolch. Dyma i chwi lestr alcam teneu, teneu, a lle i roi corcyn arno. Dodwch ychydig o ddŵr ynddo, a gadewch iddo ferwi yn fywiog am tua deng munud.
(Dau o'r plant yn paratoi y llestr, ac yn ei ddodi i ferwi ar y Bunsen burner). Ar ol iddo ferwi am beth amser, y mae Mr. Gwilym yn ei dynnu oddiar y nwy, ac yn dodi y corcyn arno yn dynn. Yna yn arllwys dŵr oer arno. A dyna'r llestr yn ymollwng i'w gilydd.
Y PLANT.—O, y mae'r llestr wedi torri.
IFOR.—Y mae wedi cael gwasgfa, syr.
MR. G.—Y mae mwy na ffraethineb yn eich dywediad, Ifor, fel y cawn weld cyn y diwedd. Sut y bu hyn, tybed? Gadewch i ni chwilio i mewn i'r achos. Beth wnaethom gyntaf?
MEGAN.—Rhowd ychydig o ddŵr yn y llestr, a dodwyd ef i ferwi yn fywiog am ychydig o funudau.
MR. G.—Beth wedyn?
MEGAN.—Tynnwyd y llestr oddiar y tân, a dodwyd y corcyn arno yn dynn. Yna gosodwyd y llestr o dan y tap dŵr oer.
MR. G.—A ddigwyddodd rhywbeth iddo cyn arllwys dŵr oer arno?
GORONWY.—Naddo, syr. Wedyn y syrthiodd i'w gilydd, ar ol bod o dan y tap.
MR. G.—Un gair bach. Nac anghofiwch beth ddysgwyd yn y rhan gyntaf o'r wers, sef fod yr awyr sydd yn ein hamgylchu yn gwasgu, neu yn pwyso 15 pwys ar bob modfedd ysgwar. Ymlaen a ni.
WILLIAM.—Yr oedd yr awyr y tu allan yn gwasgu yr un modd pan oedd y llestr yn boeth, syr, ac felly rhaid mai y tu mewn y digwyddodd rhywbeth.
EIDDWEN.—Paham y berwyd y dŵr, Mr. Gwilym?
MR. G.—I yrru'r awyr allan o'r llestr, Eiddwen.
EIDDWEN.—A phaham y dodwyd y corcyn arno?
MR. G.—I atal rhag i awyr fynd i'r llestr eilwaith.
EIDDWEN.—Felly nid oedd dim awyr yn y llestr pan y torrodd?
MR. G.—Nac oedd. A oes gofyniad arall, Eiddwen? Yr ydych yn cynnyg yn rhagorol.
EIDDWEN.—Nac oes. Canys er nad oedd awyr yn y llestr ar ol rhoi y corcyn, ni thorrodd hyd nes ei ddodi o dan y dŵr. Y dŵr oer wnaeth y drwg, hwyrach?
ARTHUR.—A oedd rhywbeth yn y llestr ar ol gyrru'r awyr allan, syr?

MR. G.—Oedd, Arthur. Yr oedd yno ychydig o ddwfr yn aros, ac ager yn llenwi'r gweddill o hono.
RHYS.—Mi gwelaf hi'n awr. Ai fel hyn y bu? Pan ddodwyd y dŵr oer arno, newidiwyd yr ager yn ddŵr; ac yr oedd y dŵr yn cymeryd llai o le, gan adael llawer o le gwag tu mewn i'r llestr, a'r awyr y tu allan yn ei wasgu.
MR. G.—Dyna hi, Rhys. Fel yna yn union y bu. Eglurhad da iawn. Edrychwch ar y llestr, y mae golwg rhyfedd arno,—"wedi cael gwasgfa," meddai Ifor, yntê? Gwasgwyd ef o bob tu, nid yn unig ei wasgu i lawr, cofier. Y mae yma wers arall, sef fod AWYR YN GWASGU YR UN MODD I BOB CYFEIRIAD.
IFOR.—Y mae ei asenau wedi ei chael hi yn waeth na'i ben.
III.
MR. G.—Felly yn hollol. Rhys, estynnwch wydriad o ddŵr, llawn hyd yr ymylon, a dodwch y cerdyn yna ar ei wyneb. Trowch ef a'i wyneb i waered.
RHYS.—Fe gyll y dŵr, syr.
MR. G.—Cawn weld. (Rhys yn troi y gwydriad dwr).
BRONWEN.—Rhyfeddod. Ni chollwyd yr un dyferyn.
MR. G.—Paham, Iorwerth?
IORWERTH.—Am fod yr awyr tu allan yn gwasgu y cerdyn i fyny yn erbyn y dwfr, syr. Dyma eto brawf fod awyr yn gwasgu i bob cyfeiriad. Y mae pwysau'r awyr tu allan i'r gwydriad dŵr yn fwy na phwysau'r dŵr y tu mewn.
ARTHUR.—Y mae un peth yn ddyrus iawn i mi, syr.
MR. G.—Beth sydd yn ddyrus i chwi, Arthur?
ARTHUR.—Wel, sut yr ydym ni yn gallu byw a'r fath wasgu arnom o bob tu?
MR. G.—Am fod yr awyr sydd tu mewn i ni yn gwasgu yr un faint a'r awyr tu allan, Arthur.
GEIRFA.
TRAETHIR LLAWER AR WYDDONIAETH YN GYMRAEG, a good deal of Science is taught in Welsh.
AWYR, air.
PWYSO, weighing.
PWYSAU, weight.
CLORIAN, balance, scales.
AR WAHAN, separately.
YN EIN HAMGYLCHU NI, surrounding us.
HAEN AR HAEN, layer on layer.
UCHDER, height.
GWASGU, pressing.
GWASGIAD, pressure.
MODFEDD YSGWAR, square inch.
YCHWANEG, more.
ESTYNNWCH Y LLESTR, pass me the vessel.
ALCAM (alcan), tin.
BERWI YN FYWIOG, boiling briskly.
NWY, gas.
GWASGFA, a faint.
ARLLWYS, pouring.
FFRAETHINEB, wit, joke.
DIGWYDDODD, happened.
I ATAL RHAG, ... to prevent ... from
NEWIDIWYD YR AGER YN DDŴR, the steam was turned into water.
LLE GWAG, empty space, vacuum.
YN UNION, exactly.
EGLURHAD, explanation.
I BOB CYFEIRIAD, in every direction.
ASENAU, ribs.
GWYDRIAD O DDŴR, a glass of water.
YMYLON, brim, edges.
FE GYLL Y DŴR, the water will be spilt.
DYFERYN, drop.
PRAWF, proof.
DYRUS, puzzling.