Yr Ysgol Gymraeg/Diarhebion
| ← Deio bach | Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen |
Awyr → |
YR YSGOL CYMRAEG.
DIARHEBION.
UN bore, deallodd Mr. Gwilym fod dau fachgen bach wedi bod yn ymladd â'i gilydd. Galwodd y plant ynghyd, a dywedodd wrthynt fod yn drist ganddo feddwl fod plant yr Ysgol Gymraeg yn cweryla ac yn ymladd. Yna adroddodd yr hanesyn canlynol.
Yr oedd gan hen ŵr lawer o feibion; yr oedd y brodyr yn bur hoff o gweryla; a phoenid y tad yn fawr oherwydd y cwerylon dibaid. Un diwrnod, galwodd ei feibion ato i'w ystafell; a dododd sypyn o ffyn yn llaw yr agosaf ato, gan ofyn iddo eu torri. Er ceisio ei oreu glas, nis gallai; a rhoddodd y sypyn i'r ail fachgen. Er i hwnnw wneud ei oreu, methu a wnaeth yntau hefyd. Ac felly hefyd y gweddill o'r brodyr.
"Yn awr," meddai'r tad, "datodwch y rhaff." Wedi datod y cwlwm, rhoddwyd ffon i bob un, a gofynnodd y tad iddynt eu torri. Torrwyd hwynt yn rhwydd iawn y tro hwn. A meddai'r tad,—
"Gwelwch yn awr mai mewn undeb y mae nerth. Os byddwch yn dal i gweryla â'ch gilydd, gall pawb eich concro; eithr os byddwch fel un, nis gall neb eich trechu. Byddwch unol."
Wedi tynnu gwersi o'r chwedl, a gofyn i'r plant garu ei gilydd, meddai'r athro,—
"Gwell chwareu nag ymladd."
"Gwnewch dda am ddrwg."
"Gwell goddef cam na'i wneuthur."
"Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â ffon."
Nid yn aml y gwelir cansen yn yr ysgol hon, ond y mae un ar gael os bydd y plant yn mynnu ymddwyn yn anfoesgar. Nid ydynt wedi ei gweld ers amser, ac nid hoff yw'r athro o son am dani; ond ni oddefir ymladd, iaith anweddus, a phethau o'r un natur. Dysgir moes—wersi, a disgwylir i'r plant ymddwyn yn briodol yn yr ysgol, a thra'n chwareu. A dweyd y gwir, cymaint yw'r parch a delir i'r athro, fel na fynn y plant ei ddigio.
Ar ddiwedd y foes-wers, cododd Alun ar ei draed, gan annerch ei athro fel hyn,—
Os gwelwch yn dda, Mr. Gwilym, beth yw'r enw iawn am
"Mewn undeb y mae nerth,"
"Gwell chwareu nag ymladd,"
a brawddegau yr un fath a'r rhai hyn?
MR. G.—Diarhebion, Alun. A wyddoch beth yw dihareb?
ALUN.—Nid wyf yn sicr, ond gallwn feddwl mai llawer iawn o synnwyr ac o wir mewn ychydig o eiriau yw hi.

Gwelwch yn awr mai mewn undeb y mae nerth.
MR. G.—Ie, dyna hi ar ei phen. Dull pert, twt, o ddweyd peth sy'n wir bob tro. Y mae cannoedd ohonynt yn ein hiaith ni fel mewn ieithoedd ereill; a charwn i chwi gasglu nifer fawr ohonynt a'u dysgu ar gôf. Hen, hen, yw llawer ohonynt, ac y mae swyn rhyfeddol ynddynt.
IORWERTH.—Yr wyf yn cofio, pan losgais i fy mŷs wrth afael mewn haearn poeth yn yr efail, i mi ei daro yn fy nghêg; a dyna Hugh y Gof yn gwaeddi,—"Melys bŷs pan losgo."
WILLIAM.—A phan ddaeth Ifor fy mrawd o'r ffair, a dangos cyllell newydd oedd wedi brynnu, gofynnodd fy nhad iddo faint oedd ei phris. "Deunaw," meddai Ifor. "Wel, byddi yn gallach y tro nesaf, yr wyt wedi rhoi deunaw am gyllell blwm. "Prynnu cath mewn cwd wnest ti."
OLWEN.—Dodais i fy hen ddoli heibio ar ol cael un newydd y Nadolig diweddaf, a dyna mam yn dweyd, "Hardd pob newydd."
CERIDWEN.—Y mae pobl gyfoethog y Plas wedi dod i arian lawer eto ar ol hen ewyrth fu farw yn yr Amerig. "I'r pant y rhed y dŵr."
MR. G.—Pe baech yn gweld dyn ar frys mawr i ddal y trên yn colli ei het, pa un o'r diarhebion a fyddai'n addas i'r tro chwithig?
OLWEN.—"Mwya'r brys, mwya'r rhwystr."
MR. G.—Ie; pe clywech fachgen neu eneth yn dweyd geiriau cas wrth blentyn bach afiach?
ARTHUR.—"Hawdd clwyfo claf."
Ar ddiwedd y flwyddyn, gellid darllen y rhestr hon o ddiarhebion y Cymry yn llyfrau'r plant; a chan fod hanesion diddorol wedi eu hadrodd wrth eu dysgu, hawdd yw coelio eu bod hefyd wedi eu dysgu ar gôf,—
"Gwna dda ni waeth i bwy.
Y ci a gysgo a newyna, y ci a gerddo a gaiff.
Gwerthu mêl i brynnu peth melys.
Haws dywedyd 'Mynydd' na mynd drosto.
Nid da rhy o ddim.
Ni cheir da o hir gysgu.
Adar o'r un lliw a hedant i'r unlle.
A ddygo wy a dug a fo mwy.
Hir pob aros.
Heb ei fai, heb ei eni.
Gwell gwir na chelwydd.
Gwell tewi na dywedyd drwg.
Yr oen yn dysgu i'r ddafad bori.
Ni cheir afal sur ar bren pêr.
Nid yn y bore y mae canmol diwrnod braf.
Nid ar redeg y mae aredig.
A êl i chwareu, gadawed ei groen gartref.
Ni ddaw henaint ei hunan.
Cas gŵr nis caro'r wlad a'i maco.
Ni ddigia ci o'i daro âg asgwrn.
Deuparth gwaith yw ei ddechreu.
Ym mhob gwlad y megir glew.
Gwell synnwyr na chyfoeth.
Gwell dysg na golud.
Oni heuir ni fedir.
Rhaid cropian cyn cerdded.
Gwell angeu na chywilydd.
Gŵr dieithr yw yfory.
Melys hûn y gweithiwr.
Heb Dduw, heb ddim.
Duw a digon."

"Melys bys pan losgo."
GEIRFA.
CEISIO EI OREU GLAS, trying his best.
DATODWCH, unloosen.
TRECHU, overcoming.
CHWEDL, hanesyn, fable.
GODDEF CAM, suffering wrong.
YMDDWYN, behaving.
ANFOESGAR, rude.
ANWEDDUS, not becoming, unbeseeming.
PARCH, respect.
II.
SYNNWYR, sense.
SWYN, cyfaredd, charm.
DEUNAW, 2 x 9=18 ceiniog. Felly hefyd, chweugain,—6 x 20=120 ceiniog=120/12=10/-
PLWM, lead.
CWD, sack, bag.
ADDAS, cymwys, befitting.
CHWITHIG, o chwith, awkward. Cf. deheuig.[1]
RHWYSTR, hindrance.
III.
COELIO, believing. OFER-GOELION, superstitions.
NI WAETH, it matters not.
NEWYNA, will suffer hunger.
BAI, fault.
PER, melys, sweet.
CANMOL, praising.
AREDIG, ploughing.
HENAINT, old age.
DEUPARTH (dwy ran o dair), more than half.
GLEW, dewrion, heroes.
CYFOETH, golud, riches.
MEDI, reaping.
CROPIAN, crawling.
ANGEU, death.
CYWILYDD, shame.
HUN, cwsg, sleep, slumber.
DIGON, sufficient.