Yr Ysgol Gymraeg/Doethineb cenedl y Cymry
| ← Dygwyl Dewi | Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen |
Hen Wlad fy Nhadau → |
DOETHINEB CENEDL Y CYMRY.
I.
GOFYNNODD Arthur i Mr. Gwilym pwy oedd wedi cadw hen farddoniaeth a hanes yr hen Gymry rhag mynd ar goll. Meddai yntau,—
"Nid oedd llyfrau ar gael yn yr hen hen amser gynt. Cedwid holl ddysg y genedl ar gôf. Adroddid yr hen ddysg o genhedlaeth i genhedlaeth, ac felly y cadwyd gafael ar yr hen ddywediadau swynol sydd yn eiddo i ni. Ymhen amser, daeth y mynachod i Gymru, a chofnodwyd ganddynt weithiau yr hen feirdd; brutiau, sef ysgrifau hanes; a doethineb y Cymry. Dinistriwyd y mynachdai yn amser Harri'r VIII., a chollwyd golwg ar yr hen ysgrifau am gyfnod maith; ond yr oedd cryn nifer ohonynt wedi eu trysori ym mhlasau y wlad; ac, ar ol hyn, bu ambell un yma a thraw yn casglu yn ddyfal o'r hen drysor. Yn y ddeunawfed ganrif daw enwau tri o rai gwlatgar i'r amlwg, dynion a wnaethant lawer o ddaioni trwy wneud un casgliad mawr o'r ysgrifau oedd ar gael. Cymro cyfoethog yn Llundain oedd Owen Myfyr; ysgolor gwych o Forgannwg oedd Iolo; a'r trydydd oedd Dr. W. O. Pughe, awdur geiriadur mawr o dros gan mil o eiriau,—gymaint arall a geiriadur Dr. Johnson. Tri Chymro pybyr a'u calon yn y gwaith; a diwedd y chwilota, ar hyd a lled y wlad, am yr hen ysgrifau, yw y gyfrol fawr o dros fil o dudalennau a elwir yn "Myvyrian Archaiology."
"Ond nid dyna'r oll; nid yw'r chwilio ar ben hyd heddyw, ac y mae dynion caredig ereill yn dal ati i gasglu ac i wario arian er mwyn cael gafael ar bob ysgrif sy'n perthyn i'r genedl. Ac erbyn hyn, y mae gennym le cyfaddas i gadw'r hen ysgrifau, sef yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. A phrif gymwynaswr y sefydliad hwnnw yw'r gwladgarwr enwog, Syr John Williams, M.D. Cofiwch barchu cymwynaswyr eich gwlad, a cheisiwch eu hefelychu."
ARTHUR.—Beth sydd yn yr hen ysgrifau, syr?
MR. G.—Gwyddoch yn barod am rai o'u cynnwys. Yr ydych wedi dysgu diarhebion o honynt, a chlywsoch aml i ddywediad call o'r hen wireddau sydd i'w canfod yn Noethineb y Cymry. Ceir ynddynt hefyd farddoniaeth hen iawn, o ddyddiau Ystrad Clwyd, sef gweithiau yr hen feirdd Aneurin, Taliesin, a Llywarch Hen. A ydych yn cofio proffwydoliaeth Taliesin am y Cymry?—
"Eu Nêr a folant;
A'u hiaith a gadwant;
Eu tir a gollant,
Ond gwyllt Walia."
Hefyd y brutiau, sef ysgrifau hanes; cyfreithiau Hywel Dda; bonedd y saint; hanes cerddoriaeth tannau; y Mabinogion.
Dyma i chwi amryw o engreifftiau o ddysg yr hen Gymry, neu, fel y gelwir ef yn gyffredin, "Doethineb Cenedl y Cymry."
Fel hyn yr ysgrifennodd Thomas ab Ieuan, yn 1685, wrth gyhoeddi dywediadau Catwg Ddoeth,—
"Y Cymro caredig,
Dyma iti Lyfr Catwg Ddoeth, a elwir hefyd Catwg Sant: y mae wedi bod er hir o amser yn hynod yn ein gwlad ni am y doethineb sydd ynddo. Ymadroddion call a gei ynddo: mawr y perchid y rhai hyn gynt gan yr hen brydyddion, a phob hen awdwr arall, a hynny barodd i'w hawdwr gael yr enw Catwg Ddoeth.
"Yr oedd Catwg yn un o'r prydyddion goreu yn ei amser, a chymaint ei glod am ei ddoethineb fel ag yr aeth ei gynghorion a'i ymadroddion, a'i wediadau doethion ar gôf a thafod yr holl wlad yn agos ac ymhell, hyd yn oed iddo gael ar ei enw bob ymadrodd, a dihareb, a dywediad, a gair doeth yn yr iaith Gymraeg, hyd oni lyncodd clôd Catwg eiddo pob un arall . . ."
Yn ol yr hanes, abad Llangarfan, un o hen fynachdai Cymru, oedd Catwg Ddoeth.
Yn awr, ynte, am yr ymadroddion doeth a garai ein cyndadau. Y mae digon ohonynt yn Llyfr Catwg i lenwi amryw o lyfrau ysgol. Wele rai,—
CYNGHORION CATWG DDOETH,—
"Tro glust fyddar at bob drwg.
Na ddangos dy wyneb lle bo'r meddwon.
Na cherdda y nos heb achos.
Na ddymuna o'r byd ond dy ddigon.
Nac ymddiried yn fawr i'th elynion.
Nac ymladd âg ynfyd.
Na werth nef er daear."
"Y gŵr na charo |
"Cenad anffyddlon. |
| Amharchu rhieni." | |
GWIREDDAU CATWG DDOETH,—
"Nid oes diogi heb fil o helbulon.
Nid oes euog na syrth i lwyr dristwch.
Nid oes weithred dda heb dâl yn barod.
Nid oes gam heb gam yn ei ddilyn.
Nid call ond a welo ei hun yn ffôl.
Nid cadarn ond a fo yn drech na'i hunan.
Ni ddysg ni ddeall."
CAS-DDYNION CATWG DDOETH,—
"Dyn a feio ac yntau'n feius,
Dyn na fo ddewr ymhlaid ei gâr.
Dyn a ddywedo'n fawr, ac a wnelo'n fychan.
Hen heb grefydd; ieuane heb ddysg.
Brodyr heb gariad; teulu heb drefn."
III.
Meddai OLWEN.—Onid ydynt yn bert, syr?
RHYS—Yr oedd gwell Cymraeg yr amser hwnnw, brawddegau syml a bachog. Ac yr oedd yr hen dadau yn deall dyn i'r dim.
MR. G.—Cofier nad oedd ganddynt lyfrau, ac felly rhaid oedd dibynnu ar y côf am bob dysg. O ganlyniad, dodid ffeithiau ar ddulliau cryno, a hawdd eu cofio, yn aml ar ddull pennill. Dyna sydd i gyfrif hefyd am y trioedd Cymreig. Fel hyn y dysgid hanes,—
"Tri phrif cad-deyrn Ynys Prydain: Caswallon, Gweirydd, Caradog.
Tri phrif-lys y brenin Arthur: Caerlleon ar Wysg yng Nghymru; Gelliwig, yng Nghernyw; a Phenryn Rhionnydd, yn y gogledd (Ystrad Clwyd).
Awn ymlaen. Wele eto ddulliau ereill,—
TRECHAU,—TRECH, more powerful.
"Trech gwlad nag arglwydd.
Trech serch na chawr.
Trech Duw na dim."
HARDD-BETHAU,—
"Harddwch mab, ei addfwynder.
Harddwch merch, ei gwylder.
Hardd ar bob dyn, daioni.
Hardd ar bob hardd, tangnefedd."
NAMYNAU,—NAMYN, apart from, without.
"Namyn Duw nid oes bywyd.
Namyn Duw nid oes dim."
DEUPARTHAU,—
"Deuparth gwaith, ei ddechreu.
Deuparth ffordd, ei gwybod.
Deuparth taith, paratoi."
GOREUON,—
"Goreu bwyd, un rhag newyn.
Goreu diwedd, diwedd da.
Goreu doethineb, tewi.
Goreu ar bopeth, y goreu."
GWELLAU,—
"Gwell dau ben nag un.
Gwell câr mewn llŷs.
Nag aur ar fŷs.
Gwell un dewch
Na dau ewch."
Nid gwell yn y bedd bonheddig na thaiog."
NERTHAU,—
"Nerth ei yn ei ddant.
Nerth llwynog yn ei ddichell.
Nerth glew yn ei galon.
Nerth llwir yn ei droed.
Nerth cryf, ei drugaredd.
Nerth ieuanc, ei ufudd-dod.
Nerth hên, ei gyngor."
CYNGHORION i'r un a garai fyw yn hen,—
1. Coded gyda'r hedydd, caned gyda'r hedydd, ac aed i gysgu gyda'r hedydd.
2. Bydded ysgafn ei wisg, ysgafn ei ymborth, ac ysgafn ei galon.
3. Gocheled ymryson, cared heddwch, a bydded heb ormod o ofalon.
IV. TRIOEDD.
Tri chwerthin ffôl,—am ben y da, am ben y drwg, ac am ben nas gŵyr beth.
Tri pheth gwell na chyfoeth,—iechyd, rhyddid, synnwyr.
Tri pheth daionus i ddyn,—meddwl yn dda, dywedyd yn dda, gwneuthur yn dda.
Tri pheth a ddaw ar ddyn heb yn wybod iddo,—cwsg, pechod, henaint.
Tri modd i adnabod dyn,—ei ymadrodd, ei ymddygiad, ei gyfeillion.
Tri pheth anodd i ddyn eu gwneuthur,—oeri y tân, sychu y dŵr, a boddloni y byd.
Tri pheth a gaiff cybydd o'i gyfoeth,—poen yn casglu, gofal yn cadw, ofn colli.
Tri da iawn yn weision, a drwg iawn yn feistri,—tân, dŵr, gwynt.
Tri pheth a wnant lawnder mewn gwlad,—plannu coed, llafurio tir, cribo a nyddu.
Tri dyn y dylid bod yn drugarog wrthynt,—alltud, gweddw, amddifad.
Tri pheth hardd ar ddyn,—gwybodaeth, campau da, addfwynder.
Tri harddwch gwlad,—ysgubor, gefail, ysgol.
Tri pheth a geir o ddilyn drwg,—cywilydd, colled, cosb.
Tri pheth a ddylai (y neb) a gaffo gymwynas (wneud),—ei ddiolch, ei gofio, a thalu'r pwyth.
Tri pheth sy'n cadw y byd mewn trefn,—rhif, pwys, mesur.
Tri pheth a wnant ŵr yn ddysgedig,—addysg, pwyll, deall craff.
Tri pheth a gaiff dyn doeth,—llwyddiant, urddas, llawenydd.
Tri pheth ardderchog ar ddyn,—caru rhinwedd, cashau ffolineb, dysgu yn wastadol.
Tri pheth a gaiff dyn cywir,—dawn, parch, canmol.
Tri pheth iawn i ŵr ymladd o'u plaid,—ei wlad, ei gâr, ei fywyd ei hun.
Tri pheth a bair i ŵr glôd a chymeriad caredig,—dywedyd yn dda yn wyneb,
rhoi gair da yng nghefn, a ffyddlondeb i'w gyfaill.
Tri pheth a ddylid eu cadw fyth yn agored,—clust, llygad, deall.
Tri dawn pennaf Duw i ddyn,—llafur, deall, serch.
Tri pheth ni rydant byth,—cleddyf gwas gwych, pedolau ceffyl melinydd, a thafod gwraig.
Tri pheth a ddylai Cymro eu caru o flaen dim,—cenedl y Cymry, defion a moesau y Cymry, iaith y Cymry.
V. BRUTIAU.
MR. G.—Soniais fod brutiau ymhlith yr hen ysgrifau. Ysgrif ar hanes ein gwlad yw brut. A garech i mi ddarllen ychydig linellau o un o'r hen frutiau? O'r goreu, ynte, darllenaf rannau o Frut y Tywysogion. Dywedir i'r brut hwn gael ei ysgrifennu tua chanol y ddeuddegfed ganrif, y rhan gyntaf o hono gan Garadog, un o fynachod Llangarfan. Newidiais lawer ar ffurf yr iaith geir ynddo er mwyn i chwi allu deall yn well yr hyn a ddarllenir,—
1. Y TYWYSOGION YN GYTUN.
". . . Ac wedi hynny yr arfogodd yr holl Gymry i ymladd y Normaniaid. Ac yn ei erbyn ef (sef brenin Lloegr) y daeth Owen Gwynedd, a Chadwaladr, meibion Gruffydd ab Cynan, a holl lu Gwynedd gyda hwynt; a'r Arglwydd Rhys a holl Ddeheubarth gydag ef; ac Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch, fab Meredydd, a Meibion Madog, a holl Bowys gyda hwynt. Ac i gyd gyda'i gilydd y daethant hyd yn Edeirnion, a phabellu yng Nghorwen. . . ."
2. Y TYWYSOGION YN CWERYLA,—hen wendid ein gwlad yn yr oesau a fu.
"Y flwyddyn ganlynol y cyfeiriodd Owen a meibion Gruffydd ab Cynan o Wynedd, a'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn erbyn Owen Cyfeiliog; ac a ddygasant gastell Einion, a'i roddi i Owen Fychan. . . ."
3. LLYWELYN A BRENIN LLOEGR.
"Deng mlynedd a deugant a mil oedd oed Crist pan ddug Llywelyn ab Iorwerth gyrchau creulon am ben y Saeson; ac am hynny y llidiodd Ieuan frenin; a darparu i ddwyn holl gyfoeth Llywelyn oddiarno. A chynnull dirfawr lu a wnaeth ar fedr myned i Wynedd i wneud y distryw. A Llywelyn a'i lu a aethant i'r berfedd—wlad, a'r da gyda hwynt, hyd yn Eryri. Ac yna y daeth y brenin a'i lu hyd yng nghastell Deganwy. Ac yno y bu cymaint eisieu bwyd ar y llu fel y gwerthid wy am geiniog a dimai, a gwledd foethus oedd ganddynt gael cig meirch. Ac am hynny y dychwelodd y brenin i Loegr o amgylch y Sulgwyn, a'i neges yn amherffaith, wedi colli yn waradwyddus lawer o'i wŷr, a'i dda."
4. Un adran arall o'r hen Frut, sef ychydig o hanes Rhyfeloedd y Groes, a'r brenin Rhisiart,—
"Aeth Philip, frenin Ffrainc, a Rhisiart, frenin Lloegr, ac Archesgob Caint, a llu mawr o ieirll a barwniaid gyda hwynt i Gaersalem. Daliodd rhywun Risiart. frenin Lloegr, ac efe yn dyfod o Gaersalem, a dodwyd ef yng ngharchar yr ymerawdwr. A thros ei ollwng yn rhydd y bu treth drom dros wyneb holl Loegr. . . . ." Wel, dyna ddigon am heddyw. Gobeithiaf y darllenwch lawer o'r hen ysgrifau, canys credaf y bydd i chwi garu'r hen Gymry yn llawer gwell o'u myfyrio.
GEIRFA.
BARDDONIAETH, poetry.
CENHEDLAETH, generation.
MYNACHOD, monks.
COFNODI, ysgrifennu, to chronicle.
DOETHINEB, wisdom.
DINISTRIO, destroying.
TRYSORI, treasuring.
YN DDYFAL, yn ddibaid, industriously.
CANRIF, can mlynedd, century.
GWYCH = O FRI, noted.
GEIRIADUR, dictionary.
PYBYR gwir, gwlatgar, true, patriotic.
CHWILOTA, searching.
CYFROL, volume.
TUDALEN, page.
CYFADDAS, befitting.
GYMWYNASWR, one who does a kindness, benefactor.
SEFYDLIAD, institution.
YSTRAD CLWYD, Strath Clyde.
PROFFWYDOLIAETH, prophecy.
BONEDD Y SAINT, the lineage of the Saints.
CERDDORIAETH TANNAU, harp music.
II.
CYHOEDDI, publishing.
(DY)WEDIAD, ymadrodd, saying.
DOETH, call, wise.
PRYDYDD, bardd, bard, poet.
AWDUR, author.
PARODD, caused.
HYD ONI LYNCODD CLOD CATWG EIDDO ... ARALL, Until the fame of Catwg overshadowed that of all others.
ABAD, abbot, monk.
O'R CYFRYW, of the same, of them.
BYDDAR, deaf.
MEDDWON, drunkards.
YMDDIRIED, confiding, trusting.
YNFYD, ffôl, foolish.
ER DAEAR, for the world.
CAS-BETH, hateful, disgusting thing.
BALCH, proud.
DI-FOES, without manners, immoral.
AN-FFYDDLON, not faithful, deceitful.
DI-DDIGON, cannot be satisfied, greedy.
CYDWYBOD, conscience.
AMHARCHU, disrespect.
HELBUL, trouble.
TRISTWCH, sadness.
HEB DAL YN BAROD, that does not bring its own reward.
CADARN, cryf, strong.
DEALL, understanding.
YMHLAID, o ochr, on behalf of.
TREFN, order.
BRAWDDEG, sentence.
BACHOG, crisp, concise.
III.
DEALL I'R DIM, understanding thoroughly.
DIBYNNU, depending.
O GANLYNIAD, consequently.
DULL CRYNO, concise method.
DYNA SYDD I GYFRIF AM ... that is what accounts for ...
TRIOEDD, triads.
CAD, rhyfel, battle, war.
TEYRN, brenin, king.
CERNYW, Cornwall.
TRECH, stronger.
SERCH, love.
HARDDWCH, clôd, glory, choice trait.
ADDFWYNDER, gentleness.
GWYLDER, humility.
TANGNEFEDD, heddwch, tranquility.
DEUPARTH, dwy ran o dair (=2/3), more than half, the best part.
TAITH, journey; PARATOI, preparing.
NEWYN, eisieu bwyd, hunger.
DIWEDD, end; GWELL, better; CAR, relation, friend.
TAIOG, dyn tlawd, serf, villein; DICHELL, slyness, scheming.
GLEW, hero; LLWFR, coward; TRUGAREDD, mercy.
UFUDD-DOD, obedience.
CODED GYDA'R HEDYDD, let him rise with the lark (= he should, &c.)
BYDDED ... EI WISG, let his dress be light (=his dress should, &c.).
YMBORTH, food.
GOCHELED YMRYSON, he should not quarrel.
GORMOD O OFALON, too many cares.
IV.
NAS GŴYR BETH, (he) knows not what (=nothing).
RHYDDID, freedom; SYNNWYR, common sense.
YMDDYGIAD, behaviour; BODDLONI, satisfying.
CYBYDD, miser; LLAFURIO TIR, tilling (land).
CRIBO A NYDDU, combing and spinning (wool).
TRUGAROG, merciful; ALLTUD, exile (tud=gwlad).
GWEDDW, widow; AMDDIFAD, orphan.
CAMPAU, feats of strength, and skill.
YSGUBOR, barn; GEFAIL, smithy.
CYWILYDD, shame; TALU Y PWYTH, talu yn ol, to repay.
PWYS A MESUR, weights and measures.
PWYLL, discretion.
DEALL CRAFF, keen understanding.
LLWYDDIANT, success; URDDAS, dignity.
LLAWENYDD, joy; RHINWEDD, daioni, goodness.
YN WASTADOL, YN DDIBAID, unceasingly.
DYN CYWIR, a straightforward man.
DAWN =virtue; CANMOL, praise.
IAWN I ŴR. . . . O'U PLAID, a man should fight for.
A BAIR, will cause; DAWN, rhodd, gift.
LLAFAR, speech; GWAS GWYCH, a young nobleman.
PEDOL, shoe; MELINYDD, miller.
DEFION A MOESAU, privileges and customs.