Neidio i'r cynnwys

Yr Ysgol Gymraeg/Dygwyl Dewi

Oddi ar Wicidestun
Hen benhillion telyn Yr Ysgol Gymraeg

gan Owen Jones Owen

Doethineb cenedl y Cymry

DYGWYL DEWI SANT.
I.

CYFARFODYDD adrodd a chân, dadl ac araith, gynhaliwyd y llynedd ar Ddygwyl Dewi. A bu cystadlu caled yn ystod y dydd. Y dydd? Ie, drwy'r dydd, diwrnod cyfan, i goffa am Dewi Sant, mewn Eisteddfod. A diwrnod arall i'w ganlyn yn wyl chwareu i'r plant, yn dâl am eu diwydrwydd a'u gwladgarwch y dydd blaenorol. A oes eisieu talu i blant y Pentre am garu Cymru a'r Gymraeg? Nac oes; ond cofia y rheolwyr fod y plentyn bach yn debyg i'r oen mewn un peth o leiaf, sef yw hynny, y mae'n hoff o ryddid i chwareu. A nawdd Sant gwerth ei gael yw Dewi, canys daw ag eisteddfod ragorol, a gwyl chwareu i'w chanlyn, bob blwyddyn.

Nid oes gweithio yng nglofeydd y Pentre ar yr Wyl; y mae'n ddydd gwyl drwy'r fro i gyd i bawb, canys hoff yw'r rhieni o fod yng nghwmni eu plant yn Neuadd y Pentre, lle y cynhelir yr eisteddfod. Rhy fechan yw'r ysgol i gynnal y cyfarfodydd ynddi, oblegid fod cynifer, yn enwedig o'r mamau, mor awyddus am weld a chlywed eu rhai bychain yn cystadlu.

Yr oedd gwobr dda am y rhestr oreu o hen "enwau lleoedd" y Pentre a'r cylch; am ddiwyg Gymreig; am unawd, deuawd, a chydgan; araith, adroddiad, a dadl. Dewiswyd y gerddoriaeth o hen "ganeuon gwerin" Cymru, megis "Tra bo Dau," "Cwyd dy

HEN GELFI CYMREIG

Galon," ac ereill, a'r darnau adrodd o weithiau gwlatgar y beirdd.

Soniwyd yn barod, mewn gwers arall, am y cystadlu ar ganu penhillion, ac felly ni raid ail son am yr hwyl benigamp honno. Ond purion peth fyddai galw sylw at ddwy arddangosfa nodedig a drefnwyd ar gyfer y rhieni a'r plant y llynedd. Y gyntaf oedd arddangos pob math o lyfrau Cymraeg, yn cynnwys llyfrau hwiangerddi i'r babanod, llyfrau tlysion iawn yn llawn o ddarluniau del; eto, llyfrau darllen i blant mwy, sef llyfrau hanes, chwedlau, dadleuon, alawon Cymru,—yr oedd tua dau gant ohonynt ar ddangos. Hefyd, rhai addas i bobl mewn oed.

Prif amcan yr arddangosfa uchod oedd tynnu sylw y rhieni at y ffaith fod digon o lyfrau ardderchog ar gyfer eu plant ar gael yn Gymraeg. Afraid yw gwario arian ar lyfrau Saesneg, tra y ceir mwy o les o ddarllen llenyddiaeth bur ein hiaith ein hun. Ni ŵyr rhieni Cymru ddigon am nifer a natur y cyfrolau bychain, prydferth, sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg. Dysged y Cymro bach ddarllen cynifer ag a allo o lyfrau ieithoedd ereill, ond gofaled ei rieni mai sylfaen yr oll fydd gwybodaeth eang o lyfrau iaith yr aelwyd.

Mewn ystafell arall gwelid casgliad o hen gelfi Cymreig. Mewn gwirionedd, hen gegin Gymreig ydoedd, yn orlawn o hen ddodrefn,—dresel yn llawn o hen lestri; cadeiriau, cwpwrdd, a bwrdd o dderw; telyn, troell nyddu, cannwyll frwyn; hefyd, Beibl dros dri chan mlwydd oed; gefail gŵn, a llawer o bethau cyffelyb. O'r hen eglwys, eglwys y llan, y cafwyd benthyg yr efail gŵn; defnyddid hi i fynd a'r cŵn aflonydd allan o'r eglwys. Ac nid cyflawn y disgrifiad heb son am gadeiriau beirdd y Pentre. Yr oedd pob cadair Eisteddfod drwy'r fro wedi eu casglu at ei gilydd, a'u hanes wedi ei gerfio arnynt; a phob baton a enillwyd gan arweinwyr corau'r cylch. Pwy ŵyr faint o les a fydd o arddangos tlysau y brwydro a fu?

II.

Un o'r mwyniannau coethaf bob Dygwyl Dewi yw araith Mr. Gwilym. Araith wlatgar i ennyn y tân Cymreig! Ei destun y llynedd oedd,—"Dewi Sant a'r Ysbryd Cymreig."

A dyma i chwi gyfran fechan o honi,—

"Afraid fyddai adrodd manylion bywyd Dewi Sant wrth blant y Pentre. Gwyddoch i gyd pwy ydoedd, enwau ei rieni, ple y magwyd ef, pa fath ddisgybl oedd, a'r traddodiadau gysylltir â'i enw. Yr hyn sydd bwysig i ni ei gofio yw mai dyn da a duwiol oedd Dewi, Cymro o waed ac o iaith. Carai ddŵr yn hytrach na gwin, a charai ei wlad â'i holl galon; a gwnaeth ei oreu i wella cyflwr Cymru. A gweddus yw fod Cymru o ben Caergybi i ben Caerdydd, a'i phlant sydd oddicartref mewn gwledydd tramor, yn coffa heddyw am Ddewi Sant, gan ei arddel yn nawdd Sant ein cenedl. Ysbryd gwerth ei efelychu oedd ysbryd Dewi, a saif ei enw dros bopeth goreu a feddwn fel Cymry. Pan y clywir enw Dewi, cyfyd darlun o flaen ein llygaid, sef darlun o Gymro ar ei oreu. Clywsoch lawer o son am y tân Cymreig. Wel, dyna enw arall ar ysbryd Dewi Sant. Yr un un ydynt.

"Y tân Cymreig fu'n cyffroi Caradog, Buddug, Llywelyn, a Glyndwr i amddiffyn eu gwlad. Enw arall arno yw cariad dros Gymru. Dro arall, câr Dewi heddwch yn well na rhyfel, a daw Hywel Dda a'i gyfreithiau i gadw heddwch drwy atal cam. Cofier nad yw gwir Gymro yn ymladd ond pan y mae'n rhaid arno. 'Gwell angeu na chywilydd.' Ysbryd Dewi a gâr heddwch, ac a fynn gyfiawnder. Nid oes cywilydd o gofio'r dyddiau a fu. Byddwn falch o'n cyndadau.

III.

"Pan ddodwyd Cymru o dan iau Lloegr, yn raddol collwyd yr iaith Gymraeg o blasau'r uchelwyr. Collwyd hefyd y bardd a'r telynor o aelwydydd gwyrda ein gwlad. A gwelwyd adeg ddu ar Gymru am gyfnodau maith. Truenus oedd y cyflwr pan oedd John Penry yn blentyn bach ar fynydd Eppynt. Wedi o hono dyfu'n ŵr ieuanc, aberthodd lawer dros ei wlad, a bu farw dros y gwir.

'Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr.'

Felly, gwelir nad oedd y tân Cymreig wedi diffodd yn llwyr, cedwid ef yn fyw ym mynwes ambell un yma a thraw. Ysgrifennodd Penry lawer at y rhai oedd mewn awdurdod i erfyn am Feibl Cymraeg i Gymru. Ac wedi ei farw, cyfieithwyd Gair Duw i'n hiaith ni gan yr Esgob Morgan, ac ereill. Y frenhines Elisabeth archodd wneuthur hynny, a hi'n wyres i Harri Tudur, Cymro o waed ac o iaith.

"Hwyrach mai dyna'r digwyddiad mwyaf pwysig yn hanes Cymru, sef dyfod o'r Beibl i'n gwlad ni yn iaith yr aelwyd.

"Yna daeth Gruffydd Jones, Llanddowror, â'i ysgol deithiol. Teimlai y dyn da hwnnw dros ei wlad yn ei chyflwr di-grefydd, anwybodus, a dechreuodd gynnal ysgolion i ddysgu'r bobl i ddarllen, i ddarllen y Beibl, cofier, canys dyna unig lyfr yr ysgol honno. A pha lyfr gwell? Aeth y gwaith ar led. Dywedai Penry nad oedd ond un o bob cant, yn ei oes ef, yn medru darllen, a'r wlad mewn cyflwr moesol truenus; ond drwy aberth fawr Gruffydd Jones, aeth yr un o bob cant yn gant ond un, canys yr oedd pob disgybl yn troi yn athro i ddysgu ereill.

"Bu un o'r ysgolion teithiol yn y Pentre, ac arhosodd yma am dri mis; yna galwyd yr athro ymaith i sefydlu ysgol mewn pentref cyfagos. Cofiwch y ffeithiau a nodwyd, canys i hyn yr ydym yn ddyledus am gyflwr gwell Cymru Lân, Gwlad y Gân, a Gwlad y Menyg Gwynion.

IV.

"Cenedl ydym wedi ein magu ar fwyd cryf, ar lenyddiaeth y Beibl. Ac nid oes arnom gywilydd o hanes ein gwlad pan y cofiwn am y cyfeillion fu'n gweithio mor ddiwyd i godi'r hen wlad yn ei hôl. Yr oedd y tân Cymreig yn fyw iawn yn yr amser hwn, a Dewi yn troedio'n drwm drwy'r tir. Carwn, pe bai amser yn caniatau, i ni ddilyn yr hanes hyd ein dyddiau ni, eithr llwybr arall a ddewisais i orffen yr araith, ac felly gwell yw camu'n mlaen rhag eich dal yn rhy hir.

"Y mae llawer o wledydd y byd yn ddyledus i Gymru. Cymerer Lloegr er engraifft. Fel y soniwyd yn barod, Cymry oedd y Tuduriaid, yn hannu o Owen Tudur o Fôn; ac y mae lle cryf i gredu mai Cymro oedd taid Cromwell. Cymry oedd George Meredith, George Eliot, Thomas Hughes, awdur Tom Brown's School-days, heb enwi ychwaneg. Hawdd fyddai llenwi cyfrol fawr o hanes dyled Lloegr i Gymru. Gwelsoch lyfr o'r enw 'Enwogion Cymru' yn yr Arddangosfa. Darllenwch ef, a chewch ychydig o'r hanes. Yr Amerig hefyd. Pwy wnaeth fwy na'r Cymry yn adeg y gwrthryfel yn erbyn Lloegr yn nyddiau Sior III.? Yn y llyfr a elwir 'Tro i'r De,' ceir hanes am hen Gymro yn ymfalchio yn y ffaith hon. Darllenwch y llyfr diddorol hwnnw. Onid dynion o Ddowlais a Merthyr agorodd weithfeydd haearn cyfoethog yr Amerig? Pwy o honoch na chlywodd am W. R. Jones o Bennsylvania, y Cymro wnaeth weithfeydd haearn gwlad y gorllewin yn fyd—enwog? Pwy ond bechgyn ardal Llanelli sylfaenodd waith alcam yr Amerig? A phwy ond chwarelwyr Gogledd Cymru ei masnach lechi? 'Parch lle y mae parch yn ddyledus,' medd yr Amerig, a pherchir Cymro a Chymru yn fawr gan y wlad enwog honno.

"Y mae'r amser yn mynd, a rhaid yw tynnu at y terfyn. Amcenais son am waith Dewi mewn gwledydd ereill heblaw Lloegr a'r Amerig, ond gorfod arnaf yn awr dynnu i ben drwy gymell pob un sydd yma i wneud ei oreu dros Gymru pa le bynnag yr elo. Y mae hanes y gorffennol yn ardderchog, ac yn destun rhyfeddod pan y cofir yr holl anfanteision. Beth am y dyfodol? Y mae'n dibynnu'n hollol arnom ni. Dilynwn ôl troed Dewi. Gobeithiaf nad oes un yn y cyfarfod hwn a ddwg anair i'w wlad a'i Nawdd Sant. Ein harwyddair fo,—

"I FYNY BO'R NÔD."

GEIRFA.

DADL, dialogue.
ARAITH, speech.
LLYNEDD, last year.
DIWYDRWYDD, diligence.
GWLADGARWCH, patriotism.
RHEOLWYR, managers, governors.
GLO-FEYDD, works, coalmines.
DIWYG, costume.
UNAWD, solo.

DEUAWD, duet.
CYDGAN, chorus.
GWERIN, y bobl.
ARDDANGOSFA, exhibition.
NODEDIG, hynod.
AFRAID, heb raid, unnecessary.
CYFROL, volume.
SYLFAEN, foundation.
CELFI, instruments, tools, furniture,
TROELL NYDDU, spinning wheel.
CANNWYLL FRWYN, rush candle.
GEFAIL, tongs.
TLYSAU, gwobrwyon, prizes.
II.
MWYNIANNAU, enjoyments.
COETH, refining, stimulating.
CYFLWR, condition, state.
EFELYCHU, imitating.
CYFFROI, arousing.
CYFREITHIAU, laws.
ATAL CAM, preventing wrong.
"GWELL ANGEU NA CHYWILYDD," motto of Welsh regiment.
ANGEU, death.
CYWILYDD, shame, disgrace.
CYFIAWNDER, justice.
IAU, yoke.
CYFNODAU, periods.
ABERTHODD, he sacrificed.
CYFIEITHWYD, was translated.
MOESOL, moral.
FFEITHIAU, facts.
III
IAU, yoke.
CYFNODAU, periods.
ABERTHODD, he sacrificed.
CYFIEITHWYD, was translated.
MOESOL, moral.
FFEITHIAU, facts.
IV
LLENYDDIAETH, literature.
CAMU'N MLAEN, proceeding.

ER ENGRAIFFT, for example.
YN YMFALCHIO, revelling in.
GWEITHFEYDD, works.
ALCAM (alcan), tin.
CHWARELWYR, quarrymen.
AMCENAIS SON, I meant to mention.
LLECHI, slates.
CYMELL, exhorting.
ANFANTEISION, disadvantages.
A DDWG ANAIR, who will disgrace.
ARWYDDAIR, motto.
I FYNY BO'R NÔD, excelsior.


Nodiadau

[golygu]