Neidio i'r cynnwys

Yr Ysgol Gymraeg/Hanes Cymru

Oddi ar Wicidestun
Difyrrwch plant Yr Ysgol Gymraeg

gan Owen Jones Owen

Deio bach

HANES CYMRU.
(Seiliedig ar "Hanes Cymru," Syr Owen M. Edwards, M.A.)

I. DYSGU HANES CYMRU.

YN awr ac yn y man, ymwêl y prif athro â dosbarth i arholi y plant yn hanes eu gwlad. Hanes Cymru yn gyntaf, hanes Lloegr yn ail,—dyna ddull dysgu hanes yn yr Ysgol Gymraeg. Gŵyr y plant fwy am Glyndwr nag a wyddant am William the Conqueror. Cyn dysgu hanes deddfau Harri'r Cyntaf, y maent wedi clywed am gyfreithiau Hywel Dda. A dyna'r rheswm paham y carant eu gwlad gymaint,—y maent yn hyddysg yn ei hanes. Anodd yw parchu gwrthrych nas gwyddir dim am dano. A cham mawr â phlant Cymru yw dysgu iddynt hanes gwledydd estronol, a hwy eto yn amddifad o hanes eu cartref eu hun.

Teimla pob un o blant yr ysgol hon mai anrhydedd mawr yw bod yn Gymro o waed coch cyfan. Plant balch o'u gwlad ydynt, gan gofio eu haniad o'r Iberiad a'r Brython. Teimlant mai gwyrda y wlad ydynt.

Awn ymlaen at y dosbarth i glywed yr holi a'r ateb. Gwrendy y plant yn astud, tra y mae'r prif athro yn holi.

II.—YR IBERIAD A'R CELT.

MR. GWILYM.—Ie, yr Iberiad bach ddaeth i Brydain gyntaf. Sut un oedd efe, William?

WILLIAM.—Dyn byrr, egwan, pryd tywyll; hir ei ben, a du ei wallt a'i lygaid. Mewn ogof yr oedd yn byw.

MR. G.—A oedd ganddo arfau rhyfel, llestri, a phethau ereill, fel sydd gennym ni?

WILLIAM.—Nac oedd, syr. O gerrig nadd y gwnai ei holl offer; ni wyddai ddim am haearn a phres.

MR. G.—A wyddoch ychwaneg am dano, Ifor?

IFOR.—Tipyn o freuddwydiwr oedd y dyn bach du, syr. Nid oedd yn rhy hoff o waith. Hefyd, collodd ei iaith; a dyna paham y sonir cyn lleied am dano. Gwyddom fwy am y Celt am mai iaith y Celt yw'r Gymraeg.

MR. G.—O'r goreu, Ifor. Goronwy, pwy ddaeth yma ar ol yr Iberiad bach?

GORONWY.—Y Celt, syr. Dyn tal, cryf, pen-grwn, pryd goleu, llygad-las, coch ei wallt. Rhyfelwr mawr, a dyn llawn ynni oedd efe.

MR. G.—Disgrifiad da o'r Celt. Beth am offer y genedl hon?

GORONWY.—Medrai y Celt weithio haearn a phres. Nid oedd ei arfau mor arw a bler.

MR. G.—Beth ddaeth o'r Iberiad, Hywel?

HYWEL.—Trechwyd ef gan y Celt. Yna unodd y ddwy genedl â'i gilydd.

MR. G.—Oni ddaeth y Celtiaid trosodd ar ddwywaith, neu yn ddwy haid?

HYWEL.—Do, syr. Y Gwyddyl ddaeth trosodd gyntaf, yna y Brythoniaid.

MR. G.—O ba le y daeth yr Iberiaid a'r Celtiaid?

HYWEL.—Crêd ysgolheigion iddynt ddyfod ar draws Ewrob o'r dwyrain pell.

MR. G.—Sut y gwyddom hanes y cenhedloedd hyn? Ymgomiwn yn awr am bobl oedd yn byw ym Mhrydain cyn dechreu hanes. Awn yn ol am gyfnodau maith hyd adeg pan nad oedd son, hyd yn oed, am dorri llythrennau ar garreg neu femrwn.

IORWERTH.—Weithiau, deuir ar draws beddau ar lethrau'r mynyddoedd. Bedd hir yr Iberiad a bedd crwn y Celt. Hefyd, weithiau, gwelir olion y ddwy genedl yn yr un bedd. Dyna paham y dywedir i'r ddwy genedl uno â'i gilydd.

MR. G.—Da iawn. Ie, fel yna y dysgir hanes y gorffennol,—trwy ymchwil manwl dynion dysgedig. Chwi gofiwch mai'r Iberiad bach yw'r canwr a'r bardd sydd yng Nghymru heddyw; ac mai'r Celt roddodd i ni ein natur danbaid, anibynnol. I'r Iberiad y perthyn yr Eisteddfod, yr angladd Cymreig, y bregeth, y gymanfa ganu, a'r cyfarfod llenyddol. Ysbryd y Celt sy'n gyrru'r Cymro. ieuanc i wladychu mewn gwledydd tramor. Yno, fel rheol, llwydda mewn masnach, a gwelir ef yn aml yn rheoli gweithfeydd ei gartref newydd. Nid â chleddyf yr ymladd y Celt heddyw, eithr, yn hytrach, â'i feddwl. Yr un yw ein natur ni ag eiddo'r ddau ddyn hyn, a dyma y rheswm nas gellid gwneud Saeson o honom, er gwaethaf pob ymdrech a wnawd yn y gorffennol i ladd yr iaith Gymraeg, ac i droi Cymru yn rhan o Loegr.

III.—DERWYDDON.

MR. G.—Cyfnod cyn hanes oedd ein testun yn y wers o'r blaen. Heddyw, holwn hanes trigolion Prydain oddeutu amser Cesar. Gwyddoch mai'r Rhufeiniaid ddaeth yma ar ol y Brythoniaid. Ond, cyn chwilio i mewn i'w helynt hwy, da fyddai cael disgrifiad bras o hanes crefydd y derwyddon, eu duwiau, a'u haberthau. Ceir darlunio ar grefydd Celt y Cyfandir yng ngweithiau Cesar; a chan mai oddiwrth yr Iberiad y cawsant hwy eu crefydd, mwy na thebyg yw mai dyna hanes crefydd Prydain y pryd hwnnw.

Dechreuwn gyda Rhys.

Beth oedd gwaith y Derwyddon?

RHYS.—Arolygu crefydd, dysgu'r ieuanc, a barnu achosion. Gelwid y prif un ohonynt yn archdderwydd.

MR. G.—Ie, edrych ar ol popeth crefydd; dysgu'r plant, dysgu ar gôf, cofier,—a deuai llawer o'r plant i eistedd wrth draed y derwyddon; a barnu gwahanol faterion dyrus, gan gosbi dynion drwg. Eisteddai'r disgyblion wrth draed yr athro am ugain mlynedd; ac ni orfodid ar dderwydd ymladd na thalu treth, ac, oherwydd hynny, yr oedd llawer of ymgeiswyr am y swydd.

Addolwr difefl oedd yr Iberiad bach; a pha ryfedd fod Cymry mor hoff o addoli pan y cofir ein bod yn perthyn mor agos iddo. Yr oedd y Celt yntau yn grefyddwr hefyd, eithr duwiau mwy tebyg i ddynion oedd ei rai ef. Nid yr unig Dduw a addolid gan y dyn bach du, eithr llawer o dduwiau paganaidd. Dyma enwau rhai ohonynt,—Lludd Llaw Arian, Myrddin, Llyr, Coel; a'r duwiesau Ceridwen, Olwen, ac Elen.

Byddai'r derwyddon yn aberthu bodau dynol i'w duwiau; ac ar farw rhywun lled bwysig, llosgid rhai o'i weision a chleddid arfau rhyfel ac offer ereill gyda gweddillion y marw. Paham? Er mwyn i'r marw gael gweision ac arfau at ei raid yn ei fyd newydd. A wyddoch paham yr oedd yr hen Frythoniaid mor ddewr? Am y credent fod yr enaid yn mynd o'r marw i gorff arall. Ac felly nid oedd ofn marw yn bod yn eu plith.

TUDUR.—Wel, pa bryd y daeth crefydd Crist i'r wlad hon, ynte?

MR. G.—Tua'r flwyddyn 200, yn ol un awdur. Pwy ddaeth a'r newyddion da yma gyntaf nis gwyddir. Ceir hanes Brythoniaid yn helpu mewn Cynghorau eglwysig ar y Cyfandir yn 315 a 325. Cofiwch fod Cristionogion ym Mhrydain tua 300 mlynedd cyn i Awstin ymweld â'r Saeson paganaidd. Hen, hen yw eglwys y Cymry.

IFOR.—Beth ddaeth o'r duwiau paganaidd Lludd, Llyr, Myrddin, a'r lleill?

MR. G.—Dysgodd y Brythoniaid addoli yr unig Dduw, Creawdwr pawb a phopeth. Ar ol hyn, daeth seintiau i lenwi lle y duwiau paganaidd ym mywyd y bobl. Ceir enw aml i sant yn gysylltiedig â ffynhonnau ein gwlad, megis Dewi a Chybi. Erys enwau rhai o'r hen dduwiau hyd heddyw. Caerludd yw'r enw Cymraeg am Lundain. Dyna'r hen dduw Lludd yn dod i'r golwg. Ceir ei enw hefyd yn y gair Ludgate. A gwyddoch am yr hwiangerdd Seisnig,—

"Old king Cole was a merry old soul."

Gwelwch fod y Sais bach yn hoff o son am yr hen dduw Coel; a chofiwch mai'r un un yw Lear Shakespeare a Llyr yr Iberiad bach.

Hwyrach y ceir hamdden eto i holi hanes dull y Brythoniaid o fyw,—eu gwaith, eu cartrefi, eu harferion. Trown yn awr at helynt y Rhufeiniaid. Pa bryd y daeth Cesar a'i lu i Brydain?

IV.—RHUFEINIAID.

ARTHUR.—Y tro cyntaf, tua 55 cyn Crist.

MR. G.—Sut y bu hi arno?

ARTHUR.—Gorfu arno droi yn ol. Daeth eilwaith y flwyddyn ganlynol.

MR. G.—Sut rai oedd yr hen Frythoniaid yn ol ei eiriau ef?

IOLO.—"Pobl yn gwisgo crwyn, ac yn byw ar gig a llaeth eu praidd." Er hynny, credaf na chafodd Cesar ei ffordd ei hun, er o hono ymffrostio yn ei waith o drechu'r hen Gaswallon. A wyddoch paham y credaf felly? Am na ddaeth milwyr Rhufain i Brydain wedyn am tua 100 mlynedd. Y mae'n bosibl cael gormod o groesaw, syr, ac felly y bu y tro hwnnw yn ddiameu.

MR. G.—Go dda, Ifor. Gwir bob gair. Pwy oedd prif arwr ein cyndadau yn ystod y rhyfela a fu wedyn?

IOLO.—Caradog, syr. Ymladdodd yn ddewr nes ei drechu gan Ostorius Scapula. Awd ag ef i Rufain yn garcharor. A dywedir i'r ymerawdwr ei ollwng yn rhydd o barch i'w ddewrder.

MR. G.—Da iawn. Do, brwydrodd Caradog yn ddewr, a Buddug, hithau. Y pryd hwn y lladdwyd y derwyddon ym Môn. Gwyddai y milwyr Rhufeinig fod ganddynt ddylanwad mawr ar y Brythoniaid; ac mai hwy oedd yn cyffroi y bobl i ryfela, gan eu gwroli â chaneuon y genedl. Felly, rhaid oedd eu lladd os am drechu'r wlad.

Bu'r Rhufeiniaid yma hyd y flwyddyn 410, pan y galwyd hwy yn ol i amddiffyn eu gwlad eu hun rhag ymosodiad barbariaid y gogledd. Gwnaeth

HANES CYMRU.
Buddug.

y Rhufeiniwr lawer o waith tra y bu yn y wlad hon, a dysgodd y Brython aml i wers oddiwrtho. Dysgodd sut i adeiladu trefydd, a sut i fasnachu; a dysgodd siarad Lladin. Ac er fod gan y Brythoniaid ffyrdd lled hwylus, gwell rhai oedd y ffyrdd Rhufeinig. Gwelir eu holion yma a thraw ar hyd a lled y wlad.

Cyn distewi, carwn ddweyd fod oddeutu wyth mil o eiriau Lladin yn ein hiaith, a llawer ohonynt er dyddiau Cesar, megis,—Caer, ffôs, saeth, porth, aradr. A chan eich bod yn dal ati mor ddi-ildio i ddysgu Cymraeg, mawr fydd y cynorthwy ddeilliaw i chwi, a chwi'n dechreu dysgu Lladin a Ffrangeg, canys nid yw'r Ffrangeg amgen na Lladin ail-law.

GEIRFA.

I.
ARHOLI, examining.
DEDDFAU, cyfreithiau, laws.
HYDDYSG YN, well versed in.
PARCHU, respecting; GWRTHRYCH, object.
NAS GWYDDIR ... DANO, of which nothing is known.
A CHAM MAWR ... YW, it is a great injustice.
GWLEDYDD ESTRONOL, other countries.
AMDDIFAD O HANES, lacking in the knowledge of the history.
TEIMLO, feeling; ANRHYDEDD, honour.
BALCH, proud; HANIAD, tarddiad, descent.
GWYRDA, nobles.
GWRENDY ... YN ASTUD, the children listen attentively.
BYRR, short; EGWAN, weakly.
PRYD TYWYLL, dark complexion; OGOF, cave

ARFAU, arms; RHYFEL, war; LLESTRI, vessels.
CERRIG NADD, flint, trimmed stone; OFFER, implements.
HAEARN, iron; PRES, bronze, brass.
BREUDDWYD-IWR, dreamer; IAITH, language.
II.
TAL, tall; PEN-GRWN, round headed.
PRYD GOLEU, light complexion; LLAWN YNNI, energetic.
CENEDL, tribe, nation; GARW, rough.
TRECHWYD EF, he was conquered; HAID, flock.
GWYDDYL, goidels; YSGOLHEIGION, scholars.
DWYRAIN, east; CYN DECHREU HANES, in pre-historic times.
CYFNOD, period; MEMRWN, parchment.
WEITHIAU, sometimes; OLION, remains.
GORFFENNOL, past; YMCHWIL MANWL, careful research.
NATUR DANBAID ANIBYNOL, fiery, independent nature.
ANGLADD, funeral; PREGETH, sermon.
CYMANFA GANU, singing festival.
CYFARFOD LLENYDDOL, literary meeting.
GWLADYCHU, settling; TRAMOR, over sea, foreign.
MASNACH, business, trade; RHEOLI, managing.
GWEITHFEYDD, mines, quarries, works; CLEDDYF, sword.
HYTRACH, rather; MEDDWL, mind.
III.
TRIGOLION, inhabitants; PRYDAIN, Britain.
CESAR, Julius Caesar; HELYNT, hanes, history.
DA FYDDAI, it would be helpful.
DISGRIFIAD BRAS, summary; CREFYDD, religion.
DERWYDDON, druids; ABERTHU, sacrifices.
CYFANDIR, continent.
MWY NA THEBYG YW, it is probable.
AROLYGU, edrych ar ol, supervising.
BARNU ACHOSION, settling differences.
EISTEDD WRTH DRAED, being taught by.

COSPI, punishing.
NI ORFODID AR DDERWYDD, a Druid was not compelled.
TALU TRETH, рaying a tax.
OHERWYDD HYNNY, in consequence of that.
ADDOLWR, worshipper; DIFEFL, keen, honest.
DUWIES, goddess.
BODAU DYNOL, human beings.
LLED BWYSIG, fairly important.
GWEISION, servants; GWEDDILLION, remains.
AT EI RAID, at his command in need.
ENAID, soul; CORFF, body; AWDUR, author.
CYNGHORAU, councils.
CREAWDWR ... PHOPETH, Creator of all things, God.
HWYRACH, perhaps; HAMDDEN, opportunity.
GWAITH, occupation; ARFERION, habits.
IV.
GORFU ARNO, he was forced.
EILWAITH, second time.
GWISGO CRWYN, wearing skins.
YMFFROSTIO, brolio, boasting.
GORMOD O GROESAW, too much welcome.
DIAMEU, di-os, doubtless.
PRIF ARWR, chief hero; CYN-DADAU, ancestors.
CARCHAROR, prisoner; YMERAWDWR, emperor.
GOLLWNG YN RHYDD, freeing, releasing.
O BARCH I'W DDEWRDER, out of respect for his heroism.
DYLANWAD, influence.
CYFFROI, exciting; GWROLI, encouraging.
AMDDIFFYN, defending; YMOSODIAD, attack.
GOGLEDD, north

Nodiadau

[golygu]