Yr Ysgol Gymraeg/Hwiangerddi
| ← Caru Cymru | Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen |
Myfi sy'n magu'r baban → |
YSGOL GYMRAEG—HWIANGERDDI.
YMGOM RHWNG Y PRIFATHRO A'I DDISGYBLION.
Mr. Gwilym, y prifathro, yn treulio hanner awr yn yr awyr agored gyda'r plant ar fore tesog yn yr haf.
MR. GWILYM. Wel, blant anwyl, bore da i chwi oll.
Y PLANT.—Ac i chwithau yr un modd, syr.
MR. G.—Dyma fore hyfryd! Mae'r haul yn gwenu arnom, a'r adar bach yn pyncio cân beraidd yn y llwyni o'n hamgylch. Y mae pawb a phopeth yn canu heddyw. Ar y ffordd i'r ysgol, clywais rywun yn canu un o hoff ganeuon Cymru, sef "Yr Eneth Ddall," ar alaw Toriad y Dydd. A charwn wybod faint o honoch chwi all ganu yr alaw honno. Dim un o honoch! Wel, gofynnwch i'ch rhieni ei dysgu i chwi, a llawer ereill o'r hen alawon. Dewch i ni gael clywed pa sawl un o'r hen benhillion Cymraeg ellwch eu hadrodd. Byddai mamau Cymru, amser yn ol, yn adrodd yr hen gerddi i'w plant, ac yn eu canu hefyd pan yn hwian y plant i gysgu. A fedr rhai o honoch adrodd hwian—gerddi? Mi ddechreuaf fi,―
"Sian fach anwyl,
Sian fach i.
Fi pia Sian,
A Sian pia fi."
IORWERTH.—Mi fedra i adrodd a chanu un o'r hen ganeuon, syr. Clywais fy mam yn ei chanu lawer gwaith.
{{nop}] MR. G.—Pa un yw hi, Iorwerth?
IORWERTH.—
"Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan, twt,
A phump o wartheg tewion
Yn pori ar y clwt."
MR. G.—Da iawn, Iorwerth. A oes rhywun arall all
adrodd un? Dewch ymlaen, Olwen.
OLWEN.—
"Iar fach dlôs
Yw fy iar fach i,
Gwyn a melyn
A choch a du."
A dyma un arall,—
"Ioan bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr;
Ioan yn codi'i goese
A dweyd fod y dŵr yn oer."
MR. G.—Gwelaf eich bod wedi dysgu cryn nifer o
hwian-gerddi. Dacw William yn barod.
WILLIAM,—
"Morus y gwynt
Ac Ifan y glaw,
Daflodd fy het
I ganol y baw."
Gallaf adrodd dwy arall, syr,—
"Mi fynna i gael ceiniog,
I beth? I beth?
I brynnu rhaff i grogi'r gath
Am yfed llaeth y babi bach."

"Ioan bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr."
A dyma'r llall,—
"Mae gen i iar a cheiliog.
Ers wythnos oddiar dydd Iau;
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau."
MR. G.—Y mae William wedi curo Olwen o un.
Rhagorol eich dau. Pwy yw'r nesaf? Dacw Rhys
a'i law i fyny.
RHYS.―
"Sion a Sian
Yn mynd i'r farchnad;
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i brynnu dafad."
Ac eto,—
"Ifan bach a minne
Yn mynd i Lundain glame;
Mae'r ffordd yn hir a'r gwynt yn oer,
Gwell i ni aros gartre."
MR. G.—Yr ydych wedi fy synnu. A oes ychwaneg?
GLANMOR.—Oes, syr, dysgodd fy nhad lawer i minnau. A dyma ddwy ohonynt sydd heb eu hadrodd heddyw,—
"Mae gennyf glocsiau newydd,
A rheiny'n glocsiau da,
Mi baran trwy y gaea',
A thipyn bach o'r ha';
Os caf bedolau danynt,
Fe barant dipyn hwy;
Saith a dime'r glocsen,
A phymtheg am y ddwy."
A dyma'r llall,—
"Fuo chwi erioed yn morio,
Do, mewn padell ffrio;
Chwythodd y gwynt fi i'r Isle of Man,
A dyna lle ro'n i'n crio."
MR. G.—'Does dim taw arnoch chwi heddyw. Yr ydych wedi gwneud yn ardderchog; ond rhaid yw rhoi i fyny y tro yma; y mae'r amser wedi mynd fel y gwynt. Cofiwch y byddaf yn gofyn am ychwaneg o hwiangerddi y tro nesaf y deuaf i ymweld â'r dosbarth, a gobeithiaf y ceir cystal hwyl ag a gawsom heddyw. Un eto cyn ymadael â chwi. Eiddwen, a wnewch chwi ganu i ni? Clywais chwi yn canu yn swynol y dydd o'r blaen. Os gwelwch yn dda, cenwch "Myfi sy'n magu'r baban."