Yr Ysgol Gymraeg/Llythyr o'r wlad
| ← Gwyliau'r haf | Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen |
Llythyr o lan y môr → |
LLYTHYR O'R WLAD.
DYFFRYN MWYN,
Awst 12fed.
ANWYL FYRDDIN,
Prysuraf i ysgrifennu gair bach atat, yn ol fy addewid, gan obeithio eich bod oll yna yn iach, ac yn treulio amser difyr iawn. Yr wyf fi wrth fy modd, ac nid oes arnaf ddim hiraeth hyd yn hyn.
Gresyn na fuaset yma gyda mi,—ond hwyrach dy fod tithau yn meddwl yr un fath am y lle yna. Mi weli nad wyf wedi anghofio ein dadl yn yr ysgol y dydd o'r blaen. Ond, i ddweyd fy hanes.
Y mae fy ewythr wedi prynnu merlyn bach du, ac yr wyf ar ei gefn bob dydd. Bob yw ei enw; ac y mae ef a minnau'n gyfeillion mawr. Ar ol iddo gael darn o siwgr gennyf, aiff ar garlam gwyllt. Ar y dechreu yr oedd arnaf ei ofn; ond, erbyn hyn, goreu po gyflymaf yr a.
Bum ar ei gefn i'r farchnad y Sadwrn diweddaf. Y mae tair milltir o ffordd i Aberteg, a lle rhyfedd sydd yno, prynnu a gwerthu pob math o bethau,—ceffylau, gwartheg, moch, defaid, troliau, cerbydau, gwlanen, a chant a mil o bethau ereill. Gwerthodd fy ewythr dair buwch, a phrynnodd ddau geffyl a phum dafad. Cawsom hwyl fawr drwy'r dydd, ac yr oedd yn agos i ddeg o'r gloch arnom yn cyrraedd yn ol.

Arthur ar gefn Bob.
Hen arferion doniol sydd yn y wlad. Dydd Llun, yr oedd William y Wern yn priodi Ellen y Ffaldau, a gwelais y rhedeg am y deisen. Pan ddaeth y pâr ieuanc o'r eglwys ar ol y priodi, yr oedd chwech o fechgyn ieuainc y pentref yn sefyll yn barod i gychwyn am ben y bryn gerllaw, tua milltir o ffordd. Rhoddwyd yr arwydd, ac ymaith a hwynt nerth traed. Gan fod y ffordd yn unionsyth, gallem eu gweld yn mynd am bellter. Mawr oedd y disgwyl am eu gweld yn dychwelyd; oblegid y cyntaf yn ol at ddrws yr eglwys fyddai'n ennill y deisen. A'r goreu y tro hwn oedd William y gôf. Hwyl bechgyn y wlad, yntê?
Y mae'r gwair i gyd o dan dô, ac y mae fy ewythr yn darparu ar gyfer y cynhaeaf ŷd; ond mi fyddaf yn ol yn y Pentref ymhell cyn hynny, gwaetha'r modd.
Anfonaf air eto cyn bo hir i adrodd hanes ffair Rhosgoch. Dydd Llun nesaf y cynhelir honno, ac y mae Iago, fy nghefnder, a minnau am fynd yno, os bydd yn dywydd braf a phopeth yn ffafriol.
Dyma ddigon y tro yma. Cofia anfon ychydig o'th hanes, i mi gael gwybod a wyt yn meddwl cymaint o lan y môr yn awr.
Gyda'r cofion goreu,
Oddiwrth dy anwyl gyfaill,
ARTHUR.
- Myrddin Owen,
- Bryn y Don, Abermôr.
GEIRFA.
PRYSURAF, gwnaf frys, I hasten.
ADDEWID, promise.
WRTH FY MODD, "in my element," enjoying myself.
NID OES ARNAF HIRAETH, I do not long.
GRESYN, it is a pity.
AR GARLAM GWYLLT, on a wild gallop.
YR OEDD ARNAF OFN, I was afraid.
RHYFEDD, odd, funny.
CERBYDAU, carriages.
GWLANEN, flannel.
ARFERION DONIOL, queer customs.
TEISEN, cake.
PRIODI, marrying.
ARWYDD, sign.
NERTH TRAED, nerth coes, as hard as they could pelt.
UNIONSYTH, straight.
DYCHWELYD, dod yn ol, returning.
ENNILL, winning.
GWAETHA'R MODD, the more is the pity.
CYNHELIR, is held.
CEFNDER, male cousin;
CYFNITHER, female cousin.
COFION GOREU, best regards.