Yr Ysgol Gymraeg/Llythyr o lan y môr
| ← Llythyr o'r wlad | Yr Ysgol Gymraeg gan Owen Jones Owen |
Bugeilio'r gwenith gwyn → |
LLYTHYR O LAN Y MÔR.
ABERMÔR,
Awst 14eg.
ANWYL ARTHUR,
Diolch yn fawr i ti am y llythyr. Prysuraf i ateb yn ol dy gais, ac yn ol fy addewid cyn y gwyliau.
Yr wyf finnau wrth fy modd, ac yn hoffi y môr yn fwy-fwy bob dydd. Son yr oeddit am y merlyn bach, del, a brynnodd dy ewythr. Wel, nid oes gennyf ferlyn, ond y mae yma gwch, ac yr wyf wedi dysgu rhwyfo yn lled dda. Hefyd, bum yn pysgota drwy'r dydd ddoe, ac ês a llond basged o bysgod adre i mam.
Y mae fy nghefnder wedi fy nysgu i nofio, ac yr wyf yn falch fy mod wedi cael cyfle i ddysgu peth mor ddefnyddiol. Awn allan bob bore gyda'n gilydd cyn i mam a nhad godi. Eto, yn y prynhawn, a'r dydd yn wresog iawn, awn yr ail waith i'r dŵr.
Bu yn ystorm fawr yma neithiwr, a galwyd y bywyd-fad allan. Yr oedd llong fawr mewn perygl tu allan i'r hafan. Aeth y morwyr dewr i'r bad, ac allan a hwynt yn nannedd yr ystorm i achub y trueiniaid oedd ar fwrdd y llong. Ar ol ymladd yn galed, cyrhaeddasant y llestr a deuwyd a'r morwyr i'r lan yn ddiogel. Bechgyn dewr yw dwylaw y bywyd-fad. Mawr oedd y cyffro ar y lan, tra'r oeddem yn gwylio y bad yn mynd allan, ac yn ei ddisgwyl yn ol drachefn.
A fuost ti mewn goleudy erioed? Mi fum i ddydd Mawrth diweddaf. Y tu allan, edrych rhywbeth yn debyg i felin wynt heb hwyliau, ond ei fod yn uwch o lawer. Wedi dringo'r grisiau sy'n arwain i'r rhannau uchaf, daethom i ystafell y llusern. Beth feddyliet ti o wydr llusern tua dwy i dair modfedd o drwch? Dywedaf yr holl hanes wrthyt ar ol dychwelyd, byddai yn rhaid cael llyfr go fawr i egluro popeth a welais yn y goleudy.
Mi fyddwn ni, yn Ysgol y Pentre, yn son am broblemau; dyma i ti un fum i yn meddwl am dani y dydd o'r blaen,—Beth yw rhif mân dywod y môr?
Bydd gennyf lawer iawn o bethau i'w hadrodd wrthyt ar ol dychwelyd i'r Pentre. Sut y mae Rhys yn treulio ei amser yn Llundain? A glywaist oddiwrtho? Nid wyf fi wedi derbyn gair. Melys fydd hanes ein teithiau pan y cawn gyfarfod â'n gilydd unwaith eto.
Cofia fi at dy rieni, ac at unrhyw gyfeillion sydd yna gyda thi.
Yn fler, ac ar frys mawr,
Gyda'r cofion goreu,
Oddiwrth dy hen gyfaill,
MYRDDIN.
- Arthur Wynn,
- Llawr y Cwm, Dyffryn Mwyn.

"Myrddin a'i Gwch."
GEIRFA.
RHWYFO, rowing.
PYSGOTA, dal pysgod, fishing.
CAEL CYFLE, cael mantais, afforded a chance.
DEFNYDDIOL, useful.
GWRESOG, warm.
GALWYD Y BYWYD-FAD ALLAN, the life-boat was called out.
PERYGL, danger; HAFAN, harbour.
Y TRUEINIAID, y dynion truain, the wrecked persons.
DWYLAW (Y LLONG), dwylo, crew.
AR FWRDD Y LLONG, on board ship; on deck.
LLESTR, vessel, ship; DIOGEL, safe.
CYFFRO, excitement; GOLEUDY, light-house.
MELIN, mill; GRISIAU, steps.
YSTAFELL, room; LLUSERN, lamp.
MODFEDD, inch; TRWCH, thickness.
TEITHIAU, journeys; DERBYN, receiving.
UNRHYW, any; BLER, untidy.
AR FRYS MAWR, in a great hurry.''