Yr Ysgol Gymraeg (testun cyfansawdd)
| ← | Yr Ysgol Gymraeg (testun cyfansawdd) gan Owen Jones Owen |
Cyflwyniad → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yr Ysgol Gymraeg |

YR YSGOL GYMRAEG.

"Caru ei iaith yw gwaith y Cymro."
LLYFR DARLLEN I BLANT YSGOLION CYMRU.
♦♦
YR YSGOL GYMRAEG
GAN
O. JONES OWEN,
ATHRO CYMRAEG. YSGOL UWCHRADDOL Y PORTH.
ɵ
"OES Y BYD I'R IAITH GYMRAEG."
ɵ
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.
1916.
O barch i'm Mam a'm Tad am ofal tyner ar aelwyd Gymreig lle y cerid defion a moesau y Cymry y cyflwynir y neges hon i blant ysgolion ein gwlad.
Ymddanghosodd y gwersi o dro i dro ar dudalennau y misolyn tlws a gwerthfawr, "Cymru'r Plant;" a theimla'r Awdur yn wir ddiolchgar i'r Golygydd am eu croesawu a'u noddi.
CYNHWYSIAD.
CARU CYMRU
YSGOL GYMRAEG-HWIANGERDDI
MYFI SY'N MAGU'R BABAN
AR Y FFORDD I'R YSGOL
BEN YN Y FFOS (Llew Tegid)
HWIANGERDDI ETO
MYND AM DRO YN YR HAF
Y GARDDWR BACH
CYFARCHIAD I WENNOL GYNTAF Y TYMOR (Hiraethog)
RHIFYDDIAETH
PAN DDAW YR HAF (Mynyddog)
GWYLIAU'R HAF
LLYTHYR O'R WLAD
LLYTHYR O LAN Y MÔR
BUGEILIO'R GWENITH GWYN (Ceiriog)
DIFYRRWCH PLANT
HANES CYMRU
DEIO BACH
DIARHEBION
AWYR
I ADERYN (Talhaearn)
MABINOGION
GOGERDDAN
CANU PENHILLION
HEN BENHILLION TELYN
DYGWYL DEWI
DOETHINEB CENEDL Y CYMRY
HEN WLAD FY NHADAU
YR YSGOL GYMRAEG.
***
CARU CYMRU.
| “ | TRI pheth y dylai Cymro eu cofio rhag amharchu ei hun: ei rieni, ei wlad, a'i enw o Gymro." |
” |
NEGES BEIRDD EIN GWLAD.
"Tecaf, mwynaf im' o unman
Ydyw f'anwyl wlad fy hunan;
Cymru lon ydyw hon,
O ni welais yn fy mywyd
Fro mor hyfryd a hon."
—J. Morris Jones.
"'Does neb yn caru Cymru'n llai
Er iddo grwydro'n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol."
—Ceiriog.
"Mae'n werth troi'n alltud ambell dro;
A mynd o Gymru fach ymhell:
Er mwyn cael dod i Gymru'n ol,
A medru caru Cymru'n well."
—Eifion Wyn.
"Caraf finnau'r wlad wy'n foli,
Duw a ŵyr mor anwyl i mi
Ydyw Cymru lân."
—Talhaearn.
"Gwlad mae athrylith yn stôr,
Gwlad y telynau a'r canu,
Ynddi mae cariad yn fôr,
Eden y ddaear yw Cymru."
—Mynyddog.
"Rhaid i mi garu Cymru
Sy'n galon i Brydain Fawr,
Sy a'i llygaid yn arwain y wawr,
Rhaid ydyw caru Cymru,
Cymru fy nghalon—fy ngwlad.
Cymru Fu, Cymru Fydd, Cymru Wen.
Mae'r nefoedd yn caru Cymru."
—Ben Bowen.
GEIRFA.
TRAI, ebbing tide.
ALLTUD, exile.
WY'N FOLI, I am praising.
DUW A ŴYR, God knows.
ATHRYLITH, genius.
SY'N GALON, that is the centre of , the moving spirit.
YN ARWAIN Y WAWR, leading the dawn.
YSGOL GYMRAEG—HWIANGERDDI.
YMGOM RHWNG Y PRIFATHRO A'I DDISGYBLION.
Mr. Gwilym, y prifathro, yn treulio hanner awr yn yr awyr agored gyda'r plant ar fore tesog yn yr haf.
MR. GWILYM. Wel, blant anwyl, bore da i chwi oll.
Y PLANT.—Ac i chwithau yr un modd, syr.
MR. G.—Dyma fore hyfryd! Mae'r haul yn gwenu arnom, a'r adar bach yn pyncio cân beraidd yn y llwyni o'n hamgylch. Y mae pawb a phopeth yn canu heddyw. Ar y ffordd i'r ysgol, clywais rywun yn canu un o hoff ganeuon Cymru, sef "Yr Eneth Ddall," ar alaw Toriad y Dydd. A charwn wybod faint o honoch chwi all ganu yr alaw honno. Dim un o honoch! Wel, gofynnwch i'ch rhieni ei dysgu i chwi, a llawer ereill o'r hen alawon. Dewch i ni gael clywed pa sawl un o'r hen benhillion Cymraeg ellwch eu hadrodd. Byddai mamau Cymru, amser yn ol, yn adrodd yr hen gerddi i'w plant, ac yn eu canu hefyd pan yn hwian y plant i gysgu. A fedr rhai o honoch adrodd hwian—gerddi? Mi ddechreuaf fi,―
"Sian fach anwyl,
Sian fach i.
Fi pia Sian,
A Sian pia fi."
IORWERTH.—Mi fedra i adrodd a chanu un o'r hen ganeuon, syr. Clywais fy mam yn ei chanu lawer gwaith.
{{nop}] MR. G.—Pa un yw hi, Iorwerth?
IORWERTH.—
"Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan, twt,
A phump o wartheg tewion
Yn pori ar y clwt."
MR. G.—Da iawn, Iorwerth. A oes rhywun arall all
adrodd un? Dewch ymlaen, Olwen.
OLWEN.—
"Iar fach dlôs
Yw fy iar fach i,
Gwyn a melyn
A choch a du."
A dyma un arall,—
"Ioan bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr;
Ioan yn codi'i goese
A dweyd fod y dŵr yn oer."
MR. G.—Gwelaf eich bod wedi dysgu cryn nifer o
hwian-gerddi. Dacw William yn barod.
WILLIAM,—
"Morus y gwynt
Ac Ifan y glaw,
Daflodd fy het
I ganol y baw."
Gallaf adrodd dwy arall, syr,—
"Mi fynna i gael ceiniog,
I beth? I beth?
I brynnu rhaff i grogi'r gath
Am yfed llaeth y babi bach."

"Ioan bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr."
A dyma'r llall,—
"Mae gen i iar a cheiliog.
Ers wythnos oddiar dydd Iau;
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau."
MR. G.—Y mae William wedi curo Olwen o un.
Rhagorol eich dau. Pwy yw'r nesaf? Dacw Rhys
a'i law i fyny.
RHYS.―
"Sion a Sian
Yn mynd i'r farchnad;
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i brynnu dafad."
Ac eto,—
"Ifan bach a minne
Yn mynd i Lundain glame;
Mae'r ffordd yn hir a'r gwynt yn oer,
Gwell i ni aros gartre."
MR. G.—Yr ydych wedi fy synnu. A oes ychwaneg?
GLANMOR.—Oes, syr, dysgodd fy nhad lawer i minnau. A dyma ddwy ohonynt sydd heb eu hadrodd heddyw,—
"Mae gennyf glocsiau newydd,
A rheiny'n glocsiau da,
Mi baran trwy y gaea',
A thipyn bach o'r ha';
Os caf bedolau danynt,
Fe barant dipyn hwy;
Saith a dime'r glocsen,
A phymtheg am y ddwy."
A dyma'r llall,—
"Fuo chwi erioed yn morio,
Do, mewn padell ffrio;
Chwythodd y gwynt fi i'r Isle of Man,
A dyna lle ro'n i'n crio."
MR. G.—'Does dim taw arnoch chwi heddyw. Yr ydych wedi gwneud yn ardderchog; ond rhaid yw rhoi i fyny y tro yma; y mae'r amser wedi mynd fel y gwynt. Cofiwch y byddaf yn gofyn am ychwaneg o hwiangerddi y tro nesaf y deuaf i ymweld â'r dosbarth, a gobeithiaf y ceir cystal hwyl ag a gawsom heddyw. Un eto cyn ymadael â chwi. Eiddwen, a wnewch chwi ganu i ni? Clywais chwi yn canu yn swynol y dydd o'r blaen. Os gwelwch yn dda, cenwch "Myfi sy'n magu'r baban."
II.
MYFI SY'N MAGU'R BABAN.
MYFI sy'n magu'r baban,
Myfi sy'n siglo'r crud,
Myfi sy'n hwian, hwian,
Ac yn hwian hwi o hyd.
Bu'n crio'r bore heddyw
O hanner nos dan dri,
Ond fi'n sy'n colli'm cysgu,
Mae'r gofal i gyd arnaf fi.
Myfi sy'n magu'r plentyn
Bob bore, prynhawn, a hwyr;
Y drafferth sy'n ei ganlyn,
Fy hunan yn unig ŵyr;
Nis gŵyr ef air o Saesneg,
Na'r un gair o'n hen iaith ni;
I ddysgu'r tywysog bychan
Mae'r gofal i gyd arnaf fi.
Ond os caf fi ei fagu
I fynd yn llencyn iach,
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
Fod rhwng ei ddwy wefus fach;
A phan ddaw ef yn frenin,
Os na wna fy nghofio i,
O, cofied wlad y cenin,
Y wlad sydd mor anwyl i mi.
—Ceiriog.
GEIRFA.
HYFRYD, teg, mwyn, pleasant.
GWENU, edrych yn siriol, smiling.
PYNCIO CAN BERAIDD, canu yn felys, singing a sweet song.
LLWYNI, perthi, mân-goed, bushes.
ALAW, cân, cerdd, air, song.
RHIENI, tad a mam, parents.
PENNILL, verse.
HWIAN, suo i gysgu, lulling to sleep.
FI PIA SIAN, Sian is mine.
TROL, cart.
MERLYN TWT, ceffyl bach del, a nice pony.
GWARTHEG, mwy nag un fuwch, cows.
PORI AR Y CLWT, pori ar y cae bach o flaen y tŷ.
CRYN NIFER O, a number of.
TAFLODD FY HET, he threw my hat.
CROGI, hanging.
ERS WYTHNOS ODDIAR DYDD IAU, since a week on Thursday.
DODWY, laying (eggs).
GLAME = CALAN MAI, the beginning of May.
WEDI SYNNU, surprised.
YCHWANEG, mwy, more.
CLOCSIAU, clogs.
MI BARAN, they will last.
PEDOLAU, shoes, "steel bits" under the clogs.
DIPYN HWY, a while longer.
MORIO, mynd ar y môr, sailing.
PADELL FFRIO, frying pan.
CHWYTHU, blowing.
TAW, stop.
ARDDERCHOG, rhagorol, splendidly.
YMWELD, visiting.
CYSTAL HWYL, as much fun.
OS GWELWCH YN DDA, if you please.
II.
TRAFFERTH, trouble.
NIS GŴYR EF, he knows not.
TYWYSOG, prince.
GOFAL, care.
LLENCYN, youth.
IAITH, language.
BRENIN, king.
GWEFUSAU, lips.
GWLAD Y CENIN, the Land of the Leek, Wales.
AR Y FFORDD I'R YSGOL.
I.—William ac Arthur yn cyfarfod ar y ffordd i'r ysgol.
WILLIAM.—Bore da, Arthur. A wnês di dy wers neithiwr?
ARTHUR.—Do, William. Gwnês y wers ar ol tê,—cyn mynd i chwareu. A wnês di hi?
WILLIAM.—Naddo. Ês i chwareu neidio, ac aeth yn rhy hwyr cyn i mi gofio am dani.
ARTHUR.—Dyna waith ffol, William. Bydd yr athro yn disgwyl am y wers, a thithau heb ei pharatoi.
WILLIAM.—O! Dywedaf fod y ddannodd arnaf neithiwr. Esgus iawn, weli di.
ARTHUR.—Na, paid a dweyd anwiredd. Plant drwg sydd yn dweyd yr hyn nid yw wir.
WILLIAM.—Wyt ti'n meddwl hynny, Arthur? O'r goreu, y cyfaill, gwnaf fel y dywedi am imi wneud. A chawn weld beth a ddigwydd.
ARTHUR.—Ie, dyna'r ffordd oreu, William. Gwell yw bod yn fachgen dewr, a dweyd y gwir wrth Mr. Gwilym. Mi fydd yn well ganddo dy glywed yn dweyd y gwir fel bachgen gonest, nag i ti geisio ei dwyllo drwy gynnyg iddo ryw hen esgus gwael a diwerth. Bu Mr. Gwilym yn fachgen bach fel tithau; a gŵyr faint o werth sydd mewn esgusion o'r natur yna. Dyna gloch yr ysgol yn canu. Nid oes llawer o amser. Awn ar frys rhag i ni fod yn hwyr.
II.—Y plant yn yr ysgol. Mr. Gwilym yn cywiro y gwers-lyfrau.
MR. GWILYM.—Rhagorol, Arthur! Dyma waith destlus a chywir. William, ple mae eich llyfr chwi?
WILLIAM.—Nid wyf wedi gwneud fy ngwers, syr. Es i chwareu neithiwr yn lle aros yn y tŷ i orffen fy ngwaith.
MR. GWILYM.—Wel, y mae un peth yn dda ynoch. Nid oes arnoch ofn dweyd y gwir. Peidiwch a gadael i hyn ddigwydd eto. O hyn allan, cofiwch fynd at y wers cyn mynd allan i chwareu. Mi fydd y chwareu yn fwy melys wedi i chwi ddarparu eich gwaith ar gyfer yr ysgol drannoeth. Gwnewch fel y gwna Arthur.
WILLIAM.—Gwnaf, Mr. Gwilym. Yr wyf yn addaw gwneud yn ol eich cyngor o hyn allan.
III.—Arthur a William yn cyfarfod wedi'r ysgol.
ARTHUR.—Campus! Mi weli'n awr mai gwell yw bod yn onest ac yn ddewr. Y mae Mr. Gwilym yn meddwl mwy o honot na phe baet wedi rhoddi esgus celwyddog iddo. A pheth arall, cofia na ddylai plant yr Ysgol Sul bechu, ac y mae dweyd anwiredd yn bechod mawr. Bydd fy nhad a'm mam yn dweyd nad oes neb a hoffa blant celwyddog. Nis gall neb gredu eu geiriau, na dibynnu dim arnynt o gwbl.

"Na, paid a dweyd anwiredd. Plant drwg sydd yn dweyd yr hyn nid yw wir."
WILLIAM.—Wel, yr hen gyfaill anwyl, diolch yn fawr i ti am dy gyngor da i mi. Lwe i mi dy gyfarfod y bore yma. Yr wyf yn teimlo'n hapus, ac y mae'm calon yn ysgafn. Tynnaist bwysau mawr oddiarni. Diolch eto i ti, Arthur bach. O hyn allan, byddaf yn fachgen dewr a gonest, a gwnaf fy ngwers bob nos cyn dechreu chwareu.
GEIRFA.
A WNÊS DI? A wyt ti wedi gwneud? Have you done?
GWERS, lesson.
NEITHIWR, yesterday evening.
RHY HWYR, too late.
COFIO, remembering.
DISGWYL AM, awaiting, expecting.
PARATOI, gwneud yn barod, preparing.
DANNODD, poen yn y dannedd, toothache.
ESGUS, excuse.
ANWIREDD, yr hyn nid yw wir, untruth.
O'R GOREU, alright then.
GWELL YW it is better
BYDD YN WELL GANDDO, he will prefer.
TWYLLO, deceiving.
CYNNYG IDDO, offering him.
GWAEL A DIWERTH, mean and useless.
GŴYR, y mae'n gwybod, he knows.
GWERTH, value.
DESTLUS A CHYWIR, tidy and correct.
GORFFEN, gwneud i gyd, cwblhau, completing.
I DDIGWYDD ETO, to happen again.
O HYN ALLAN, ar ol hyn, o heddyw ymlaen, from now on.
MELYS, fel mêl, sweet.
AR GYFER, erbyn, by.
DRANNOETH, y diwrnod wedyn, the following day.
ADDAW, promising.
CAMPUS, rhagorol, excellent.
DEWR, heb ofn, brave.
NA PHE BAET WEDI, .....than if you had....
CELWYDD, anwiredd,
DIBYNNU, coelio, credu, believing, depending.
DIOLCH YN FAWR I TI, thank you very much.
CYNGOR, advice.
CYFARFOD, dod ar draws, meeting with.
TEIMLO, feeling.
TYNNU PWYSAU ODDIAR ..... lifting a weight from off....
BEN YN Y FFOS.
(Trwy ganiatad yr awdur).
AETH Hugh a Ben, yn fechgyn llon,
Hyd ochr y fron i rodio;
Ac wrth ddod adre' gyda'r nos,
Fe ddaeth y ddau i groesi ffôs,
A ffôs go ddofn oedd honno:
Wrth geisio camu carreg sarn,
Fel 'rwyf o'r farn bu'r digwydd,
A chyda 'sgrech a grynnai'r cwm,
Mi lithrodd Ben fel darn o blwm,
A syrthiodd ar ei ogwydd.
A Hugh mewn dychryn gym'rai'r goes,
A ffoes i'r tŷ gan waeddi;
Rhwng colli'i wynt a dychryn du,
Nis gallai ddweyd pan ddaeth i'r tŷ
Ond, "Ben!"a ffos!"a "boddi!"
Cynhyrfai'r teulu oll gan fraw;
Pawb ar bob llaw yn gofyn—
"Pa beth? Pa fodd? Pa le? Paham?"
"A yw e'n ddwfn?" gofynnai'r fam;
Atebai Hugh mewn dychryn—
"Mae at ei fferrau yn y dŵr,
Mi fydd yn siwr o foddi."
Ei dad, dan wenu, droai draw,
Gan ddweyd, "Taw, taw a gwaeddi,
Gad yna'th lol, os felly mae,
Mi ddaw o'r ffôs yn eitha'.
"Na, na, dowch, dowch," medd Huw mewn braw,
"Mae'i ben i lawr yn gynta'."
—Llew Tegid.
GEIRFA.
OCHR Y FRON, hillside, slope.
RHODIO, walking.
FFOS, ditch.
CAMU, stepping.
CARREG SARN, stepping stone.
BU'R DIGWYDD, it happened.
'SGRECH, scream.
CRYNNAI'R CWM, the glen shook.
LLITHRODD, he slipped.
PLWM, lead.
SYRTHIO AR EI OGWYDD, gliding (into the ditch)
GYM'RAI'R GOES, took to his heels, ran.
GAN WAEDDI, shouting.
COLLI'I WYNT, becoming breathless.
CYNHYRFU, exciting, arousing.
BRAW, fear.
FFERRAU, ankles.
DAN WENU, smiling.
LOL, nonsense.
HWIANGERDDI ETO.
TRANNOETH, aeth Mr. Gwilym i ymweld â'r Ail Safon. Yr oedd wedi mwynhau ei hun gymaint gyda'r Safon I. y dydd blaenorol nes ei wneud yn awyddus am glywed ychwaneg o'r hwiangerddi. Dywedodd hanes y wers ddiddorol honno wrth y dosbarth hwn, gan ganmol y plant bach. Yna, gofynnodd i'r plant adrodd rhai o'r hen ganeuon. Yr oedd tua dwsin yn barod ar unwaith. Hawdd oedd gweld nad oedd y dosbarth yn foddlon i'r Safon I. eu curo am adrodd.
MR. GWILYM.—Mi ddechreuwn gyda Blodwen.
BLODWEN.—
"Mae'n bwrw glaw allan,
Ond yn dêg yn y tŷ,
A merched y Rhondda
Yn chwalu gwlan du."
MR. G.—Gwlan du yn y Rhondda! Ai nid glo ydych yn feddwl? Na, yr ydych yn hollol gywir. Nid oedd pwll glo ar gael yng Nghwm y Rhondda yr amser hwnnw. Y mae'r hen gân yn hŷn na phyllau glo y "cwm cul fel cam ceiliog."
DAFYDD.—Pan fyddwn yn fachgen drwg, arferai Sian y forwyn ddweyd y gân hon i'm llonyddu. Byddai yn fy nychryn yn ofnadwy,—
"Jack bach y Pentre
Yn torri pennau plant;
Yn rhoi nhw mewn cwdyn,
A rhedeg a nhw bant."
A dyma gân y bugail bach, syr,—
"Bugail oedd fy nhaid,
A bugail oedd fy nhad,
A bugail ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad."
MR. G.—Carwn weld pob Sian dipyn yn gallach pan yn magu plant bach. Ni ddylid dychryn plentyn ar gyfrif yn y byd. Ac y mae gormod o son am Sion y Simnei a'i gymdeithion yn gwneud drwg mawr ym myd y plant.
LLYWELYN.—Dyma ddwy gân am y Robin Goch,—
"Robin Goch a'r dryw bach
Yn fy nghuro i fel curo sach;
Fe godais innau i fyny'n gawr
Gan daro Robin Goch i lawr.
"Robin Goch ar ben y rhiniog
Yn gofyn tamaid heb un geiniog,
Ac yn dwedyd yn ysmala,
Mae hi'n oer, fe ddaw yn eira."
MR. G.—Da iawn. Yr ydych bron cystal a phlant y Safon I. Gwn na wna plant yr Ail Safon daro aderyn. A phan fydd y Robin "yn dwedyd yn ysmala mae hi'n oer," cofied y plant am dano. Yn awr, Morwen.
MORWEN,―
"Mae gennyf ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Fe redith ac fe brancith
O dan y feinir wen,
Fe redith ugain milltir
Cyn tynnu'r ffrwyn o'i ben."

"Pig ydyw mochyn, a hwch ydyw sow,
Bull ydyw tarw, a buwch ydyw cow."
MR. G.—Y mae'n dal i wella. A garech chwi fynd ar gefn yr ebol melyn, Morwen?
IOAN.—Dyma un ddoniol, syr,—
"Y ci mawr yn pobi,
Y ci bach yn corddi,
A'r gath ddu yn golchi ei gwyneb yn lân;
Y wraig yn y popty
Yn gwylio'r bara'n crasu,
A'r llygod yn rhostu y cig wrth y tân."
MR. G.—Diddorol iawn. Mae'n siwr na welodd y gath mo'r llygoden, Ioan; yr oedd yn rhy brysur yn ymdrwsio. Cân i ddiddori plant bach, yntê?
IDWAL.—Dyma un gymysg, Cymraeg a Saesneg,—
"RIVER ydyw afon, a BROOK ydyw nant;
TWENTY ydyw ugain, a HUNDRED ydyw cant;
SHILLING ydyw swllt, a PENNY ydyw ceiniog,
RABBIT уw cwningen, a HARE yw 'sgyfarnog;
PIG ydyw mochyn, a hwch ydyw sow;
BULL ydyw tarw, a buwch ydyw cow."
MR. G.—Anodd yw gwybod pa ddosbarth yw'r goreu. Cefais lawer o bleser wrth wrando arnoch. Ond cofiwch hyn,—byddwch yn blant mawr cyn bo hir, ac y mae'n amser i chwi ddechreu dysgu caneuon Ceiriog, Mynyddog, Eifion Wyn, ac ereill. Diolch yn fawr i'r adroddwyr. Nac anghofiwch am y tro ar y mynydd dydd Llun nesaf. Hwyrach y bydd gan un ohonoch adroddiad ar gôf erbyn hynny, o waith un o'r beirdd a enwais. Dydd da i chwi oll.
GEIRFA.
MWYNHAU, cael hwyl, enjoying.
CYMAINT, so much.
BLAENOROL, cyn, previous.
AWYDDUS, eisieu, eager.
DIDDOROL, difyr, interesting.
CANMOL, dweyd yn dda am, praising.
TUA DWSIN, about a dozen.
NAD OEDD ... ADRODD, nid oeddent am adael i'r plant bach fod yn well na hwy am adrodd.
BWRW GLAW, glawio, raining.
CHWALU GWLAN, trin gwlan, preparing wool for weaving purposes.
"CWM CUL FEL CAM CEILIOG," from a verse describing the Rhondda Valley. The valley of the Rhondda is very narrow; and the poet says that a cockerel could step over it.
MORWYN, maid servant.
LLONYDDU, cadw yn llonydd, yn ddistaw, silencing.
DYCHRYN, codi ofn, frightening.
CWDYN, a sack.
BANT, ymaith, i ffwrdd, away.
BUGAIL, un yn gwylio defaid, shepherd.
CALLACH, heb fod mor ffôl, wiser.
NI DDYLID... PLENTYN, a child should not be frightened.
AR GYFRIF YN Y BYD, on no account whatever.
SION Y SIMNEI, Jack in the chimney.
CYMDEITHION, cyfeillion, friends.
YM MYD Y PLANT, in child-world.
PEN Y RHINIOG, pen y drws, doorstep.
TAMAID, darn o fara, food.
YSMALA, digrif, funny.
EBOL, ceffyl bach, pony, colt.
CODI'N BEDAIR OED, yn agos i bedair oed.
PEDOL ARIAN, silver shoe.
RHEDEG A PHRANCIO, running and prancing.
MEINIR, merch ieuanc, maiden.
UGAIN MILLTIR, twenty miles.
FFRWYN, reins.
DONIOL, difyr, digrif, funny.
POBI, gwneud bara, kneading.
CORDDI, churning.
POPTY, tŷ crasu bara, bakehouse.
RHOSTU, rhostio, roasting.
PRYSUR YN YMDRWSIO, busy cleaning herself.
CYMYSG, mixed.
CYN BO HIR, before long.
MYND AM DRO YN YR HAF.
MR. GWILYM.—Dewch, blant, y mae'n brynhawn braf. Awn am dro ar y mynydd.
ALUN.—Pa ffordd yr awn, syr?
MR. G.—Awn heibio'r Felin Ddŵr draw. Dyma ni ar y llwybr yn barod, a byddwn ar y mynydd ymhen deng munud. Hyfryd fydd cerdded llethrau'r mynydd heddyw. Y mae'r tywydd mor dêg, a'r glaswellt a'r coedydd mor dlysion, a'r haul yn sirioli yr holl wlad o'n hamgylch. Beth ddywedsoch chwi, William—yr adar bach yn canu'n swynol? Ydynt, William; y mae adar Cymru, fel ei phlant, yn gallu canu'n bêr. Adar bach Gwlad y Gân, yntê?
OLWEN.—Mi glywaf sŵn yr afonig, Mr. Gwilym, ac y mae'r sŵn yn dod yn nes o hyd.
MR. G.—Ydyw, Olwen, am ein bod yn nesu at y nant. Ie, "Nant y Mynydd."
IORWERTH (yn dechreu adrodd),—
"Nant y mynydd groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu.
O na bawn i fel y nant."
MR. G.—Pwy ddywedodd fel yna am nant y mynydd, Iorwerth?
IORWERTH.—Ceiriog, syr.
MR. G.—Ie, siwr, Ceiriog ysgrifennodd y gân fach dlos yna. Beth ddywedodd Ceiriog am yr adar, Iorwerth?
IORWERTH,—
"Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn hedeg,
O na bawn fel deryn bach."
MR. G.—Ie. A ddywedodd Ceiriog rywbeth am flodau y mynydd?
IORWERTH.—Do, syr, dywedodd fod "grug y mynydd yn eu blodau" yn codi hiraeth arno, ac y carai fyw yn eu canol ar y mynydd. Yr wyf finnau, Mr. Gwilym, yn hoff iawn o'r mynydd, ac yn cyfrif fy hun yn "fab y mynydd" fel ag y gwnai y bardd Ceiriog.
MR. G.—Daliwch ati i ddarllen Ceiriog, Iorwerth; a disgwyliaf eich gweld yn blodeuo yn fardd enwog cyn hir.
Dyma ni wedi cyrraedd y nant. Gwrandewch arni yn "sisial ganu." Yr un gân sydd ganddi o hyd, a chân fach siriol yw hi. Tebyg iawn yw'r nant i'r oen, yn llawn bywyd i gyd.
Ie, yn troi y ffordd yma ac wedyn y ffordd acw,—"yn ymdroelli tua'r pant."
GRUFFYDD.—Tra 'rym ni yn dringo i fyny, y mae'r nant yn mynd i lawr, i lawr o hyd. I ba le yr a, syr? Onid i'r môr?
MR. G.—Ie, i'r môr, Gruffydd. Fel hyn y dywed y bardd Eifion Wyn,—
"Hiraeth sydd arni,
Ac nid yw'n ei golli,
Nes cyrraedd yn ol,
Y môr iddi hi."
Dywed hefyd fod y nant yn wylo, fel caethes fach, o eisieu ei rhyddid.
OLWEN.—Ai dyma'r brwyn, syr?
MR. G.—Ie, Olwen.
"Rhwng y brwyn yn sisial ganu."
RHYS. Paham y dymunai Ceiriog fod "fel y nant?"
MR. G.—Mi welaf beth sydd yn ddyrus i chwi, Rhys. Nis gellwch ddeall paham y carasai y bardd fod fel y nant, a hithau'n wylo, ac yn gaeth, yn ol Eifion Wyn.
RHYS.—Ie, syr, dyna sydd yn ddyrus i mi.
MR. G.—Yn awr, sut y gallaf egluro i chwi? Peth bach siriol oedd y nant i'r bardd Ceiriog; yn llawn bywyd fel yr ydych chwi i gyd heddyw; ac yr oedd ef yn hiraethu am fod yr un fath a hi,—am fod yn blentyn bywiog fel cynt. Ond y mae Eifion Wyn yn clywed rhywbeth gwahanol yng nghân y ffrwd. Clyw sŵn hiraeth am gartref a chyfeillion.

Rhwng y brwyn yn sisial ganu;
"O na bawn i fel y nant."
RHYS.—Yr wyf yn ei deall hi'n awr. Nid yr un hanes ddywed yr afonig wrth y ddau fardd.
MR. G.—Nage, siwr, Rhys. Eto, y mae'r ddau fardd a'r ddau hanes yn ein helpu i garu'r nant fach yn fwy nag erioed o'r blaen. Cofiwch, blant, fod y nant yn dysgu gwersi pwysig i ni i gyd. Beth sy'n troi yr olwyn ddŵr acw?
ARTHUR.—Y nant, syr. Hefyd, dyfrhâ gaeau y pant.
MR. GWILYM.—Wel, dyna ddau waith pwysig iawn. Dyfrhau y caeau fel y tyfo'r borfa a'r gwenith, a throi y felin ddŵr i wneud blawd. Helpa i fwydo dyn, ac anifail y maes.
OLWEN.—Nid yw'r afon yn aros i chwareu. Y mae'n dal i fynd o hyd.
ALUN.—Gweithia dan ganu, syr.
RHYS.—Una â nentydd ereill i wneud un afon gref. Fe ddylem ninnau fod fel y nentydd bychain, yn gyfeillion mawr i'n gilydd. "Mewn undeb y mae nerth."
MR. G.—Rhagorol. Bydded i ni gofio gwersi Nant y Mynydd, a byddwn o les i'n gilydd yn yr Ysgol Gymraeg, ac i ereill tu allan i'r ysgol.
Awn yn ol yn awr. Disgwyliaf i chwi ysgrifennu ychydig o hanes y daith hon cyn diwedd yr wythnos; a charwn i chwi oll ddysgu y ddwy gân y soniwyd am danynt, sef yw y rhai hynny, cân Ceiriog a chân Eifion Wyn.
GEIRFA.
PRYNHAWN, afternoon.
LLWYBR, ffordd, path.
LLETHRAU'R MYNYDD, hillsides.
GLASWELLT, grass.
SWYNOL, peraidd, melys, sweetly.
AFONIG, afon fach, nant, brook, rivulet.
YMDROELLI, troi y ffordd yma a'r ffordd acw, winding, meandering.
BRWYN, rushes.
TRUM, height, ridge.
HEDEG, flying, flitting.
GRUG Y MYNYDD, mountain heather, ling.
HIRAETH, longing.
CYFRIF FY HUN, consider myself.
DALIWCH ATI, ewch ymlaen, continue, persevere.
BARDD ENWOG, noted bard.
CYRRAEDD, arriving.
WYLO, crio, weeping.
CAETHES, merch gaeth, slave.
DYRUS, anodd ei ddeall, puzzling.
EGLURO, rhoi ar ddeall, explaining.
BYWIOG, llawn bywyd, full of life, lively.
GWAHANOL, different.
PWYSIG, gwerthfawr, important.
OLWYN, rhôd, wheel.
DYFRHAU, rhoi dwfr, watering.
PORFA, bwyd anifail, pasture.
GWENITH, wheat.
UNO, gwneud yn un, uniting.
O LES I'N GILYDD, helpful to each other.
TAITH, y tro ar y mynydd, walk, journey.
Y SONIWYD AM DANYNT, that were mentioned.
Y GARDDWR BACH.
AR fore têg ym mis Mai diweddaf, yr oedd Mr. Gwilym yn mynd am dro; ac ar y ffordd i'r mynydd, ai heibio tŷ un o'i ddisgyblion, sef Alun Puw. Digwyddai Alun fod yn yr ardd, ac arhosodd yr athro i siarad gydag ef am beth amser. Dyma'r ymgom a fu rhyngddynt y bore hwnnw,—
MR. GWILYM.—Bore da, Alun. Beth ydych yn wneud?
ALUN.—Yn garddu, syr. Garddwr bach wyf fi yn trin yr ardd. Dysgais i ddechreu yn yr ysgol, ac yr wyf am ddal ati. Nid oes gwaith mor hyfryd.
MR. G.—A fedrwch chwi balu'r ardd, Alun?
A.—Medraf, syr. Y mae gennyf raw bâl brynnodd fy nhad i mi yn y farchnad ddydd Sadwrn. Dyma hi.
MR. G.—Rhaw fach ddel yw hi, Alun. Ond beth ydych am ddodi yn yr ardd wedi ei phalu a'i thrin?
A.—Hadau blodau, Mr. Gwilym. Prynnais chwe math yn siop Mr. Llywelyn, ac hefyd yr wyf am fynd i'r caeau i chwilio am friallu.
MR. G.—Y rhosyn sy'n flodyn tlws, Alun. Y mae'n rhaid i chwi blannu ychydig o goed rhos.
A.—Addawodd gwas y Plas roddi dwy goeden rhos i mi, rhos gwynion a rhos cochion. Dyna le da am flodau o bob math, syr; ond dylid cofio fod
gŵr y Plas yn cadw tri garddwr mewn oed. Ac nid wyf fi ond ieuanc eto. Ond byddaf cystal garddwr a'r un ohonynt wedi i mi dyfu'n ddyn, oni fyddaf, Mr. Gwilym?
Mr. G.—Byddwch, Alun, ond i chwi barhau i edrych ar ol eich gardd fach. Dyna'r ffordd i lwyddo.
A.—A wyddoch lle y cefais y chwecheiniog i brynnu'r hadau, syr?
MR. G.—Na wn i, Alun.
A.—Wel, ddoe, yr oedd boneddwr yn y pentref eisieu rhywun i ddal pen ei geffyl tra yr ai i mewn i dŷ'r meddyg, sef Doctor Hughes. Gwelais ef yn edrych o'i gwmpas fel pe bai yn chwilio am fachgen i'w helpu. A gofynnais iddo a wnawn i'r tro. Dywedodd yntau fy mod braidd yn fychan, ond ei fod yn hoffi plant parod i helpu ereill. Addewais innau fod yn ofalus o'r ceffyl. Ac felly y bu. Aeth y boneddwr i dŷ'r meddyg; ac ymhen tua chwarter awr, daeth yn ol. Diolchodd i mi, a rhoddodd chwecheiniog gwyn i mi. O, yr oeddwn yn falch. Bum yn meddwl ers wythnos am brynnu hadau, ond nid oedd gennyf arian; ond, o'r diwedd, dyna'r arian yn fy llaw. Rhedais adref i ddweyd wrth fy mam.
MR. G.—Pwy oedd y boneddwr, Alun? A wyddoch. chwi?
A.—Na wn i, syr.

"Alun, y Garddwr Bach, a'i Raw Bâl."
MR. G.—Gŵr y Plas oedd ef; ac y mae'n caru plant. ufudd, a phlant parod i helpu ereill. A garech chwi fod yn arddwr yn y Plas, Alun?
A.—Hoffwn yn fawr, Mr. Gwilym, dyna waith wrth fodd fy nghalon.
MR. G.—Wel, Alun, hwyrach mai felly y bydd hi cyn bo hir. Daliwch ati, mi ddof heibio eto ryw ddiwrnod i gael gweld sut y byddwch yn llwyddo fel garddwr. Dydd da i chwi, Alun; cofiwch fi at eich rhieni.
A.—Dydd da, Mr. Gwilym. Bydd gennyf rosyn i chwi, y flwyddyn nesaf, os daw yr ardd ymlaen fel y dymunwn i.
MR. G.—Bydd yn bleser gennyf ei wisgo yn fy nghôt, am mai rhosyn fydd o ardd y Garddwr Bach.
* * * * *
Yna, aeth Mr. Gwilym rhagddo i fyny'r mynydd.
Pan ddaeth yr amser i Alun ymadael â'r ysgol, soniodd Mr. Gwilym wrth ŵr y Plas am y Garddwr Bach, a dywedodd yr holl hanes wrtho. Cofiai gŵr y Plas yn dda mor barod oedd Alun bach i'w helpu gyda'r ceffyl, ac anfonodd am dano i'r Plas.
Y mae Alun yn awyddus iawn i fod yn arddwr da; ac am ei fod yn gwneud ei oreu, y mae'n rhwym o lwyddo. Y mae'n fwy na thebyg mai efe fydd prif arddwr y Plas cyn hir.
Cofiwch fod yn blant parod i helpu ereill.
GEIRFA.
BRIALLU, primroses.
ADDAW, promising.
TRI GARDDWR MEWN OED, three grown-up gardeners.
LLWYDDO, succeeding.
II.
BONEDDWR, gentleman.
EDRYCH ... CHWILIO, looking around as if seeking for.
BRAIDD, rather.
GOFALUS, careful.
UFUDD, obedient.
PAROD, ready, eager.
YMADAEL, leaving.
ANFON, sending.
AWYDDUS IAWN, very eager.
YN RHWYM O LWYDDO, bound to succeed.
Y MAE'N FWY NA THEBYG, it is very likely.
Un o weithiau GWILYM HIRAETHOG (1802—1883). Wele chwe phennill o'r naw sydd yn y gân swynol hon.
CYFARCHIAD I WENNOL GYNTAF Y TYMOR.
WENNOL fwyn, ti ddaethost eto,
I'n dwyn ar go' fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croeso, croeso iti;
Nid oes unrhyw berchen aden,
Fwy cariadus na'r wenfolen,
Pawb o'th weled sydd yn llawen;
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.
Ha! mi wela'th fod yn chwilio
Am dy nyth o dan ein bondo,
Y mae hwnnw wedi syrthio,
Wennol, coelia di;
Nid myfi yn wir a'i tynnodd,
Gwynt a gwlaw y gaea' a'i curodd,
Yntau o ddarn i ddarn a gwympodd;
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.
Wennol dirion, paid a digio,
Gelli wneud un newydd eto;
A phe gallwn, gwnawn dy helpio—
Aros gyda ni.
Casglaf glai, cei dithau 'i weithio,
A chymeraf ofal trosto,
Rhag i'r 'deryn tô ddod iddo:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.
Wennol bach, paham diengi
Draw oddiwrthyf? Paid ag ofni:
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu 'rwyf fod gennyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych ymhlith dynion;
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.
Mae'th ddyfodiad, addfwyn wennol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymhorau,
Ac yn cadw dy amserau,
"Cymrwch rybudd, gwnewch fel finnau,"
Ydyw'r llais ymhob twi, twi.
Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw'th wisg yn lân a chryno,
A thithau'n trin y clai a'i ddwbio
Wrth wneud dy waith.
Hoffwn innau ddysgu honno—
Trin y byd a myned trwyddo,
Heb halogi'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno'm calon chwaith.
GEIRFA.
CYFARCHIAD, greeting.
WENNOL FWYN, gentle swallow.
DWYN AR GO', reminding.
| PERCHEN, possessor |
bird |
| ADEN, wing |
BONDO, roof-the overhanging part, eaves.
COELIA, believe.
PAID A DIGIO, do not pout.
CLAI, clay.
PAHAM DIENGI? why dost thou flee?
DINIWED, innocent.
CYWIR, true.
ANFYNYCH, uncommon, unusual.
DYFODIAD, coming, appearance.
GWERSI BUDDIOL, beneficial lessons.
YMWELED A NI, visiting us.
"CYMRWCH RYBUDD, take heed.
CAMP, feat.
GLAN A CHRYNO, clean and tidy.
TRIN Y CLAI A'I DDWBIO, mixing or kneading the clay (in building the nest).
TRIN Y BYD, dealing in worldly affairs.
HEB HALOGI'M ... CHWAITH. The little bird keeps itself clean (even while working in clay); and the poet says that he would like to learn that lesson. He would like to be able to go through life with a stainless character; and without giving too much thought to the affairs of this world.
RHIFYDDIAETH.
DYSGU RHIFO YN GYMRAEG.
I.—Prynnodd dyn chwe buwch am £100. Gwerthodd eu hanner am £20 yr un. Enillodd £20 ar y fargen. Faint oedd pris gwerthu y gweddill o'r gwartheg?
MR. GWILYM.—Ifor, darllenwch y gofyniad, os gwelwch yn dda. (Ifor yn darllen). Pwy o honoch all ei egluro? Neb. O'r goreu, gofynnaf ychydig o gwestiynau hwyrach y daw goleuni arno yn y man.
Dodir atebion y plant mewn cromfachau (brackets).
1. Faint roddodd y dyn am y gwartheg? (£100).
2. Faint enillwyd ar y fargen? (£20).
3. Faint dderbyniwyd wrth werthu? (£100 + £20—£120).
4. Beth oedd pris gwerthu hanner y gwartheg? (£20 yr un, ac yr oedd tair ohonynt, felly cafwyd 3 x £20—£60 am danynt).
IFOR.—Mi gwelaf hi'n awr. Cafodd y dyn £120 am yr oll, a derbyniodd £60 am dair o honynt; felly, y mae'n rhaid ei fod wedi derbyn £120—£60=£60 am y tair arall. Hynny yw, gwerthodd y gweddill am £60/3=£20 yr un.
MR. G.—Ie, dyna hi, Ifor. Yn awr, ysgrifenner y sum ar y llyfrau.
Ysgrifennwyd yr atebiad yn llawn ac yn ddestlus ar bob llyfr. Dyma waith Ifor,—
- Pris y gwartheg oedd..... £100
- Yr ennill ....£20
- Derbyniwyd am y chwech....£120
- Derbyniwyd am dair ohonynt....£60
- Derbyniwyd am y gweddill....£60
- Pris gwerthu un o'r tair....£60/3=£20
II.—Yr oedd dau ddyn yn gweithio gyda'i gilydd mewn glofa. Gweithiodd un ohonynt bob dydd am wythnos; collodd y llall ddau ddiwrnod. Ar ddiwedd yr wythnos, yr oedd cyflog y ddau gyda'i gilydd yn £4. Faint dderbyniodd bob un?
MR. G.—Pa sawl diwrnod weithiodd y cyntaf, Olwen?
OLWEN.—Chwech, syr. Ni ddylid cyfrif y Sul.
MR. G.—O'r goreu. Pa sawl diwrnod weithiodd y llall?
OLWEN.—Pedwar, syr.
IORWERTH.—Gofyniad hawdd yw, Mr. Gwilym.
MR. G.—Eglurwch ynte, Iorwerth.
IORWERTH.—Gweithiodd y dyn cyntaf chwe diwrnod, ac felly yr oedd chwe rhan o'r arian yn eiddo iddo; gweithiodd y llall bedwar diwrnod, a dylai yntau fod wedi derbyn pedair rhan.
MR. G.—Ie, ond sut y deuir o hyd i'r swm o arian dalwyd i'r naill a'r llall ohonynt?
IORWERTH.—Fel hyn, syr. Gwna chwe rhan y dyn cyntaf, a phedwar rhan yr ail ddyn, ddeg rhan. Rhanner y cyflog yn ddeg rhan cyfartal. Y mae 80 o sylltau mewn £4, ac felly y ddegfed ran yw 80/10Yr oedd cyflog y dyn cyntaf, felly, yn 6 x 8/- =£2 8 0, ac arian y llall yn 4 x 8/- =£1 12 0. Gwna y cyfanswm £4.
MR. G.—Eglurhad boddhaol iawn. Yn awr, dodwch y gwaith ar eich llyfrau, fel o'r blaen.
Gwaith Iorwerth oedd fel hyn,—
- 1. Gweithiodd y dyn cyntaf... 6 diwrnod
- A'r ail ddyn ... 4 diwrnod
- Gweithiodd y ddau ...10 diwrnod.
- 2. Rhanner y cyflog yn ddeg rhan. Un Rhan=80/10 =8/-
- 3. Derbyniodd y dyn cyntaf 6 x 8/- =£2 8 0
- Derbyniodd yr ail ddyn 4 x 8/- =£1 12 0
Dyna ddull yr Ysgol Gymraeg o ddysgu Rhifyddiaeth
GEIRFA.
RHIFO, counting.
RHIFYDDIAETH, arithmetic.
PRYNNU, buying.
GWERTHU, selling.
ENNILL, gain.
PRIS GWERTHU, selling price.
GOFYNIAD, question.
EGLURO, explaining.
HWYRACH, perhaps.
DESTLUS, tidy.
II.
GLOFA, colliery.
CYFLOG, wages.
CYFARTAL, equal.
BODDHAOL, satisfactory.
PAN DDAW YR HAF.
Un o ganeuon Mynyddog.
PAN ddaw yr haf a'i dyner hin
I lonni bro a bryn,
Cawn drwsio bedd y gaeaf blin
A blodau gwyrdd a gwyn;
Cawn weled myrdd o egin mân
Yn tyfu'n ngwres yr haul,
A chlywed cân yr awel lân
Ar dannau'r delyn ddail:
Cawn gasglu blodau hyd y glyn,
A rhodio'r dyffryn dir,
A chanu marwnad gaeaf gwyn
Ar goryn clogwyn clir.
Daw'r hâf i dynnu newydd gân
O dannau cangau'r coed,
Lle sang yr hâf mae meillion mân
Yn tyfu'n ôl ei droed;
Prydferthwch wisga am ei ben,
A'i ddwylaw'n llawnion sydd,
Ac ar ei fron mae'r lili wen
Mor deg a gwawr y dydd.
Cawn gasglu blodau, &c.
Ar wely'r hâf, ffarwel i'r rhew
Ro'i blaen ei droed i lawr,
A'r lle bu'r eira'n haenen dew
Daw haen o flodau'n awr;
Daw'r byd i wenu ar y nen
Mewn newydd wisg o ddail,
Daw hithau'r awyr las uwch ben
I wenu bob yn ail.
Cawn gasglu blodau, &c.
GEIRFA.
HIN, weather.
LLONNI, brightening.
EGIN MAN, buds, shoots.
MARWNAD, death-song, requiem, lament.
CORYN CLOGWYN, top of a crag.
SANGU, treading.
MEILLION, clover. A ydych yn cofio hanes Olwen?
GWAWR Y DYDD, dawn.
HAENEN, haen, layer.
GWYLIAU'R HAF.
HWRE! Y mae'r Ysgol Gymraeg yn torri heddyw am fis. Y mae gwyliau'r haf wedi dod. I ba le yr a'r plant i dreulio'r amser dedwydd y disgwyliwyd am dano cyhyd? Dyna oedd pwnc y wers lafar ryw fore hyfryd yn yr hâf diweddaf, a pha bwnc mor hapus, a'r gwyliau mor agos? Meddai Alun,―
"Yr wyf fi am fynd i lan y môr. Caf ymdrochi a dysgu nofio; mynd am fordaith mewn llong hwyliau neu long ager, a dysgu rhwyfo yn un o'r badau a welir ar y traeth yn Abermôr."
OLWEN.—Af finnau i'r wlad i gasglu blodau tlysion yn y caeau, i weld yr ŵyn yn chwareu, ac i glywed yr adar yn canu yn y coed sydd o amgylch tŷ fy nain.
MORWEN.—Hoffaf finnau hefyd y wlad. Y mae fy modryb yn byw mewn ffermdy yn agos i Aberystwyth a phan af yno yr wythnos nesaf, gwelaf y forwyn yn godro'r gwartheg, a'r gwas yn corddi. Ar ol i'r gwas orffen corddi, bydd y forwyn yn casglu y menyn oddiar wyneb y llaeth, ac yn ei wneud yn bwysi, gan roddi llun buwch ar bob pwys, i bawb yn y farchnad wybod mai menyn o ffermdy modryb fydd hwnnw.
IORWERTH.—Ond ceir mwy o hwyl ar lan y môr. Nid hwyl llong wyf yn feddwl. Ceir mwyniant wrth chwareu â'r asynod, wrth ddal crancod, a thra yn casglu cregin a cherrig gwynion.
WILLIAM.—Ie, yn wir, Iorwerth. Beth sy'n fwy pleserus na chwareu yn y tywod? Hwyl iawn yw gwneud castelli.
ARTHUR.—Ond y mae mwy o le i chwareu yn y wlad.
ESTHER.—Na, nid wyf yn credu fod mwy o le i chwareu yn y wlad. Beth am y traeth eang, a'r parciau a'r gerddi blodau?
ARTHUR.—Ie, ond y mae'n rhaid talu am fynd i bobman ar lan y môr.
ESTHER.—Ni raid talu am fynd i'r parciau a'r gerddi blodau, ac y mae'r traeth yn rhydd i bawb.
ARTHUR.—Wel, lle i fabanod yw'r tywod. A ydych yn disgwyl i blant mawr fel nyni fwynhau ein hunain gyda'r babanod yn y tywod?
ESTHER.—Gobeithiaf nad ydych wedi tyfu gormod i helpu eich chwaer fach, Arthur. Y mae llawer o fwyniant i'w gael drwy helpu ereill. Bu rhywrai yn gofalu am danom ni, a ni eto yn rhy fychain i ofalu am danom ein hunain, a dylem gofio hynny.
MR. G.—Da iawn, Esther. Wel, William, beth sydd ar eich meddwl? Gwelaf fod arnoch eisieu dweyd rhywbeth.
WILLIAM.—Carwn wybod dau beth, Mr. Gwilym. O ba le y daeth y tywod? Hefyd, i ba le yr a'r môr pan yr a allan ymhell oddiwrth y lan?"
Dau ofyniad call. Ond, fel llawer o ofyniadau plant, rhai anodd eu hegluro i rai ieuainc. Modd bynnag, gwnaeth Mr. Gwilym ei oreu i egluro tarddiad y tywod, gan ddangos fel y malai'r môr gerrig yn ronynau, ac fel yr ai y rhai hynny yn fanach a mwy crwn wrth ruglo yn erbyn ei gilydd ar y traeth. A cheisiodd ddangos fel y mae'r lleuad yn achosi y llanw a'r trai. Ar hyn, dyna Arthur ar ei draed.
ARTHUR.—Yn yr haf, adeg y cynhaeaf, gwelir dynion yn lladd gwair, ac yn ei gludo i'r dâs.
MYRDDIN.—Ond lle unig iawn sydd yn y wlad, a'r ffordd yn faith i gapel ac eglwys. Eto, ychydig o siopau sydd yno; ac y mae pawb yn mynd i'w gwelyau yn gynnar, gynnar.
ARTHUR.—Ie, lle unig i rai heb arfer byw yno, a lle distaw. Y mae llawer o hen bobl yn byw yn y wlad. Ai dyna paham, Mr. Gwilym, am fod yno le mor dawel?
MR. G.—Awyr iach, bwyd cryf, bywyd tawel a digyffro yw rhai o fanteision bywyd yn y wlad, Arthur; ac y mae pob un ohonynt yn helpu pobl y wlad i fyw yn hir a marw'n hen.
WILLIAM.—A oes gwahaniaeth rhwng lle a lle i un afiach? Clywais y meddyg yn dweyd wrth fy nhad am fynd i'r ffynhonnau er lles ei iechyd, ac yntau wedi meddwl cymaint am dreulio y gwyliau yng Nghaergybi.
MR. G.—Gofyniad da eto. Dylai pobl afiach ofyn i'r meddyg enwi'r lle goreu er lles eu hiechyd. Gŵyr efe am leoedd cyfaddas i gyfarfod â'r gwahanol afiechydon. Yn aml y mae'n anfon y claf o ochr y mynydd i lan y môr, a'r afiach o lan y môr i wynt y mynydd. Ond dewis lleoedd i ymbleseru wna yr iach, fel rheol.
Fel hyn y bu'r dadlu drwy'r wers. Ni ddywedwyd un gair gan rai o'r plant, er iddynt wrando yn astud ar yr holl ymddiddan. Gwelid deigryn ar rudd ambell un. Y gwir yw, mai plant bach tlawd oedd y rhai hyn, heb obaith am wyliau ar lan y môr nac yn y wlad. Ond, os na chaiff y plant bach tlawd fynd am dro oddicartref eleni, daw amser y cânt hwythau hefyd fwynhau eu hunain ar y traeth ac ar gaeau'r wlad, ond iddynt ymdrechu eu goreu i dyfu'n fechgyn a merched da.
GEIRFA.
GWYLIAU, holidays.
TREULIO, spending.
DEDWYDD, hapus, happy.
CYHYD, cymaint o amser, so long.
PWNC, testyn, subject.
YMDROCHI, bathing.
NOFIO, swimming.
MORDAITH, sea-voyage.
LLONG HWYLIAU, sailing ship.
LLONG AGER, steamer.
RHWYFO, rowing.
RHWYFAU, oars.
BAD, cwch, boat.
MODRYB, aunt.
GODRO, milking.
CORDDI, churning.
PWYSI, pounds (of butter).
MWYNIANT, difyrrwch, enjoyment, fun.
ASYNOD, mulod, donkeys.
CRANCOD, crabs.
CREGIN GWYNION, white shells.
TRAETH, beach.
TYWOD, sand.
GOBEITHIAF, I hope.
DYLEM GOFIO, we should remember.
CARWN WYBOD, I should like to know.
ANODD EU HEGLURO, difficult to explain.
TARDDIAD, dechreu-ad, source.
MALU, torri'n fân, breaking to pieces.
GRONYN, darn bach, grain.
MANACH, llai, smaller; CRWN, round.
RHUGLO, rubbing; LLEUAD, moon.
Y LLANW A'R TRAI, the tides.
CYNHAEAF, harvest; LLADD GWAIR, cutting hay.
CLUDO I'R DAS, carrying to the hayrick (stack).
UNIG, lonely; maith, hir, long.
YCHYDIG, few; CYNNAR, yn fuan, early.
ARFER, custom, habit.
DI-GYFFRO, heb fwstwr, calm.
MANTAIS, advantage.
GWAHANIAETH, difference; AF-IACH, ill, ailing.
MEDDYG, doctor; FFYNHONNAU, wells.
IECHYD, health; CYFADDAS, suitable.
AFIECHYDON, ailments; CLAF, invalid.
YMBLESERU, enjoying one's self.
FEL RHEOL, as a rule; DADLU, discussing.
YN ASTUD, attentively; YMDDIDDAN, chat.
DEIGRYN, dagrau, tear, tears.
GRUDD, gruddiau, cheek, cheeks.
HEB OBAITH, without hope.
ELENI, y flwyddyn hon, this year.
YMDRECHU EU GOREU, trying their best.
LLYTHYR O'R WLAD.
DYFFRYN MWYN,
Awst 12fed.
ANWYL FYRDDIN,
Prysuraf i ysgrifennu gair bach atat, yn ol fy addewid, gan obeithio eich bod oll yna yn iach, ac yn treulio amser difyr iawn. Yr wyf fi wrth fy modd, ac nid oes arnaf ddim hiraeth hyd yn hyn.
Gresyn na fuaset yma gyda mi,—ond hwyrach dy fod tithau yn meddwl yr un fath am y lle yna. Mi weli nad wyf wedi anghofio ein dadl yn yr ysgol y dydd o'r blaen. Ond, i ddweyd fy hanes.
Y mae fy ewythr wedi prynnu merlyn bach du, ac yr wyf ar ei gefn bob dydd. Bob yw ei enw; ac y mae ef a minnau'n gyfeillion mawr. Ar ol iddo gael darn o siwgr gennyf, aiff ar garlam gwyllt. Ar y dechreu yr oedd arnaf ei ofn; ond, erbyn hyn, goreu po gyflymaf yr a.
Bum ar ei gefn i'r farchnad y Sadwrn diweddaf. Y mae tair milltir o ffordd i Aberteg, a lle rhyfedd sydd yno, prynnu a gwerthu pob math o bethau,—ceffylau, gwartheg, moch, defaid, troliau, cerbydau, gwlanen, a chant a mil o bethau ereill. Gwerthodd fy ewythr dair buwch, a phrynnodd ddau geffyl a phum dafad. Cawsom hwyl fawr drwy'r dydd, ac yr oedd yn agos i ddeg o'r gloch arnom yn cyrraedd yn ol.

Arthur ar gefn Bob.
Hen arferion doniol sydd yn y wlad. Dydd Llun, yr oedd William y Wern yn priodi Ellen y Ffaldau, a gwelais y rhedeg am y deisen. Pan ddaeth y pâr ieuanc o'r eglwys ar ol y priodi, yr oedd chwech o fechgyn ieuainc y pentref yn sefyll yn barod i gychwyn am ben y bryn gerllaw, tua milltir o ffordd. Rhoddwyd yr arwydd, ac ymaith a hwynt nerth traed. Gan fod y ffordd yn unionsyth, gallem eu gweld yn mynd am bellter. Mawr oedd y disgwyl am eu gweld yn dychwelyd; oblegid y cyntaf yn ol at ddrws yr eglwys fyddai'n ennill y deisen. A'r goreu y tro hwn oedd William y gôf. Hwyl bechgyn y wlad, yntê?
Y mae'r gwair i gyd o dan dô, ac y mae fy ewythr yn darparu ar gyfer y cynhaeaf ŷd; ond mi fyddaf yn ol yn y Pentref ymhell cyn hynny, gwaetha'r modd.
Anfonaf air eto cyn bo hir i adrodd hanes ffair Rhosgoch. Dydd Llun nesaf y cynhelir honno, ac y mae Iago, fy nghefnder, a minnau am fynd yno, os bydd yn dywydd braf a phopeth yn ffafriol.
Dyma ddigon y tro yma. Cofia anfon ychydig o'th hanes, i mi gael gwybod a wyt yn meddwl cymaint o lan y môr yn awr.
Gyda'r cofion goreu,
Oddiwrth dy anwyl gyfaill,
ARTHUR.
- Myrddin Owen,
- Bryn y Don, Abermôr.
GEIRFA.
PRYSURAF, gwnaf frys, I hasten.
ADDEWID, promise.
WRTH FY MODD, "in my element," enjoying myself.
NID OES ARNAF HIRAETH, I do not long.
GRESYN, it is a pity.
AR GARLAM GWYLLT, on a wild gallop.
YR OEDD ARNAF OFN, I was afraid.
RHYFEDD, odd, funny.
CERBYDAU, carriages.
GWLANEN, flannel.
ARFERION DONIOL, queer customs.
TEISEN, cake.
PRIODI, marrying.
ARWYDD, sign.
NERTH TRAED, nerth coes, as hard as they could pelt.
UNIONSYTH, straight.
DYCHWELYD, dod yn ol, returning.
ENNILL, winning.
GWAETHA'R MODD, the more is the pity.
CYNHELIR, is held.
CEFNDER, male cousin;
CYFNITHER, female cousin.
COFION GOREU, best regards.
LLYTHYR O LAN Y MÔR.
ABERMÔR,
Awst 14eg.
ANWYL ARTHUR,
Diolch yn fawr i ti am y llythyr. Prysuraf i ateb yn ol dy gais, ac yn ol fy addewid cyn y gwyliau.
Yr wyf finnau wrth fy modd, ac yn hoffi y môr yn fwy-fwy bob dydd. Son yr oeddit am y merlyn bach, del, a brynnodd dy ewythr. Wel, nid oes gennyf ferlyn, ond y mae yma gwch, ac yr wyf wedi dysgu rhwyfo yn lled dda. Hefyd, bum yn pysgota drwy'r dydd ddoe, ac ês a llond basged o bysgod adre i mam.
Y mae fy nghefnder wedi fy nysgu i nofio, ac yr wyf yn falch fy mod wedi cael cyfle i ddysgu peth mor ddefnyddiol. Awn allan bob bore gyda'n gilydd cyn i mam a nhad godi. Eto, yn y prynhawn, a'r dydd yn wresog iawn, awn yr ail waith i'r dŵr.
Bu yn ystorm fawr yma neithiwr, a galwyd y bywyd-fad allan. Yr oedd llong fawr mewn perygl tu allan i'r hafan. Aeth y morwyr dewr i'r bad, ac allan a hwynt yn nannedd yr ystorm i achub y trueiniaid oedd ar fwrdd y llong. Ar ol ymladd yn galed, cyrhaeddasant y llestr a deuwyd a'r morwyr i'r lan yn ddiogel. Bechgyn dewr yw dwylaw y bywyd-fad. Mawr oedd y cyffro ar y lan, tra'r oeddem yn gwylio y bad yn mynd allan, ac yn ei ddisgwyl yn ol drachefn.
A fuost ti mewn goleudy erioed? Mi fum i ddydd Mawrth diweddaf. Y tu allan, edrych rhywbeth yn debyg i felin wynt heb hwyliau, ond ei fod yn uwch o lawer. Wedi dringo'r grisiau sy'n arwain i'r rhannau uchaf, daethom i ystafell y llusern. Beth feddyliet ti o wydr llusern tua dwy i dair modfedd o drwch? Dywedaf yr holl hanes wrthyt ar ol dychwelyd, byddai yn rhaid cael llyfr go fawr i egluro popeth a welais yn y goleudy.
Mi fyddwn ni, yn Ysgol y Pentre, yn son am broblemau; dyma i ti un fum i yn meddwl am dani y dydd o'r blaen,—Beth yw rhif mân dywod y môr?
Bydd gennyf lawer iawn o bethau i'w hadrodd wrthyt ar ol dychwelyd i'r Pentre. Sut y mae Rhys yn treulio ei amser yn Llundain? A glywaist oddiwrtho? Nid wyf fi wedi derbyn gair. Melys fydd hanes ein teithiau pan y cawn gyfarfod â'n gilydd unwaith eto.
Cofia fi at dy rieni, ac at unrhyw gyfeillion sydd yna gyda thi.
Yn fler, ac ar frys mawr,
Gyda'r cofion goreu,
Oddiwrth dy hen gyfaill,
MYRDDIN.
- Arthur Wynn,
- Llawr y Cwm, Dyffryn Mwyn.

"Myrddin a'i Gwch."
GEIRFA.
RHWYFO, rowing.
PYSGOTA, dal pysgod, fishing.
CAEL CYFLE, cael mantais, afforded a chance.
DEFNYDDIOL, useful.
GWRESOG, warm.
GALWYD Y BYWYD-FAD ALLAN, the life-boat was called out.
PERYGL, danger; HAFAN, harbour.
Y TRUEINIAID, y dynion truain, the wrecked persons.
DWYLAW (Y LLONG), dwylo, crew.
AR FWRDD Y LLONG, on board ship; on deck.
LLESTR, vessel, ship; DIOGEL, safe.
CYFFRO, excitement; GOLEUDY, light-house.
MELIN, mill; GRISIAU, steps.
YSTAFELL, room; LLUSERN, lamp.
MODFEDD, inch; TRWCH, thickness.
TEITHIAU, journeys; DERBYN, receiving.
UNRHYW, any; BLER, untidy.
AR FRYS MAWR, in a great hurry.''
BUGEILIO'R GWENITH GWYN.
Un o ganeuon Ceiriog.
EISTEDDAI merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodau'n dryfrith,
I gadw'r adar bach i ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith;
Rhoi ganiatad i'r deryn tô,
A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.
Pan welot tithau eneth wan
Yn gofyn am dy gymorth;
Wrth gil y drws, a glywi di
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i'w gweddi,
Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw
Yn meddwl am roi iddi.
Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;
A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunit fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A'r heulwen yn haelionus:
Wel, dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia'th frawd anghenus.
GEIRFA.
BUGEILIO, watching;
GWENITH, wheat.
CAMFA, stile.
A'I PHEN ... DRYFRITH, her head covered with flowers.
CANIATAD, permission.
DERYN TÔ, sparrow.
ASGELL FRAITH, chaffinch.
EOS, nightingale.
TEIMLAD, feeling.
CYMORTH, help.
YMBIL, pleading, prayer.
YMBORTH, food.
BENDITH, blessing.
GOGWYDDA GLUST, listen to.
GWEDDI, prayer.
GWLITH, dew.
MEDI, reap.
BETH A HEUI, what thou sowest.
DYMUNO, wishing.
HAELIONUS, generous.
AR DIR Y TLAWD, among the poor.
ANGHENUS, needy.
DIFYRRWCH PLANT.
UN diwrnod tesog ym mis Mehefin diweddaf, eisteddai nifer o blant yr Ysgol Gymraeg ar gae yr ysgol, gan ymgomio'n ddifyr â'i gilydd. Y mae cae eang yn perthyn i'r ysgol, wedi ei fritho â choed heirdd. Yn un pen, gwelir gardd flodau, gardd y plant, ac y maent yn hoff iawn o honi. O flaen yr ardd flodau yr eisteddai'r plant, a'r coed yn eu cysgodi rhag gwres tanbaid yr haul. Plant hapus mewn lle hyfryd, onide?
Beth oedd testun yr ymgom?
Ar ol tynnu'n nes atynt, deallais mai holi ac ateb oedd yn mynd ymlaen. Y mae gan y Sais bach ei conundrum, felly hefyd y Cymro. A dyma nifer o'r gofyniadau a'r atebion a glywais gan y plant.
Beth sydd yn mynd heb symud o'i le? Cloc.
Beth yw diod ceffyl y brenin? Dwfr.
Beth sydd yn mynd yn hwy wrth dorri ei phen? Ffôs.
Beth sydd mor hen a'r mynyddoedd? Dyffrynnoedd.
Paham y mae defaid gwynion yn pori mwy na defaid duon? Am fod mwy ohonynt.
Pa beth yw bryn bach syth nas gall neb ei ddringo? Wy.
Beth sydd erioed, ac nid yw eto ond mis oed? Y Lleuad.
Beth sydd yn y môr, nad yw yn y tir;
Nid yw yn y clawdd, y mae yn y ffôs;
Nid yw yn y cae, y mae yn y rhos;
Nid yw yn y fuwch, y mae yn y llo? Y llythyren O.
Doniol oedd rhai o'r atebion, a mawr y chwerthin a glywid yn llenwi y lle.
"Wel," meddai Rhys, "y mae gen i ofyniad mwy dyrus na'r un o'r rhai yna."
"Beth yw ef?" gofynnai Llywelyn.
"Dyma fe,—Yr oedd gan ddyn lwynog, gŵydd, ac ysgub o geirch i fynd dros afon. Nis gallai fynd a dim ond un ar y tro. Pe buasai yn mynd a'r llwynog drosodd yn gyntaf, buasai'r wydd yn bwyta'r ceirch; pe buasai yn mynd a'r ceirch, buasai'r llwynog yn lladd yr ŵydd. Pa fodd yr aeth trosodd heb golli yr un?"
Nis gallai yr un ohonynt ateb yn gywir, er i un neu ddau geisio ei oreu. O'r diwedd, cafwyd yr atebiad gan Rhys ei hun. A dyma'r atebiad,—
"Aeth a'r ŵydd trosodd yn gyntaf, ac aeth yn ol i geisio'r llwynog, ac aeth ag ef trosodd. Aeth a'r ŵydd yn ol drachefn pan yn ceisio'r ceirch, ac aeth a'r ceirch trosodd. Ac yn olaf, aeth i geisio'r wydd."
"Un hawdd yw hwnna," meddai Ifor.
"Ie," meddai Mr. Gwilym, yr hwn oedd wedi bod yn gwrando yn ddiarwybod i'r plant, "hawdd yw popeth ond ei ddeall. Gwelaf eich bod yn difyrru eich hunain â gofyniadau plant y wlad, a'ch bod wedi casglu nifer mawr o'r gofyniadau fu'n diddori llawer aelwyd am flynyddau. A wyddoch chwi beth yw 'darn heb atalnodau?' Y mae Rhys ar ben y rheng am ateb heddyw, ond carwn ei glywed yn ceisio darllen y dernyn canlynol yn gywir." Ar hyn, dyna Mr. Gwilym yn ei roddi i Rhys i'w ddarllen. Dyma'r darn,-
Gwelais ddyn du gwyn yw'r eira coch oedd lliw y rhosyn melin ddŵr sy'n troi y ceffyl sydd anifail gwerth ceiniog yw'r papur gwelais bluen ci Dafydd oedd y 'deryn bach yw cyfaill plant y Pentre 'deryn tlws yw cath oedd ar y goeden am ei fwyta.
Bu Rhys yn cynnyg yn galed am amser, a'r plant ereill yn chwerthin yn braf wrth ei glywed yn son am "ddyn du gwyn," "rhosyn melin," a "cheffyl gwerth ceiniog." Ond gwnaeth well gwaith nag amryw o'r gweddill o'r plantos. Soniodd Dafydd am "bluen ci," a dywedodd mai "deryn tlws yw cath." Olwen oedd yr ymgeisydd goreu o lawer, a thynnodd Mr. Gwilym rosyn oddiar goeden gyfagos a rhoddodd ef yn wobr iddi am ddarllen y darn heb atalnodau mor gywir ar y cynnyg cyntaf.
Beth feddyliwch chwi, blant cymoedd poblog Cymru, am ddifyrrwch plant y wlad? A garech chwi dreulio blwyddyn mewn ysgol yn un o rannau gwledig Cymru?

Pos dyrus: Y Llwynog, Yr Wydd, a'r Ysgub.
GEIRFA.
YMGOMIO, siarad, chatting.
EANG, mawr, extensive.
PERTHYN, attached, belonging.
WEDI EI FRITHO Â, spotted with.
CYSGOD, shadow.
GWRES, heat.
TANBAID, fel tân, hot; HWY, longer.
DYFFRYN, cwm, vale; SYTH, steep.
LLEUAD, lloer, moon; CLAWDD, hedge.
FFÔS, ditch;
DYFALU, ceisio gwybod, guessing.
RHESTR, list;
UCHOD, above.
DONIOL, difyr, amusing.
YSGUB O GEIRCH, a sheaf of oats.
YN OL DRACHEFN, back again.
DIARWYBOD, unaware, unknown; FU'N DIDDORI, which amused.
ATALNODAU, stops, punctuation marks.
CANLYNOL, following; MELIN DDŴR, water mill.
PLUEN, feather; CYNNYG YN GALED, ceisio ei oreu, trying hard.
GWEDDILL, rhai oedd ar ol, remainder.
YMGEISYDD, un yn ceisio, competitor.
CYFAGOS, yn ymyl, gerllaw, near at hand.
GWOBR, prize.
CYNNYG CYNTAF, first attempt.
HANES CYMRU.
(Seiliedig ar "Hanes Cymru," Syr Owen M. Edwards, M.A.)
I. DYSGU HANES CYMRU.
YN awr ac yn y man, ymwêl y prif athro â dosbarth i arholi y plant yn hanes eu gwlad. Hanes Cymru yn gyntaf, hanes Lloegr yn ail,—dyna ddull dysgu hanes yn yr Ysgol Gymraeg. Gŵyr y plant fwy am Glyndwr nag a wyddant am William the Conqueror. Cyn dysgu hanes deddfau Harri'r Cyntaf, y maent wedi clywed am gyfreithiau Hywel Dda. A dyna'r rheswm paham y carant eu gwlad gymaint,—y maent yn hyddysg yn ei hanes. Anodd yw parchu gwrthrych nas gwyddir dim am dano. A cham mawr â phlant Cymru yw dysgu iddynt hanes gwledydd estronol, a hwy eto yn amddifad o hanes eu cartref eu hun.
Teimla pob un o blant yr ysgol hon mai anrhydedd mawr yw bod yn Gymro o waed coch cyfan. Plant balch o'u gwlad ydynt, gan gofio eu haniad o'r Iberiad a'r Brython. Teimlant mai gwyrda y wlad ydynt.
Awn ymlaen at y dosbarth i glywed yr holi a'r ateb. Gwrendy y plant yn astud, tra y mae'r prif athro yn holi.
II.—YR IBERIAD A'R CELT.
MR. GWILYM.—Ie, yr Iberiad bach ddaeth i Brydain gyntaf. Sut un oedd efe, William?
WILLIAM.—Dyn byrr, egwan, pryd tywyll; hir ei ben, a du ei wallt a'i lygaid. Mewn ogof yr oedd yn byw.
MR. G.—A oedd ganddo arfau rhyfel, llestri, a phethau ereill, fel sydd gennym ni?
WILLIAM.—Nac oedd, syr. O gerrig nadd y gwnai ei holl offer; ni wyddai ddim am haearn a phres.
MR. G.—A wyddoch ychwaneg am dano, Ifor?
IFOR.—Tipyn o freuddwydiwr oedd y dyn bach du, syr. Nid oedd yn rhy hoff o waith. Hefyd, collodd ei iaith; a dyna paham y sonir cyn lleied am dano. Gwyddom fwy am y Celt am mai iaith y Celt yw'r Gymraeg.
MR. G.—O'r goreu, Ifor. Goronwy, pwy ddaeth yma ar ol yr Iberiad bach?
GORONWY.—Y Celt, syr. Dyn tal, cryf, pen-grwn, pryd goleu, llygad-las, coch ei wallt. Rhyfelwr mawr, a dyn llawn ynni oedd efe.
MR. G.—Disgrifiad da o'r Celt. Beth am offer y genedl hon?
GORONWY.—Medrai y Celt weithio haearn a phres. Nid oedd ei arfau mor arw a bler.
MR. G.—Beth ddaeth o'r Iberiad, Hywel?
HYWEL.—Trechwyd ef gan y Celt. Yna unodd y ddwy genedl â'i gilydd.
MR. G.—Oni ddaeth y Celtiaid trosodd ar ddwywaith, neu yn ddwy haid?
HYWEL.—Do, syr. Y Gwyddyl ddaeth trosodd gyntaf, yna y Brythoniaid.
MR. G.—O ba le y daeth yr Iberiaid a'r Celtiaid?
HYWEL.—Crêd ysgolheigion iddynt ddyfod ar draws Ewrob o'r dwyrain pell.
MR. G.—Sut y gwyddom hanes y cenhedloedd hyn? Ymgomiwn yn awr am bobl oedd yn byw ym Mhrydain cyn dechreu hanes. Awn yn ol am gyfnodau maith hyd adeg pan nad oedd son, hyd yn oed, am dorri llythrennau ar garreg neu femrwn.
IORWERTH.—Weithiau, deuir ar draws beddau ar lethrau'r mynyddoedd. Bedd hir yr Iberiad a bedd crwn y Celt. Hefyd, weithiau, gwelir olion y ddwy genedl yn yr un bedd. Dyna paham y dywedir i'r ddwy genedl uno â'i gilydd.
MR. G.—Da iawn. Ie, fel yna y dysgir hanes y gorffennol,—trwy ymchwil manwl dynion dysgedig. Chwi gofiwch mai'r Iberiad bach yw'r canwr a'r bardd sydd yng Nghymru heddyw; ac mai'r Celt roddodd i ni ein natur danbaid, anibynnol. I'r Iberiad y perthyn yr Eisteddfod, yr angladd Cymreig, y bregeth, y gymanfa ganu, a'r cyfarfod llenyddol. Ysbryd y Celt sy'n gyrru'r Cymro. ieuanc i wladychu mewn gwledydd tramor. Yno, fel rheol, llwydda mewn masnach, a gwelir ef yn aml yn rheoli gweithfeydd ei gartref newydd. Nid â chleddyf yr ymladd y Celt heddyw, eithr, yn hytrach, â'i feddwl. Yr un yw ein natur ni ag eiddo'r ddau ddyn hyn, a dyma y rheswm nas gellid gwneud Saeson o honom, er gwaethaf pob ymdrech a wnawd yn y gorffennol i ladd yr iaith Gymraeg, ac i droi Cymru yn rhan o Loegr.
III.—DERWYDDON.
MR. G.—Cyfnod cyn hanes oedd ein testun yn y wers o'r blaen. Heddyw, holwn hanes trigolion Prydain oddeutu amser Cesar. Gwyddoch mai'r Rhufeiniaid ddaeth yma ar ol y Brythoniaid. Ond, cyn chwilio i mewn i'w helynt hwy, da fyddai cael disgrifiad bras o hanes crefydd y derwyddon, eu duwiau, a'u haberthau. Ceir darlunio ar grefydd Celt y Cyfandir yng ngweithiau Cesar; a chan mai oddiwrth yr Iberiad y cawsant hwy eu crefydd, mwy na thebyg yw mai dyna hanes crefydd Prydain y pryd hwnnw.
Dechreuwn gyda Rhys.
Beth oedd gwaith y Derwyddon?
RHYS.—Arolygu crefydd, dysgu'r ieuanc, a barnu achosion. Gelwid y prif un ohonynt yn archdderwydd.
MR. G.—Ie, edrych ar ol popeth crefydd; dysgu'r plant, dysgu ar gôf, cofier,—a deuai llawer o'r plant i eistedd wrth draed y derwyddon; a barnu gwahanol faterion dyrus, gan gosbi dynion drwg. Eisteddai'r disgyblion wrth draed yr athro am ugain mlynedd; ac ni orfodid ar dderwydd ymladd na thalu treth, ac, oherwydd hynny, yr oedd llawer of ymgeiswyr am y swydd.
Addolwr difefl oedd yr Iberiad bach; a pha ryfedd fod Cymry mor hoff o addoli pan y cofir ein bod yn perthyn mor agos iddo. Yr oedd y Celt yntau yn grefyddwr hefyd, eithr duwiau mwy tebyg i ddynion oedd ei rai ef. Nid yr unig Dduw a addolid gan y dyn bach du, eithr llawer o dduwiau paganaidd. Dyma enwau rhai ohonynt,—Lludd Llaw Arian, Myrddin, Llyr, Coel; a'r duwiesau Ceridwen, Olwen, ac Elen.
Byddai'r derwyddon yn aberthu bodau dynol i'w duwiau; ac ar farw rhywun lled bwysig, llosgid rhai o'i weision a chleddid arfau rhyfel ac offer ereill gyda gweddillion y marw. Paham? Er mwyn i'r marw gael gweision ac arfau at ei raid yn ei fyd newydd. A wyddoch paham yr oedd yr hen Frythoniaid mor ddewr? Am y credent fod yr enaid yn mynd o'r marw i gorff arall. Ac felly nid oedd ofn marw yn bod yn eu plith.
TUDUR.—Wel, pa bryd y daeth crefydd Crist i'r wlad hon, ynte?
MR. G.—Tua'r flwyddyn 200, yn ol un awdur. Pwy ddaeth a'r newyddion da yma gyntaf nis gwyddir. Ceir hanes Brythoniaid yn helpu mewn Cynghorau eglwysig ar y Cyfandir yn 315 a 325. Cofiwch fod Cristionogion ym Mhrydain tua 300 mlynedd cyn i Awstin ymweld â'r Saeson paganaidd. Hen, hen yw eglwys y Cymry.
IFOR.—Beth ddaeth o'r duwiau paganaidd Lludd, Llyr, Myrddin, a'r lleill?
MR. G.—Dysgodd y Brythoniaid addoli yr unig Dduw, Creawdwr pawb a phopeth. Ar ol hyn, daeth seintiau i lenwi lle y duwiau paganaidd ym mywyd y bobl. Ceir enw aml i sant yn gysylltiedig â ffynhonnau ein gwlad, megis Dewi a Chybi. Erys enwau rhai o'r hen dduwiau hyd heddyw. Caerludd yw'r enw Cymraeg am Lundain. Dyna'r hen dduw Lludd yn dod i'r golwg. Ceir ei enw hefyd yn y gair Ludgate. A gwyddoch am yr hwiangerdd Seisnig,—
"Old king Cole was a merry old soul."
Gwelwch fod y Sais bach yn hoff o son am yr hen dduw Coel; a chofiwch mai'r un un yw Lear Shakespeare a Llyr yr Iberiad bach.
Hwyrach y ceir hamdden eto i holi hanes dull y Brythoniaid o fyw,—eu gwaith, eu cartrefi, eu harferion. Trown yn awr at helynt y Rhufeiniaid. Pa bryd y daeth Cesar a'i lu i Brydain?
IV.—RHUFEINIAID.
ARTHUR.—Y tro cyntaf, tua 55 cyn Crist.
MR. G.—Sut y bu hi arno?
ARTHUR.—Gorfu arno droi yn ol. Daeth eilwaith y flwyddyn ganlynol.
MR. G.—Sut rai oedd yr hen Frythoniaid yn ol ei eiriau ef?
IOLO.—"Pobl yn gwisgo crwyn, ac yn byw ar gig a llaeth eu praidd." Er hynny, credaf na chafodd Cesar ei ffordd ei hun, er o hono ymffrostio yn ei waith o drechu'r hen Gaswallon. A wyddoch paham y credaf felly? Am na ddaeth milwyr Rhufain i Brydain wedyn am tua 100 mlynedd. Y mae'n bosibl cael gormod o groesaw, syr, ac felly y bu y tro hwnnw yn ddiameu.
MR. G.—Go dda, Ifor. Gwir bob gair. Pwy oedd prif arwr ein cyndadau yn ystod y rhyfela a fu wedyn?
IOLO.—Caradog, syr. Ymladdodd yn ddewr nes ei drechu gan Ostorius Scapula. Awd ag ef i Rufain yn garcharor. A dywedir i'r ymerawdwr ei ollwng yn rhydd o barch i'w ddewrder.
MR. G.—Da iawn. Do, brwydrodd Caradog yn ddewr, a Buddug, hithau. Y pryd hwn y lladdwyd y derwyddon ym Môn. Gwyddai y milwyr Rhufeinig fod ganddynt ddylanwad mawr ar y Brythoniaid; ac mai hwy oedd yn cyffroi y bobl i ryfela, gan eu gwroli â chaneuon y genedl. Felly, rhaid oedd eu lladd os am drechu'r wlad.
Bu'r Rhufeiniaid yma hyd y flwyddyn 410, pan y galwyd hwy yn ol i amddiffyn eu gwlad eu hun rhag ymosodiad barbariaid y gogledd. Gwnaeth

Buddug.
y Rhufeiniwr lawer o waith tra y bu yn y wlad hon, a dysgodd y Brython aml i wers oddiwrtho. Dysgodd sut i adeiladu trefydd, a sut i fasnachu; a dysgodd siarad Lladin. Ac er fod gan y Brythoniaid ffyrdd lled hwylus, gwell rhai oedd y ffyrdd Rhufeinig. Gwelir eu holion yma a thraw ar hyd a lled y wlad.
Cyn distewi, carwn ddweyd fod oddeutu wyth mil o eiriau Lladin yn ein hiaith, a llawer ohonynt er dyddiau Cesar, megis,—Caer, ffôs, saeth, porth, aradr. A chan eich bod yn dal ati mor ddi-ildio i ddysgu Cymraeg, mawr fydd y cynorthwy ddeilliaw i chwi, a chwi'n dechreu dysgu Lladin a Ffrangeg, canys nid yw'r Ffrangeg amgen na Lladin ail-law.
GEIRFA.
I.
ARHOLI, examining.
DEDDFAU, cyfreithiau, laws.
HYDDYSG YN, well versed in.
PARCHU, respecting; GWRTHRYCH, object.
NAS GWYDDIR ... DANO, of which nothing is known.
A CHAM MAWR ... YW, it is a great injustice.
GWLEDYDD ESTRONOL, other countries.
AMDDIFAD O HANES, lacking in the knowledge of the history.
TEIMLO, feeling; ANRHYDEDD, honour.
BALCH, proud; HANIAD, tarddiad, descent.
GWYRDA, nobles.
GWRENDY ... YN ASTUD, the children listen attentively.
BYRR, short; EGWAN, weakly.
PRYD TYWYLL, dark complexion; OGOF, cave
ARFAU, arms; RHYFEL, war; LLESTRI, vessels.
CERRIG NADD, flint, trimmed stone; OFFER, implements.
HAEARN, iron; PRES, bronze, brass.
BREUDDWYD-IWR, dreamer; IAITH, language.
II.
TAL, tall; PEN-GRWN, round headed.
PRYD GOLEU, light complexion; LLAWN YNNI, energetic.
CENEDL, tribe, nation; GARW, rough.
TRECHWYD EF, he was conquered; HAID, flock.
GWYDDYL, goidels; YSGOLHEIGION, scholars.
DWYRAIN, east; CYN DECHREU HANES, in pre-historic times.
CYFNOD, period; MEMRWN, parchment.
WEITHIAU, sometimes; OLION, remains.
GORFFENNOL, past; YMCHWIL MANWL, careful research.
NATUR DANBAID ANIBYNOL, fiery, independent nature.
ANGLADD, funeral; PREGETH, sermon.
CYMANFA GANU, singing festival.
CYFARFOD LLENYDDOL, literary meeting.
GWLADYCHU, settling; TRAMOR, over sea, foreign.
MASNACH, business, trade; RHEOLI, managing.
GWEITHFEYDD, mines, quarries, works; CLEDDYF, sword.
HYTRACH, rather; MEDDWL, mind.
III.
TRIGOLION, inhabitants; PRYDAIN, Britain.
CESAR, Julius Caesar; HELYNT, hanes, history.
DA FYDDAI, it would be helpful.
DISGRIFIAD BRAS, summary; CREFYDD, religion.
DERWYDDON, druids; ABERTHU, sacrifices.
CYFANDIR, continent.
MWY NA THEBYG YW, it is probable.
AROLYGU, edrych ar ol, supervising.
BARNU ACHOSION, settling differences.
EISTEDD WRTH DRAED, being taught by.
COSPI, punishing.
NI ORFODID AR DDERWYDD, a Druid was not compelled.
TALU TRETH, рaying a tax.
OHERWYDD HYNNY, in consequence of that.
ADDOLWR, worshipper; DIFEFL, keen, honest.
DUWIES, goddess.
BODAU DYNOL, human beings.
LLED BWYSIG, fairly important.
GWEISION, servants; GWEDDILLION, remains.
AT EI RAID, at his command in need.
ENAID, soul; CORFF, body; AWDUR, author.
CYNGHORAU, councils.
CREAWDWR ... PHOPETH, Creator of all things, God.
HWYRACH, perhaps; HAMDDEN, opportunity.
GWAITH, occupation; ARFERION, habits.
IV.
GORFU ARNO, he was forced.
EILWAITH, second time.
GWISGO CRWYN, wearing skins.
YMFFROSTIO, brolio, boasting.
GORMOD O GROESAW, too much welcome.
DIAMEU, di-os, doubtless.
PRIF ARWR, chief hero; CYN-DADAU, ancestors.
CARCHAROR, prisoner; YMERAWDWR, emperor.
GOLLWNG YN RHYDD, freeing, releasing.
O BARCH I'W DDEWRDER, out of respect for his heroism.
DYLANWAD, influence.
CYFFROI, exciting; GWROLI, encouraging.
AMDDIFFYN, defending; YMOSODIAD, attack.
GOGLEDD, north
DEIO BACH.
Un o hoff ganeuon y plant. Yr hen fam anwyl, mor wylaidd, mor ostyngedig; yn barod i aberthu er mwyn ei bachgen drwg—hyd ei bedd. "Gyrr galon graig i wylo."
MEGAIS fachgen bach ac anwyl
Ar fy mron mewn trafferth mawr.
Deio, ti yw'r bachgen hwnnw,
Nad wn ble yr wyt yn awr.
Maith yw'r amser er y'th welais,-
'Machgen anwyl, wyt ti'n iach?
Os na elli ddyfod drosodd,
Anfon lythyr, Deio bach!
Pan y gwenit yn fy wyneb,
Pan chwareuit gylch fy nhraed,
Codai hiraeth yn fy nghalon,
Am dy anwyl, anwyl dad.
Do, ti godaist dan fy nwyfron,
Yma hiraeth mawr a chlwy',
Ond mae'th oeraidd ddiofalwch
Heddyw'n codi hiraeth mwy.
Gaeaf oer im' fu'r diweddaf,
Annwyd lawer ddygais i,
Peidiais cwyno rhag cwtogi
Gronyn ar dy lawnder di.
Nid oes rhaid i wraig y dafarn,
Nac i'th flŷs dy hun gael cam;

Os yw'n anodd spario dimai,
Gad yn angof gŵyn dy fam.
******
Caled yw fy nhamaid bara,
Ie, caled iawn a phrin,
Tra mae 'mhlentyn, mi obeithia',
Gyda'i fara gwenith gwyn.
Pan foch di, fy anwyl blentyn,
Wrth dy ford heb nych na nam,
Os nad yw yn ormod gofyn,
Cofia damaid gwael dy fam.
Os nad yw yn ormod hyfdra
Ar afradlon lencyn hael,
I adgofio pwy a'i magodd,
A bod ganddo fam i'w chael,
F'allai y goddefi dithau,
Deio bach, heb dybied cam,
I ryw fenyw a adwaenost
Ddweyd fod gennyt tithau fam.
Os na elli ddyfod drosodd,
Os na elli'm helpio ddim,
Beiddiaf ofyn un peth iti,
F'allai rhoddi hwnnw im'.
Carreg fedd nid wyf yn ddisgwyl,―
Gormod hyn gan hiraeth iach.
Gollwng ddeigryn wrth fy nghofio,
Dim ond deigryn, Deio bach.
—John Jones, Llangollen.
GEIRFA.
GWYLAIDD, humble.
GOSTYNGEDIG, lowly; GYRR, it causes, makes.
GWENIT, thou didst smile.
HIRAETH, longing.
CLWYF, dolur, wound.
DIOFALWCH, forgetfulness.
ANNWYD, cold.
CWTOGI GRONYN, curtailing in the least.
LLAWNDER, plenty.
BLŶS, chwant, craving.
GAD ... FAM, forget thy mother's pleading.
PRIN, scarce.
BARA GWENITH GWYN, bread made of the best flour; white, as opposed to black bread.
HEB NYCH NA NAM, YN IACH AC HEB EISIEU, without pain or want.
HYFDRA, boldness.
AFRADLON, prodigal; HAEL, wasteful.
ADGOFIO, reminding.
GODDEF, allowing.
HEB DYBIED CAM, without taking offence.
ADWAENOST, thou knowest.
BEIDDIO, daring.
HIRAETH IACH, hiraeth di-glwyf, merely a passing thought, apathy.
DYRO DDEIGRYN, shed a tear.
YR YSGOL CYMRAEG.
DIARHEBION.
UN bore, deallodd Mr. Gwilym fod dau fachgen bach wedi bod yn ymladd â'i gilydd. Galwodd y plant ynghyd, a dywedodd wrthynt fod yn drist ganddo feddwl fod plant yr Ysgol Gymraeg yn cweryla ac yn ymladd. Yna adroddodd yr hanesyn canlynol.
Yr oedd gan hen ŵr lawer o feibion; yr oedd y brodyr yn bur hoff o gweryla; a phoenid y tad yn fawr oherwydd y cwerylon dibaid. Un diwrnod, galwodd ei feibion ato i'w ystafell; a dododd sypyn o ffyn yn llaw yr agosaf ato, gan ofyn iddo eu torri. Er ceisio ei oreu glas, nis gallai; a rhoddodd y sypyn i'r ail fachgen. Er i hwnnw wneud ei oreu, methu a wnaeth yntau hefyd. Ac felly hefyd y gweddill o'r brodyr.
"Yn awr," meddai'r tad, "datodwch y rhaff." Wedi datod y cwlwm, rhoddwyd ffon i bob un, a gofynnodd y tad iddynt eu torri. Torrwyd hwynt yn rhwydd iawn y tro hwn. A meddai'r tad,—
"Gwelwch yn awr mai mewn undeb y mae nerth. Os byddwch yn dal i gweryla â'ch gilydd, gall pawb eich concro; eithr os byddwch fel un, nis gall neb eich trechu. Byddwch unol."
Wedi tynnu gwersi o'r chwedl, a gofyn i'r plant garu ei gilydd, meddai'r athro,—
"Gwell chwareu nag ymladd."
"Gwnewch dda am ddrwg."
"Gwell goddef cam na'i wneuthur."
"Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â ffon."
Nid yn aml y gwelir cansen yn yr ysgol hon, ond y mae un ar gael os bydd y plant yn mynnu ymddwyn yn anfoesgar. Nid ydynt wedi ei gweld ers amser, ac nid hoff yw'r athro o son am dani; ond ni oddefir ymladd, iaith anweddus, a phethau o'r un natur. Dysgir moes—wersi, a disgwylir i'r plant ymddwyn yn briodol yn yr ysgol, a thra'n chwareu. A dweyd y gwir, cymaint yw'r parch a delir i'r athro, fel na fynn y plant ei ddigio.
Ar ddiwedd y foes-wers, cododd Alun ar ei draed, gan annerch ei athro fel hyn,—
Os gwelwch yn dda, Mr. Gwilym, beth yw'r enw iawn am
"Mewn undeb y mae nerth,"
"Gwell chwareu nag ymladd,"
a brawddegau yr un fath a'r rhai hyn?
MR. G.—Diarhebion, Alun. A wyddoch beth yw dihareb?
ALUN.—Nid wyf yn sicr, ond gallwn feddwl mai llawer iawn o synnwyr ac o wir mewn ychydig o eiriau yw hi.
Gwelwch yn awr mai mewn undeb y mae nerth.
MR. G.—Ie, dyna hi ar ei phen. Dull pert, twt, o ddweyd peth sy'n wir bob tro. Y mae cannoedd ohonynt yn ein hiaith ni fel mewn ieithoedd ereill; a charwn i chwi gasglu nifer fawr ohonynt a'u dysgu ar gôf. Hen, hen, yw llawer ohonynt, ac y mae swyn rhyfeddol ynddynt.
IORWERTH.—Yr wyf yn cofio, pan losgais i fy mŷs wrth afael mewn haearn poeth yn yr efail, i mi ei daro yn fy nghêg; a dyna Hugh y Gof yn gwaeddi,—"Melys bŷs pan losgo."
WILLIAM.—A phan ddaeth Ifor fy mrawd o'r ffair, a dangos cyllell newydd oedd wedi brynnu, gofynnodd fy nhad iddo faint oedd ei phris. "Deunaw," meddai Ifor. "Wel, byddi yn gallach y tro nesaf, yr wyt wedi rhoi deunaw am gyllell blwm. "Prynnu cath mewn cwd wnest ti."
OLWEN.—Dodais i fy hen ddoli heibio ar ol cael un newydd y Nadolig diweddaf, a dyna mam yn dweyd, "Hardd pob newydd."
CERIDWEN.—Y mae pobl gyfoethog y Plas wedi dod i arian lawer eto ar ol hen ewyrth fu farw yn yr Amerig. "I'r pant y rhed y dŵr."
MR. G.—Pe baech yn gweld dyn ar frys mawr i ddal y trên yn colli ei het, pa un o'r diarhebion a fyddai'n addas i'r tro chwithig?
OLWEN.—"Mwya'r brys, mwya'r rhwystr."
MR. G.—Ie; pe clywech fachgen neu eneth yn dweyd geiriau cas wrth blentyn bach afiach?
ARTHUR.—"Hawdd clwyfo claf."
Ar ddiwedd y flwyddyn, gellid darllen y rhestr hon o ddiarhebion y Cymry yn llyfrau'r plant; a chan fod hanesion diddorol wedi eu hadrodd wrth eu dysgu, hawdd yw coelio eu bod hefyd wedi eu dysgu ar gôf,—
"Gwna dda ni waeth i bwy.
Y ci a gysgo a newyna, y ci a gerddo a gaiff.
Gwerthu mêl i brynnu peth melys.
Haws dywedyd 'Mynydd' na mynd drosto.
Nid da rhy o ddim.
Ni cheir da o hir gysgu.
Adar o'r un lliw a hedant i'r unlle.
A ddygo wy a dug a fo mwy.
Hir pob aros.
Heb ei fai, heb ei eni.
Gwell gwir na chelwydd.
Gwell tewi na dywedyd drwg.
Yr oen yn dysgu i'r ddafad bori.
Ni cheir afal sur ar bren pêr.
Nid yn y bore y mae canmol diwrnod braf.
Nid ar redeg y mae aredig.
A êl i chwareu, gadawed ei groen gartref.
Ni ddaw henaint ei hunan.
Cas gŵr nis caro'r wlad a'i maco.
Ni ddigia ci o'i daro âg asgwrn.
Deuparth gwaith yw ei ddechreu.
Ym mhob gwlad y megir glew.
Gwell synnwyr na chyfoeth.
Gwell dysg na golud.
Oni heuir ni fedir.
Rhaid cropian cyn cerdded.
Gwell angeu na chywilydd.
Gŵr dieithr yw yfory.
Melys hûn y gweithiwr.
Heb Dduw, heb ddim.
Duw a digon."

"Melys bys pan losgo."
GEIRFA.
CEISIO EI OREU GLAS, trying his best.
DATODWCH, unloosen.
TRECHU, overcoming.
CHWEDL, hanesyn, fable.
GODDEF CAM, suffering wrong.
YMDDWYN, behaving.
ANFOESGAR, rude.
ANWEDDUS, not becoming, unbeseeming.
PARCH, respect.
II.
SYNNWYR, sense.
SWYN, cyfaredd, charm.
DEUNAW, 2 x 9=18 ceiniog. Felly hefyd, chweugain,—6 x 20=120 ceiniog=120/12=10/-
PLWM, lead.
CWD, sack, bag.
ADDAS, cymwys, befitting.
CHWITHIG, o chwith, awkward. Cf. deheuig.[1]
RHWYSTR, hindrance.
III.
COELIO, believing. OFER-GOELION, superstitions.
NI WAETH, it matters not.
NEWYNA, will suffer hunger.
BAI, fault.
PER, melys, sweet.
CANMOL, praising.
AREDIG, ploughing.
HENAINT, old age.
DEUPARTH (dwy ran o dair), more than half.
GLEW, dewrion, heroes.
CYFOETH, golud, riches.
MEDI, reaping.
CROPIAN, crawling.
ANGEU, death.
CYWILYDD, shame.
HUN, cwsg, sleep, slumber.
DIGON, sufficient.
AWYR.
TRAETHIR llawer ar Wyddoniaeth yn Gymraeg yn yr ysgol. Heddyw, y testun yw AWYR.
I.
MR. GWILYM.—William, pwyswch y fflasc, ac yna, tynnwch awyr o honi â'r air-pump. (William yn pwyso y fflasc ar y clorian; yna, yn tynnu peth o'r awyr o honi, ac yn dodi "clip" arni). Ail bwyswch y fflasc. (William yn pwyso eilwaith). Beth ydych yn ganfod?
WILLIAM.—Y mae'n ysgafnach, syr.
MR. G.—Paham y mae'n ysgafnach nag o'r blaen?
WILLIAM.—Y mae'n rhaid fod yr awyr dynnwyd o honi yn pwyso rhyw gymaint.
MR. G.—Ie, dyna'r wers. Oes, y mae pwysau mewn awyr. Ac er nad yw yn pwyso llawer ynddo ei hun,— hynny yw, er nad yw llond fflasc fel honna yn pwyso rhyw lawer ar wahan, y mae pwysau mawr iawn yn yr awyr sydd yn ein hamgylchu ni. A wyddoch paham?
MEGAN.—Clywais rywun yn dweyd fod yr awyr sydd o'n hamgylch yn cyrraedd yn uchel, uchel, am rai cannoedd o filltiroedd uwch ein pennau.
MR. G.—Gwir yw hynny. Y mae'r awyr yn haen ar haen am uchder mawr. A dyna paham y mae'n gwasgu cymaint ar yr haen isaf, yr haen sydd o'n hamgylch ni, am fod pwysau yr haenau ereill i gyd ar y rhan isaf o hono. Y mae'r gwasgiad yn 15 pwys ar bob modfedd ysgwar.
II.
Gwnawn gynnyg arall i geisio dysgu ychwaneg am awyr. Ifor, estynnwch y llestr tin o'r fan draw. Diolch. Dyma i chwi lestr alcam teneu, teneu, a lle i roi corcyn arno. Dodwch ychydig o ddŵr ynddo, a gadewch iddo ferwi yn fywiog am tua deng munud.
(Dau o'r plant yn paratoi y llestr, ac yn ei ddodi i ferwi ar y Bunsen burner). Ar ol iddo ferwi am beth amser, y mae Mr. Gwilym yn ei dynnu oddiar y nwy, ac yn dodi y corcyn arno yn dynn. Yna yn arllwys dŵr oer arno. A dyna'r llestr yn ymollwng i'w gilydd.
Y PLANT.—O, y mae'r llestr wedi torri.
IFOR.—Y mae wedi cael gwasgfa, syr.
MR. G.—Y mae mwy na ffraethineb yn eich dywediad, Ifor, fel y cawn weld cyn y diwedd. Sut y bu hyn, tybed? Gadewch i ni chwilio i mewn i'r achos. Beth wnaethom gyntaf?
MEGAN.—Rhowd ychydig o ddŵr yn y llestr, a dodwyd ef i ferwi yn fywiog am ychydig o funudau.
MR. G.—Beth wedyn?
MEGAN.—Tynnwyd y llestr oddiar y tân, a dodwyd y corcyn arno yn dynn. Yna gosodwyd y llestr o dan y tap dŵr oer.
MR. G.—A ddigwyddodd rhywbeth iddo cyn arllwys dŵr oer arno?
GORONWY.—Naddo, syr. Wedyn y syrthiodd i'w gilydd, ar ol bod o dan y tap.
MR. G.—Un gair bach. Nac anghofiwch beth ddysgwyd yn y rhan gyntaf o'r wers, sef fod yr awyr sydd yn ein hamgylchu yn gwasgu, neu yn pwyso 15 pwys ar bob modfedd ysgwar. Ymlaen a ni.
WILLIAM.—Yr oedd yr awyr y tu allan yn gwasgu yr un modd pan oedd y llestr yn boeth, syr, ac felly rhaid mai y tu mewn y digwyddodd rhywbeth.
EIDDWEN.—Paham y berwyd y dŵr, Mr. Gwilym?
MR. G.—I yrru'r awyr allan o'r llestr, Eiddwen.
EIDDWEN.—A phaham y dodwyd y corcyn arno?
MR. G.—I atal rhag i awyr fynd i'r llestr eilwaith.
EIDDWEN.—Felly nid oedd dim awyr yn y llestr pan y torrodd?
MR. G.—Nac oedd. A oes gofyniad arall, Eiddwen? Yr ydych yn cynnyg yn rhagorol.
EIDDWEN.—Nac oes. Canys er nad oedd awyr yn y llestr ar ol rhoi y corcyn, ni thorrodd hyd nes ei ddodi o dan y dŵr. Y dŵr oer wnaeth y drwg, hwyrach?
ARTHUR.—A oedd rhywbeth yn y llestr ar ol gyrru'r awyr allan, syr?

MR. G.—Oedd, Arthur. Yr oedd yno ychydig o ddwfr yn aros, ac ager yn llenwi'r gweddill o hono.
RHYS.—Mi gwelaf hi'n awr. Ai fel hyn y bu? Pan ddodwyd y dŵr oer arno, newidiwyd yr ager yn ddŵr; ac yr oedd y dŵr yn cymeryd llai o le, gan adael llawer o le gwag tu mewn i'r llestr, a'r awyr y tu allan yn ei wasgu.
MR. G.—Dyna hi, Rhys. Fel yna yn union y bu. Eglurhad da iawn. Edrychwch ar y llestr, y mae golwg rhyfedd arno,—"wedi cael gwasgfa," meddai Ifor, yntê? Gwasgwyd ef o bob tu, nid yn unig ei wasgu i lawr, cofier. Y mae yma wers arall, sef fod AWYR YN GWASGU YR UN MODD I BOB CYFEIRIAD.
IFOR.—Y mae ei asenau wedi ei chael hi yn waeth na'i ben.
III.
MR. G.—Felly yn hollol. Rhys, estynnwch wydriad o ddŵr, llawn hyd yr ymylon, a dodwch y cerdyn yna ar ei wyneb. Trowch ef a'i wyneb i waered.
RHYS.—Fe gyll y dŵr, syr.
MR. G.—Cawn weld. (Rhys yn troi y gwydriad dwr).
BRONWEN.—Rhyfeddod. Ni chollwyd yr un dyferyn.
MR. G.—Paham, Iorwerth?
IORWERTH.—Am fod yr awyr tu allan yn gwasgu y cerdyn i fyny yn erbyn y dwfr, syr. Dyma eto brawf fod awyr yn gwasgu i bob cyfeiriad. Y mae pwysau'r awyr tu allan i'r gwydriad dŵr yn fwy na phwysau'r dŵr y tu mewn.
ARTHUR.—Y mae un peth yn ddyrus iawn i mi, syr.
MR. G.—Beth sydd yn ddyrus i chwi, Arthur?
ARTHUR.—Wel, sut yr ydym ni yn gallu byw a'r fath wasgu arnom o bob tu?
MR. G.—Am fod yr awyr sydd tu mewn i ni yn gwasgu yr un faint a'r awyr tu allan, Arthur.
GEIRFA.
TRAETHIR LLAWER AR WYDDONIAETH YN GYMRAEG, a good deal of Science is taught in Welsh.
AWYR, air.
PWYSO, weighing.
PWYSAU, weight.
CLORIAN, balance, scales.
AR WAHAN, separately.
YN EIN HAMGYLCHU NI, surrounding us.
HAEN AR HAEN, layer on layer.
UCHDER, height.
GWASGU, pressing.
GWASGIAD, pressure.
MODFEDD YSGWAR, square inch.
YCHWANEG, more.
ESTYNNWCH Y LLESTR, pass me the vessel.
ALCAM (alcan), tin.
BERWI YN FYWIOG, boiling briskly.
NWY, gas.
GWASGFA, a faint.
ARLLWYS, pouring.
FFRAETHINEB, wit, joke.
DIGWYDDODD, happened.
I ATAL RHAG, ... to prevent ... from
NEWIDIWYD YR AGER YN DDŴR, the steam was turned into water.
LLE GWAG, empty space, vacuum.
YN UNION, exactly.
EGLURHAD, explanation.
I BOB CYFEIRIAD, in every direction.
ASENAU, ribs.
GWYDRIAD O DDŴR, a glass of water.
YMYLON, brim, edges.
FE GYLL Y DŴR, the water will be spilt.
DYFERYN, drop.
PRAWF, proof.
DYRUS, puzzling.

I ADERYN.
Geiriau un o'r Alawon Cymreig a genir yn yr Ysgol. Onid ydynt yn swynol dros ben? Beth yw enw'r alaw?
DYRO i mi, aderyn mwyn,
Dy gân o'r llwyn i'm llonni;
Diniwed yw dy galon lân,
Dy anian yw daioni.
Gorlawen yw dy swynol awen,
Wrth byncio'n bêr ar frig y gangen;
Yn goglais anian yn y goedwig,
A minnau'n dotio ar dy fiwsig,
Wrth wrando mewn pêr lewyg draw
Gwir alaw dy garolig.
Ow, ow! na bawn yn dderyn bach,
A'm bron yn iach i ganu,
Yn byw heb ofal, llid, na gwŷn,
Fel ti, aderyn mwyngu!
Yng ngwên yr heulwen mi garolwn,
A hedeg wnawn i'r man y mynnwn,
Ar edyn swynol serch a gallu,
I yrru f'enaid ar i fyny;
Hyfrydol ganu wnawn o hyd
Nes byddai'r byd yn synnu.
—Talhaearn.
GEIRFA.
MWYN, tyner, tirion, caredig, gentle and kind.
I'M LLONNI, to gladden me.
DINIWED, innocent.
ANIAN, natur, instinct.
GOR-LAWEN, overflowing with joy.
SWYNOL AWEN, charming gift, enchanting genius.
PYNCIO'N BER, warbling sweetly.
YN GOGLAIS ANIAN, charming, bewitching nature.
PER-LEWYG, sweet trance.
GWIR ALAW DY GAROLIG, the flawless strains of thy carol.
HEB OFAL, LLID, NA GWYN, without care, wrath, or passion.
MWYNGU mwyn + cu, gentle and loving, dear.
HEULWEN, sunshine.
EDYN, adenydd, wings.
SERCH, love.
GALLU, power.
I YRRU ... FYNY, to soar to greater flights of thought.
HYFRYDOL GANU, singing cheerfully, delightfully.
NES BYDDO'R . . . SYNNU, causing the whole world to wonder, to be amazed.
Y MABINOGION.
I.
GŴYR plant yr Ysgol Gymraeg gryn dipyn am hen chwedlau eu gwlad. Anoga'r athro y plant i'w darllen. Hoff yw efe o ddechreu hanesyn difyr o'r hen chwedlau, a gofyn i'r plant chwilio am y gweddill o hono yn llyfrau y llyfrgell Gymraeg sy'n perthyn i'r ysgol. Rhy anodd yw'r geiriau i'r plant bach eu deall o lyfr, eithr y mae'r plant hŷn yn eu darllen ac yn eu hadrodd wrth eu brodyr a'u chwiorydd yn y tŷ o flaen y tân cyn mynd i orffwys.
Hen, hen yw'r ystraeon a elwir yn Fabinogion. Ystyr yr enw yw chwedlau plant. Adroddwyd hwynt o oes i oes yng nghartref y Brython ers dyddiau cyn hanes; a'r mynachod a'u hysgrifenasant ar lyfr tuag adeg y Norman. Dysgir llawer am yr hen Gymry trwy eu darllen. Hoff oeddent hwy o goelio pethau rhyfedd. Credent mewn hud (magic), a lledrith (illusion). Un tro, gwelwyd llawer o lygod mewn cae ŷd, a daliwyd un ohonynt. Beth oedd honno ond gwraig esgob, wedi ei rhithio (changed in form). Dro arall, gwnawd merch ieuanc, un o'r rhai tecaf yn yr holl fyd, o flodau. Ei henw oedd Blodeu-wedd. Ymhen amser, trowyd hi'n aderyn-yn Ddyllhuan (owl). Tarawyd dau ŵr ieuanc â hud-lath (magic wand) nes eu gwneud yn ddau garw; ac felly yn y blaen. Yn y Mabinogion y dysgir hanes Arthur a'i filwyr. A hwy yw hanesion hynaf ein gwlad. Pwysig yw i blant Cymru eu myfyrio, canys iaith dlôs yw iaith y Mabinogion, Cymraeg pur, swynol.
Arfer yr Ysgol yw cynnal cyfarfod adrodd a chân bob prynhawn Gwener; a dyna'r adeg y bydd yr athro yn adrodd yr hen chwedlau.
MR. G.—Yn yr hen, hen amser gynt, yr oedd brenin yr ynys hon yn eistedd ar graig Harlech. Ei enw oedd Bendigaid Frân. Eisteddai tri o'i frodyr a'i lu gydag ef. Enwau ei frodyr oedd Nisien, Efnisien, Manawyddan. Gŵr ieuanc da oedd Nisien, yn caru heddwch; eithr dyn drwg, anheddychol, oedd Efnisien.
A hwy'n edrych dros y môr, gwelodd un o'r cwmni lawer o longau yn cael eu gyrru gan y gwynt tuag atynt. Awd i waered at y môr i ofyn neges y dieithriaid. Pan ddaeth y llong flaenaf at y lan, gwelwyd fod arwydd heddwch, sef tarian a'i swch (boss) i fyny, yn cael ei dangos. Clywodd y brenin, oddiar ben y graig, y llongwyr yn cyfarch gwell iddo, a gofynnodd pwy oedd biau'r llongau. Atebwyd iddo mai eiddo Matholwch, brenin yr Iwerddon, oeddent; a darfod iddo groesi'r môr i geisio Branwen, chwaer Bendigaid, yn wraig. Branwen oedd y ferch decaf yn yr holl fyd.
II.
Gwnawd gwledd fawr i groesawu Matholwch, brenin yr Iwerddon, a threfnwyd yn y cyngor drannoeth fod Branwen i briodi Matholwch yn Aberffraw. Awd tuag yno, Matholwch a'i wŷr yn eu llongau, a Bendigaid Frân a'i lu ar hyd y tir. Yn Aberffraw bu gwledda mawr. Mewn pebyll y bu'r wledd. A wyddoch paham? Am fod Bendigaid yn gawr mawr o ddyn; nis gallai fynd i mewn i dŷ cyffredin. A'r noson honno y priodwyd Matholwch a Branwen.
Ni ddywedwyd wrth Efnisien, y brawd drwg, am briodas Branwen. Un diwrnod, daeth Efnisien i Aberffraw a gwelodd feirch Matholwch; gofynnodd eiddo pwy oeddent. Pan eglurwyd iddo mai eiddo brenin yr Iwerddon oeddent, a'i fod wedi priodi Branwen, ei chwaer, digiodd yn aruthr. Yna aeth i blith y meirch gan dorri eu gweflau hyd y dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau, a'u rhawn wrth eu cefnau.
Pan glywodd Matholwch am y tro creulon, penderfynodd fynd yn ol tua'r Iwerddon. Ac efe ar gychwyn o'r llŷs, cennad a ddaeth oddiwrth Bendigaid Frân i ofyn paham yr oedd efe yn ymadael â'r llys heb ganiatad. Gofidus oedd gan frenin yr ynys hon glywed am y dirmyg. A rhoddodd i Fatholwch farch am bob march a anafwyd, ffon o arian yr un hyd ag ef ei hun, darn o aur yr un lled a'i wyneb, a phair hynod. Dyma oedd yn hynod yn y pair,—pe lleddid gŵr, gellid ei ddwyn yn fyw drachefn ond ei daflu iddo; ond nis gallai'r gŵr hwnnw siarad byth mwy. Pair gwerthfawr yn yr oes honno, a'r bobl mor hoff o ryfel, yntê?
A bu heddwch cydrhwng Matholwch a Bendigaid Frân, a gwledda a wnaethant y dydd hwnnw hefyd. Drannoeth, cychwyn a wnaeth Branwen a'i gŵr o Aber Menai tua'r Iwerddon. Croeshawyd hwynt yn fawr; anrhegion gwerthfawr, yn fodrwyau a thlysau, a roddwyd gan Franwen i bobl yr ynys honno. A bu'n fawr ei pharch y flwyddyn gyntaf. Ganwyd mab iddi a galwyd ef Gwern. Yr ail flwyddyn bu sôn lawer am y dirmyg a gafodd Matholwch yn Ynys y Cedyrn,- hen enw ar yr ynys hon,-a gwawdiwyd y brenin gan ei frodyr nes ei orfodi i ddial y cam. Gyrrwyd Branwen o ystafell y brenin i fyw yn y gegin. Gwnawd hi yn gogyddes y llŷs; a phob bore, wedi iddo dorri'r cîg, yr oedd yn rhaid i'r cigydd roi bonclust iddi.
III.
Ond, er yn garcharor, ac yn cael ei gwylio'n ofalus, yr oedd gan Franwen un cyfaill bach, sef oedd hwnnw, deryn drudwen (starling). Tra yr oedd hi'n coginio, safai yr aderyn bach ar ymyl y noe (pan). Dysgodd Branwen i'r aderyn siarad, a dywedodd wrtho am ei brawd mawr, oedd yn frenin ar Ynys y Cedyrn. Eglurodd iddo sut un oedd Bendigaid Frân, a pha le yr oedd yn byw. Yna ysgrifennodd lythyr a'i ddodi yn rhwym wrth fôn asgell yr aderyn, ac archodd iddo fynd i chwilio am ei brawd, y cawr.
Daeth yr aderyn trosodd i'r ynys hon, a disgynnodd ar ysgwydd y brenin, gan ysgwyd ei adenydd. Gwelodd Bendigaid Frân y llythyr a darllenodd ef. A drwg oedd ganddo glywed am boen Branwen, ei chwaer.
A'r brenin a'i lu a hwyliasant tua'r Iwerddon. Cerdded trwy'r môr a wnaeth Bendigaid Frân. A phan y gwelwyd hwynt yn agoshau at y tir, pobl yr ynys honno a ddychrynwyd. Cilio a wnaethant gan dorri'r bont oedd yn croesi'r afon Llinnon, i atal Bendigaid Frân a'i lu rhag croesi. Sut y croeswyd yr afon? Bendigaid Frân a orweddodd ar draws yr afon, a'r fyddin a groesodd drosto i'r ochr draw. Dyna darddiad y ddihareb,—
"Boed ben, bid bont."
Dyna'r hanner chwedl; a meddai'r athro drachefn,—
Beth wnaeth Bendigaid a'i lu wedi ohonynt gyrraedd yr ochr draw? Beth ddaeth o Franwen, a'i mab, Gwern? Beth am y pair? A garech wybod mwy am yr hen chwedl, Branwen merch Llyr? A ddywedais ddigon i godi awydd ynoch i ddarllen y Mabinogion?
"Do, Syr!"
Wel, darllenwch y gweddill, a chewch wybod yr holl hanes.
GEIRFA.
CHWEDLAU, fables, legends, stories.
ANNOG, encouraging.
GWEDDILL, remainder.
GORFFWYS, rest.
DYDDIAU CYN HANES, pre-historic times.
MYNACHOD, monks.
COELIO, believing.
MYFYRIO, studying.
SWYNOL, charming.
BENDIGAID FRÂN, Brôn the Blessed, the Magnificent.
ANHEDDYCHOL, not peaceful, quarrelsome.
AWD I WAERED, they descended.
DIEITHRIAID, strangers.
CYFARCH GWELL, saluting.
II.
GWLEDD, feast.
CROESAWU, welcoming.
CYNGOR, council.
PEBYLL, tents.
CAWR, giant.
CYFFREDIN, ordinary.
EGLURO, explaining.
YN ARUTHR, greatly.
GWEFLAU, lips.
RHAWN, (horse) hair.
CENNAD, messenger.
LLYS, court.
CANIATAD, permission, greetings at parting.
DIRMYG, insult.
ANAFU, wounding.
PAIR, cauldron.
TLYSAU, gems.
GWAWDIO, mocking, sneering.
NES EI ORFODI, until he was forced.
I DDIAL Y CAM, to avenge the wrong.
COGYDDES, cook.
BONCLUST, a blow (on the side of the head).
III.
CARCHAROR, prisoner.
A'I DDODI ... ADERYN, tied it to the wing of the bird.
ARCHODD, (she) commanded.
YSGWYDD, shoulder.
YSGWYD EI ADAIN, shaking its wings.
HWYLIO, sailing.
CILIO, withdrawing, retreating.
I ATAL ... RHAG, to prevent ... from.
GORWEDD AR DRAWS, stretching (himself) across.
BOED BEN, BID BONT, he who would be served, let him serve.
BETH DDAETH O, what happened to.
I GODI AWYDD, to create a desire.
GOGERDDAN.
DYMA un arall o ganeuon plant yr Ysgol Gymraeg. Y mae'n llawn o'r yspryd Cymreig, fel amryw ereill o gerddi Ceiriog. Ynddi disgrifir mam ddewr yn anfon ei mab yn ol i faes y gâd i ymladd ochr yn ochr â'i dad. Mamau glewion oedd mamau Cymru Fu. A oes mamau dewrion yng Nghymru yn y dyddiau presennol? Credwn fod nifer mawr. Yn amser y rhyfel ofnadwy y ceir prawf ar gariad y bobl at eu gwlad. A welsoch chwi y fam yna yn edrych ar ei bachgen glandeg, cannwyll ei llygaid, ar gychwyn i ryfel—, i ymladd dros ei wlad? Y llygaid yn llaith, y gwefusau yn dynn, a'r galon ar dorri; ond, ceisia edrych yn wrol rhag digalonni'r milwr ieuanc. Dyledswydd sy'n galw: y mae'r gelyn gerllaw. Cofus gennym weled darlun hardd, darlun o filwr yn canu'n iach i'w wraig a'i blentyn bach. Golygfa dorcalonnus, onide? Paham yr oedd yn gorfod ymadael a'r cartref bach dedwydd? Ceid yr ateb yn y geiriau welid o dan y darlun, "When Duty Calls, we must obey." Wel, dyna yw neges y gân hon hefyd. Os yn bosibl, gwell yw peidio rhyfela; ond
"Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr."
Un o hoff ganeuon y Cymry yw hon. Cynhwysa hanes dewrder mam ac ufudd-dod mab. Un o'r Prysiaid o Blâs Gogerddan oedd y milwr ieuanc, ac fel llawer o'i gyndadau o'i flaen, bu farw dros Gymru.
Er na chaiff pob un o honom ni y fraint o ymladd a cholli gwaed dros ein gwlad, eto, gall pob un o blant yr Ysgol wneud rhyw gymaint o aberth i "Godi'r Hen Wlad yn ei Hol," ac i'w dyrchafu yn uwch nag y bu erioed o'r blaen.
II.
"I Blas Gogerddan heb dy dad!
Fy mab, erglyw fy llef,
Dos yn dy ol i faes y gâd
Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It golli'th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorff y dewr,
Na derbyn bachgen llwfr.
"I'r neuadd dos, ac yno gwel
Arluniau'r Prysiaid pur;
Mae tân yn llygad llym pob un
Yn fflachio ar y mur."
"Nid fi yw'r mab amharchai 'fam
Nac enw tŷ ei dad,
Cusennwch fi, fy mam," medd ef,
Ac aeth yn ol i'r gâd.
Daeth ef yn ol i dŷ ei fam,
Ond nid,—ond nid yn fyw,
Medd hithau,—"O, fy mab! Fy mab!
O maddeu im', fy Nuw!"
Ar hyn atebai llais o'r mur,
"Trwy Gymru tra rhed dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr!"
GEIRFA.
GLEW, dewr, brave.
LLAITH, gwlyb, moist.
DYLEDSWYDD, duty.
CANU'N IACH, bidding farewell.
II.
I BLAS ... HEB DY DAD. What! have you returned, and left your father on the battlefield!
GOGERDDAN, a country-seat in Cardiganshire.
ERGLYW, listen to. GWELL GAN FAM, a true mother prefers.
CORFF Y DEWR, the body of the brave.
BACHGEN LLWFR, a coward, a craven-hearted youth.
NEUADD, hall.
ARLUNIAU'R PRYSIAID PUR, the paintings of his brave ancestors, the Pryses.
MAE TÂN ... YN FFLACHIO, there's fire flashing out of every gleaming eye.
NID FI ... TY EI DAD, I am not the son who would smirch the stainless name of his home.
MADDEU, forgive.
LLAIS O'R MUR, the pictures on the wall seemed to answer her.
MIL GWELL, it is to be preferred a thousand times, it is much better.
CANU PENHILLION.
YN yr hen amser gynt, yr oedd y bardd a'r telynor yn swyddogion uchel ym mhlasau tywysogion Cymru, a chroesawid hwynt yng nghartrefi uchelwyr pan ar eu tro ar hyd a lled y wlad. Un o'r beirdd crwydr hynny oedd Dafydd ab Gwilym; ac fel yntau, felly hefyd y gwelid telynorion yn diddanu aelwydydd gwychaf Gwlad y Gân yn y gorffennol pell.
Collwyd prif noddwyr y delyn pan y diflannodd y tywysogion o'r tir, ac y dodwyd Cymru o dan iau Lloegr. Trodd y bardd yn faledwr pen ffair, a gwnaeth y delyn ei chartref yn y dafarn. Ond y mae tro ar fyd; daw offeryn cerdd ein cenedl, yr hen delyn anwyl, i fri unwaith eto.
Dywed plant yr Ysgol Gymraeg fod adeg gerllaw pan y gwelir telyn Cymru ym mhob tŷ yn yr ardal. Hyhi sydd ar lwyfan yr Ysgol, nid perdoneg; hefyd, y mae amryw o delynau yn y Pentre yn barod, a gall llawer o'r plant ganu penhillion, neu ganu gyda'r tannau.
Sut y dysgodd y plant ganu hen benhillion anwyl Cymru Fu?
Fel hyn. Yr oedd gŵr yn byw heb fod nepell o'r ysgol, a chanddo delyn. Telynor medrus oedd, a cherddor coeth. A phan dyfodd ei feibion yn ddigon hen i ddechreu ar y gwaith, dysgodd y gelf o ganu'r delyn iddynt hwythau hefyd; a daeth dau ohonynt yn delynorion gwych. Bu un ohonynt yn canu'r delyn gerbron y frenhines Victoria. A wyddoch pwy oedd? Wel, tad Rhys, un o fechgyn yr Ysgol. Y mae tair telyn yn yr hen gartref erbyn hyn, a medr pob un o'r plant dynnu seiniau pêr o dannau'r delyn, a chanu penhillion yn ddiguro.
Meddai Rhys wrth dwrr o blant un diwrnod,—
"Faint o honoch chwi all ganu penhillion?"
Yr oedd un bychan bach yn credu y gallai ef ond cael hamdden i geisio.
"Wel, o'r goreu, ynte, beth pe baem ni yn dechreu dysgu ein gilydd? Mi fum yn meddwl lawer gwaith mai nid tro ynfyd fyddai ffurfio dosbarth i ddysgu canu penhillion."
A meddai Ifor,—"Y peth, Rhys, ar ei ben. Bob tro y clywaf ganu gyda'r delyn, byddaf yn mynd yn gacwn gwyllt o eisieu dysgu. Clywais dy dad wrthi neithiwr, ac un o'th frodyr yn canu; a bum yn gwrando tu allan i'r tŷ am awr gron. Carwn ddysgu o'm calon. Yr hen gyfaill, ddeui di yn arweinydd arnom ni? Yr wyt ti yn hen law bellach ar y gwaith."
"Gwnaf ar unwaith, canys credaf y dylid dysgu cynifer o'r hen benhillion ag sydd bosibl. Hwynt-hwy fu'n diddanu hen blasau ein cyndadau; a gwaith rhagorol fydd eu dwyn yn ol i'n haelwydydd i ddiddori ein rhieni, a'n brodyr a'n chwiorydd. Gwnawn lawer o les i bawb o'n cwmpas; cawn dreulio llawer o oriau mewn gwir fwyniant; a mwy na'r cwbl, helpwn i godi y delyn i fri mawr unwaith yn rhagor. Go ryfedd fyddai gweld telyn ym mhob tŷ yn y Pentre, yntê? Cawn weld beth ddaw o'r cynnyg."
Awd ati drannoeth. Balch iawn oedd yr athro pan aeth dau o'r bechgyn ato i ofyn ei ganiatad i gyfarfod ar lwyfan yr ysgol ar ol gwaith y dydd. Cydsyniodd gyda phob parodrwydd; ac yn aml gwelid ef yn eu plith yn cefnogi y mudiad. A bu'r bechgyn yn dal ati am rai wythnosau, nes o'r diwedd iddynt ddod yn hyddysg yn y gelf o ganu gyda'r delyn.
Cododd ysbryd cystadlu yn eu plith, a phenderfynnwyd cael cystadleuaeth canu penhillion ar y Dygwyl Dewi canlynol. Ac felly y bu.
A dyma ychydig o hanes yr wyl honno. Rhys oedd y telynor, ac eisteddai'r ymgeiswyr ar gadeiriau yn hanner cylch o'i flaen. Yn ol y rheolau yr oedd Rhys i daro alaw ar y tannau, a'r ymgeisydd cyntaf ar y dde i godi a chanu penhillion ar yr alaw honno. Yna, yr oedd y telynor i newid yr alaw, a'r ail ymgeisydd i ganu ar yr ail alaw. Ac felly yn y blaen. Newid alaw, a chanu penhillion yn gweddu bob tro. Yn awr, canai Rhys yr alaw ar y delyn unwaith trwyddi cyn i'r canwr penhillion ddechreu, er mwyn rhoi hamdden iddo chwilio am bennill neu ddau. Aeth popeth yn hwylus y tro cyntaf a'r ail dro; ond ar y trydydd cynnyg, methodd ymgeisydd gofio am bennill yn gweddu i'r alaw, ac allan ag ef o'r gystadleuaeth. Erbyn y pumed tro, nid oedd ond dau yn aros, ac ar y chweched deuwyd o hyd i'r goreu o'r holl ymgeiswyr.
A dyma rai o'r penhillion a ganwyd gan y bechgyn,—
ALAW,—Hob y deri dando.
"Hawdd yw dwedyd, 'Dacw'r Wyddfa,'
Hob y deri dando;
Nid eir trosti ond yn ara';
Dyna ganu eto.
Hawdd i'r iach a fo'n ddi—ddolur,
Sian, fwyn Sian,
Beri i'r claf gymeryd cysur,
Sian fwyn, tyrd i'r llwyn,
I seinio'n fwyngu, Sian fwyn."
ALAW,—Codiad yr Hedydd.
"Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion,
Yn y nef ymhlith angylion.
"Cleddwch fi pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw!
Chwi gewch weled llanc penfelyn
Ar fy medd yn canu'r delyn."
ALAW,—Tôn y Melinydd.
"Mi fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A dyna'r lle difyraf
Y bum i ynddo erioed.".
ALAW,—Pant Corlan yr Wyn.
"Mae yn y Bala flawd ar werth,
Mae'n Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Tegid ddŵr a gro,
Yn Llunden ô i bedoli:
Ac yng nghastell Dinas Brân
Ddwy ffynnon lân i 'molchi."
ALAW,—Ar hyd y nos.
Caru ei iaith yw gwaith y Cymro,
Ar hyd y nos;
Caru ei wlad gu, fad, tra fyddo,
Ar hyd y nos;
Caru urddas ei berthnasau,
Caru moesau a defodau,
Ei odidog ddewrion dadau,
Ar hyd y nos."
Ac felly yn y blaen.
Yn awr, nid oedd Olwen a'r merched bychain ereill yn foddlon i'r bechgyn eu curo; ac y maent hwythau wrthi yn brysur yn ceisio dysgu canu penhillion. Chwaer Rhys yw'r arweinydd arnynt hwy; a rhyw ddiwrnod, cyn hir, bydd cystadleuaeth rhwng y bechgyn a'r merched. Pwy enilla, tybed? Ni synnwn flewyn pe bai'r genethod yn mynd a'r wobr, er fod y bechgyn wedi cael y blaen arnynt.
Beth bynnag am hynny, gwaith ardderchog yw dysgu canu'r delyn, hen delyn anwyl Cymru; a dysgu ar gôf hen benhillion i'w canu gyda'r delyn. Daliwch ati, Gymry bychain y Pentre.
GEIRFA.
SWYDDOG, officer.
TYWYSOG, prince.
UCHELWYR, noblemen.
BEIRDD CRWYDR, wandering bards, minstrels.
DIDDANU, entertaining.
NODDWYR, patrons.
DIFLANNU, disappearing.
TRO AR FYD, a change, improvement.
LLWYFAN, stage.
COETH, learn-ed, capable.
CELF, art.
TANNAU'R DELYN, strings of the harp.
HAMDDEN I GEISIO, a chance to try.
MYND YN GACWN GWYLLT, to be most eager.
HEN LAW, un wedi arfer, one accustomed to.
TRANNOETH, next day.
CANIATAD, permission.
CYD-SYNIO, agreeing.
PAROD-RWYDD, readiness.
CEFNOGI, encouraging.
MUDIAD, movement.
HYDDYSG, medrus, skilful.
CYSTADLU, competing.
CYSTADLEUAETH, competition.
YMGEISWYR, competitors.
HANNER CYLCH, semi-circle, crescent shape.
ALAW, air, song.
YN GWEDDU, suitable.
PENNILL, verse.
YR WYDDFA, Snowdon.
DOLUR, wound, affliction.
CYMERYD CYSUR, to be content.
GWEINI, serving.
BLAWD, flour.
LLECHU, sheltering.
SAIN CYNGHANEDD, Welsh poetry.
A few lines from "I Aderyn," page 104, should be analysed to the class to exemplify the meaning of this term.
URDDAS EI BERTHNASAU, dignity of his relations, that is, of the Welsh nation.
MOESAU A DEFODAU, manners and customs.
GODIDOG, magnificent, splendid.
ARWEINYDD, leader, conductor.
NI SYNNWN FLEWYN PE ..., I should not be surprised if ...
ENNILL, winning
GWOBR, prize.
CAEL Y BLAEN, the boys had commenced to learn before the girls; gaining a start.
HEN BENHILLION TELYN.
PAN ês i fyw yn gynnil, gynnil,
Fe aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Pan ês i fyw yn afrad, afrad,
Fe aeth y ddwyfil yn un ddafad.
Pan oeddwn gyfoethog cyn mynd yn dylawd,
Yr oeddwn yn gâr ac yn gefnder i bawb.
Pan ês yn dylawd, ac i fyw mewn dylêd,
Nid oeddwn yn gâr na chefnder i neb.
Gwyn ei fyd na fedrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered;
Mynnwn wybod er eu gwaetha'
Lle mae'r gôg yn cysgu'r gaea'.
Yn y coed y mae hi'n cysgu,
Yn yr eithin mae hi'n nythu;
Yn y llwyn tan ddail y bedw,
Dyna'r fan y bydd hi farw.
Da gan ddiog yn ei wely
Glywed sŵn y droell yn nyddu;
Gwell gan innau, dyn a'm helpo,
Glywed sŵn y tannau'n tiwnio.
Sawl a feio arnaf beied
Heb fai arno, nac arbeded;
Sawl sy' dan eu beiau beunydd,
Fe eill rheiny fod yn llonydd.
Tebyg yw dy lais yn canu.
I gôg mewn craig yn dechreu crygu,
Dechreu cân heb ddiwedd arni;
Harddach fyddai iti dewi.
GEIRFA.
CYNNIL, darbodus, thrifty.
AFRAD, prodigal.
CAR, cyfaill, perthynas, friend, relation.
CEFNDER, cousin.
DYLED, debt.
GWYN EI FYD NA ... How happy I'd be could I but ...
GORIWAERED, sloping land, declivity.
MYNNWN, I would insist on.
EITHIN, furze.
BEDW, birch-tree.
DIOG, pwdr (South Wales), lazy.
TROELL, spinning wheel.
NYDDU, spinning.
BAI, fault.
ARBED, sparing.
BEUNYDD, bob dydd, daily.
FE EILL RHEINY, they can, they should.
LLONYDD, quiet.
CRYGU, becoming hoarse.
HARDDACH FYDDAI, gwell fyddai, it would be better.
TEWI, peidio canu, ceasing.
DYGWYL DEWI SANT.
I.
CYFARFODYDD adrodd a chân, dadl ac araith, gynhaliwyd y llynedd ar Ddygwyl Dewi. A bu cystadlu caled yn ystod y dydd. Y dydd? Ie, drwy'r dydd, diwrnod cyfan, i goffa am Dewi Sant, mewn Eisteddfod. A diwrnod arall i'w ganlyn yn wyl chwareu i'r plant, yn dâl am eu diwydrwydd a'u gwladgarwch y dydd blaenorol. A oes eisieu talu i blant y Pentre am garu Cymru a'r Gymraeg? Nac oes; ond cofia y rheolwyr fod y plentyn bach yn debyg i'r oen mewn un peth o leiaf, sef yw hynny, y mae'n hoff o ryddid i chwareu. A nawdd Sant gwerth ei gael yw Dewi, canys daw ag eisteddfod ragorol, a gwyl chwareu i'w chanlyn, bob blwyddyn.
Nid oes gweithio yng nglofeydd y Pentre ar yr Wyl; y mae'n ddydd gwyl drwy'r fro i gyd i bawb, canys hoff yw'r rhieni o fod yng nghwmni eu plant yn Neuadd y Pentre, lle y cynhelir yr eisteddfod. Rhy fechan yw'r ysgol i gynnal y cyfarfodydd ynddi, oblegid fod cynifer, yn enwedig o'r mamau, mor awyddus am weld a chlywed eu rhai bychain yn cystadlu.
Yr oedd gwobr dda am y rhestr oreu o hen "enwau lleoedd" y Pentre a'r cylch; am ddiwyg Gymreig; am unawd, deuawd, a chydgan; araith, adroddiad, a dadl. Dewiswyd y gerddoriaeth o hen "ganeuon gwerin" Cymru, megis "Tra bo Dau," "Cwyd dy

Galon," ac ereill, a'r darnau adrodd o weithiau gwlatgar y beirdd.
Soniwyd yn barod, mewn gwers arall, am y cystadlu ar ganu penhillion, ac felly ni raid ail son am yr hwyl benigamp honno. Ond purion peth fyddai galw sylw at ddwy arddangosfa nodedig a drefnwyd ar gyfer y rhieni a'r plant y llynedd. Y gyntaf oedd arddangos pob math o lyfrau Cymraeg, yn cynnwys llyfrau hwiangerddi i'r babanod, llyfrau tlysion iawn yn llawn o ddarluniau del; eto, llyfrau darllen i blant mwy, sef llyfrau hanes, chwedlau, dadleuon, alawon Cymru,—yr oedd tua dau gant ohonynt ar ddangos. Hefyd, rhai addas i bobl mewn oed.
Prif amcan yr arddangosfa uchod oedd tynnu sylw y rhieni at y ffaith fod digon o lyfrau ardderchog ar gyfer eu plant ar gael yn Gymraeg. Afraid yw gwario arian ar lyfrau Saesneg, tra y ceir mwy o les o ddarllen llenyddiaeth bur ein hiaith ein hun. Ni ŵyr rhieni Cymru ddigon am nifer a natur y cyfrolau bychain, prydferth, sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg. Dysged y Cymro bach ddarllen cynifer ag a allo o lyfrau ieithoedd ereill, ond gofaled ei rieni mai sylfaen yr oll fydd gwybodaeth eang o lyfrau iaith yr aelwyd.
Mewn ystafell arall gwelid casgliad o hen gelfi Cymreig. Mewn gwirionedd, hen gegin Gymreig ydoedd, yn orlawn o hen ddodrefn,—dresel yn llawn o hen lestri; cadeiriau, cwpwrdd, a bwrdd o dderw; telyn, troell nyddu, cannwyll frwyn; hefyd, Beibl dros dri chan mlwydd oed; gefail gŵn, a llawer o bethau cyffelyb. O'r hen eglwys, eglwys y llan, y cafwyd benthyg yr efail gŵn; defnyddid hi i fynd a'r cŵn aflonydd allan o'r eglwys. Ac nid cyflawn y disgrifiad heb son am gadeiriau beirdd y Pentre. Yr oedd pob cadair Eisteddfod drwy'r fro wedi eu casglu at ei gilydd, a'u hanes wedi ei gerfio arnynt; a phob baton a enillwyd gan arweinwyr corau'r cylch. Pwy ŵyr faint o les a fydd o arddangos tlysau y brwydro a fu?
II.
Un o'r mwyniannau coethaf bob Dygwyl Dewi yw araith Mr. Gwilym. Araith wlatgar i ennyn y tân Cymreig! Ei destun y llynedd oedd,—"Dewi Sant a'r Ysbryd Cymreig."
A dyma i chwi gyfran fechan o honi,—
"Afraid fyddai adrodd manylion bywyd Dewi Sant wrth blant y Pentre. Gwyddoch i gyd pwy ydoedd, enwau ei rieni, ple y magwyd ef, pa fath ddisgybl oedd, a'r traddodiadau gysylltir â'i enw. Yr hyn sydd bwysig i ni ei gofio yw mai dyn da a duwiol oedd Dewi, Cymro o waed ac o iaith. Carai ddŵr yn hytrach na gwin, a charai ei wlad â'i holl galon; a gwnaeth ei oreu i wella cyflwr Cymru. A gweddus yw fod Cymru o ben Caergybi i ben Caerdydd, a'i phlant sydd oddicartref mewn gwledydd tramor, yn coffa heddyw am Ddewi Sant, gan ei arddel yn nawdd Sant ein cenedl. Ysbryd gwerth ei efelychu oedd ysbryd Dewi, a saif ei enw dros bopeth goreu a feddwn fel Cymry. Pan y clywir enw Dewi, cyfyd darlun o flaen ein llygaid, sef darlun o Gymro ar ei oreu. Clywsoch lawer o son am y tân Cymreig. Wel, dyna enw arall ar ysbryd Dewi Sant. Yr un un ydynt.
"Y tân Cymreig fu'n cyffroi Caradog, Buddug, Llywelyn, a Glyndwr i amddiffyn eu gwlad. Enw arall arno yw cariad dros Gymru. Dro arall, câr Dewi heddwch yn well na rhyfel, a daw Hywel Dda a'i gyfreithiau i gadw heddwch drwy atal cam. Cofier nad yw gwir Gymro yn ymladd ond pan y mae'n rhaid arno. 'Gwell angeu na chywilydd.' Ysbryd Dewi a gâr heddwch, ac a fynn gyfiawnder. Nid oes cywilydd o gofio'r dyddiau a fu. Byddwn falch o'n cyndadau.
III.
"Pan ddodwyd Cymru o dan iau Lloegr, yn raddol collwyd yr iaith Gymraeg o blasau'r uchelwyr. Collwyd hefyd y bardd a'r telynor o aelwydydd gwyrda ein gwlad. A gwelwyd adeg ddu ar Gymru am gyfnodau maith. Truenus oedd y cyflwr pan oedd John Penry yn blentyn bach ar fynydd Eppynt. Wedi o hono dyfu'n ŵr ieuanc, aberthodd lawer dros ei wlad, a bu farw dros y gwir.
'Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr.'
"Hwyrach mai dyna'r digwyddiad mwyaf pwysig yn hanes Cymru, sef dyfod o'r Beibl i'n gwlad ni yn iaith yr aelwyd.
"Yna daeth Gruffydd Jones, Llanddowror, â'i ysgol deithiol. Teimlai y dyn da hwnnw dros ei wlad yn ei chyflwr di-grefydd, anwybodus, a dechreuodd gynnal ysgolion i ddysgu'r bobl i ddarllen, i ddarllen y Beibl, cofier, canys dyna unig lyfr yr ysgol honno. A pha lyfr gwell? Aeth y gwaith ar led. Dywedai Penry nad oedd ond un o bob cant, yn ei oes ef, yn medru darllen, a'r wlad mewn cyflwr moesol truenus; ond drwy aberth fawr Gruffydd Jones, aeth yr un o bob cant yn gant ond un, canys yr oedd pob disgybl yn troi yn athro i ddysgu ereill.
"Bu un o'r ysgolion teithiol yn y Pentre, ac arhosodd yma am dri mis; yna galwyd yr athro ymaith i sefydlu ysgol mewn pentref cyfagos. Cofiwch y ffeithiau a nodwyd, canys i hyn yr ydym yn ddyledus am gyflwr gwell Cymru Lân, Gwlad y Gân, a Gwlad y Menyg Gwynion.
IV.
"Cenedl ydym wedi ein magu ar fwyd cryf, ar lenyddiaeth y Beibl. Ac nid oes arnom gywilydd o hanes ein gwlad pan y cofiwn am y cyfeillion fu'n gweithio mor ddiwyd i godi'r hen wlad yn ei hôl. Yr oedd y tân Cymreig yn fyw iawn yn yr amser hwn, a Dewi yn troedio'n drwm drwy'r tir. Carwn, pe bai amser yn caniatau, i ni ddilyn yr hanes hyd ein dyddiau ni, eithr llwybr arall a ddewisais i orffen yr araith, ac felly gwell yw camu'n mlaen rhag eich dal yn rhy hir.
"Y mae llawer o wledydd y byd yn ddyledus i Gymru. Cymerer Lloegr er engraifft. Fel y soniwyd yn barod, Cymry oedd y Tuduriaid, yn hannu o Owen Tudur o Fôn; ac y mae lle cryf i gredu mai Cymro oedd taid Cromwell. Cymry oedd George Meredith, George Eliot, Thomas Hughes, awdur Tom Brown's School-days, heb enwi ychwaneg. Hawdd fyddai llenwi cyfrol fawr o hanes dyled Lloegr i Gymru. Gwelsoch lyfr o'r enw 'Enwogion Cymru' yn yr Arddangosfa. Darllenwch ef, a chewch ychydig o'r hanes. Yr Amerig hefyd. Pwy wnaeth fwy na'r Cymry yn adeg y gwrthryfel yn erbyn Lloegr yn nyddiau Sior III.? Yn y llyfr a elwir 'Tro i'r De,' ceir hanes am hen Gymro yn ymfalchio yn y ffaith hon. Darllenwch y llyfr diddorol hwnnw. Onid dynion o Ddowlais a Merthyr agorodd weithfeydd haearn cyfoethog yr Amerig? Pwy o honoch na chlywodd am W. R. Jones o Bennsylvania, y Cymro wnaeth weithfeydd haearn gwlad y gorllewin yn fyd—enwog? Pwy ond bechgyn ardal Llanelli sylfaenodd waith alcam yr Amerig? A phwy ond chwarelwyr Gogledd Cymru ei masnach lechi? 'Parch lle y mae parch yn ddyledus,' medd yr Amerig, a pherchir Cymro a Chymru yn fawr gan y wlad enwog honno.
"Y mae'r amser yn mynd, a rhaid yw tynnu at y terfyn. Amcenais son am waith Dewi mewn gwledydd ereill heblaw Lloegr a'r Amerig, ond gorfod arnaf yn awr dynnu i ben drwy gymell pob un sydd yma i wneud ei oreu dros Gymru pa le bynnag yr elo. Y mae hanes y gorffennol yn ardderchog, ac yn destun rhyfeddod pan y cofir yr holl anfanteision. Beth am y dyfodol? Y mae'n dibynnu'n hollol arnom ni. Dilynwn ôl troed Dewi. Gobeithiaf nad oes un yn y cyfarfod hwn a ddwg anair i'w wlad a'i Nawdd Sant. Ein harwyddair fo,—
"I FYNY BO'R NÔD."
GEIRFA.
DADL, dialogue.
ARAITH, speech.
LLYNEDD, last year.
DIWYDRWYDD, diligence.
GWLADGARWCH, patriotism.
RHEOLWYR, managers, governors.
GLO-FEYDD, works, coalmines.
DIWYG, costume.
UNAWD, solo.
DEUAWD, duet.
CYDGAN, chorus.
GWERIN, y bobl.
ARDDANGOSFA, exhibition.
NODEDIG, hynod.
AFRAID, heb raid, unnecessary.
CYFROL, volume.
SYLFAEN, foundation.
CELFI, instruments, tools, furniture,
TROELL NYDDU, spinning wheel.
CANNWYLL FRWYN, rush candle.
GEFAIL, tongs.
TLYSAU, gwobrwyon, prizes.
II.
MWYNIANNAU, enjoyments.
COETH, refining, stimulating.
CYFLWR, condition, state.
EFELYCHU, imitating.
CYFFROI, arousing.
CYFREITHIAU, laws.
ATAL CAM, preventing wrong.
"GWELL ANGEU NA CHYWILYDD," motto of Welsh regiment.
ANGEU, death.
CYWILYDD, shame, disgrace.
CYFIAWNDER, justice.
IAU, yoke.
CYFNODAU, periods.
ABERTHODD, he sacrificed.
CYFIEITHWYD, was translated.
MOESOL, moral.
FFEITHIAU, facts.
III
IAU, yoke.
CYFNODAU, periods.
ABERTHODD, he sacrificed.
CYFIEITHWYD, was translated.
MOESOL, moral.
FFEITHIAU, facts.
IV
LLENYDDIAETH, literature.
CAMU'N MLAEN, proceeding.
ER ENGRAIFFT, for example.
YN YMFALCHIO, revelling in.
GWEITHFEYDD, works.
ALCAM (alcan), tin.
CHWARELWYR, quarrymen.
AMCENAIS SON, I meant to mention.
LLECHI, slates.
CYMELL, exhorting.
ANFANTEISION, disadvantages.
A DDWG ANAIR, who will disgrace.
ARWYDDAIR, motto.
I FYNY BO'R NÔD, excelsior.
DOETHINEB CENEDL Y CYMRY.
I.
GOFYNNODD Arthur i Mr. Gwilym pwy oedd wedi cadw hen farddoniaeth a hanes yr hen Gymry rhag mynd ar goll. Meddai yntau,—
"Nid oedd llyfrau ar gael yn yr hen hen amser gynt. Cedwid holl ddysg y genedl ar gôf. Adroddid yr hen ddysg o genhedlaeth i genhedlaeth, ac felly y cadwyd gafael ar yr hen ddywediadau swynol sydd yn eiddo i ni. Ymhen amser, daeth y mynachod i Gymru, a chofnodwyd ganddynt weithiau yr hen feirdd; brutiau, sef ysgrifau hanes; a doethineb y Cymry. Dinistriwyd y mynachdai yn amser Harri'r VIII., a chollwyd golwg ar yr hen ysgrifau am gyfnod maith; ond yr oedd cryn nifer ohonynt wedi eu trysori ym mhlasau y wlad; ac, ar ol hyn, bu ambell un yma a thraw yn casglu yn ddyfal o'r hen drysor. Yn y ddeunawfed ganrif daw enwau tri o rai gwlatgar i'r amlwg, dynion a wnaethant lawer o ddaioni trwy wneud un casgliad mawr o'r ysgrifau oedd ar gael. Cymro cyfoethog yn Llundain oedd Owen Myfyr; ysgolor gwych o Forgannwg oedd Iolo; a'r trydydd oedd Dr. W. O. Pughe, awdur geiriadur mawr o dros gan mil o eiriau,—gymaint arall a geiriadur Dr. Johnson. Tri Chymro pybyr a'u calon yn y gwaith; a diwedd y chwilota, ar hyd a lled y wlad, am yr hen ysgrifau, yw y gyfrol fawr o dros fil o dudalennau a elwir yn "Myvyrian Archaiology."
"Ond nid dyna'r oll; nid yw'r chwilio ar ben hyd heddyw, ac y mae dynion caredig ereill yn dal ati i gasglu ac i wario arian er mwyn cael gafael ar bob ysgrif sy'n perthyn i'r genedl. Ac erbyn hyn, y mae gennym le cyfaddas i gadw'r hen ysgrifau, sef yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. A phrif gymwynaswr y sefydliad hwnnw yw'r gwladgarwr enwog, Syr John Williams, M.D. Cofiwch barchu cymwynaswyr eich gwlad, a cheisiwch eu hefelychu."
ARTHUR.—Beth sydd yn yr hen ysgrifau, syr?
MR. G.—Gwyddoch yn barod am rai o'u cynnwys. Yr ydych wedi dysgu diarhebion o honynt, a chlywsoch aml i ddywediad call o'r hen wireddau sydd i'w canfod yn Noethineb y Cymry. Ceir ynddynt hefyd farddoniaeth hen iawn, o ddyddiau Ystrad Clwyd, sef gweithiau yr hen feirdd Aneurin, Taliesin, a Llywarch Hen. A ydych yn cofio proffwydoliaeth Taliesin am y Cymry?—
"Eu Nêr a folant;
A'u hiaith a gadwant;
Eu tir a gollant,
Ond gwyllt Walia."
Hefyd y brutiau, sef ysgrifau hanes; cyfreithiau Hywel Dda; bonedd y saint; hanes cerddoriaeth tannau; y Mabinogion.
Dyma i chwi amryw o engreifftiau o ddysg yr hen Gymry, neu, fel y gelwir ef yn gyffredin, "Doethineb Cenedl y Cymry."
Fel hyn yr ysgrifennodd Thomas ab Ieuan, yn 1685, wrth gyhoeddi dywediadau Catwg Ddoeth,—
"Y Cymro caredig,
Dyma iti Lyfr Catwg Ddoeth, a elwir hefyd Catwg Sant: y mae wedi bod er hir o amser yn hynod yn ein gwlad ni am y doethineb sydd ynddo. Ymadroddion call a gei ynddo: mawr y perchid y rhai hyn gynt gan yr hen brydyddion, a phob hen awdwr arall, a hynny barodd i'w hawdwr gael yr enw Catwg Ddoeth.
"Yr oedd Catwg yn un o'r prydyddion goreu yn ei amser, a chymaint ei glod am ei ddoethineb fel ag yr aeth ei gynghorion a'i ymadroddion, a'i wediadau doethion ar gôf a thafod yr holl wlad yn agos ac ymhell, hyd yn oed iddo gael ar ei enw bob ymadrodd, a dihareb, a dywediad, a gair doeth yn yr iaith Gymraeg, hyd oni lyncodd clôd Catwg eiddo pob un arall . . ."
Yn ol yr hanes, abad Llangarfan, un o hen fynachdai Cymru, oedd Catwg Ddoeth.
Yn awr, ynte, am yr ymadroddion doeth a garai ein cyndadau. Y mae digon ohonynt yn Llyfr Catwg i lenwi amryw o lyfrau ysgol. Wele rai,—
CYNGHORION CATWG DDOETH,—
"Tro glust fyddar at bob drwg.
Na ddangos dy wyneb lle bo'r meddwon.
Na cherdda y nos heb achos.
Na ddymuna o'r byd ond dy ddigon.
Nac ymddiried yn fawr i'th elynion.
Nac ymladd âg ynfyd.
Na werth nef er daear."
"Y gŵr na charo |
"Cenad anffyddlon. |
| Amharchu rhieni." | |
GWIREDDAU CATWG DDOETH,—
"Nid oes diogi heb fil o helbulon.
Nid oes euog na syrth i lwyr dristwch.
Nid oes weithred dda heb dâl yn barod.
Nid oes gam heb gam yn ei ddilyn.
Nid call ond a welo ei hun yn ffôl.
Nid cadarn ond a fo yn drech na'i hunan.
Ni ddysg ni ddeall."
CAS-DDYNION CATWG DDOETH,—
"Dyn a feio ac yntau'n feius,
Dyn na fo ddewr ymhlaid ei gâr.
Dyn a ddywedo'n fawr, ac a wnelo'n fychan.
Hen heb grefydd; ieuane heb ddysg.
Brodyr heb gariad; teulu heb drefn."
III.
Meddai OLWEN.—Onid ydynt yn bert, syr?
RHYS—Yr oedd gwell Cymraeg yr amser hwnnw, brawddegau syml a bachog. Ac yr oedd yr hen dadau yn deall dyn i'r dim.
MR. G.—Cofier nad oedd ganddynt lyfrau, ac felly rhaid oedd dibynnu ar y côf am bob dysg. O ganlyniad, dodid ffeithiau ar ddulliau cryno, a hawdd eu cofio, yn aml ar ddull pennill. Dyna sydd i gyfrif hefyd am y trioedd Cymreig. Fel hyn y dysgid hanes,—
"Tri phrif cad-deyrn Ynys Prydain: Caswallon, Gweirydd, Caradog.
Tri phrif-lys y brenin Arthur: Caerlleon ar Wysg yng Nghymru; Gelliwig, yng Nghernyw; a Phenryn Rhionnydd, yn y gogledd (Ystrad Clwyd).
Awn ymlaen. Wele eto ddulliau ereill,—
TRECHAU,—TRECH, more powerful.
"Trech gwlad nag arglwydd.
Trech serch na chawr.
Trech Duw na dim."
HARDD-BETHAU,—
"Harddwch mab, ei addfwynder.
Harddwch merch, ei gwylder.
Hardd ar bob dyn, daioni.
Hardd ar bob hardd, tangnefedd."
NAMYNAU,—NAMYN, apart from, without.
"Namyn Duw nid oes bywyd.
Namyn Duw nid oes dim."
DEUPARTHAU,—
"Deuparth gwaith, ei ddechreu.
Deuparth ffordd, ei gwybod.
Deuparth taith, paratoi."
GOREUON,—
"Goreu bwyd, un rhag newyn.
Goreu diwedd, diwedd da.
Goreu doethineb, tewi.
Goreu ar bopeth, y goreu."
GWELLAU,—
"Gwell dau ben nag un.
Gwell câr mewn llŷs.
Nag aur ar fŷs.
Gwell un dewch
Na dau ewch."
Nid gwell yn y bedd bonheddig na thaiog."
NERTHAU,—
"Nerth ei yn ei ddant.
Nerth llwynog yn ei ddichell.
Nerth glew yn ei galon.
Nerth llwir yn ei droed.
Nerth cryf, ei drugaredd.
Nerth ieuanc, ei ufudd-dod.
Nerth hên, ei gyngor."
CYNGHORION i'r un a garai fyw yn hen,—
1. Coded gyda'r hedydd, caned gyda'r hedydd, ac aed i gysgu gyda'r hedydd.
2. Bydded ysgafn ei wisg, ysgafn ei ymborth, ac ysgafn ei galon.
3. Gocheled ymryson, cared heddwch, a bydded heb ormod o ofalon.
IV. TRIOEDD.
Tri chwerthin ffôl,—am ben y da, am ben y drwg, ac am ben nas gŵyr beth.
Tri pheth gwell na chyfoeth,—iechyd, rhyddid, synnwyr.
Tri pheth daionus i ddyn,—meddwl yn dda, dywedyd yn dda, gwneuthur yn dda.
Tri pheth a ddaw ar ddyn heb yn wybod iddo,—cwsg, pechod, henaint.
Tri modd i adnabod dyn,—ei ymadrodd, ei ymddygiad, ei gyfeillion.
Tri pheth anodd i ddyn eu gwneuthur,—oeri y tân, sychu y dŵr, a boddloni y byd.
Tri pheth a gaiff cybydd o'i gyfoeth,—poen yn casglu, gofal yn cadw, ofn colli.
Tri da iawn yn weision, a drwg iawn yn feistri,—tân, dŵr, gwynt.
Tri pheth a wnant lawnder mewn gwlad,—plannu coed, llafurio tir, cribo a nyddu.
Tri dyn y dylid bod yn drugarog wrthynt,—alltud, gweddw, amddifad.
Tri pheth hardd ar ddyn,—gwybodaeth, campau da, addfwynder.
Tri harddwch gwlad,—ysgubor, gefail, ysgol.
Tri pheth a geir o ddilyn drwg,—cywilydd, colled, cosb.
Tri pheth a ddylai (y neb) a gaffo gymwynas (wneud),—ei ddiolch, ei gofio, a thalu'r pwyth.
Tri pheth sy'n cadw y byd mewn trefn,—rhif, pwys, mesur.
Tri pheth a wnant ŵr yn ddysgedig,—addysg, pwyll, deall craff.
Tri pheth a gaiff dyn doeth,—llwyddiant, urddas, llawenydd.
Tri pheth ardderchog ar ddyn,—caru rhinwedd, cashau ffolineb, dysgu yn wastadol.
Tri pheth a gaiff dyn cywir,—dawn, parch, canmol.
Tri pheth iawn i ŵr ymladd o'u plaid,—ei wlad, ei gâr, ei fywyd ei hun.
Tri pheth a bair i ŵr glôd a chymeriad caredig,—dywedyd yn dda yn wyneb,
rhoi gair da yng nghefn, a ffyddlondeb i'w gyfaill.
Tri pheth a ddylid eu cadw fyth yn agored,—clust, llygad, deall.
Tri dawn pennaf Duw i ddyn,—llafur, deall, serch.
Tri pheth ni rydant byth,—cleddyf gwas gwych, pedolau ceffyl melinydd, a thafod gwraig.
Tri pheth a ddylai Cymro eu caru o flaen dim,—cenedl y Cymry, defion a moesau y Cymry, iaith y Cymry.
V. BRUTIAU.
MR. G.—Soniais fod brutiau ymhlith yr hen ysgrifau. Ysgrif ar hanes ein gwlad yw brut. A garech i mi ddarllen ychydig linellau o un o'r hen frutiau? O'r goreu, ynte, darllenaf rannau o Frut y Tywysogion. Dywedir i'r brut hwn gael ei ysgrifennu tua chanol y ddeuddegfed ganrif, y rhan gyntaf o hono gan Garadog, un o fynachod Llangarfan. Newidiais lawer ar ffurf yr iaith geir ynddo er mwyn i chwi allu deall yn well yr hyn a ddarllenir,—
1. Y TYWYSOGION YN GYTUN.
". . . Ac wedi hynny yr arfogodd yr holl Gymry i ymladd y Normaniaid. Ac yn ei erbyn ef (sef brenin Lloegr) y daeth Owen Gwynedd, a Chadwaladr, meibion Gruffydd ab Cynan, a holl lu Gwynedd gyda hwynt; a'r Arglwydd Rhys a holl Ddeheubarth gydag ef; ac Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch, fab Meredydd, a Meibion Madog, a holl Bowys gyda hwynt. Ac i gyd gyda'i gilydd y daethant hyd yn Edeirnion, a phabellu yng Nghorwen. . . ."
2. Y TYWYSOGION YN CWERYLA,—hen wendid ein gwlad yn yr oesau a fu.
"Y flwyddyn ganlynol y cyfeiriodd Owen a meibion Gruffydd ab Cynan o Wynedd, a'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn erbyn Owen Cyfeiliog; ac a ddygasant gastell Einion, a'i roddi i Owen Fychan. . . ."
3. LLYWELYN A BRENIN LLOEGR.
"Deng mlynedd a deugant a mil oedd oed Crist pan ddug Llywelyn ab Iorwerth gyrchau creulon am ben y Saeson; ac am hynny y llidiodd Ieuan frenin; a darparu i ddwyn holl gyfoeth Llywelyn oddiarno. A chynnull dirfawr lu a wnaeth ar fedr myned i Wynedd i wneud y distryw. A Llywelyn a'i lu a aethant i'r berfedd—wlad, a'r da gyda hwynt, hyd yn Eryri. Ac yna y daeth y brenin a'i lu hyd yng nghastell Deganwy. Ac yno y bu cymaint eisieu bwyd ar y llu fel y gwerthid wy am geiniog a dimai, a gwledd foethus oedd ganddynt gael cig meirch. Ac am hynny y dychwelodd y brenin i Loegr o amgylch y Sulgwyn, a'i neges yn amherffaith, wedi colli yn waradwyddus lawer o'i wŷr, a'i dda."
4. Un adran arall o'r hen Frut, sef ychydig o hanes Rhyfeloedd y Groes, a'r brenin Rhisiart,—
"Aeth Philip, frenin Ffrainc, a Rhisiart, frenin Lloegr, ac Archesgob Caint, a llu mawr o ieirll a barwniaid gyda hwynt i Gaersalem. Daliodd rhywun Risiart. frenin Lloegr, ac efe yn dyfod o Gaersalem, a dodwyd ef yng ngharchar yr ymerawdwr. A thros ei ollwng yn rhydd y bu treth drom dros wyneb holl Loegr. . . . ." Wel, dyna ddigon am heddyw. Gobeithiaf y darllenwch lawer o'r hen ysgrifau, canys credaf y bydd i chwi garu'r hen Gymry yn llawer gwell o'u myfyrio.
GEIRFA.
BARDDONIAETH, poetry.
CENHEDLAETH, generation.
MYNACHOD, monks.
COFNODI, ysgrifennu, to chronicle.
DOETHINEB, wisdom.
DINISTRIO, destroying.
TRYSORI, treasuring.
YN DDYFAL, yn ddibaid, industriously.
CANRIF, can mlynedd, century.
GWYCH = O FRI, noted.
GEIRIADUR, dictionary.
PYBYR gwir, gwlatgar, true, patriotic.
CHWILOTA, searching.
CYFROL, volume.
TUDALEN, page.
CYFADDAS, befitting.
GYMWYNASWR, one who does a kindness, benefactor.
SEFYDLIAD, institution.
YSTRAD CLWYD, Strath Clyde.
PROFFWYDOLIAETH, prophecy.
BONEDD Y SAINT, the lineage of the Saints.
CERDDORIAETH TANNAU, harp music.
II.
CYHOEDDI, publishing.
(DY)WEDIAD, ymadrodd, saying.
DOETH, call, wise.
PRYDYDD, bardd, bard, poet.
AWDUR, author.
PARODD, caused.
HYD ONI LYNCODD CLOD CATWG EIDDO ... ARALL, Until the fame of Catwg overshadowed that of all others.
ABAD, abbot, monk.
O'R CYFRYW, of the same, of them.
BYDDAR, deaf.
MEDDWON, drunkards.
YMDDIRIED, confiding, trusting.
YNFYD, ffôl, foolish.
ER DAEAR, for the world.
CAS-BETH, hateful, disgusting thing.
BALCH, proud.
DI-FOES, without manners, immoral.
AN-FFYDDLON, not faithful, deceitful.
DI-DDIGON, cannot be satisfied, greedy.
CYDWYBOD, conscience.
AMHARCHU, disrespect.
HELBUL, trouble.
TRISTWCH, sadness.
HEB DAL YN BAROD, that does not bring its own reward.
CADARN, cryf, strong.
DEALL, understanding.
YMHLAID, o ochr, on behalf of.
TREFN, order.
BRAWDDEG, sentence.
BACHOG, crisp, concise.
III.
DEALL I'R DIM, understanding thoroughly.
DIBYNNU, depending.
O GANLYNIAD, consequently.
DULL CRYNO, concise method.
DYNA SYDD I GYFRIF AM ... that is what accounts for ...
TRIOEDD, triads.
CAD, rhyfel, battle, war.
TEYRN, brenin, king.
CERNYW, Cornwall.
TRECH, stronger.
SERCH, love.
HARDDWCH, clôd, glory, choice trait.
ADDFWYNDER, gentleness.
GWYLDER, humility.
TANGNEFEDD, heddwch, tranquility.
DEUPARTH, dwy ran o dair (=2/3), more than half, the best part.
TAITH, journey; PARATOI, preparing.
NEWYN, eisieu bwyd, hunger.
DIWEDD, end; GWELL, better; CAR, relation, friend.
TAIOG, dyn tlawd, serf, villein; DICHELL, slyness, scheming.
GLEW, hero; LLWFR, coward; TRUGAREDD, mercy.
UFUDD-DOD, obedience.
CODED GYDA'R HEDYDD, let him rise with the lark (= he should, &c.)
BYDDED ... EI WISG, let his dress be light (=his dress should, &c.).
YMBORTH, food.
GOCHELED YMRYSON, he should not quarrel.
GORMOD O OFALON, too many cares.
IV.
NAS GŴYR BETH, (he) knows not what (=nothing).
RHYDDID, freedom; SYNNWYR, common sense.
YMDDYGIAD, behaviour; BODDLONI, satisfying.
CYBYDD, miser; LLAFURIO TIR, tilling (land).
CRIBO A NYDDU, combing and spinning (wool).
TRUGAROG, merciful; ALLTUD, exile (tud=gwlad).
GWEDDW, widow; AMDDIFAD, orphan.
CAMPAU, feats of strength, and skill.
YSGUBOR, barn; GEFAIL, smithy.
CYWILYDD, shame; TALU Y PWYTH, talu yn ol, to repay.
PWYS A MESUR, weights and measures.
PWYLL, discretion.
DEALL CRAFF, keen understanding.
LLWYDDIANT, success; URDDAS, dignity.
LLAWENYDD, joy; RHINWEDD, daioni, goodness.
YN WASTADOL, YN DDIBAID, unceasingly.
DYN CYWIR, a straightforward man.
DAWN =virtue; CANMOL, praise.
IAWN I ŴR. . . . O'U PLAID, a man should fight for.
A BAIR, will cause; DAWN, rhodd, gift.
LLAFAR, speech; GWAS GWYCH, a young nobleman.
PEDOL, shoe; MELINYDD, miller.
DEFION A MOESAU, privileges and customs.
HEN WLAD FY NHADAU.
MAE hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri,
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Dros ryddid collasant eu gwaed.
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra'r môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd i mi.
Gwlad, &c., &c.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brâd,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Gwlad, &c., &c.
—Evan James.
GEIRFA.
MAD, good; PLEIDIOL WYF I'M GWLAD, I am true to my native land.
PAU, gwlad.
CLOGWYN, height.
TREISIODD, (he) oppressed.
NI LUDDIWYD YR AWEN, the muse was not hindered.
ERCHYLL LAW BRAD, the awful hand of treachery, the traitor's deeds.
PERSEINIOL (from per+sain).
DIWEDD.
"Monthly Reader" Poblogaidd.
Anfonir MILOEDD o "Cymru'r Plant" bob mis i ysgolion, a chanmolir ef gan yr ysgolfeistri fel Monthly Reader sydd yn denu sylw ac yn ennyn diddordeb y plant yn y wers.
CYMRU'R PLANT:
Misolyn i Blant Cymru. Ei amcan yw ennyn gwladgarwch plant trwy agor eu llygaid ar hanes, llenyddiaeth, a llên gwerin eu gwlad. Llawn o Ystorian a Chwedlau wedi eu casglu mewn llawer gwlad; Hanes Cymru; Hanes Gwledydd Tramor; Anturiaethau; Hanes Adar, Anifeiliaid, Pysgod; Hwiangerddi; Darnau i'w hadrodd; Dadleuon; Tonau, &c., &c. Darluniau rhagorol. Pris, CEINIOG YN Y MIS.
CYNHWYSIAD UN RHIFYN.
Edrych Ymlaen; Gŵg a Swyn y Gaeaf; Ffedog y Gôf (Ystori); Dadl i'r rhai bach; Ty'n y gwrych (Ystori); Byddin Cymru; Mewn Gwledydd Pell; Brwydr yr Amwythig; Y Llyn; Ar y Ffin; Chili; Dychryn y Corsydd (Ystori Rhyfel); John'r Hafod (8 o Straeon digrif); Dafydd a'i Galennig (Ystori). Darnau Adrodd, &c. :-Ymlaen; Heddwch; Myfyrion Pen Tymor Telyn Plentyn Bach; Cymydog Da yw Clawdd; Robin Goch; Ffoedigion Belgium. Deuawd i Blant, S. ac A.,-"Cloch yr Ysgol," yn y Solffa, a 5 o Ddarluniau.
Gwelir oddiwrth y cynhwysiad uchod mor amrywiaethol a diddorol yw cynnwys y misolyn, ac nid yw'n rhyfedd fod y plant yn ei hoffi ac yn edrych ymlaen o fis i fis am ei rifynnau.
Barn y Wasg. "Mae Cymru'r Plant yn batrwm o gylchgrawn plant, gyda'i stori a'i ddarlun a'i gân. Cymwynas fawr à phlant ein hysgolion fyddai rhoddi drws agored iddo ym mhob ysgol."
Bydd yn bleser gan y Cyhoeddwyr anfon specimen i unrhyw Ysgol-feistr ar dderbyniad cerdyn.
Cyhoeddir "CYMRU'R PLANT" hefyd yn gyfrolau blynyddol, pob cyfrol yn cynnwys 376 t.d. Llian, 1/6. Dylai y cyfrolau hyn fod yn llyfrgell pob Ysgol Dydd a Sul. Ni flina y plant eu darllen. Cadwant eu swyn a'u diddordeb.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.
TESTYN LYFRAU CYMRAEG
I Ysgolion Dydd, Ysgolion Sir, Ysgolion Nos,
a Chymdeithasau Llenyddol.
AWDL DINISTR IERUSALEM: gan EBEN FARDD. Ynghyda Hanes Bywyd Eben Fardd ; Ymdriniaeth Feistrolgar ar Fesurau a Chynghaneddion yr Awdl; Hanes y Dinistr; a Geirfa fanwl, yn cynnwys pob gair o'r Awdl. Golygwyr, J. LIAS DAVIES, Gwrecsam, a T. CARNO JONES. Llian, 9c. "Argraffiad rhagorol iawn. Anodd fyddai taro ar well gwerslyfr i ddosbarth o bobl ieuainc ddeallus, mewn tref neu bentref."—Proff. J. Morris Jones, M.A.
PERLAU AWEN ISLWYN: Wedi eu dethol a'u golygu gan J. M. EDWARDS, M.A. Gyda Nodiadau, Geirlechres, a Darluniau. Llian, 1/3. "Casgliad cyfoethog, heb ry nac eisiau, o Berlau Awen Islwyn."—Silyn.
CYMRU: fel ei Desgrifir gan Islwyn. Wedi eu dethol a'u golygu gan O. M. EDWARDS, M.A. Gyda 40 o Ddarluniau. Llian, 1/ "Gwnaeth Cân Islwyn lawer o ddaioni i feddwl Cymru, a gwna lawer o ddaioni eto i feddwl oesoedd heb eu geni." O'r Rhagymadrodd.
CEIRIOG: Wedi eu dethol a'u golygu gan O. M. EDWARDS, M.A. Llian, 1/ Detholion o rai o ddarnau telynegol goreu ein prif-fardd. Argraffiad Newydd.
CEIRIOG A MYNYDDOG: Wedi eu dethol a'u golygu gan J. M. EDWARDS, M.A. Gyda Bywgraffiadau byrrion, Cynllun Wers i Athraw a Disgybl, Geirfa helaeth a Darluniau. Llian, 1/3. "Dyma lyfr i ennyn serch plant Cymru at farddoniaeth Gymraeg."—Proff. J. Morris Jones, M.A.
CARTREFI CYMRU: Gan O. M. EDWARDS, M.A. Gyda Darluniau. Argraffiad Newydd gyda Geirfa. Llian, 1/- Cartrefi Cymru' is in Mr. Edwards' best style—light, graceful, informed with glowing patriotism. Each account is admirable."—Manchester Guardian.
CYMRU FU: Casgliad diguro o Len Gwerin Cymru. 494 t.d., Llian, 2/- Hefyd, mewn 3 o Lyfrau, Llian, 9c. yr un. Ystyrrir hwn yn un o lyfrau safonol Cymru, ac y mae wedi ei ddewis dro ar ol tro fel Llawlyfr i Arholiadau Colegau, Ysgolion, &c.
MABINOGION (O Lyfr Coch Hergest): Golygwyd gan J. M. EDWARDS, M.A. Yn cynnwys Pwyll, Pendefig Dyfed Branwen Ferch Llyr; Manawyddan Fab Llyr, a Math Fab Mathonwy. Gyda Darluniau. Llian, 1/-
MABINOGION (O Lyfr Coch Hergest): Ail Lyfr. Golygwyd gan J. M. EDWARDS, M.A. Yn cynnwys, Peredur ab Efrog, Breuddwyd Rhonabwy, Lludd a Llefelys, a Hanes Taliesin. Gyda Darluniau. Llian, 1/-
ORIAU GYDAG ENWOGION: Gan ANTHROPOS. Argraffiad Newydd gyda Darluniau. Llian, 1/-; Amlen, 6ch. Pymtheg o Ysgrifau Llengar, a Choeth, mewn arddull swynol.
TLYSAU YNYS PRYDAIN: Cipdrem i Oes Arwraidd y Cymry. Gan H. BRYTHON HUGHES. Gyda Map, Cyff Restrau, Geirfa, a Darluniau. Llian, 1/6. "Gwnelai destyn lyfr buddiol i Gymdeithasau Llenyddol, canys dylai pob llenor Cymraeg wybod hanes Tlysau Ynys Prydain."—Y Traethodydd.
YSTEN SIONED: Gan y Canghellydd SILVAN EVANS ac IVON. Llian, 1/- Casgliad o Draddodiadau, Ofergoelion, a Llen Gwerin Cymru. Y mae wedi derbyn cymeradwyaeth. uchel, a gosodir ef ymhlith Text Books Cymraeg amryw Golegau.
OWEN GLYNDWR: Gan L. J. ROBERTS, M.A. Gyda nodiadau ac 8 o Ddarluniau. Llian Ystwyth, 9c. Mae'r arddull yn ddeniadol, yr hanes yn safonol, y nodiadau eglurhaol yn werthfawr, a'r darluniau yn ddetholedig a da."—Seren Gomer.
LLYFR ADAR (Adar Cymru): Gan R. MORGAN, Llanarmon Gydag 16 o Ddarluniau Adar yn eu lliwiau naturiol. 180 t.d., Llian. 1/6. "Llyfr dyddorol, swynol, ac atyniadol, wedi ei ysgrifennu yn syml, eithr mewn iaith goeth a phersain."—Y Goleuad.
DYDDIAU YSGOL: sef Detholion o Waith Daniel Owen, gyda Geirfa yn cynnwys y geiriau yn eu ffurf Wreiddiol a Threigliadol. Gan J. M. EDWARDS, M.A. Llian, 1/3. "Mae'n llyfr i'r dim i Ddosbarthiadau Cymraeg."—Gwalia.
DETHOLION O STRAEON Y PENTAN: Dan olygiaeth T. GWYNN JONES. Llian, 1/- Mae y gwaith yn cynnwys rheoleiddiad yr orgraff, nodiadau nodiadau ar ffurfiau sathredig a dullweddau estronol, neilltuolion y dafodiaith, a Geirfa helaeth. Mae yn torri tir newydd ynglŷn â llyfrau addysg yn y Gymraeg. Mae yn neilltuol o feistrolgar.
HANES Y FFYDD YNG NGHYMRU: Gan CHARLES EDWARDS. Gyda Rhagymadrodd gan O. M. EDWARDS, M.A. Llian, 6ch.; Amlen, 4c. Ddarllennydd mwyn, cei yn 'Hanes y Ffydd gariad angherddol at Gymru, a hynny pan oedd Cymru'n dlawd ac anwybodus. Ac ynddo gweli dlysni'r iaith Gymraeg."—O'r Rhagymadrodd.
TEULU BACH NANTOER: Ystori swynol i Blant gan L. M. OWEN (Moelona). Gyda 4 o Ddarluniau. Llian, 6ch. Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol, 1912.
O'r Feirniadaeth,—"Y mae hon yn ystori feistrolgar dros ben; anodd fyddai cael dim gwell i'r pwrpas. Yn wir, gem yw. Y mae'r ystori ei hun yn swynol a chwaethus; ac y mae'r iaith yn syml, yn bur, ac yn goeth neilltuol."
LLYFR DEL: Gan O. M. EDWARDS, M.A. Casgliad o 38 of Ystraeon i ddifyrru Plant. 32 o ddarluniau. Argraffiad Newydd, mewn Llythyren Fras, gyda Geirfa helaeth. Llian, 1/-.
A Welsh Master writes:—"I have adopted 'Llyfr Del,' and find that the children are so interested in it, and so taken up with the way the stories are told, that the majority of my pupils are making very fine progress in the language."
LLYFR NEST: Gan awdwr "Llyfr Del." 46 o Ystraeon i ddifyrru Plant. Gyda Darluniau. Llian, 1/- Casgliad yw hwn o Ystraeon Byrion, Blasus, a Darllenadwy, yn cael eu hadrodd mewn dull swynol, ac wrth fodd calon plant.
DAVID DAVIES, LLANDINAM, 1818-1890. Gwneuthurwr 9 o Reilffyrdd Cymru, Sylfaenwr Cwmni Glofeydd "Yr Ocean," Cychwynwr a Datblygwr y Barry Docks. Gan GORONWY JONES (Awdwr "Goronwy ar Grwydr"). Gyda 18 o Ddarluniau da. Llian Hardd, 1/6. Esiampl nodedig i bobl ieuainc ac ereill o uchelgais anrhydeddus a llwyddiannus.
Mae llyfrau fel yr uchod wedi bod yn brin iawn yng Nghymru, ac nid oedd engreifftiau ar gael yn y Gymraeg o'r clw sydd yn dilyn diwydrwydd a dyfalbarhad, gan gadw llygad agored am bob cyfle trwy yr hwn y gellid gwella amgylchiadau.
GORONWY AR GRWYDR: Trwy Italia Dlos a Hen Wlad y Caethiwed. Gan GORONWY JONES, Prestatyn. Gyda 23 o ddarluniau ysblennydd, tudalen llawn. Llian, 1/6. "A very attractive book. Contains vivid descriptions of Italy and Egypt, in language of great beauty."—Western Mail.
GRAMADEG CYMRAEG: Gan y Parch. D. ROWLANDS, B.A. Llian, 2/- Un o destyn lyfrau Arholiadau yr Orsedd.
ELFENNAU GRAMADEG: Gan y Parch. J. Ll. Hughes. Amlen, 6ch.
A GUIDE TO WELSH: Part 1. By THOMAS JONES, M.A. Revised and Enlarged Edition. Cloth, 1/3.
A GUIDE TO WELSH: Part II. By THOMAS JONES, M.A. Revised and Enlarged Edition. Cloth, 1/3.
Yr ydym wedi derbyn nifer mawr o lythyrau oddiwrth Athrawon Dosbarthiadau Cymraeg yn canmol y llyfr hwn. Wele un ohonynt,—"I am using your 'Guide to Welsh' in a Welsh Class held in connection with the Evening Continuation Classes, and find it invaluable. The work is so carefully and wisely graduated that it reduces the learning of Welsh to the lowest possible minimum of work."
Anfoner am ein Catalog Llyfrau, 80 t.d.; Catalog Llyfrau Ysgol, 96 t.d.; Catalog o Gerddoriaeth, 72 t.d.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.

Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.