Neidio i'r cynnwys

Ysbryd Sanctaidd, dyro'r golau

Oddi ar Wicidestun
O! Arglwydd da, argraffa Ysbryd Sanctaidd, dyro'r golau

gan Evan Rees (Dyfed)

Mae dy air yn abl i'm harwain
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

282[1] Agor inni'r Ysgrythyrau.
87. 87.

1 YSBRYD Sanctaidd, dyro'r golau
Ar dy eiriau Di dy Hun;
Agor inni'r Ysgrythyrau,
Dangos inni Geidwad dyn.


2 O! sancteiddia'n myfyrdodau
Yn dy wirioneddau byw;
Crea ynom ddymuniadau
Am drysorau meddwl Duw.

3 Gweld yr Iesu, dyna ddigon
Ar y ffordd i enaid tlawd;
Dyma gyfaill bery'n ffyddlon,
Ac a lŷn yn well na brawd.

Evan Rees (Dyfed)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 282, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930