Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala/Y Parch John Davies, Tahiti a John Hughes, Pontrobert
← Can Mlynedd yn Ol | Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala gan Robert Owen, Pennal |
Y Parch John Ellis, Abermaw → |
PENOD II
Y PARCH, JOHN DAVIES, TAHITI, A JOHN HUGHES, PONTROBERT.
Y Parch, Dr. O. Thomas yn Nghynadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn y Bala, yn 1885—Yr Ysgolfeistriaid cyntaf Mr. Charles a'r Ysgolfeistriaid yn un a chytun—Tystiolaeth Lewis William — Tystiolaeth Lewis Morris, Coedygweddill—Dirgelwch llwyddiant Mr. Charles—John Davies, y Cenhadwr Cymreig cyntaf—Ei hanes—Yn cychwyn i Ynysoedd Mor y De yn 1800—Ei lafur a'i lwyddiant fel Cenhadwr—John Hughes, Pontrobert, yn un o'r Ysgolfeistriaid—Yn gorfoleddu yn y Cyfarfod Misol y dechreuodd bregethu—Helyntion hynod ei fywyd—Sylw Dr. Lewis Edwards, y Bala, am dano.
——————
YN Nghynhadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a gynhaliwyd yn y Bala, Hydref 13, 14, 1885, rhoddodd y Parch. Dr. O. Thomas, Liverpool, enwau yr ysgolfeistriaid, sef, cynifer ag y gwyddai ef am danynt. Y pwnc y traethai efe arno yn y Gynhadledd ydoedd "Dylanwad Mr. Charles ar Addysg Grefyddol a Duwinyddiaeth Cymru;" a'r ail benawd yn ei araeth ydyw, "Y mae wedi dylanwadu ar Dduwinyddiaeth Cymru trwy ei ymdrechion i sefydlu Ysgolion Dyddiol a Sabbothol yn ein gwlad, er addysgu y bobl i ddarllen y Llyfr Dwyfol, ac i ymgydnabyddu â'i ystyr."
Diamheu nas gallesid pigo allan neb yn yr oes hon yn meddu gwybodaeth mor eang ar y mater, ac mor alluog i'w egluro gyda'r fath fedr a meistrolaeth. Ar ol dweyd nad oes rhestr gyflawn o ysgolfeistriaid Mr. Charles ar gael, y mae yn enwi y rhai canlynol a fu yn y gwasanaeth anrhydeddus hwn:
—Y Parchn. John Davies, y Cenhadwr enwog i Ynysoedd Mor y De; John Hughes, Pontrobert; Thomas Davies, Llanwyddelen; John Ellis, Abermaw; Robert Roberts, Clynnog; Lewis William, Llanfachreth; Richard Jones, y Bala; Robert Evans, Llanidloes; Daniel Evans, Harlech; Thomas Owen, Wyddgrug; Mri. David Roberts, o Fangor; John Jones, Penyparc. Meirionydd. Dyna yr oll a enwir gan Dr Thomas. Ond efe a ychwanega, "Nid ydwyf, ar hyn o bryd, yn gallu cofio am neb arall; ond y mae yn ddiamheu fod lliaws heblaw y rhai a nodwyd." Yn ychwanegol at y rhai uchod, fe fu Hugh Evans, o'r Sarnau, gerllaw y Bala; a William Pugh, Llechwedd, Llanfihangel-y-Pennant, yn Meirionydd, yn ysgolfeistriaid cyflogedig. Ychwanegir hefyd enwau Robert Morgan a Dafydd Rhisiart, a fu yn ysgolfeistriaid yn Nghorris; ac un o'r enw William Owen, o Abergynolwyn. Ond ofer, fel y crybwyllwyd, ydyw ceisio cael rhestr gyflawn o honynt. Nid yw yn debyg fod neb o'r rhai a geir yn y rhestr uchod ymhlith yr ysgolfeistriaid cyntaf a gyflogwyd. Yr oedd y rhai hyny, yn ol pob tebygolrwydd, yn y Bala, neu yn rhywle yn agos i'r Bala. Buasai yn beth dyddorol iawn i wybod pwy oedd y cyntaf un a osodwyd yn y gwaith. Tra thebyg mai un o'r Bala, neu o'r gymydogaeth, ydoedd hwnw, oblegid Mr. Charles ei hun a'i dysgodd ef i fod yn ysgolfeistr, ac ychwaneg hefyd na hwnw—"rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf bu raid i mi fy hun eu dysgu; hwythau, wedi hyny, a fuont yn ddysgawdwyr i eraill a anfonais atynt i fod yn ysgolfeistriaid."—(Cofiant gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, tu dal. 168.) Cyfododd amryw bregethwyr yn y Bala a'r cymydogaethau yn y cyfnod hwn, a diamheu i rai o'r cyfryw, os nad yr oll o honynt, fod dros ryw dymor o'u bywyd yn ysgolfeistriaid. Mr. Charles ei hun hefyd a ddywed am y cyntaf un a gyflogwyd ganddo, "Symudwyd yr anhawsder hwn," sef yr anhawsder i gael person cymwys yn ysgolfeistr, i gychwyn, "trwy i mi ddysgu dyn tlawd fy hun, a'i gyflogi ar y cyntaf i fod yn agos. ataf, fel y byddai i'w ysgol fod, mewn ystyr, o dan fy arolygiaeth wastadol." Cynyddodd nifer yr Ysgolfeistriaid o un i 20. Eu cyflog ar y cyntaf oedd £8 yn y flwyddyn; wedi hyny amrywiai o £12 i 15. Tybir y byddai Mr. Charles yn talu iddynt oll yn flynyddol oddeutu £200, a disgynai arno ef ei hun i gasglu y swm hwn tuag at dreuliau yr Ysgolion Rhad Cylchynol.
Oddeutu deng mlynedd ar hugain y bu Mr. Charles yn arolygu ac yn gofalu am yr ysgolion, ac y mae tystiolaethau ei lythyrau ef at ei ohebwyr, a'i ohebwyr ato yntau, yn profi nas gellir dangos maint eu dylanwad, na rhoddi pris ar y daioni a ddaeth i Ogledd Cymru trwyddynt. Peth amlwg yn eu hanes ydyw fod undeb a chydweithrediad a chyfeillgarwch arbenig yn bodoli rhwng yr Ysgolfeistriaid a'r gwr parchedig oedd wedi eu cyflogi i'r gwaith. Byddai ef bob amser yn amcanu i gyflogi dynion i fod yn athrawon o egwyddorion pur, cywir eu buchedd, yn meddu duwioldeb personol, ac yn llawn sel ac awydd i wneuthur daioni, pe na buasai ynddynt ddim cymhwysderau ond hyn. Ac ar ol amryw flynyddoedd o brofiad gyda dygiad ymlaen yr Ysgolion efe a ddywed, "Y mae fy ngofal wedi ei ad-dalu yn dra helaeth, canys y mae yr athrawon mor awyddus ag ydwyf fi fy hunan am i'r gwaith lwyddo, ac y mae hapusrwydd tragwyddol y rhai a ddysgir ganddynt yn cael y lle mwyaf dyfal yn eu meddyliau." Y cyfryw ydyw tystiolaeth Mr. Charles am yr ysgolfeistriaid ffyddlawn a gyflogid ganddo, a'r rhai oeddynt yn cydweithio gydag ef i addysgu ardaloedd tywyll Gogledd Cymru, gan' mlynedd yn ol. Yr oedd yr Ysgolfeistriaid, o'r tu arall, yn ei barchu yntau â pharch dau-ddyblyg. Ac y mae yn bur sicr ddarfod i'w addfwynder ef, a'i sel diball i wneuthur daioni i'w genedl, gynyrchu llawer o'r cyffelyb ysbryd yn y dynion distadl, crefyddol, oeddynt yn ei wasanaeth. Peth y gallesid gasglu yn naturiol oddiwrth ei hanes a'i foneddigeiddrwydd Cristionogol ydyw hyn. Heblaw hyny, y mae amryw grybwyllion i'w cael, wedi disgyn o enau y rhai oeddynt yn byw yn yr oes hono, yn dwyn i'r amlwg yr unrhyw wirionedd. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," ebai Lewis William, Llanfachreth, un o'r ysgolfeistriaid, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi a'm tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth (ger Dolgellau), o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos am fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo gyda'r Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra bum yn cadw ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt. Ond galwyd arnaf i Lanfachreth i fod yno am flwyddyn, i gadw ysgol Gymraeg a Saesneg (yr oeddwn wedi dechreu cyn hyn yn y modd hwn, er fy mod yn anfedrus iawn.) Darfu i ryw bersonau fyned dan rwymau i mi am £5 y chwarter, a derbyniais hwynt. A bum yno ychydig yn ychwaneg ar ewyllys da. Ond yr oeddwn yn fy nheimlad i raddau mawr wedi colli ewyllys da Preswylydd y berth, er pan oeddwn wedi ymadael o fod dan ofal Mr. Charles."
Eraill hefyd, heblaw athrawon yr Ysgolion Cylchynol, a deimlent hoffder mawr tuag at Mr. Charles, ac ymlyniad dwfn wrtho, ar gyfrif ei ledneisrwydd, a'r gefnogaeth wresog a roddai i bawb fyddent yn amcanu gwneuthur daioni. Nid oedd Lewis Morris, Coedygweddill, yn ysgolfeistr. Ond efe oedd un o'r ddau bregethwr cyntaf gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd. Cafodd dröedigaeth amlwg ac uniongyrchol wrth wrando canu ar ddiwedd odfa gan y Parch. Dafydd Morris, Sir Aberteifi, mewn ty annedd, yn Heol y Maengwyn, Machynlleth, yn mis Awst, 1789. Wedi myned i'r dref hono i redegfa ceffylau yr oedd, a thra yn dychwelyd ar hyd yr heol clywai y canu, ac meddai wrtho ei hun, "Mae y rhai hyn gyda gwell gwaith na mi." Ar y funyd aeth saeth lem i'w galon, nes ei sobri yn nghanol ei wylltineb. Dyn o gorff mawr, cryf, cadarn, esgyrnog, oedd Lewis Morris. Efe oedd pen-campwr chwareuon a rhedegfeydd ei wlad, ac yn y cyfryw gynulliadau byddai ar bawb ei arswyd. Wedi iddo ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth ymhen y flwyddyn ar ol ei droedigaeth, byddai llwfrdra a digalondid ar amserau yn ei feddianu yntau. Gan gyfeirio at yr adegau hyn, meddai ef ei hun, "Dywedodd y cyfaill anwyl a pharchus, Mr. Charles o'r Bala, wrthyf, pan yr oeddwn un tro yn myned at yr esgynlawr i bregethu mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, oddiar fy mod yn ofnus ac isel fy meddwl. Cofiwch na bydd neb yn gwrando arnoch ond pechaduriaid; ac y bydd y gwirionedd a fydd genych yn fwy na phawb a fydd yn gwrando arnoch.' Ei ddywediad synwyrlawn a gododd fy meddwl i fyny o iselder mawr, ac a fu yn gymorth i mi lawer gwaith wedi hyny." Mynych y gwna Lewis Morris, yn ei Adgofion o hanes ei fywyd, gyfeiriadau cyffelyb o anwyldeb at y gwr byd-glodfawr o'r Bala.
Yr oedd Mr. Charles, tu hwnt i amheuaeth, yn ŵr wrth fodd calon Duw, wedi ei godi yn arbenig ar gyfer anghenion Cymru yn yr oes yr oedd yn byw ynddi, a dyma yn ddiau a rydd gyfrif am y llwyddiant a fu ar bob gwaith yr ymgymerodd ef â'i gyflawni. Yr oedd yn ŵr hoffus yn serch ei gydoeswyr hefyd, ac yn fwyaf neillduol ymysg yr ysgolfeistriaid oeddynt yn gyflogedig yn ei wasanaeth; ac oherwydd yr hoffder a'r cydweithrediad oedd yn bod ar y naill law a'r llall y bu llwyddiant mor fawr ar y gwaith cyntaf yr ymgymerodd ag ef, ar ol ymuno â'r Methodistiaid yn y Bala, ar ddechreuad yr ail haner canrif yn hanes y Cyfundeb, sef rhoddi cychwyniad i'r Ysgolion Rhad Cylchynol. Dyma ddechreuad y llwyddiant mawr a gynyrchwyd trwy fywyd a llafur Mr. Charles, ac a barodd ddylanwad mor fendithiol a pharhaol ar Fethodistiaeth Cymru.
Bellach, amcenir rhoddi ychydig o hanes rhai o'r ysgolfeistriaid mwyaf hynod. Y cyntaf ar y rhestr a enwir gan Dr. Thomas, yn ei anerchiad i'r Gynhadledd yn y Bala, ydyw,—
Y PARCH. JOHN DAVIES, O SIR DRE FALDWYN.
Efe oedd y Cenhadwr Cymreig cyntaf. Aeth allan yn y flwyddyn 1800 i Ynysoedd Mor y De, a bu yno am oes faith yn gwneuthur gwasanaeth mawr. Ychydig o wybodaeth sydd am dano yn Nghymru, yr hyn sydd yn beth rhyfedd, gan ystyried yr enwogrwydd y daeth iddo, a'r gwasanaeth mawr a wnaeth fel cenhadwr. Yr hanes helaethaf o lawer a welsom am dano ydyw, yr ysgrifau a ysgrifenwyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, i'r Newyddion Da, yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn 1892. Gan ei fod wedi cychwyn ei yrfa fel un o ysgolfeistriaid Mr. Charles, cymerir o'r ysgrifau crybwylledig yn benaf, y prif ddigwyddiadau yn hanes ei fywyd, er gwneuthur ei hanes gymaint a hyn yn fwy hysbys. Brodor ydoedd o ardal Pontrobert, Sir Drefaldwyn. Ganwyd ef Gorphenaf 11eg, 1772. Gwehydd oedd ei dad, ac mae yn debyg iddo yntau gael ei ddwyn i fyny yn yr un gelfyddyd. Yr oedd ei deulu yn grefyddol, a chafodd yntau y fantais fawr o ymgydnabyddu a phethau crefydd yn ieuanc. Un o'i gyfoedion ydoedd y Parch. John Hughes, Pontrobert. Parhaodd y ddau yn gyfeillion cywir am dros driugain mlynedd. Perthynai y ddau i'r un eglwys yn eu hieuenctyd, yn ardal Pontrobert. Yr oedd Ann Griffiths, yr emynyddes, yn aelod o'r un eglwys yr un adeg. Trwy ryw foddion, nad yw yn hysbys, cyflogodd Mr. Charles y ddau lanc ieuanc fel ysgolfeistriaid i'w Ysgolion Cylchynol. Ychydig o hanes John Davies yn y swydd hon sydd ar gael. Ond y mae sicrwydd ei fod yn cadw ysgol yn Llanrhaiadr-yn-Mochnant, yn mis Medi, 1797, ac yn Llanwyddelen, yn mis Mai, 1800.
Yr oedd Mr. Charles yn bleidiwr selog i Gymdeithas Genhadol Llundain, yr hon a sefydlwyd oddeutu can' mlynedd yn ol, o'r cychwyn cyntaf. Ceir hysbysiad yn y Drysorfa Ysbrydol ei fod yn derbyn casgliadau oddiwrth eglwysi Cymru tuag at dreuliau y Gymdeithas yn y flwyddyn 1799. Oddeutu y pryd hwn yr oedd mewn gohebiaeth & Thrysorydd y Gymdeithas o berthynas i gael cenhadon o Gymru, ac mewn llythyr ato i'r perwyl hwn ceir y geiriau canlynol yn llythyr y gŵr yr oedd yn gohebu âg ef:-"Eich ymdrechion at gael cenhadon addas fydd y gwasanaeth mwyaf gwerthfawr a ellwch wneyd i'r achos. Ac yn ol fy marn i, y mae ysgolfeistriaid yn debyg o fod ymysg y rhai mwyaf defnyddiol fel cenhadon ymysg pobl anfoesedig." Mewn canlyniad i'r ohebiaeth hon y mae John Davies yn rhoddi i fyny yr ysgol yn Llanwyddelen, ac yn mis Mai, 1800, yn cychwyn fel cenhadwr i Ynysoedd Mor y De. Y Parch. Richard Jones, Llanfair, a ysgrifena, "Cofus genyf glywed fy mam yn dywedyd fod yno wylo mawr yn Llanwyddelen pan oedd ef yn ymadael." Yn mis Mai, 1800, cychwynodd y Royal Admiral, gan gludo 25 o genhadon, ac yn eu mysg y Parch. John Davies a'i briod, a glaniodd yn Ynys Tahiti, Gorphenaf 10, 1801. Bu ei briod byw yn yr Ynys un mlynedd ar ddeg, a bu yntau byw yno bedair blynedd ar ddeg a deugain. Wedi glanio yn yr ynys, ysgrifenodd y cenhadwr anturiaethus lythyrau adref at ei rieni, at deulu Ann Griffiths, yr Emynyddes, ac hyd ddiwedd ei oes at ei gyfaill mynwesol, y Parch. John Hughes, Pontrobert, llawer o'r rhai a ymddangosasant yn y Drysorfa.
Bu ef a'i gyd-genhadon yn llafurio yn Ynysoedd Mor y De, trwy anhawsderau a pheryglon dirif, am ddeg neu ddeuddeng mlynedd heb argoelion o odid i ddim llwyddiant. Yr oedd ffydd y cyfarwyddwyr yn Llundain bron a diffygio, a buont ar fin galw y cenhadon adref. Ond yn yr awr dywyllaf fe dorodd y wawr, trwy i Pomare, brenin Tahiti, gofleidio Cristionogaeth. Dygodd hyn gyfnewidiad trwyadl ar yr Achos Cenhadol yn Tahiti, a'r ynysoedd cylchynol. Am y deg ar hugain mlynedd dilynol dilynwyd y cyffroad crefyddol yno a llwyddiant bron digyffelyb, ac erbyn y flwyddyn 1819 yr oedd y brenin, yr hwn oedd blaenffrwyth yr Ynys i Grist, wedi adeiladu capel, yr hwn a elwid yn Gapel Brenhinol, yr addoldy mwyaf ei faintioli a adeiladwyd erioed mewn unrhyw wlad. Yr oedd yr addoldy mor fawr fel nas gallai yr un pregethwr wneyd ei hun yn glywadwy ynddo: gosodwyd ynddo dri o bulpudau, a byddai pregethwyr yn llefaru ymhob un o'r tri yr un adeg. Ac ymhen ychydig wed'yn rhifai y cyflawn aelodau yn y maes lle y llafuriai y cenhadwr Cymreig, yn Papara, 363. a'r gynulleidfa gyhoeddus ar adegau, 1200. Parhaodd y genhadaeth i lwyddo dros amryw flynyddau. Wedi hyn, modd bynag, daeth pethau chwerwon i brofi y gwaith da, megys, dadleuon ymysg y cenhadon eu hunain, ymweliadau llongau tramor yn eu masnach â'r trigolion, dylanwad Ewropeaid annuwiol ar foesau yr ynyswyr, dyfodiad y Babaeth i'w plith, ac yn ddiweddaf oll cymerwyd yr ynys gan y Ffrancod, a gwnaed hi yn drefedigaeth Ffrengig.
Bu y Parch. John Davies yn llafurio yn yr Ynys 54 o flynyddoedd, yn fawr ei lafur ac yn fawr ei barch. Cymerai y blaen mewn pethau gwladol a chrefyddol. Llafur mawr, digon i sicrhau enwogrwydd i unrhyw genhadwr, oedd ei lafur llenyddol—cyfansoddi llyfrau yn iaith y brodorion, cyfieithu rhanau helaeth o'r Ysgrythyrau a llawer o lyfrau eraill, pregethu y Sabbothau, ac arolygu yr holl waith. Parhaodd trwy holl flinderau bywyd yn dirf ac iraidd yn ngwaith ei Arglwydd. Ac Awst 11, 1855, cymerwyd ef oddiwrth ei lafur at ei wobr, yn 84 mlwydd oed. Pe buasai gan y Methodistiaid Genhadaeth o'u heiddo eu hunain yn ei amser ef, diameu y buasai ei hanes yn llawer mwy adnabyddus.
Y PARCH. JOHN HUGHES, PONTROBERT,
Yr oedd yntau yn un o'r ysgolfeistriaid, ac fe gododd o sefyllfa o ddinodedd i safle o ddylanwad mawr, nid yn unig yn ei sir enedigol, ond yn y Cyfundeb oll. Ganwyd ef yn ardal Pontrobert, yn y flwyddyn 1775. Yr oedd dair blynedd yn ieuengach na'r Parch. John Davies, y Cenhadwr. Dygwyd ef i fyny yn wehydd, yn nghartref ac yn nghwmni y Cenhadwr, a'r pryd hwnw ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddynt, yr hwn a barhaodd ar hyd eu hoes. At John Hughes y byddai y Cenhadwr yn ysgrifenu ei lythyrau o Ynys Tahiti, ac y mae 33 o honynt ar gael yn awr ymysg papyrau y cyntaf. Yr oedd y ddau yn wŷr ieuainc crefyddol, a gwnaethant ddefnydd da o'u horiau hamddenol. Clywodd Mr. Charles am eu crefydd a'u diwydrwydd, ac o ran dim a wyddys yn wahanol, cyflogwyd y ddau yr un adeg i fod yn ysgolfeistriaid. Bu John Hughes yn cadw ysgol yn Llanwrin, Llanidloes, Berthlas, Llanfihangel, a Phontrobert, a diamheu mewn lleoedd eraill. Mawrhai ef ei swydd fel ysgolfeistr. Pan yr ysgrifenai at ei gyfeillion, ac hyd yn nod at ei ddarpar gwraig, terfynai ei lythyrau gyda'r geiriau, "John Hughes, Athraw Ysgol." Parhaodd i gadw yr Ysgol Rad hyd 1805, y flwyddyn yr ymbriododd â Ruth Evans. Y mae dyddordeb hanesyddol, fel y mae yn wybyddus, yn perthyn i Ruth Evans. Bu hi am bedair blynedd yn forwyn yn ngwasanaeth rhieni Ann Griffiths, yr Emynyddes enwog. Y hi a glywodd yr Emynau gyntaf o bawb, oblegid nid ysgrifenodd Ann Griffiths yr Emynau ei hun, ond eu hadrodd a wnaeth yn nghlywedigaeth y forwyn. Adroddodd hithau hwynt wrth Mr. Charles o'r Bala, ac ar ei ddymuniad ef ysgrifenwyd hwynt i'w hargraffu gan ei phriod, John Hughes. Felly y diogelwyd hwynt rhag myned ar ddifancoll.
Dechreuodd John Hughes bregethu yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn neidio ac yn gorfoleddu yn moddion cyhoeddus y Cyfarfod Misol y cafodd ganiatad i bregethu. Cymerodd afael yn y geiriau, "Pa faint mwy y bydd i waed Crist," ac ail—adroddai drachefn a thrachefn yr ymadrodd, "Difai i Dduw!" "Difai i Dduw!" "Ni welodd Duw fai yn yr Aberth yma. Diolch iddo! Bendigedig !" Yn Llanidloes y pregethodd gyntaf ar ol cael caniatad, ar fore Sul. Dechreuai y gwasanaeth, fel yr arferid y pryd hwnw, am 9 o'r gloch, a phregethodd yntau nes yr oedd ar fin 11 o'r gloch. Pe gwnaethai un o'i sefyllfa ef hyny yn yr oes pregethau byrion hon, torasid ei ben ar unwaith, fel y torai Tomos Bartley benau ei gywion ceiliogod. Ond er gwneuthur hyny i John Hughes, yr oedd digon o grefydd a phenderfyniad ynddo i ddyfod yn fyw drachefn. Pe llwyddasai yr hen frodyr a geisient ei rwystro i bregethu yn eu hamcan, buasai un o brif golofnau yr achos mawr yn Sir Drefaldwyn wedi ei thaflu i lawr yn y cychwyn. Yr oedd John Hughes yn athrawiaethwr a duwinydd o radd uchel. Yr oedd yn nodedig o grefyddol ei ysbryd a diwyd i gyraedd gwybodaeth yn nechreu ei oes, ac felly y parhaodd hyd y diwedd. Trwy dlodi ac anhawsderau dirfawr daeth yn awdurdod ar bynciau Duwinyddol yn llysoedd y Cyfundeb. Clywsom, pan yn dra ieuanc, yr hanesyn canlynol am dano:—Yr oedd Mr. Charles mewn Cymdeithasfa yn Nghaernarfon, yn ceisio galw i gof y gair Groeg am "lwyr brynu," ac er ceisio, methai a chael gafael ynddo. A dyma John Hughes mewn diwyg ac ymddangosiad Cymroaidd, a chyda llais croch, yn gwaeddi o ganol y dorf,— εξαγοράζω! Cyfododd hyny ef lawer o raddau yn nghyfrif yr hen dadau byth o hyny allan.
Yr hanes argraffedig helaethaf am dano ydyw yr Ysgrifau dyddorol a ysgrifenwyd ar hanes ei fywyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, i'r Traethodydd, 1890 ac 1891. Ei Hunan-Gofiant ef ei hun, ac yn enwedig ei Ddydd-lyfr am 1816, y flwyddyn ddilynol i frwydr fawr Waterloo, blwyddyn o gyfyngder mawr yn y deyrnas, ydyw un o'r pethau llawnaf o ddyddordeb yn hanes crefydd Cymru y blynyddoedd hyny. Yr oedd ef yn un o'r engreifftiau goreu o oes y teithio, pan oedd teithio yn ei fan uwchaf. Ond er y teithio a'r llafurio, helbulus a fu bywyd yr hen bererin, oherwydd nad oedd ei enillion trwy y naill a'r llall yn ddigon i'w gadw ef a'i deulu uwchlaw angen. Y mae ei hanes am y rhan ddiweddaf o'i oes yn ddigon hysbys i grefyddwyr hynaf y wlad. Bu farw Awst y 3ydd, 1854. Yr Ail Gyfrol o Fethodistiaeth Cymru, yr hon a ysgrifenid ychydig cyn ei farw, a ddywed:—"Y mae yr hen frawd parchedig ar y maes gweinidogaethol er's 52 mlynedd, ac nid mynych y bu neb yn fwy ffyddlawn a diwyd, yn ei wlad ei hun, a thros yr holl Dywysogaeth."
Cofus genym glywed y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala, yn gwneuthur y sylw, er calondid i ddyn ieuanc oedd yn lled ddiffygiol mewn dawn yn y cyhoedd "Nid oedd gan John Hughes, Pontrobert, ddim dawn. Yn naturiol yr oedd ei lais y mwyaf ansoniarus ac aflafar a glywsoch erioed; ond pan fyddai wedi ei wresogi gan y gwirionedd, byddai mor rymus a hyawdl nes cario pob peth o'i flaen."
Nodiadau
[golygu]