Ysgrifau (John Breese Davies)/R. J. Derfel
| ← Tro i Faesglasau | Ysgrifau (John Breese Davies) gan John Breese Davies |
Y Soned → |
R. J. Derfel
PRIN, efallai, y saif neb o feirdd Cymraeg y ganrif ddiwethaf yn gliriach ar ei ben ei hun nag R. J. Derfel. Tynn ef eich sylw ar unwaith, am fod cymaint o sŵn gwrthryfel yn ei gân. Hyd oddeutu 1864, bu'n boblogaidd iawn, ond o hynny hyd yn ddiweddar ni sonnid ond yn ddistaw bach amdano. Nid ysgrifennwyd ond y nesaf peth i ddim o'i hanes, a throeon rhyfedd ei yrfa, na beirniadaeth ar ei waith ychwaith.
Ar ôl 1864, ni chyhoeddodd lyfr Cymraeg am chwe blynedd ar hugain. Nid oes yn ei lyfr olaf ragymadrodd, ond ceir ynddo nifer o adolygiadau, sy'n dywedyd ychydig amdano ef ei hun a llawer am ei wrthwynebwyr. Ceir ynddo hefyd Gydymddiddan rhwng Fi a Fo,' ac yn hwnnw crynhoir ei olygiadau, a cheir gair o'i brofiad. A oes gair o obaith ynddo? Oes, ond y mae ynddo hefyd sŵn anobaith ar ôl mynych siom
Minnau, fel y ddeilen olaf,
Syrthiaf, ac ni chodaf mwy.
Bu bron a bod felly. Y prif reswm am hynny, y mae'n ddiamau, oedd iddo ysigo Cymru yn y man agosaf at ei chalon. Dywedodd nad oedd ei chrefydda'n berffaith. Nid oedd ef, er hynny, yn anghrefyddol, ac ni chredai fod y syniad am eglwys fel y cred llawer o'i ddosbarth ef ac o ddosbarthiadau eraill, yn syniad gau. Trist ydyw meddwl iddo gefnu ar yr eglwys. Oni allasai ei gwella'n well fel aelod ohoni nag fel beirniad o'r tu allan? Onid oedd yn rhaid i'r eglwys, fel pob corff arall, newid? Nid oedd ef yn ddigon uniongred i'w gyfrif yn sant mewn un o eglwysi ei oes. Collais,' meddai, 'lawer o bethau a ddysgais, ond enillais fwy yn eu lle.'
Y mae'n ddiddadl ei fod yn gweled ymhellach i'r dyfodol na'r mwyafrif o grefyddwyr ei oes, a pho fwyaf a welir felly, mwyaf o rwystrau a ddaw i'r golwg. Ni allai ef oddef llawer o'r fframwndis oedd wedi ymhel i'r eglwys, ac wrth ei ddangos, caeodd agos bob drws rhagddo. Eithr nyni a ddylem eu hagor, gan ein bod heddiw'n rhoi mwy o bwys ar waith a gwasanaeth nag ar seremonïau a chyffesion.
Robert Jones oedd ei enw. Ychwanegodd' Derfel' ato oddeutu'r un adeg ag y rhoes Ceiriog, yntau, enw afon ei gartref rhwng y ddeuair John Hughes. 'Ar ben mynydd Mynyllog, mewn tŷ sydd wedi peidio â bod ers llawer o flynyddoedd y ganwyd fi,' meddai yn ei Ganeuon (1892), ac ysgrifennodd lawer dan y ffugenw Mynyllog. Enw'r tŷ, yn ôl Mr. D. J. Williams, ysgolfeistr llengar Llandderfel, oedd Foty Pen Silff, a thŷ ei daid a'i nain ydoedd; yno y ganed ef ar Orffennaf 24, 1824.
Ail fab oedd i Edward a Catherine Jones, Brynfedwen, a Than-y-ffordd ar ôl hynny. Ni chredai lawer mewn marwnadau—'y marwnadau gorau yw gofal am y byw '—eto yr oedd ei dad a'i fam, a'r Llan yn annwyl iddo. Dyn onest, didwyll oedd ei dad, un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol yn Llandderfel, a cholofn gadarn iddo. Mam fedrus a hynod o ddeallus oedd ei fam. Oddi wrthi hi, ei athrawes gyntaf, y cafodd ei serch at lyfrau, a hi a'i dysgodd i ddarllen, cyn iddo fod yn bump oed. Aeth y bachgen ifanc i weithio i ffatri wlân Llandderfel, pan oedd yn ddeg oed, ond ymhen rhyw ddwy flynedd dihangodd efo'r troliau glo i Langollen, ac yna at ewythr iddo yng Nghefn Mawr. Yr oedd ei ewythr yn dipyn o fardd, ac arhosodd Robert yno am ddwy flynedd. Wedyn, aeth i weithio i ffatri wlân yn Llangollen, ond daliai'n anesmwyth. Pan ddaeth i'w oed, aeth i Lerpwl, yna i Fanchester, ac wedyn i Lundain, lle gwelodd y Siartwyr ac eisiau bwyd. Daeth yn ôl yn fuan i Fanchester, ac yno y bu, wedyn, hyd ei fedd.
Ymhen amser, cafodd le fel paciwr gyda'r Mri. J. F. a H. Roberts, brodyr yn hanfod o Lanidloes, a brodyr Syr Wm. Roberts, y meddyg enwog, ac un o ddarganfyddwyr Benger's Food. Yr oedd yn ddyn busnes galluog, hardd o bryd a gwedd (fel y gwelir oddi wrth ei lun yn y Caneuon), cryno, caredig, ag egnïol. Cyn bo hir, fe'i dyrchafwyd yn werthwr, ac yna'n drafaeliwr yn y Gogledd.
Hynaws mewn cwmni, hoff o stori, esgud i gondemnio, ac eang ei ddiddordeb yr oedd galw mynych amdano i areithio ac i bregethu, a daliai ei awen yn doreithiog. Priododd, a rhoes y gwaith trafeilio i fyny, wedi blino ar fywyd digartref masnachwr prysur, a gwaith arall o'i flaen.
Preswyliai Ceiriog, a Chreuddynfab—'y beirniad na ellid ei brynu '—ym Manchester, a throdd yntau'n Fedyddiwr, fel hwythau, yng Ngranby Row. Cyn bo hir, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i bregethu oherwydd ei syniadau Sosialaidd. Agorasai siop i werthu llyfrau Cymraeg ac offer ysgol, ond gan nas cefnogwyd, trodd ei antur yn fethiant, er loes iddo.
Ciliodd ei gyfeillion oddi wrtho o un i un, oherwydd newydd-deb ei olygiadau gwleidyddol a'i gysylltiad â'r Sosialwyr. Ymddangosai, fel yr awgrymir yn ei Ganeuon, nad oedd dim ond helbul byth a hefyd ' yn ei aros. Galwodd rhai ef hyd yn oed yn anffyddiwr, er na bu ŵr mwy crefyddol ei ysbryd nag ef erioed. Daliodd i garu Cymru i'r diwedd. Yn 1864, credai y dylem gadw'r iaith a'i rhoi yn yr ysgolion dyddiol; y dylem ddod â moddion y ddysg orau, a'r dyrchafiad uchaf i gyrraedd pob Cymro; ac y dylem fod yn eiddigus dros ein hiawnderau a'n anrhydedd fel cenedl.
Yn niwedd y ganrif, nid ydwyf,' meddai, 'yn llai fel Cymro, ond yr wyf yn fwy o ddyn.' Bron na allai ddywedyd efo Tom Paine mai'r byd oedd ei wlad, a gwneud daioni ei grefydd.' Ni chredai y collai Cymru ei chenedligrwydd pe collai hi yr iaith, a byddai'n well ganddo adael i'r Gymraeg farw na pharhau i'w harfer heb ei dysgu. Carai'r Gymraeg yn angerddol, er bod y syniad am un iaith drwy'r byd yn ei swyno. Credai, yn gywir, nad oedd cenedlgarwch yn ddim amgen na hunan-barch, ac na allai cenedl garu yr un genedl arall mewn gwirionedd oni charai hi ei hun.
Fe welir, felly, bod ei syniadau am genedligrwydd yn debycach i farn Sosialwyr diweddar nag i ddelfrydau'r rhai cynharaf: nid oedd yn wladgarwr penboeth nac yn gosmopolitan. Tarawyd ef yn wael yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas Gymreig, a bu farw'n hen ŵr, Rhagfyr 17, 1905.
Ar lawer cyfrif yr oedd R. J. Derfel yn blentyn ei oes. Fe'i ganed ar adeg ryfedd yn hanes Prydain. Ni bu cyfnod mwy gorthrymus yn hanes yr ynys hon na'r blynyddoedd 1815 hyd 1848, a pharhaodd gorthrwm yr hen ddosbarth yn hwy yng Nghymru nag yn Lloegr. Ar ôl rhyfel Ffrainc, nid oedd ball ar ormesu'r werin. Yr oedd yr hen ffiwdaliaeth yn darfod; ni fedrai na llyfu na llyncu gweithwyr y diwydiannau newyddion. Nid oedd na brenin na gwladweinydd o blaid y bobl gyffredin; ceisient bopeth i gadw'r hen ddull o fyw rhag dinistr. Yr oedd America wedi ei cholli, ac nid oedd eto le i fasnach ymehangu. Tybiai ambell lafurwr fod yr Arglwydd Dduw Rhagluniaeth y canodd Ann Griffiths amdano wedi ei anghofio. Yr oedd ar fin newynu; deddf y caethiwed oedd Deddf y Tlodion; a bu'n bwrw glaw drwy 1816. Nid oedd iau gwŷr llygad y geiniog yn ysgafnach, nag mor ysgafn ag iau gwŷr llygad y tir. Eto ni feiddiai neb rwgnach, rhag ofn bod rhyw Olifer yn ymyl, neu rai o gethern y fyddin a'r llynges a ddychrynodd Ap Vychan.
Gwellodd pethau'n ara deg. Yn 1824, gwnaethpwyd Undebau Llafur yn gyfreithlon; estynnwyd yr etholfraint o dipyn i beth, a daeth y môr a'r bara'n rhydd; daeth amodau gweithio'n well ar ôl pasio i archwilio ffatrioedd yn 1833; ac yn 1847 pasiwyd Deddf y Deng Awr. Cododd y Siartwyr, a darfu amdanynt, er bod eu pwyntiau gorau, erbyn hyn, yn rhan o gyfraith y wlad. Bu Cymru'n flaenllaw yng nghynnydd sosialaidd Lloegr, ond gwan fu'r mudiad cymdeithasol yng Nghymru. Ni ddiflannodd dylanwad yr hen deuluoedd' y rhawg, ac os edrychir ar ein llenyddiaeth, ceir gweled mor wasaidd a milwraidd oeddym mewn gwirionedd; neu os mynnir, edrycher ar syniadau cymdeithasol Mari Lewis. Hyd yn oed ynglŷn â'r gelfyddyd farddonol, yr oedd tuedd y wlad at gaethiwed tynnach nag erioed. Heblaw gogwyddo'r meddwl llenyddol at y Beibl, meithrinodd y Diwygiad Methodistaidd serch at ganu rhydd. Eto, yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, beirniadwyd Goronwy Owain am ddefnyddio gormod ar y gynghanedd lusg, a'r sain! Yn eu lle, dyrchafwyd y gynghanedd groes, a throes llawer o'r farddoniaeth yn glecian cytseiniaid, a dim arall. Ymddengys llawer o'r awdlau fel canhwyllau pres y silff-fantell, yn ddarnau gloywon, prydferth ar eu pennau eu hunain, ond yn anwastad ac anghysylltiol.
Fe allesid disgwyl i'r amgylchedd hon greu mwy o ysbryd gwrthryfel nag a wnaeth. Gwnaeth byw ar bymtheg y mis (Caneuon Min y ffordd, t. 40) a thrueni'r bywyd masnachol wrthryfelwr o R. J. Derfel. Er iddo ganu unwaith neu ddwy, yn gynnar yn ei oes, ar destunau fel Priodas Tywysog Cymru' neu'r Cymru' 'Fyddin Wirfoddol,' eto rhed cydymdeimlad gweithiwr a'r dyn ar lawr yn gryf yn ei ganeuon. Y mae'n wir nad ydyw ei fedr yn ogyfuwch â'i ddawn bob amser. Nid ydyw'n feistr ar ffurfiau barddonol, ac ni chred yn y gynghanedd. Dengys, er hynny, lawer o fedrusrwydd mydryddol, er nad ydyw ei glust yn ddigon tenau na'i gyffyrddiad yn ddigon tringar i gadw miwsig bob amser yn ei fesurau dactylaidd. Ceir ynddo eiriau llanw, gwallau elfennol fel mor hoen' am'mor hoenus,' odlau anghywir fel canullamu,' a ffurfiau llymrig fel 'bodoldeb a 'mynediant.' Eto, os darllenir ef o'i gwrr, y mae'n rhaid cydnabod, os try, wrth ganu am bethau cyffredin bywyd, ambell dro yn gyffredin ei hun, fod ei arddull yn egnïol ac yn finiog.
Symbyliad telynegol sydd i'w ganeuon y rhan amlaf, ac er na chyfunir y sain a'r syniad yn hyfryd bob amser ganddo, eto y mae ei iaith mor syml, a'i deimlad yn codi mor eglur o'i galon, fel nad anwiw ei ganiadau o'u cymharu â chwyddymadrodd a meddalwch teimlad rhai o'i gyfoeswyr. Yn ei ganeuon byrion, chwim, y mae ei gryfder. Yn ei feirniadaeth Saesneg ryfedd ar Ddygiad Cristionogaeth i Brydain,' dywed Iago Emlyn fod gan Dderfel ddigon o ynni i ysgrifennu barddoniaeth yn ddiddiwedd.' Y mae haen o wirionedd yn hyn, a buasai mwy o wlith awen ar ei ganeuon pe buasai'r bardd yn fwy cynnil ac ymatalgar.
Anodd ydyw darllen ei ddarnau meithion, megis y ddwy bryddest yn Y Bardd Crist'nogol, ond gŵyr yn burion beth yw barddoniaeth. Iaith y dychymyg a'r teimlad, meddai, ydyw barddoniaeth; rhyddiaith ydyw iaith ffeithiau tebyg i ofyniad Iago Emlyn—' A oedd Brân a Phaul yn deall Lladin?' Nid edrych am ffeithiau a wneir mewn barddoniaeth, er na chaeir hwynt allan o'r ffurf hon ar lenyddiaeth. Yn hytrach, ymroi a ddylem i chwilio am rywbeth i gyffroi ac i gynhesu ein calonnau. Eto, er iddo gredu y gellid 'odli'r byd i'w le,' y mae'n hoff iawn o gloi cân â gwers. Rhaid cofio ei fod, nid yn unig yn fardd, ond yn bregethwr, ac er mai camp y bardd, chwedl Rhys J. Huws, ydyw cuddio'r wers, camp y pregethwr ydyw ei dangos.
Fel y gellid disgwyl i un o Landderfel, cân lawer am Natur, ac nid ydyw'n rhyfedd i gerddorion ddotio ar fiwsig naturiol ei 'Wlithyn' a'i 'Seren Unig.' Un ydyw natur a Chymru iddo, a chred gyda Dewi Hafesb, mai Cymraeg Llandderfel ydyw cân yr adar. At wên yr haul, at liwiau'r llwyni, ac at gerddi'r adar y try ei ysbryd clwyfus oddi wrth hacrwch a thrueni'r byd, a gwêl ynddynt hyfrydwch na fedr neb ei ddwyn yn llwyr oddi arno, ac eiliw o'r undeb hael a ddylai ffynnu rhyngom.
Yr un yw'r byd i bawb i fyw,
Yr un yw'r nef, yr un yw Duw,—
Y dyn sydd yn wahanol.
Ni chân fawr am serch yn y dull rhamantus; y mae bywyd yn rhy ddu iddo syllu llawer ar y rhiain a'i gwallt yn ddu fel y nos. Eto nid gŵr oeraidd, damcaniaethol ydyw. Ceir cywirdeb meddwl a thynerwch ysbryd ganddo, a chryn dipyn o natur gwir fonheddig, hyd yn oed pan fo'n fwyaf rhyddieithiol. Prin y gellir disgwyl barddoniaeth ar destunau fel ewinedd a dannedd glân, codi'n fore, rhai'n ymadael â'r trên, cloc wedi sefyll, clecio'r chwip a gyrru, neu ffyrdd Sir Fôn. Nid ydyw'r rhain namyn hoelion iddo hongian ei ffilosoffi am fywyd arnynt. Ambell dro, yn ddiddadl, y mae ei neges yn amlycach na'i awen, oherwydd ni ellir barddoniaeth o bob awel o deimlad a ehed drosom. Yn eu cydymdeimlad â'r gweithiwr cyffredin, a'u cri am aildrefnu'r byd y saif prif ogoniant ei ganeuon. Wrth geisio achub cam y tlawd, a gobeithio am fyd daw egni a nerth i'w gân, a chyfyd ei lais, yn ddifrif a digrif, yn gywir a dychanol, mewn gobaith ac anobaith, wrth feddwl am y cnafon a lethai'r werin. Y mae cryn ddeheurwydd yn ei watwareg, ac er nad oes un nwyd cyn baroted i ddiffygio â dicter, eto pery ei angerdd cymdeithasol ef yn effro hyd onid aeth i'r man, chwedl Swift, lle na all ffyrnig lid mo rwygo'i galon mwy.' Ym Mrad y Llyfrau Gleision' gwelir ei deimlad cymdeithasol yn egino yn araith Llywelyn, pan eilw am foddion addysg i bawb, ac am barch at ddyn fel dyn. Gwêl beryglon Cymru a'r byd. Gweddïa ar i Dduw gadw'r Cymro'n dlawd 'i garu ei wlad a'i bobl ei hun,' ac anela'r un saethau ag Emrys ap Iwan, er nad â'r un medr, at Dr. Dwli, a Tomosô, yr hanner Cymry. Sieryd yn wrol yn erbyn rhyfel a chydymgais, gartref ac oddi cartref. Gwêl y byd yng nghyffion hen draddodiadau isel, a hynny heb ymwybod iddo, a thry i ganu am 'wlad hud '—mewn cerdd nodedig lle
Mae tai gan y moch aflafar eu rhoch,
A gweision i'w porthi pan ganant y gloch,—
Moch gwan a moch cry,
A'r dynion mewn cutiau yn lle bod mewn tŷ.
Gwêl bod rhyw wrthuni arall ynddi, a geilw am inni wella amodau byw, heb anghofio ein gwella ein hunain. Medd ef, mewn darn sy'n dangos ei dymer, a therfynau ei feddwl:
Oferedd disgwyl gwawl o wyll, na phethau hardd o bethau hyll;
O ddrwg, drygioni, gwae, a braw yn gnwd toreithiog fyth a ddaw;
Ni ellir cael mewn mwg a tharth ond hacrwch bryntni, poen a gwarth.
Mewn pydredd ni all purdeb fyw—gwnai mangre aflan ddiawl o Dduw.
Er bod tuedd ynddo i orbwyso ar amgylchiadau materol, nid ydyw'n anwybyddu moddion eraill i feithrin cymeriadau. Er enghraifft, geilw am lyfrau Cymraeg, gwreiddiol, ac am Brifysgol i Gymru. Mewn gwirionedd, y mae'n debygol i'w draethodau a'i areithiau, yn ogystal â'i ganeuon, helpu i gyfeirio'r meddwl Cymreig at lwybrau newyddion.
Byddai'n gywirach imi ddywedyd mai meddwl ymarferol, yn hytrach na meddwl materol, oedd ganddo. Yn ei holl waith—heb eithrio'r emynau rhagorol y gallai Cymru eu canu'n amlach nag y gwna—rhydd bwyslais arbennig ar weithredoedd da. Mae'r Cymry,' medd yn rhywle, 'wedi ei llygaddynnu gan Iddewiaeth. Enwau Iddewig sydd ar eu plant ac ar eu capeli. Meddyliau Iddewig sydd yn eu bronnau, ac am bethau Iddewig y siaradant. Iddewiaeth sydd yn eu pulpudau, ac yn llenwi eu cylchgronau—ac nid Iddewiaeth ddiweddar, ond Iddewiaeth ddwy neu dair mil o flynyddoedd yn ôl . . . Y mae hanes, chwedlau, a thraddodiadau Cymru wedi eu halltudio ohoni.'
Ni chynhwysa'r rheitheg hon bob ochr i'r ddadl, ond y mae grym ynddi. Geilw am grefydd ddofn a chatholig, am beidio â chymysgu crefydd a ffurf, am beidio â damnio'r holl fyd oddi allan i'n henwad a'n crefydd ni, am beidio â gwahanu proffes a buchedd. Erbyn hyn, ni ddadleuir cymaint yn erbyn yr hyn a ymladdodd drosto, ac ni warafunir iddo'r clod a roes yn y beddargraff a ganodd iddo'i hun:—
Carodd ei genedl, curiodd i'w gweini;
I gyrraedd ei henaid, gwariodd ei ynni.
Teimlodd yn dost a dadleuodd drosti
Teimlodd a chanodd mewn hedd a chyni:
Ei ebwch a'i waedd, a baich ei weddi
Oedd am ŵr yn iachawdwr, i'w chodi
O lid brad i glod a bri,—a mawredd,
Iawn, a gwirionedd yn goron iddi.
1924