Ysgrifau (John Breese Davies)/Rhagymadrodd
| ← Cynnwys | Ysgrifau (John Breese Davies) gan John Breese Davies |
Siop y Pentref → |
Rhagymadrodd
PAN ofynnodd Miss L. A. Breese Davies i mi ddethol a golygu cyfrol o ysgrifau ei brawd, cytunais yn llawen. Galwasai T. Gwynn Jones ef yn llenor medrus a gofalus a chanddo ddawn beirniad cyfarwydd â'i bynciau, un oedd yn feistr ar iaith raenus a chlir, yn feddyliwr craff a hynaws'. Yr oedd hyn yn gwbl wir am John Breese Davies, ac oherwydd hynny bu'r gwaith golygu yn hawdd. Eithr nid oherwydd hawsed y gwaith y cytunais. Gwelodd Gwynn Jones yntau fwy na'r llenor ynddo : gŵr bonheddig trwyadl o Gymro, ysgolheigaidd yn yr ystyr uchaf oll i'r term . . . Eiddo'r haelioni a'r ddoethineb sy'n anhepgor pob gwir ddiwylliant, a'r peth drosben hwnnw, personoliaeth syml, rywiog, garadwy.' Am y peth—drosben hwnnw' y cerais i John Breese Davies ac y bodlonais yn ddiolchgar i wneuthur fy rhan fechan i yn y deyrnged hon i'w goffadwriaeth.
Cyfarfum ag ef tros bum mlynedd ar hugain yn ôl ; deuthum i'w adnabod yn 1925 pan ddechreuwyd cyfeillgarwch rhyngom a barhaodd hyd ei farw. Fe'i ganed yn 1893: mab ydoedd i Thomas Tegwyn Davies, awdur Dinas Mawddwy a'i Hamgylchoedd. Etifeddodd yr enw Breese o ochr ei fam a berthynai i deulu Breesiaid Llanbryn-Mair, teulu a roes, trwy gangen arall, S.R. i Gymru. Yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Nolgellau dioddefodd John Breese Davies anhwyldeb a'i cadwodd yn orweddiog am bum mlynedd a'i adael yn gloff o'i glun. Dywed ei gyfaill, y Parch. J. Ellis Williams, iddo fwriadu mynd i'r gwasanaeth sifil ond i'w orwedd hir newid cwrs ei fywyd. Yn sicr nid colled i Fawddwy fu'r newid. Treuliodd y pum mlynedd trwy ddarllen yn helaeth a myfyrio'n ddwys, ac yn ystod cyfnod ei afiechyd ymwelodd Syr Owen Edwards ag ef, a'i gymell (fel y gellid disgwyl) i sgrifennu i Cymru. Ufuddhaodd, a dyna ddechrau gyrfa J. Breese Davies fel llenor. Dyma eto un o gymwynasau Owen Edwards i'w genedl. Ac un o draethodau eisteddfodol gorau J. Breese Davies yw ei draethawd ar O. M. Edwards—traethawd rhy faith i'w gynnwys yn y gyfrol hon. Parhaodd i lenydda gan ddatblygu, fel y gwelir yn y gyfrol hon, arddull glir a chynnil. Pan euthum i gynnal dosbarth yn y Dinas yn 1925 ef oedd yr ysgrifennydd a chefais gyfle da i farnu nid yn unig ei ryddiaith bob dydd' ond ei wybodaeth o lenyddiaeth a llenorion. Yr oedd yn eithriadol eang. Anaml y cyfarfum â gwŷr o ddysg prifysgol a wyddai eu pwnc yn debyg iddo. Rhaid ei fod yn wir wedi darllen yn fanwl a myfyrio'n hir mewn conglau diarffordd o'r maes. Gallai drafod yn feistraidd werth llenyddol aml glasur Saesneg digon anhysbys i'r mwyafrif o ddarllenwyr Saesneg. Ac yr oedd wrth gwrs yn gwbl hyddysg yn hanes llenyddiaeth ei wlad ef ei hun.
Daliodd ei ddiddordeb yn y mudiad addysg i bobl mewn oed. Ai'n flynyddol i Goleg Harlech ac i ysgolion haf mewn lleoedd fel Caergrawnt. Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Fachynlleth yn 1937 ef oedd y dewis naturiol i fod yn ysgrifennydd y Pwyllgor Llenyddiaeth. Yno y cafodd gyfle i sylweddoli un o'i freuddwydion. Daliai ar hyd y blynyddoedd fod mawr angen am roddi urddas ar sgrifennu rhyddiaith Gymraeg ac aeth ati i geisio gwneud a allai tros ryddiaith yn yr Eisteddfod. Yn ystod 1936 gohebodd yn ddyfal â rhai ohonom i sefydlu yn Eisteddfod Machynlleth gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. Medal John Breese Davies yw hon ac ofnaf weithiau nad yw hyd yn hyn yn cyflawni'r hyn a fwriadwyd iddi, sef, fel y mynnai ef, fod yn deyrnged i ryddiaith gadarn fyw.
Nid rhaid imi sôn yma am ei gyfraniad ef ei hun i'n llenyddiaeth. Mae'r detholiad a geir o'i ysgrifau yn y gyfrol hon yn dystiolaeth i'w ddawn a'i allu. Sgrifennai i Cymru, Y Geninen, Yr Eurgrawn a'r Cerddor (a llawen gennym gydnabod y cyfnodolion hynny wrth ail-argraffu ei ysgrifau yma). Deil ei ysgrifau yn eu gwerth a'u blas o hyd ac ni chredaf y collant eu rhin.
Eithr nid llenor yn unig mohono. Yr oedd yn gerddor hefyd. Anodd i mi, nad ydwyf yn gerddor, drafod yr ochr gyfoethog hon o'i bersonoliaeth. Cofiaf yn dda amdano lawer tro yn trafod arweddau ar gerddoriaeth Bach pan ddarganfu fy mod innau'n addolwr wrth yr un allor. Yn ei ysgrifau ar destunau cerddorol gwelir yn eglur gefndir eang ei ddiwylliant yn y cyfeiriad hwn. Er hynny, cerddoriaeth Cymru oedd ei bennaf gofal ac fe roes wasanaeth clodwiw i'r Gymdeithas Cerdd Dant. Yn wir, yr oedd hyd ei farw yn olygydd Allwedd y Tannau, cylchgrawn y Gymdeithas, ac yng ngeiriau Watcyn o Feirion a'r Parch. E. Gwyndaf Evans, gellir rhestru ei enw gyda'r diweddar J. E. Jones fel un o gymwynaswyr pennaf canu ein cenedl ni.' Bu'n hyfforddi ieuenctid ei fro yn y canu Cymraeg, yn beirniadu'n gyson yn yr eisteddfodau, yn asgwrn cefn i ysgol haf y Gymdeithas Cerdd Dant ac yn gynheiliad pob mudiad a roddai fri ar ganu gyda'r tannau. Gwych oedd ei gael yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938, i annerch Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar y pwnc hwn yr oedd yn gymaint meistr arno. Argreffir ei anerchiad yn y gyfrol hon trwy ganiatâd caredig y Gymdeithas.
Darlledodd deirgwaith, unwaith mewn trafodaeth Saesneg gyda'r Athro W. J. Gruffydd a dwywaith yn Gymraeg. Cyhoeddir y sgyrsiau Cymraeg yma, 'Siop y Pentref' trwy ganiatâd caredig Gwasg Aberystwyth. Hwyrfrydig o hyd yw'r gwŷr radio i fanteisio ar ddoniau gwladwyr diwylliedig, a llawen gennyf fy mod wedi llwyddo i'w perswadio i roddi cynnig ar J. E. Jones a John Breese Davies ond gofidiaf na recordiwyd lleisiau'r ddau. Pan glywaf y dyddiau hyn oernadau gyddfol ambell ganwr penillion, gwych fyddai gennyf glywed eto gywrain gelfyddyd y ddeuddyn hyn na wêl Cymru byth eu tebyg.
Fel y gellid disgwyl, llanwodd John Breese Davies ei le hyd yr ymylon ym mywyd ei fro. Bu'n aelod o Gyngor sir Feirionnydd, yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Sir Dolgellau, yn ysgrifennydd ac yn llywydd Cyngor Eglwysi Efengylaidd Dyffryn Dyfi, yn Oruchwyliwr Cylchdaith Fethodistaidd Dinas Mawddwy ac yn athro Ysgol Sul selog. Ac yr oedd yn siopwr y pentref' yn ei eiliadau' segur.' Gwŷr fel ef, gwerinwyr mewn gwirionedd, a wnaeth Gymru yn genedl y mae'n werth ymffrostio ynddi a'i charu. Buchedd gwŷr fel John Breese Davies yw'r rheswm cryfaf posibl tros 'gadw Cymru'n fyw.'
Yr oeddem oll a'i adnabu yn anwylo John Breese Davies am yr hyn ydoedd a'r hyn a wnaeth mewn oes fer. Bu farw yn 1940. Ond o bawb a adnabu ei rinweddau, ei chwaer a'u hadwaenai orau. Bu'n gydymaith iddo ar hyd y blynyddoedd ac yn ddihafal ei gofal amdano tra bu. Fel ei brawd, noddodd bopeth teilwng ym mywyd ei bro a'i chenedl a gweddus i mi yw cydnabod yma mai ei theyrnged arbennig hi i frawd a garodd mor fawr yw'r gyfrol hon. Hyderaf y rhoddir derbyniad gwresog iddi yng nghartrefi Cymru.
Diolchir yn gynnes i'r Parch. G. E. Breeze am ei barodrwydd yn teipio'r ysgrifau.
IORWERTH C. PEATE