Ysgrifau (John Breese Davies)/Schubert
| ← Byrder Mewn Cerddoriaeth | Ysgrifau (John Breese Davies) gan John Breese Davies |
Beethoven → |
Schubert
Yм myd cerdd, eleni, Schubert yw'r enw mwyaf. Bu farw gan mlynedd yn ôl, ar drothwy ei fywyd, heb ddim ond wyth-a-chwech a 'swp o hen fiwsig' ar ei elw. Nid yw mor enwog, ac ni bu mor ddylanwadol â Beethoven, y soniwyd amdano llynedd. Rhed rhai o dueddiadau'r oes yn ei erbyn. Y mae bywyd heddiw yn llawer mwy cymhleth na bywyd doe, a cheisir dod i'r afael ag ef, nid yn null Schubert, ond trwy gynghanedd yr un mor gymhleth. Ni ellir disgwyl i hwn eich bodloni fel y gwnai rhai o'r hen alawon; nid ydyw mor esmwyth a phêr. Mynegiant o fywyd heddiw yw. Nid anelir, bellach, at bereid-der yr alawon gynt, gan nad yw'n gwneuthur dim ond pigo'r gorau oddi ar fywyd, wrth ysgafn redeg drosto. Gellir gweled yr un elfen yn rhedeg ymhob cylch, mewn celfyddyd ddefnyddiol yn ogystal â chelfyddyd gain. Ceisir cyfleu'r profiadau a gewch wrth graffu ar holl agweddau bywyd—eu hacrwch a'u mwynderau. Y duedd, yn wir, yw aros gydag ochrau annymunol bywyd yn unig, a gwneuthur yr eithriad yn rheol. Nid oes dim yn y byd o'r tu allan i fyd cerddorion ein hoes ni. Ni ellir amau na ddengys miwsig diweddar glyfrwch eithriadol wrth reoli ei foddion, ond teimlaf weithiau nad ydyw disgrifiad o ddarn arbennig (un o weithiau Bela Bartok), gan un o fodrybedd yr oes o'r blaen, yn hollol amhriodol. Dywedai ei fod, ar un adeg, yn debyg i sŵn nifer o berchyll, dro arall yn debyg i sŵn cath fach yn rhedeg ar hyd y piano. Yn groes gyferbyn â hyn, ceir miwsig Schubert. Hyfrydwch yw ei nodwedd; alawon hudolus yw ei gryfder. O ran cwmpas, nid ydyw mor llydan â llawer o'n miwsig ni; i raddau helaeth amrywiadau ar un llinyn ydyw. Eto, wrth wrando ar rai o'i ganeuon, 'Hiraeth Cymro,' neu 'Pwy yw Sylvia?' neu lawer o rai eraill—ni ellir peidio â dotio uwchben eu tlysni.
Ganed Franz Peter Schubert yn Wien, prifddinas Awstria, ar y dydd olaf o Ionawr, 1797. Schubert yw'r unig gerddor o fri a gododd o'r ddinas nid anenwog hon, ac ynddi ac o'i deutu y treuliodd ei fywyd byr. Bu farw yn nhŷ ei frawd, ym mlodau ei ddyddiau, ynghanol Tachwedd, 1828, o'r typhus. O ran ei olwg, nid edrychai fel petai llawer o athrylith ynddo. Ni chododd unrhyw storm gyda'i weithiau, ac ni bu ei fywyd yn dymhestlog, gan na serch na siom. Dim byd yn debyg i Wagner, er enghraifft. Edrychwch ar hwnnw. Onid yw'n hawdd ei bigo allan ymhlith y llu sy'n ymblesera ym Mayreuth? A welwch chwi ei ben hir a'i hetan od, ei drwyn a'i ên yn ymwthio allan am y pellaf, y sidan a'r satin a'i boced wâg. Pwy yw'r rhai acw sy'n ei ganlyn fel bytheiaid? Ei wniedydd yw un, ar ôl pres. Merched yw'r lleill, am ei ladd. Dacw ei feirniaid, lu ohonynt, hefyd. Edrychwch arnynt eto. Pwy yw hwnacw, â'r 'Lohengrin' yn ei law, y pen chwith i fyny? Pwy ond Rossini, yn ceisio ei deall y ffordd honno, am nas medrai yr un ffordd arall!' Dacw Sais yn edrych dros ei ysgwydd, ac yn gweiddi—'the limit of hideousness; a distracting and altogether distressing noise; a mere blaring of brass.' A dacw Max Nordau, â'r 'Ring' yn ei law, yn gofyn beth yw onid brefiadau o'r gorffennol pell!' Tyn Wagner storm ar ei ben, gyda'i gyrn pres, yn gynt na'r un ddewines. Ond gŵr hollol groes oedd Schubert. Gŵr byr, afrosgo—aeliau tewion uwchben dau lygad gloywon—yswil, caredig, eilun ei gyfeillion, a gŵr heb elyn yn y byd. Ef yw'r disgybl annwyl ymhlith y meistri—y mae pawb yn caru Kanevas.
Un o'r bobl gyffredin oedd ei dad, ond ysgolfeistr, a'r un oedd gwaith ei fam â gwaith mam Beethoven, coginio. Gall rhai ofergoelus synnu wrth feddwl mai ef oedd yr olaf ond un o bedwar ar ddeg o blant. Yr oedd teuluoedd lluosog yn gyffredin yr adeg honno, hyd yn oed yn urdd y cotiau duon. Carai ei dad a rhai o'i frodyr gerddoriaeth, a thrwy hynny trigai mewn awyrgylch ffafriol i'w ddoniau flodeuo, er nad oedd berygl iddo gael llawer o foethau yn y teulu llawn ond llawen. Blagurodd ei awen yn gynnar, ac ni bu'n hir cyn synnu'r doctoriaid. Dechreuasai gyfansoddi, pan oedd yn aelod, un ar ddeg oed, o gôr eglwysig. Cyn iddo ymadael â'r ysgol, yn ddwy ar bymtheg oed, â'i weill beunydd yn llawn, tynasai sylw ato'i hun oherwydd ffrwythlondeb ei athrylith. Yna, er mwyn dianc rhag mynd i'r fyddin, aeth yn ysgolfeistr, gan gyd—letya â bardd, a'i waith, bellach, oedd gosod rhai o benillion ei gyfaill ar gân. Perthyn rhai o'i ganeuon gorau, fel yr 'Erl-King' a'r 'Ave Maria,' i'r cyfnod cynhyrchiol hwn ac nid yw'n syn bod gwrid ieuenctid arnynt. Cynhyddodd ei gyfeillion, yn eu plith y pendefig Esterhazy, ac yn 1818 fe'i cewch yn mynd i fyw i'r wlad, at ei noddwr ac at Carolin Esterhazy, i'r hon y cyflwynodd, yn ddiweddarach, bopeth a ysgrifennodd. Ymddengys mai tlawd iawn oedd o hyd, er ei fod yn iach a hapus yn enwedig yng nghwmni ei gyfeillion. Nid oedd ganddo ddim dawn at fusnes, ac fe'ch atgoffhâ am R. S. Hughes mewn llawer o bethau. Gwerthodd ddegau o'i ganeuon am lai na swllt yr un, a'r Trio godidog yn E fflat am lai na phunt. Dyna ddagrau pethau, yng nghofnodion gwŷr o athrylith.
Nid oedd raid iddo ymboeni wrth gyfansoddi, ac odid nad oedd ei rwyddineb yn fagl iddo. Nid arferai gynllunio ei weithiau, na'i hail—ysgrifennu, ac oherwydd hynny ceir peth diofalwch yn gymysg â fflachiadau ei athrylith. Wrth ddarllen gweithiau Shakespeare, tynnodd 'Hark! Hark! the Lark!' ei sylw, ac ar ei union gwnaeth gân iddynt, ar gefn carden fwyd. Nid oedd ball ar ei awen, ni flinai ac ni ddiffygiai; neu os diffygiai troai i ganu cân arall. Syn yw meddwl i lawer o eiriau mor sâl ei ysbrydoli. Gwyddys am ryw chwechant o'i ganeuon, ond bernir bod o leiaf gant wedi eu colli. Ni ddarganfuwyd ei Symffon enwocaf,—honno nas gorffennodd,—am flynyddoedd ar ôl iddo farw, gan mor esgeulus oedd, hyd y diwedd. Achwynir yn yr adroddiad diwaethaf ar y Gymraeg mai tila yw geiriau rhai o'n caneuon gorau ni fel Cymry. Nid heb achos. Llipa odiaith yw llawer o'r geiriau a ddewisodd Schubert, ac nid oes ond rhagoriaeth digymar y miwsig yn eu cadw'n fyw. Canodd Schubert amryw operau, ond croeso truenus a gawsant, gan mor llymrig oedd y testun. Dywedai Schumann y medrasai roi placard ar gân. Nid oedd ganddo chwaeth lenyddol o gwbl, ac apeliai penillion seilwon ato mor rymus â rhai llawer godidocach. Fel y Dr. Parry ac R. S. Hughes, ni feddai allu diogel i ddewis geiriau safonol, ond fel y ceir gweled, da oedd iddo ddewis unrhyw eiriau.
Nod rhagorol ei holl weithiau ydyw'r cyfoeth o alawon sydd ynddynt. Nid oes neb o'r meistri'n agos ato am ffrwythlonrwydd melodig ei awen. Yr oedd ffurf y sonata wedi ei pherffeithio cyn ei amser ef, dan law Beethoven yn bennaf. Ymddangosodd y Symffon Anorffenedig ychydig cyn cyhoeddi Nawfed Symffon Beethoven, yn 1823. Ni feddai na chynildeb na chydbwysedd, mwy na natur feiddgar ei gydgerddor. Ddeng mlynedd ar ôl iddo farw, wrth chwilota yng ngharred y tŷ lle trigai Schubert gynt, darganfu Schumann ei Symffon yn C major, ac ysgrifennodd yn y Neue Zeitschrift: Yn hon, cawn feistrolaeth lwyr ar gelfyddyd cyfansoddi, ynghyd â bywyd ymhob gwythïen, wedi ei liwio'n fanwl i'r eithaf . . . . ac ar y cwbl chwery llewyrch o'r Rhamantiaeth sy'n nodweddiadol o Franz Schubert. Ac wedyn mor nefolaidd o hir yw'r Symffon . . . heb allu byth dod i ben . . . er mwyn gadael i'r darllenydd grwydro yn ôl ei ewyllys fwyn ei hun.' I lawer, nid yw parhâd anorffen cerdd yn ddim ond cyfystyr â diffyg ffurf a thlodi meddwl, ac un o ragoriaethau Schubert yw mai anaml y tery hynny i'ch meddwl wrth wrando ei weithiau. Gellid, er hynny, gwtogi rhai ohonynt heb eu niweidio, ond nid yw ei hyd yn eich tarfu, fel tiwn gron—y mae'r rhediad melodig yn rhy nodedig i hynny, a'r miwsig yn rhy amryliw. Eto ei ganeuon byrion, ar eiriau digon cyffredin yn aml, yw ei ganeuon gorau. Yn y rhain, y mae'n rhaid iddo ddiweddu, ac y mae'r angen am roi cengl ar ddarn yn rhoi eneiniad ac argyhoeddiad ynddo, mewn dull llai
gwasgarog nag yn ei ddarnau meithaf. Disgleiria'r rhain fel diemwnt, heb nam arno, a'r rhain sy'n gwneuthur ei ganmlwyddiant yn ymarferol.
1928