Ysgrifau (John Breese Davies)/Siop y Pentref
| ← Rhagymadrodd | Ysgrifau (John Breese Davies) gan John Breese Davies |
Tro i Faesglasau → |
Siop y Pentref
PE gofynnid i rywun paham y mae'n aros yn y wlad, y mae'n debyg mai'r ateb chwareus a geid fyddai—'Y mae'n well bod yn llyffant mawr mewn llyn bach nag yn llyffant bach mewn llyn mawr!' Pentref bychan distaw yw'r llyn bach yr wyf i'n byw ynddo, cartref rhyw gant o bobl, ond y mae ynddo tua deg o siopau. Ai byw ar y gwynt y mae'r rhain? Nage, oherwydd y mae'r pentref yn ganolbwynt, nid yn unig i ddeublwy Mawddwy, ond i fasnach ehangach. Nid yw ei fywyd nac yn undonog, nac yn annifyr, nac yn blwyfol os cymerwch ran flaenllaw ynddo. Nid oes arglwydd na phlas i'w reoli'n awr, fel y bu, ac nid yw'r ardal hanner mor boblog a phrysur. Cyfrifais bod yn ymyl dau gant o anhedd-dai yn llai ym mhlwy Mawddwy ers can mlynedd, a defaid yw prif gyfoeth yr amaethwyr ; y mae'r plismon yn arolygu dipio tua hanner can mil ohonynt bob blwyddyn. Er na sonnir am ffeiriau yn Siarter y Dinas, bu ei ffeiriau'n enwog gynt, ond heddiw nid oes ond dwy, Ffair Dinas yr Ha a Ffair Glangaea, yn aros. Tyrrir o hyd i'r Mart, ond nid yw 'sêl' hanner cystal â ffair i siop y pentre, gan mai dull o drin busnes yn unig yw, twr o ddynion, heb ddim merched, yn prynu a gwerthu ar ffrwst rhwng dwy fws, ac nid cymdeithas o bobl hamddenol, wedi rhoi diwrnod i'r brenin.
Dywed rhai bod oes y siop fach wedi mynd. Yn wir, y mae'r hen grefftwyr wedi diflannu eisoes, bron i gyd—y bobl oedd â min ar eu meddwl, a digon o annibyniaeth ac argyhoeddiad i fywiogi ardal gyfan. Eto fe welir peth o'r hen ysbryd crefft a'r hen fedr ar adegau. Ai Caledfryn a alwodd y cyfarfod llenyddol yn eisteddfod hanner peint '? Prun bynnag, ceir ynddo heddiw geinder llwy fenyn, bocs cyllyll, magl ffon gollen, neu bwyth hosan yn ogystal â chanu ac adrodd, ac yn y Dinas dyfeisiodd y gof siswrn torri haearn, a ffermwr beiriant difa rhedyn hynod o effeithiol. Ond y mae'r wlad yn newid yn llawer cyflymach yn awr nag o'r blaen. Y mae'r weiarles yn gyffredin, ceir bysus a cheir i bob man; y mae'r diwinydd uniaith yn darfod, a gwerthir papurau dydd Sul drwy gil y drws. Y mae'r pentre yn lanach nag oedd pan ddaeth Borrow heibio iddo; ceir garais yn lle'r domen dail, a golau trydan yn lle'r gannwyll frwyn. Collodd llawer o'r hen arferion eu swyn. Diwrnod y banc, neu ddiwrnod y doctor, ac nid noson seiat yw'r adeg i siopa yn awr, ac fel y canodd rhyw hen wag:—
I'r Capel yr ai'r bobol yn oes y gert a'r mul,
Ond 'rwan ânt i uffern mewn motor bob dydd Sul.
Y mae llawer mwy o grwydro a thrafaelio, i'r sinema a'r sioe a chant a mil o atyniadau pell ac agos. Cafwyd blas ar newid bwyd a dillad. Nid oes yn agos gymaint o gwcio na gwnïo gartref—ready mades (sy'n ffitio pawb ac yn ffitio neb) sy'n mynd a hi, ond ceir mwy o amrywiaeth mewn bwyd a dillad. Y sgeidieth bennaf i ferch,' meddai Hen Ffarmwr Hiraethog, ydyw medrud pobi a golchi crys,' ond gŵyr y Dinas, bobol bach, yn awr am fara pryn a landri.
Ac nid yw'r ffermwyr fawr gwell na phobl—pennautai. Câr y rheini bopeth y sonnir amdanynt yn Slawer Dydd, ac ychwaneg. Basig slag yn lle tail, barb a netin weiar yn lle clawdd a sietin, a sinc a chortyn coch yn lle brwyn; ac yn y tŷ, syr, madam, a the yn lle Siôn a Siân a photes, ac yn wir, ar dro, fenyn Awstralia a bwyd o dun.
Y mae'r newid hwn yn rhwym o effeithio ar siop y pentre, a'r rheswm ei bod yn fyw, ac y bydd hi byw, yn fy marn i, yw y gall hi ei chyfaddasu ei hun at ofynion newydd. Beth i mi yw gwerthu 'sanau sidan yn lle 'sanau gwlan, trowsys fflanel yn lle trowsys rhip, trieg mewn tun yn lle trieg rhydd, a rhyw dair onglau ceiniog o gaws yn lle cosyn? Diflannodd yr hen grefftwyr am mai delio mewn un nwydd oeddynt ac am na fedrent gystadlu â phris gwdsiach ready made. Nid oes odid i brentis yn y Dinas yn awr; ni thâl i grefftwr ei brentisio, ac ni thâl ei grefft i'r prentis, yn aml, ar ôl iddo fwrw ei brentisiaeth. Nid yw'r siopwr fel y crefftwr, yn debyg o beidio â'i gyfaddasu ei hun at ofynion newydd ei gwsmeriaid. Nid ceidwadwr mohono, ac y mae'n haws iddo newid gyda'r oes. Nid oes ganddo beiriannau drud i'w troi heibio—nid yw'n cynhyrchu nwyddau, nac yn cadw rhai ag ychydig o alw amdanynt—ac nid yw wedi ei glymu ei hun wrth un teip o gwsmer. Cawsai fy nhaid ffit pe deuai'n ôl i'w siop heddiw a gweled yr holl ffaldirals y mae'n rhaid i mi eu cadw—cant a mil o bethau na welodd llygad ac na chlywodd clust ac na ddaeth i galon dyn o'r oes o'r blaen. Ond beth yw hynny o bwys? Ni all siopwr o'r oes hon fyw yn esgidiau ei daid, ac y mae'n barod i werthu 'popeth ond gras', a phe gofynnech i rai o'i gwsmeriaid, dywedent nad oes ganddo ddigon o hwnnw iddo ef ei hun heb sôn am neb arall! Gwir, a hanner gwir.
Peth arall sy'n debyg o gadw siop y pentre ar ei thraed yw mai merched yw'r mwyafrif o'r cwsmeriaid, a thra bo merched yn bod ni flinant byth ar siopa a gwario, a thyrru at ei gilydd ynddi. Llawer awr ddifyr a dreuliwyd dan esgus 'moen rîl neu bwys o siwgr. Y mae siop y pentre cystal â phistyll y llan am sgwrs a newyddion, ac yn well lawer na siopau'r trefi mawr, neu'r siopau ar olwynion. Y mae siopwr yn adnabod pawb bron a ddaw i'r siop—y maent yn gyfeillion iddo. Y mae'n fwy sefydlog, fel rheol, na'r gweinidog, neu'r ysgolfeistr, a'i gysylltiad ef, a'i dad o'i flaen, yn llawer agosach â bywyd yr ardal. Daw pawb yn eu tro ato, ac nid cysylltiad pounds, shillings, pence, yn unig sy rhyngddo a'i gwsmeriaid, fel cwmnïau mawr y trefi. Cymer y naill a'r llall ddiddordeb personol ym mywyd ei gilydd.
A hoffech chwi ddod i siop y pentre am dro? Peidiwch â disgwyl ffenestr fawr a dyfais i'ch denu. Dim ond ffenestr tŷ wedi ei helaethu yw, yn aml, a phob math o' drugareddau ynddi. A syml a diaddurn yw'r siop oddi mewn hefyd llawr cerrig neu bren, cadair neu ddwy, a silffoedd cyffredin. Nid yw yn lle mawr nac yn lle prysur, ychwaith, ond ar ddiwrnod ffair neu angladd. Ceir amrywiaeth mawr yn ei nwyddau.
Yn y siop gwerthir popeth—ysgadan
Ac esgidiau'n gymhleth;
Halen, dur, oel yn doreth,
Mats a byllt, 'does dim ots beth.
Y mae mwy o amrywiaeth ynddi nag oedd ym masged yr hen Iddew a holai am Ellis Edwards o'r Bala ryw dro, a chedwir stwff da ynddi bob amser, oherwydd nid cwt ei gwsmer y mae'r siopwr eisiau ei weled, ond ei wyneb, a hynny efallai, drannoeth. Am ei gwsmeriaid, gellir dweud amdanynt fel y dywedodd Talhaearn am ei ganeuon—' eu bod yn lled debyg i datws pink eyes Robin Siôn y Towr—rhai yn dda, rhai yn ddrwg, a rhai yn symol.' A hoffech chwi gyfarfod rhai ohonynt? Hylo, dyma Meri Jên.
'Ga' i hanner dwsin o wyau ffres, os gwelwch chi'n dda?''Cewch, 'nenw'r tad, ond maent wedi codi heddiw, Meri fach.''Mi gymera i hanner dwsin o rai ddoe, te," ac allan â hi a hanner dwsin o rai ddoe.
**** 'Owns o eli'r galon, fachgen, a bocsied o fatsys.' 'Eli'r galon, wir—chwyn wyt ti'n feddwl, Robin; a glywaist ti O.M. yn deud mai yn yr ardd y mae llosgi chwyn. 'Rydw i'n synnu atat ti'n mygu fel corn mwg o hyd. Wyddost ti bod tua dwy fil o bunnau yn cael eu gwario bob blwyddyn yn y lle 'ma am faco a cigarets?'
(Yn canu:Ned y Dawnsiwr a gwmpodd i'r glas dwr
A'r glasdwr yn boeth, a Ned yn gig noeth).
'Tyden NI ddim gwaeth na lleoedd eraill. 'Rwyt ti'n licio' i werthu o . . . a ni sy'n cadw'r llywodraeth 'ma i fynd, ac edrych y gwaith yden ni'n roi i bobol. Ond paid â deud wrth y wraig acw, achos mae hi eisio imi wneud ar ddwy owns yr wsnos, ac myn cebyst i, mae'n rhaid imi hefyd, tase raid imi gael owns arall i helpu!'
**** 'Hylo, Mrs. Jones. Y mae'n dda gen i weld basged o fenyn ac wyau genoch chi; welsoch chi 'rioed gimin sy'n mynd lawr y ffordd goch efo'r fisitors 'ma! Sut y mae Deio Bach erbyn hyn?''O, digon symol.''Ydech chi ddim awydd trio mincen lynger iddo fo?' 'Wel, dowch ag un te.' 'Dafydd â pheswch. . . A chysgodd o'r un brentyn?' 'Wel, be ddisgwyliwch chi efo'r hen ddipio dragwyddol yma. Y mae'i goese fo'n wlyb soc o hyd.' 'Dyna fo, roeddwn i wedi ei warnio fo am gymryd pâr o overalls da gen i. Mi fydde 'nhad yn arfer a deud mai tri bil oedd o'n licio'u gweled—bil pwn fflwr, bil crydd, a bil teiliwr. Cofiwch fi at Dafydd. Digalon ydi o? Pwy feddyliech chi fu yma yn ei du ddoe? Yr hen Mrs. Randall—Sioned Vrongaled erstalwm ac 'roedd hi wedi crimetio'r gŵr, ac wedi rhoi ei lwch o fewn peth-berwi-wyau. Gwarchod pawb, meddwn i, i be y gneisoch chi hynny? "Wel," medde hithe, "wnath o ddim byd tra'r oedd o byw, ond mi geith o weithio ar ôl marw..."Dedwch chi honna wrth y gŵr 'cw.'
**** 'Hylo, sut yr wyt ti erstalwm, Llew. Aros ti, faint sydd ers pan oedden ni yn yr ysgol efo'n gilydd? Wyt ti'n cofio ni'n tynnu dant Abi? Clymu ede lin wrth y dant a chlymu'r ede wrth y paels. . . ac yn gofyn iddo roi plwc ond dim yn tycio.Wyt ti'n cofio Wil yn tanio'r fatsen? Rwy'n ei weld o'r funud 'ma a'r fflam yn mynd yn nes, nes, nes, nes cyffwrdd trwyn Abi. A dyna blwc i'r dant.''Yr oeddwn innau'n meddwl amdano y dydd o'r blaen, wrth ddarllen englyn Watcyn Wyn:—
Tynnu mawr am awr a mwy—y dant tost!
Dant hir anghredadwy!
Y dant llygad ofnadwy!
Dant hir, yn filltir, neu fwy!
'Ga-i goler gentti?'15½ ynte?Mi ddylet gael coler bytarfflei a thei bo i fod yn y ffasiwn, ar ôl ennill yn Steddfod Meirion.''Sut oet ti'n fy ngweld i'n canu I? Tydw-i ddim yn licio'r solo yn dda iawn. Y mae'n newid gynted ag y byddi'n cael blas arni.''Wel ydi, y mae fel pineapple chunks, fachgen, wedi ei thorri'n ddarnau rhy fân. Nos da i ti.'
**** 'Ti sydd 'na Nedw? Wyt ti ddim wedi mynd i'r gwely eto? 'Dei di byth yn ddyn os nad ei di i'r gwely'n gynnar a chodi'n fore. Gwerth dimai o dda-da? Na, toffi. Wel 'does dim am ddim na dim llawer am ddimai. Wnest ti dy sums? Dyma ti broblem 'te. "Pam y mae defaid gwynion yn bwyta mwy na defaid duon ?" O, mi glywaist honna o'r blaen. Wel gâd i mi weld os wyt ti'n barod i'r gwely.
Faint ydi ceiniog a cheiniog a hanner dwy geiniog,
Grot a phum ceiniog a thriswllt? . . .
Dyma ti un na fedri di ddim ei gwneud 'te. Be sy'n anghywir yn hon? Y mae gen i gloc mawr mor hen nes bod cysgod y pindil wedi gwneud twll yn ei gefen . . . Dyna.Ffwr â ti adre i dy wely.'
**** 'Hylo Huw Jones, sut yr ydech chi?''Symol, sut 'rwyt ti?' 'O go lew.''Wyt, mi wranta, 'n ddigon glew, fel 'rhen siopwrs 'ma i gyd. Mae 'rhen riwmatis 'ma arna i, fachgen bach.''Glywsoch chi mo'r stori am Daliesin o Eifion? Dydw i ddim yn cael fy mhoeni, medde fo, gan boen pobol dlodiondiffyg traul, bronceitis, diffyg gwynt, a rhiwmitis; poen pobol fawr—y gowt sy arna i. Ond rydech chi wrth ben eich digon er mai rhiwmitis sydd arnoch chi! 'Hy! Welaist ti 'rioed ffasiwn beth ydi cael dau ben llinyn ynghyd y dyddiau 'ma. Gâd i mi gael y bil. Peth go dda ydi talu'r hen cyn cyrchu'r newydd. Mae arna i eisie trowsys rhip i mi a Tomos. Y mae'r bachgen acw'n mynd trwy bob peth ar ôl cael yr hen fotor beic 'na. 'Rydw i'n deud wrtho fo —paid a meddwl cimin, da 'ch di am yr hen fotor beic 'na, meddwl fwy am lwdn dafad.' 'Chware teg i Tomos. 'Does dim iws ei glymu o wrth linyn ffedog ei fam o hyd.' 'Chware teg iddo fo wir i ti! Waeth gen i siarad â'm sodlau nag efo'ch dithau. Tyrd, mesur fi. . .Faint fydd ei bris o?''Mi ddyle fod yn ddeunaw a chwech, ond mi cewch chi o am ddeunaw swllt.''Deunaw swllt. Os cei di ddau ar bymtheg mi wnei'n o dda—mae dy gefen di yn ddigon llydan, a 'drycha bris y gwlân. Hwde, dyma iti arian parod am f'un i—triswllt ga i 'nôl o bunt!''Na, 'chymera i monyn nhw ; wyddoch chi mai dau dalu drwg y sydd—talu 'mlaen a dim talu byth.''Wel arnat ti mae'r bai os na chei di dy bres. Gad i mi werth ceiniog o studs—Beth? dim ond un? Mae'r ysgol nos 'na'n dy wneud ti yn fwy o rôg o hyd.''Wel, mi gawsoch chithe ysgol nos, hefyd.'
'Dim ond chwarter, fy machgen i. Cofia di, rhaid i mi iwsio 'mhen efo hynny o ysgol ges i. Nos da i ti.'
**** Daw rhai eraill i siop y pentre am nwydd a sgwrs. Fe rydd cymeriad y siopwr ei ddelw ar y sgwrs yn ogystal â diddordeb y cwsmer. Newyddion personol a geir gyntaf fel rheol; yna adolygu bywyd yr ardal, megis cwrdd llenyddol, cyfarfod pregethu, holi pennod, ysgol nos, neu farn am gân, englyn, neu ddadl. Deuir i ofyn cyngor hefyd. Y mae mwy o sôn am y côr a'r eisteddfod nag am chwaraeon eto, ac nid oes neb yn berwi drosodd efo gwleidyddiaeth; nid yw'r dirwasgiad mor llym yn y wlad ag yn y trefi diwydiannol, nes gyrru dyn yn political animal; tueddir i fynd â phob gallu o'r cyngor plwy i gynghorau uwch, ac ni ddaeth dim i gynhesu'r gwaed a rhyddhau tafod fel Datgysylltiad. Nid yw diddordeb pobl mor unffurf; ni chedwir corn o frethyn bellach, dim ond hyd siwt. Ni ddarllena'r ieuainc gymaint â chynt, nac mor ddwfn, ac nid y Beibl a'r esboniad yw'r unig lyfrau a brynir. Cymerir diddordeb mawr mewn peiriannau. (Ped archwilid dynion yn eu horiau hamdden, extrovert a fyddai'r dedfryd amlycaf). Sonnir am bethau dibwys. Ceir gwybod pwy yw darllenwr mwya'r plwy, pwy sy'n gwybod nodau clustiau orau, pwy sydd â mwyaf o bres, pwy yw'r callaf neu'r ffolaf, pwy yw'r pregethwr gorau, neu'r canwr melysaf; achau hwn-a-hwn a helyntion caru hon-a-hon, a llond sach o straeon, am Ysbryd y Castell, potel Jac Llangurig, potsio, cwn hela, etc. . . . a phethau rheitiach a thrymach ar dro. Mynych y clywais hen ŵr yn dweud gyda Bardd Nantglyn Gwalch yn hedfan edn buan ydyw bywyd,' ac yn siop y pentre, yn wir,nid yw'n rhyfedd ei bod yn fwy difyr bod yn llyffant mawr mewn llyn bach nag yn llyffant bach mewn llyn mawr.
1936.

Dinas Mawddwy a Dyffryn Dyfi