Ysgrifau (John Breese Davies)/Tro i Faesglasau
| ← Siop y Pentref | Ysgrifau (John Breese Davies) gan John Breese Davies |
R. J. Derfel → |
Tro i Faesglasau
YCHYDIG sy'n cofio haf mor wlyb â'r haf eleni. Y mae'n wir erbyn hyn yn mynd oddi yma bron heb ymweld â ni. Adeg yr Eisteddfod yn Ninbych, yr oedd amryw ffermydd yma heb gael llond car llusg o wair, a phawb yn meddwl, nid am fardd y goron neu fardd y gadair, ond yn llawn pryder am fwyd y gaeaf i'r gwartheg. Ond y mae'n debyg bod haf tebyg iddo wedi bod canys yr wyf yn cofio clywed stori am hen berson ym Mallwyd wedi dod am dro i'r Dinas, ac yno'n siarad â siopwr cwynfanus. 'Wel, wel,' meddai cyn ymadael, 'yn tydi hi'n dda nad ydech chi a fi yn dibynnu ar Ragluniaeth?'
Ond dyma ddiwrnod braf o'r diwedd, ac yr wyf am fynd â chwi i Faesglasau. Y mae pob Cymro a Chymraes, ond odid, yn gynefin â'r enw, heb wybod mai lle ydyw ychydig ffordd o'r Dinas. 'Pa ddinas yw honno?' meddwch, a phan ddywedaf Dinas Mawddwy, efallai na bydd llawer ohonoch fawr callach. Gŵyr pob plentyn ysgol am y Gwylliaid Cochion, y canodd mwy nag un bardd faledi iddynt. Daw llawer o foduron yn agos i'r dre,' fel y gelwir hi gan y trigolion, ar eu ffordd i Ddolgellau, ac â'r dewraf ohonynt drwyddi, ar eu ffordd dros Fwlch y Groes i Lanuwchllyn a'r Bala. Bu'r pentref â llawer o drafnidiaeth ynddo gynt, ac yr oedd 'Ffair-Dinas-yr-haf,' ar yr ail o Fehefin, yn cael ei chysylltu, yn yr hen amser, â ffeiriau Gwrecsam a 'Mwythig fel y tri lle, lle byddai mwyaf o brynu a gwerthu ar wartheg a cheffylau.' (Clywais fy nhaid yn dweud ei fod yn cofio dros 500 o wartheg yn cael eu pedoli ar gae'r Blue Lion y noson cyn y ffair. Oherwydd eu ffeiriau, yn arbennig y ffair hon a Ffair Glangaeaf, y daeth y Dinas yn lle gweddol enwog). Nid tyfu a wnaeth o gwmpas Llan neu eglwys, fel llawer o bentrefi Cymru, a phan aeth masnach o'r ffordd fawr i'r ffordd haearn darfu pwysigrwydd y 'dre.' Os na ddaw'n ôl? . . .
Os buoch chwi drwy'r Dinas yn nechrau'r haf, y mae'n debyg eich bod yn meddwl mai hwn yw'r llecyn mwyaf prydferth yn y byd. Clywch yr awel adfywiol yn chwarae ar eich wynebau, a mwyn hedd y mynyddoedd ' i'w deimlo ymhob man.
Rhed afon Ddyfi a'i haml aberoedd yn beraidd drwy'r dyffryn, ac o bob tu cyfyd mynyddoedd uchel, serth fel gwarchodlu cadarn oddeutu'r pentref tawel. Ar y llethrau, y mae coed newydd eu plannu, yn rhesi trefnus, a thwmpathau o fanadl, neu rododendron, neu rug, yn ôl y tymor, yn gwenu yng nghanol y glesni. Efallai y cewch weled a chlywed yr hyn a eilw'r bobl yn 'briodas y brain,' oherwydd yn adfeilion yr hen Blas a'r coed o'u deutu, y mae llawer o frain yn nythu. Ond ar wahân i hynny a murmur ysgafn yr afon, tawel yw popeth, megis mewn cwsg, a'i lliwiau oll yn ymdoddi'n hapus i'w gilydd.
Rhwng dau o'r bryniau, Moel Bendin a Moel Dre, yr arwain y ffordd sy'n mynd â ni i Faesglasau. Moel yw Moel Bendin o hyd, a'r tŵr a gododd rhywun a fu yn y Plas ar y gorwel o'r Dinas. Sonia'r bobl am y gŵr hwn yn mynd â berfa drol i gario cerrig at y tŵr, a gwn fy hun mor chwim oedd ei draed wrth ddringo. Bûm yn ceisio cyd-ddringo ag ef.
Ond sonia rhyw hen bennill a ganai Robert Ifan Perth-y-felin am fwy o orchest fyth.
Bildiaf gastell ar Foel Dinas,
Gwydraf hwn â gwydyr gloywlas,
Bildiaf gastell ar Foel Bendin,
A phont faen i dramwy rhyngddyn.
Tri pheth a geir ym Meirion, meddai un o'r Trioedd:— Cawr yn Llanuwchllyn, meddwyn ym Mawddwy, a rôg yn Nolgellau, a chofia'r rhai hynaf ohonom dair tafarn yn y Stryd hanesiol hon—Wylecop. Aeth y Goat a'r Blue Lion cyn i mi gofio, a'r Nag's Head oedd yr olaf i ddiflannu. Ond dyma ni'n gadael y dref' ac yn dringo rhiw byr a serth at y Ffynnon Oer, pistyll hynafol tebyg i'r un y canodd Pedrog iddo, a'i ddwfr oer yn adfywio pawb a'i cymer.
Bu nain a hen nain honno—a'i phiser
Tra phwysig o tano:
Er rhoi fel hyn er cyn co
Rhed atom yn rhad eto.
Yn ei ymyl y mae adfeilion yr hen garchar, lle cedwid troseddwyr gan Arglwydd y Faenor, a lle dywaid rhai y cedwid y cyffion a'r feg fawr. Y mae'r Plas a hwythau erbyn hyn wedi mynd. Cynhelid court leet yn y Dinas ddwywaith y flwyddyn, yn ôl ei Siarter, a pharhaodd mewn enw hyd flwyddyn gyntaf y Rhyfel Mawr nid fel llys tir nac arall, fel y byddai gynt, ond fel cinio talu rhent ysywaeth! Gofidiaf nad oes neb yn gwybod ymhle y mae y faenoriaeth—y byrllysg, y mesurau, a'r feg fawr, etc.—ar ôl i Syr Edmund Buckley symud i Aberhirnant; bu llawer yn chwilio amdanynt, ond yn ofer.
Trwy lawer canrif, o ddyddiau Bleddyn ap Cynfyn i lawr, cadwodd Mawddwy rywbeth tebyg i annibyniaeth. Ni ddaeth yn rhan o Sir Feirionnydd yn 1284 fel Cymru i'r gorllewin iddi: ni ddaeth ychwaith yn arglwyddiaeth Normanaidd fel Cymru i'r dwyrain ohoni. Arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig, a ffurf maenor oedd ei ffurf-lywodraeth. Ar sail hon, bu ganddi Gyngor Dinesig ei hun, hyd ryw bump neu chwe blynedd yn ôl, pan gydiwyd y plwyf wrth gyngor Dolgellau. Cadwodd ei maer hyd ddechrau'r Cyngor Sir, ond y mae wedi colli'r holl freintiau bob yn un ac un. Awn ymlaen ar y ffordd i Ddolgellau cyn troi i Gwm Maesglasau, ryw filltir ymlaen. Dacw'r Glennyrch y sonnir amdanynt yn y Siarter yn ymyl, a dilynwn y nant i fyny'r Cwm, a'r hen ffordd yn gul a lleidiog. Ceir ychydig o flodau ar y ffordd hon, ac un peth a wnaeth y gwlybaniaeth eleni oedd cadw'r blodau taranau, a phys y llygod, a'r bengaled (mwyn tad), a blodau gwylltion eraill heb agor hyd yr wythnosau hyn, ac yn awr y mae'r griafolen a'i haeron yn araf gochi. Erbyn hyn, y blodau ar y cloddiau a'r stingoedd ydyw gogoniant y llwybrau a'r ffyrdd treddegwm. Ni cheir fawr ohonynt bellach ar ymyl y ffordd fawr.
Cwm bychan ymhell o firi pobl' chwedl yr hen air, yw Cwm Maesglasau, a lle gogoneddus ar haf sych. Nid yw mor hir, nac mor amrywiol â Chwm Cywarch, ac y mae hen derfynau'r caeau wedi eu colli yma ac acw. Yn y pen draw iddo, croga Craig Faesglasau, a'r Pistyll claerwyn yn disgyn trosto haf a gaeaf. Cynefin y carlwm a'r cadno, a hendref yr hebog a'i ryw' yw'r Graig hon. Ynddi, ac yng Nghwm Cywarch y ceir rhai o noddfeydd ola'r deryn gwyllt, yn arbennig y gwalch glas, y ceisir ei amddiffyn rhag difancoll. Lle tawel, llwm, ac unig yw'r Cwmdim ond dwy ffarm yn awr, heb sŵn ond sŵn y dŵr yn syn daro ar y graig, brefiadau ŵyn newydd eu hel, a chri'r barcutanod uwchben. Pair y tawelwch i ddyn feddwl ei fod wedi gadael y byd cyffredin ymhell, bell yn ôl, ac nid yw'n rhyfedd bod yma feudwyaid crefyddol gynt, dros y gefnen, yng Nghae'r Abaty; cell yma; eglwys dros y Cyfrwy yng Nghwm yr Eglwys, a lle arall ym Mhenantigi Uchaf. Mewn llawer ystyr, y meudwyaid hyn oedd cynnyrch mwyaf swynol crefydd yn yr Oesoedd Canol,—crefyddwyr yn chwennych neilltuedd o flaen y byd, ac am hynny'n dewis lleoedd tawel, anghysbell fel hyn. Y mae'r lleoedd hyn yn gyffredin ym Mawddwy, ac ardaloedd eraill, o ran hynny, er nad oes eglwys yn aros yma yn awr o'r dyddiau pell. Fel rheol, saif y lleoedd hyn ar unigeddau tlodaidd a diarffordd, er bod amryw ar ffyrdd lled bwysig, yn eu dydd. Cell meudwy oedd llawer ohonynt ar y dechrau, ond tyfodd ambell gell yn fynachlog neu yn eglwys. Ni thyfodd dim o rai Cwm Maesglasau, a'r fam eglwys, ond odid, ynghanol y plwyf, ym Mallwyd, sydd wedi goroesi'r holl newid.
Enw tlws yw Maesglasau. Nid oes a fynno ddim â'r gair glas (lliw), fel y barnai Morris Davies, Bangor, a aned ym Mhenantigi, ac er eu bod yn codi nod glas yma gynt, yn chwarel Bwlch Siglen. Ni allai ddod o'r gair clais ychwaith, a gwyddys mwy erbyn hyn am y ffurf ar eglwys a adwaenid fel clas. Perthynai tipyn o dir yn aml i'r clasau, a thrinid ef gan y claswyr fel rhan hanfodol o'u bywyd a rhywbeth i gywiro myfyrdod mawr. Bu Cwm Maesglasau yn enwog am ei ŷd, a dywedir bod digon o ŷd yn cael ei godi yno i gadw holl gymoedd Mawddwy yn yr hen amser. Awgryma rhai mai o'r gair Lladin claustra y tardd y gair clas, yr un gwreiddyn, felly, â chlwystr, a ddaeth i'r iaith yn ddiweddarach. Ond dengys Dr. Lloyd ei fod yn debycach mai o'r gwreiddyn I (corfforaeth) y daw, ac nid oes dadl mai clasau yw un o wreiddiau'r gair Maesglasau ei hun. Yn y Cwm, ceir, mi gredaf, yr hollt rhwng y garreg feddal a'r garreg galed. (Nid yw'r cerrig agosaf at law yn rhai da at adeiladu—y maent yn frau dros ben). Y mae Maesglasau ei hun yn dadfeilio, ond yn y beudy hwn, yn 1749, y ganed yr emynydd a'r cyfieithydd, Hugh Jones, yn un o naw o blant.
Yr oedd ei dad a'i fam, William ac Elizabeth Jones, yn ffermwyr pur gefnog, a rhoddasant addysg dda i'w holl blant. Yr oedd tipyn o dalent yn y teulu mab i frawd Hugh Jones oedd Erfyl, a mab i chwaer iddo oedd Owain Alaw a gasglodd y Gems of Welsh Melody. Yr oedd Hugh Jones yn Gymro da, a hefyd yn dipyn o ganwr a cherddor, yn ôl yr hanes amdano. Yn 1772, yr oedd yn Llundain, wedi gadael bro'r llus a'r gwalch glas a swyn mynydd Cae Afon am sŵn a bywyd prysur. Yno y cyfansoddodd ei lyfr cyntaf. Cydymaith i'r Hwsmon, y cofia rhai ohonom ei ddarllen yn yr hen Cymru Coch, cyn iddo ddod allan yn un o gyfrolau meinion Cyfres y Fil. Y mae'n llyfr nodweddiadol o'r cyfnod, rhyddiaith yn bennaf gyda phenillion duwiol yma a thraw, ar rai o'r hen alawon fel Gwel yr Adeilad,' etc. Disgrifia waith y tymhorau, ac yna, yn null rhai o benodau'r Beibl, tynn gyffelybiaeth rhyngddo a bywyd dyn. Dyma enghraifft:
'Y gwair a'r ŷd, oedd wedi pen ychydig yn irlas ac yn llawn nodd, yn awr a welir yn dechrau diflannu, a'i ben yn gogwyddo i'r ddaear ac a dorrir ymaith ar fyrder. Hyn a eill ddwyn i'n cof, mor fethianllyd a darfodedig yw cyrff dynion; pob cnawd sydd wellt.. Eu gwrid a dry yn llwydni a'u nerth yn wendid, a henaint a gryma eu pennau i lawr megis ŷd, pan fo'n llawn addfed.' Ac yna ceir caniad ar fesur Consumption
O Arglwydd beth yw dyn
Pan drychit ar ei lun,
Yr hwn nid yw ei hun
Ond megis gwelltyn gwan:
Mae heddiw'n deg ei wawr
Mewn rhwysg a rhyfyg mawr,
Yfory yn drwm ei sawr
Fe'i ceir yn llawr y llan!
Nid yw ei ddyddie ar y ddaear hon
Ond megis t'wniad haul ar fron
Ar ddiwrnod teg, neu dreigliad ton
Ym min yr eigion mawr.
O dyro orffwysfa nefol Dad!
I'r enaid o'th drugaredd rad
Sydd yn anfarwol ei barhad,
A di-ddiweddiad mawr.
Nid yw'n llyfr hawdd ei ddarllen, efallai, i ni heddiw, ond bu'n boblogaidd yn ei gyfnod, fel y gellir yn hawdd gweled oddi wrth restr ei danysgrifwyr. Ar ôl y Cydymaith, yn 1776, daeth Gardd y Caniadau, ac yna dilynodd nifer mawr o gyfieithiadau a llyfrau duwiol eraill. Yn 1797, cyhoeddodd ei waith gwreiddiol gorau, sef ei Hymnau newyddion, ac fel y dywaid Syr O. M. Edwards, yn union wedyn torrodd tymhestloedd arno ac aeth yn dlawd.
Daliodd i ysgrifennu hyd y diwedd, ynghanol Ebrill 1825. Yn y cyfnod hwn, dichon mai Holl waith Josephus, a gyhoeddodd Richard Jones, Dolgellau, yw'r pwysicaf. Yn sicr, ef yw'r meithaf, canys y mae'n 1200 o dudalennau. Ymhen chwe blynedd, yn 1825, yr oedd yn Henllan, pentref tlws heb fod nepell o Ddinbych, yn hen ŵr yn cyfieithu y Byd a ddaw, ac yno, ar ganol y gwaith, yn dlawd, ac mewn dygn boenau y bu farw ac y claddwyd ef. Dywedwyd wrthyf na wyddys yn iawn ymha le y mae ei fedd, ond y mae maen coffa iddo yn y capel gerllaw. Y mae llawer o emynau newyddion ganddo, ac un ohonynt hwy sydd wedi gwneud ei enw yn un teuluaidd. Egyr y casgliad o emynau gydag emyn sy'n dwyn un arall gan Ann Griffiths i'n cof, ac ymhellach ymlaen ceir emyn sy'n canu'n dda ar dôn a wnaeth Morris Davies—Rhoslan' wrth ei henw. . . .
Arnat Iesu rhof fy mhwys, a'm hymddiried,
Ti o gyfyngderau dwys, all fy ngwared:
Pan bo'm henaid yn llesgau, ac yn crwydro,
Mae dy gariad yn parhau, yr un eto.
Gwelir ôl dylanwad Seisnig ar y mesurau; rhedant yn llyfnion, a cheir mesurau newyddion fel y mesur llinell seithsill, 8-7-4, etc., yn eu plith. Dyma un pennill:
O na chawn i dreulio f'oes
Yn myfyrio am ei groes!
Gweld yr Iesu ar y pren
Yn gogwyddo droswy 'i ben,
Ac yn dweud Gorffennwyd' nawr,
Gwaith yr Iachawdwriaeth fawr.
Gellir teimlo'r ing enaid a welir yng ngwaith yr emynwyr gorau yn ei waith, a'r dwyster a ddaeth gyda'r Diwygiad Methodistaidd. Ni sylwais bod ôl y gynghanedd ar fawr o'r emynau, ond tybiaf fod hynny'n rhan bwysig o swyn ei emyn gorau, er mai emyn wythsill ydyw ac odlgyrch ynddo. Weithiau, y mae'n amlwg iawn
Ei ddwyfol loes a'i ddyfal lef,
Hi bery'n hwy na bore a nawn.
Dro arall, nid oes ond tinc ohoni, e.e.
O gariad pur i mi mewn poen.
Nid oes Gymro mewn unrhyw wlad nad yw yn ei hoffi, a geilw Syr O. M. Edwards ef' yr emyn gorau yn yr iaith.'
Erys traddodiad mai atgof am Gwm Maesglasau, ei hen gartref, a achlysurodd ei gyfansoddi, a chenir yr emyn yn aml yn yr ardal o hyd.
O tyn
Y gorchudd yn y mynydd hyn;
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn,
O ben y bryn bu addfwyn Oen
Yn dioddef dan yr hoelion dur
O gariad pur i mi mewn poen.
Ple, ple
Y gwna i fy noddfa dan y ne'?
Ond yn ei archoll ddwyfol E;
Trwy bicell gre' y waywffon
Agorwyd ffynnon i'm glanhau; '
Rwy'n llawenhau fod lle yn hon.
Oes, oes
Rinwedde a grym yng ngwaed y groes,
I lwyr lanhau holl feiau f'oes;
Ei ddwyfol loes a'i ddyfal lef
Mewn gweddi drosof at y Tad
Yw fy rhyddhad, a'm hawl i'r nef.
Golch fi
Oddiwrth fy meiau mawr eu rhi,
Yn afon waedlyd Calfari:
Sydd heddiw'n lli o haeddiant llawn;
Dim trai ni welir ynddi mwy;
Hi bery yn hwy na bore a nawn.
Dyna'r pedwar pennill blaenaf o'r emyn, pedwar pennill wrth fodd calon Cymro ymhob man.
Ond y mae fy amser yn dirwyn i ben, ac ni ellir sôn am J. J. Tynybraich, a aned mewn fferm yn is i lawr, a thad y bardd ieuanc addawol Baldwyn. Gwelir ei waith yng nghasgliadau Eifionydd o englynion ein gwlad, a'r Geninen, etc. Cynganeddwr rhwydd a naturiol oedd John Jones ac ni ddaw Mai yr un flwyddyn i'r fro hon na chlywir darn o'i hir-a-thoddiad i'r mis:
Mis siriol gloyw, mis yr awel glaear,
Mis gwiw y cleifion, mis y gwcw lafar,
Mis yr eginau, mis y wawr gynnar,
Mis y goedwig yn llawn miwsig adar.
Yr oedd cynganeddu megis ail natur iddo, a'i ddelfryd oedd cyfleu meddwl glân mewn ffurf gain, gryno. Apeliai'r englyn fel mesur ato, er iddo ennill llawer ar awdlau a chywyddau, a thybiaf bod ei englyn i'r Watch yn enghraifft dda o'r teip sy'n dilyn un meddwl yn ffyddlon o un pen i'r llall, cyn i athrylith Eifion Wyn, yn arbennig, lunio teip arall, megis Gwrid.'
Goch y gwin, wyt degwch gwedd—ton y gwaed
Ystaen gwg a chamwedd;
Morwynol fflam rhianedd
Swyn y byw,—rhosyn y bedd.
Dyma'r englyn i'r Watch, wedi ei ysbrydoli, efallai, gan y felin gerllaw ei gartref:
Melin aur yn malu'r oriau—fal ŷd
Yn flawdiach, mân dipiau,
Hoprana hon, heb brinhau
Ddieisin fwydydd oesau.
Y mae J.J. wedi ei gladdu ym mynwent newydd y Dinas, ond erys cof amdano fel gŵr tawel, addfwyn a bardd o fri yn hir yn y broydd hyn. Hir y parhao bywyd y wlad, a'r diwylliant Cymraeg y bu'r wlad yn asgwrn cefn mor gadarn iddo! Mewn lleoedd tawel fel Cwm Maesglasau y bu cartrefi naturiol y bywyd nodweddiadol Gymreig. Chwyrnella moduron yr haf drwy'r ardal lonydd, ond distawa'r sŵn yn y pellter. Daw'r gaeaf a'i brysurdeb tawel eto i'r cymoedd. Daw'r cyfarfod Cymreig, Cymraeg i gapel ac ysgol; holir y bennod eto, a dadleuir y pynciau drosodd a throsodd mewn gefail a siop, yn y dosbarth allanol ac ar y fainc gneifio. Yn y wlad y megir y rhinweddau a nodweddai rai fel Hugh Jones—
crefyddolder dwfn, serch at farddoniaeth gain a myfyrdod distaw, hoffter o brydferthwch natur ar fynydd a gwaun a gwylltir. Oni ddylem i gyd geisio edfryd bywyd y wlad drachefn? Onid yw'n werth i'w gadw? Ac ni olyga hyn fynd yn ôl at y gannwyll frwyn, a phopeth y mae'r gannwyll frwyn yn symbol ohono.
1939