Ysgrifau (John Breese Davies) (testun cyfansawdd)
| ← | Ysgrifau (John Breese Davies) (testun cyfansawdd) gan John Breese Davies |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ysgrifau (John Breese Davies) |

YSGRIFAU
JOHN BREESE DAVIES

J. Breese Davies
YSGRIFAU
JOHN BREESE DAVIES
WEDI'U GOLYGU GAN
IORWERTH C. PEATE
1949
Gwasg y Brython
LERPWL
Argraffiad Cyntaf-Tachwedd, 1949
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan
Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., 9 Hackins Hey, a 350-360 Stanley Road. Liverpool
Cynnwys
Darluniau
J. Breese Davies Blaenddarlun
Dinas Mawddwy a Dyffryn Dyfi
J. Breese Davies yn arwain Côr Cerdd Dant.
Ysgol Haf Cerdd Dant, 1938.
Rhagymadrodd
PAN ofynnodd Miss L. A. Breese Davies i mi ddethol a golygu cyfrol o ysgrifau ei brawd, cytunais yn llawen. Galwasai T. Gwynn Jones ef yn llenor medrus a gofalus a chanddo ddawn beirniad cyfarwydd â'i bynciau, un oedd yn feistr ar iaith raenus a chlir, yn feddyliwr craff a hynaws'. Yr oedd hyn yn gwbl wir am John Breese Davies, ac oherwydd hynny bu'r gwaith golygu yn hawdd. Eithr nid oherwydd hawsed y gwaith y cytunais. Gwelodd Gwynn Jones yntau fwy na'r llenor ynddo : gŵr bonheddig trwyadl o Gymro, ysgolheigaidd yn yr ystyr uchaf oll i'r term . . . Eiddo'r haelioni a'r ddoethineb sy'n anhepgor pob gwir ddiwylliant, a'r peth drosben hwnnw, personoliaeth syml, rywiog, garadwy.' Am y peth—drosben hwnnw' y cerais i John Breese Davies ac y bodlonais yn ddiolchgar i wneuthur fy rhan fechan i yn y deyrnged hon i'w goffadwriaeth.
Cyfarfum ag ef tros bum mlynedd ar hugain yn ôl ; deuthum i'w adnabod yn 1925 pan ddechreuwyd cyfeillgarwch rhyngom a barhaodd hyd ei farw. Fe'i ganed yn 1893: mab ydoedd i Thomas Tegwyn Davies, awdur Dinas Mawddwy a'i Hamgylchoedd. Etifeddodd yr enw Breese o ochr ei fam a berthynai i deulu Breesiaid Llanbryn-Mair, teulu a roes, trwy gangen arall, S.R. i Gymru. Yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Nolgellau dioddefodd John Breese Davies anhwyldeb a'i cadwodd yn orweddiog am bum mlynedd a'i adael yn gloff o'i glun. Dywed ei gyfaill, y Parch. J. Ellis Williams, iddo fwriadu mynd i'r gwasanaeth sifil ond i'w orwedd hir newid cwrs ei fywyd. Yn sicr nid colled i Fawddwy fu'r newid. Treuliodd y pum mlynedd trwy ddarllen yn helaeth a myfyrio'n ddwys, ac yn ystod cyfnod ei afiechyd ymwelodd Syr Owen Edwards ag ef, a'i gymell (fel y gellid disgwyl) i sgrifennu i Cymru. Ufuddhaodd, a dyna ddechrau gyrfa J. Breese Davies fel llenor. Dyma eto un o gymwynasau Owen Edwards i'w genedl. Ac un o draethodau eisteddfodol gorau J. Breese Davies yw ei draethawd ar O. M. Edwards—traethawd rhy faith i'w gynnwys yn y gyfrol hon. Parhaodd i lenydda gan ddatblygu, fel y gwelir yn y gyfrol hon, arddull glir a chynnil. Pan euthum i gynnal dosbarth yn y Dinas yn 1925 ef oedd yr ysgrifennydd a chefais gyfle da i farnu nid yn unig ei ryddiaith bob dydd' ond ei wybodaeth o lenyddiaeth a llenorion. Yr oedd yn eithriadol eang. Anaml y cyfarfum â gwŷr o ddysg prifysgol a wyddai eu pwnc yn debyg iddo. Rhaid ei fod yn wir wedi darllen yn fanwl a myfyrio'n hir mewn conglau diarffordd o'r maes. Gallai drafod yn feistraidd werth llenyddol aml glasur Saesneg digon anhysbys i'r mwyafrif o ddarllenwyr Saesneg. Ac yr oedd wrth gwrs yn gwbl hyddysg yn hanes llenyddiaeth ei wlad ef ei hun.
Daliodd ei ddiddordeb yn y mudiad addysg i bobl mewn oed. Ai'n flynyddol i Goleg Harlech ac i ysgolion haf mewn lleoedd fel Caergrawnt. Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Fachynlleth yn 1937 ef oedd y dewis naturiol i fod yn ysgrifennydd y Pwyllgor Llenyddiaeth. Yno y cafodd gyfle i sylweddoli un o'i freuddwydion. Daliai ar hyd y blynyddoedd fod mawr angen am roddi urddas ar sgrifennu rhyddiaith Gymraeg ac aeth ati i geisio gwneud a allai tros ryddiaith yn yr Eisteddfod. Yn ystod 1936 gohebodd yn ddyfal â rhai ohonom i sefydlu yn Eisteddfod Machynlleth gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. Medal John Breese Davies yw hon ac ofnaf weithiau nad yw hyd yn hyn yn cyflawni'r hyn a fwriadwyd iddi, sef, fel y mynnai ef, fod yn deyrnged i ryddiaith gadarn fyw.
Nid rhaid imi sôn yma am ei gyfraniad ef ei hun i'n llenyddiaeth. Mae'r detholiad a geir o'i ysgrifau yn y gyfrol hon yn dystiolaeth i'w ddawn a'i allu. Sgrifennai i Cymru, Y Geninen, Yr Eurgrawn a'r Cerddor (a llawen gennym gydnabod y cyfnodolion hynny wrth ail-argraffu ei ysgrifau yma). Deil ei ysgrifau yn eu gwerth a'u blas o hyd ac ni chredaf y collant eu rhin.
Eithr nid llenor yn unig mohono. Yr oedd yn gerddor hefyd. Anodd i mi, nad ydwyf yn gerddor, drafod yr ochr gyfoethog hon o'i bersonoliaeth. Cofiaf yn dda amdano lawer tro yn trafod arweddau ar gerddoriaeth Bach pan ddarganfu fy mod innau'n addolwr wrth yr un allor. Yn ei ysgrifau ar destunau cerddorol gwelir yn eglur gefndir eang ei ddiwylliant yn y cyfeiriad hwn. Er hynny, cerddoriaeth Cymru oedd ei bennaf gofal ac fe roes wasanaeth clodwiw i'r Gymdeithas Cerdd Dant. Yn wir, yr oedd hyd ei farw yn olygydd Allwedd y Tannau, cylchgrawn y Gymdeithas, ac yng ngeiriau Watcyn o Feirion a'r Parch. E. Gwyndaf Evans, gellir rhestru ei enw gyda'r diweddar J. E. Jones fel un o gymwynaswyr pennaf canu ein cenedl ni.' Bu'n hyfforddi ieuenctid ei fro yn y canu Cymraeg, yn beirniadu'n gyson yn yr eisteddfodau, yn asgwrn cefn i ysgol haf y Gymdeithas Cerdd Dant ac yn gynheiliad pob mudiad a roddai fri ar ganu gyda'r tannau. Gwych oedd ei gael yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938, i annerch Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar y pwnc hwn yr oedd yn gymaint meistr arno. Argreffir ei anerchiad yn y gyfrol hon trwy ganiatâd caredig y Gymdeithas.
Darlledodd deirgwaith, unwaith mewn trafodaeth Saesneg gyda'r Athro W. J. Gruffydd a dwywaith yn Gymraeg. Cyhoeddir y sgyrsiau Cymraeg yma, 'Siop y Pentref' trwy ganiatâd caredig Gwasg Aberystwyth. Hwyrfrydig o hyd yw'r gwŷr radio i fanteisio ar ddoniau gwladwyr diwylliedig, a llawen gennyf fy mod wedi llwyddo i'w perswadio i roddi cynnig ar J. E. Jones a John Breese Davies ond gofidiaf na recordiwyd lleisiau'r ddau. Pan glywaf y dyddiau hyn oernadau gyddfol ambell ganwr penillion, gwych fyddai gennyf glywed eto gywrain gelfyddyd y ddeuddyn hyn na wêl Cymru byth eu tebyg.
Fel y gellid disgwyl, llanwodd John Breese Davies ei le hyd yr ymylon ym mywyd ei fro. Bu'n aelod o Gyngor sir Feirionnydd, yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Sir Dolgellau, yn ysgrifennydd ac yn llywydd Cyngor Eglwysi Efengylaidd Dyffryn Dyfi, yn Oruchwyliwr Cylchdaith Fethodistaidd Dinas Mawddwy ac yn athro Ysgol Sul selog. Ac yr oedd yn siopwr y pentref' yn ei eiliadau' segur.' Gwŷr fel ef, gwerinwyr mewn gwirionedd, a wnaeth Gymru yn genedl y mae'n werth ymffrostio ynddi a'i charu. Buchedd gwŷr fel John Breese Davies yw'r rheswm cryfaf posibl tros 'gadw Cymru'n fyw.'
Yr oeddem oll a'i adnabu yn anwylo John Breese Davies am yr hyn ydoedd a'r hyn a wnaeth mewn oes fer. Bu farw yn 1940. Ond o bawb a adnabu ei rinweddau, ei chwaer a'u hadwaenai orau. Bu'n gydymaith iddo ar hyd y blynyddoedd ac yn ddihafal ei gofal amdano tra bu. Fel ei brawd, noddodd bopeth teilwng ym mywyd ei bro a'i chenedl a gweddus i mi yw cydnabod yma mai ei theyrnged arbennig hi i frawd a garodd mor fawr yw'r gyfrol hon. Hyderaf y rhoddir derbyniad gwresog iddi yng nghartrefi Cymru.
Diolchir yn gynnes i'r Parch. G. E. Breeze am ei barodrwydd yn teipio'r ysgrifau.
IORWERTH C. PEATESiop y Pentref
PE gofynnid i rywun paham y mae'n aros yn y wlad, y mae'n debyg mai'r ateb chwareus a geid fyddai—'Y mae'n well bod yn llyffant mawr mewn llyn bach nag yn llyffant bach mewn llyn mawr!' Pentref bychan distaw yw'r llyn bach yr wyf i'n byw ynddo, cartref rhyw gant o bobl, ond y mae ynddo tua deg o siopau. Ai byw ar y gwynt y mae'r rhain? Nage, oherwydd y mae'r pentref yn ganolbwynt, nid yn unig i ddeublwy Mawddwy, ond i fasnach ehangach. Nid yw ei fywyd nac yn undonog, nac yn annifyr, nac yn blwyfol os cymerwch ran flaenllaw ynddo. Nid oes arglwydd na phlas i'w reoli'n awr, fel y bu, ac nid yw'r ardal hanner mor boblog a phrysur. Cyfrifais bod yn ymyl dau gant o anhedd-dai yn llai ym mhlwy Mawddwy ers can mlynedd, a defaid yw prif gyfoeth yr amaethwyr ; y mae'r plismon yn arolygu dipio tua hanner can mil ohonynt bob blwyddyn. Er na sonnir am ffeiriau yn Siarter y Dinas, bu ei ffeiriau'n enwog gynt, ond heddiw nid oes ond dwy, Ffair Dinas yr Ha a Ffair Glangaea, yn aros. Tyrrir o hyd i'r Mart, ond nid yw 'sêl' hanner cystal â ffair i siop y pentre, gan mai dull o drin busnes yn unig yw, twr o ddynion, heb ddim merched, yn prynu a gwerthu ar ffrwst rhwng dwy fws, ac nid cymdeithas o bobl hamddenol, wedi rhoi diwrnod i'r brenin.
Dywed rhai bod oes y siop fach wedi mynd. Yn wir, y mae'r hen grefftwyr wedi diflannu eisoes, bron i gyd—y bobl oedd â min ar eu meddwl, a digon o annibyniaeth ac argyhoeddiad i fywiogi ardal gyfan. Eto fe welir peth o'r hen ysbryd crefft a'r hen fedr ar adegau. Ai Caledfryn a alwodd y cyfarfod llenyddol yn eisteddfod hanner peint '? Prun bynnag, ceir ynddo heddiw geinder llwy fenyn, bocs cyllyll, magl ffon gollen, neu bwyth hosan yn ogystal â chanu ac adrodd, ac yn y Dinas dyfeisiodd y gof siswrn torri haearn, a ffermwr beiriant difa rhedyn hynod o effeithiol. Ond y mae'r wlad yn newid yn llawer cyflymach yn awr nag o'r blaen. Y mae'r weiarles yn gyffredin, ceir bysus a cheir i bob man; y mae'r diwinydd uniaith yn darfod, a gwerthir papurau dydd Sul drwy gil y drws. Y mae'r pentre yn lanach nag oedd pan ddaeth Borrow heibio iddo; ceir garais yn lle'r domen dail, a golau trydan yn lle'r gannwyll frwyn. Collodd llawer o'r hen arferion eu swyn. Diwrnod y banc, neu ddiwrnod y doctor, ac nid noson seiat yw'r adeg i siopa yn awr, ac fel y canodd rhyw hen wag:—
I'r Capel yr ai'r bobol yn oes y gert a'r mul,
Ond 'rwan ânt i uffern mewn motor bob dydd Sul.
Y mae llawer mwy o grwydro a thrafaelio, i'r sinema a'r sioe a chant a mil o atyniadau pell ac agos. Cafwyd blas ar newid bwyd a dillad. Nid oes yn agos gymaint o gwcio na gwnïo gartref—ready mades (sy'n ffitio pawb ac yn ffitio neb) sy'n mynd a hi, ond ceir mwy o amrywiaeth mewn bwyd a dillad. Y sgeidieth bennaf i ferch,' meddai Hen Ffarmwr Hiraethog, ydyw medrud pobi a golchi crys,' ond gŵyr y Dinas, bobol bach, yn awr am fara pryn a landri.
Ac nid yw'r ffermwyr fawr gwell na phobl—pennautai. Câr y rheini bopeth y sonnir amdanynt yn Slawer Dydd, ac ychwaneg. Basig slag yn lle tail, barb a netin weiar yn lle clawdd a sietin, a sinc a chortyn coch yn lle brwyn; ac yn y tŷ, syr, madam, a the yn lle Siôn a Siân a photes, ac yn wir, ar dro, fenyn Awstralia a bwyd o dun.
Y mae'r newid hwn yn rhwym o effeithio ar siop y pentre, a'r rheswm ei bod yn fyw, ac y bydd hi byw, yn fy marn i, yw y gall hi ei chyfaddasu ei hun at ofynion newydd. Beth i mi yw gwerthu 'sanau sidan yn lle 'sanau gwlan, trowsys fflanel yn lle trowsys rhip, trieg mewn tun yn lle trieg rhydd, a rhyw dair onglau ceiniog o gaws yn lle cosyn? Diflannodd yr hen grefftwyr am mai delio mewn un nwydd oeddynt ac am na fedrent gystadlu â phris gwdsiach ready made. Nid oes odid i brentis yn y Dinas yn awr; ni thâl i grefftwr ei brentisio, ac ni thâl ei grefft i'r prentis, yn aml, ar ôl iddo fwrw ei brentisiaeth. Nid yw'r siopwr fel y crefftwr, yn debyg o beidio â'i gyfaddasu ei hun at ofynion newydd ei gwsmeriaid. Nid ceidwadwr mohono, ac y mae'n haws iddo newid gyda'r oes. Nid oes ganddo beiriannau drud i'w troi heibio—nid yw'n cynhyrchu nwyddau, nac yn cadw rhai ag ychydig o alw amdanynt—ac nid yw wedi ei glymu ei hun wrth un teip o gwsmer. Cawsai fy nhaid ffit pe deuai'n ôl i'w siop heddiw a gweled yr holl ffaldirals y mae'n rhaid i mi eu cadw—cant a mil o bethau na welodd llygad ac na chlywodd clust ac na ddaeth i galon dyn o'r oes o'r blaen. Ond beth yw hynny o bwys? Ni all siopwr o'r oes hon fyw yn esgidiau ei daid, ac y mae'n barod i werthu 'popeth ond gras', a phe gofynnech i rai o'i gwsmeriaid, dywedent nad oes ganddo ddigon o hwnnw iddo ef ei hun heb sôn am neb arall! Gwir, a hanner gwir.
Peth arall sy'n debyg o gadw siop y pentre ar ei thraed yw mai merched yw'r mwyafrif o'r cwsmeriaid, a thra bo merched yn bod ni flinant byth ar siopa a gwario, a thyrru at ei gilydd ynddi. Llawer awr ddifyr a dreuliwyd dan esgus 'moen rîl neu bwys o siwgr. Y mae siop y pentre cystal â phistyll y llan am sgwrs a newyddion, ac yn well lawer na siopau'r trefi mawr, neu'r siopau ar olwynion. Y mae siopwr yn adnabod pawb bron a ddaw i'r siop—y maent yn gyfeillion iddo. Y mae'n fwy sefydlog, fel rheol, na'r gweinidog, neu'r ysgolfeistr, a'i gysylltiad ef, a'i dad o'i flaen, yn llawer agosach â bywyd yr ardal. Daw pawb yn eu tro ato, ac nid cysylltiad pounds, shillings, pence, yn unig sy rhyngddo a'i gwsmeriaid, fel cwmnïau mawr y trefi. Cymer y naill a'r llall ddiddordeb personol ym mywyd ei gilydd.
A hoffech chwi ddod i siop y pentre am dro? Peidiwch â disgwyl ffenestr fawr a dyfais i'ch denu. Dim ond ffenestr tŷ wedi ei helaethu yw, yn aml, a phob math o' drugareddau ynddi. A syml a diaddurn yw'r siop oddi mewn hefyd llawr cerrig neu bren, cadair neu ddwy, a silffoedd cyffredin. Nid yw yn lle mawr nac yn lle prysur, ychwaith, ond ar ddiwrnod ffair neu angladd. Ceir amrywiaeth mawr yn ei nwyddau.
Yn y siop gwerthir popeth—ysgadan
Ac esgidiau'n gymhleth;
Halen, dur, oel yn doreth,
Mats a byllt, 'does dim ots beth.
Y mae mwy o amrywiaeth ynddi nag oedd ym masged yr hen Iddew a holai am Ellis Edwards o'r Bala ryw dro, a chedwir stwff da ynddi bob amser, oherwydd nid cwt ei gwsmer y mae'r siopwr eisiau ei weled, ond ei wyneb, a hynny efallai, drannoeth. Am ei gwsmeriaid, gellir dweud amdanynt fel y dywedodd Talhaearn am ei ganeuon—' eu bod yn lled debyg i datws pink eyes Robin Siôn y Towr—rhai yn dda, rhai yn ddrwg, a rhai yn symol.' A hoffech chwi gyfarfod rhai ohonynt? Hylo, dyma Meri Jên.
'Ga' i hanner dwsin o wyau ffres, os gwelwch chi'n dda?''Cewch, 'nenw'r tad, ond maent wedi codi heddiw, Meri fach.''Mi gymera i hanner dwsin o rai ddoe, te," ac allan â hi a hanner dwsin o rai ddoe.
**** 'Owns o eli'r galon, fachgen, a bocsied o fatsys.' 'Eli'r galon, wir—chwyn wyt ti'n feddwl, Robin; a glywaist ti O.M. yn deud mai yn yr ardd y mae llosgi chwyn. 'Rydw i'n synnu atat ti'n mygu fel corn mwg o hyd. Wyddost ti bod tua dwy fil o bunnau yn cael eu gwario bob blwyddyn yn y lle 'ma am faco a cigarets?'
(Yn canu:Ned y Dawnsiwr a gwmpodd i'r glas dwr
A'r glasdwr yn boeth, a Ned yn gig noeth).
'Tyden NI ddim gwaeth na lleoedd eraill. 'Rwyt ti'n licio' i werthu o . . . a ni sy'n cadw'r llywodraeth 'ma i fynd, ac edrych y gwaith yden ni'n roi i bobol. Ond paid â deud wrth y wraig acw, achos mae hi eisio imi wneud ar ddwy owns yr wsnos, ac myn cebyst i, mae'n rhaid imi hefyd, tase raid imi gael owns arall i helpu!'
**** 'Hylo, Mrs. Jones. Y mae'n dda gen i weld basged o fenyn ac wyau genoch chi; welsoch chi 'rioed gimin sy'n mynd lawr y ffordd goch efo'r fisitors 'ma! Sut y mae Deio Bach erbyn hyn?''O, digon symol.''Ydech chi ddim awydd trio mincen lynger iddo fo?' 'Wel, dowch ag un te.' 'Dafydd â pheswch. . . A chysgodd o'r un brentyn?' 'Wel, be ddisgwyliwch chi efo'r hen ddipio dragwyddol yma. Y mae'i goese fo'n wlyb soc o hyd.' 'Dyna fo, roeddwn i wedi ei warnio fo am gymryd pâr o overalls da gen i. Mi fydde 'nhad yn arfer a deud mai tri bil oedd o'n licio'u gweled—bil pwn fflwr, bil crydd, a bil teiliwr. Cofiwch fi at Dafydd. Digalon ydi o? Pwy feddyliech chi fu yma yn ei du ddoe? Yr hen Mrs. Randall—Sioned Vrongaled erstalwm ac 'roedd hi wedi crimetio'r gŵr, ac wedi rhoi ei lwch o fewn peth-berwi-wyau. Gwarchod pawb, meddwn i, i be y gneisoch chi hynny? "Wel," medde hithe, "wnath o ddim byd tra'r oedd o byw, ond mi geith o weithio ar ôl marw..."Dedwch chi honna wrth y gŵr 'cw.'
**** 'Hylo, sut yr wyt ti erstalwm, Llew. Aros ti, faint sydd ers pan oedden ni yn yr ysgol efo'n gilydd? Wyt ti'n cofio ni'n tynnu dant Abi? Clymu ede lin wrth y dant a chlymu'r ede wrth y paels. . . ac yn gofyn iddo roi plwc ond dim yn tycio.Wyt ti'n cofio Wil yn tanio'r fatsen? Rwy'n ei weld o'r funud 'ma a'r fflam yn mynd yn nes, nes, nes, nes cyffwrdd trwyn Abi. A dyna blwc i'r dant.''Yr oeddwn innau'n meddwl amdano y dydd o'r blaen, wrth ddarllen englyn Watcyn Wyn:—
Tynnu mawr am awr a mwy—y dant tost!
Dant hir anghredadwy!
Y dant llygad ofnadwy!
Dant hir, yn filltir, neu fwy!
'Ga-i goler gentti?'15½ ynte?Mi ddylet gael coler bytarfflei a thei bo i fod yn y ffasiwn, ar ôl ennill yn Steddfod Meirion.''Sut oet ti'n fy ngweld i'n canu I? Tydw-i ddim yn licio'r solo yn dda iawn. Y mae'n newid gynted ag y byddi'n cael blas arni.''Wel ydi, y mae fel pineapple chunks, fachgen, wedi ei thorri'n ddarnau rhy fân. Nos da i ti.'
**** 'Ti sydd 'na Nedw? Wyt ti ddim wedi mynd i'r gwely eto? 'Dei di byth yn ddyn os nad ei di i'r gwely'n gynnar a chodi'n fore. Gwerth dimai o dda-da? Na, toffi. Wel 'does dim am ddim na dim llawer am ddimai. Wnest ti dy sums? Dyma ti broblem 'te. "Pam y mae defaid gwynion yn bwyta mwy na defaid duon ?" O, mi glywaist honna o'r blaen. Wel gâd i mi weld os wyt ti'n barod i'r gwely.
Faint ydi ceiniog a cheiniog a hanner dwy geiniog,
Grot a phum ceiniog a thriswllt? . . .
Dyma ti un na fedri di ddim ei gwneud 'te. Be sy'n anghywir yn hon? Y mae gen i gloc mawr mor hen nes bod cysgod y pindil wedi gwneud twll yn ei gefen . . . Dyna.Ffwr â ti adre i dy wely.'
**** 'Hylo Huw Jones, sut yr ydech chi?''Symol, sut 'rwyt ti?' 'O go lew.''Wyt, mi wranta, 'n ddigon glew, fel 'rhen siopwrs 'ma i gyd. Mae 'rhen riwmatis 'ma arna i, fachgen bach.''Glywsoch chi mo'r stori am Daliesin o Eifion? Dydw i ddim yn cael fy mhoeni, medde fo, gan boen pobol dlodiondiffyg traul, bronceitis, diffyg gwynt, a rhiwmitis; poen pobol fawr—y gowt sy arna i. Ond rydech chi wrth ben eich digon er mai rhiwmitis sydd arnoch chi! 'Hy! Welaist ti 'rioed ffasiwn beth ydi cael dau ben llinyn ynghyd y dyddiau 'ma. Gâd i mi gael y bil. Peth go dda ydi talu'r hen cyn cyrchu'r newydd. Mae arna i eisie trowsys rhip i mi a Tomos. Y mae'r bachgen acw'n mynd trwy bob peth ar ôl cael yr hen fotor beic 'na. 'Rydw i'n deud wrtho fo —paid a meddwl cimin, da 'ch di am yr hen fotor beic 'na, meddwl fwy am lwdn dafad.' 'Chware teg i Tomos. 'Does dim iws ei glymu o wrth linyn ffedog ei fam o hyd.' 'Chware teg iddo fo wir i ti! Waeth gen i siarad â'm sodlau nag efo'ch dithau. Tyrd, mesur fi. . .Faint fydd ei bris o?''Mi ddyle fod yn ddeunaw a chwech, ond mi cewch chi o am ddeunaw swllt.''Deunaw swllt. Os cei di ddau ar bymtheg mi wnei'n o dda—mae dy gefen di yn ddigon llydan, a 'drycha bris y gwlân. Hwde, dyma iti arian parod am f'un i—triswllt ga i 'nôl o bunt!''Na, 'chymera i monyn nhw ; wyddoch chi mai dau dalu drwg y sydd—talu 'mlaen a dim talu byth.''Wel arnat ti mae'r bai os na chei di dy bres. Gad i mi werth ceiniog o studs—Beth? dim ond un? Mae'r ysgol nos 'na'n dy wneud ti yn fwy o rôg o hyd.''Wel, mi gawsoch chithe ysgol nos, hefyd.'
'Dim ond chwarter, fy machgen i. Cofia di, rhaid i mi iwsio 'mhen efo hynny o ysgol ges i. Nos da i ti.'
**** Daw rhai eraill i siop y pentre am nwydd a sgwrs. Fe rydd cymeriad y siopwr ei ddelw ar y sgwrs yn ogystal â diddordeb y cwsmer. Newyddion personol a geir gyntaf fel rheol; yna adolygu bywyd yr ardal, megis cwrdd llenyddol, cyfarfod pregethu, holi pennod, ysgol nos, neu farn am gân, englyn, neu ddadl. Deuir i ofyn cyngor hefyd. Y mae mwy o sôn am y côr a'r eisteddfod nag am chwaraeon eto, ac nid oes neb yn berwi drosodd efo gwleidyddiaeth; nid yw'r dirwasgiad mor llym yn y wlad ag yn y trefi diwydiannol, nes gyrru dyn yn political animal; tueddir i fynd â phob gallu o'r cyngor plwy i gynghorau uwch, ac ni ddaeth dim i gynhesu'r gwaed a rhyddhau tafod fel Datgysylltiad. Nid yw diddordeb pobl mor unffurf; ni chedwir corn o frethyn bellach, dim ond hyd siwt. Ni ddarllena'r ieuainc gymaint â chynt, nac mor ddwfn, ac nid y Beibl a'r esboniad yw'r unig lyfrau a brynir. Cymerir diddordeb mawr mewn peiriannau. (Ped archwilid dynion yn eu horiau hamdden, extrovert a fyddai'r dedfryd amlycaf). Sonnir am bethau dibwys. Ceir gwybod pwy yw darllenwr mwya'r plwy, pwy sy'n gwybod nodau clustiau orau, pwy sydd â mwyaf o bres, pwy yw'r callaf neu'r ffolaf, pwy yw'r pregethwr gorau, neu'r canwr melysaf; achau hwn-a-hwn a helyntion caru hon-a-hon, a llond sach o straeon, am Ysbryd y Castell, potel Jac Llangurig, potsio, cwn hela, etc. . . . a phethau rheitiach a thrymach ar dro. Mynych y clywais hen ŵr yn dweud gyda Bardd Nantglyn Gwalch yn hedfan edn buan ydyw bywyd,' ac yn siop y pentre, yn wir,nid yw'n rhyfedd ei bod yn fwy difyr bod yn llyffant mawr mewn llyn bach nag yn llyffant bach mewn llyn mawr.
1936.

Dinas Mawddwy a Dyffryn Dyfi
Tro i Faesglasau
YCHYDIG sy'n cofio haf mor wlyb â'r haf eleni. Y mae'n wir erbyn hyn yn mynd oddi yma bron heb ymweld â ni. Adeg yr Eisteddfod yn Ninbych, yr oedd amryw ffermydd yma heb gael llond car llusg o wair, a phawb yn meddwl, nid am fardd y goron neu fardd y gadair, ond yn llawn pryder am fwyd y gaeaf i'r gwartheg. Ond y mae'n debyg bod haf tebyg iddo wedi bod canys yr wyf yn cofio clywed stori am hen berson ym Mallwyd wedi dod am dro i'r Dinas, ac yno'n siarad â siopwr cwynfanus. 'Wel, wel,' meddai cyn ymadael, 'yn tydi hi'n dda nad ydech chi a fi yn dibynnu ar Ragluniaeth?'
Ond dyma ddiwrnod braf o'r diwedd, ac yr wyf am fynd â chwi i Faesglasau. Y mae pob Cymro a Chymraes, ond odid, yn gynefin â'r enw, heb wybod mai lle ydyw ychydig ffordd o'r Dinas. 'Pa ddinas yw honno?' meddwch, a phan ddywedaf Dinas Mawddwy, efallai na bydd llawer ohonoch fawr callach. Gŵyr pob plentyn ysgol am y Gwylliaid Cochion, y canodd mwy nag un bardd faledi iddynt. Daw llawer o foduron yn agos i'r dre,' fel y gelwir hi gan y trigolion, ar eu ffordd i Ddolgellau, ac â'r dewraf ohonynt drwyddi, ar eu ffordd dros Fwlch y Groes i Lanuwchllyn a'r Bala. Bu'r pentref â llawer o drafnidiaeth ynddo gynt, ac yr oedd 'Ffair-Dinas-yr-haf,' ar yr ail o Fehefin, yn cael ei chysylltu, yn yr hen amser, â ffeiriau Gwrecsam a 'Mwythig fel y tri lle, lle byddai mwyaf o brynu a gwerthu ar wartheg a cheffylau.' (Clywais fy nhaid yn dweud ei fod yn cofio dros 500 o wartheg yn cael eu pedoli ar gae'r Blue Lion y noson cyn y ffair. Oherwydd eu ffeiriau, yn arbennig y ffair hon a Ffair Glangaeaf, y daeth y Dinas yn lle gweddol enwog). Nid tyfu a wnaeth o gwmpas Llan neu eglwys, fel llawer o bentrefi Cymru, a phan aeth masnach o'r ffordd fawr i'r ffordd haearn darfu pwysigrwydd y 'dre.' Os na ddaw'n ôl? . . .
Os buoch chwi drwy'r Dinas yn nechrau'r haf, y mae'n debyg eich bod yn meddwl mai hwn yw'r llecyn mwyaf prydferth yn y byd. Clywch yr awel adfywiol yn chwarae ar eich wynebau, a mwyn hedd y mynyddoedd ' i'w deimlo ymhob man.
Rhed afon Ddyfi a'i haml aberoedd yn beraidd drwy'r dyffryn, ac o bob tu cyfyd mynyddoedd uchel, serth fel gwarchodlu cadarn oddeutu'r pentref tawel. Ar y llethrau, y mae coed newydd eu plannu, yn rhesi trefnus, a thwmpathau o fanadl, neu rododendron, neu rug, yn ôl y tymor, yn gwenu yng nghanol y glesni. Efallai y cewch weled a chlywed yr hyn a eilw'r bobl yn 'briodas y brain,' oherwydd yn adfeilion yr hen Blas a'r coed o'u deutu, y mae llawer o frain yn nythu. Ond ar wahân i hynny a murmur ysgafn yr afon, tawel yw popeth, megis mewn cwsg, a'i lliwiau oll yn ymdoddi'n hapus i'w gilydd.
Rhwng dau o'r bryniau, Moel Bendin a Moel Dre, yr arwain y ffordd sy'n mynd â ni i Faesglasau. Moel yw Moel Bendin o hyd, a'r tŵr a gododd rhywun a fu yn y Plas ar y gorwel o'r Dinas. Sonia'r bobl am y gŵr hwn yn mynd â berfa drol i gario cerrig at y tŵr, a gwn fy hun mor chwim oedd ei draed wrth ddringo. Bûm yn ceisio cyd-ddringo ag ef.
Ond sonia rhyw hen bennill a ganai Robert Ifan Perth-y-felin am fwy o orchest fyth.
Bildiaf gastell ar Foel Dinas,
Gwydraf hwn â gwydyr gloywlas,
Bildiaf gastell ar Foel Bendin,
A phont faen i dramwy rhyngddyn.
Tri pheth a geir ym Meirion, meddai un o'r Trioedd:— Cawr yn Llanuwchllyn, meddwyn ym Mawddwy, a rôg yn Nolgellau, a chofia'r rhai hynaf ohonom dair tafarn yn y Stryd hanesiol hon—Wylecop. Aeth y Goat a'r Blue Lion cyn i mi gofio, a'r Nag's Head oedd yr olaf i ddiflannu. Ond dyma ni'n gadael y dref' ac yn dringo rhiw byr a serth at y Ffynnon Oer, pistyll hynafol tebyg i'r un y canodd Pedrog iddo, a'i ddwfr oer yn adfywio pawb a'i cymer.
Bu nain a hen nain honno—a'i phiser
Tra phwysig o tano:
Er rhoi fel hyn er cyn co
Rhed atom yn rhad eto.
Yn ei ymyl y mae adfeilion yr hen garchar, lle cedwid troseddwyr gan Arglwydd y Faenor, a lle dywaid rhai y cedwid y cyffion a'r feg fawr. Y mae'r Plas a hwythau erbyn hyn wedi mynd. Cynhelid court leet yn y Dinas ddwywaith y flwyddyn, yn ôl ei Siarter, a pharhaodd mewn enw hyd flwyddyn gyntaf y Rhyfel Mawr nid fel llys tir nac arall, fel y byddai gynt, ond fel cinio talu rhent ysywaeth! Gofidiaf nad oes neb yn gwybod ymhle y mae y faenoriaeth—y byrllysg, y mesurau, a'r feg fawr, etc.—ar ôl i Syr Edmund Buckley symud i Aberhirnant; bu llawer yn chwilio amdanynt, ond yn ofer.
Trwy lawer canrif, o ddyddiau Bleddyn ap Cynfyn i lawr, cadwodd Mawddwy rywbeth tebyg i annibyniaeth. Ni ddaeth yn rhan o Sir Feirionnydd yn 1284 fel Cymru i'r gorllewin iddi: ni ddaeth ychwaith yn arglwyddiaeth Normanaidd fel Cymru i'r dwyrain ohoni. Arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig, a ffurf maenor oedd ei ffurf-lywodraeth. Ar sail hon, bu ganddi Gyngor Dinesig ei hun, hyd ryw bump neu chwe blynedd yn ôl, pan gydiwyd y plwyf wrth gyngor Dolgellau. Cadwodd ei maer hyd ddechrau'r Cyngor Sir, ond y mae wedi colli'r holl freintiau bob yn un ac un. Awn ymlaen ar y ffordd i Ddolgellau cyn troi i Gwm Maesglasau, ryw filltir ymlaen. Dacw'r Glennyrch y sonnir amdanynt yn y Siarter yn ymyl, a dilynwn y nant i fyny'r Cwm, a'r hen ffordd yn gul a lleidiog. Ceir ychydig o flodau ar y ffordd hon, ac un peth a wnaeth y gwlybaniaeth eleni oedd cadw'r blodau taranau, a phys y llygod, a'r bengaled (mwyn tad), a blodau gwylltion eraill heb agor hyd yr wythnosau hyn, ac yn awr y mae'r griafolen a'i haeron yn araf gochi. Erbyn hyn, y blodau ar y cloddiau a'r stingoedd ydyw gogoniant y llwybrau a'r ffyrdd treddegwm. Ni cheir fawr ohonynt bellach ar ymyl y ffordd fawr.
Cwm bychan ymhell o firi pobl' chwedl yr hen air, yw Cwm Maesglasau, a lle gogoneddus ar haf sych. Nid yw mor hir, nac mor amrywiol â Chwm Cywarch, ac y mae hen derfynau'r caeau wedi eu colli yma ac acw. Yn y pen draw iddo, croga Craig Faesglasau, a'r Pistyll claerwyn yn disgyn trosto haf a gaeaf. Cynefin y carlwm a'r cadno, a hendref yr hebog a'i ryw' yw'r Graig hon. Ynddi, ac yng Nghwm Cywarch y ceir rhai o noddfeydd ola'r deryn gwyllt, yn arbennig y gwalch glas, y ceisir ei amddiffyn rhag difancoll. Lle tawel, llwm, ac unig yw'r Cwmdim ond dwy ffarm yn awr, heb sŵn ond sŵn y dŵr yn syn daro ar y graig, brefiadau ŵyn newydd eu hel, a chri'r barcutanod uwchben. Pair y tawelwch i ddyn feddwl ei fod wedi gadael y byd cyffredin ymhell, bell yn ôl, ac nid yw'n rhyfedd bod yma feudwyaid crefyddol gynt, dros y gefnen, yng Nghae'r Abaty; cell yma; eglwys dros y Cyfrwy yng Nghwm yr Eglwys, a lle arall ym Mhenantigi Uchaf. Mewn llawer ystyr, y meudwyaid hyn oedd cynnyrch mwyaf swynol crefydd yn yr Oesoedd Canol,—crefyddwyr yn chwennych neilltuedd o flaen y byd, ac am hynny'n dewis lleoedd tawel, anghysbell fel hyn. Y mae'r lleoedd hyn yn gyffredin ym Mawddwy, ac ardaloedd eraill, o ran hynny, er nad oes eglwys yn aros yma yn awr o'r dyddiau pell. Fel rheol, saif y lleoedd hyn ar unigeddau tlodaidd a diarffordd, er bod amryw ar ffyrdd lled bwysig, yn eu dydd. Cell meudwy oedd llawer ohonynt ar y dechrau, ond tyfodd ambell gell yn fynachlog neu yn eglwys. Ni thyfodd dim o rai Cwm Maesglasau, a'r fam eglwys, ond odid, ynghanol y plwyf, ym Mallwyd, sydd wedi goroesi'r holl newid.
Enw tlws yw Maesglasau. Nid oes a fynno ddim â'r gair glas (lliw), fel y barnai Morris Davies, Bangor, a aned ym Mhenantigi, ac er eu bod yn codi nod glas yma gynt, yn chwarel Bwlch Siglen. Ni allai ddod o'r gair clais ychwaith, a gwyddys mwy erbyn hyn am y ffurf ar eglwys a adwaenid fel clas. Perthynai tipyn o dir yn aml i'r clasau, a thrinid ef gan y claswyr fel rhan hanfodol o'u bywyd a rhywbeth i gywiro myfyrdod mawr. Bu Cwm Maesglasau yn enwog am ei ŷd, a dywedir bod digon o ŷd yn cael ei godi yno i gadw holl gymoedd Mawddwy yn yr hen amser. Awgryma rhai mai o'r gair Lladin claustra y tardd y gair clas, yr un gwreiddyn, felly, â chlwystr, a ddaeth i'r iaith yn ddiweddarach. Ond dengys Dr. Lloyd ei fod yn debycach mai o'r gwreiddyn I (corfforaeth) y daw, ac nid oes dadl mai clasau yw un o wreiddiau'r gair Maesglasau ei hun. Yn y Cwm, ceir, mi gredaf, yr hollt rhwng y garreg feddal a'r garreg galed. (Nid yw'r cerrig agosaf at law yn rhai da at adeiladu—y maent yn frau dros ben). Y mae Maesglasau ei hun yn dadfeilio, ond yn y beudy hwn, yn 1749, y ganed yr emynydd a'r cyfieithydd, Hugh Jones, yn un o naw o blant.
Yr oedd ei dad a'i fam, William ac Elizabeth Jones, yn ffermwyr pur gefnog, a rhoddasant addysg dda i'w holl blant. Yr oedd tipyn o dalent yn y teulu mab i frawd Hugh Jones oedd Erfyl, a mab i chwaer iddo oedd Owain Alaw a gasglodd y Gems of Welsh Melody. Yr oedd Hugh Jones yn Gymro da, a hefyd yn dipyn o ganwr a cherddor, yn ôl yr hanes amdano. Yn 1772, yr oedd yn Llundain, wedi gadael bro'r llus a'r gwalch glas a swyn mynydd Cae Afon am sŵn a bywyd prysur. Yno y cyfansoddodd ei lyfr cyntaf. Cydymaith i'r Hwsmon, y cofia rhai ohonom ei ddarllen yn yr hen Cymru Coch, cyn iddo ddod allan yn un o gyfrolau meinion Cyfres y Fil. Y mae'n llyfr nodweddiadol o'r cyfnod, rhyddiaith yn bennaf gyda phenillion duwiol yma a thraw, ar rai o'r hen alawon fel Gwel yr Adeilad,' etc. Disgrifia waith y tymhorau, ac yna, yn null rhai o benodau'r Beibl, tynn gyffelybiaeth rhyngddo a bywyd dyn. Dyma enghraifft:
'Y gwair a'r ŷd, oedd wedi pen ychydig yn irlas ac yn llawn nodd, yn awr a welir yn dechrau diflannu, a'i ben yn gogwyddo i'r ddaear ac a dorrir ymaith ar fyrder. Hyn a eill ddwyn i'n cof, mor fethianllyd a darfodedig yw cyrff dynion; pob cnawd sydd wellt.. Eu gwrid a dry yn llwydni a'u nerth yn wendid, a henaint a gryma eu pennau i lawr megis ŷd, pan fo'n llawn addfed.' Ac yna ceir caniad ar fesur Consumption
O Arglwydd beth yw dyn
Pan drychit ar ei lun,
Yr hwn nid yw ei hun
Ond megis gwelltyn gwan:
Mae heddiw'n deg ei wawr
Mewn rhwysg a rhyfyg mawr,
Yfory yn drwm ei sawr
Fe'i ceir yn llawr y llan!
Nid yw ei ddyddie ar y ddaear hon
Ond megis t'wniad haul ar fron
Ar ddiwrnod teg, neu dreigliad ton
Ym min yr eigion mawr.
O dyro orffwysfa nefol Dad!
I'r enaid o'th drugaredd rad
Sydd yn anfarwol ei barhad,
A di-ddiweddiad mawr.
Nid yw'n llyfr hawdd ei ddarllen, efallai, i ni heddiw, ond bu'n boblogaidd yn ei gyfnod, fel y gellir yn hawdd gweled oddi wrth restr ei danysgrifwyr. Ar ôl y Cydymaith, yn 1776, daeth Gardd y Caniadau, ac yna dilynodd nifer mawr o gyfieithiadau a llyfrau duwiol eraill. Yn 1797, cyhoeddodd ei waith gwreiddiol gorau, sef ei Hymnau newyddion, ac fel y dywaid Syr O. M. Edwards, yn union wedyn torrodd tymhestloedd arno ac aeth yn dlawd.
Daliodd i ysgrifennu hyd y diwedd, ynghanol Ebrill 1825. Yn y cyfnod hwn, dichon mai Holl waith Josephus, a gyhoeddodd Richard Jones, Dolgellau, yw'r pwysicaf. Yn sicr, ef yw'r meithaf, canys y mae'n 1200 o dudalennau. Ymhen chwe blynedd, yn 1825, yr oedd yn Henllan, pentref tlws heb fod nepell o Ddinbych, yn hen ŵr yn cyfieithu y Byd a ddaw, ac yno, ar ganol y gwaith, yn dlawd, ac mewn dygn boenau y bu farw ac y claddwyd ef. Dywedwyd wrthyf na wyddys yn iawn ymha le y mae ei fedd, ond y mae maen coffa iddo yn y capel gerllaw. Y mae llawer o emynau newyddion ganddo, ac un ohonynt hwy sydd wedi gwneud ei enw yn un teuluaidd. Egyr y casgliad o emynau gydag emyn sy'n dwyn un arall gan Ann Griffiths i'n cof, ac ymhellach ymlaen ceir emyn sy'n canu'n dda ar dôn a wnaeth Morris Davies—Rhoslan' wrth ei henw. . . .
Arnat Iesu rhof fy mhwys, a'm hymddiried,
Ti o gyfyngderau dwys, all fy ngwared:
Pan bo'm henaid yn llesgau, ac yn crwydro,
Mae dy gariad yn parhau, yr un eto.
Gwelir ôl dylanwad Seisnig ar y mesurau; rhedant yn llyfnion, a cheir mesurau newyddion fel y mesur llinell seithsill, 8-7-4, etc., yn eu plith. Dyma un pennill:
O na chawn i dreulio f'oes
Yn myfyrio am ei groes!
Gweld yr Iesu ar y pren
Yn gogwyddo droswy 'i ben,
Ac yn dweud Gorffennwyd' nawr,
Gwaith yr Iachawdwriaeth fawr.
Gellir teimlo'r ing enaid a welir yng ngwaith yr emynwyr gorau yn ei waith, a'r dwyster a ddaeth gyda'r Diwygiad Methodistaidd. Ni sylwais bod ôl y gynghanedd ar fawr o'r emynau, ond tybiaf fod hynny'n rhan bwysig o swyn ei emyn gorau, er mai emyn wythsill ydyw ac odlgyrch ynddo. Weithiau, y mae'n amlwg iawn
Ei ddwyfol loes a'i ddyfal lef,
Hi bery'n hwy na bore a nawn.
Dro arall, nid oes ond tinc ohoni, e.e.
O gariad pur i mi mewn poen.
Nid oes Gymro mewn unrhyw wlad nad yw yn ei hoffi, a geilw Syr O. M. Edwards ef' yr emyn gorau yn yr iaith.'
Erys traddodiad mai atgof am Gwm Maesglasau, ei hen gartref, a achlysurodd ei gyfansoddi, a chenir yr emyn yn aml yn yr ardal o hyd.
O tyn
Y gorchudd yn y mynydd hyn;
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn,
O ben y bryn bu addfwyn Oen
Yn dioddef dan yr hoelion dur
O gariad pur i mi mewn poen.
Ple, ple
Y gwna i fy noddfa dan y ne'?
Ond yn ei archoll ddwyfol E;
Trwy bicell gre' y waywffon
Agorwyd ffynnon i'm glanhau; '
Rwy'n llawenhau fod lle yn hon.
Oes, oes
Rinwedde a grym yng ngwaed y groes,
I lwyr lanhau holl feiau f'oes;
Ei ddwyfol loes a'i ddyfal lef
Mewn gweddi drosof at y Tad
Yw fy rhyddhad, a'm hawl i'r nef.
Golch fi
Oddiwrth fy meiau mawr eu rhi,
Yn afon waedlyd Calfari:
Sydd heddiw'n lli o haeddiant llawn;
Dim trai ni welir ynddi mwy;
Hi bery yn hwy na bore a nawn.
Dyna'r pedwar pennill blaenaf o'r emyn, pedwar pennill wrth fodd calon Cymro ymhob man.
Ond y mae fy amser yn dirwyn i ben, ac ni ellir sôn am J. J. Tynybraich, a aned mewn fferm yn is i lawr, a thad y bardd ieuanc addawol Baldwyn. Gwelir ei waith yng nghasgliadau Eifionydd o englynion ein gwlad, a'r Geninen, etc. Cynganeddwr rhwydd a naturiol oedd John Jones ac ni ddaw Mai yr un flwyddyn i'r fro hon na chlywir darn o'i hir-a-thoddiad i'r mis:
Mis siriol gloyw, mis yr awel glaear,
Mis gwiw y cleifion, mis y gwcw lafar,
Mis yr eginau, mis y wawr gynnar,
Mis y goedwig yn llawn miwsig adar.
Yr oedd cynganeddu megis ail natur iddo, a'i ddelfryd oedd cyfleu meddwl glân mewn ffurf gain, gryno. Apeliai'r englyn fel mesur ato, er iddo ennill llawer ar awdlau a chywyddau, a thybiaf bod ei englyn i'r Watch yn enghraifft dda o'r teip sy'n dilyn un meddwl yn ffyddlon o un pen i'r llall, cyn i athrylith Eifion Wyn, yn arbennig, lunio teip arall, megis Gwrid.'
Goch y gwin, wyt degwch gwedd—ton y gwaed
Ystaen gwg a chamwedd;
Morwynol fflam rhianedd
Swyn y byw,—rhosyn y bedd.
Dyma'r englyn i'r Watch, wedi ei ysbrydoli, efallai, gan y felin gerllaw ei gartref:
Melin aur yn malu'r oriau—fal ŷd
Yn flawdiach, mân dipiau,
Hoprana hon, heb brinhau
Ddieisin fwydydd oesau.
Y mae J.J. wedi ei gladdu ym mynwent newydd y Dinas, ond erys cof amdano fel gŵr tawel, addfwyn a bardd o fri yn hir yn y broydd hyn. Hir y parhao bywyd y wlad, a'r diwylliant Cymraeg y bu'r wlad yn asgwrn cefn mor gadarn iddo! Mewn lleoedd tawel fel Cwm Maesglasau y bu cartrefi naturiol y bywyd nodweddiadol Gymreig. Chwyrnella moduron yr haf drwy'r ardal lonydd, ond distawa'r sŵn yn y pellter. Daw'r gaeaf a'i brysurdeb tawel eto i'r cymoedd. Daw'r cyfarfod Cymreig, Cymraeg i gapel ac ysgol; holir y bennod eto, a dadleuir y pynciau drosodd a throsodd mewn gefail a siop, yn y dosbarth allanol ac ar y fainc gneifio. Yn y wlad y megir y rhinweddau a nodweddai rai fel Hugh Jones—
crefyddolder dwfn, serch at farddoniaeth gain a myfyrdod distaw, hoffter o brydferthwch natur ar fynydd a gwaun a gwylltir. Oni ddylem i gyd geisio edfryd bywyd y wlad drachefn? Onid yw'n werth i'w gadw? Ac ni olyga hyn fynd yn ôl at y gannwyll frwyn, a phopeth y mae'r gannwyll frwyn yn symbol ohono.
1939
R. J. Derfel
PRIN, efallai, y saif neb o feirdd Cymraeg y ganrif ddiwethaf yn gliriach ar ei ben ei hun nag R. J. Derfel. Tynn ef eich sylw ar unwaith, am fod cymaint o sŵn gwrthryfel yn ei gân. Hyd oddeutu 1864, bu'n boblogaidd iawn, ond o hynny hyd yn ddiweddar ni sonnid ond yn ddistaw bach amdano. Nid ysgrifennwyd ond y nesaf peth i ddim o'i hanes, a throeon rhyfedd ei yrfa, na beirniadaeth ar ei waith ychwaith.
Ar ôl 1864, ni chyhoeddodd lyfr Cymraeg am chwe blynedd ar hugain. Nid oes yn ei lyfr olaf ragymadrodd, ond ceir ynddo nifer o adolygiadau, sy'n dywedyd ychydig amdano ef ei hun a llawer am ei wrthwynebwyr. Ceir ynddo hefyd Gydymddiddan rhwng Fi a Fo,' ac yn hwnnw crynhoir ei olygiadau, a cheir gair o'i brofiad. A oes gair o obaith ynddo? Oes, ond y mae ynddo hefyd sŵn anobaith ar ôl mynych siom
Minnau, fel y ddeilen olaf,
Syrthiaf, ac ni chodaf mwy.
Bu bron a bod felly. Y prif reswm am hynny, y mae'n ddiamau, oedd iddo ysigo Cymru yn y man agosaf at ei chalon. Dywedodd nad oedd ei chrefydda'n berffaith. Nid oedd ef, er hynny, yn anghrefyddol, ac ni chredai fod y syniad am eglwys fel y cred llawer o'i ddosbarth ef ac o ddosbarthiadau eraill, yn syniad gau. Trist ydyw meddwl iddo gefnu ar yr eglwys. Oni allasai ei gwella'n well fel aelod ohoni nag fel beirniad o'r tu allan? Onid oedd yn rhaid i'r eglwys, fel pob corff arall, newid? Nid oedd ef yn ddigon uniongred i'w gyfrif yn sant mewn un o eglwysi ei oes. Collais,' meddai, 'lawer o bethau a ddysgais, ond enillais fwy yn eu lle.'
Y mae'n ddiddadl ei fod yn gweled ymhellach i'r dyfodol na'r mwyafrif o grefyddwyr ei oes, a pho fwyaf a welir felly, mwyaf o rwystrau a ddaw i'r golwg. Ni allai ef oddef llawer o'r fframwndis oedd wedi ymhel i'r eglwys, ac wrth ei ddangos, caeodd agos bob drws rhagddo. Eithr nyni a ddylem eu hagor, gan ein bod heddiw'n rhoi mwy o bwys ar waith a gwasanaeth nag ar seremonïau a chyffesion.
Robert Jones oedd ei enw. Ychwanegodd' Derfel' ato oddeutu'r un adeg ag y rhoes Ceiriog, yntau, enw afon ei gartref rhwng y ddeuair John Hughes. 'Ar ben mynydd Mynyllog, mewn tŷ sydd wedi peidio â bod ers llawer o flynyddoedd y ganwyd fi,' meddai yn ei Ganeuon (1892), ac ysgrifennodd lawer dan y ffugenw Mynyllog. Enw'r tŷ, yn ôl Mr. D. J. Williams, ysgolfeistr llengar Llandderfel, oedd Foty Pen Silff, a thŷ ei daid a'i nain ydoedd; yno y ganed ef ar Orffennaf 24, 1824.
Ail fab oedd i Edward a Catherine Jones, Brynfedwen, a Than-y-ffordd ar ôl hynny. Ni chredai lawer mewn marwnadau—'y marwnadau gorau yw gofal am y byw '—eto yr oedd ei dad a'i fam, a'r Llan yn annwyl iddo. Dyn onest, didwyll oedd ei dad, un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol yn Llandderfel, a cholofn gadarn iddo. Mam fedrus a hynod o ddeallus oedd ei fam. Oddi wrthi hi, ei athrawes gyntaf, y cafodd ei serch at lyfrau, a hi a'i dysgodd i ddarllen, cyn iddo fod yn bump oed. Aeth y bachgen ifanc i weithio i ffatri wlân Llandderfel, pan oedd yn ddeg oed, ond ymhen rhyw ddwy flynedd dihangodd efo'r troliau glo i Langollen, ac yna at ewythr iddo yng Nghefn Mawr. Yr oedd ei ewythr yn dipyn o fardd, ac arhosodd Robert yno am ddwy flynedd. Wedyn, aeth i weithio i ffatri wlân yn Llangollen, ond daliai'n anesmwyth. Pan ddaeth i'w oed, aeth i Lerpwl, yna i Fanchester, ac wedyn i Lundain, lle gwelodd y Siartwyr ac eisiau bwyd. Daeth yn ôl yn fuan i Fanchester, ac yno y bu, wedyn, hyd ei fedd.
Ymhen amser, cafodd le fel paciwr gyda'r Mri. J. F. a H. Roberts, brodyr yn hanfod o Lanidloes, a brodyr Syr Wm. Roberts, y meddyg enwog, ac un o ddarganfyddwyr Benger's Food. Yr oedd yn ddyn busnes galluog, hardd o bryd a gwedd (fel y gwelir oddi wrth ei lun yn y Caneuon), cryno, caredig, ag egnïol. Cyn bo hir, fe'i dyrchafwyd yn werthwr, ac yna'n drafaeliwr yn y Gogledd.
Hynaws mewn cwmni, hoff o stori, esgud i gondemnio, ac eang ei ddiddordeb yr oedd galw mynych amdano i areithio ac i bregethu, a daliai ei awen yn doreithiog. Priododd, a rhoes y gwaith trafeilio i fyny, wedi blino ar fywyd digartref masnachwr prysur, a gwaith arall o'i flaen.
Preswyliai Ceiriog, a Chreuddynfab—'y beirniad na ellid ei brynu '—ym Manchester, a throdd yntau'n Fedyddiwr, fel hwythau, yng Ngranby Row. Cyn bo hir, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i bregethu oherwydd ei syniadau Sosialaidd. Agorasai siop i werthu llyfrau Cymraeg ac offer ysgol, ond gan nas cefnogwyd, trodd ei antur yn fethiant, er loes iddo.
Ciliodd ei gyfeillion oddi wrtho o un i un, oherwydd newydd-deb ei olygiadau gwleidyddol a'i gysylltiad â'r Sosialwyr. Ymddangosai, fel yr awgrymir yn ei Ganeuon, nad oedd dim ond helbul byth a hefyd ' yn ei aros. Galwodd rhai ef hyd yn oed yn anffyddiwr, er na bu ŵr mwy crefyddol ei ysbryd nag ef erioed. Daliodd i garu Cymru i'r diwedd. Yn 1864, credai y dylem gadw'r iaith a'i rhoi yn yr ysgolion dyddiol; y dylem ddod â moddion y ddysg orau, a'r dyrchafiad uchaf i gyrraedd pob Cymro; ac y dylem fod yn eiddigus dros ein hiawnderau a'n anrhydedd fel cenedl.
Yn niwedd y ganrif, nid ydwyf,' meddai, 'yn llai fel Cymro, ond yr wyf yn fwy o ddyn.' Bron na allai ddywedyd efo Tom Paine mai'r byd oedd ei wlad, a gwneud daioni ei grefydd.' Ni chredai y collai Cymru ei chenedligrwydd pe collai hi yr iaith, a byddai'n well ganddo adael i'r Gymraeg farw na pharhau i'w harfer heb ei dysgu. Carai'r Gymraeg yn angerddol, er bod y syniad am un iaith drwy'r byd yn ei swyno. Credai, yn gywir, nad oedd cenedlgarwch yn ddim amgen na hunan-barch, ac na allai cenedl garu yr un genedl arall mewn gwirionedd oni charai hi ei hun.
Fe welir, felly, bod ei syniadau am genedligrwydd yn debycach i farn Sosialwyr diweddar nag i ddelfrydau'r rhai cynharaf: nid oedd yn wladgarwr penboeth nac yn gosmopolitan. Tarawyd ef yn wael yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas Gymreig, a bu farw'n hen ŵr, Rhagfyr 17, 1905.
Ar lawer cyfrif yr oedd R. J. Derfel yn blentyn ei oes. Fe'i ganed ar adeg ryfedd yn hanes Prydain. Ni bu cyfnod mwy gorthrymus yn hanes yr ynys hon na'r blynyddoedd 1815 hyd 1848, a pharhaodd gorthrwm yr hen ddosbarth yn hwy yng Nghymru nag yn Lloegr. Ar ôl rhyfel Ffrainc, nid oedd ball ar ormesu'r werin. Yr oedd yr hen ffiwdaliaeth yn darfod; ni fedrai na llyfu na llyncu gweithwyr y diwydiannau newyddion. Nid oedd na brenin na gwladweinydd o blaid y bobl gyffredin; ceisient bopeth i gadw'r hen ddull o fyw rhag dinistr. Yr oedd America wedi ei cholli, ac nid oedd eto le i fasnach ymehangu. Tybiai ambell lafurwr fod yr Arglwydd Dduw Rhagluniaeth y canodd Ann Griffiths amdano wedi ei anghofio. Yr oedd ar fin newynu; deddf y caethiwed oedd Deddf y Tlodion; a bu'n bwrw glaw drwy 1816. Nid oedd iau gwŷr llygad y geiniog yn ysgafnach, nag mor ysgafn ag iau gwŷr llygad y tir. Eto ni feiddiai neb rwgnach, rhag ofn bod rhyw Olifer yn ymyl, neu rai o gethern y fyddin a'r llynges a ddychrynodd Ap Vychan.
Gwellodd pethau'n ara deg. Yn 1824, gwnaethpwyd Undebau Llafur yn gyfreithlon; estynnwyd yr etholfraint o dipyn i beth, a daeth y môr a'r bara'n rhydd; daeth amodau gweithio'n well ar ôl pasio i archwilio ffatrioedd yn 1833; ac yn 1847 pasiwyd Deddf y Deng Awr. Cododd y Siartwyr, a darfu amdanynt, er bod eu pwyntiau gorau, erbyn hyn, yn rhan o gyfraith y wlad. Bu Cymru'n flaenllaw yng nghynnydd sosialaidd Lloegr, ond gwan fu'r mudiad cymdeithasol yng Nghymru. Ni ddiflannodd dylanwad yr hen deuluoedd' y rhawg, ac os edrychir ar ein llenyddiaeth, ceir gweled mor wasaidd a milwraidd oeddym mewn gwirionedd; neu os mynnir, edrycher ar syniadau cymdeithasol Mari Lewis. Hyd yn oed ynglŷn â'r gelfyddyd farddonol, yr oedd tuedd y wlad at gaethiwed tynnach nag erioed. Heblaw gogwyddo'r meddwl llenyddol at y Beibl, meithrinodd y Diwygiad Methodistaidd serch at ganu rhydd. Eto, yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, beirniadwyd Goronwy Owain am ddefnyddio gormod ar y gynghanedd lusg, a'r sain! Yn eu lle, dyrchafwyd y gynghanedd groes, a throes llawer o'r farddoniaeth yn glecian cytseiniaid, a dim arall. Ymddengys llawer o'r awdlau fel canhwyllau pres y silff-fantell, yn ddarnau gloywon, prydferth ar eu pennau eu hunain, ond yn anwastad ac anghysylltiol.
Fe allesid disgwyl i'r amgylchedd hon greu mwy o ysbryd gwrthryfel nag a wnaeth. Gwnaeth byw ar bymtheg y mis (Caneuon Min y ffordd, t. 40) a thrueni'r bywyd masnachol wrthryfelwr o R. J. Derfel. Er iddo ganu unwaith neu ddwy, yn gynnar yn ei oes, ar destunau fel Priodas Tywysog Cymru' neu'r Cymru' 'Fyddin Wirfoddol,' eto rhed cydymdeimlad gweithiwr a'r dyn ar lawr yn gryf yn ei ganeuon. Y mae'n wir nad ydyw ei fedr yn ogyfuwch â'i ddawn bob amser. Nid ydyw'n feistr ar ffurfiau barddonol, ac ni chred yn y gynghanedd. Dengys, er hynny, lawer o fedrusrwydd mydryddol, er nad ydyw ei glust yn ddigon tenau na'i gyffyrddiad yn ddigon tringar i gadw miwsig bob amser yn ei fesurau dactylaidd. Ceir ynddo eiriau llanw, gwallau elfennol fel mor hoen' am'mor hoenus,' odlau anghywir fel canullamu,' a ffurfiau llymrig fel 'bodoldeb a 'mynediant.' Eto, os darllenir ef o'i gwrr, y mae'n rhaid cydnabod, os try, wrth ganu am bethau cyffredin bywyd, ambell dro yn gyffredin ei hun, fod ei arddull yn egnïol ac yn finiog.
Symbyliad telynegol sydd i'w ganeuon y rhan amlaf, ac er na chyfunir y sain a'r syniad yn hyfryd bob amser ganddo, eto y mae ei iaith mor syml, a'i deimlad yn codi mor eglur o'i galon, fel nad anwiw ei ganiadau o'u cymharu â chwyddymadrodd a meddalwch teimlad rhai o'i gyfoeswyr. Yn ei ganeuon byrion, chwim, y mae ei gryfder. Yn ei feirniadaeth Saesneg ryfedd ar Ddygiad Cristionogaeth i Brydain,' dywed Iago Emlyn fod gan Dderfel ddigon o ynni i ysgrifennu barddoniaeth yn ddiddiwedd.' Y mae haen o wirionedd yn hyn, a buasai mwy o wlith awen ar ei ganeuon pe buasai'r bardd yn fwy cynnil ac ymatalgar.
Anodd ydyw darllen ei ddarnau meithion, megis y ddwy bryddest yn Y Bardd Crist'nogol, ond gŵyr yn burion beth yw barddoniaeth. Iaith y dychymyg a'r teimlad, meddai, ydyw barddoniaeth; rhyddiaith ydyw iaith ffeithiau tebyg i ofyniad Iago Emlyn—' A oedd Brân a Phaul yn deall Lladin?' Nid edrych am ffeithiau a wneir mewn barddoniaeth, er na chaeir hwynt allan o'r ffurf hon ar lenyddiaeth. Yn hytrach, ymroi a ddylem i chwilio am rywbeth i gyffroi ac i gynhesu ein calonnau. Eto, er iddo gredu y gellid 'odli'r byd i'w le,' y mae'n hoff iawn o gloi cân â gwers. Rhaid cofio ei fod, nid yn unig yn fardd, ond yn bregethwr, ac er mai camp y bardd, chwedl Rhys J. Huws, ydyw cuddio'r wers, camp y pregethwr ydyw ei dangos.
Fel y gellid disgwyl i un o Landderfel, cân lawer am Natur, ac nid ydyw'n rhyfedd i gerddorion ddotio ar fiwsig naturiol ei 'Wlithyn' a'i 'Seren Unig.' Un ydyw natur a Chymru iddo, a chred gyda Dewi Hafesb, mai Cymraeg Llandderfel ydyw cân yr adar. At wên yr haul, at liwiau'r llwyni, ac at gerddi'r adar y try ei ysbryd clwyfus oddi wrth hacrwch a thrueni'r byd, a gwêl ynddynt hyfrydwch na fedr neb ei ddwyn yn llwyr oddi arno, ac eiliw o'r undeb hael a ddylai ffynnu rhyngom.
Yr un yw'r byd i bawb i fyw,
Yr un yw'r nef, yr un yw Duw,—
Y dyn sydd yn wahanol.
Ni chân fawr am serch yn y dull rhamantus; y mae bywyd yn rhy ddu iddo syllu llawer ar y rhiain a'i gwallt yn ddu fel y nos. Eto nid gŵr oeraidd, damcaniaethol ydyw. Ceir cywirdeb meddwl a thynerwch ysbryd ganddo, a chryn dipyn o natur gwir fonheddig, hyd yn oed pan fo'n fwyaf rhyddieithiol. Prin y gellir disgwyl barddoniaeth ar destunau fel ewinedd a dannedd glân, codi'n fore, rhai'n ymadael â'r trên, cloc wedi sefyll, clecio'r chwip a gyrru, neu ffyrdd Sir Fôn. Nid ydyw'r rhain namyn hoelion iddo hongian ei ffilosoffi am fywyd arnynt. Ambell dro, yn ddiddadl, y mae ei neges yn amlycach na'i awen, oherwydd ni ellir barddoniaeth o bob awel o deimlad a ehed drosom. Yn eu cydymdeimlad â'r gweithiwr cyffredin, a'u cri am aildrefnu'r byd y saif prif ogoniant ei ganeuon. Wrth geisio achub cam y tlawd, a gobeithio am fyd daw egni a nerth i'w gân, a chyfyd ei lais, yn ddifrif a digrif, yn gywir a dychanol, mewn gobaith ac anobaith, wrth feddwl am y cnafon a lethai'r werin. Y mae cryn ddeheurwydd yn ei watwareg, ac er nad oes un nwyd cyn baroted i ddiffygio â dicter, eto pery ei angerdd cymdeithasol ef yn effro hyd onid aeth i'r man, chwedl Swift, lle na all ffyrnig lid mo rwygo'i galon mwy.' Ym Mrad y Llyfrau Gleision' gwelir ei deimlad cymdeithasol yn egino yn araith Llywelyn, pan eilw am foddion addysg i bawb, ac am barch at ddyn fel dyn. Gwêl beryglon Cymru a'r byd. Gweddïa ar i Dduw gadw'r Cymro'n dlawd 'i garu ei wlad a'i bobl ei hun,' ac anela'r un saethau ag Emrys ap Iwan, er nad â'r un medr, at Dr. Dwli, a Tomosô, yr hanner Cymry. Sieryd yn wrol yn erbyn rhyfel a chydymgais, gartref ac oddi cartref. Gwêl y byd yng nghyffion hen draddodiadau isel, a hynny heb ymwybod iddo, a thry i ganu am 'wlad hud '—mewn cerdd nodedig lle
Mae tai gan y moch aflafar eu rhoch,
A gweision i'w porthi pan ganant y gloch,—
Moch gwan a moch cry,
A'r dynion mewn cutiau yn lle bod mewn tŷ.
Gwêl bod rhyw wrthuni arall ynddi, a geilw am inni wella amodau byw, heb anghofio ein gwella ein hunain. Medd ef, mewn darn sy'n dangos ei dymer, a therfynau ei feddwl:
Oferedd disgwyl gwawl o wyll, na phethau hardd o bethau hyll;
O ddrwg, drygioni, gwae, a braw yn gnwd toreithiog fyth a ddaw;
Ni ellir cael mewn mwg a tharth ond hacrwch bryntni, poen a gwarth.
Mewn pydredd ni all purdeb fyw—gwnai mangre aflan ddiawl o Dduw.
Er bod tuedd ynddo i orbwyso ar amgylchiadau materol, nid ydyw'n anwybyddu moddion eraill i feithrin cymeriadau. Er enghraifft, geilw am lyfrau Cymraeg, gwreiddiol, ac am Brifysgol i Gymru. Mewn gwirionedd, y mae'n debygol i'w draethodau a'i areithiau, yn ogystal â'i ganeuon, helpu i gyfeirio'r meddwl Cymreig at lwybrau newyddion.
Byddai'n gywirach imi ddywedyd mai meddwl ymarferol, yn hytrach na meddwl materol, oedd ganddo. Yn ei holl waith—heb eithrio'r emynau rhagorol y gallai Cymru eu canu'n amlach nag y gwna—rhydd bwyslais arbennig ar weithredoedd da. Mae'r Cymry,' medd yn rhywle, 'wedi ei llygaddynnu gan Iddewiaeth. Enwau Iddewig sydd ar eu plant ac ar eu capeli. Meddyliau Iddewig sydd yn eu bronnau, ac am bethau Iddewig y siaradant. Iddewiaeth sydd yn eu pulpudau, ac yn llenwi eu cylchgronau—ac nid Iddewiaeth ddiweddar, ond Iddewiaeth ddwy neu dair mil o flynyddoedd yn ôl . . . Y mae hanes, chwedlau, a thraddodiadau Cymru wedi eu halltudio ohoni.'
Ni chynhwysa'r rheitheg hon bob ochr i'r ddadl, ond y mae grym ynddi. Geilw am grefydd ddofn a chatholig, am beidio â chymysgu crefydd a ffurf, am beidio â damnio'r holl fyd oddi allan i'n henwad a'n crefydd ni, am beidio â gwahanu proffes a buchedd. Erbyn hyn, ni ddadleuir cymaint yn erbyn yr hyn a ymladdodd drosto, ac ni warafunir iddo'r clod a roes yn y beddargraff a ganodd iddo'i hun:—
Carodd ei genedl, curiodd i'w gweini;
I gyrraedd ei henaid, gwariodd ei ynni.
Teimlodd yn dost a dadleuodd drosti
Teimlodd a chanodd mewn hedd a chyni:
Ei ebwch a'i waedd, a baich ei weddi
Oedd am ŵr yn iachawdwr, i'w chodi
O lid brad i glod a bri,—a mawredd,
Iawn, a gwirionedd yn goron iddi.
Y Soned
O DRO i dro, bu llawer o ddyfalu a dadlau ynglŷn â tharddiad y Soned. Ni wyddom yn sicr ai o Ddeheudir Ffrainc, ai o Roeg, ai o Sisili, ai o Arabia y cychwynnodd y mesur, ond credai beirdd cynnar yr Eidal, ac yn eu plith, Petrarch a Dante, mai o Sisili y daeth y patrwm. Nid yw hynny nac yma nac acw, nac yn braw na ellir tynnu tôn felys o hen delyn. Daeth y mesur yn boblogaidd ym Mhrydain, trwy ymdrechion Wyatt a Surrey, yn bennaf, tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg, ac er i ffurfiau llenyddol Saeson ddylanwadu'n helaeth ar ein canu rhydd ni, eto ni ddaeth y Soned atom hyd yn ddiweddar. Ceir dwy yng nghyfrol fechan Silyn a'r Athro W. J. Gruffydd (a gyhoeddwyd yn 1901) a rhai eraill yng ngwaith Elphin, ond, fel gwaith Wyatt a Surrey yn Lloegr, teimlir mai trwsio'i phlu y mae'r awen yn y Sonedau cynnar hyn. Gwelir delw y Soned Eidalaidd arnynt, er bod ei ffurf braidd yn amrwd ac ansicr, a theimlir eu bod, fel ambell lin—gerfiad, yn fanwl gywir, ond yn llonydd fud. Mewn gair, ffrwyth cyfri bysedd a chrychu talcen, yn unig. Bu'r ffurf yn hir yn cartrefu yn yr iaith, ac ni ellir dweud bod iddi le mor bwysig, hyd yn oed eto, yn hanes llenyddol Cymru ag a fedd yn hanes awen y Saeson. Ar un olwg, nid oes dim haws na chanu Soned, a gallesid meddwl y buasai'r Cymry, gyda'u hyfrydwch yng ngheinder ffurf, yn rhedeg i'w chroesawu. Pedair ar ddeg o linellau, wedi eu rhannu, fel rheol, yn wyth a chwe llinell; pum trawiad ym mhob llinell; a'r odlau, hwythau, mewn trefn osodedig, ac fel rheol, yn unsill. Ond er bod y ffurf yn fwy neu lai sefydlog, nid oes dim anos na chanu Soned dda, yn arbennig yn ein hiaith ni. Gŵyr pawb mai prin ydyw odlau unsill yn y Gymraeg, ac nad oes gennym ond ychydig o eiriau lluosill â'r acen ar y sillaf olaf. Bu'r mesur diodl. a ffurfiau bychain fel rhowndel Villon, yn drech na ni, oherwydd y prinder hwn, ac fe all mai'r un rheswm sydd dros odl y cywydd. Heblaw hyn, enillodd yr englyn, yn arbennig, ei le o flaen y Soned, fel rhywbeth a oedd yn cyfateb i'r epigram Groeg, ac amhosibl dinistrio'r traddodiad sy tu ôl iddo. Rhwng y cwbl, ymarferiadau llenyddol fu ein Sonedau, hyd yn ddiweddar—disgyblaeth i'r meddwl yng nghyfnod hesb yr awen. Fe'u lluniwyd, lawer ohonynt, fel y llunia'r peiriannydd ei beiriant, gymal wrth gymal, ac aelod wrth aelod. Ni ofyn y ffurf, fel y dywedodd Mr. R. Williams Parry, wybod pryd i danio, fel yr englyn, na gwybod pryd i dewi, fel y delyneg; ac oherwydd ei dieithrwch a'i anhawster, ymddangosai'n aml yn saernïaeth segur yn hytrach na mynegiant araf, urddasol o ennyd o brofiad byw.
Y ffurf hynaf o bwys ydyw ffurf Petrarch,—y ffurf a welir yn y Soned ar 'Tynged' yn y gyfrol a nodwyd eisoes. Rhennir hon yn gyson yn wyth a chwe llinell, ar y ffurf abba abba cde cde. Yn y chweban olaf, ceir dwy neu dair o odlau gwahanol. Nid ydyw eu trefn yn sefydlog, a gall unrhyw fachgen o fform uchaf yr Ysgol Sir gyfrif faint o amrywiadau y gellir eu gwneuthur ohonynt. Rhennir yr adran yn ddau driban, fel rheol ar ffurf cdcdcd, neu cdecde, neu cdedce: ni ddiweddir byth â chwpled. Cynllun Petrarch ydyw'r cynllun a ddilynwyd gan Milton, er nad ydyw'r ffurf mor gyson a phenodol ganddo, ac anaml y cedwir yr orffwysfa ar ôl yr wythawd (gweler ei Soned On his blindness.) Fel yr awgrymwyd, ceir Sonedau ar ffurf Eidalaidd yn Gymraeg, ambell dro gyda chynllun anystrydebol yn y chweban, megis cdeedc yn Soned Mr. Iorwerth Peate Ar ôl clywed "Heraclitus " 'Charles Stanford.' Dilynir cynllun odlau'r wythawd gan amryw, er nad efo yw'r cynllun mwyaf cyffredin, ac er ei fod braidd yn undonog, yn y Gymraeg. Dywaid Coleridge fod llu o eiriau, yn yr Eidaleg, yn swnio'n debyg i'w gilydd, ac mai o'r gwendid hwn y cododd yr awydd am ddim ond pedair odl. Ar bwys hyn, ychwanega nad yw'r ffurf yn gyfaddas i'w hiaith ei hun, a chyfyd ei lais o blaid y Soned Saesneg. Deil yr un ddadl am y Gymraeg, ac anaml y pery ein beirdd i ganu yn ôl cynllun Petrarch. Fel y gwelodd beirdd mor hyfedr â Keats a Robert Bridges, yn Saesneg, felly y gwêl ein beirdd ninnau, yn Gymraeg. Hyd yn oed pan ddilynir y ffurf Eidalaidd yn yr wythawd, nis cedwir yn yr adran olaf (e.e., gwahaniaeth y Dr. Parry—Williams,—abba abba, cdcdee), ond ambell dro, cedwir yn llac at y cynllun, a defnyddio tair odl yn yr wythawd megis y gwna Wordsworth yn Lloegr (e.e., ei Sonedau ar 'Darostyngiad Switzerland' a'r Soned').
Canodd Wyatt, yn Lloegr dipyn ar y mesur Eidalaidd, ond carai ddiweddu â chwpled. Bu Surrey'n fwy beiddgar. Mabwysiadodd y cynllun a ddilynwyd gan Shakespeare, sef tri phennill pedair llinell, yn odli, bob yn ail, a chwpled. Ar ei ôl Edmund Spenser, â ffurf yr Amoretti, sef tri phennill pedair llinell wedi eu cydgysylltu ag un odl, a chwpled. Defnyddia bum odl, fel y defnyddiai Petrarch, ar dro, yn lle'r saith a geir gan Shakespeare, hynny yw, ababbcbccdcdee yn lle ababcdcdefefgg. Y mae arbrofion Sidney (llinellau chwe thrawiad, abab abab ccd eed, ababba bacdcdee, etc.) yn ddiddorol, ond ni welir ei ôl ar Gymru. Y ffurf fwyaf cyffredin yng Nghymru, o lawer, ydyw ffurf Shakespeare, yn bennaf, efallai, am fod iddi saith odl wahanol. Arferid cadw'n weddol fanwl at y ddwy adran, ond yn ddiweddar gwelir tuedd i un rhan ei hestyn ei hun ymlaen i'r llall, ac nis dangosir, ar brint nac ysgrifen, fel y gwneid unwaith. Er y dywaid Mark Pattison, yn ei ragair i Sonedau Milton, nad yw'r ffurf hon yn Soned o gwbl, ac mai ei benthyca oddi ar Daniel, yn ei anwybodaeth a wnaeth Shakespeare, eto ni ellir gwadu nad yw'n gyfaddas iawn i'r Saesneg a'r Gymraeg. Ni cheir ynddi mor llwyr, efallai, y crynoder, y ceinder, a'r undod a geir yn y ffurf Eidalaidd, ond y mae'n fwy Prydeinig, ac yn llawn mor artistig ar waith, onid ydyw felly ar ddamcaniaeth. Yn aml, dirywia'r Soned Eidalaidd, yn ein hiaith ni, nes mynd yn dasg a chaethiwed. Cyfle i rodres, fel y mesur cadwynfyr, ydyw, nid cyfle i'r awen, problem bwbach ac nid parabl bardd. Tuedda'r odlau i fod yn od a phert yn lle bod yn newydd a phriodol, ac aberthir naturioldeb er mwyn cywreinrwydd. Hyd yn oed gyda saith odl wahanol, anodd cael odlau â digon o wahaniaeth rhyngddynt yn y ddwy ran. Hawdd bodloni ar odlau cyffredin, megis yn 'Wedi'r Storm' Gwili, a cholli'r elfen annisgwyliadwy sy'n cadw cân ar gerdded.
Nid oes, yn Gymraeg, gymaint o odlau llac ag yng ngwaith rhai o'r beirdd Seisnig, yn arbennig Wordsworth, sy'n arfer y terfyniad y, er enghraifft, i odli â'r sain e a'r sain i, heb ymgais at gysondeb: ni cheir yn ein Sonedau odlau fel swrth—wrth, gwar—ar,—pethau a geid, ambell dro, gan feirdd fel Tudno. Yn wir, dengys ein Sonedau fod mwy o ddewis ar odlau Cymraeg nag a dybiem. Wrth gwrs, ni rydd odl dda iawn digonol am linellau afrosgo, am dor-ymadrodd, neu am syniadau eiddil, ond dylai, er hynny, fod yn gywir ac esmwyth, ac nid yn anodd fel ael—haul, yn un o Sonedau Eifion Wyn. Credaf y gallai llawer ofalu'n well rhag arfer yr un llafariaid a'r un cytseiniaid yn agos at ei gilydd, a thrwy hynny beri merwindod sŵn yn lle mireindod sain, ys dywedai'r Athro Gwynn Jones. Er enghraifft, yn 'Gwerfyl Fychan' yr Athro Gruffydd, ceir pedair i hir, ac u ac y hir yn yr wythawd, ac anhyfryd i mi yw diweddu pob llinell o wythawd 'Plygain' Mr. Williams Parry ag n. Ceir y gwall, yn amlycach, mewn Soned gan Milton, lle diweddir pob llinell â'r sain ld (old, hold, repelled, bold, unfold, spelled, upheld, gold), er, efallai, fod ganddo amcan i'r o hir a geir yn ei Soned i Gyflafan Piedmont (bones, cold, ode, stones, groans, fold, rolled, moans, sow, grow, woe). Fel y gellid disgwyl, ni ddygymydd y beirdd bob amser ag odl unsill, a thlws i'm bryd i, yw'r odl reiol—feiol yn 'Pantycelyn' Mr. Williams Parry, tlysach o lawer nag ifori—eboni, yn 'Tut-Ankh-Amen' Crwys. Ceir arbrofion llwyddiannus hefyd yng nghynllun yr odlau, megis 'Anobaith Serch' Rhosyr (cddcee), 'Ofn' yr Athro W. J. Gruffydd (effegg), neu 'Plygain' Mr. Williams Parry (abba cddc effe gg). Ond yr arbraw gorau o'r cwbl gennyf fi yw 'Y Bedd' gan yr Athro Gwynn Jones, gyda'i englynion cudd, sy'n ei gwneud yn gymaint camp â 'Madog'; heblaw hynny, y mae'n Gymreig drwodd a thro, ac yn gyfrwng da, â thraddodiad yr englyn y tu ôl iddo, i ddisgrifiad a myfyrdod.
Dywaid rhai mai peth barbaraidd yw odl, ond llai na hanner y gwir yw hynny. Ei diben cyntaf, fel y dengys yr Athro Gwynn Jones, oedd nodi'r toriadau mewn llinellau. Fe wna'r gynghanedd yr un peth (mwy neu lai), ac un ffordd o amrywio llinellau'r Soned fyddai dwyn cynghanedd iddynt, fel y gwneir yn 'Y Bedd.'
Ceisir gwneud yr un peth trwy newid hyd y brawddegau, a lle'r orffwysfa, ond prin fod pob ymgais yn hapus. Ni thâl amrywiaeth mewn Soned oni cheir hefyd ryw gymaint o urddas a llyfnder, a phan symudo yn null plyciog 'Y Duw Eiddigus' gan Cynan, teimlir y diffyg arafwch a thangnefedd ar unwaith. Am yr orffwysfa, nis cedwir mor fanwl yn y ffurf Shakespeareaidd ag yn y ffurf Eidalaidd, er y dylid amcanu ati. Fel y Delyneg, dylai Soned fod yn gyflawn ynddi ei hun, a chyfleu'n gynnil un profiad dwys. Oherwydd hyn, nid yw'r orffwysfa'n torri'r meddwl yn ddau ddarn, er y gall gychwyn cyferbyniad. Disgwylir cydbwysedd rhwng y naill adran a'r llall, onide fe â'r mesur, fel y dywedir, yn acrobatig. Y perygl mwyaf, gyda'r ffurf a arferir yng Nghymru yw i'r cwpled olaf chwipio'r gweddill o'r Soned i'r cysgod. Dylai fod yn grynhoad o'r pennill, ac yn eithafbwynt iddo, ond ni ddylai fynd â'r sylw i gyd. Nid atodiad i gân fer yw'r cwpled chwaith, ac nid cyfres o benillion yw'r deuddeg llinell blaenaf. Un mesur yw'r Soned, nid hwb, cam a naid o gân: mesur persain, cytbwys, clymedig, diwasgar.
Ceir cryn amrywiaeth yn nhestunau Sonedau, ond braidd yn ffansïol ydyw dweud bod y ffurf Eidalaidd yn well at ddisgrifio, a'r ffurf Seisnig yn well at fyfyrdod. Rhaid i'r naill a'r llall wrth ferthyrdod myfyrdod mawr, ac yn aml tawdd y disgrifiad a'r myfyrdod i'w gilydd, megis ym Moelni' y Dr. Parry—Williams, neu hyd yn oed Y Ddrafft' gan Williams Parry. Anaml y ceir disgrifiad noeth, yn Gymraeg, eithr fel rheol ceir un ai ystyr gyfriniol yn wrthbwynt i'r rhannau diriaethol, neu ynteu elfen bersonol i ehangu'r cefndir. Cymharol ychydig o Sonedau, hefyd, a ysgrifennwyd yng Nghymru ar destunau ystrydebol fel Cwsg' a Cariad.' Yn Lloegr, gwawdiwyd llawer ar brud-der Petrarch a'i ganlynwyr ('poor Petrarch's long-deceased woes ') ond ni chân y Soned, yn gyffredin, i hoen a nwyfiant ieuenctid. Fel rheol, y mae elfen o dristwch, neu o siom, neu o hiraeth ynddi. Breuder einioes, ofn y bedd, anniddanwch bywyd ceir islais trist yn y cwbl, ac ymddengys teimladau felly'n hynod o gartrefol yn y Soned. Ond yn y Soned, yn anad un ffurf, daw'r sain i wella'r synnwyr, gydag awgrym cynnil. Pwyll a llonyddwch ydyw naws y Soned fel rheol, am mai'r rheini a ddygymydd orau â myfyrdod dwys, a'r teimlad o unigrwydd y soniodd Coleridge amdano: ond gall oganu ar adegau, hefyd, a phrin y gall unrhyw destun, y medr bardd ganu o gwbl arno, fod yn hollol anghyfaddas i Soned.
Oherwydd y cydbwysedd a geidw rhwng y mater a'r modd, nid yw'n rhyfedd bod Sonedau'r Dr. Parry-Williams mor llawn o eneiniad. Oer a digaritor ydyw saerniaeth gywrain a gwaith dim ond yr ymennydd, y ddau fel ei gilydd, ond gofala'r Dr. ParryWilliams am y ddau. Nid na all gyfleu dealltwriaeth oer chwaith. Yn wir, y mae elfen amheuol, fecanistig braidd yn ei syniadau―cred nad yw popeth fel yr ymddangosant i ni, a bod llawer o rith a gwagedd yn gymysg â'u bywyd. Dywaid rhai na all teimladau felly fod yn ddidwyll, ond ni chredaf hynny am y doethor, ac ni ddylai clyfrwch ei odlau a sigl trawiadol ei linellau gau ein llygaid ar natur ddadansoddol ei feddwl. Ni cheir yn ei waith ddim o'r meflau sy'n andwyo gwaith llawer, megis geiriau di—alw—amdanynt, geiriau hanner—llanw, geiriau mewn trefn amheus, geiriau mewn cyfosodiad amhersain, geiriau egwan, rhedeg ar rai odlau, ond yn hytrach fe geir yn ei waith i gyd, ac yn ei Sonedau yn anad dim, gyflead perffaith o brofiad byw, hynod o bersonol a synhwyrus. Yn sicr, y mae ei Sonedau ymhell ar y blaen i ddim a ganwyd yng Nghymru, ar ôl y Rhyfel, gan y tô ieuanc.
1933Yr Ysgrif
MEWN awen a chân, fel y dywedodd mwy nag un, dawn at wneuthur gweithiau byrion ydyw dawn y Cymry. Nid ymhoffasant erioed mewn darnau meithion, cymalog. Yr englyn, y cywydd, y delyneg, yr emyn, y dôn, y ganig, yr alawon Cymreig—byr yw eu gwynt, un ac oll. Nid ydyw hynny ynddo'i hun yn golygu mai beirdd a cherddorion tila sydd gan y Cymry. Ymhell oddi wrth hynny. Onid Emrys ap Iwan a ddywedodd mai arwydd o dlodi meddwl ydyw meithder; ac y mae'r hyn sy'n wir am yr orgraff, sef mai rhoi gormod ac nid rhy fach o lythrennau a wna'r sillafwr gwael, yn wir hefyd am bopeth arall. Nid oes, mewn gwaith byr, le i ddim ond i 'fêr y meddwl a'r teimlad.'
Ber, fel rheol, yw'r 'ysgrif' (essay) un o'r pethau newydd a roes llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar inni. Cyfetyb, mewn popeth ond mydr, bron, i'r delyneg, fel y tebyga'r stori fer, hithau, i'r faled. Y mae rhyddiaith, o ran ei natur, yn hwy na barddoniaeth, ac er bod byrder yn dda mewn 'ysgrif' eto nid yw'n anhepgor. Yn wir, y mae rhai ysgrifau, fel Anatomi Melancoli Burton, yn hirion, er mai tueddu at fod yn fyrrach, fyrrach a wna ysgrifau diweddar. Ar yr un pryd, ni chyfyngir fawr ar yr ysgrifiwr. Gall ddywedyd y peth a fynno yn y ffordd a fynno, cyn belled ag y deil yn ddiddorol, ac y ceidw rhag mydr barddoniaeth.
Newyddbeth yw'r ysgrif yn llenyddiaeth Cymru. Ni ellir olrhain ei thras yn ôl i'r oesoedd bore, fel y gellid gyda rhai o'n ffurfiau llenyddol eraill, megis yr englyn, neu'r cywydd, neu hyd yn oed y delyneg. Ffurf ddiweddar yw'r ysgrif o ran hynny ym mhob gwlad. Yn 1850 y gwelwyd hi gyntaf, ym Mordeaux, cartref Montaigne. Essais oedd yr enw a roddodd y Ffrancwr ar ei anturiaethau llenyddol, a'r rhain ydyw rhagddelw pob ysgrifau ar eu hôl. Ni ddengys y gair Cymraeg darddiad y ffurf, ond y mae'n air hwylus, ac fe'i gwahaniaethir, bellach, oddi wrth yr erthygl a'r traethawd. Diben defnyddiol sydd i'r rhain, er y gallant, ar dro, fod yn gain hefyd. Bod yn eglur a bodloni'r deall—hyn ydyw rhinweddau'r traethodwr. Manwl a haniaethol ydyw ei ddull o drin ei fater, ac ni ddisgwylir iddo ei ddangos ei hun. Ar y llaw arall, nid yw'r ysgrif yn ysgrif onid yw'n bersonol. Cyffes neu fath ar hunangofiant yw, â delw y dyn ei hun arni, yn anad unpeth—ar ei farn a'i ragfarn, ar ei feddyliau a'i fympwyon. Amcan Montaigne, meddai, oedd ei ddatguddio'i hun fel yr oedd, cael ei gofio felly, a'i garu felly. Nid oes un ddalen o'i waith y gellid ei phriodoli i neb arall. Y syniadau, y teimladau, y rhagfarnau, a'r dulliau ymadrodd—rhaid gweld yr awdur ynddynt, a rhagoriaeth ysgrif ydyw ei bod yn datguddio' dirgel ddyn y galon.' Ni olyga hyn fod yr ysgrifiwr bob amser yn ysgrifennu amdano'i hun, fel y cyfryw, er bod amryw, Cowley a Hewlett, er enghraifft, wedi gwneuthur hynny; ac un o'r ysgrifau gorau a welais yn ddiweddar yw ysgrif Elphin Lloyd Jones arno'i hun. Ond dro arall, teifl yr ysgrifennydd len denau ysgafn drosto'i hun, gan ei alw ei hun yn Mr. Lamb, yn Maconnachie, neu yn 'ni,' eithr bob amser llun yr ysgrifennydd a welir mewn ysgrif. Ambell waith yn wir, yn aml—y mae rhywbeth yn chwareus yn llygaid y gŵr sy'n dyfod i'r golwg ynddi, ac oherwydd yr afiaith hwn, hawdd yw chwerthin neu wylo gyda'r awdur ei hun.
Rhydd Maurice Hewlett ddiffiniad da o'r ysgrif; 'myfyrdraith' ysgrifenedig gŵr diwylliedig, bodlon, sydd o leiaf yn bump a deugain oed, ar ôl iddo gael cinio da. Nid yw blynyddoedd nac yma nac acw; ond y mae ysbryd y blynyddoedd yn fater pwysig iawn. Rhaid ichwi fod yn ddigon aeddfed i lefaru ag awdurdod Pab neu Archoffeiriad, ac yn ddigon call i wneuthur hynny â thact' (Rhywbeth yn debyg i lythyr da, chwi a welwch). 'Ni ddylech fod yn rhy hir, ni ddylech fod yn rhy anodd; cewch grwydro tipyn ar draws ac ar hyd, ond ni chewch fod yn swta. Gellwch osgoi huawdledd a hwyl aflywodraethus; ond dylech beri i'r darllenydd chwerthin yn ei ddwrn weithiau. Cewch wlitho'r llygaid, ond nid eu boddi. Ni ddylech gymryd ochr, na rhoi anogaethau. Rhaid i'ch gwersi fod yn rhai wrth fyned heibio. . . Chwi a fyddwch yn awgrymog, wrth gwrs—y mae pob dyn cyflawn felly; a chwi a ddyfynnwch yn rhydd, yn aml yn anghywir neu'n llac. Dylai stori fod yn halen gennych, ond ni thybiaf y dylai dyfyniad fod yn bupur gennych.'
Gwelir, felly, y gwna unrhyw beg y tro i hongian eich ysgrif arno—gardd fach, hen lestri te, perthnasau tlodion, taith o Lanfair i Lanfyllin (dyweder), hen esgid, tywyll nos, motor beic, boddi cath, Rabbi Saunderson, neu unrhyw beth dan wyneb haul. Pethau dibwys, yn aml, yw achlysur ysgrif, ac odid nad oes rhywbeth achlysurol yn ei dull. Gellir gweld delw y papur newydd a'r cylchgrawn arnynt—delw frau, breuach na phres. Ys dywedai Keats, ymddengys enw'r awdur yn aml fel pe bai wedi ei dorri mewn dŵr, ond wedyn duach, duach yr â'r inc a ddefnyddiodd! Gwneir pethau personol yn bethau diddorol i bawb, a phethau dibwys yn bethau tragywydd. Sut? Drwy wneuthur geiriau, nid yn gerbydau i'r meddwl gwibiog, ond yn ffiolau i brofiadau dyfnaf dyn. Trosglwyddo profiad, nid cyfrannu gwybodaeth, ydyw amcan ysgrif. Trwy droeon ymadrodd, rhydd inni ddull y dyn—tôn ei lais, a natur ei dymer.
Galwyd sylw arbennig, yng Nghymru, at y ffurf hon, pan gyhoeddodd y Dr. T. H. Parry-Williams ei ysgrifau yn gyfrol fechan, hylaw. Ni welwyd dim yn hollol fel y rhain o'r blaen yn Gymraeg, ac fe'i hysgrifennwyd mewn arddull gain, seml. O'm rhan fy hun, eu harddull a hoffais gyntaf. Y mae'r iaith yn syml heb fod yn simpil, a gorwedd profiad byw o dan y symlrwydd mwyaf. Defnyddir amryfal ffyrdd i ennyn ein diddordeb, a benthycir yn helaeth oddi ar yr iaith lafar o ran hynny, hanes benthyg felly ydyw hanes llenyddiaeth. Llefair am 'ddillad bob dydd' a 'rhagrith bob dydd' fel y defnyddir hwynt gan bobl gyffredin, o'u cyferbynnu â 'dillad cig rhost' a 'rhagrith dydd Sul.' Pan fo'n bwrw yn arw, dywaid ei bod yn bwrw hen wragedd a ffyn neu fod y glaw yn disgyn fel pe bai'n dyfod o stwc. Nid yw'n buronydd mewn iaith, oherwydd defnyddia eiriau a ffurfiau fel y rhai a ganlyn—specimen, gangwe, yn Gilead. Er hynny, dengys chwaeth ac urddas: y gŵr cyfarwydd yn unig a ŵyr pa fodd a pha bryd i fynd dros y tresi! Y mae ganddo ddawn at fathu geiriau megis agosatrwydd, pendraphendod, simsanrwydd, mor ailnatur i mi, a digynorthwywch; ac arfer newydd a da yw defnyddio bob amser ffurfiau dealladwy fel 'offis cwmni llongau' neu y 'peth berwi wyau.' Wrth gwrs, ceir geiriau mewn trefn anghyffredin,—defnyddio hen ymadroddion, megis 'yn wir, yn wir,' neu 'Frodyr Duon,' mewn cysylltiadau newyddion, neu gyplysiadau annisgwyl ond trawiadol fel 'gogoniant diferion glaw,' 'dirfawr fychander adar y tô,' a 'bore Sul dychrynllyd, tawel.' Dengys athrylith gyda chyferbyniadau sydyn, gydag awgrym cywrain megis canu 'Braint, braint' yn Wyrcws Dolgellau, defnyddio enwau ag ystyr hud iddynt, megis llyngyr daear am bryfed, cyffyrddiadau cynganeddol yma a thraw, rhoi tinc yn y mydr, a thro disymwth i ymadrodd, a chant a mil o ddyfeisiau eraill.
Nid yw'n malio llawer am arferion cymdeithas, ac nid ofna sôn am bethau a led-dirmygir gan bobl, fel rheol. Rhydd liwiau hoywlas hud ogylch pethau cyffredin, fel K.C. 16 a thywod, a pholion teligraff, a phethau eraill y sibrydwn yn eu cylch, megis y pryf genwair, adar y to, a boddi cath. Nid yw'n gaeth i arfer a thraddodiad, am mai mewn ysgrif yr ysgrifiwr ei hun yw'r safon. Nid gwisg amdano'i hun ydyw, eithr anian o'i anian, ' yn cyd—fod, yn cyd-dyfu, ac yn cydoferu â'r enaid,' fel y dywedodd Emrys ap Iwan. Dengys allu eithriadol i lunio a chyfleu, a chymhlethu ei feddyliau. Nid disgrifiadau nychlyd di-waed yw ei ddisgrifiadau. Meddyliwch am ei ddisgrifiad byr o'r aderyn to; 'peth bach powld, ymrafaelgar, cecrus, gwenwynllyd, trystiog, a thrahaus,—a heb fod yn neb yn y diwedd.' Nid yw'r ymadrodd yn un byr, fel disgrifiad yr Athro Gwynn Jones o'r 'hen Dolc,' dyweder—' distaw, diniwed, mud.' Eto, y mae pob ansoddair yn gwella'r disgrifiad, ac nid cwhwfanu barcutanod papur ydyw eu pentyrru yn y fan hon. Ambell dro, fel gyda'r polion teligraff, rhed yn chwap o ddisgrifiad amhersonol i ddisgrifiad personol, byw. Sonnir amdanynt fel dynion union, aristocratig, 'na wyddant am wyneb sur na gair croes, am hel dail na llyncu mul na dim o'r cyfryw.' 'Er eu bod yn fodern i'r eithaf,' meddai, 'eto y mae gwedd asetig arnynt, ac atgof melancoli mynachaidd yr Oesoedd Canol yn llymder eu safiad. Os eir yn ddigon agos atynt, gellir clywed (gan yr un y mae ganddo glustiau i wrando) furmur paderau pell neu leisio bloesg rhyw litani lefn. Eto brawdoliaeth baganaidd yw'r eiddynt hwy,—'Urdd Dominig yr awyr agored, Brodyr Duon priffyrdd y byd.' Gwelir yn hwn gysylltiadau annisgwyl syniadau, hiwmor a sentiment, cymysgedd o ddychymyg plentyn a synnwyr cyffredin hen ŵr.
Un o'r ysgrifau cynnar yw hon, fel K.C.16 a'r pryf genwair, a gellir adnabod y rhain am eu bod yn gweithio mewn cylch bach, ac yn troi a throsi o gwmpas y pwnc. Am ei fotor beic dwyflwydd oed, K.C.16, Y mae fy mhrofiad personol,' meddai'r awdur, ' yn gymhleth ag ef, a'm bywyd i yn rhan o'i fywyd yntau.' Symud—spid—mynd . . . disgrifio'r motor beic a wna, a'i brofiadau ef ei hun ar ei gefn. Ond ni edy ei gyfaill 'er mai nôd (dwy lythyren) rhif yn unig sydd ganddo, ac os bydd yn rhaid i mi ei werthu,' meddai, gwn y teimlaf fel petawn wedi gwerthu cyfaill.' Yn y dosbarth nes atom, ar y llaw arall, try oddi wrth ei bwnc megis yn Adar y to. Y pwnc yn hon yw 'marw ei fam'—' Ond am adar y to yr oeddwn i'n sôn, onid e...?' Yn ei ysgrif ar y tywod, eto, y mae'n sôn am y tywod sydd mewn cocos ac mewn concrit, mewn siwgwr ac mewn sment,' ac yn arbennig mewn peth berwi wyau. Lleda'r cylch wrth iddo fynd ymlaen, gan ddechrau gyda'r unig dywod y gŵyr llanc o'r mynydd amdano, sef hwnnw sy'n dweud yr amser i ferwi ŵy, a mynd ymlaen i ddangos mor ddieithr ac ansicr yw tywod, i fynyddwr, rhagor gro'r afon, neu fwnws mawn, neu ludw coed. Y mae gwerth arwyddluniol ynddi, fel y sydd mewn ysgrifau y gellir eu galw yn ysgrifau dwyran megis Ceiliog Pen-y-Pas. Yn hon, cyferbynnir y ceiliog â'r bachgen rhwng dau blismon. Mewn un ysgrif megis Yr Ias, cysylltir teimladau â hanes, ac mewn un arall, fel Cydwybod, cysylltir hanes â theimladau. Dysg meddyleg fod cysylltiad agos rhwng meddyliau dyn o'i febyd i'w fedd, ac mewn rhai o'r ysgrifau hyn, ceisir galw i gof a threfnu'r rhain, er enghraifft, Aros, a Gweld y Gwynt. Y mae un neu ddwy ysgrif na ellir eu dosbarthu, yn arbennig Y Gwybedyn Marw, ei ddisgrifiad o ofn.' Yn hon, cais roi ffrwyn i'w syniadau am ofn,' ac y mae cryn werth meddylegol ynddi, am ei bod yn mynegi eiliadau a brofwyd i'r byw.
Cryno a byr yw'r ysgrifau hyn bron i gyd, ond y mae blas rhagorol arnynt, ac odid na ddechreuant gyfnod newydd o ysgrifennu, nid traethodau trymaidd o hyd, ond ysgrifau blasus, agos atom. Y syndod yw bod cenedl sydd â chymaint o delynegion eto heb ysgrifau o natur y rhain, hyd yn ddiweddar. Efallai y dywaid rhywun nad da yw i'r genedl adael ei hen lwybrau a mynd y ffordd hon, ond ni allaf feddwl am neb a ddarllenodd y rhain yn credu hynny. Ar un olwg, ymddangosant yn bethau hawdd i'w hysgrifennu'nid rhaid i chwi gyfrif eich bysedd a gofalu am odl' ond gofynnir am gywirdeb, am ysmalhawch, am ffansi, am ddychymyg, am hiwmor, am ddifrifwch, ac am iaith i nyddu a chenglu'r profiadau a'r holl syniadau a ddaw i ben dyn.
1931
Y Tair Chwaer
GWYR pob bachgen ysgol amdanynt, ac aml y dychmygodd eu gweled, un yn nyddu edafedd ei einioes, un arall yn ei fesur, a'r olaf yn ei dorri. Hwy oedd y tair duwies y dibynnai ei dynged arnynt, ac er nad yw'n credu, yn ddistaw bach, yn eu gallu weithian, eto y maent wrthi o hyd, dan enwau gwahanol. Tair duwies yr oes hon yw etifeddiaeth, swydd, ac amgylchfyd, ac y mae'r tair chwaer yn penderfynu ein heddiw a'n hyfory o hyd. Drwy'r gyntaf y sicrheir ein perthynas â doe ein bywyd, a hi sy'n dweud wrthym beth ydyw nodweddion ein cyrff, ansoddau ein meddyliau, cywair ein tymherau, gogwydd ein greddfau, ac yn y blaen. Ond er mor bwysig ydyw dylanwad rhieni a hynafiaid, moldir bywyd pob un ohonom o'r dechrau bron, gan ddylanwadau eraill, ei fwyd, ei waith, ei oriau segur, a'i amgylchedd. Fel hyn, er cymaint a drosglwyddir inni o'r gorffennol, y mae pob un yn ffurfio ei fywyd ei hun o'r newydd, ac yn cysylltu doe, heddiw, ac yfory. Mewn bywydeg, ni ellir tynnu llinell derfyn rhwng bywyd a'i etifeddiaeth, neu ei dynnu oddi wrth ei waith, ei hamdden, a'r byd o'i ddeutu. Pa bryd y dechreuodd adain y gloyn byw ymffurfio ac ymliwio? Yn llaeth y crysalis? Dan fanflew y lindys? Ynteu yn yr wyau cyntaf? Neu gynt?
Gellir dosrannu ein hetifeddiaeth ar dair gris. Ar yr un isaf o'r tai ceir, yr nodweddion sy'n gyffredin i bob dyn, nodweddion sefydlog, yn amrywio'r nesa peth i ddim, a fedd homo sapiens. Nid ydyw'r nodweddion hyn yn hen, o'u cymharu â ffurfiau eraill ar fywyd, am nad yw homo sapiens yn hen iawn. O ran ffurf, y mae ffurf dyn yr hyn ydyw, i raddau helaeth, er mwyn cyfarfod â gofynion ei ymennydd. Maint a ffurf y pen, sythder ei safiad, ac yn y blaen—er mwyn amddiffyn a chynnal yr ymennydd y maent megis ag y maent. Ond ar wahân i'r nodweddion dynol hyn, ceir nodweddion ein hil hefyd, er bod hilion y ddaear wedi ymgymysgu, blith draphlith, â'i gilydd. Tyrfa ethnyddol ydyw hil, ac nid cymdeithas ysbrydol, fel cenedl, er y cymysgir y ddau air yn aml. Nid oes nodwedd i hil nad ydyw'n amrywio mwy na'r nodweddion a gawsom ar y gris gyntaf megis croen melyn, sych y Sineaid a chroen meddal, du y negro, lliw a natur y gwallt, du a chrych, melyn a sidanaidd, ffurf y llygaid a'r pen, natur y dymer, ac yn y blaen; nodweddion sydd yn ein gwneuthur yn Iddewon neu'n Indiaid, yn Gymry neu'n Ethiopiaid. Ar y ris uchaf, ceir nodweddion gwahanol eto, y nodweddion sydd yn ei gwneuthur yn anodd dwyn dyn oddi ar ei dylwyth, ac yn gwneuthur gwaed yn dewach na dŵr. Ceir cant a mil o amrywiadau ymhlith y dosbarth hwn, oherwydd, hyd yn oed mewn teulu, nid oes dau yn hollol yr un fath â'i gilydd. Ymhellach, er bod patrwm wedi ei weu i'n bywyd, heb i ni ei ddewis, eto geill pob un ei wella neu ei niweidio yn ôl natur ei oriau hamdden a gweithio, a'r defnydd a wna o'r byd o'i gwmpas.
Y mae perthynas plentyn â'i rieni a'i hynafiaid yn rhwym o gynhyrchu tebygrwydd cydrhyngddynt. Dwg y tebyg ei debyg, fel y rhed y tebyg at ei debyg. Sonnir mewn bywydeg am barhâd yr hedyn—ddefnydd —germplasm y Sais. Ni ellir dadansoddi bywyd, mwy nag y gallai Huxley, druan, 'ddarganfod Duw mewn potel.' Ffurfir pob cell o gnewyllyn a phlisgyn, ond er y gellir gwahanu o'r cnewyllyn nodd, a sylweddau eraill a elwir yn linin, cromatin, ac yn y blaen, eto ni ŵyr neb beth yw ei holl elfennau, na'r modd dyrys yr ymuna rhai celloedd yn nerfau, rhai eraill yn esgyrn, rhai yn chwarennau, a rhai eraill yn ewynnau. Eithr heblaw'r celloedd hyn, sydd â swydd arbennig, ceir celloedd eraill, a'u gwaith hwy yw, nid codi'r corff, ond cadw nodweddion cynhenid y teulu. Drwy wneuthur hyn, sicrheir parhâd a galluogir rhieni i fyw yn eu plant. Yn wir, cryf ydyw gafael y teulu ar bob dyn a aned i'r byd, ond nid yw mor gryf nad oes le i bob un ddianc i gyfeiriadau newyddion. Gwelir tuedd, weithiau, i wneuthur peiriant o ddyn—rhyw robot dyrchafedig, chwedl Toller, ond, fel y dywed yr Athro J. Arthur Thomson, 'a self-stoking, self-repairing, self-preserving, self-adjusting, self-increasing, self-reproducing machine can only by an abuse of language be called a machine at all.' Er cymaint yw gorthrwm y gorffennol, eto nid rhywbeth anystwyth hollol yw bywyd, yn arbennig bywyd dyn, a geill ei gyfaddasu ei hun, drwy ymrannu'n wahanol, i gyfarfod ag anghenion newyddion, o gyfnod swyn y bore, drwy gyfnod anesmwyth y deffro, i gyfnod gorwelion pell yr hwyr.
Er bod pob math ar deithi yn rhan o'r etifeddiaeth a gawn, ni ddont i'r golwg bob amser ar unwaith, fel y daeth, dyweder, 'bawd troed Enoc Huws.' Gŵyr pob un am y naid dros un genhedlaeth' y byddai ei daid a'i nain mor hoff o sôn amdani. Y mae'n fater dadl a ellir trosglwyddo nodweddion a gafwyd mewn bywyd anodd yw dweud paham y ceir amrywiadau. Ond nid oes dadl na welir pob math ar nodweddion yn parhau mewn teuluoedd o oes i oes—hynodrwydd fel hirhoedledd; nodweddion dinod fel gwallt cyrliog; nodweddion afiachus, fel y gwaedu y dioddefai mab y Tsar oddi wrtho; nodweddion gwerthfawr fel tymer siriol, a rhai niweidiol, fel anallu i gymryd poen. Ambell dro, pan feddyliom am enghreifftiau fel gwefus teulu Hapsburg, tueddir ni i feddwl bod etifeddiaeth yn orthrwm anorfod. Gwyddys am deulu lle parhaodd pum bys am chwe chenhedlaeth—hynodrwydd mor ddiddefnydd! Ymhlith disgynyddion un Nougaret, y gwyddys ei fod yn ddall yn 1674, ceir nifer yn dioddef oddi wrth yr un anhwylder o genhedlaeth i genhedlaeth. Clywais weinidog Wesleaidd yn mynd yn huawdl wrth olrhain teulu y Jukes enwog, ysywaeth, o'r America, ac ni raid i neb fynd o'i gylch ei hun i weled parhâd anorfod nifer o nodweddion, drwg a da, yn arbennig nodweddion Mendelaidd. Tuedda rhai ysgrifenwyr, efallai, i bwysleisio gormod ar barhâd elfennau seilwon, peryglus, ond y mae'r ochr arall yr un mor wir, fel y gwelir o astudio achau Darwin, neu Bach, neu rai o wŷr galluocaf Cymru.
Ynglŷn â'r ail elfen fawr mewn bywyd, ni wâd neb nad oes a fynno gwaith dyn â'i fywyd. Erbyn heddiw, hefyd, cydnebydd pawb fod a fynno diffyg gwaith, a hamdden, â bywyd pob un ohonom, er gwell ac er gwaeth. Gŵyr pob Cymro, o'r bron, am Sherlock Holmes, a'r modd hysbys y dywed beth ydyw gwaith dyn oddi wrth yr olwg arno, megis braich gof, dull bugail o gerdded ac yn y blaen. O eisiau ymarfer, cyll dyn rym ei gorff; er enghraifft, geill un o'r Indiaid Cochion arogli mwg ymhell o flaen yr Americanwr. Ceir diogi meddwl ac ysbryd yn yr un modd. Pwy na ŵyr am golli archwaeth at gapel o hir esgeuluso moddion gras? Y mae'n rhaid i bob dyn wrth ymarfer, i gryfhau ei dueddiadau cynhenid. Anadla'r baban ohono'i hun, yng ngrym y bywyd a etifeddodd, ond paham na phrydera'r fam os gwêl o'n crio ambell dro? Dywedir weithiau na fedd gŵr ddim amynedd neu ryw rinwedd arall, ond yn aml y gwir yw nad arferodd ei feithrin. Ymhob cylch, boed dda neu boed ddrwg, cryfheir ein tueddiadau wrth eu rhoi ar waith.
Wrth amgylchedd, golygir yr holl ddylanwadau allanol sy'n gweithio arnom, a hyd yn oed ein bwyd. Diddorol yw tystiolaeth Dr. Kammerer am berthynas amgylchedd a nodweddion y salamander, neu arbrofion Dr. Durkhen ynglŷn â lliwiau gloywod byw. Nid oes angen sôn am nodweddion sy'n galluogi un i ymladd yn well, un arall i'w guddio ei hun, ac un arall i ennill cymar. Ni fedr dyn gwyn ddal gwres yr haul yn y trofannau, darfu'r Indiaid Cochion yn ogymaint drwy afiechydon â thrwy fwledi'r Americanwr, ac y mae ffroenau llydan y negro, sy'n ei helpu i fyw yn ei randir ei hun yn rhwystr iddo fyw mewn lleoedd oerach. Gellir rhoi pysgod, â dau lygad ganddynt yn arferol, mewn amgylchedd lle cynhyrchir pysgod bach unllygeidiog; ac o gadw'r rhain yn eu hamgylchedd newydd, parhânt yn unllygeidiog. Y mae'n ffaith bod pryf cannwyll arbennig a arferai ehedeg ym Manceinion tua 1850, wedi newid ei liw o liw'r pupr i liw'r glo. Gwelwyd yr un cyfnewidiad yn rhannau gweithfaol Deheudir Cymru hefyd, ac yn y Ruhr. Hyd yn oed ynglŷn â dynion, dywed ystadegwyr bod dynion o bryd golau yn tueddu i ddiflannu o'r trefi. Mewn gair, y mae perthynas agos rhwng bywyd ag amgylchedd. Hen wir, meddwch, a welir yn nameg yr heuwr, heb fynd ymhellach; eto rhoddir mwyfwy o bwys arno bob dydd, er na chredir mai cynnyrch ei amgylchfyd yw dyn, a dim ond hynny. Ni wiw i mi awgrymu na fedr trefniadau allanol wneuthur llawer i ddyn, ac eto geill dyn, drwy rym ewyllys, lunio a newid nid ychydig ar bopeth o'i ddeutu.
Y tri hyn, etifeddiaeth, swydd, ac amgylchfyd, yw'r dylanwadau sy'n llywodraethu ein bywyd. Afraid yw dweud nad yw pob bywyd ar yr un tir; fel y dywedai'r diweddar Syr O. M. Edwards, ailadroddir athrawiaethau'r diwinyddion am etholedigaeth gan y meddyg, y bywydegydd, a'r hanesydd. Un dalent sydd gan rai ohonom; y mae gan eraill bump, ac ychydig ddeg. Nid oes a fynnom â'r doniau a gawn yn etifeddiaeth, ond nyni sy'n gyfrifol am y defnydd a wnawn ohonynt. Ond, atolwg! onid yw'r defnydd a wnawn o'n doniau yn dibynnu ar yr hyn a dderbyniasom oddi wrth ein hynafiaid? Y mae hyn yn wir, ond nid hyn yw'r holl wir. Fel yr arferai'r hen bregethwyr ddweud, y mae dyn, nid yn hollol yn greadur ei amgylchiadau, ond hefyd yn greawdwr iddynt, a hyn yw'r rheswm paham na raid iddo ofni y tair chwaer a roddasai gymaint o arswyd iddo pe buasai byw ymhell bell yn ôl.
1928

J. Breese Davies yn arwain rehearsal Côr Cerdd Dant y plant yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937
Canu Gyda'r Tannau
NID oes eisiau imi eich atgoffa fod cysylltiad Cymdeithas y Cymmrodorion â Cherdd Dant yn gysylltiad hen a phwysig. O'r cychwyn cyntaf, yng nghyfnod y Morusiaid a Goronwy Owain, ni pheidiodd ei diddordeb yn y gelfyddyd. Yn 1751, yr oedd yr hen fardd teulu a thelynor y llys wedi mynd; eto nid oedd eu dilynwyr wedi llwyr golli yr hen syniad amdanynt fel ceidwaid y diwylliant cenedlaethol. Gweithiodd y Cymmrodorion gydag egni cyson. Casglodd Lewis Morus rai o'r hen benillion telyn, lluniodd rai newydd ei hun, a rhoes fri ar y delyn eilwaith; sefydlwyd y Canorion, ac ymhellach ymlaen, cyfoethogwyd Cerdd Dant gyda gweithiau rhai fel John Parry (Bardd Alaw), a aned yn Ninbych, cyfansoddwr 'Cader Idris,' etc., a cherddor a beirniad o fri yn y Brifddinas; llawlyfr adnabyddus John Jones (Idris Fychan), gŵr o Ddolgellau a datgeiniad enwog o deulu o ddatgeiniaid; John Thomas (Pencerdd Gwalia) a aned ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, telynor ac athro medrus, ac awdur trefniadau o alawon Cymreig, sy'n dal yn batrymau o fyseddu telyn ac o bereid-der cynghanedd; ac ysgrifau gwerthfawr rhai fel Watcyn Wyn, 'wit y dydd a phet y De,' a'r doctor dawnus, Isallt, o nyth y datgeiniaid, Blaenau Ffestiniog. Ni ellir anghofio gwaith y Gwyneddigion, hwythau, ac ymdrechion gwŷr fel W. D. Leathart, mwy hyddysg mewn Saesneg na Chymraeg. Gŵyr pawb mai canu gyda'r tannau oedd deuparth rhaglen yr Eisteddfodau cynnar, a 'diddanu'r bryd a'r ysbrydiaeth' oedd elfen amlwg y canu, yn hytrach na'i gelfyddyd a'i chwaeth. Diddordeb hynafiaethol oedd cymhellydd cryfaf y Cymry hyn, ac awydd i yrru'r Hen Wlad yn ei blaen trwy godi'r hen bethau yn fyw. Cyniweirodd bywyd newydd drwy fywyd a diwylliant y genedl. Rhoddodd y Diwygiad argyhoeddiad personol a thestunau newydd i'w chanu; ganed yr emyn a'r delyneg ddiweddar. Adferodd y Deffroad gynildeb disglair y gynghanedd Gymraeg, a 'swyn hen ŷd y wlad,' megis y penillion telyn a chanu gyda'r tannau. Pob yn dipyn, rhedodd yr adfywiad crefyddol a'r deffroad clasurol i'w gilydd, a gwelodd Cymru werin yn deffro, yn ymwybodol o werth ei henaid a'i diwylliant ei hun.
Yr oedd pob un o'r mudiadau hyn i ddylanwadu ar Gerdd Dant. Rhoddwyd deunydd a disgyblaeth newydd iddi trwy atgyfodi'r mesurau caethion, yr hen benillion telyn, gwell eu mater a'u trwsiad na'r baledi pen ffair, a'r hen geinciau gosod—gweddillion stoc yr hen delynorion gynt. Dysgwyd canu mewn mesurau newydd, ag acen wastatach na mesurau'r gynghanedd, mesurau heb hupynt o draddodiad Cymreig i'w hybu; magwyd cydwybod foesol a llenyddol yn raddol, ac er pob cwymp oddi wrth ras, ni bu'r ymateb mwy i ganu maswedd a chanu adeiladol yn unig, nag i iaith garbwl a mydr clonciog ychwaith. Eto ni cheid canu penillion, yn fy nghof i, ond mewn rhai mannau, fel Dolgellau, Llanrwst, Llannerch-y-medd, neu Aberdâr, ac ymhlith rhai teuluoedd fel teulu Idris Fychan, Eos Mawddwy, neu Eos y Berth. Gwnaeth Y Tant Aur, yn fwy nag un llyfr arall, a'r diweddar J. E. Jones (J.E.), yn fwy nag un datgeiniad arall, yr adfywiad presennol yn bosibl. Erbyn hyn, cenir penillion yn yr Ysgolion (e.e., ym mhob ysgol yn fy sir i), mewn llu o gartrefi, ac yng nghynulliadau Cymdeithas Cerdd Dant; gall amryw ganu'r delyn (e.e., tua deuddeg o fewn pum milltir i'r Bala), a daeth yr hyn oedd yn ddifyrrwch i'r ychydig yn fwyniant i lawer ym mhob tref a phentref, nid wrth wrando yn unig, ond wrth ganu eu hunain hefyd. Ar yr un pryd, ceir rhai cannoedd mwy o ddatgeiniaid yn y Gogledd nag yn y De, a mwy mewn ambell nythaid nag mewn mannau eraill (e.e., y Parc, y Bala). Lle bynnag y blodeua, ceir ysbryd Cymreig a diwylliant cartref cryf, cariad at gerdd a llenyddiaeth, a hoffter o ddiddanwch cymdeithasol y bywyd gwledig ar ei eithaf a'i orau; ceir yno hefyd hyfrydwch naturiol ym melyster canadwy y Gymraeg.
Y mae'n amhosibl ar hyn o bryd, a dichon na ellir byth fod yn berffaith sicr, pa bryd na pha fodd y dechreuodd canu gyda'r tannau. Ni ellir gwadu hynafiaeth y delyn, na chanu gyda'r delyn, o ryw fath. Ansicr yw ein gwybodaeth am drefn a safle'r cerddorion yn yr oesoedd canol. Gwyddys yn weddol sicr bod y pencerdd yn uwch ei safle na'r teuluwr, ond beirdd oedd y rhain, yn bennaf beth bynnag. Dywedir nad oedd y cerddorion yn bobl bwysig yn y llys; cyfieithid enw'r cerddor yn Lladin yn Joculator, neu ddyn digrif. Dyfelir bod safle'r telynor yn fwy anrhydeddus, ond braidd yn amhenodol ydyw ein gwybodaeth, heb ragor o ymchwil. (Ni lwyddodd y gair i ddisodli'r geiriau telynwr a thelyniawr hyd y ganrif ddiwethaf). Dywedir bod canu telyn a'i chyweirio, a chanu cywydd, ymhlith y campau Cymreig, ond ni wyddom fawr am natur y canu ei hun. Ym mreuddwyd Rhonabwy, e.e., sonnir am ganu cân i Arthur; y mae'r cronicl yn aros, ond dim nodyn o'r gân. Yn y cyffro cerddorol a fu yn amser Gruffydd ap Cynan, nid erys dim am y canu o'i flaen, na dim ond enwau'r ceinciau Gwyddelig a arferid. Dywedid bod Dafydd ap Gwilym yn delynor a datgeiniad, ond er byw o'i gywydd gwin nid oes nodyn o'r gân wedi ei ddarganfod. Ni chredai'r hen ddatgeiniaid mewn rhoi miwsig ar ddu a gwyn, a phery anhawster parhaus i wybod ystyr fanwl geiriau fel canu a cheiniad. Y mae'n debyg bod mwy nag un ystyr iddynt, oherwydd dichon mai un oedd y bardd a'r datgeiniad i ddechrau; y mae ystyr geiriau eraill wedi newid (e.e., crefft oedd ystyr gyntaf y gair cerdd). Ni cheir y gair gosod, hyd y gwn i, hyd y ganrif ddiwethaf; dwywaith y'i ceir yn Llawlyfr Idris Fychan, tua chanol y ganrif, ac nid oes sôn amdano, yn yr ystyr a rydd datgeiniaid iddo, yng Ngeiriadur Richards. Arferir heddiw (mewn canu penillion), y gair cainc yn lle'r gair poblogaidd alaw, ac ymddengys bod yr ystyr hon yn mynd yn ôl i gyfnod y cywydd, efallai at 1400 O.C. Lle bo cofnodion barddonol, y mae ansicrwydd, ond nid oes cofnodion cerddorol o gwbl hyd gyfnod diweddar. Cedwid cyfrinach cerdd dant yn fwy clos na chyfrinach ei chwaer iau, cerdd dafod. Ymhellach, ni wyddom am ddim canu tebyg iddo y tu allan i Gymru, ar wahân i berthynas agos ymhlith y Basgiaid. Dywaid Dr. Gwynn Jones, a chytuna Dr. Lloyd Williams, nad oedd dim cyfansoddi geiriau ar gyfer miwsig na miwsig ar gyfer geiriau yn nyddiau Tudur Aled, ond bod canu gyda'r tannau, fel y gwyddom ni amdano, wedi dechrau ei sefydlu ei hun erbyn yr adeg honno. Pair cysylltiad cynnar y cywydd â cherdd dant imi gasglu y geill y dull hwn o ganu, a'i addasrwydd at acenion anwastad y mesurau cynganeddol, fynd yn ôl i ddechrau'r bymthegfed ganrif o leiaf. Edrychir ymlaen at ymchwil pellach i eirfa'r beirdd, ac at y gweddill o drosiadau Mr. Dolmetsch. Gwyddom fod Cân Dafydd Broffwyd yn Llawysgrif Penllyn, ond ni rydd y trosiadau a gyhoeddwyd gan Mr. Dolmetsch fawr o oleuni ar gerdd dant, gan mai agwedd vertical cynghanedd a bwysleisir ynddynt, yn hytrach nag alawon yn cydredeg â'i gilydd.
Y mae'r un mor anodd egluro'i darddiad. Efallai bod gwir yn y traddodiad a geir gan Geiriog mai o fath ar gystadleuaeth rhwng y telynor a'r datgeiniad y cododd; haws iddo ef, yn y ganrif ddiwethaf, gredu hynny na ni, sy'n gweld trai yr ysfa gystadleuol. Efallai mai damwain oedd i gychwyn, fel yr awgryma'r Athro Glyn Davies, yn codi o gais i osod pennill rhy hir ar gainc rhy fer; math ar try—on gerddorol. Efallai mai tyfu o'r adrodd-gân neu ddescant Eglwysig a wnaeth. Y mae ôl meddwl a chynllunio arno hyd yn oed pan fo ar ei salaf, ond am ei oedran a'i darddiad yr un peth sicr yw ein hansicrwydd... Ni ellir ond dyfalu eto.
Adwaenir dau ddull ar ben a thant, neu ganu gyda'r tannau, dull y De a dull y Gogledd, ac ni wn i prun yw'r hynaf. Yn null y De, cenir cân a chytgan mewn dull cyntefig iawn, ac efallai amrywiadau cymysgryw eraill lle ceir rhan o'r gosodiad ag un sill ar gyfer pob curiad ac yn aml ar yr un nodau. Mewn cân a chytgan, dechreuir gyda'r alaw a chenir nodau'r alaw, fel y gwneir gydag alawon gwerin. Yn aml, ail adroddir darn o linell drosodd a throsodd, e.e.,
Tros y môr mae'r adar duon, Fa—la—la—la—la—la—la—la—la,
Tros y môr mae dynion mwynion, Fa—la—la—la—la—la—la— la—la,
Tros y môr mae pob rhinweddau, Fa—la—la—la—la—la la—la,
Tros y môr mae nghariad innau, Fa—la—la—la—la—la—la—la—la.
Llenwid yr alaw â rhes o eiriach neu sillafau diystyr fel Fa—la—la, a gallai'r byrdwn hwn fod ar ddechrau neu ddiwedd y pennill, neu yn niwedd llinell. Ni osodir llawer hyd ar yr un alaw, a rhyddion yw'r mesurau, bron yn ddieithriad, er bod tinc o gynghanedd yn rhai o'r llinellau. Y mesur pedwar a phedwar curiad gwastad ym mhob llinell yw'r mesur a glywir amlaf. Ni ellir manylu ar y penillion yn awr. Ceir rhai hen a diweddar. Am yr hen, digon yw dweud mai pigion o gyfresi yw llawer ohonynt, wedi goroesi'r gweddill, a gwaith beirdd ieuainc a bechgyn ieuainc fel rheol. Syml a chynnil yw eu saernïaeth fel rheol, a cheir tinc delynegol, yn ystyr gyntaf y gair, ynddynt. Nid yw eu cylch yn eang; natur, serch, y delyn, ac arferion syml pobl gyffredin. Diddorol iawn yw eu hagwedd at natur. Nid natur bell, ystrydebol y bugeil-gerddi llenyddol mohoni, neu addurn ar fywyd dyn, ond natur agos-atoch, yn un â bywyd y bobl, ac yn ddrych o'u profiadau. Gwelir y Cymro, ac ar ei ddigrifaf, ynddynt, ond anaml y cenir hwynt yn awr, oherwydd twf rhai mesurau eraill, a diflaniad yr hen ganu cylch, yn bennaf. Edrychir arnynt fel blodau o hen ardd, bellach, ac ychydig a ddefnyddir ar y mesur ym marddoniaeth y dydd.
Yn null y Gogledd, hi ddechreuir gyda'r gainc, ond rhaid gorffen gyda hi; a gorffen ceinciau gosod ar yr acen drom. Ni chenir nodau'r gainc; cenir y rheini gan y telynor, mewn amser sefydlog a chydag aceniad clir. Gofynnir i'r datgeiniad wau ei osodiad o gylch y gainc, gan ofalu bob amser am wrth-alaw felodaidd i gydfynd â chynghanedd y cyfeiliant a chwareir. Gall osod penillion rhedeg neu fesurau'r gynghanedd ar yr un gainc, ond gan mai amser pedwar yw amser priod y gynghanedd cyfyngir y mesurau caethion i geinciau yn yr amser cyffredin, tra cenir mesurau rhyddion ar geinciau trifflyg yn ogystal â'r amser dau a phedwar. Ni ellir canu mesurau cynghaneddol yn gywir ar geinciau fel 'Llwyn Onn,' er gorwedd ohonynt yn ddigon mydryddol. Y mae pob curiad o'r gainc, ar ôl taro, yn cymryd un corfan mydryddol, fel rheol, ac ni chaniateir nifer o seibiau na llithro o un curiad i'r llall, na daliad o fwy na churiad byth. Ceir nifer o gasgliadau o geinciau gosod, ond nid oes un casgliad safonol wedi ei gyhoeddi, hawdd i'w gael, ac wedi ei gynganeddu'n fedrus. Enillodd Mr. Haydn Morris ar Gasgliad bychan yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, a byddai cyhoeddi hwnnw, ar ôl ychydig newid arno, yn gaffaeliad mawr i ddatgeiniaid. Gellir dosbarthu'r ceinciau gosod fel y gwna Dewi Mai o Feirion yn bum dosbarth: (1) Ceinciau deublyg byrion o rannau cyfartal, fel 'Codiad yr Hedydd,' neu anghyfartal fel 'Bardd yn ei Awen'; (2) Ceinciau trifflyg byrion, fel 'Diferiad o Gerwyn'; (3) Ceinciau trifflyg hirion, fel 'Llwyn Onn,' neu 'Blodau'r Faenol'; (4) Ceinciau deublyg a phedwar-plyg hirion, fel 'Cainc y Datgeiniaid,' sy'n cymryd tri phennill i'r rownd, a cheinciau dwyran sy'n cymryd, fel rheol, bedwar pennill i'r rownd, fel 'Pen Rhaw,' a 'Llanofer'; (5) Ceinciau pedwarplyg â rhannau anghyfartal, fel 'Pant Corlan yr Wyn' a 'Sweet Richard.' Y mae casgliadau fel y Welsh Harper yn brin erbyn hyn, ond gweddillion stoc yr hen delynorion yw mwyafrif o'r ceinciau gosod, ac eithrio rhai diweddar megis 'Llanofer' (sy'n gant oed eleni) ac ychydig o donau eglwysig a ddefnyddir am fod prinder ceinciau tebyg iddynt, megis 'Eifionydd' sy'n cadw nodweddion yr hen alawon Cymreig. Cyfansoddwyd rhai eraill at amcanion neilltuol, megis 'Traeth y Bermo' at 'Awdl yr Haf' (Williams Parry). Y mae ôl y delyn ar y ceinciau hyn, ac o ran cyweirnod y maent i gyd o fewn y staff. Nid oes osod ar alawon modal, ond ar geinciau diatonaidd yn y cywair mwyaf neu'r lleiaf. Awgrymir y cordiau yn aml gan y ceinciau eu hunain, ond gellir mwy nag un gosodiad cywir i'r un gainc, yn ôl y trefniant cynganeddol sydd iddi. Bai'r hen drefniadau yw eu bod yn rhy foel a thlodaidd, ond dylid gofalu rhag cuddio'r gainc ei hun gan gyfoeth ac amrywiadau lliwgar yn y trefniant. At ganu penillion, oni ofyn y delyneg neu ddetholiad arall am newid y drefn, defnyddir y ffurf AA BB' i wneud rownd mewn cainc ddwyran, a'r ffurf AA BA BA' i wneud rownd mewn cainc deiran, ac yn ôl yr arfer orau, ni chymeradwyir dechrau gosod cyn diwedd y bar cyntaf nac ar ôl y pumed. Gwneir hyn er mwyn rhoi amser i'r datgeiniad wybod pa gainc a chwareir ac er mwyn llenwi'r gainc yn weddol rwydd. Nid ystyrir hi'n dda dechrau ar y diwedd, mewn unrhyw adran, gan na chanesid felly o gwbl ar ran ail cainc deiran. Nid yw'n arferol chwaith defnyddio llyfr. Gwelir bod ôl crefft a dewis ar y canu, a bod cryn gamp ar y gosodiad, am mai'r datgeiniad sydd, mewn dull celfyddus, i lunio a lliwio ei osodiad ei hun. Bai, ond bai cyffredin, yw canu gosodiadau pobl eraill.
Arferir gynt a chanu, yn null y Gogledd, mewn cystadleuaeth o ganu cylch, a cheir rhai o reolau'r dull hwn o ganu yn y Tant Aur neu 'Lawlyfr Idris Fychan.' Arferid tynnu cwtws i wybod tre datgeiniaid o ganu, ac yr oedd yn rhaid iddynt osod yn eu trefn yn ôl rheolau manwl, neu fynd 'allan o wellt.' Ni wyddai'r datgeiniaid fel rheol pa geinciau a genid ar y delyn, ac yr oedd yn rhaid iddynt gadw ar y mesur a ganodd cychwynnydd y rownd; a'r cyntaf i ganu un tro a fyddai'r olaf y tro wedyn. Y mae gennyf frith gof am y dull, ond ni ddefnyddir ef heddiw, fel y'i deellid gynt. Ceir cyfaddasiad ohono yn Eisteddfod Dinbych, cyfaddasiad haws o dipyn nag un Machynlleth, 1937. Y mae rhesymau da am y diflaniad, er bod llawer o hwyl a swyn yn yr hen ddull. Dull oedd lle cydnabyddid bod terfynau i fesurau barddonol, a phan oedd y datgeiniad yn fardd ei hun. Heddiw, ni chenir ond ar ychydig o'r pedwar mesur ar hugain, sef yr englyn unodl union, y cywydd, yr hir a thoddaid, a'r gwawdodyn; ceir llawer iawn o fesurau newydd i'r Gymraeg, a mesurau ffansïol, yn arbennig ymhlith ein telynegion: nid oes amser i'r gwannaf weiddi a'r trechaf dreisio,' yn rhaglenni'r dydd, a byddai gornest fel un a fu yn Llanelwy, rhyw ganrif yn ôl, am dair-ar-ar-ddeg yn fwrn ar wrandawyr heddiw. Yn fwy na'r cwbl, rhoddir mwy o fri yn awr ar ganu cysylltiol yn hytrach nag ar ribi-di-res o benillion digyswllt o bob man, heb ddim ond eu mesur yn eu clymu ynghyd. Rhoddir mwy o sylw hefyd i'r elfennau sy'n gyffredin i bob canu da, megis tlysni llais, purdeb tôn, amrywiaeth melodi yn y gosodiad, eglurder ynganiad, naturioldeb arddull, etc. Ni roddir gor-bris ar gof da, a methiant ysmala

Ysgol Haf Cerdd Dant yn Llanwrtyd, 1938, gyda Chyngor y Dref
llawer o'r datgeiniaid pen pastwn. Eto da fyddai edfryd peth o fedr a ffresni yr hen ganu cylch yn eu dawn i ddethol geiriau a'u gosod, a'u helfen naturiol at liwio brawddegau.
Yr arfer gyffredin yn awr yw dewis nifer o fesurau, neu enwi darnau, caeth neu rydd, a gofyn i'r datgeiniad osod y rheini ar un neu ragor o geinciau a enwir ar y rhaglen. Y mae hyn, ar ei salaf, yn haws na'r hen ddull; nid oes le i ddyfais y foment, a gellir canu gosodiad o lyfr neu o waith rhywun arall. Collir peth o swyn yr annisgwyl a newyd-deb felly, ond ar ei orau y mae lle i ddyfais, deall, a dychymig, a gellir paratoi gosodiad yn hytrach na chanu'r nodau cyntaf a ddaw i'r pen; wedi'r cwbl dewis ydyw hanfod pob celfyddyd. Ceir hefyd ganu deulais, ond prin, efallai, y dylid cymeradwyo mwy na hynny. Credaf bod ymhlith datgeiniaid, fel dosbarth, hyd yn oed ar ôl ysgaru'r bardd a'r cerddor, fwy nag a fu o ymdeimlad o natur barddoniaeth; y mae ochr lenyddol canu penillion, a'i elfen bersonol, yn creu chwaeth at lenyddiaeth gain. Er hynny, gan mai creu ac nid copio y mae datgeiniaid, byddai'n dda cael mwy o ddysg gerddorol, a chyfuno awen a chrefft ar yr ochr gerddorol. Ceir digon o lawlyfrau yn awr, ar ôl arloesi'r tir gyda'r Tant Aur a Diliau'r Plant, a cheir canu penillion dan ddylanwad gwŷr fel J.E. a'r Urdd, yn rhan o waith yr ysgolion a'r adrannau. Y mae canu heddiw, a barnu oddi wrth yr hyn a glywais i ar enghreifftiau sydd ar gael ohono, yn well na'r hen ganu, o ran chwaeth ac ansawdd, yn llenyddol ac yn gerddorol, ond hoffwn groesawu, fel aelod o Gymdeithas Cerdd Dant, dri dosbarth i'n plith—mwy o gantorion o'r De, cantorion â lleisiau da at ganu gwerin, ac yn olaf gwŷr wrth gerdd; ceid felly frwdfrydedd, dawn, a dysg, amodau pob cynnydd parhaol.
Y mae eisiau chwilio am geinciau, a'u trefnu'n addas; dichon y gellir cyfansoddi rhai at ddibenion arbennig. Da yw cael rhagor o batrymau o osodiadau, ymchwil i hanes, termau a materion technegol ynglŷn â'r gelfyddyd, ac oni cheir cydweithrediad a goddefgarwch rhwng y cerddor a'r arbenigwr o ddatgeiniad —rhy biwis, chwedl Dr. Tom Richards, yn aml—ni ellir disgwyl cynnydd. Nid oes arian i'w ennill, a rhaid wrth gariad at y gwaith. Hyrwyddo hyn oll yw amcan Cymdeithas Cerdd Dant. Nid yw ei gwaith fel gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin yn hollol, er bod llawer o'i defnyddiau yn gorwedd ym mhlygion y gorffennol. Y mae'n ymdrin â chelfyddyd sydd eto'n fyw, un sy'n debyg o ddatblygu ymhellach, ac un a all fod yn rhan bwysig o sylfaen ysgol Gymreig o gyfansoddi, fel y dengys gwaith y diweddar Dr. Vaughan Thomas. Wedi'r cwbl, pery canu penillion o hyd yn ei flas gyda'r Cymry, lle bynnag y bônt, a rhaid bod gwerth arhosol ynddo, gan ei fod wedi osgoi y Nithiwr mwyaf o bob nithwyr—Amser ei hun.
1938.
Byrder Mewn Cerddoriaeth
MEWN awen a chân, fel y sylwodd mwy nag un, dawn at wneuthur gweithiau byrion ydyw dawn y Cymry. Nid ymhoffasant erioed mewn canu darnau meithion, cymalog, ac yn wir, po hwyaf y bo darn gennym, tebycaf yn y byd i dryblith ydyw, fel rheol. Yr alaw a'r dôn, yr unawd a'r ganig—hediadau byrion ydynt bob un, fel y cywydd a'r englyn, yr emyn a'r delyneg, hwythau, hefyd. Ni olyga hynny, ynddo'i hun, mai titw fu pob cerddor o Gymro. Ymhell o hynny. Haws bod yn hir na bod yn fyr, ac onid Emrys ap Iwan a ddywedodd mai arwydd o dlodi meddwl ydyw meithter? Y mae'r hyn sy'n wir am yr orgraff, sef mai dyblu gormod o lythrennau a wna'r sillafwr gwael, yn wir hefyd am bopeth arall; nid oes, mewn gwaith byr, awenus, le i ddim ond i fêr y meddwl a'r teimlad."
Am fiwsig, ni ellir amau nad at fyrder y tuedda'r oes; cred llawer, nid heb achos, bod gogwydd eithafol at hynny. Daw'r dechrau a'r diwedd yn nesnes at ei gilydd, ac ailadroddir cyn lleied fyth ag y medrir. Byddai darn fel Symffon Anorffenedig Schubert yn ddwbl wyrth heddiw, canys ni bu'r dymer i fwynhau hamdden erioed mor brin. Ceisir gwasgu symudiadau sonata i'w gilydd ac nid ydyw darnau offerynnol, heb sôn am gerddoriaeth llais, yn agos mor hir ag y buont. Clywais yn ddiweddar, symffôn gan Milhaud, â thri symudiad iddi, ac eto rhyw bum munud go dda a gymerodd i'w chanu. Fe'm dysgwyd i synnu at un bar ar bymtheg Chopin, yn ei Breliwd yn A, ond beth a dâl sôn? Dywedir wrthyf fod gan Bebern, un o'r cyfansoddwyr diweddaraf, ddernyn offerynnol nad yw ond chwe bar o hyd. Wrth gwrs, ceir, ym mhob oes, ddarnau bychain i blant, a gweithiau technegol byrion, ond plannu egin chwaeth neu egluro pwynt o ramadeg yw eu hamcan hwy, yn fwy na dehongli bywyd.
Nid oes odid neb na theimlodd rym a swyn dihareb, eithr ni all miwsig gyfateb i'w byrder a'i heglurder hi. Gorau po fyrraf y bo adnod y werin,' ond am fiwsig, celfyddyd yw sy'n gofyn amser, ac un mesur sydd i amser; ni fedd na lled na dyfnder. Meddylier am gofgolofn Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, neu ddarlun bychan fel 'Dwylo mewn gweddi' gan Durer. Gall y meddwl lunio braslun amdanynt ar unwaith, drwy gymharu hyd, a lled, a thro'r llinellau, etc.; ond ni all dyn lyncu gwaith cerddorol mor rhwydd, nac yn agos mor fuan. Nid wrth y fodfedd y mesurir amser i gychwyn. Heblaw hynny, gofynna'r rhythm sy'n cydio nodau wrth ei gilydd, gan eu cyfannu, fwy nag amrantiad i'w deall, a rhaid wrth fwy o amser fyth i ddeall yr enaid a rydd y canwr yn ei fydr, a thrwy hynny adnabod caritor y darn. Ni ellir gwadu nad ydyw miwsig yn iaith, ond amhenodol yw, fel cyfrwng i fynegi syniadau. Nid oes i nodyn a chord arwyddocâd mor bendant ag sydd i air, ac oherwydd hynny, y mae'r byrder sy'n rhinwedd mewn dihareb yn anathema mewn miwsig.
Gan mai dewis yw hanfod celfyddyd, da, wrth gwrs, yw tynnu popeth y gellir ei hepgor o gerddoriaeth. Eto, y mae'n rhaid i bob cyfansoddwr ei ailadrodd ei hun; y fformiwlau hyn, yn mynd a dod, sy'n gwneud ei idiom arbennig ei hun. Ond ar wahân i nodweddion y cyfansoddwr, rhaid i fiwsig ail-adrodd cryn dipyn, er mwyn gosod ei stamp ar ein cof. Gynt, nid oedd cyngherddau'n aml, ac ailadroddid adrannau'n gyfain. Nid paent yw diliau tannau; profiad gwrandawr sy'n arhosol. Oherwydd ebrwydded y nodau, rhaid pontio rhyw ychydig rhwng symudiadau gwahanol, a dod hanner y ffordd at y sawl a'u gwrendy. Efallai, gyda'r gramoffôn a'r radio, nad oes gymaint o angen ail-adrodd heddiw ag y bu, ond gellir trethu gormod ar natur dyn. Da, hefyd, yw pwysleisio nad rhywbeth i'w fwynhau, yn unig, yw miwsig. Gall un cord fod yn felys, ond byddai'n afresymol disgwyl i gerddorfa berfformio hyd yn oed ychydig ohonynt; ni byddai'n werth tynhau'r bwa! Rhywbeth cwbl groes i natur, digrif a siomedig ydyw gwaith byr, byr. Yn wir, rhagdybia'r ffurf ddwyran, a'r ffurf deirran fwy cyffredin, nad ystyrir unrhyw osodiad yn gyflawn ar ei ben ei hun. Hoffa'r meddwl gyferbynnu ac amrywio seiniau, a heb hyn, ni cheir mo'r bodlonrwydd sy'n ymateb, yn ôl meddylegwyr gestalt, i waith cyflawn, gorffenedig.
Gall meithter droi'n ddiflastod, yn sicr, ond ni all gorfyrder apelio at neb ond at y sawl a garo bosau.
Wyth neu un bar ar bymtheg ydyw hyd arferol ein brawddegau cerddorol, fel y gellir gweld oddi wrth ein halawon cenedlaethol. Fel rheol, dosrennir y rhain i ddau a phedwar bar, ond ceir eithriadau, e.e., y brawddegau byrion tribar yn Scherzo Beethoven, yn ei Nawfed Symffon, neu rai seithbar yn Nhrydedd Act Meistersingers Wagner. Gall motif fod yn fyrrach fyth. Math ar label cerddorol yw motif, yn crynhoi, yn nwylo meistr fel Wagner, caritor rhyw berson neu sylwedd rhyw feddwl. Enghraifft dda ohono, er ei bod yn un sathredig, ydyw tri nodyn agoriadol Preliwd Rachmaninoff yn C siarp minor. Hyfryted ydyw cyfarfod â'r rhain, dro a thro, ar hyd y darn! Y mae'n syndod gymaint o feddwl a fedr y meistri ei wasgu'i gylch bach. Meddylier am ddyfeisgarwch Beethoven! Oni roddodd bymtheg cynnig o leiaf, ar bedwar bar olaf ei Bedwarawd yn C minor? Ac er ei fod yn rhagweled pob gwaith a luniodd o'i ddechrau i'w ddiwedd cyn cychwyn, eto y mae ei lyfr nodiadau yn llawn o gynigion ar farrau i'w rhoi yma a thraw.
Y ffurf fwyaf cyffredin mewn cerddoriaeth ydyw'r ffurf deirran, er mai dau osodiad a fynegir ynddi, fel yn y ffurf ddwyran, sy'n ysgymun gan y rhan fwyaf o gerddorion diweddar am ei bod yn cyfyngu datblygiad, er gwaethaf gorchestion fel 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech,' y 'Londonderry Air,' rhai o '48' Bach, a 'Harmonious Blacksmith' Handel. Hyd yn oed yn ei ffurfiau symlaf, fel y miniwet a'r trio, pery'r ffurf deirran fyth yn ystwyth a hoyw, a datblygwyd llawer iawn ar y syniad sy'n gorwedd oddi tani. Ceir tipyn o hyd, yn gyffredin, yn yr enghreifftiau cynharaf ohoni; yr oedd yn rhan o'i natur. Pan ddaethpwyd i ddefnyddio offerynnau, nid fel cyfeiliant yn unig, ond i gynhyrchu miwsig annibynnol ar y llais, daeth y syniad teirran i dyfu drachefn, a chafwyd ffurfiau cymharol hir, fel y sonata. Drwy gyfrwng cerddorfa, gellir gwneud llawer mwy nag a fedrai'r llais ei hun ei wneud byth, a dechreuwyd chwilio am lawer dyfais i amrywio'r syniad gwreiddiol, megis cynghanedd neu fodd arall, mydr neu gyweirnod newydd, neu newid o offerynnau llinynnol i offerynnau chwyth. Drwy lawer dull a llawer modd, ceisiwyd cael amrywiaeth heb golli unoliaeth y miwsig, er nad hawdd dadansoddi'r ffurf, yn null y gwerslyfr elfennol, bob amser. Daeth y sonata yn hwy na'r ffiwg, er na ellir hepgor rhyw gymaint o hyd mewn ffurf gryno, wrth-bwyntiol fel yr olaf, ychwaith.
Fel hyn, gall ambell fath ar gerddoriaeth fod yn fyrrach na'r llall, heb golli dim o'i rym. Byr, at ei gilydd, yw pob canu llais, oherwydd gwendid 'y ddynol natur.' Byr ydyw'r siant eglwysig a'r gân werin, a byr yw'r unawd hwyaf, a'r scena fwyaf dramatig. Y mae'n wir bod llawer o benillion yn yr hen faledi, papurau newydd eu hoes, ond byr ydyw'r gerddoriaeth, a chedwid ei diddordeb gan swyn y newyddion a hud y datganwr. Amrywia'r hyd, ambell dro, yn ôl cenhedloedd. Byr yw ein gwynt ni, a chymer y Saeson a'r Eidaliaid lai o gwmpas i nyddu stori na'r Ellmynwyr. Credaf fod tuedd ynom ni at ehediadau rhy fyrion. Hyd yn hyn, ni ddangosasom fawr o fenter gyda ffurfiau hwyaf cerddoriaeth, fel y sonata a'r opera, ac yn sicr y mae llawer o'n miwsig yn hanfodol fyr hyd yn oed pan ymddengys yn hir, megis ym 'Mlodwen' Dr. Parry. Gwelir yr un gwendid, neu'r hoffter o fyrdra, yn ein hunawdau, ac ni ellir amau na wanheir amryw oherwydd hyn. Deil hud yr alaw werin ei afael ynom, fel ym Mywyd y Bugail' Mr. E. T. Davies, a theimlir, yn y rhain, mai rhinwedd yw ei byrder. Ar yr un pryd, nid da bylchu gormod ar ein miwsig. Nid meddwl yr wyf am enghreifftiau fel y pedwerydd symudiad (ar ôl y rhagymadrodd) o 'Dymestl' R. S. Hughes, lle torrir ar rediad y meddwl gan ddiweddeb ac agoriad digywilydd a di-alw-am-danynt: ni falia'r miwsig fotwm corn am ddatblygiad y meddwl. Gwn na all scena fod mor gyfan â chân ddisgrifiadol (ragorol hefyd) fel Berwyn' Vaughan Thomas, ond teimlaf fod torri'r miwsig yn fân-fân, fel y gwneir yn 'Angladd y Marchog' yr un awdur, neu' Ferch y Cadben' R. S. Hughes, yn ei wneud yn aneffeithiol: cyn bod y canwr yn cael ei draed oddi tano, megis, gofynnir iddo dewi. Prin iawn y lluniasom unawdau ar batrwm teirran syml rhai o ganeuon Handel, fel 'Honour and Arms' neu 'Revenge, Timotheus cries,' lle'r adroddir yr adran wreiddiol yn ei chrynswth, er y byddai coda byr, yn ôl amryw o'r beirniaid gorau, yn llawn mor dderbyniol. Credaf fod tuedd yn ein cerddoriaeth ninnau, fel eiddo gwledydd eraill, at grynhoder, ac nid wyf mor sicr a ydyw mor iachus i ni ag ydyw i rai. Collwyd eisoes beth o'n dawn i greu melodi, peth a roddai hyd a hud i'r cerddoriaeth gynt, a thybiaf, ambell dro, bod amryliw tôn, yn unig yn ormod o dreth ar y natur ddynol. Ond arhoser nes dyfod y meistr . . .
1932
Schubert
Yм myd cerdd, eleni, Schubert yw'r enw mwyaf. Bu farw gan mlynedd yn ôl, ar drothwy ei fywyd, heb ddim ond wyth-a-chwech a 'swp o hen fiwsig' ar ei elw. Nid yw mor enwog, ac ni bu mor ddylanwadol â Beethoven, y soniwyd amdano llynedd. Rhed rhai o dueddiadau'r oes yn ei erbyn. Y mae bywyd heddiw yn llawer mwy cymhleth na bywyd doe, a cheisir dod i'r afael ag ef, nid yn null Schubert, ond trwy gynghanedd yr un mor gymhleth. Ni ellir disgwyl i hwn eich bodloni fel y gwnai rhai o'r hen alawon; nid ydyw mor esmwyth a phêr. Mynegiant o fywyd heddiw yw. Nid anelir, bellach, at bereid-der yr alawon gynt, gan nad yw'n gwneuthur dim ond pigo'r gorau oddi ar fywyd, wrth ysgafn redeg drosto. Gellir gweled yr un elfen yn rhedeg ymhob cylch, mewn celfyddyd ddefnyddiol yn ogystal â chelfyddyd gain. Ceisir cyfleu'r profiadau a gewch wrth graffu ar holl agweddau bywyd—eu hacrwch a'u mwynderau. Y duedd, yn wir, yw aros gydag ochrau annymunol bywyd yn unig, a gwneuthur yr eithriad yn rheol. Nid oes dim yn y byd o'r tu allan i fyd cerddorion ein hoes ni. Ni ellir amau na ddengys miwsig diweddar glyfrwch eithriadol wrth reoli ei foddion, ond teimlaf weithiau nad ydyw disgrifiad o ddarn arbennig (un o weithiau Bela Bartok), gan un o fodrybedd yr oes o'r blaen, yn hollol amhriodol. Dywedai ei fod, ar un adeg, yn debyg i sŵn nifer o berchyll, dro arall yn debyg i sŵn cath fach yn rhedeg ar hyd y piano. Yn groes gyferbyn â hyn, ceir miwsig Schubert. Hyfrydwch yw ei nodwedd; alawon hudolus yw ei gryfder. O ran cwmpas, nid ydyw mor llydan â llawer o'n miwsig ni; i raddau helaeth amrywiadau ar un llinyn ydyw. Eto, wrth wrando ar rai o'i ganeuon, 'Hiraeth Cymro,' neu 'Pwy yw Sylvia?' neu lawer o rai eraill—ni ellir peidio â dotio uwchben eu tlysni.
Ganed Franz Peter Schubert yn Wien, prifddinas Awstria, ar y dydd olaf o Ionawr, 1797. Schubert yw'r unig gerddor o fri a gododd o'r ddinas nid anenwog hon, ac ynddi ac o'i deutu y treuliodd ei fywyd byr. Bu farw yn nhŷ ei frawd, ym mlodau ei ddyddiau, ynghanol Tachwedd, 1828, o'r typhus. O ran ei olwg, nid edrychai fel petai llawer o athrylith ynddo. Ni chododd unrhyw storm gyda'i weithiau, ac ni bu ei fywyd yn dymhestlog, gan na serch na siom. Dim byd yn debyg i Wagner, er enghraifft. Edrychwch ar hwnnw. Onid yw'n hawdd ei bigo allan ymhlith y llu sy'n ymblesera ym Mayreuth? A welwch chwi ei ben hir a'i hetan od, ei drwyn a'i ên yn ymwthio allan am y pellaf, y sidan a'r satin a'i boced wâg. Pwy yw'r rhai acw sy'n ei ganlyn fel bytheiaid? Ei wniedydd yw un, ar ôl pres. Merched yw'r lleill, am ei ladd. Dacw ei feirniaid, lu ohonynt, hefyd. Edrychwch arnynt eto. Pwy yw hwnacw, â'r 'Lohengrin' yn ei law, y pen chwith i fyny? Pwy ond Rossini, yn ceisio ei deall y ffordd honno, am nas medrai yr un ffordd arall!' Dacw Sais yn edrych dros ei ysgwydd, ac yn gweiddi—'the limit of hideousness; a distracting and altogether distressing noise; a mere blaring of brass.' A dacw Max Nordau, â'r 'Ring' yn ei law, yn gofyn beth yw onid brefiadau o'r gorffennol pell!' Tyn Wagner storm ar ei ben, gyda'i gyrn pres, yn gynt na'r un ddewines. Ond gŵr hollol groes oedd Schubert. Gŵr byr, afrosgo—aeliau tewion uwchben dau lygad gloywon—yswil, caredig, eilun ei gyfeillion, a gŵr heb elyn yn y byd. Ef yw'r disgybl annwyl ymhlith y meistri—y mae pawb yn caru Kanevas.
Un o'r bobl gyffredin oedd ei dad, ond ysgolfeistr, a'r un oedd gwaith ei fam â gwaith mam Beethoven, coginio. Gall rhai ofergoelus synnu wrth feddwl mai ef oedd yr olaf ond un o bedwar ar ddeg o blant. Yr oedd teuluoedd lluosog yn gyffredin yr adeg honno, hyd yn oed yn urdd y cotiau duon. Carai ei dad a rhai o'i frodyr gerddoriaeth, a thrwy hynny trigai mewn awyrgylch ffafriol i'w ddoniau flodeuo, er nad oedd berygl iddo gael llawer o foethau yn y teulu llawn ond llawen. Blagurodd ei awen yn gynnar, ac ni bu'n hir cyn synnu'r doctoriaid. Dechreuasai gyfansoddi, pan oedd yn aelod, un ar ddeg oed, o gôr eglwysig. Cyn iddo ymadael â'r ysgol, yn ddwy ar bymtheg oed, â'i weill beunydd yn llawn, tynasai sylw ato'i hun oherwydd ffrwythlondeb ei athrylith. Yna, er mwyn dianc rhag mynd i'r fyddin, aeth yn ysgolfeistr, gan gyd—letya â bardd, a'i waith, bellach, oedd gosod rhai o benillion ei gyfaill ar gân. Perthyn rhai o'i ganeuon gorau, fel yr 'Erl-King' a'r 'Ave Maria,' i'r cyfnod cynhyrchiol hwn ac nid yw'n syn bod gwrid ieuenctid arnynt. Cynhyddodd ei gyfeillion, yn eu plith y pendefig Esterhazy, ac yn 1818 fe'i cewch yn mynd i fyw i'r wlad, at ei noddwr ac at Carolin Esterhazy, i'r hon y cyflwynodd, yn ddiweddarach, bopeth a ysgrifennodd. Ymddengys mai tlawd iawn oedd o hyd, er ei fod yn iach a hapus yn enwedig yng nghwmni ei gyfeillion. Nid oedd ganddo ddim dawn at fusnes, ac fe'ch atgoffhâ am R. S. Hughes mewn llawer o bethau. Gwerthodd ddegau o'i ganeuon am lai na swllt yr un, a'r Trio godidog yn E fflat am lai na phunt. Dyna ddagrau pethau, yng nghofnodion gwŷr o athrylith.
Nid oedd raid iddo ymboeni wrth gyfansoddi, ac odid nad oedd ei rwyddineb yn fagl iddo. Nid arferai gynllunio ei weithiau, na'i hail—ysgrifennu, ac oherwydd hynny ceir peth diofalwch yn gymysg â fflachiadau ei athrylith. Wrth ddarllen gweithiau Shakespeare, tynnodd 'Hark! Hark! the Lark!' ei sylw, ac ar ei union gwnaeth gân iddynt, ar gefn carden fwyd. Nid oedd ball ar ei awen, ni flinai ac ni ddiffygiai; neu os diffygiai troai i ganu cân arall. Syn yw meddwl i lawer o eiriau mor sâl ei ysbrydoli. Gwyddys am ryw chwechant o'i ganeuon, ond bernir bod o leiaf gant wedi eu colli. Ni ddarganfuwyd ei Symffon enwocaf,—honno nas gorffennodd,—am flynyddoedd ar ôl iddo farw, gan mor esgeulus oedd, hyd y diwedd. Achwynir yn yr adroddiad diwaethaf ar y Gymraeg mai tila yw geiriau rhai o'n caneuon gorau ni fel Cymry. Nid heb achos. Llipa odiaith yw llawer o'r geiriau a ddewisodd Schubert, ac nid oes ond rhagoriaeth digymar y miwsig yn eu cadw'n fyw. Canodd Schubert amryw operau, ond croeso truenus a gawsant, gan mor llymrig oedd y testun. Dywedai Schumann y medrasai roi placard ar gân. Nid oedd ganddo chwaeth lenyddol o gwbl, ac apeliai penillion seilwon ato mor rymus â rhai llawer godidocach. Fel y Dr. Parry ac R. S. Hughes, ni feddai allu diogel i ddewis geiriau safonol, ond fel y ceir gweled, da oedd iddo ddewis unrhyw eiriau.
Nod rhagorol ei holl weithiau ydyw'r cyfoeth o alawon sydd ynddynt. Nid oes neb o'r meistri'n agos ato am ffrwythlonrwydd melodig ei awen. Yr oedd ffurf y sonata wedi ei pherffeithio cyn ei amser ef, dan law Beethoven yn bennaf. Ymddangosodd y Symffon Anorffenedig ychydig cyn cyhoeddi Nawfed Symffon Beethoven, yn 1823. Ni feddai na chynildeb na chydbwysedd, mwy na natur feiddgar ei gydgerddor. Ddeng mlynedd ar ôl iddo farw, wrth chwilota yng ngharred y tŷ lle trigai Schubert gynt, darganfu Schumann ei Symffon yn C major, ac ysgrifennodd yn y Neue Zeitschrift: Yn hon, cawn feistrolaeth lwyr ar gelfyddyd cyfansoddi, ynghyd â bywyd ymhob gwythïen, wedi ei liwio'n fanwl i'r eithaf . . . . ac ar y cwbl chwery llewyrch o'r Rhamantiaeth sy'n nodweddiadol o Franz Schubert. Ac wedyn mor nefolaidd o hir yw'r Symffon . . . heb allu byth dod i ben . . . er mwyn gadael i'r darllenydd grwydro yn ôl ei ewyllys fwyn ei hun.' I lawer, nid yw parhâd anorffen cerdd yn ddim ond cyfystyr â diffyg ffurf a thlodi meddwl, ac un o ragoriaethau Schubert yw mai anaml y tery hynny i'ch meddwl wrth wrando ei weithiau. Gellid, er hynny, gwtogi rhai ohonynt heb eu niweidio, ond nid yw ei hyd yn eich tarfu, fel tiwn gron—y mae'r rhediad melodig yn rhy nodedig i hynny, a'r miwsig yn rhy amryliw. Eto ei ganeuon byrion, ar eiriau digon cyffredin yn aml, yw ei ganeuon gorau. Yn y rhain, y mae'n rhaid iddo ddiweddu, ac y mae'r angen am roi cengl ar ddarn yn rhoi eneiniad ac argyhoeddiad ynddo, mewn dull llai
gwasgarog nag yn ei ddarnau meithaf. Disgleiria'r rhain fel diemwnt, heb nam arno, a'r rhain sy'n gwneuthur ei ganmlwyddiant yn ymarferol.
1928
Beethoven
I
Y MAE can mlynedd er yr adeg y bu Beethoven farw. Deallai ei oes, ac ef ei hun, ei fod yn ŵr o athrylith, ac eleni, unai pawb, ymhob man, i roi sylw i'w waith, a'i ddyrchafu. Canwyd ei unig Oratorio, yn rhagorol, yng Ngŵyl Harlech; perfformiwyd ei Symffon orau yng Ngŵyl Aberystwyth; gwasgarwyd ei fiwsig drwy'r wlad ar y diwifr; ac yn Llundain, y lleiaf cerddgar, efallai, o ddinasoedd Prydain, bu llwyddiant pedwarawd Lener yn ddisglair dros ben. Am y dyn, Beethoven, nid oedd hwnnw mor hawddgar â'r cerddor. Ni fedrai ddygymod â mân reolau bywyd, amheuai gymhellion ei gyfeillion gorau, ac yr
oedd yn oriog a checrus, ac anodd oedd i neb gydfyw ag ef. Brwydr galed oedd ei fywyd, o'i ddechrau i'w ddiwedd, ac ni thywynnodd ond ambell lygedyn o heulwen arno, o lygaid ei fam, neu o wên un o'i gariadon, neu o guro dwylo rhai o'i edmygwyr. Ychydig cyn iddo farw, daeth alawon Rossini i ennill clust y dyrfa, gyda'u melyster rhedegog, a gwthiwyd Beethoven o'r neilltu. Bu farw'n dlawd, fel nifer o'i ragflaenwyr, eithr nid heb gyfoethogi bywyd dros byth. Creodd gyfnod newydd mewn miwsig, nid yn gymaint trwy ddryllio hen ffurfiau cerddorol a thaflu pob traddodiad i'r gwynt, ond trwy eu datblygu, gyda moddion a meddyliau newyddion. Nid miwsig darfodedig a adawodd ar ei ôl, ond miwsig sy'n synnu'r byd fwyfwy o hyd. Deil i godi pob oes i'r uchelfannau, ac wrth ddisgyn i wastadedd bywyd, ni all neb lai na theimlo bod gwaed ei galon wedi ei drwytho o'r newydd gogyfer â'r brwydro beunyddiol.
Rhedai gwythïen gerddorol yn nheulu Beethoven, ond ymdebygai'r cerddor ieuanc fwy i'w daid nag i'w dad. Gŵr afrad, ofer, oedd ei dad, ac nid enillodd barch ei fachgen o gwbl. O'r ochr arall, melys oedd atgofion Beethoven am ei daid, yr hen ŵr llawn o ynni, ac o ysbryd cerddorol, annibynnol. Gwraig alluog oedd ei fam, yn llawn o serch tuag at ei bachgen, ac iddi hi, nid i'w dad, y rhoddai yntau ei gariad. Ganed ei mab, Ludvig von Beethoven, yn un o saith o blant, yn Rhagfyr, 1770, yr un flwyddyn ag y ganed Hegel a Wordsworth. Daeth ei allu cerddorol i'r golwg yn gynnar, a threuliai oriau benbwygilydd i ymarfer ar y crwth a'r clafier. Yn 1787, aeth i Wien, ac yno cyfarfu â Mozart, ond bu raid iddo ddychwelyd yn ôl i Fonn cyn sefydlu yno, oherwydd marwolaeth ei fam. Gŵr byr, braidd yn drwchus oedd, ag wyneb llydan, deallus, a chwmwl o wallt crychddu hir; swta ac anesmwyth oedd ei ddull; ac ni chymerai fawr o ofal am ei wisg na'i dymer. Erbyn 1792, yr oedd y 'tair caib' yn dechrau chwalu uchelwyr yr Almaen, fel yr oeddynt wedi dadwreiddio gwŷr y llys yn Ffrainc, ac oherwydd ffoi o'r Etholwr o Fonn, collodd Beethoven ei noddwr, ac aeth yntau ar ei ôl i Wien, yno i eistedd dan Haydn. Nid oedd y ddau gerddor yn gweddu i'w gilydd, ac anodd, onid amhosibl, oedd dofi'r ieuengaf. Unwaith beirniadai cyfaill ef am ddefnyddio pumedau dilynol, gan fwrw bras—olwg ar arfer y Meistri, ond nid oedd dim yn tycio, ac o'r diwedd dywedodd Beethoven yn swta a chroesYr wyf fi'n dweud eu bod yn gywir.' Nid oedd ryfedd i Haydn ei alw yn 'Fogwl mawr—yr oedd mor annibynnol a chyfiawn! Eto, onid oedd yn hawdd i'w argyhoeddi, medrai ei feirniadu ef ei hun yn llym, ac er mor afrywiog oedd ei dymer, llwyddodd yn fuan i ennill cyfeillion. Yr oedd eisoes wedi cyfansoddi nifer o weithiau bychain, ond ei glod fel chwaraewr oedd amlycaf yr adeg hon, hyd yn oed yng ngolwg Haydn ei hun. Gyda thro'r ganrif, daeth un o drallodion mwyaf ei fywyd drosto. 'Truenus,' meddai, 'yw fy mywyd; ers dwy flynedd yr wyf yn gorfod ffoi o bob cwmni, am na fedraf fy nwyn fy hun i ddweud wrthynt, Yr wyf wedi colli fy nghlyw.' Trist yw darllen ei ewyllys; rhed digalondid a siomiant trwyddi. Onid y tristaf o bob tristwch ydyw gweled cerddor, yn wyth ar hugain oed, yn methu â chlywed cân y bugail, a chân aderyn? Er hynny, ni thorrodd ei galon. Daeth ysbryd dyfnach a mwy angerddol nag o'r blaen i'w waith, a daeth yn anhraethol fwy personol. Erbyn 1808, yr oedd wedi ymfodloni i'w dynged, a deisyfiad cerddorol o'i ewyllys yn goresgyn ei drallodion, yn ôl pob tebyg, ydyw'r Bumed Symffon. Ymhyfrydai yn nhlysni natur o hyd, a chronnir ei hyfrydwch yn ei Symffon Fugeiliol. Nid oedd ball ar ei ddychymyg a'i ddyfeisgarwch, a'r tymor 1804-14 oedd tymor ffrwythlonaf ei fywyd. Fel gwerinwr, yr oedd y Chwyldro Ffrengig wedi cynhesu ei waed, a llenwi ei feddwl â dyhewyd cynnes. Rhoes enw'r Conswl cyntaf ar ei Symffon, Eroica, ond syrthiodd ei eilun ar ôl gwisgo'r porffor brenhinol, ac arwr delfrydol oedd testun ei ganu mwy; yn wir, siomedig oedd pob symbyliad gwleidyddol a deimlodd. Ynghanol prysurdeb a thlodi, daeth finale i'w yrfa yntau, a bu farw, ar ôl cystudd byr, ym Mawrth, 1827. Symudwyd ei gorff ddwywaith o'r bedd, a gorffwys ei weddillion heddiw yn agos at feddau Mozart a Schubert, ym mynwent Simmering, yn Wien—os gellir dychmygu bod un mor anesmwyth ag ef yn gorffwys yn unman!
Yr oedd yn byw yn niwedd y ganrif bwysicaf i gerddoriaeth, pan oedd ysbryd rhamant yn adfywio ymhob rhan o'r gorllewin. Cerddoriaeth oedd prif ddifyrrwch y ganrif. Cymerai pawb ddiddordeb ynddi, a cheir athronwyr fel Rousseau yn cyfansoddi miwsig, a cherddorion fel Rameau yn ysgrifennu athroniaeth. Ynghanol y berw hwn, yr oedd offeryn cerddorol newydd, y piano, a gellir dweud bod hwn a'r ymdeimlad newydd o urddas y dyn cyffredin wedi newid cwrs cerddoriaeth bron ymhob cyfeiriad. Foneddigion,' meddai Ffredrig Fawr yn 1747, 'y mae'r hen gerddor wedi dod.' Bach oedd yr hen gerddor, ac wedi dod i weld clafier newydd y brenin yr oedd. Aeth yn frwdfrydig yn ei gylch, ond ni bu ganddo ei bianoforte, fel y'i gelwid, erioed. Erbyn oes Beethoven, ar y llaw arall, yr oedd wedi dod yn gyffredin. Fel y dengys ei enw, offeryn oedd y pianoforte a roddai sain isel neu uchel yn ôl yr ergyd a roddai'r morthwylion i'r llinynnau. Taro'r nodau a wneid, yn wahanol i'r dull o ganu'r delyn, a'r crwth, a'r offerynnau chwyth. Yng nghyfnod Mozart, staccato oedd pob miwsig a genid ar y piano, ond erbyn amser Beethoven yr oedd yr acsiwn wedi ei berffeithio gymaint fel y gellid canu'n llyfn arno hefyd. Nid oedd ryfedd, felly, i Feethoven gyfansoddi darnau yn arbennig i'r offeryn newydd, oherwydd ar gyfer hwn yr ysgrifennodd ei sonatau, ffurf gerddorol debyg i'r soned, lle datblygir syniad neu ddau bob yn ail, mewn rhyw dri neu bedwar symudiad, drwy eu hailadrodd a'u hateb mewn cyweirnodau, ac ar fydrau gwahanol. Yn unol â theimlad yr oes, gŵr o deimladau cryfion, cyffrous oedd Beethoven, a gosododd ei ddelw ar ei fiwsig. Yn aml, y mae'n fywiog a gwyllt, y mae'r curiadau'n aflonydd, a'r acennau'n rhuthro'n sydyn arnoch. Nid oes ar ei fiwsig ef fawr o ôl gweddi ac ympryd, fel ag a welir ym miwsig Bach, ac nid wrth fynegi hiraeth am farw, fel Bach, y cyfansoddodd ei fiwsig melysaf. Sylwer ar dôn fel Mannheim, a ddefnyddiwyd mor rhagorol gan Fach ym Miwsig y Gofid, a cheir gweled fod ei theimlad yn dawel a phell, megis mewn byd arall, rhagor y teimlad byw, cynhyrfus a geir ym Meethoven. Ni allasai Beethoven fynegi teimladau ffrwydriadol ei fynwes ar yr hen delynau. Darganfu'r piano, fel y darganfu Wagner, ar ei ôl, offerynnau chwyth. Hawdd oedd mynegi ei gyffro ar y piano. Ar ôl cael blas ar yr argraffiadau newydion, defnyddiodd yr un moddion dynamig, nid mewn miwsig i'r piano'n unig, ond ymhob math ar gyfansoddiad. Daeth â rhagor o offerynnau i'r gerddorfa; gofynnodd am ddrwm yn ychwaneg, am symbalau, ac yn y blaen. Ni fedrai ddioddef miwsig tawel, undonog, yn hir; yr oedd lliw, mewn mydr ac acen a thôn, yn anhepgor iddo. Brithir ei weithiau â sfz, newidir yn gyflym o p. i ff., cyflymir yr amser yn sydyn, a chroesir yr acen drom a'r acen ysgafn, fel y bo'r gofyn. Cerir ei ddulliau i eithafion heddiw, nid yn unig gan fand jazz y Savoy, ond gan gerddorion fel Holst a Stravinsky; ni all ein cerddoriaeth eiddil ni ddal y driniaeth.
driniaeth. Ochr yn ochr â'r duedd hon, hefyd, ceir adwaith yn ôl at gerddorion y cyfnod Protestannaidd, at Byrd, Robert Jones, a Purcell, ac at fiwsig Bach, yn arbennig. Yn y cyfnod cynnar hwn, nid oedd bariau'n bod fel yn awr, a dibynnid mwy ar frawddegau cryno, deallus, nag ar rediad mydryddol safonol i roi ffurf i'r miwsig. Ymgais i fynd yn ôl at hyn ydyw'r dull newydd a gais Syr Walford Davies ei ddwyn i siantio'r eglwys: gwelir nad newydd yw pob peth a gyfrifir yn newydd.
II.
Ymddangosodd y Chwyldro Ffrengig ar ddu a gwyn cyn cymryd y Bastille; nid ymgais i gyfiawnhau unrhyw weithred a oedd wedi digwydd yw'r Contrat Social. Cyn i'r Chwyldro chwalu'r llysoedd, sonnid llawer am hawliau'r wladwriaeth, ond fel casgliad o unigolion y meddylid amdani. Hon yw'r adeg y dyrchafwyd y dyn cyffredin uwchlaw popeth; golygai 'rhyddid' ryddid i bob dyn i'w ddatblygu ei hun; golygai cydraddoldeb' roddi i bob dyn yr un siawns mewn bywyd â'i gilydd, golygai 'brawdgarwch' fod dynion o bob gwlad yn frodyr i'w gilydd. Pan ddysgwyd bod pob dyn yn gydradd'—as all pennies are equal, because the only value they have is that they bear the image of the King'—cododd awydd i ddisgrifio pob teimlad dynol. Ceir bron pob teimlad a gyffyrddo dyn llawenydd, tristwch, hyd yn oed arabedd—ym Meethoven; ni chyfyngodd fiwsig i'r teimlad crefyddol, neu i droeon serch yn unig. Wrth ganu ei brofiad ei hun, fel Williams, Pantycelyn, a sylfaenu ei gelfyddyd ar wir deimlad y galon, gwelodd nad y ffurf a'r moddion oedd oruchaf mewn bywyd. Cymerodd ffurf y sonata, a ffurfiau eraill, oddi wrth Mozart a'i ragflaenwyr, ond gyda threigl amser ni ormesodd un ffurf arno, eithr plygai ef bob un er mwyn cyrraedd ei amcanion. Yn ei unig oratorio (a ganwyd yn Harlech, eleni), ni ddilynodd y traddodiad crefyddol ymhob peth. Er enghraifft, nis dilynodd wrth roi gwaith Crist i denor, ac ar alawon blodeuog, mewn cysylltiad â lleisiau eraill, ambell dro; pes dilynasai, yn lle benthyca arfer operataidd, rhoddasai ran Crist i fass urddasol, ac adrodd—ganu'n unig; a diweddodd ei nawfed symffon gyda chorawd lleisol, Eto, ym 'Mynydd yr Olewydd,' hawdd yw gweled ôl Mozart yn saerniaeth ddiatonaidd syml yr Haleliwia olaf, yn ei ddull o ymdrin â'r themau ffiwgal, hyd yn oed yn y rhagymadrodd offerynnol iddynt. Er hyn i gyd, rhoes rywbeth cyfriniol, haws i'w deimlo nag i'w ddiffinio, rhyw angerdd dwfn ac agos yn ei gân. Cwyd miwsig Beethoven chwi bob amser, ond nid i dir lle meddyliwch na fedr dyn fyw ynddo. Nid oes ganddo ganeuon poblogaidd fel Erl King' Schubert, neu gorawdau enwog enwog fel 'Teilwng yw'r Oen' Handel. Eto, rhoddai stamp athrylith ar bopeth a wnâi, ac at yr ysbryd beiddgar, pybyr a'i nodweddai bob amser, yr oedd ganddo'r cynildeb a'r gallu i gymhwyso'r dull at y defnydd a fedd y Meistri ymhob math ar gelfyddyd.
Llwyddodd fwy yn y cyfeiriad offerynnol nag yn y cyfeiriad lleisiol, ac ystyrir ei Nawfed Symffon fel un o weithiau godidocaf y ddaear. Perfformiwyd hi, y tro cyntaf, yn Wien, ym Mai, 1824. Bu Beethoven yn gweithio'n hir i'w chyfansoddi, a gwawriodd y syniad o'i gorffen gyda chorawd lleisiol arno mor bell yn ôl â 1793, pan gariai lythyr at chwaer Schiller, lle dywed ei fod yn bwriadu gosod cerdd ei brawd i Lawenydd ar fiwsig. Bu'n petruso'n hir, ac ddiweddar â 1823, a orffennai'r symffon yn y dull arferol ai peidio, ond o'r diwedd y finale lleisiol a orfu, ac felly cymer y symffon beth o nodwedd cantata hefyd. Yn yr allegro dechreuol, rhoddir llais i ddirgelwch bywyd. Gwna hyn trwy adael trydydd y cord allan, a thrwy hyn ni ellir bod yn sicr ai yn y cywair llon ynteu'r lleddf y cân. Yn ei ysgîl, daw cyffro nodedig, yng nghryndod y llinynnau a chynnwrf y mydr, ac o hyn drachefn ceir miwsig i ddisgrifio'r ymdrech, yn antur dyn, rhwng elfen weithredol ac elfen asetig ei bersonoliaeth. Yna ceir scherzo hynod o gyflym, a solo swniog, nodweddiadol i'r drwm; gellir dehongli'r symudiad hwn fel lleferydd i lawenydd dyn, a'i hoffter o'r nwyfiant a'r prysurdeb, a'r ynni sy'n gweddu i ieuenctid. Cymhwysa'r symudiad araf amrywiadau, llawn o dynerwch, ar un o alawon hudolus y cerddor. Ar ôl hyn, ceir dadwrdd ofnadwy fel pe bai pawb, mewn cyfarfod lluosog, yn dechrau siarad ar unwaith â'i gilydd! Ni all sŵn fel hwn ddal yn hir, ac o'r diwedd, rhoddir cerydd iddynt, drwy'r ffidlau mawrion, urddasol, yn ôl dull cadeirydd, mewn adrodd—gân offerynnol, llawn o awdurdod a difrifwch. Ar ôl tawelu ennyd, cyfyd y dadwrdd eilwaith, fel pe bai holl leisiau'r greadigaeth yn galw am rywbeth a'i bodlonai—rhyw ddyhead mor llydan â'r byd i'w cysuro. Ar hynny, geilw'r cadeirydd am ychydig fariau o'r symudiad cyntaf i gyd, ond gwrthodir yr awgrym yn fuan ac yn bendant. Yna cais y scherzo ei gymeradwyo'i hun, ond ni fynn y cyfarfod mohono yntau chwaith. Edrycha'r rhagolygon yn ddu, a chynigia'r symudiad araf, tyner ei hun, dim ond i'w guro i'r llawr ar unwaith. Cais y cadeirydd, wedyn, am rywbeth gwell, hollol newydd, ac ar ôl edrych o'i ddeutu ychydig, tarewir pedwar bar o diwn nas clybuwyd o'r blaen. Yna'n ebrwydd, codir cri 'Dyna hi! Am honyna y buom yn disgwyl! Hai ati!' Nodau syml sydd iddi, yn symud i fyny ac i lawr i'r raddfa, nes o'r diwedd y disgyn, mewn un lle, ac un lle'n unig, i nodyn isel, isel. Ar ôl datblygu'r felodi i gyd, dyma ddadwrdd eto, fel pe bai pawb, unwaith eto gyd â'i gilydd, am ddweud eu barn amdani. Yna distewi drachefn, i'r cadeirydd drwy unawd leisiol i faswr y tro hwn, eu ceryddu fel hyn: 'O gyfeillion! Dim rhagor o'r sŵn! A gawn ni'n hytrach ganu rhywbeth mwy siriol, a llawnach o lawenydd.' Gyda hyn, daw'r corawd y soniais amdano, ar eiriau Schiller.
Ni ddefnyddiodd Beethoven holl benillion Schiller ychwaith. Gadawodd allan hwnnw lle yfir iechyd da i Dduw. Yr oedd cariad at ddyn, fel dyn, yn nwyd angerddol ym Meethoven, bob amser, er ei fod yn credu yn Nuw hefyd. Ym Mynydd yr Olewydd,' fel y gwelsom, rhoes amlygrwydd i bangau'r 'dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo.' Dywedodd Golyddan am Grist Iesu,
'Dyn wyf, a gwan, ac ofnaf megis dyn.'
a dilynodd Beethoven yr un syniad, i'w orffen, yn null un o'n pregethwyr gorau—(a) Dyn ynghanol dynion; (b) Dyn uwchlaw dynion; ac (c) Y Dyn i ddynion. Yn awr, wrth ganu i frawdgarwch dyn, yn y Symffon ogoneddus hon, y mae'r elfen ddynol yn amlwg dros ben. Ar ôl, dechrau'r alaw newydd, fe'i hamrywir, mewn dull sy'n dramgwydd i rai, am ei fod yn eu hatgoffa o ymdeithgân filwrol.
Haste, ye brothers, to your goal,
Joyful as a knight victorious
y rhain yw'r geiriau, a dechreua'r miwsig gyda nâd ryfedd gan y basŵn; dilynir hon gan sŵn annaearol ar y drwm a'r symbalau. Dywedir mai'r gargoyle mewn miwsig ydyw, a'i bod yn profi na ellir cael prydferthwch uchel oni thelir toll i hylltra hefyd. Fel y rhed yr amrywiadau ymlaen, bob un ar ôl ei gilydd, y mae'r corawd yn mynd yn neilltuol o anodd i'w ganu, yn ôl safon leisiol o farnu. Yn ei ysgolion canu, yr oedd Beethoven yn feistr didrugaredd, a dywedai wrth bawb a gwynai wrtho eu bod wedi eu difetha'u hunain wrth rygnu alawon Eidalaidd masw! Ni allodd neb ei berswadio i newid yr hyn a ysgrifennodd, ac yn y prestissimo sy'n diweddu'r corawd hwn, gorfodir y lleisiau soprano i ganu am fariau benbwygilydd, ar yr A uchaf. Pe bai Beethoven yn medru clywed, efallai y gellid ei argyhoeddi fod hyn yn ormod o dreth ar unrhyw lais, ac yn arbennig ar leisiau côr, eithr onid yw'r miwsig bob amser yn dlws, eto y mae rhyw fawredd rhyfedd ynddo, a rhuthr a gollyngdod dihefelydd.
Chant one greeting, myriads countless,
Peace on earth, to man good will!
Brothers o'er the starry span,
Lo a loving Father sitting,
Gladness! daughter of Elysian race,
Gladness! fairest born of Heaven!
Oni ofynnai'r testun am ganu gogoneddus? Sut y gellid ei angerddoli wrth ffoi i'ch cragen eich hun, wrth chwarae'n ysgafn ag ef, wrth weu brodwaith telediw o'i gwmpas? Gofynnai am foddion ac ysbryd hollol newydd. Gwelodd Beethoven hyn, a hyn yw dirgelwch ei ogoniant.
1927
Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.