Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Breuddwyd Gwraig y Calchwr

Oddi ar Wicidestun
Cwrt y Felin Wynt Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Pennillion (3)

BREUDDWYD GWRAIG Y CALCHWR.

DYWEDER a fyner, y mae rhyw beth rhyfedd, a rhyfedd iawn, weithiau mewn breuddwydion; ac o bob peth a berthyn i'r bywyd presennol, nid oes, ond odid, ddim anhawddach rhoddi rheswm am dano a'i egluro yn foddhaol na gweledigaethau cwsg. Llawer y sydd wedi eu hysgrifenu ar y pwnc; ond hyd yn hyn y mae yn gorwedd mor dawel ag erioed o dan orchudd anhydraidd tywyllwch; ac yno y rhaid ei adael.

"Mae mwy o bethau yn y nef a'r llawr
Nag a ddychymmyg eich athroniaeth chwi."

Nid yw yr hanesan ganlynol, yr hon a adroddir gan yr un yr achubwyd ei fywyd, ond un o blith llawer a ellid eu cofnodi, neu y sydd wedi eu cofnodi eisoes; ac nid yw yn tueddu yn y mesur lleiaf i chwalu dim ar y dyryswch, ond yn hytrach chwanegu ato. Y mae ei dyddordeb yn gynnwysedig yn fwy yn y gwr y breuddwydiwyd o'i achos, nag yn arbenigrwydd y breuddwyd ei hun.

Iolo Morganwg, wedi dyfod o Lanrwst drwy Benmachno a Ffestiniog, Maentwrog a Thrawsfynydd, i Lanelltyd wrth Ddolgellau, yr oedd yr hwyr wedi myned cyn belled i'r nos fal nad oedd gobaith cael tŷ yn agored, na neb a godai yn Nolgellau, yn gyfun a llawer prawf a gafas ef yng Ngwynedd. Gweled odyn galch yn Llanelltyd, efe a ddodes ei faich llyfrau a phapyrau i lawr, ac a eisteddodd ar arffed yr odyn; ac o'r diwedd daeth trymgwsg arno, a gorwedd a wnaeth ar ystyllen yn lled agos i'r odyn, er mwyn cynhesrwydd. Ychydig wedi tori gwawr, dyma hen wraig brydferth yr olwg arni yn taro ei dwylaw arno, ac yn ei ddihuno o'i ddargwsg trwm mogedig, ac efe braidd yn gallu anadlu gan fogiant, a chaethiwed mynwes. A'r hen wraig a lefarodd fal hyn: "Pwy ydwyt ti, druan? Duw a'th fendithio, pwy bynnag ydwyt. Oni buasai i mi ddyfod yma, ti a fuasit farw; mi a wn yr awran yr achos nas gallaswn gysgu na gorphwys yn fy ngwely; clod i Dduw am hyny, ac imi ddwad yma i sefyll dy fywyd."

Gwraig y calchwr ydoedd hi; a hi a wiriodd yn ddwys ddifrifol ei bod dros ddwy-awr, neu fwy, yn ffaelu bod ennyd fechan yn esmwyth, gorff na meddwl, yn ei gwely, gan megys rhyw beth yn dywedyd wrthi fod rhyw wall neu arall ar yr odyn, neu o'i chylch, yn gofyn dyn yno i'w ddiwallu. Hi a ddihunodd ei gwr, ac a ddywedodd ei meddwl; ond megys chwerthin am ei phen a wnaeth ef, a cheisio ganddi orwedd yn llonydd yn ei gwely; eithr cyn gynted ag y gwelodd hi wawr, codi a wnaeth, a dyfod at yr odyn. Hi a ddywedodd i amryw o fewn i'w chof hi golli eu bywydau wrth orwedd a chysgu ar arffed yr odyn; tach yr odyn yn eu dianadlu yn hollol.

Mehefin y 19dd, 1799, y bu hyn.

Nodiadau

[golygu]