Ystên Sioned/Bwci Bryn Rhosog
| ← Llen y Milod | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Ysgolheigion Ystrad Meurig → |
BWCI BRYN RHOSOG.
BRYN RHOSOG sy gefn noethlwm anffrwythlawn ym mhlwyf Llanilar, yn Sir Aberteifi. Amgylchynir ef gan rai ffermau rhagorol. Bu llawer cynnyg ar ei amaethu, ond tebygol yw ei fod yn ddaiar wael; ond mwy na'r cwbl, mae y lle "wedi ei reibio." Beth bynnag yw y rheswm, diffrwyth y myn fod, a digon digynnyrch. Hen ros arw ydyw, fel y mae yr enw yn dangos, lle na fyn yr un creadur defnyddiol fywiolaethu arno; ond gellir ei alw yn baradwys brogaod, cornicyll y waen, y crychydd, ac yn benaf o'r cwbl, y bwci, neu fwgan, neu fwbach. Ond y blaenaf o'r enwau hyn ydyw enw priodol y bod lledrithiol ag y sydd yn cyfanneddu y rhosydd hyn, er ys rhai oesoedd, gellid tybio.
Bydd y bwci yn ymddangos weithiau yn debyg i ddyn; bryd arall fel rhyw fwystfil cymmysgryw; ond y rhan amlaf yn belen fawr o dân yn treiglo dros y lle gyda chyflymder. Canfu yr ysgrifenydd y tân er ys llawer blwyddyn yn ol; ond ni fu yn agos ato; barnai ar y pryd, er hynny, ei fod yn llawn digon agos. Yr oedd anghredwyr yn y byd y dyddiau hynny, ond ychydig nifer oeddynt; ond yr oedd corff y boblogaeth yn uniawngred ar y pwnc. Barnent taw ymwelydd diammheuol o fyd arall ydoedd, ond nis gallent ddychymmygu yr achos o'r ymweliad. Bu llawer un yn bwriadu crynoi digon o wroldeb i fyned yno i'w holi beth oedd ei neges, ond yr oeddynt yn rhy ddigalon i gario eu penderfyniad allan; ac nis gwyddom ond am un erioed yn ystod yr holl amser a fu yn ddigon gwrol i wneyd y cynnyg. Hwn oedd ddyn a adwaenid wrth yr enw Siacci Lletty Sinsir. Haerai rhywrai nad oedd Siacci yn "llawn llathen" o fesur, fel y dywedir; ac eto, ym mha beth yr oedd y diffyg, yr oedd yn anhawdd gwybod. Cymmerai arno ei fod yn feddiannol ar y dawn barddonol, a byddai yn adrodd ambell rigwm o'i gynnyrchion ei hun yn fynych wrth y cymmydogion; a chan fod y bwci yn destun siarad bob amser ym mron, a phawb yn teimlo ei bod yn drueni na byddai rhywrai yn anturio ato er mwyn i'r yspryd gael llonyddwch, yn gystal a'r cymmydogion dychrynedig ar ol hyn. Teimlodd Siacci mai efe oedd yr unig un teilwng at y gorchwyl, a chyfansoddodd ddwy linell farddonol mewn ffordd o ofyniad iddo.
Rhyw noson dywell aeth wrtho ei hun (nid yw ysprydion byth yn dewis cwrdd â dau) tua'r Rhos; arosodd yno hyd hanner nos i'w ddisgwyl; a thoc dyma y bwci yn dyfod ar lun "rhywbeth tebyg iawn i ddyn," ac yn sefyll ar gyfer Siacci, yr hwn a'i cyfarchodd fel hyn:
"Bwci Bryn Rhosog,
Ar bwy 'r wyt ti'n gosod?"
Ond druan o Siacci! yr oedd y bwci yn gystal bardd ag yntau, a gwell hefyd, o herwydd fe'i hatebodd mewn mynyd â'r ddwy linell a ganlyn:
"Arnat ti, Siacci,
Os dali di ati."
A chyda hyn gwelai dân yn saethu allan o eneu y bwci, a hefyd o'i ddau lygad, y rhai oeddynt (fel y dywedai ein harwr) gymmaint o faint a'r ddwy lamp a welsai yn yr eglwys fore'r plygain.
Methodd Siacci, druan, "ddal ati," a ffwrdd yr aeth nerth ei bedion, nas gwyddai yn y byd i ba le. Cafwyd ef bore drannoeth tua chwe milltir oddi yno, heb wybod dim wrtho ei hun. Cludwyd ef adref mewn trol, a bu yn sal iawn mewn twymyn am bum wythnos; gwellaodd yn raddol, ond ni ddaeth "byth yr un dyn" ar ol y tro hwn.
Terfynwn hyn o hanes (fel y dywed y "geneuau cyhoeddus") gydag ychydig o gasgliadau oddi wrth yr hyn a adroddwyd. Gwelwn, yn gyntaf, ei bod yn rhy beryglus i neb, pwy bynnag a fyddo, fyned i geisio gwybod dim o'r dirgelion sydd yn guddiedig gan fodau tanllyd o fyd arall; ac yn ail, taw ffolineb yw i'r beirdd ymgystadlu â bwciod, o herwydd maent yn deall yr odlau yn llawer gwell na beirdd daiarol, fel y gwelir uchod; a'n bod ninnau, fel beirniaid cydwybodol, yn rhoddi y wobr i'r bwci am y cyfansoddiad goreu a fu yn y gystadleuaeth nosawl a gynnaliwyd ar y Bryn Rhosog.