Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Bwci Melyn Bach y Cwm

Oddi ar Wicidestun
Cwpan Nant Eos Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Pennillion (2)

BWCI MELYN BACH Y CWM.

NID yn gyffredin y mae bwciod neu ysprydion plant i'w gweled neu i'w clywed, ac nid yn fynych y cofnodir eu bod yn arfer ymrithio ar lun plentyn; ond y mae hynny yn dygwydd ambell waith; a hynny, mae yn debyg, pan y byddo plentyn diniwed wedi cael cam gan rywrai, neu, ef allai, wedi cael ei lofruddio gan ryw anghenfil neu anghenfiles yn dwyn delw dyn. Eithr y mae yspryd plant weithiau yn ymlwybran ar hyd y ddaiar ac yn aflonyddu tawelwch marwolion. Un o'r cyfryw ydoedd "Bwci Melyn Bach y Cwm." Y lle yr arferid ei weled a'i glywed, a'r lle hefyd y derbyniodd ei enw oddi wrtho, ydoedd amaethdy o'r enw Cwm Coednerth, yn Nyffryn Tredrëyr, ym mharth isaf Ceredigion. Gelwid ef yn "fwci melyn bach," o blegid mai ar wedd plentyn bychan wedi ymwisgo mewn dillad melynion yr ymddangosai bob amser; a llef alaethus plentyn diamgeledd ydoedd ei lef. Nid oes disgwyl i fwci plentyn gyflawnu rhyw lawer o orchestion; ac yn unol â hyn, nid rhyw lawer rymusderau a wnaeth y bwci plentynaidd hwn; ond eto yr oedd yn fwci o gryn bwys yn ei ddydd, ac yn fynych yn destun siarad yr holl gymmydogaeth.

Un tro yr oedd rhyw un yn dyfod at y ty, heb wybod dim fod Cwm Coednerth yn arfer cadw a chynnal bwci, a gwelodd blentyn, mewn gwisg felen oll, yn gorwedd yn ymyl ei lwybr, ac yn wylo yn irad. Amcanodd y dyn ei godi yn ei freichiau; ond noethodd y bwci ei ddannedd yn ysgyrnyglyd arno, a chiliodd y dyn yn ei wrthol mewn dychryn; ac nid rhyfedd, canys yn y fath amgylchiad,

"Pa enaid ni naid yn ol O sydyn fraw arswydol?"

Ar ryw dro arall gwelodd dyn dieithr ef yn rhywle o gwmpas y tŷ, a phlygodd i'w godi a'i amgeleddu; ond aeth y plentyn melyn wylofus yn llynwyn o waed rhwng ei ddwylaw!

Rhyw fân gastiau plentynaidd o'r natur yma, a'u cyffelyb, a chwareuid gan "Fwci Melyn Bach y Cwm."

Yn ol braint a defod bwcïod yn gyffredin, nid oes dim sicrwydd beth a oedd achos y bwci bychanig hwn; ond barnai y dysgedigion, a sisialai y werin, fod plentyn diniwed wedi cael ei lofruddio ryw bryd gan rai o hen breswylwyr y Cwm.

Nodiadau

[golygu]