Ystên Sioned/Can Serch
| ← Hir yw Aros Arawn | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Pennill Mewn Breuddwyd → |
CAN SERCH.
Mwyn-ddyn deg, clyw fab a'th gais
Yn d'alw i glais y glasdon,
Lle mae pebyll dan do dail
Ym mhlith y gwiail meinion;
Llannerch deg rhwng tefyll coed,
Lle caed erioed gerddorion,
Ceiliog mwyalch euraidd big
Ym mylchau brig irleision.
Prydydd wyf yn moli'th ffriw,
A'th liw fal ewyn gwendon;
Cur a'm dothyw, gwae fi, ferch,
O arwain serch i'm dwyfron.
Gweais iti, dan frig brwys,
Dy gerdd yn fwys bennillion;
Bach y tâl a roddaist, fun,
Er maint fu'm anhun digllon;
Fi ni'm ceri, ni chaf air
O'th ben a bair gysuron;
Mae'm holl anadl arna'i'n bwys,
I gyd yn ddwys och'neidion.
Gorfod goddef hyn i'm llwyn,
Ac er dy fwyn ddolurion;
Meudwy erod dan gudd byllt, —
Pa fodd na hyllt fy nghalon!
Llawen oedd im' weled Mai,
A chylchoedd tai mor leision;
Credu'th gawn i ddal oed dydd
Dan fentyll gwydd y goedfron;
Gobaith oedd cael yno'n glau
Newid cusanau mwynion,
Dadwrdd cariad heb un iaith,
Ond cyfnyw gwaith golygon;
Adrodd iti'm serch a'm cwyn,
A chael dy swyn yn dirion:
Gwae fi'r gobaith, mawr fy ngwall,
O rhoddi ball yr awron.
Adar mân a'th gerydd di;
Maent oll i mi'n llateion,
Yn dwyn atad fy nghân serch
I'th annerch di, nith hinon;
Ac os ti ni wrendi'm cwyn,
Gan ddodi mwyn atebion,
Rhaid darparu bedd ar ffysg,
A'm rhoddi'm mysg y meirwon.
Oll a'th gerydd ar eu cân
O'r adar man o gylchon,
Am ladd mab, y wlad a'i gŵyr,
A'th garai'n llwyr o'i galon.
Cylch 1660.