Ystên Sioned/Can y Ffermwr
| ← Traddodiad am y Bardd Cwsg | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Tylwythog Wr Tregaian → |
CAN Y FFERMWR.
O'R holl alwadau sy'n y byd,
A'u rhifo i gyd yn gysson,
Pen arnynt oll yw'r ffermwr call
Sy'n attal gwall ar ddynion;
Heb hwn fe fyddai'r byd bob awr
Dan lwythi mawr anghenion;
Iawn iddaw barch a chlod ar gân
Am ffrwythau'i lân orchwylion.
Llafurio'n ddiwall tir ein gwlad
Yw pen pob mad amcanion;
Cawn amledd gwenith, ceirch, a haidd,
Cawn bawr i'r praidd eu digon;
Rhydd âr ei chnwd o'r erfin gwych,
Dwg lwyth o'r bresych breision;
Ymborth o'n holl gorlannau cawn,
A'n dyddiau'n llawn cysuron.
Rhoer diog mewn anialwch gwyllt,
Ac yno hyllt ei galon;
Bydd farw o newyn cyn bo hir,
Er meddu tir o gylchon:
Ond ffermwr gwych, sy'n caru gwaith,
Gwna'r gwylltoedd maith yn ddofion;
A'i offer llym, a'i eidion gwâr,
Fe dyn o'r âr ei ddigon.
Tra bo'r uchelwyr yn eu rhwysg
Yn dirwyn twysg ynfydion,
Ymarfer o bob drwg yn syth
Heb weled byth eu digon;
Mae'r ffermwr doeth sy'n trin ei dir,
Yn meddu gwir fendithion;
O'i gylch mae llwyddiant ym mhob rhith,
A'i barch ym mhlith y doethion.
Fe god o'i wely ar glais dydd
I rodio'r meusydd tirion,
I drefnu'r gwair, i drin yr yd,
Gan alw yng nghyd ei weision;
Gwr llawn ei dŷ, nid oes un gell
Yn meddu gwell danteithion;
Heb arno ddiffyg mewn un modd,
Pob peth wrth fodd ei galon.
Mae'n canfod llwyddiant ar bob llaw,
Ni theimla fraw'n ei ddwyfron;
Mae tâl diwydrwydd yn ddifeth,
Mae ym mhob peth yn gyfion:
Caiff flith o'r ddôl, o gesail bryn
Caiff wenith gwyn ei ddigon;
Ffy'r newyn gwelw hyd eithaf coll
O blith ei holl blwyfogion.
Teg olud o gyfiawnder yw
A ddaw o'i syw orchwylion;
Gan fyw'n ddi-gribddail a di-dwyll,
Fe ddilyn bwyll yn gysson:
Doeth a diniwed yw ei swydd,
Mae'n gyfaill rhwydd ei galon;
Y dyn a fo fal hyn yn byw,
Fe gaiff gan Dduw ei ddigon.
Ar bob diwydrwydd rhown ein bryd,
A'n campau i gyd yn rhadlon,
Cawn gan Ior nef ei rad i'n plith,
Rif defni gwlith y meillion;
Gwelir digonedd ym mhob cell-
A pheth sydd well gan ddoethion,
Cydwybod lân, pob awr yn hedd,
Dim gwell ni fedd nefolion.
1801