Ystên Sioned/Cwpan Nant Eos
| ← Y Llaw Oer | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Bwci Melyn Bach y Cwm → |
CWPAN NANT EOS.
YCHYDIG iawn sydd yn ein gwlad, yn enwedig yn y rhan uchaf o Sir Aberteifi, heb weled Cwpan Nant Eos, neu glywed am dano. Cwpan pren lled fychan ydyw, yr hwn a ddeil yn agos i beint; a'i rinweddau meddyginaethol sydd anghredadwy, herwydd wedi i bob peth arall fethu, defnyddio hwn a rydd wellâd anffaeledig. Dealler ei fod wedi cael ei lunio allan o'r pren croes ar yr hwn y croeshoeliwyd ein Hiachawdwr, ac felly mae wedi bod drwy yr oesau o fendith amhrisiadwy i rai oedd yn dioddef oddi wrth y gwaedlif.
Pwy a'i gwnaeth, a pha fodd y daeth i feddiant teulu Nant Eos, sy guddiedig oddi wrthym ni; digon i ni ac i'n holafiaid yw bod ei rinwedd yn parhau er gwellad, fel ag y bu i'n teidiau a'u teidiau hwythau
yn ol am ddeunaw cant o flynyddoedd. Drwy hynawsedd y teulu rhoddir ei fenthyg i bawb yn rhad ac am ddim; ond er mwyn sicrhau ei ddychweliad, rhaid i'r benthyciwr adael rhywbeth yn wystl am dano. Yr arferiad, y rhan amlaf, yw gadael oriawr yno wrth ei gael. Mae golwg henafol dros ben arno. Bu iddo gracio ryw bryd, a darfu i'r perchenog ei anfon i Lundain, a rhoddwyd cylch aur am dano; ond camgymmeriad dybryd oedd hynny; darfu ei rinwedd feddyginaethol yn y fan, ac yr oedd yn rhywyr tynnu y cylch aur ymaith; ac felly y gwnaed, ac y mae ol y cylch ar ei ymyl hyd y dydd heddyw. Y mae darn bychan o'i ochr wedi cwympo ymaith a'i golli; ond nid yw hynny wedi dinystrio dim ar ei allu iachaol, pan y byddo rhyw un yn cael ei flino gan yr anhwyldeb a enwyd. Cyrchir y cwpan o Nant Eos, a cheir cyfarwyddiadau wrth ei gael pa fodd i'w ddefnyddio, yr hyn sydd yn ddigon syml,—sef, bod i'r dioddefydd gymmeryd ei holl ymborth, beth bynnag a fyddo, gwlyb neu sych, am ychydig ddyddiau o'r cwpan dywededig, ac yna nid oes dim perygl am dano; aiff yn holliach. Y mae dim ond yfed y dwfr o hono yn unig wedi profi yr un mor effeithiol.
Mae yn awr ar fin hanner can mlynedd er pan y bu ysgrifenydd y llinellau hyn gydag ewythr iddo yn ei hol o Nant Eos at welläu gwraig yn Sir Fynwy ag oedd yn dioddef oddi wrth yr anhwyldeb a grybwyllasom. Yr oedd yn anhawdd ganddynt ei roddi i fyned mor bell; ond drwy daerineb fy ewythr yn dadleu fod y clefyd bron a therfynu yn angeuol, a hynawsedd hen geidwades y ty, Mrs. Southeron, ac iddo yntau adael ei oriawr, gwerth saith punt, yn wystl, llwyddwyd i'w gael; ac aethom adref yn ysgafndroed dros ben; a byddai fy ewythr yn teimlo ei logell yn aml, rhag ofn ei fod wedi ei golli. Gwelsom y cwpan ar ei ddychweliad yn ol o Sir Fynwy, gyda thystiolaeth ei fod wedi cwbl iachau y wraig o'r clefyd peryglus y dioddefai oddi wrtho. Nid ydym yn gwybod a ydyw y genedl anffyddiol sydd yn byw yn awr yn gwneyd defnydd o'r cwpan; ofnwn eu bod yn rhoddi gormod o grediniaeth i'r lluaws meddygon sydd yn ein plith, y rhai, er mwyn gwthio eu sothach eu hunain, sydd yn ysgwyd pen, ac yn condemnio hen feddyginaethau sydd wedi bod o gymmaint bendith i genedlaethau a fuant, ac yn esgeuluso gwneyd defnydd o'r hen gwpan syml o Nant Eos.