Ystên Sioned/Dydd Sul y Gwrychon
| ← Hen Bedolau | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Cwrt y Felin Wynt → |
DYDD SUL Y GWRYCHON.
CYFRIFIR Suliau y Deugain Nydd Garawys weithiau yn y wedd a ganlyn:
1. Dydd Sul Ynyd;
2. Dydd Sul hefyd;
3. Dydd Sul a ddaw;
4. Dydd Sul ger llaw;
5. Dydd Sul y Meibion;
6. Dydd Sul y Gwrychon;
7. Dydd Sul y Blodau;
8. Pasc a'i ddyddiau."
Mewn rhai parthau, "Dydd Sul a ddaw," "Dydd Sul rhag llaw," y gelwir y trydydd a'r pedwerydd; ac enwir yr wythfed yn "Basc y Wyau" mewn ambell ardal; sef yn y mannau lle yr arferir hel "wyau Pasc." Llygrir y chweched weithiau i "Sul y Gwreichion," ac eglurir ef fel yn dynodi Sul y Goruchafion, gyda rhyw gyfeiriad tybiol, dichon, at yr hanes ym Matthew xxi. 9; ond nid oes dim a fynno yr enw â gwreichion tân, nac â goruchafion nac iseifion chwaith. Hyn ydyw y gwir ystyr, os cywir nodyn i'r perwyl canlynol, yr hwn a ddarllenais (nid mewn "llyfr preint Cymraeg," fel y dywedwyd am hanes yr Hen Wr o'r Coed,) ond mewn dogfen a ysgrifenwyd pan nad oedd "Sul y Gwrychon" eto wedi disgyn i blith y pethau a aethant heibio:"Gwrychon yw pys a fwyder mewn dwr, llaeth, gwin, osai, a'r cyffelyb, dros noswaith, yna gadael iddynt sefyll oni bont led sych; wedi hynny eu dodi mewn crochan ar dân araf, a'u trafod yn ddibaid, oni bônt yn gwrychynu, sef y plisgyn yn torri ac yn agor; yna eu cwnnu a'u bwyta. Os yfer cwrw, osai, medd, neu win, gyda nhwy, yn ol eu mwydo eu dodi mewn gogr i ddyferu yn lled sych o'r tu faes." Hyn yna, meddir i mi, yw ystyr "Sul y Gwrychon."
Ymddengys yr arferai y bobl dda yn yr amser gynt ymborthi ar "wrychon" ar y Sul nesaf o flaen Sul y Blodau, ac ar ryw bethau cyffelyb trwy holl gorff y tymmor ymarbedol; o blegid, mae yn ddilys na fwytäent gig yn y Garawys, ar ddydd Sul nac ar ddydd gwaith; canys un o'u dywediadau, ac yn ddiau un o'u harferion hefyd, ydoedd
"Dydd Mercher y Lludw
Codi'r cig i gadw."
Ar Sul Canol y Garawys yr oedd yn arferiad gan y bobl fucheddol gynt fyned i ymweled â'r fam-eglwys, i dalu eu defodol offrymau Pasc, ac o ba herwydd y gelwid ef yn fynych yn "Sul y Mama." Oddi wrth y ddefod o ymweled â'r fam-eglwys, tyfodd arferiad arall, a elwid "Mama" hefyd, sef gwaith plant yn myned i ymweled â'u mamau, ne'u rhieni, ar y cyfryw Sul, pryd y byddid yn bwyta teisenau a elwid "teisenau mama;" ac ef allai fod rhyw adgof o'r arfer hon ar gadw yn "Sul y Meibion."
Enw arall a roddid ar yr un Sul, sef y pedwerydd yn y Garawys, ydoedd dominica refectionis, sef Sul y Porthiant, yr hwn a gyfenwid felly mewn cyfeiriad at y llith gyntaf am y dydd, yr hon a grybwyll am waith Ioseph yn gwledda ei frodyr (Gen. xliii. yn ol yr hen lithiadur); a'r efengyl am yr unrhyw, yr hon a gofnoda wyrth porthi y pum mil—mewn lle anghyfannedd (Ioan vi. 1-15). Y cyttarawiad hwn a fu yn achos o'r enw. Dichon fod rhyw gymmaint o frith adlewyrch y naill neu'r llall o'r arferion hyn ar gof yn "Sul y Gwrychon." Nid wyf sicr eu bod yn ffynnu ym mhlith ein hynafiaid; ond nid oes un rheswm i gredu fod y Dywysogaeth yn y pethau yma yn wahanol i rannau ereill y deyrnas. Un o'r enwau Seisoneg ar ddydd Sul canol y Garawys yw Mothering Sunday, yr hwn a drowyd uchod yn "Sul y Mama;" sef yw hynny, Sul ymweled â'r fam.
"Dydd Sul y Pys" yw Sul na ddaw byth; gan nad oes Sul o'r enw yn holl gorff y flwyddyn. Golygir yr un peth, sef byth ni bydd, pan ddywedir y dygwydd rhywbeth "yng nghyfarfod deu-Sul"; neu, yn ol "yr iaith nesaf atom," at the Greek Calends. Nid oedd y Groegiaid yn rhannu eu misoedd yn galanau:—arfer y Rhufeiniaid ydoedd hynny.