Ystên Sioned/Gwraig y Bragwr
| ← Y Ffrancwr Ieuanc | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Pennillion → |
GWRAIG Y BRAGWR.
Bu cymmydogaethau Llanrhystyd a Llannon, Ceredigion, yn hynod am wneyd brag anghyfreithlawn, tua thri ugain a phedwar ugain mlynedd yn ol. Nid oedd odid i weithiwr cyffredin na byddai ganddo ryw ran yn y gorchwyl. Fe allai nad oes un rhan o Ynys Brydain yn cynnyrchu gwell haidd na'r ardaloedd hyn at wneuthur brag. Yr oedd y dreth ar y nwydd hwnnw yn uchel iawn yr amser hynny heb law bod yn ofynol cael trwydded i fragu. Byddai trigolion Cwm Mabws, ac oddi yno i fyny i Ros Haminiog, yn enwog yn y gwaith. Byddai pobl glan y môr mewn llawn prysurdeb gyda changen arall mewn anghyfreithlondeb; sef derbyn gwirodydd, y rhai a gludid mewn llongau bychain buain, y rhai a ddadlwythid yn y nos; ac yna ystorid hwynt mewn tai annedd ac ysguboriau ar hyd y gymmydogaeth, hyd nes y byddai y mân fasnachwyr yn eu cludo i'w gwerthu ar hyd y wlad. Adwaenem un o'r cyfryw, ac adnabyddid ef gan bawb drwy y gwledydd dan yr enw "Enoc y Brandi." Byddai y gwr hwn drwy ei fywyd yn ymhyfrydu mewn rhyw alwedigaeth ag a dueddai i dwyllo a cholledu y llywodraeth. Nis gwyddom paham na pha beth oedd y rheswm am hynny. Gwelsom ef laweroedd o weithiau yn cyflawni y swydd o arwerthwr cyhoeddus mewn lleoedd anghyspell heb dalu yr un ffyrling am drwydded.
Ei ddull gyda'r brandi a gwirodydd ereill fyddai eu rhoddi mewn cewyll ar gefn ei geffyl, a'u gorchuddio â phenweig heilltion, ac felly y byddai yn myned drwy y wlad dan yr esgus o werthu y rhai hynny. Ond gyda golwg ar y mân fragwyr, nid oedd amgylchiadau na lle ganddynt i wneyd mwy na phwn neu bedwar mesur ar y tro. Byddai y cyllidwyr yn awr ac eilwaith yn dyfod o hyd i rai o honynt, a byddent yn cael eu dwyn o flaen yr ustusiaid; ond o herwydd eu dirfawr dlodi, a thynerwch y boneddigion hynny, deuent drwyddi yn lled esmwyth, ac ym mlaen yr ai y fasnach fel cynt; ac fel un herw-heliwr a adwaenom, yr hwn a gafodd ei ddirwyo gan yr hedd-ynadon yn Llanilar, a ddaliodd ysgyfarnog a choed iar ar ei ffordd adref o'r llys y diwrnod hwnnw.
Ryw dro darfu i gyllidydd oedd yn byw yn Aberystwyth, yr hwn oedd yn ddyn hynod o fedrus, beiddgar, a glew tu hwnt i'r cyffredin, fel yr oedd yn ammhosibl bron ei dwyllo, fyned i'r gymmydogaeth a enwyd uchod, a chafodd ryw awgrym fod y rhai oedd yn byw mewn tŷ bychan ar Ros Haminiog, yn gwneyd brag. Yr oedd y tŷ neu y bwthyn hwn ar ei ben ei hun, ryw hanner milltir oddi wrth bob tŷ arall. Marchogodd y gwr tuag yno, ac erbyn ei fod wrth y drws, wele y wraig yn dyfod allan i'w gyfarfod, ac yn llefain a chrio yn y modd mwyaf torcalonnus. Gofynodd yntau yn gyffröus iddi beth oedd y mater. "O, syr," atebai hithau, "fy ngwr, druan, oedd yn eithaf iach bore heddyw, a dacw fe ar yr ystyllen yn awr: "O, Tomos bach," llefai, "fy ngwr anwyl, a thad fy mhlant amddifaid! beth a wna'i?" Plygodd Mr. L. ei ben i lawr, a chanfu, gyferhyn â'r drws, ar fwrdd hir, y corff wedi ei orchuddio â chynfas gwyn. Aeth cyfyngder y wraig at ei galon, a cheisiai ddywedyd rhyw beth i'w chysuro, a rhoddodd iddi hanner coron tuag at y gladdedigaeth; ac yna trodd yn ei ol yn araf, gan fyfyrio ar ansicrwydd bywyd, ac yn wir, bob peth dan yr haul. Ac ar ei ffordd, galwodd mewn amaethdy heb fod yn neppell; ac wedi myned i mewn, a chyfarch, "wel," meddai, "fe ddaeth yn drwm iawn ar y teulu tlawd sydd yn byw yn y bwthyn cyfagos." "Beth sy'n bod," gofynent hwythau; nid oeddynt wedi clywed yr un gair. Adroddodd y cyfan; gwelai y naill yn edrych ar y llall. Canfu ammheuaeth yn eu golwg, ac mewn eiliad, i ffwrdd ag ef nerth traed ei geffyl at y bwthyn, a dyna y wraig yn dyfod i'w gyfarfod i'r drws fel o'r blaen; ond yn awr yn siriol ac yn chwerthin yn iachus. "B'le mae dy wr di, y cythraul?" gofynai y swyddog yn ddigllawn. ebai hithau, "mae e wedi ei gladdu; a leicech chwi wel'd ei fedd e, syr?" Yr oedd y brag yn ddigon diogel, ac yntau wedi ei "wneyd" yn ddigynnyg.
Byddai Mr. Lilwell yn hoffi adrodd yr ystori yma yn fynych; a chyfaddefai na welsai ac na chyfarfuasai â gwell chwarenes na'r wraig hon yn un man yn holl ystod ei fywyd.