Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Hen Bedolau

Oddi ar Wicidestun
Y Plentyn a'r Neidr Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Dydd Sul y Gwrychon

HEN BEDOLAU.

YCHYDIG iawn o drigolion Cymru yn yr oes hon sydd yn gwybod dim am rinwedd ac effeithioldeb hen bedolau ceffylau i gadw draw bob swynion a rheibiaeth a rheibwyr, y rhai, oni bai hen bedolau a fuasent yn gwneyd rhyw wmbredd o ddifrod ac anfadrwydd mewn tai annedd yn gystal a thai anifeiliaid, drwy eu "llygad drwg."

Pa amser ar oes y byd y daethpwyd o hyd i'r feddyginiaeth, neu yn hytrach y ddarbodaeth, anffaeledig yma, sydd hollol anhyspys i ni; rhaid ei fod ym mhell iawn yn ol; ac fel y mae mwyaf y golled i'n gwlad, mae defnyddio yr antidote syml yma yn myned allan o arfer, fel mae lle i ofni fod y gwylliaid maleisus llygad-ddrwg, rheibionawl hynny yn cael eu ffordd eu hunain, ac yn anafu ac yn dinystrio iechyd ac eiddo pobl ddiniwaid.

Tua deugain mlynedd yn ol, pan oeddym mewn cyflawn oed, a synwyr hefyd fel y cyffredin, yr oedd gwraig gall gyfrifol, wedi cael dygiad da i fyny, ac yn barchus yn y dref, yn byw y drws nesaf i ni. Aethom ar neges ryw ddiwrnod i'r tŷ, ac wrth fyned allan, a hithau yn dyfod i agor y drws i ni, canfyddem, am y tro cyntaf erioed, hen bedol ceffyl wedi ei hoelio ar y drws o'r tu fewn yn lled uchel i fyny. "Yn enw pob peth, Mrs. D——," meddem ni, "beth y mae honna yn dda yn y fan yna?" "O'r anwyl! Mr. T—— bach," ebai hithau, "yr ydym yn gorfod ei chadw yna bob amser; ac ni fu ein ty ni erioed, er amser fy nhad a'm mam, heb y bedol yn ei lle priodol yn y fan yna; a diolch i'r anwyl, mae hi wedi cadw pob aflwydd i ffwrdd er pan wyf yn cofio; "waeth, chwi a wyddoch," ebai hi, "fod cymmaint o hen fenywaid yn myned o gwmpas a "llygad drwg" ganddynt, ac yn gwneyd hafog ar feddiannau pobl." Dyna y wers gyntaf erioed a gefais ar effeithioldeb hen bedolau i gau allan bob math o swynion.

Ym mhen llawer o flynyddoedd ar ol y wers gyntaf, wele yr ail. Yr oedd genyf yn gweithio yn yr ardd ddyn call, synwyrol i'r pen, ac wedi cael cryn dipyn o fanteision addysg. Ar ryw ddiwrnod pan aethym i'r ardd, canfyddwn ar y llidiart bump o hen bedolau wedi eu sicrhau arno, hen bedolau rhydlyd, tair o honynt yn rhai mawrion, a'r ddwy arall yn rhai bychain, wedi bod dan draed un o ferlynod y mynyddoedd. "Beth yw y rhai hyn?" ebai fi. "Beth! a ydych chwi ddim yn gwybod?" meddai yntau. Cymmerais arnaf nad oeddwn yn deall beth oedd eu diben. "Wel," meddai yntau, "dyna yr unig beth a geidw bob "llygad drwg" o'r ardd; nid oes dim rhaid i chwi ofni yr un hen witch tra byddo y pedolau o wahanol faintioli wedi ei rhoi ar y llidiart." Ac yno cawsant fod am flynyddoedd, gan eu bod yn ei foddloni ef, a heb fy niweidio innau; ac ni fu unrhyw anhap mewn cyssylltiad â'r ardd yn ystod llawer o flynyddoedd, am a wn i; ond cefais hyn allan, nad oedd digon o rinwedd ynddynt i gadw yr adar duon na phlantos drygionus rhag lladrata y ffrwythau.

Hefyd, nid oes neb yn gwybod pa faint o gymhorth ydyw yr hen bedolau i'r morwyr. Gwyddom am Gymry yn llongwyr yn eu sicrhau mewn amryw fannau ar eu llongau, o herwydd mae y gwr drwg, drwy offerynoliaeth ei blant, yn ddigon hyf i reibio a drygu llwyddiant y morwyr, yn gystal a phobl y tir.

Y mae yn beth hynod fod ein brodyr, y Llydawiaid, yn credu yn fwy dilys, hyd yn oed na'r Cymry, yn effeithioldeb y bedol. Yng nghylch pum mlynedd ar hugain yn ol, dygwyddodd i ni fod ar fwrdd llong o Lydaw yn un o borthladdoedd Cymru, ac yr oedd pedolau yn dryfrith ar hyd y llong; gallasem gyfrif rhai dwseni, wedi eu dosparthu a'u hoelio ar wahanol bethau ar y bwrdd. Gwnaethom ymholiad â'r cadben, yr hwn yn ddifrifol a'n hyspysai fod eu gwerth yn annhraethol iddynt ar y môr ac yn y porthladdoedd, rhag ystryw maleisus y gêr felldigedig ag sydd yn myned o gwmpas i reibio pobl a'u meddiannau. Maent hwy yn credu yn helaethach na'r Cymry, sef bod yr hen bedolau yn cadw draw y diafol ei hunan tad pob llygad drwg; ac felly maent yn cael llai o drafferth gyda 'i blant. Credant hwy, pan genfydd ef bedol, ei fod yn dianc nerth ei garnau, mewn cymmaint dychryn, fel na ddychwel yn ol am faith flynyddoedd.

Nodiadau

[golygu]