Ystên Sioned/Hir yw Aros Arawn
| ← Tro ar Fyd | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Can Serch → |
HIR YW AROS ARAWN.
Yn rhywle yng ngodre'r wlad,[1] yn yr amser gynt, yr oedd amaethdy cyfrifol, a phobl gyfrifol ddigon yn byw ynddo; ond yr oedd un o ystafelloedd y tŷ, yr hon a arferasai fod yn ystafell wely, yn ddiwerth, ac yn waeth na diwerth, i'r preswylwyr, o herwydd bod aflonyddwch ynddi, a rhyw swn rhyfedd ar brydiau yn dyfod o honi. Os cynnygiai neb fyned iddi i gysgu, ni fuasai waeth iddo geisio gwneuthur hynny ar ben llwyn drain, gan na chai ddim tawelwch na
gorphwysdra; ac o blegid hynny, bu gorfod gadael yr ystafell heb wneuthur un defnydd o honi. Clywid ynddi bob math o dwrw a dwndwr annymunol; a gallesid meddwl lawer tro na buasai cymmaint a dodrefnyn o'i mewn heb gael ei wneuthur yn gandryll. Yn nhrymder y nos clywid yn fynych yn y gell honno, ac weithiau o amgylch y tê, ryw lais irad yn dolefain yn hirllaes :-"Hir yw'r dydd, a hir yw'r nos, a hir yw aros Arawn." Yr un oedd y geiriau bob amser, a'r un oedd tôn y llais anhyfryd a'u llefarai. Yn y wedd hon elai pethau ym mlaen am lawer o amser, nes yr oedd y teulu, i ryw raddau, wedi cynnefino â'r afionyddwch a'r oernad; ond prin yr oedd neb o honynt byth yn beiddio agoryd drws yr ystafell honno.
Un noswaith dduoer yn y gauaf, a phobl y tŷ yn eistedd o amgylch tân y gegin cyn swper, dyna rywun yn galw yn y drws. Ateb y drws, ac erchi i'r neb oedd yno ddyfod i mewn at y tân ac ymdwymo. Gyda'i fod wedi eistedd a chyfarch y teulu, gofynodd y gwr dieithr am damaid i'w fwyta, ac am letty o dan y gronglwyd dros nos. Dywedwyd wrtho fod iddo groesaw calon i fwyd, a diod, a chynhesrwydd, ond am y gwely, yr oedd yn ddrwg iawn ganddynt nas gallent gynnyg un iddo; gan fod yr holl welyau yn ddigon bach i wahanol aelodau'r teulu; ac am yr unig ystafell segur oedd yn y tê, nis gallent feddwl am gynnyg honno iddo ef, am fod ynddi ryw gythrwfl a dwmbwr parhäus, ac na chai neb lonyddwch na thawelwch i gysgu ynddi gan rywbeth nas gwyddent hwy yn iawn pa beth. "Nid gwaeth am hynny," ebai'r teithiwr blin; "nid oes yno ddim a wna niwed i mi; mi a'i cymmeraf yn ddiolchgar, ac na fyddwch anesmwyth o'm plegid." Edrychai y gwr dieithr yn flin iawn; ni siaradai braidd ddim ond a ofynid iddo; ac ni welid cymmaint a gwên ar ei wynebpryd. Cytunwyd ar unwaith a'i gais, er bod yn ddrwg ganddynt feddwl y buasai raid iddo fwrw'r nos yn yr ystafell anniddan honno; a thra yr ydoedd yn cymmeryd lluniaeth, gofynodd gwr a gwraig y tŷ iddo beth oedd ei enw, ac os ydoedd wedi dyfod o bell. "Fy enw," ebai yntau, "yw Arawn; yr wyf wedi dyfod o bell ffordd, ac wedi cerdded yn galed." Pan glywyd ei enw, edrychodd y teulu yn syn ddifrifol ar eu gilydd, a buwyd am beth amser heb yngan un gair. Wedi bwyta hyd ddigon, ac ymdwymo hyd gynhesrwydd, gofynodd y dyn dieithr am gael myned i orphwys, gan ei fod yn ddiffygiol gan y daith a'r tywydd. Dangoswyd iddo yr ystafell fwciaidd; dymunwyd iddo noswaith dda, a chwsg tawel; er mai prin yr oedd neb o honynt yn disgwyl y cai gysgu amrentyn.
I'w wely yn yr ystafell brudd yr aeth; ac yn yr amser arferol aeth y tylwyth oll i'w gorphwysfaoedd hwythau. Y noson honno ni chlywyd dim trybestod yn yr ystafell gythryblus, nac mewn un man arall. Pan ddaeth y bore, cododd y teulu fel arferol; edrychwyd yn gyntaf dim am y gwr dieithr; ond nid oedd efe yno; ni welwyd mo hono mwy, ac ni chlywyd dim am dano; eithr deallwyd yn rhyw fodd ei fod wedi gadael y lle, a chychwyn i'w daith gyda rhaciad y wawr; ac o'r pryd hwnnw allan darfu yr aflonyddwch a'r dwndwr a'r terfysg; ac ni chlybuwyd byth, nac yn y tỳ nac o'i amgylch, neb yn oeraidd gwynfan am feithder dydd, na meithder nos, na meithder aros Arawn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Wrth "odre'r wlad" y golygir, yng nghanolbarth Ceredigion, ranau isaf y Sir honno, yng nghyd â'r parthau cyfagos o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn enwedig yr olaf. Nid hawdd nodi y terfynau, gan nad arferir yr enw gyd ag un math o fanyldeb; ond ymddengys nad yw yn cynnwys "gwaelod Sir Benfro," y parth, yn ol llên y werin, y mae y dynion hynny sydd â'u meddyliau ar grwydr mor hoff o hono, ac mor gymhwys i'w breswylio.