Ystên Sioned/Lliwiau'r Gwallt
Gwedd
| ← Profiad Ceispwl (2) | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Oriau'r Flwyddyn → |
LLIWIAU'R GWALLT.
Y MAE O bwys i ddyn, ac i ddynion ereill hefyd, pa beth yw lliw ei wallt; canys,
Gwallt du, gofidus;
Gwallt gwineu, dawnus;
Gwallt melyn, lleuog;
Gwallt coch, cynddeiriog.
Ymddengys gan hynny mai'r gwallt mwyaf dymunol ei liw ydyw y gwinen. Yn amser y Mabinogion, gwallt melyn a gyfrifid yr harddwch mwyaf ar rianedd; a mynych y dywedir am danynt fod eu gwallt "cyn felyned a blodau'r banadl;" a soniwn ninnau, ddiweddariaid dirywiedig, weithiau am wallt plentyn tlws, ei fod "cyn felyned a'r olden."